Publication

Welsh: Credyd Cynhwysol a chyflogwyr: cwestiynau cyffredin

Updated 12 August 2016

1. Cyflwyniad

Lluniwyd y wybodaeth hon o gwestiynau a ofynnwyd gan gyflogwyr cenedlaethol a busnesau bach a chanolig mewn digwyddiadau Credyd Cynhwysol ledled y wlad.

2. Beth yw manteision Credyd Cynhwysol ar gyfer cyflogwyr?

Gall hawlwyr fod yn fwy hyblyg ynghylch gweithio mwy o oriau neu oriau ychwanegol ad hoc oherwydd nad oes gan Gredyd Cynhwysol unrhyw gyfyngiadau oriau. Mae wedi’i gynllunio fel ei fod yn ymateb yn awtomatig i amrywiadau mewn enillion, ac yn caniatáu i hawlwyr gadw mwy o’u Credyd Cynhwysol, gan wneud i waith dalu.

3. Sut mae hawlwyr yn cael eu hysbysu y gallant nawr weithio mwy na 16 awr heb golli eu budd-dal?

Mae ystod o wybodaeth ar gael i hawlwyr i’w helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau a ddaw gyda Chredyd Cynhwysol, yn cynnwys cyngor ar GOV.UK a gan staff y Ganolfan Waith. Mae anogwyr gwaith hefyd yn egluro’r newidiadau yn eu cyfweliad pan fyddant yn gwneud cais ac mewn cyfarfodydd dilynol rheolaidd.

4. Sut mae anogwyr gwaith yn helpu hawlwyr i gynyddu eu henillion a’u helpu i fod yn fwy annibynnol yn ariannol?

Bydd anogwyr gwaith yn egluro’r rheolau newydd a thawelu meddwl hawlwyr y byddant yn well eu byd yn gweithio mwy. Byddant yn anog hawlyr i drafod gyda’u cyflogwyr sut y gallant gynyddu eu siawns o ennill mwy, er enghraifft gwella eu sgiliau, a allai eu helpu i gymryd mwy o gyfrifoldebau. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr a sefydliadau cyflogwyr i ddeall y dulliau mwyaf effeithiol i gefnogi pobl i aros a chynnydd yn y gwaith.

5. Sut mae’r wybodaeth mae cyflogwyr yn ei ddarparu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn gysylltiedig â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)?

Pan fydd hawlydd yn cael ei dderbyn yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol, mae ‘r Adran Gwaith a Phensiynau yn cadarnhau pwy ydynt ac mae’r system Credyd Cynhwysol yn anfon neges electronig i Gyllid a Thollau EM. Mae systemau Cyllid a Thollau EM yn nodi cofnod yr unigolyn eu bod yn hawlydd Credyd Cynhwysol ac yn trosglwyddo data TWE a gyflenwir gan unrhyw gyflogwr mewn perthynas â’r unigolyn hwnnw i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn awtomatig.

6. Pa mor gyflym mae’r wybodaeth mae cyflogwyr yn ei darparu i Gyllid a Thollau EM yn cael ei drosglwyddo i’r Adran Gwaith a Phensiynau?

Dylai cyflogwyr ddarparu eu gwybodaeth TWE i Gyllid a Thollau EM ar neu cyn y diwrnod mae gweithwyr yn cael eu talu. Mae gwybodaeth TWE mewn perthynas â hawlwyr Credyd Cynhwysol yn cael ei anfon gan Gyllid a Thollau EM mewn amser real. Efallai eich bod wedi gweld hwn yn cael ei gyfeirio ato fel Gwybodaeth Amser Real neu RTI.

Mae Cyllid a Thollau EM yn anfon data perthnasol sy’n ymwneud â hawlwyr Credyd Cynhwysol i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ddyddiol (bedair gwaith y dydd). Felly, bydd y data mae cyflogwyr yn ei anfon at Gyllid a Thollau EM gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar yr un diwrnod neu ar yr hwyraf y diwrnod canlynol.

