Papur polisi

Achub a gwella bywydau: dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol yn y DU

Cyhoeddwyd 23 March 2021

Rhagair gan y Gweinidogion

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi golygu heriau digynsail i ni i gyd. Ond trwy’r amseroedd tywyll hyn, rhoddodd ymchwil clinigol y DU obaith i ni.

Mae ymdrechion diflino ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, cyfranogwyr, rheoleiddwyr, elusennau meddygol a diwydiant, wedi ein helpu i arwain y byd mewn ymchwil COVID-19. O ddarparu treialon platfform arloesol yn gyflym, fel RECOVERY, a’n cyfraniad enfawr i’r ymdrech frechlyn fyd-eang, mae ein hecosystem ymchwil wedi cydweithio ar draws y Deyrnas Unedig i ddarparu llwybr yn ôl i normalrwydd.

Mae hyn yn dyst i’n cryfderau. Ers amser maith, bu’r DU ar flaen y gad ym maes ymchwil clinigol diolch i’n harbenigedd gwyddonol dwfn a’n seilwaith ymchwil pwrpasol. Ond mae’r 12 mis diwethaf wedi gweld newid sylweddol, gyda mwy fyth o ysbryd cydweithio ac arloesi yn gyrru popeth rydym wedi’i gyflawni.

Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae’n rhaid i ni ddefnyddio gwersi o COVID-19 fel man cychwyn i adeiladu’n ôl yn well, oherwydd ein bod ar bwynt ffurfdro yn achos gofal iechyd byd-eang. Yn cael ei yrru gan ddata a dadansoddeg, mae technolegau a thriniaethau blaengar, gan gynnwys meddyginiaethau manwl a deallusrwydd artiffisial, yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn trin cleifion.

A dim ond megis dechrau yw hyn. Yn y blynyddoedd i ddod, ceir technolegau arloesol darganfyddol a fydd yn paratoi’r ffordd i fynd i’r afael â’r beichiau iechyd poblogaeth mwyaf dybryd ac yn rhoi gobaith newydd i gleifion.

Rhaid inni achub ar y cyfle i roi’r DU ar flaen y gad yn y chwyldro gofal iechyd hwn, a bydd ymchwil clinigol yn asgwrn cefn ein hymdrechion. Oherwydd ymchwil yw’r ffordd bwysicaf o wella ein gofal iechyd – trwy nodi dulliau newydd o atal, diagnosio a thrin afiechyd.

Felly rydym ni, llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, yn nodi gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer dyfodol cyflwyno ymchwil clinigol, sy’n manteisio ar arloesi, yn gydnerth yn wyneb heriau gofal iechyd yn y dyfodol ac yn gwella bywydau cleifion ledled y DU ac o gwmpas y byd.

Mae hyn yn golygu ymgorffori ymchwil clinigol wrth galon gofal cleifion ar draws y GIG, gan wneud cyfranogi mor hawdd â phosibl a sicrhau bod yr holl staff iechyd a gofal yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gefnogi ymchwil. Ac mae’n golygu manteisio ar ein cryfderau mewn data iechyd a chreu seilwaith digidol newydd i wneud sefydlu a darparu astudiaethau yn gyflymach, yn fwy effeithlon ac yn fwy arloesol, fel bod y DU yn parhau i fod yn un o’r lleoedd gorau yn y byd i ddarparu ymchwil arloesol.

Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol, ac mae angen iddi fod. Wrth i ni ddechrau dychwelyd i normalrwydd, gan gryfhau cyflenwi ymchwil clinigol ar draws pob cam, mae pob math o driniaeth a phob cyflwr yn cynnig cyfle gwerthfawr i wella gofal cleifion a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd – i gyd tra’n ysgogi twf economaidd ledled y DU. Yn bwysicaf oll, gallwn symud ymlaen yn ddiogel gan wybod bod ein harbenigedd gwyddonol sy’n arwain y byd, rheoleiddwyr uchel eu parch a’r GIG unigryw yn darparu’r holl sylfeini sydd eu hangen arnom i lwyddo.

Bydd cyflawni’r weledigaeth gymhellol ac uchelgeisiol hon yn rhyddhau gwir botensial ymchwil clinigol ledled y DU, i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd hirsefydlog a gwella bywydau pob un ohonom, nawr ac yn y dyfodol.

Dyna mae pobl Deyrnas Unedig yn ei haeddu, a dyna sy’n rhaid i ni ei gyflenwi.

Yr Arglwydd Bethell o Romford
Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Arloesi
Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Robin Swann
Y Gweinidog Iechyd
Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon

Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru

Jeane Freeman
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Chwaraeon
Llywodraeth yr Alban

Gwerth ymchwil clinigol

Ein hachubiaeth yn ystod COVID-19

Bu’r 12 mis diwethaf yn her enfawr i ni i gyd. Rydym wedi colli anwyliaid, wedi cael ein gwahanu oddi wrth ein teuluoedd a’n ffrindiau, ac mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol rhyfeddol wedi gwneud ymdrech arwrol i’n cadw ni’n ddiogel.

Ond trwy gydol y pandemig COVID-19, mae ymchwil clinigol wedi rhoi gobaith ac wedi taflu goleuni ar y rôl hanfodol y mae ymchwil yn ei chwarae wrth wella gofal iechyd i ni i gyd.

Trwy gyflenwad cyflym ymchwil sy’n arwain y byd, rydym wedi nodi profion a thriniaethau newydd i helpu i fynd i’r afael â’r feirws marwol hwn, wedi cryfhau ein dealltwriaeth o’i drosglwyddiad ac wedi creu brechlynnau blaengar newydd, sef ein hachubiaeth yn ôl i normalrwydd. Ac rydym yn parhau i ddarparu ein harbenigedd genomeg sy’n arwain y byd, i olrhain treigladau’r feirws.

Bu ymdrech gydlynol ar draws llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i weithredu ar gyflymder digynsail a sicrhau bod y DU gyfan ar flaen y gad yn ymchwil COVID-19. Diolch i ymdrechion ar y cyd ein gwyddonwyr, rheoleiddwyr a phrifysgolion sy’n arwain y byd, ein staff rheng flaen ymroddedig yn y GIG[footnote 1] a’n gweithlu ymchwil, ochr yn ochr â’r cyfraniad enfawr gan gyfranogwyr ymchwil, diwydiant ac elusennau ymchwil meddygol, rydym wedi cyflawni.

O’r treial RECOVERY sy’n arwain y byd i’r cydweithrediad rhwng Prifysgol Rhydychen ac AstraZeneca i ddatblygu un o’r brechlynnau COVID-19 cyntaf, mae ymchwil clinigol y DU wedi dod â gobaith mawr ei angen i gleifion, y cyhoedd a staff y GIG.

Mae ysbryd y cydweithredu a ddangoswyd gan bawb sy’n ymwneud â’r ymdrech ymchwil anhygoel hon wedi bod yn sylfaenol i’n llwyddiant. Mae rheolyddion, y GIG a noddwyr treialon wedi gweithio law yn llaw i sefydlu a darparu treialon ar raddfa fawr yn ddiogel, yn gyflym ac yn effeithiol.

Wrth i ni ddechrau dod allan o gysgod y pandemig, mae’n rhaid i ni gario’r ysbryd o gydweithio â ni i’r dyfodol, gyda phob un o’r 4 weinyddiaeth yn rhoi ymchwil clinigol ar flaen ac yng nghanol ein cynlluniau i adeiladu’n ôl yn well.

Ein llwybr yn ôl i normalrwydd: darganfod therapïau achub bywyd COVID-19 a chyflenwi treialon brechlyn arloesol

Mae’r DU wedi arwain y byd mewn ymchwil COVID-19 – trwy dreialon platfform, fel RECOVERY, a sefydlwyd yn yr amser byrraf erioed, i nodi triniaethau effeithiol ar gyfer y feirws a thrwy ein rôl arweiniol yn yr ymdrech frechlyn COVID-19 fyd-eang.

Mae ymchwilwyr, rheoleiddwyr y GIG, elusennau a diwydiant ymchwil meddygol wedi gweithio gyda’i gilydd ar draws pob un o’r 4 weinyddiaeth – gan ddefnyddio llwyfannau digidol newydd i recriwtio cannoedd ar filoedd o gyfranogwyr.

O ganlyniad, ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i nodi dexamethasone fel triniaeth effeithiol ar gyfer COVID-19, gwnaethom recriwtio’r cyfranogwr byd-eang cyntaf i dreialon Janssen a Novovax, a ni oedd y wlad gyntaf i gymeradwyo brechlynnau COVID-19 a ddatblygwyd gan Pfizer/BioNTech a Rhydychen/Astrazeneca.

Mae ein cyfraniad at ymchwil COVID-19 wedi helpu i wella gofal iechyd ac achub bywydau ledled y DU ac ar draws y byd.

Darllenwch fwy yn yr adran astudiaethau achos isod.

Ein cyfle i dyfu, addasu a gwella

Ond er ein llwyddiannau yn ystod COVID-19 a chryfder ein hamgylchedd ymchwil clinigol, mae’r pandemig wedi dysgu rhai gwersi gwerthfawr inni ynghylch lle mae angen i ni wella.

Rydym wedi gweld ymchwil i gyflyrau eraill yn arafu, gyda phwysau ar y gweithlu ac amhariad ar ddulliau cyflenwi traddodiadol wedi arwain at gau safleoedd astudio, neu gwelsom nhw’n cael trafferth recriwtio yn ystod y pandemig.

Ac er ein bod wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o ddylunio a chyflenwi treialon arloesol, mae angen i ni fynd ymhellach fyth i gefnogi treialon mwy arloesol ar draws pob cam, pob math o driniaeth a phob cyflwr, i helpu i wneud ein hecosystem ymchwil clinigol yn fwy gwydn.

Gwella mynediad a meithrin gwytnwch: RELIEVE IBS-D

Mae Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 5 o bobl yn y DU – mae traean ohonynt yn profi IBS math dolur rhydd (IBS-D). Mae’r astudiaeth RELIEVE IBS-D wedi’i sefydlu i brofi triniaeth newydd heb gyffuriau i’r rhai sydd â’r cyflwr.

Pan darodd COVID-19, cydweithiodd timau ymchwil gyda’r noddwr ymchwil, Enteromed, i ddatblygu’r offer digidol sydd ei angen i barhau â’r astudiaeth bwysig hon o bell.

