Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2017

Cyhoeddwyd 13 June 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£220,094

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

5.6%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.6%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

115.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2017, sef 1.1 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2017.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ebrill 2017 fod disgwyliadau prisiau’n weddol gadarnhaol tra bo ymholiadau gan brynwyr newydd yn parhau’n isel.

Dangosodd ystadegau Trafodion Eiddo y DU fod cyfanswm y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol a gwblhawyd yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu ragor wedi cynyddu gan 20.3% yn Ebrill 2017 o’i gymharu ag Ebrill 2016. Roedd y lefel anarferol o isel o drafodion yn Ebrill 2016 yn gysylltiedig â’r cyfraddau treth uwch ar eiddo ychwanegol a gyflwynwyd y mis hwnnw. O gymharu Ebrill 2017 â Mawrth 2017, cwympodd trafodion eiddo gan 3.2%.

Gan edrych yn fwy manwl ar lefel ranbarthol y DU, roedd y twf mwyaf mewn prisiau tai yn Nwyrain Lloegr (8.1%) a’r twf lleiaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr (0.6%) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2017. Tyfodd prisiau tai gan 4.7% yn Llundain yn y 12 mis hyd at Ebrill 2017, sef 1.5 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2017. Dyma’r tro cyntaf mewn 11 mis i’r gyfradd twf prisiau gynyddu yn Llundain. Mae hyn yn cyd-fynd â RICS sydd wedi nodi disgwyliadau pris negyddol yn Llundain am yr 13 mis yn olynol hyd at Ebrill 2017.

Yn ôl diweddariad Mai crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr, roedd gweithgarwch yn dawel yn y farchnad dai o ran galw a chyflenwi.

Ar yr ochr gyflenwi nododd RICS fod cyfarwyddiadau gwerthu newydd wedi parhau’n negyddol am y pedwerydd mis ar ddeg yn olynol. Nododd hefyd fod lefelau stoc cyfartalog asiantau tai yn parhau’n agos at y nifer isaf erioed. Yn ogystal, nododd RICS fod “prinder dybryd o stoc yn parhau i fod yn ffactor allweddol ac yn effeithio ar brisiau am y tro”.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

in welsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £147,921 0.9% 4.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) £124,007 -0.8% 4.3%
Lloegr £236,519 1.3% 5.7%
Yr Alban £145,735 5.4% 6.8%
De Ddwyrain Lloegr £315,334 0.3% 5.9%
De Orllewin Lloegr £243,215 0.7% 6.8%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £178,844 1.6% 6.5%
Dwyrain Lloegr £280,690 0.6% 8.1%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £183,250 1.3% 6.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £123,234 1.0% 0.6%
Gogledd Orllewin Lloegr £152,765 2.1% 4.1%
Llundain £482,779 0.7% 4.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £155,357 3.9% 4.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2017 Ebrill 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £332,839 £311,664 6.8%
Tŷ pâr £206,873 £195,838 5.6%
Tŷ teras £177,379 £170,071 4.3%
Fflat neu fflat deulawr £199,075 £187,786 6.0%
Holl £220,094 £208,443 5.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Chwefror 2017

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Chwefror 2017 Chwefror 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 52,883 64,679 -18.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) 4,379 6,127 -28.5%
Yr Alban 5,662 5,507 2.8%
Cymru 2,908 3,188 -8.8%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Chwefror 2017

welsh Sales volumes for 2013 to 2017 by country

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £287,577 0.6% 12.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £215,732 1.7% 5.1%

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £185,266 1.4% 5.0%
Cyn berchen-feddiannydd £256,128 1.9% 6.4%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £208,985 1.1% 5.5%
Morgais £230,188 1.9% 5.9%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387