7. Beth sy’n digwydd os yw data Gwybodaeth Amser Real (RTI) yn cael ei anfon yn hwyr?

Os yw data RTI yn cael ei anfon yn hwyr gallai olygu bod eich gweithwyr yn derbyn gormod neu ddim digon o Gredyd Cynhwysol ac hefyd gallai olygu mwy o gyswllt â chi. Gallech hefyd fod mewn perygl o dderbyn cosb os ydych yn methu anfon eich manylion TWE ar amser. Am fwy o wybodaeth gweler y canllaw Running Payroll ar GOV.UK.

8. Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun sydd ar Gredyd Cynhwysol yn dechrau gweithio?

Mae angen i’r hawlydd hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau eu bod wedi dechrau gweithio. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cofnodi hyn ac mae’r Talu Wrth Ennill (TWE) yn y system amser real yn anfon y wybodaeth TWE sy’n berthnasol i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn awtomatig cyn gynted ag y caiff ei dderbyn gan gyflogwr yr hawlydd.

Os bydd rhywun yn gwneud mwy nag un swydd, fel arfer nid oes angen iddynt roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau gan y bydd y wybodaeth yn dod drwyddo’n awtomatig. Fodd bynnag, mae angen i unigolion hunanhysbysu eu henillion os oes unrhyw swyddi yn hunangyflogedig.

9. Sut y bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu i hawlwyr?

Yn y mwyafrif o achosion bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys un taliad misol a delir mewn ôl-daliadau yn uniongyrchol i gyfrif yr hawlydd. Bydd cyplau sy’n byw yn yr un cartref yn derbyn un taliad misol rhyngddynt. Bydd taliadau yn cynnwys costau tai cymwys ac mae cartrefi yn gyfrifol am reoli eu taliadau rhent eu hunain.

10. Pa mor hir fydd yn rhaid i rywun aros am eu budd-dal os bydd eu henillion yn newid?

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol mewn ôl-ddyledion ac wedi ei gynllunio i addasu pob cyfnod asesu yn awtomatig er mwyn adlewyrchu’r swm mae rhywun yn ei ennill yn y cyfnod hwnnw. Felly os bydd enillion rhywun yn lleihau yn y cyfnod asesu blaenorol, yna bydd eu taliad Credyd Cynhwysol yn uwch. Os yw eu henillion yn cynyddu yn y cyfnod hwn, bydd y taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau i adlewyrchu’r enillion uwch.

11. Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithredu pan fydd rhywun yn gweithio oriau afreolaidd?

Mae Credyd Cynhwysol yn daladwy i mewn ac allan o waith ac wedi ei gynllunio i ddelio â newidiadau mewn enillion, gan gynnwys enillion afreolaidd. Mae hyn yn golygu na fydd y budd-dal yn dod i ben pan fydd enillion yn cynyddu, oni bai bod enillion yn ddigon uchel i adael Credyd Cynhwysol yn gyfan gwbl. Mae gwybodaeth RTI gan eu cyflogwr yn golygu y bydd eu taliadau Credyd Cynhwysol yn addasu yn awtomatig.

12. Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio ochr yn ochr â chofrestru awtomatig?

Nid yw ymrestru awtomatig i Bensiwn Gweithle yn gysylltiedig a Chredyd Cynhwysol.

13. Pa god treth ddylwn ni roi hawlwyr Credyd Cynhwysol arno?

Nid yw hawlwyr Credyd Cynhwysol yn wahanol i unrhyw weithiwr arall. Dylai cyflogwyr ddefnyddio yn union yr un gweithdrefnau cod treth ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol fel ag y maent yn ei wneud ar gyfer unrhyw weithiwr arall.

14. Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio gyda buddion mewn nwyddau?

Yn y lle cyntaf ni fydd Credyd Cynhwysol yn cymryd ‘buddion mewn nwyddau’ (buddion gweithwyr nad ydynt yn cymryd ffurf arian) i ystyriaeth.

Rydym yn ystyried yr ateb gorau i adlewyrchu buddion mewn nwyddau yn y dyfodol i sicrhau bod y lefel o enillion a ystyrir yn adlewyrchu’n deg yr incwm ar dewisiadau sydd ar gael i’r cartref.