O ganlyniad, nid yn unig yr oedd yr ymchwil yn gallu parhau, ond fe wnaeth y dull rhithwir newydd agor cyfranogiad i fwy o bobl ledled y DU a hybu recriwtio yn sylweddol. Recriwtiodd un safle a oedd yn defnyddio’r dull rhithwir 67% yn gyflymach na phob un o’r 28 safle oedd yn defnyddio’r dull traddodiadol.

Darllenwch fwy yn yr adran astudiaethau achos isod.

Ni allwn anwybyddu’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar ymchwilwyr a gweithwyr gofal iechyd, gyda llawer ohonynt wedi gweithio eu gorau glas dros y 12 mis diwethaf. Wrth inni symud ymlaen, rhaid inni ganolbwyntio ar ein gweithlu, er mwyn sicrhau ei fod yn gydnerth, a’i gefnogi i barhau i ddarparu ymchwil sy’n arwain y byd.

Mae’r feirws wedi effeithio’n arbennig ar bobl sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd uchel, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl hŷn, dynion a’r rheini sydd ag anabledd dysgu.

Rhaid inni ddefnyddio’r gwersi hyn fel catalydd ar gyfer newid.

Wrth inni symud ymlaen, rhaid inni ganolbwyntio ar ein gweithlu i sicrhau ei fod yn gydnerth, a’i gefnogi i barhau i ddarparu ymchwil sy’n arwain y byd. Rhaid i ni fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chefnogi poblogaethau sydd heb wasanaeth digonol a rhaid i hyn fod yn ganolog wrth inni adfer ac ailsefydlu gwasanaethau nad ydynt yn rhai COVID-19, gan gynnwys ymchwil clinigol. Rydym am i bob cymuned achub ar y cyfle i gymryd rhan – o’r rheini mewn lleoliadau gwledig, i leiafrifoedd ethnig, sydd yn draddodiadol wedi cael eu tan-wasanaethu gan ymchwil.

Mae angen i ni weithio gyda’r grwpiau hyn i sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus i gymryd rhan. Ac mae angen i ni fynd i’r afael â’r diffyg cyfatebiaeth rhwng gweithgaredd ymchwil a nifer yr achosion o glefydau, er mwyn alinio ymchwil clinigol â’r meysydd sydd â’r angen mwyaf. Gyda’n gilydd gallwn lefelu gofal iechyd a gwella canlyniadau i bawb ledled y DU.

Ein gobaith ar gyfer y dyfodol

Dangosodd y pandemig y cysylltiad clir rhwng ymchwil a chanlyniadau gwell – i unigolion a’r GIG.

Mae ein hymateb wedi dangos cryfder ein hecosystem ymchwil clinigol a’n gallu unigryw i ddarparu ymchwil arloesol o safon uchel, ar raddfa ac ar gyflymder – er budd pawb. Rydym wedi cyflawni pethau nad oedd yr un ohonom yn credu oedd yn bosibl, tra’n parhau i gynnal safonau eithriadol o uchel mewn ymchwil clinigol a’r lefelau uchaf posibl o ddiogelwch cleifion. Bellach mae angen i ni gipio’r momentwm hwn ac edrych i’r dyfodol.

Ymchwil clinigol yw’r ffordd bwysicaf o wella ein gofal iechyd – trwy nodi’r ffyrdd gorau o atal, diagnosio a thrin cyflyrau. Felly, mae angen i ni hybu cyflenwi ymchwil arloesol ar draws pob cam, pob cyflwr ac ar draws y DU, wrth i ni weithio i ailgychwyn ein portffolio ymchwil nad yw’n COVID-19, a gwneud hynny’n gyflym ac adeiladu’n ôl yn well.

Mae ymchwil hefyd yn hanfodol i benderfynu beth sydd ddim yn gweithio, fel y gallwn wella arfer gorau a chanolbwyntio adnoddau ar ddarparu gofal iechyd sy’n sicrhau’r budd mwyaf i gleifion. Ac mae ymchwil yn ymestyn y tu hwnt i dreialon clinigol ar gyfer meddyginiaethau newydd i gwmpasu ystod o weithgareddau – o astudiaeth i ddull newydd o ddefnyddio therapi ymbelydredd, i archwilio sut y gellid atal clefyd penodol, neu hyd yn oed ymchwiliad i helpu i liniaru sgîl-effeithiau triniaeth newydd.

Mae ymchwil clinigol o’n cwmpas ymhobman, ac mae’n helpu i wella ansawdd y gofal iechyd y mae cleifion yn ei dderbyn. Yn hanfodol, mae pawb yn teimlo’r buddion hyn, nid dim ond y rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil. Er enghraifft, mae data’n dangos bod gan ymddiriedolaethau’r GIG sy’n hynod ymchwilgar ganlyniadau gwell i gleifion ar draws eu gwasanaethau.[footnote 2]

Wrth i ni geisio mynd i’r afael â heriau gofal iechyd mawr heddiw, gan gynnwys y cynnydd pryderus mewn cyflyrau tymor hir, fel gordewdra, diabetes ac iechyd meddwl, rhaid i ni ddyblu ein hymrwymiad i ymchwil clinigol.

Dyma sut y byddwn yn nodi’r triniaethau gorau, y technolegau gorau a’r technegau gorau i wella bywydau ein plant a’n hwyrion a wyresau – tra hefyd yn sicrhau ein bod yn barod i ddelio ag unrhyw argyfwng iechyd byd-eang yn y dyfodol.

Mynd i’r afael â heriau gofal iechyd byd-eang: Yr astudiaeth Cysylltiadau Genetig Pryder ac Iselder

Iselder a phryder yw’r anhwylderau iechyd meddwl mwyaf cyffredin ledled y byd a bydd 1 o bob 3 o bobl yn y DU yn profi symptomau yn ystod eu hoes.

Nod yr astudiaeth Cysylltiadau Genetig Pryder ac Iselder (GLAD) yw darganfod sut mae genynnau a’n hamgylchedd yn gweithredu gyda’i gilydd i achosi pryder ac iselder ysbryd, i nodi triniaethau effeithiol a gwella bywydau pobl sy’n profi’r cyflyrau hyn.

Arweinir GLAD gan NIHR Mental Health BioResource ac ymchwilwyr yng Ngholeg King’s Llundain, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ulster, Prifysgol Caeredin, a Phrifysgol Caerdydd. Gan ddefnyddio dulliau recriwtio digidol newydd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, mae’r astudiaeth eisoes hanner ffordd i recriwtio ei tharged cyffredinol o 40,000 o gyfranogwyr.

Darllenwch fwy yn yr adran astudiaethau achos isod.

Ein cyfle i helpu eraill

Mae ymchwil clinigol yn eang, yn amrywiol ac yn agored i ni i gyd. Weithiau mae angen cynnal ymchwil mewn cyfleusterau academaidd arbenigol, ond yn aml iawn mae’n digwydd ochr yn ochr â darparu gofal arferol yn y GIG a’r system iechyd a gofal ehangach.

Yn Lloegr, cefnogir y GIG gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) ochr yn ochr â rhwydweithiau eraill sy’n cyflwyno ymchwil. Fel un o’r cyllidwyr ymchwil clinigol cenedlaethol mwyaf yn Ewrop, mae NIHR yn darparu’r staff, cyfleusterau, hyfforddiant a thechnoleg sy’n galluogi ymchwil i ffynnu.

Yng Nghymru, cefnogir y GIG gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW), sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi ymchwil iechyd a gofal, er mwyn sicrhau ei fod o’r ansawdd gwyddonol rhyngwladol uchaf, ei fod yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal yng Nghymru, a’i fod yn gwneud gwahaniaeth i bolisi ac arfer mewn ffyrdd sy’n gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau.

Yng Ngogledd Iwerddon, cefnogir Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol trwy Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymchwil a Datblygu HSC) Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd, i gyflawni’r Strategaeth 10 mlynedd, ‘Ymchwil ar gyfer Gwell Iechyd a Gofal Cymdeithasol’. Mae’r strategaeth hon yn nodi sut y bydd iechyd, llesiant a ffyniant poblogaeth Gogledd Iwerddon yn elwa o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol byd-enwog, a arweinir o Ogledd Iwerddon.

Yn yr Alban, mae NHS Research Scotland (NRS) yn cefnogi gweithgaredd ymchwil clinigol, trwy weithio mewn partneriaeth rhwng Prif Swyddfa Gwyddonydd Llywodraeth yr Alban a Byrddau Iechyd yr Alban. Mae’r NRS yn gweithio gyda Phrifysgolion yr Alban a sefydliadau eraill i sicrhau bod yr Alban yn darparu’r amgylchedd gorau i gefnogi ymchwil clinigol.

Gyda’i gilydd, mae hyn yn creu seilwaith pwrpasol ledled y DU. Ochr yn ochr â chefnogaeth gan lywodraethau cenedlaethol a lleol, y GIG, prifysgolion, rheoleiddwyr, elusennau a’r diwydiant ymchwil meddygol, mae’r DU felly mewn sefyllfa dda i ddarparu ymchwil clinigol sy’n arwain y byd, sy’n trawsnewid bywydau, yn hyrwyddo twf economaidd ac yn hygyrch i ymchwilwyr a chyfranogwyr ledled y cyfan o’r Deyrnas Unedig.

Gall yr holl ymchwil clinigol fod yn werthfawr, boed yn dreial clinigol i brofi effeithiolrwydd triniaeth neu holiadur i ddeall profiad cleifion. Mae ymchwil sydd wedi’i ddylunio a’i ddarparu’n gadarn yn helpu i gryfhau ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio – fel bod gofal iechyd yn parhau i esblygu, a chanlyniadau cleifion yn parhau i wella.

Gwella’r canlyniadau i bawb: OPTIMAS

Bob blwyddyn, mae tua 30,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn dioddef strôc oherwydd ffibriliad atrïaidd – rhythm annormal y galon.

Er bod triniaethau gwrthgeulydd (teneuo gwaed) newydd ar gael, nid ydym yn gwybod pryd y mae’n well eu presgreibio i atal strôc bellach. Mae treial OPTIMAS (OPtimal TIMing of Anticoagulation after Stroke) yn ceisio ateb y cwestiwn pwysig hwn.

Mewn dros 70 o ysbytai ledled y DU i gyd, mae ymchwilwyr, timau clinigol a chyfranogwyr sy’n ymwneud ag OPTIMAS yn helpu i wella’r gofal meddygol ar gyfer goroeswyr strôc yn y dyfodol ledled y byd.

Darllenwch fwy yn yr adran astudiaethau achos isod.

