Ffurflen

Ffurflen UC50: Holiadur gallu i weithio ar gyfer Credyd Cynhwysol

Dylech ond llenwi'r holiadur gallu i weithio yma (UC50W) oes ydych wedi cael cais i wneud hyn gan nad yw hon yn ffurflen gais.

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Manylion

Darganfyddwch sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Defnyddio’r ffurflen hon

Dylech ond llenwi’r ffurflen hon os ydych wedi cael cais i wneud Asesiad Gallu i Weithio.

Gallwch unai argraffu’r ffurflen a’i chwblhau â beiro neu gallwch:

  1. Arbed copi o’r ffurflen.
  2. Ei hagor yn Adobe Acrobat Reader fersiwn XI neu ddiweddarach.
  3. Llenwi hi i mewn ar y sgrin.
  4. Argraffu a’i llofnodi.

Bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau yn yr amlen rhag-daliedig a ddaeth gyda’r ffurflen wreiddiol drwy’r post.

Os nad yw’r llythyr neu’r amlen a ddaeth gyda’r ffurflen gennych mwyach, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 328 1744. Cewch y cyfeiriad i ddychwelyd y ffurflen.

Ni fyddwch yn gallu cael atebion i unrhyw gwestiynau y gallai fod gennych am eich budd-dal, ar gyfer hyn bydd angen i chi naill ai:

  • mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes un gennych
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhywsol os nad oes gennych gyfrif ar-lein

Llinell gymorth Credyd Cynhywsol

Ffôn: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Fformatau eraill

Os hoffech gael yr holiadur hwn mewn braille, print bras neu sain, ffoniwch Credyd Cynhwysol. Gallwch ddod o hyd i’r rhif ar frig unrhyw lythyrau rydym wedi’u hanfon atoch, neu dywedwch wrthym gan ddefnyddio’ch dyddlyfr ar-lein os oes gennych un

Os ydych yn cael problemau technegol

Cysylltwch â llinell gymorth ar-lein DWP os ydych yn cael problem i:

  • lawrlwytho’r ffurflen
  • symud o gwmpas y ffurflen
  • argraffu’r ffurflen

Desg gymorth ar-lein DWP

E-bost E-bost dwponline.helpdesk@dwp.gov.uk

Ffôn: 0800 169 0154

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a holl wyliau banc a chyhoeddus

Preswylwyr Gogledd Iwerddon

Peidiwch a defnyddio’r ffurflen hon os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Cyhoeddwyd ar 4 January 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 October 2023 + show all updates
  1. Updated the Universal Credit capability for work questionnaire (UC50).

  2. Published the December 2020 version of the form.

  3. Added information about where to send the Universal Credit capability for work questionnaire (UC50 form) once completed.

  4. First published.