15. Sut mae taliadau bonws yn effeithio ar daliadau Credyd Cynhwysol?

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd taliadau bonws yn cael eu hasesu ynghyd â’r cyflog ac, yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn, a gallai leihau eu budd-dal am y cyfnod asesu hwnnw. Fel arfer, bydd yr hawlwyr yn parhau ar Gredyd Cynhwysol yn awtomatig ar gyfer eu taliad nesaf. Fodd bynnag, os yw’r bonws yn lleihau’r dyfarniad Credyd Cynhwysol i ddim gall yr Adran Gwaith a Phensiynau helpu hawlwyr ddychwelyd i hawlio Credyd Cynhwysol yn gyflym.

16. Beth sy’n digwydd os yw gweithwyr yn dweud eu bod wedi derbyn taliad Credyd Cynhwysol anghywir?

Os yw’r wybodaeth TWE cywir wedi’i hanfon at Gyllid a Thollau EM gan y cyflogwr ar neu cyn i’r person gael ei dalu, dylai cyflogwyr ddweud wrth hawlwyr i gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol.

Mae arweiniad pellach ar hyn ar gael ar Gwestiynau Cyffredin technegol Cyllid a Thollau EM TWE mewn amser real (RTI).

17. A oes angen i asiantaethau recriwtio hefyd hysbysu am staff ar RTI?

Os mai’r asiantaeth yw’r cyflogwr yna bydd angen i’r asiantaeth hysbysu enillion trwy TWE, yn union fel maent yn ei wneud nawr.

18. Sut y bydd cyflogwyr yn gwybod pwy sydd ar fudd-daliadau? A oes angen i gyflogwyr wybod?

Nid oes angen i gyflogwyr wybod pwy sydd ar fudd-daliadau, ond gall hawlwyr ddweud wrth eu cyflogwr os ydynt yn dymuno. Dylai cyflogwyr ddefnyddio union yr un prosesau ar gyfer gweithwyr Credyd Cynhwysol ag y maent yn ei wneud ar gyfer eu holl staff.

19. Os bydd rhywun yn cymryd nifer o swyddi, sut mae’r enillion yn gweithio?

Mae’r wybodaeth TWE a dderbynir gan bob cyflogwr yn cael eu defnyddio i gyfrifo cyfanswm yr enillion ym mhob cyfnod asesu. Defnyddir y cyfanswm hwn i gyfrifo taliadau Credyd Cynhwysol.

Ni ddylai fod angen i gyflogwyr ddilysu enillion i’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydynt yn hysbysu enillion drwy ddefnyddio TWE.

20. Beth yw’r rheol presennol ar gyfer cytundebau oriau sero?

Mae Credyd Cynhwysol wedi’i gynllunio i fod yn ymatebol i amrywiadau mewn enillion, gan fod taliadau yn seiliedig ar incwm mewn cyfnod asesu misol penodol. Os bydd enillion hawlydd yn gostwng, neu os nad ydynt yn derbyn incwm o gwbwl, yna bydd eu taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ail-gyfrifo yn awtomatig.

Mae hyblygrwydd y mathau hyn o gontractau yn ddeniadol i rai unigolion, ond nid yw’n ofynnol i bobl ar Credyd Cynhwysol dderbyn contractau oriau sero sy’n neilltiedig.

21. Sut mae Credyd Cynhwysol yn helpu merched sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael plentyn?

Nid yn unig y mae Credyd Cynhwysol yn caniatáu pobl i weithio unrhyw nifer o oriau a pharhau i gael budd-daliadau; bydd, am y tro cyntaf, yn caniatáu i bobl sy’n gweithio llai na 16 awr i hawlio cymorth gyda gofal plant.

Gall rhieni hawlio hyd at 85% o gostau gofal plant cofrestredig a dalwyd allan, hyd at derfyn misol o £646 ar gyfer un plentyn, neu £1108 ar gyfer dau neu fwy o blant.

Bydd hyn yn caniatáu i ddychwelwyr profiadol i’r farchnad lafur weithio o amgylch eu hymrwymiadau gofal plant.