Mae cyfleoedd i gymryd rhan o’n cwmpas ymhobman. Mae ymchwil yn digwydd ar safleoedd y GIG ledled y DU ac mae cannoedd ar filoedd o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn. Ymunodd dros 1 filiwn o gyfranogwyr ag astudiaethau ymchwil yn ystod 2018 i 2019[footnote 3] ac mae dros filiwn yn fwy o gyfranogwyr bellach wedi cymryd rhan mewn ymchwil COVID-19. I’r rhai y tu allan i ysbytai, mae llu o gyfleoedd eraill i gymryd rhan a chefnogi ymchwil, trwy feddygfeydd teulu, deintyddion, gofal cymunedol a chartref.

Mae cyflenwi ymchwil clinigol yn dibynnu ar i bawb gydweithio i chwarae eu rhan – o gyfranogwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, i ymchwilwyr, rheoleiddwyr a’r llywodraeth. Er bod gwir angen ymchwilwyr arbenigol a thimau ymchwil ymroddedig arnom, mae ymchwil yn dibynnu ar gyfranogiad cyfranogwyr, gwirfoddolwyr a staff y GIG sy’n darparu gofal cleifion o ddydd i ddydd – pa bynnag arbenigedd clinigol y maent yn gweithio ynddo, a beth bynnag yw eu swydd. Gall hyn fod mor syml â siarad am gyfle ymchwil, hyd at gymryd rhan yn y treial o feddyginiaeth newydd.

Mae gwahanol ffyrdd y gall cyfranogwyr elwa o gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil. Gall cyfranogiad ddarparu mynediad at driniaethau newydd neu gallai helpu cyfranogwyr i ddysgu mwy am eu cyflwr, tra bod monitro cyfranogwyr yn agosach gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd yn helpu i wella canlyniadau. Ac mae ymchwil yn ffordd i bobl chwarae rhan hanfodol i helpu eraill, gartref a thramor. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil clinigol yn cael eu harwain gan broses gadarn, reoledig a chyfrinachol, gyda chyfranogiad yn cael ei hysbysu ar bob cam.

Gellir dod o hyd i astudiaethau sy’n digwydd yn lleol neu ar gyfer cyflyrau penodol trwy ddefnyddio ‘Be Part of Research’ – teclyn ar-lein a all helpu pawb i ddarganfod mwy am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy’n digwydd ledled y DU.

Ar gyfer staff y GIG a staff iechyd a gofal eraill, er nad oes budd uniongyrchol i’w cleifion bob amser, mae cefnogi ymchwil yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i iechyd cleifion y dyfodol ledled y DU a’r byd ehangach. Dangosodd yr astudiaethau hefyd bod gan bob claf ganlyniadau iechyd gwell mewn ysbytai sy’n ymchwil-weithredol, hyd yn oed os nad yw cleifion unigol yn rhan o ymchwil.[footnote 4]

Ac mae’r gefnogaeth yno i helpu ein staff i gymryd rhan – gyda phrosesau clir i’w dilyn, hyfforddiant i helpu cychwyn ar y broses, a chyfleoedd dysgu a datblygu ar gael i gynyddu cyfranogiad dros amser.

Wrth i weithgaredd ymchwil gael ei ymgorffori fwyfwy yn y GIG ac ar draws pob lleoliad iechyd a gofal, bydd gan bob un ohonom fwy o gyfleoedd i wneud ein rhan. Po fwyaf yr ydym i gyd yn cymryd rhan mewn ymchwil, y mwyaf y bydd gofal iechyd yn datblygu, a’r mwyaf o fywydau y gallwn eu gwella – nawr ac yn y dyfodol.

Ein hamser i weithredu yw nawr!

Rydym yn gweld newid sylweddol mewn gofal iechyd byd-eang. Mae llu o dechnolegau a thriniaethau newydd yn cael eu gyrru gan ddata a dadansoddeg, o therapïau datblygedig i ddeallusrwydd artiffisial (AI), ac maent yn trawsnewid y ffordd rydym yn diagnosio ac yn trin cleifion. Dim ond megis dechrau yr ydym.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd ymchwydd mawr yn y technolegau a’r triniaethau hyn. Bydd diagnosteg arloesol yn helpu i gyflenwi system gofal iechyd sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, lle mae pobl yn deall risg, yn cynllunio ymlaen llaw ac yn cymryd perchnogaeth o benderfyniadau pwysig am eu hiechyd yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, bydd AI a’n dealltwriaeth o genomeg, yn helpu i nodi therapïau mwy arloesol a fydd yn paratoi’r ffordd i fynd i’r afael â’r beichiau iechyd poblogaeth mwyaf dybryd ac yn rhoi gobaith newydd i gleifion ledled y DU a ledled y byd, gan gynnwys y rhai â chlefydau prin.

Ymchwil clinigol yw’r allwedd i wireddu addewid yr oes newydd hon, trwy helpu i ddatblygu a phrofi’r triniaethau, y technolegau a’r technegau gorau a fydd yn sicrhau buddion i gleifion a’u teuluoedd.

Gyda’r sylfeini hyn yn eu lle, gallwn sicrhau bod y DU ar flaen y gad yn y chwyldro gofal iechyd hwn. Rydym ar flaen y gad ym maes meddygaeth genomig, atal a sgrinio, ac rydym yn gwneud cynnydd mawr o ran ymgorffori’r arloesiadau hyn ar draws y GIG i wella iechyd ein poblogaeth gyfan.

Mae ein hymchwil clinigol hefyd yn arwain y byd, gyda 12% o dreialon byd-eang ar gyfer therapïau celloedd a genynnau blaengar eisoes yn cael eu cynnal yn y DU, yn cynrychioli’r clwstwr therapi uwch mwyaf yn Ewrop. Mae hyn yn sicrhau buddion uniongyrchol i gleifion, a’r GIG yw’r system gofal iechyd genedlaethol gyntaf yn Ewrop i gyflwyno CAR-T, Kymriah, fel triniaeth arloesol newydd ar gyfer canser.

Mae angen i ni atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi ymchwil clinigol arloesol ar gyfer yr holl driniaethau a thechnolegau blaengar ac ar draws pob cyflwr, er mwyn sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn gyrchfan sy’n arwain y byd o ran buddsoddi a chyflenwi ymchwil.

Grym arloesi a chydweithio: yr Arbrawf Matrics Ysgyfaint Cenedlaethol

Y Treial Matrics Ysgyfaint Cenedlaethol (NLMT), yw’r astudiaeth feddygaeth fanwl fwyaf yn y byd. Mae cyfranogwyr â chanser yr ysgyfaint celloedd nad ydynt yn fach yn cael eu sgrinio’n enetig i ddeall mwy am eu math o diwmor a’u paru â’r driniaeth bosibl fwyaf addawol.

Mae NLMT yn dangos grym cydweithredu, trwy system ymchwil iechyd integredig y DU. Dan arweiniad Uned Treialon Clinigol Prifysgol Birmingham a ariennir gan Cancer Research UK (CRUK), cefnogir y treial gan Raglen Meddygaeth Haen 2 CRUK, Canolfannau Meddygaeth Canser Arbrofol CRUK/NIHR, Pfizer, AstraZeneca a Mirati Therapeutics Inc, ochr yn ochr â sefydliadau’r GIG ar draws y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.

Darllenwch fwy yn yr adran astudiaethau achos isod.

Trawsnewid seicotherapi trwy ddefnyddio technolegau newydd: gameChange

Mae seicosis yn effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn, llawer ohonynt yn ofni sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd.

Mae gameChange yn astudiaeth cyfnod cynnar sy’n gwerthuso p’un a all seicotherapi realiti rhithwir trochi (VR) newydd helpu cleifion i gymryd rhan mewn sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd a phrofi llai o symptomau seiciatryddol difrifol.

Mae’r therapi ei hun yn darparu efelychiadau soffistigedig o’r sefyllfaoedd bywyd go iawn y mae cleifion yn pryderu amdanynt. Mae cleifion ag ofnau dybryd yn llawer mwy tebygol o’u profi mewn VR ond, yn bwysig, mae’r dysgu wedyn yn trosglwyddo i’r byd go iawn.

Darllenwch fwy yn yr adran astudiaethau achos isod.

Mae buddsoddi mewn ymchwil clinigol yn y DU hefyd yn cynnig cyfle gwych i gryfhau ein heconomi, trwy gefnogi miloedd o swyddi gwerth uchel ar draws y DU a denu miliynau mewn buddsoddiad preifat.

Er enghraifft, rhwng 2016 a 2019, cynhyrchodd ymchwil clinigol a gefnogwyd gan yr NIHR amcangyfrif o £8bn o werth ychwanegol crynswth a chefnogodd dros 47,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ledled y DU.[footnote 5] Ac am bob £1 y mae’r llywodraeth yn ei gwario ar ymchwil a datblygu, trwy NIHR, rydym yn cynhyrchu dros £19 o ran cyfanswm enillion economaidd – yr enillion uchaf ar fuddsoddiad i unrhyw wasanaeth cyhoeddus. Mae dadansoddiad tebyg ar draws y gweinyddiaethau datganoledig yn dangos bod ymchwil iechyd yn creu swyddi ac yn cynhyrchu enillion cyson ar fuddsoddiad.[footnote 6], [footnote 7]

Wrth i ni ddechrau ailagor ein heconomi ac adeiladu’n ôl yn well, mae ymchwil clinigol felly’n cynnig cyfle hanfodol i wella gofal cleifion, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a hybu ein gwytnwch iechyd yn y dyfodol, i gyd wrth ysgogi twf economaidd ledled y DU.

Ein gweledigaeth ar gyfer cyflenwi ymchwil clinigol y DU

Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol, ac mae angen iddi fod.

Mae cyflenwi ymchwil clinigol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed o’r blaen – wrth i dechnolegau a thriniaethau newydd ddod i’r amlwg, rydym yn parhau i addasu i heriau poblogaeth sy’n heneiddio, ac wrth i gleifion, yn gwbl briodol, fynnu opsiynau gofal iechyd newydd a chanlyniadau gwell.

Er mwyn cefnogi ein gweledigaeth feiddgar, rydym wedi nodi 5 thema allweddol sy’n sail i’r gwelliannau y byddwn yn eu datblygu yn y blynyddoedd i ddod. Gyda’n gilydd, bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i arwain y byd o ran cyflenwi ymchwil clinigol, bod y GIG yn gallu mynd i’r afael â heriau gofal iechyd y dyfodol, ac y bydd cleifion ledled y DU a ledled y byd yn elwa o ganlyniadau iechyd gwell.

