Papur polisi

Dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU

Gweledigaeth y DU i ryddhau potensial llawn cyflenwi ymchwil clinigol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, hybu adferiad economaidd ac i wella bywydau pobl ar draws y DU.

Dogfennau

Manylion

Mae dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn nodi’r weledigaeth ar gyfer amgylchedd ymchwil clinigol sy’n canolbwyntio mwy ar y claf, o blaid arloesi, ac wedi’i alluogi’n ddigidol, gan adeiladu ar y llwyddiannau a’r gwersi yr ydym wedi’u dysgu mewn ymateb i COVID-19, a harneisio potensial y DU i fanteisio ar arloesiadau blaengar ar draws yr holl driniaethau a thechnolegau, pob cam o ymchwil a phob cyflwr.

Mae ein gweledigaeth yn rhoi cyflenwi ymchwil clinigol ar flaen ac yng nghanol ein cynlluniau i adeiladu’n ôl yn well, fel y gallwn fynd i’r afael â heriau gofal iechyd y dyfodol, ac y bydd cleifion ledled y DU a ledled y byd yn elwa o ganlyniadau iechyd gwell.

Y 5 thema allweddol sy’n sail i’r weledigaeth yw:

  • ymchwil clinigol wedi’i ymgorffori yn y GIG
  • ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf
  • ymchwil symlach, effeithlon ac arloesol
  • ymchwil wedi’i alluogi gan ddata ac offer digidol
  • gweithlu ymchwil cynaliadwy a gefnogir

Ein nod yw creu ecosystem cyflenwi ymchwil clinigol a fydd yn siapio dyfodol gofal iechyd ac yn gwella bywydau pobl am flynyddoedd i ddod.

Yn dilyn cyhoeddi’r weledigaeth, bydd pob gwlad yn y DU yn nodi strategaethau a chynlluniau, fel sy’n briodol, a fydd yn manylu ar y camau y bydd pob gweinyddiaeth yn eu cymryd i gyflawni’r blaenoriaethau a rennir.

Hoffai’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiolch i’r gymuned ymchwil a’r holl randdeiliaid am eu cymorth i ddatblygu’r weledigaeth hon.

Cyhoeddwyd ar 23 March 2021