Cyflenwi ymchwil clinigol wedi’i ymgorffori yn y GIG

Mae staff iechyd a gofal wedi cydnabod a chefnogi gwerth ymchwil clinigol i wella safonau a gwella ansawdd gofal ar draws y system iechyd a gofal. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod staff y GIG eisoes â gormod o waith, ac nid ydym bob amser yn teimlo bod ganddynt y gefnogaeth i ddarparu ymchwil fel rhan o’u gweithgareddau o ddydd i ddydd. Gellir ystyried ymchwil hefyd fel ‘busnes rhywun arall’, sydd wedi’i i neilltuo i academyddion clinigol a thimau ymchwil arbenigol yn unig.

Rhaid i hyn newid. Boed yn helpu i ddarparu treial clinigol, yn cefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth i gael mynediad at y cyfleoedd ymchwil diweddaraf, neu’n addasu arferion cyfredol yn unol â chanfyddiadau newydd – mae cyflenwi ymchwil yn fusnes i bawb ar draws y GIG.

Ein gweledigaeth yw creu diwylliant ymchwil cadarnhaol ar draws y GIG a’r holl leoliadau iechyd a gofal, lle mae’r holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso a’u cefnogi i gymryd rhan mewn cyflenwi ymchwil clinigol fel rhan o’u swydd.

Ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf

Cleifion a chyfranogwyr yw sylfaen ymchwil clinigol. Hebddynt, ni all ymchwil ddigwydd ac ni all gofal iechyd wella.

Ond er bod gennym seilwaith a systemau sy’n cefnogi ymchwil clinigol ledled y DU, nid yw’r mynediad yn gyffredinol. Rhaid inni sicrhau bod bob claf, eu teuluoedd a’u gofalwyr yn cael eu grymuso i archwilio cyfleoedd ymchwil yn uniongyrchol ac yn rhagweithiol ac i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch cymryd rhan yn yr ymchwil sy’n berthnasol iddynt.

I gyrraedd y sefyllfa hon, mae angen i ni integreiddio cyflenwi ymchwil i ofal bob dydd, a defnyddio technolegau newydd i recriwtio pobl ‘lle maen nhw’ – fel bod cyfranogi mor hawdd â phosibl. Mae hyn yn golygu dylunio astudiaethau sy’n lleihau nifer yr ymweliadau â’r ysbyty neu feddygon teulu, ac sy’n defnyddio modelau cyflenwi rhithwir, gan ganiatáu i gymaint o’r ymchwil â phosibl ddigwydd yn agos at adref.

Ledled y DU, mae’r daith tuag at ofal integredig wedi hen gychwyn. Yn Lloegr, mae’r Systemau Gofal Integredig (ICSs) yn bartneriaethau rhwng sefydliadau i gydlynu gwasanaethau a darparu gofal iechyd mewn ffordd sy’n gwella iechyd y boblogaeth ac yn lleihau anghydraddoldebau rhwng gwahanol grwpiau yn eu rhanbarth. Dylid ystyried ymchwil ac arloesi fel cyfranwyr allweddol at y gwaith hwn o gynllunio a chydlynu gwasanaethau, gan sicrhau mynediad cyfartal i ymchwil ar draws ôl troed ICS.

Rhaid i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth hefyd chwarae rhan yn rheolaidd mewn dylunio ymchwil clinigol, er mwyn sicrhau bod canlyniadau’n cyd-fynd â’u hanghenion a bod astudiaethau’n cael eu cynllunio gyda chyfranogwyr go iawn a realiti eu bywydau beunyddiol mewn golwg. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu’n uniongyrchol â phob cymuned. Bydd hyn yn arwain at i lai o bobl gael eu gadael allan o gynllunio ymchwil, yn helpu i gryfhau cyfranogiad ymhlith grwpiau amrywiol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, ac yn helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau iechyd sy’n parhau ledled y DU.

Ein gweledigaeth yw gwneud ymchwil yn agored i bawb a gwneud cyfranogiad mewn ymchwil mor hawdd â phosibl.

Ymchwil clinigol symlach, effeithlon ac arloesol

Mae cleifion a defnyddwyr gwasanaeth eisiau mynediad cyflymach at driniaethau gwell a gofal iechyd gwell. Ac mae’r rhai sy’n noddi ac yn cyflwyno ymchwil eisiau iddo ddigwydd lle gellir gwireddu’r buddion hyn cyn gynted â phosibl.

Felly mae angen i ni gyflenwi ymchwil clinigol symlach a mwy effeithlon – sy’n caniatáu i fwy o bobl gymryd rhan ac i gael gafael ar driniaethau, technolegau a thechnegau newydd neu well. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn lle deniadol i gyflenwi ymchwil arloesol – tra’n amddiffyn ansawdd ymchwil a diogelwch cleifion.

Rydym wedi gweld grym yr hyn y gallwn ei gyflawni mewn ymateb i COVID-19, gyda sefydlu a chyflenwi treialon platfform yn gyflym, i archwilio defnyddiau newydd i feddyginiaethau sy’n bodoli eisoes. Mae hyn wedi ein galluogi i dreialu triniaethau lluosog ochr yn ochr – gan gynyddu pa mor gyflym y gallwn nodi a chyflwyno gwelliannau i ofal cleifion.

Yn bwysicaf oll, cyflawnwyd hyn i gyd o fewn y rheoliadau a’r canllawiau presennol, a heb golli manwl gyrwirdeb. Y gyfrinach fu hyblygrwydd, cydweithredu ac arloesi mewn dylunio, sefydlu a chyflenwi ymchwil.

Mae angen i ni gario’r dull hwn drwodd i ddyfodol yr holl ymchwil clinigol, gyda phawb yn defnyddio dulliau newydd ac arloesol a thrwy gydweithio ar draws noddwyr ymchwil, rheoleiddwyr, y llywodraeth a’r GIG, i gefnogi sefydlu a chyflenwi’n gyflym.

Ein gweledigaeth yw i’r DU gael ei gweld fel y lle gorau yn y byd i gynnal ymchwil clinigol symlach, effeithlon ac arloesol.

Cyflenwi ymchwil wedi’i alluogi gan ddata ac offer digidol

Mae systemau digidol yn sail i ddarparu ymchwil clinigol modern. Maent yn helpu i ddylunio a darparu protocolau, nodi a recriwtio cyfranogwyr ymchwil a chefnogi cyfranogiad, ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth y cyhoedd.

Ac mae’r systemau hyn yn mynd law yn llaw â data iechyd hygyrch, rhyngweithredol o ansawdd uchel – i ddeall afiechyd yn well a datgloi datblygiadau yn nyfodol gofal cleifion.

Yn ffodus, mae gan y DU fanteision ymchwil unigryw, oherwydd ein gallu i gael gafael ar wybodaeth o wahanol leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym wedi gweld grym yr hyn y gall y systemau data a digidol hyn ei gyflawni yn ystod COVID-19 – gyda chofrestrfa brechlynnau’r DU, a ddatblygwyd gan NHS Digital (NHSD) ac NIHR, yn cynnig cyfle i bobl o bob cornel o’r DU gymryd rhan mewn treialon brechlyn hollbwysig.

Yn ogystal, cynyddodd Amgylchedd Ymchwil Ymddiriedol (TRE) yr NHSD ar gyfer COVID-19 gapasiti ymchwil, trwy ganiatáu i ymchwilwyr gyrchu data clinigol i holi cwestiynau ymchwil penodol yn gyflym – tra’n sicrhau’r un pryd y lefelau uchaf o ddiogelu data a gwarantu preifatrwydd cleifion.

Ond er bod camau cadarnhaol wedi’u cymryd, mae angen i ni fynd yn llawer pellach ac yn gyflymach i ryddhau gwir botensial cyflenwi ymchwil clinigol wedi’i alluogi gan ddata.

Mae angen i ni raddio llwyfannau cyfredol, gan greu’r mecanweithiau i gysylltu cleifion cymwys â chyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil clinigol sy’n berthnasol iddynt. A byddwn yn gweithio ar wella rhyngweithrededd rhwng systemau, i gefnogi cyflenwi ymchwil clinigol, ar lefel genedlaethol a lleol. Bydd hyn yn allweddol i wella hygyrchedd ymchwil ar draws ein gwahanol asedau data gan gynnwys OpenSafely, DigiTrials yr NHSD, NWeHealth, Clinical Practice Research Datalink (CPRD), UK BioBank, NIHR Bioresource, Genes and Health and Genomics England, yn ogystal â chronfa ddata SAIL Cymru, a ddarperir mewn partneriaeth ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a’r hybiau Ymchwil Data Iechyd eraill, fel DiscoverNow. Mae mentrau tebyg yn yr Alban yn cynnwys SHARE, Generation Scotland, Precision Medicine Scotland, The Scottish Biorepository Network, eDRIS a’r Scottish Data Safe Havens.

Gallwn greu amgylchedd ymchwil clinigol wedi’i alluogi’n ddigidol sy’n barod ar gyfer y dyfodol.

Bydd hyn yn gweithredu fel galluogwr hanfodol i ddarparu ymchwil clinigol cyflymach, mwy effeithlon a mwy arloesol – sy’n cynyddu mynediad ac yn defnyddio dilyniannu genynnau newydd, therapïau celloedd, meddyginiaethau manwl, offer digidol a deallusrwydd artiffisial (AI) i fynd i’r afael â heriau gofal iechyd mwyaf taer y GIG.

Ein gweledigaeth i’r DU yw iddi gael yr amgylchedd ymchwil clinigol mwyaf datblygedig a alluogir gan ddata yn y byd – lle gallwn fanteisio ar ein hasedau data unigryw i sicrhau gwelliannau i iechyd a gofal cleifion ledled y DU a thu hwnt.

Gweithlu cyflenwi ymchwil cynaliadwy a gefnogir

Mae gennym weithlu cyflenwi ymchwil clinigol rhagorol, ac mae’r GIG ehangach wedi cymryd camau bras yn ystod COVID-19 i weithredu ymchwil sy’n arwain y byd, sydd yn ei dro wedi helpu i achub bywydau dirifedi ledled y byd.

Rydym wedi gweld pa mor galed y mae gweithwyr gofal iechyd wedi gweithio i ofalu amdanom trwy gydol y pandemig, tra hefyd yn ateb cwestiynau ymchwil critigol.

Rydym yn gweithio’n galed i gryfhau gweithlu cyflenwi ymchwil y DU a gwneud ymchwil yn y GIG yn fwy gwydn, ar draws ymchwil masnachol ac anfasnachol. Mae hyn yn sylfaenol i’n llwyddiant – oherwydd y gweithlu cyflenwi ymchwil sy’n recriwtio cyfranogwyr, yn cyflwyno protocolau ymchwil, ac yn sicrhau bod holl ddata’r astudiaeth yn cael ei gasglu.

I wneud hyn yn gynaliadwy, mae angen i ni sicrhau bod cefnogaeth ar gael lle mae ei hangen fwyaf, gan gynnwys lleoliadau cynradd a chymunedol, fel y gallwn ddarparu ymchwil ‘lle mae pobl’ ac ymgysylltu’n weithredol â chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Mae angen i ni ddatblygu rolau cyflenwi ymchwil anghlinigol newydd wrth i’r arfer o ddarparu a chefnogi ymchwil clinigol esblygu dros amser a sicrhau bod ystod o lwybrau gyrfa deniadol i ymarferwyr ymchwil a staff cymorth medrus iawn.

Mae angen i ni hefyd gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu sgiliau ymchwil sy’n berthnasol i’w rôl glinigol ac i ddylunio astudiaethau mewn ffyrdd sy’n sicrhau bod cyflenwi ymchwil yn brofiad gwerth chweil, yn hytrach nag yn faich ychwanegol. Er enghraifft, mae cynllun Prif Ymchwilydd Cysylltiol NIHR yn darparu sgiliau ymchwil sylfaenol i feddygon dan hyfforddiant sydd wedi cefnogi ymchwil yn ystod y pandemig.

Yn olaf, bydd digideiddio a gwell defnydd o ddata hefyd yn helpu i leihau’r pwysau ar ymchwilwyr a staff gofal iechyd. Trwy drawsnewid darpariaeth ymchwil gydag arloesi digidol, gallwn arbed amser ac arian, tra’n grymuso ymchwilwyr i weithio gyda’i gilydd yn effeithiol.

Ein gweledigaeth yw cael gweithlu cyflenwi ymchwil cynaliadwy a gefnogir – sy’n cynnig cyfleoedd gwerth chweil i’r holl staff gofal iechyd a gyrfaoedd cyffrous i’r rheini o bob cefndir proffesiynol sy’n arwain ymchwil.

Ein strategaeth a’n cynlluniau ar gyfer cyflenwi

O dan y 5 thema allweddol hyn, mae angen i ni ddatblygu strategaethau a chynlluniau â ffocws ar gyflenwi. Cyhoeddir y rhain maes o law, gan ddechrau gyda chynlluniau ar gyfer gweithgaredd rhwng 2021 a 2022. Bydd gweithgaredd pellach i gyflawni’r weledigaeth yn dibynnu ar fuddsoddiad aml-flwyddyn pellach ar draws y DU, fel rhan o rowndiau gwariant yn y dyfodol.

Rydym wedi nodi 7 maes penodol ar gyfer gweithredu, pob un ohonynt yn cael eu hysbysu ac yn cyd-fynd ag un neu fwy o’r themâu allweddol. Bydd y camau hyn yn chwalu rhai o’r rhwystrau sy’n atal, oedi neu sy’n gweithredu fel anghymhelliant i ymchwil ledled y DU, ac yn adeiladu ar ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes, fel y rhai yn y Bargeinion Sector Gwyddor Bywyd, Cymru Iachach a Chynllun Tymor Hir y GIG.

Trwy ddod â’r gweithgaredd hwn ynghyd o dan set o gynlluniau a strategaethau cyflenwi cydlynol, byddwn yn gallu mynd hyd yn oed ymhellach ac yn gyflymach i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol y DU.

Gwella cyflymder ac effeithlonrwydd sefydlu astudiaethau

Yn gyntaf, rydym yn gwybod y gall ymchwil ddal i gymryd gormod o amser i’w gychwyn, gydag oedi diangen ac amrywiad di-alw-amdano ar wahanol gamau yn parhau i achosi rhwystredigaeth.

Dyna pam y byddwn yn gwella cyflymder ac effeithlonrwydd sefydlu astudiaethau. Mae hyn yn cynnwys cyflymu costio, contractio a chymeradwyo – i gyd yn feysydd y gwyddom a all achosi oedi.

I’r perwyl hwnnw, rydym wedi ailgychwyn gwaith ar yr Adolygiad Gwerth Contract Cenedlaethol i symleiddio’r broses o sefydlu sawl safle ymchwil yn y GIG – mae hyn yn adlewyrchu’r gefnogaeth sydd eisoes yn ei lle yn yr Alban.

Ac nid yn unig ein bod yn osgoi oedi, rydym yn mynd ymhellach i gyflymu cymeradwyaeth ymchwil. Er enghraifft, mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) wedi lansio peilot adolygiad moeseg cyflym ar gyfer treialon clinigol byd-eang a cham I, sy’n ceisio haneru’r amser a gymerir i gymeradwyo ceisiadau ymchwil.

Adeiladu ar lwyfannau digidol i ddarparu ymchwil clinigol

Yn ail, rydym wedi gweld grym llwyfannau ymchwil digidol yn ystod COVID-19, gydag NHS Digitrials a CPRD yn cefnogi cyflenwi cyflym o dreialon brechlyn a therapiwtig ledled y DU. Ac rydym wedi buddsoddi mewn ystod o lwyfannau digidol ac asedau data o ansawdd uchel sydd hefyd yn darparu gwasanaethau gwerthfawr i gefnogi cyflenwi ymchwil.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y DU gyda’r partneriaid allweddol ar y llwyfannau digidol hyn i sicrhau eu bod yn cynorthwyo i gyflymu’r broses o ddarparu ymchwil, gan gynnwys NHS Digitrials, NHSD, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Cofrestr Ymchwil Iechyd yr Alban (SHARE), eDRIS, Iechyd a Gofal Digidol Gogledd Iwerddon a’r Amgylchedd Ymchwil Ymddiriedol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae angen i ni adeiladu ar lwyddiannau unigol a chynyddu capasiti’r DigiTrials a gwasanaethau digidol eraill i gefnogi cyflenwad ymchwil arall sydd â blaenoriaeth, a all helpu i fynd i’r afael â beichiau iechyd pwysig, megis canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, ochr yn ochr ag ymchwil arloesol i driniaethau a technolegau blaengar. Ac mae angen i ni gefnogi pob ymchwilydd i nodi a chysylltu’n hawdd â’r gwasanaethau sydd yn y lle gorau i gefnogi eu hastudiaeth.

Gyda’i gilydd, bydd y dulliau hyn yn helpu noddwyr i ddod o hyd i gyfranogwyr cymwys yn gyflym a throsi hyn yn berfformiad recriwtio gwell ar gyfer ymchwil ar draws pob cam, math o driniaeth a chyflyrau gwahanol. Dyma’r cam cyntaf ar ein taith i greu amgylchedd ymchwil digidol wedi’i alluogi’n wirioneddol gan ddata, gyda’r offer i gefnogi dichonoldeb, recriwtio a gwaith dilynol.

Cynyddu’r defnydd o ddyluniadau ymchwil arloesol

Ni fu dyluniadau ymchwil arloesol erioed o’r blaen mor eang nac mor angenrheidiol. Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld timau ledled y wlad yn addasu eu dyluniadau ymchwil i fanteisio ar brosesau rhithwir a thechnoleg arloesol fel y gallant ddechrau neu barhau â’u hastudiaethau. Er enghraifft, mae treial clinigol Dare2Think Prifysgol Birmingham yn defnyddio seilwaith treialon digidol CPRD i recriwtio 3,000 o gleifion ledled Lloegr sydd â ffibriliad atrïaidd, gan ddefnyddio dulliau dilynol galluogi data eConsent o bell.

Mae’r dulliau arloesol hyn yn helpu i adeiladu gwytnwch system a symud recriwtio i ffwrdd o wasanaethau rheng flaen y GIG – gan ryddhau staff y GIG i weithio ar yr ymchwil sydd wir angen eu hymglymiad, megis treialon clinigol ar gyfer therapïau celloedd a genynnau, diagnosteg wedi’u galluogi gan AI, neu driniaethau a thechnolegau blaengar eraill.

Mae angen i bob noddwr ymchwil ystyried sut y gallant ymgorffori’r gwersi hyn mewn ‘busnes fel arfer’, fel bod yr ymchwil gorau yn digwydd lle mae’n fwyaf addas ar draws yr ecosystem. Ac mae angen i ni adeiladu ar yr ymateb gwych a gawsom gan system reoleiddio’r DU trwy gydol y pandemig – i gael treialon arloesol ar y ddaear yn yr amser gorau erioed. Yr MHRA sy’n arwain yn hyn o beth, gyda lansiad y Llwybr Trwyddedu a Chymeradwyo Arloesol newydd i esmwytho’r daith, o dreialon clinigol i safon gofal – gyda chydweithrediad a chynllunio agosach rhwng yr asiantaethau sy’n ymwneud â phob cam.

Bellach, mae angen i ni fanteisio ar y momentwm hwn i sicrhau bod arloesi yn cael ei ymgorffori yn nyluniad a chyflenwad yr holl ymchwil yn y dyfodol – fel bod ein system yn fwy gwydn, yn fwy effeithlon ac yn fwy effeithiol.

Alinio ein rhaglenni a’n prosesau ymchwil ag anghenion systemau iechyd a gofal y DU

Yn ystod y pandemig, mae ymchwil clinigol pwysicaf i iechyd y cyhoedd wedi bod yn gysylltiedig â COVID-19. Ond nid fel hyn fydd hi am byth.

Wrth symud ymlaen, mae angen i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein sylw a’n hymdrechion ar ymchwil sy’n ceisio mynd i’r afael â’r anghenion iechyd poblogaeth mwyaf taer i bobl ledled y DU, tra’n parhau i ymchwilio i helpu i gynhyrchu modelau cyflenwi newydd ac arloesol.

Mae bod yn glir ynghylch y cysylltiadau rhwng yr ymchwil clinigol yr ydym yn ei gyflenwi a’r buddion i ganlyniadau cleifion, nawr ac yn y dyfodol, yn helpu i ennyn diddordeb pobl mewn ymchwil a’i weld fel rhan o’u swydd.

Ac rydym yn edrych tuag at ddyfodol ein gwasanaethau iechyd i ddeall yn well y gofynion a osodir arnynt – er mwyn sicrhau ein bod yn nodi’r ymchwil sydd ei angen fwyaf i gynnal y GIG.

Bydd hyn hefyd yn helpu diwydiant, elusennau ymchwil meddygol ac eraill i wybod pa gynhyrchion newydd a thystiolaeth sydd eu hangen fwyaf ar ein systemau gofal iechyd, a fydd yn cefnogi derbyn a lledaenu’n gyflym y triniaethau, technolegau a thechnegau newydd hyn ar draws y GIG, unwaith y cânt eu cymeradwyo.

Gwella gwelededd a gwneud ymchwil yn bwysig i’r GIG

Ni fu’r cyhoedd na staff gofal iechyd erioed mor ymwybodol o ymchwil clinigol a’r gwerth y gall ei gynnig i gleifion.

Mae angen i ni fanteisio ar y momentwm hwn a sicrhau ein bod yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r holl weithgareddau sy’n cyfrannu at gyflenwi ymchwil. Rydym yn ymgysylltu â staff iechyd a gofal i wreiddio’r syniad nad baich yw ymchwil – ond yn hytrach, rhan hanfodol a gwerth chweil o ofal cleifion effeithiol.

Ar yr un pryd, mae angen i ni hefyd wneud ymchwil yn bwysig i’r GIG – er mwyn sicrhau bod staff yn gweld y budd i’w cleifion ac yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gefnogi ymchwil, sut bynnag maent yn chwarae eu rhan. Mae hyn yn golygu dal, monitro a hyrwyddo cefnogaeth i ymchwil ar draws y GIG – er enghraifft, nifer yr atgyfeiriadau at astudiaethau ymchwil, nifer y cyfranogwyr sy’n cael eu recriwtio i dreialon, a chasglu data da mewn cofnodion iechyd electronig.

Mae angen i ni nodi a chreu’r pecyn cywir o gymhellion ac ysgogiadau yn y system i sicrhau ein bod yn galluogi gwahanol ffyrdd o weithio – mewn sefydliadau unigol ac ar y cyd ar draws y system. Er enghraifft, trwy roi ffocws cryfach ar gyflenwi ymchwil yng ngofynion rheolyddion gofal iechyd ar gyfer cyrff y GIG a thrwy ofynion ailddilysu i feddygon a nyrsys.

Gwneud ymchwil yn fwy amrywiol ac yn fwy perthnasol i’r DU gyfan

Mae COVID-19 wedi dangos yr angen i gynnwys poblogaethau amrywiol mewn ymchwil clinigol – er mwyn sicrhau bod carfannau ymchwil yn adlewyrchu’r poblogaethau a fydd yn elwa ar driniaethau newydd. Ond mae hyn yn mynd y tu hwnt i’r pandemig. Mae gwneud ymchwil yn fwy amrywiol yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd parhaus. Trwy adeiladu ar ganolfannau rhagoriaeth, fel y Ganolfan Iechyd BME yng Nghaerlŷr, byddwn yn cynyddu’r gefnogaeth i ymchwil mewn poblogaethau mwy amrywiol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.

Byddwn hefyd yn sicrhau, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bod ymchwil yn cael ei gyflenwi lle mae’r cleifion â’r anghenion mwyaf yn byw. Mae hyn yn golygu cynyddu’r capasiti a’r hyder i ddarparu ymchwil mewn ardaloedd sydd â’r beichiau afiechyd a’r lefelau amddifadedd uchaf. Trwy hybu capasiti a mynd ati’n weithredol i ymgysylltu â chymunedau mwy amrywiol, trwy sianeli dibynadwy, gallwn sicrhau ein bod yn gwasanaethu anghenion gofal iechyd pawb ledled y DU yn well.

Cryfhau cyfranogiad y cyhoedd, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth mewn ymchwil

Yn olaf, mae’n hollbwysig cynnwys cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd wrth ddylunio’r ymchwil.

Mae cyfraniadau cleifion a’r cyhoedd yn amhrisiadwy, gan ddarparu mewnwelediadau o’u profiad byw a safbwyntiau amgen i rai’r timau ymchwil neu staff y GIG. Gall cleifion hefyd lunio barn ar sail eu dealltwriaeth o’u cyflwr, ac efallai bod ganddynt ddyheadau a syniadau gwahanol am ganlyniadau iechyd nad yw gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac ymchwilwyr efallai wedi’u hystyried.

Bellach, mae cyfranogiad cleifion a’r cyhoedd yn cael ei gydnabod yn safonau’r diwydiant, gan adeiladu ar record gref o gyfranogiad cleifion mewn ymchwil meddygol elusennau ac ymchwil a ariennir yn gyhoeddus.

Byddwn yn ehangu cefnogaeth i helpu noddwyr i gael mynediad hawdd at grwpiau cleifion a all gefnogi datblygiad eu hastudiaethau. A byddwn yn sicrhau bod modelau ymchwil a ariennir yn gyhoeddus yn cynnwys y cyhoedd, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wrth ddylunio a darparu ymchwil sy’n ganolog iddynt, yn unol â safonau uchaf y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod cleifion a’r cyhoedd yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a bod ganddynt lais yn yr ymchwil sy’n effeithio arnynt.

I ble rydym ni’n mynd oddi yma

Symud ymlaen gyda’n gilydd

Gyda’n gilydd, mae angen i ni greu amgylchedd ymchwil gwydn sy’n ddiogel i’r dyfodol, sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r beichiau gofal iechyd mwyaf taer i bobl ledled y DU, ac sy’n barod i sicrhau y gall pawb elwa ar ddatblygiadau mewn gofal iechyd blaengar.

Er mwyn dangos ein hymrwymiad parhaus ac i adeiladu ar ein cyflawniadau hyd yma, rydym ni wedi gweithio gyda’r gymuned ymchwil clinigol i ddylunio’r weledigaeth hon ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol y DU.

Bydd strategaethau’r dyfodol a chynlluniau manwl yn sail i’r weledigaeth, a fydd yn darparu mwy o wybodaeth am y camau penodol a gymerir ym mhob gweinyddiaeth i gyflawni’r nodau lefel-uchel a nodir uchod.

Ein dull ledled y DU

Mae ein gweledigaeth ar gyfer ymchwil clinigol yn adeiladu ar ein gallu profedig i weithio gyda’n gilydd, ar draws y gymuned ymchwil ac ar draws 4 gwlad y DU, er mwyn cyflawni nod cyffredin – i greu ecosystem cyflenwi ymchwil clinigol a fydd yn siapio dyfodol gofal iechyd ac yn gwella bywydau pobl am flynyddoedd i ddod.

Mae’r DU wedi adeiladu a meithrin diwylliant o gydweithredu a phartneriaeth agos rhwng y llywodraeth, prifysgolion, diwydiant, y GIG, rheoleiddwyr ac elusennau ymchwil meddygol, ac mae’r rhain wedi’u cryfhau ymhellach yn ystod ein hymateb i COVID-19.

Rydym wedi defnyddio’r rhwydwaith hwn i ddatblygu a phrofi’r weledigaeth hon, gan ymgymryd â rhaglen fanwl o ymgysylltu â rhanddeiliaid o bob rhan o’r dirwedd ymchwil clinigol, gan gynnwys staff iechyd a gofal, cleifion, diwydiant, elusennau ymchwil, y byd academaidd a’r GIG.

Rydym wedi ffurfio Rhaglen Gwydnwch a Thwf Adferiad Ymchwil Clinigol y DU (RRG) ledled y sector i gyflenwi’r weledigaeth, gyda chefnogaeth llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig. Ymhlith y partneriaid yn y gwaith hwn mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Swyddfa Gwyddorau Bywyd, Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI),GIG Lloegr a Gwella’r GIG (NHSE/I), GIG Cymru, NHSx, NHS Digital, Gofal Iechyd Digidol Cymru, Rhwydwaith Ymchwil Clinigol NIHR, HCRW, Adran Iechyd Gogledd Iwerddon, Ymchwil a Datblygu HSC, HRA, Swyddfa’r Prif Wyddonydd a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Cefnogir y Rhaglen gan Grŵp Cynghori sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ddiwydiant, elusennau ymchwil meddygol, Ymchwil a Datblygu’r GIG, cynrychiolwyr y gweithlu cyflenwi ymchwil ar draws lleoliadau’r GIG, cynrychiolwyr cleifion a chyhoeddus, Coleg Brenhinol y Meddygon a Choleg Nyrsio Brenhinol, NIHR, Ymchwil GIG yr Alban, HCRW, prifysgolion, y Cyngor Ymchwil Meddygol a rhanbarthau NHSE/I.

Aliniad polisi ehangach

Mae ein gweledigaeth ar gyfer cyflenwi ymchwil clinigol yn ategu gwaith ehangach i gefnogi ymchwil clinigol yn gyffredinol, gan gynnwys ymchwil academaidd a dylunio ymchwil, ac mae’n adeiladu ar yr ymrwymiadau presennol yng Nghynllun Tymor Hir y GIG a Bargeinion Sector Gwyddor Bywyd.

Yn ogystal, mae ein gweledigaeth yn rhan hanfodol o’r strategaeth ehangach i wella iechyd pobl ledled y DU, ac i sicrhau ein bod yn parhau i arwain y byd wrth ddatblygu a darparu triniaethau a thechnolegau blaengar.

Mae’r weledigaeth yn ategu Fframwaith Clefydau Prin y DU, sy’n amlinellu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer gwella bywydau pobl sy’n byw gyda chlefydau prin dros y 5 mlynedd nesaf, yn ogystal â Strategaeth Genomau’r DU, sy’n nodi sut y byddwn yn ymestyn Arweinyddiaeth y DU mewn gofal iechyd ac ymchwil genomig.

Yn ogystal, bydd Strategaeth Data Iechyd a Gofal Cymdeithasol NHSx, sydd i fod i gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn nodi’r weledigaeth a’r cynllun ar gyfer chwyldroi sut yr ydym yn defnyddio data iechyd a gofal yn Lloegr. Bydd y strategaeth yn ymdrin yn benodol â sut y gall mynediad diogel at ddata o ansawdd uchel gefnogi ymchwil, i ddatblygu therapïau newydd a dulliau newydd o gadw pobl yn iach a byw’n annibynnol.

Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd manteisio ar ymchwil clinigol i sicrhau bod pob claf yn cael mynediad at y triniaethau a’r technolegau profedig gorau. Dyna pam y sefydlwyd y Gydweithfa Mynediad Carlam (AAC) i yrru arloesiadau iechyd profedig i ddwylo’r cleifion a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd eu hangen ledled y DU. Dengys adroddiad blynyddol cyntaf yr AAC, ‘Our Year in Focus’, bod yr AAC yn ystod 2019 i 2020 wedi helpu i ddarparu mynediad i fwy na 700,000 o gleifion i arloesiadau iechyd a gofal profedig, gan arwain at amcangyfrif o 12,000 yn llai o dderbyniadau i’r ysbyty a 125,000 yn llai o ddiwrnodau yn cael eu treulio yn yr ysbyty, gyda chyfanswm arbedion i’r GIG o dros £50m.

Yng Nghymru, mae sawl menter gydweithredol newydd wedi’u sefydlu o dan adain Cymru Iachach, i gefnogi’r ymrwymiad i adeiladu capasiti ymchwil, arloesi a gwella iechyd a gofal ar y cyd. Gwnaed buddsoddiadau newydd mewn Hybiau Cydlynu Ymchwil, Arloesi a Gwella, gan ganolbwyntio ar yrru mabwysiadu a lledaenu arloesiadau profedig a modelau gofal newydd. Yn ogystal, mae’r Academïau Dysgu Dwys yn datblygu rolau rheoli ac arwain ar draws themâu wedi’u targedu sy’n gysylltiedig â mabwysiadu a thrawsnewid arloesedd – gyda phwyslais cryf ar ‘ddysgu drwy astudiaethau achos’ a fydd yn trosi ymchwil yn ganlyniadau gwell i gleifion.

Felly, mae angen i ni i gyd barhau i weithio gyda’n gilydd. Oherwydd pan fydd ymchwil sy’n arwain y byd yn cyflwyno arloesiadau blaengar i ddwylo staff gofal iechyd ymroddedig, mae pawb ar eu hennill.

Gweithredu fesul cam

Bydd ein gweledigaeth ledled y DU ar gyfer ymchwil clinigol yn cael ei chyflenwi mewn dau gam allweddol.

Cam 1

Cam 1 yw’r ddogfen hon – Dyfodol Cyflenwi Ymchwil Clinigol y DU, ochr yn ochr â’n cynlluniau gweithredu sylfaenol a’n strategaethau ar gyfer cyflenwi gwelliannau yn ystod 2021 i 2022 a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni.

Mae’r weledigaeth yn nodi ein 5 thema sylfaenol a 7 maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu, i greu amgylchedd cyflenwi ymchwil clinigol sy’n arwain y byd. Rhennir y rhain gan lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau datganoledig ac maent yn darparu cyfeiriad strategol i’n gwaith ar gyflenwi ymchwil clinigol, er mwyn gwella iechyd pobl ledled y DU.

Mae iechyd yn fater datganoledig ac felly mae gan bob gweinyddiaeth unigol yr hyblygrwydd i gyflawni nodau’r fframwaith yn y ffordd sydd fwyaf effeithiol i’w phoblogaeth.

Fodd bynnag, mae pob un o’r 4 weinyddiaeth wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd a, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, byddwn yn cronni ein hymdrechion ar y cyd ac yn defnyddio dulliau ledled y DU.

Cam 2

Dyma’r cam nesaf ar ein taith. Unwaith y bydd y cyflenwi 2021 i 2022 wedi cychwyn, byddwn wedyn yn gosod ein golygon hyd yn oed yn uwch.

Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau manwl ar gyfer y dyfodol, a fydd yn cyflenwi ein gweledigaeth ac yn rhyddhau gwir botensial ymchwil clinigol y DU.

Y camau nesaf

Mae’r weledigaeth hon yn rhan o raglen waith gydlynol a threfnus i sicrhau adferiad, gwytnwch a thwf cyflenwad ymchwil clinigol y DU. Mae hyn yn cwmpasu’r gefnogaeth, y prosesau a’r seilwaith sy’n galluogi cyflenwi ymchwil, a’r agweddau ar ddylunio, rheoli a goruchwylio ymchwil sy’n effeithio ar y potensial i wella.

Wrth ddatblygu ein cynlluniau a’n strategaethau ar gyfer 2021 i 2022, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r gymuned ymchwil clinigol, trwy’r rhaglen RRG, i sicrhau bod ymrwymiadau’n briodol, yn weithredadwy ac yn fesuradwy.

Gyda’n gilydd, gallwn greu amgylchedd cyflenwi ymchwil sy’n gwella bywydau cleifion, yn lefelu cyfleoedd economaidd ledled y DU ac yn cryfhau ein gwytnwch iechyd, tra’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Dyma beth sydd ei angen ar y DU, yr hyn y mae cleifion yn ei haeddu, a’r hyn sy’n rhaid i ni ei gyflenwi.

Astudiaethau achos

Darganfod therapïau achub bywyd COVID-19 yn yr amser byrraf erioed: RECOVERY

Mae RECOVERY, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Rhydychen gydag ariannu gan Gyngor Ymchwil Meddygol yr UKRI (MRC) ac NIHR, yw’r hap-dreial rheoledig mwyaf yn y byd i COVID-19. Cafodd ei sefydlu yn yr amser byrraf erioed yng nghamau cynnar y pandemig. Nododd RECOVERY y driniaeth brofedig gyntaf ar gyfer y feirws ac mae wedi darparu tystiolaeth hanfodol arall ynghylch pa driniaethau sy’n gweithio a pha rai nad ydynt.

Ysgrifennwyd a chymeradwywyd protocol treial RECOVERY mewn 9 diwrnod, a recriwtiwyd y cyfranogwyr cyntaf. Dyluniwyd y treial a’i redeg mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n hawdd i gleifion a’r GIG gymryd rhan. Cyfranogodd dros 38,000 o gleifion mewn 177 o ysbytai ar draws 4 cornel y DU yn y treial.

RECOVERY a nododd dexamethasone yn llwyddiannus fel triniaeth rad, effeithiol sydd ar gael yn eang ar gyfer COVID-19. Mae’r driniaeth hanfodol hon wedi torri cyfraddau marwolaeth gymaint ag un rhan o dair mewn cleifion COVID-19 sydd angen awyru, ac mae wedi helpu i achub bywydau ledled y byd.

Ers hynny, mae RECOVERY wedi parhau i gynhyrchu ymchwil arloesol, gan ddangos bod Tocilizumab yn lleihau’r angen am beiriant anadlu mecanyddol a hefyd yn byrhau’r amser y mae cleifion COVID-19 yn ei dreulio yn yr ysbyty. Yr un mor bwysig, mae RECOVERY wedi dangos nad yw sawl triniaeth, fel plasma ymadfer, yn gweithio.

Gan ddefnyddio dull platfform, mae’r astudiaeth yn gallu treialu therapïau lluosog ar yr un pryd, sy’n golygu y gall ymchwilwyr roi’r gorau i dreialu triniaethau sy’n dangos ychydig neu ddim effaith ac ail-ganolbwyntio eu hymdrechion ar yr ymgeiswyr mwyaf addawol. Mae hyn wedi bod yn hanfodol ar adeg o bwysau dwys ar y GIG a gwasanaethau gofal iechyd ledled y byd.

Ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl heb ein buddsoddiadau ledled y DU – yn y bobl, y prosesau a’r systemau sydd eu hangen i ddarparu ymchwil iechyd o ansawdd uchel. Yn benodol, mae systemau data iechyd y GIG, gan gynnwys NHS DigiTrials, wedi helpu i leihau’r baich ar dimau cyflenwi rheng flaen, gan y gellid casglu lleiafswm o ddata demograffig a chydsynio wrth erchwyn gwely’r claf ac yna ei integreiddio â gwybodaeth arferol y GIG ar driniaeth, diagnosis, profion COVID-19, canlyniadau clinigol a goroesi – i ddarparu’r ystod lawn o ddata sydd ei angen i gyflenwi’r treial.

Gallwch ddarganfod mwy am RECOVERY

Ein llwybr yn ôl i normalrwydd: Rôl y DU mewn treialon brechlyn arloesol COVID-19

Mae datblygu brechlyn newydd yn broses gymhleth a all gymryd dros ddegawd. Ond yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld brechlynnau COVID-19 newydd, diogel ac effeithiol yn cael eu datblygu, eu treialu a’u cyflwyno ar gyflymder rhyfeddol.

Bu’r DU ar flaen y gad yn yr ymdrech fyd-eang hon, gan chwarae rhan ganolog mewn nifer o dreialon brechlyn. Recriwtiwyd y cyfranogwyr byd-eang cyntaf yn nhreialon Janssen a Novavax yn Dundee a Blackpool, a ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i gymeradwyo’r brechlynnau COVID-19 a ddatblygwyd gan Pfizer/BioNTech a Rhydychen/Astrazeneca.

Bu’r campau anhygoel hyn yn bosibl diolch i gydweithrediad agos y DU â diwydiant, staff cyflenwi ymchwil ymroddedig ac, yn bwysicaf oll, cyfranogwyr ledled y wlad a gymerodd ran mewn treialon. Caniataodd ein Cofrestrfa Brechlyn COVID-19 genedlaethol, sy’n cynnwys dros 450,000 o wirfoddolwyr ledled y DU, i ymchwilwyr nodi a recriwtio ystod amrywiol o gyfranogwyr i’r treialon brechlyn yn gyflym, i brofi a oeddent yn ddiogel ac yn effeithiol.

Yn ogystal, mae astudiaethau SIREN a Vivaldi wedi ymchwilio i gyfraddau heintiau ymhlith gweithwyr gofal iechyd a chartrefi gofal, gan gynhyrchu data yn y byd go iawn sy’n dangos bod brechlynnau’n hynod effeithiol wrth arafu lledaeniad COVID-19 ac atal haint difrifol. Trwy’r astudiaethau hyn ac astudiaethau eraill, rydym bellach yn gallu olrhain effeithiau tymor hir brechlynnau yn y byd go iawn.

Diolch i waith caled ein hymchwilwyr, timau cyflenwi ymchwil a rheoleiddwyr, ochr yn ochr â’r gefnogaeth wych gan gyfranogwyr y treial, mae gan y byd offer newydd bellach i fynd i’r afael â’r pandemig a chynnig gobaith am yfory mwy disglair a mwy diogel.

Gallwch ddarganfod mwy am ymchwil brechlyn COVID-19 a sut i gofrestru i gymryd rhan

Gwella mynediad a meithrin gwytnwch: RELIEVE IBS-D

Mae Syndrom Coluddyn Llidus (IBS) yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 5 o bobl yn y DU – mae traean ohonynt yn profi IBS math dolur rhydd (IBS-D). Mae symptomau’n cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd, gyda chleifion yn aml yn dioddef poen gwanychol ac abdomen chwyddedig.

Sefydlwyd astudiaeth RELIEVE IBS-D i brofi Enterosgel – triniaeth newydd heb gyffuriau sy’n cael ei chymryd drwy’r geg. Trwy fabwysiadu dull cwbl rithwir i dreialu’r driniaeth newydd addawol hon, mae’r astudiaeth yn gam mawr ymlaen wrth ddatblygu capasiti a gallu’r DU i gynnal ymchwil clinigol rhithwir.

Dyluniwyd RELIEVE IBS-D yn wreiddiol i redeg ar draws 28 o ysbytai, meddygfeydd a chlinigau preifat yn Lloegr, gyda chyfranogiad yn gyfyngedig i’r rhai yn y dalgylchoedd hyn. Fodd bynnag, er mwyn galluogi’r ymchwil i barhau yn ystod pandemig COVID-19, cydweithiodd timau yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Newcastle a Chanolfan Recriwtio Cleifion Genedlaethol NIHR yn Newcastle gydag Enteromed, cwmni o’r DU, i ddatblygu’r offer digidol sydd ei angen i barhau â’r ymchwil pwysig hwn o bell.

Fe wnaeth y dull rhithwir newydd agor cyfranogiad i bobl ledled y DU, gyda chleifion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan o gysur eu cartrefi eu hunain. Ac mae hyn wedi cryfhau recriwtio yn sylweddol, gydag un safle sy’n defnyddio’r dull rhithwir yn recriwtio 67% yn gyflymach na phob un o’r 28 safle a oedd yn defnyddio’r dull traddodiadol.

Gallwch ddarganfod mwy am yr astudiaeth RELIEVE IBS-D

Mynd i’r afael â heriau gofal iechyd byd-eang: yr Astudiaeth Cysylltiadau Genetig Pryder ac Iselder

Iselder a phryder yw’r anhwylderau iechyd meddwl mwyaf cyffredin ledled y byd ac, yn y DU, bydd 1 o bob 3 o bobl yn profi symptomau yn ystod eu hoes. Nod yr astudiaeth Cysylltiadau Genetig Pryder ac Iselder (GLAD) yw darganfod sut mae genynnau a’r amgylchedd yn gweithredu gyda’i gilydd i greu pryder ac iselder.

Arweinir GLAD gan NIHR Mental Health BioResource ac ymchwilwyr yng Ngholeg King’s Llundain, mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Ulster, Prifysgol Caeredin, a Phrifysgol Caerdydd. Trwy wella dealltwriaeth o’r ffactorau risg o ddioddef iselder a phryder, mae’r astudiaeth yn anelu at nodi triniaethau effeithiol a gwella bywydau pobl sy’n profi’r cyflyrau hyn.

Yr astudiaeth hon yw’r fwyaf erioed o’i math, ac mae’n defnyddio dulliau recriwtio digidol newydd, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol a fforymau ar-lein eraill, i helpu i nodi unrhyw un sydd wedi profi pryder neu iselder clinigol ac sydd am gymryd rhan. Gall darpar gyfranogwyr gofrestru’n hawdd ar wefan yr astudiaeth ac anfon samplau poer yn ôl yn y post i’w dadansoddi.

O ganlyniad, cofrestrodd mwy nag 8,000 o bobl ar y wefan o fewn 24 awr ar ôl ei lansio ac erbyn diwedd wythnos un, roedd y ffigwr hwnnw wedi tyfu i bron 15,000. Mae diddordeb yn yr ymchwil wedi parhau i dyfu a chofrestrodd dros 20,000 o gyfranogwyr yn y flwyddyn gyntaf, sydd hanner ffordd at darged cyffredinol yr astudiaeth o 40,000 o bobl.

Gallwch ddarganfod mwy am yr astudiaeth ar wefan GLAD

Gwella canlyniadau i bawb: treial OPTIMAS

Bob blwyddyn, mae tua 30,000 o bobl yn y DU yn dioddef strôc oherwydd ffibriliad atrïaidd – rhythm annormal yn y galon. I’r rhan fwyaf o’r bobl hyn, meddyginiaeth gwrthgeulydd (teneuo gwaed) yw’r ffordd orau i atal strôc bellach, ond nid ydym eto’n gwybod pa mor fuan ar ôl strôc y dylid cychwyn y feddyginiaeth.

Yn hanesyddol, ystyriwyd bod cymryd meddyginiaeth wrthgeulydd yn gynnar ar ôl strôc yn cynyddu’r risg o waedu mewngreuanol a allai fod yn niweidiol – pan fydd pibell waed yn y benglog yn torri neu’n gollwng, gan achosi niwed i’r ymennydd. Am y rheswm hwn, mae llawer o glinigwyr yn gohirio gwrthgeulydd am hyd at bythefnos ar ôl i’r strôc ddigwydd. Fodd bynnag, yn ystod yr amser hwn, mae risg y gall claf gael strôc arall – realiti dychrynllyd i gannoedd o bobl ledled y DU bob blwyddyn.

Er bod yr arfer o oedi rhoi gwrthgeulydd yn cael ei ategu gan sawl canllaw cyfredol, mae’r rhain yn seiliedig i raddau helaeth ar ddata hanesyddol ac arsylwadol mewn cleifion sy’n cael eu trin â Warfarin – gwrthgeulydd hŷn sydd â risg llawer uwch o achosi gwaedu.

Mae gwrthgeulyddion geneuol uniongyrchol mwy newydd (DOACs) yn cael eu defnyddio fwyfwy mewn ymarfer clinigol modern, ac awgryma astudiaethau mwy diweddar bod defnydd cynnar o DOAC yn gysylltiedig â risg isel o waedu mewngreuanol – tra bod oedi yn cynyddu’r risg o gael strôc bellach.

Felly, gallai cychwyn meddyginiaeth DOAC yn gynnar fod yn ddiogel ac yn effeithiol. Ond mae angen treial rheoledig ar hap sy’n cymharu triniaeth gynnar ac oedi i ateb y cwestiwn pwysig hwn.

Dan arweiniad Coleg Prifysgol Llundain ac yn cael ei ariannu gan Sefydliad Prydeinig y Galon, mae treial OPTIMAS (OPtimal TIMing of Anticoagulation after Stroke) yn ceisio gwneud union hynny. Mae OPTIMAS yn digwydd mewn dros 70 o ysbytai ledled y DU. Trwy gydweithio, bydd yr ymchwilwyr, timau clinigol a chleifion yn helpu i wella gofal meddygol ar gyfer goroeswyr strôc yn y dyfodol ledled y byd.

Gallwch ddarganfod mwy am OPTIMAS

Grym arloesi a chydweithio: yr Arbrawf Matrics Ysgyfaint Cenedlaethol

Mae canser yr ysgyfaint celloedd nad ydynt yn fach yn cyfrif am dros 80% o achosion canser yr ysgyfaint ac mae’r afiechyd yn lladd dros 35,000 o bobl yn y DU bob blwyddyn. Nodwyd isdeipiau genetig y canser hwn, a thrwy’r Treial Matrics Ysgyfaint Cenedlaethol (NLMT), mae ymchwilwyr yn profi cyffuriau newydd wedi’u targedu, a chyfuniadau o driniaeth newydd yn gyflymach nag mewn treialon traddodiadol.

NLMT yw’r treial meddygaeth fanwl mwyaf yn y byd. Mae cleifion sy’n cofrestru i gymryd rhan yn cael eu sgrinio’n enetig i ddeall mwy am eu math o diwmor ac a oes ganddynt y llofnodion genetig perthnasol i’w paru â thriniaeth wedi’i thargedu. Gwna dull addasol y treial hi’n bosibl i ychwanegu cyffuriau a chyfuniadau newydd cyn gynted ag y byddant ar gael, neu i’w dileu yn gyflym ac yn hawdd os yw tystiolaeth yn awgrymu nad ydynt yn effeithiol.

Mae NLMT yn dangos grym cydweithredu trwy system ymchwil iechyd integredig y DU. Dan arweiniad Uned Treialon Clinigol Prifysgol Birmingham a ariennir gan Cancer Research UK (CRUK), cefnogir y treial gan Raglen Meddygaeth Haen 2 CRUK, Canolfannau Meddygaeth Canser Arbrofol CRUK/NIHR, Pfizer, AstraZeneca a Mirati Therapeutics Inc, ochr yn ochr â sefydliadau’r GIG ledled y DU.

Ers i NLMT agor i recriwtio ym mis Mai 2015, recriwtiwyd cannoedd o gleifion i dros 20 o wahanol freichiau astudio, gan brofi 8 triniaeth wahanol wedi’u targedu.

Gallwch ddarganfod mwy am y treial Matrics Ysgyfaint Cenedlaethol ar wefan Prifysgol Birmingham ac yn Nature.

Trawsnewid seicotherapi gan ddefnyddio technolegau newydd: gameChange

Mae seicosis yn effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn, ac mae llawer ohonynt yn ofni sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd. Gall hyn arwain at unigedd eithafol ac iechyd corfforol a meddyliol gwael. Mae un astudiaeth yn ceisio datblygu triniaeth newydd bwerus, trwy ddefnyddio arloesedd hynod raddadwy a phersonol mewn technolegau rhithwir.

Gyda chyllid gan NIHR, mae gameChange yn astudiaeth cyfnod cynnar i werthuso a all seicotherapi realiti rhithwir trochi (VR) newydd helpu cleifion i gymryd rhan mewn sefyllfaoedd cymdeithasol mwy bob dydd a phrofi llai o symptomau seiciatryddol difrifol.

Wrth ddylunio’r astudiaeth, cydweithiodd ymchwilwyr â’r rhai sydd â phrofiad o seicosis – gyda chyfranogwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r rhaglenwyr cyfrifiaduron i greu’r therapi VR. Mae’r therapi ei hun yn darparu efelychiadau soffistigedig o’r sefyllfaoedd bywyd go iawn y mae cleifion yn pryderu amdanynt. Mae cleifion ag ofnau dybryd yn llawer mwy tebygol o’u profi yn VR ond, yn bwysig, mae’r dysgu wedyn yn trosglwyddo i’r byd go iawn.

Un o’r nodweddion mwyaf arloesol yw therapydd rhithwir – avatar cyfeillgar a gynhyrchir gan gyfrifiadur, wedi’i leisio gan berson go iawn, sy’n tywys y claf yn ofalus trwy’r gwaith therapiwtig, gan ei helpu i ymarfer technegau i oresgyn ei anawsterau. Mewn gwirionedd, mae’r driniaeth yn awtomataidd, sy’n golygu ei bod yn ategiad cost isel ond effeithiol i’r gofal presennol.

Gallwch ddarganfod mwy am gameChange

Rhestr termau

Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) Corff hyd braich yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC). Cyn y gall treial clinigol meddyginiaeth newydd ddechrau, mae angen i’r MHRA ei adolygu a’i awdurdodi. Mae’r MHRA yn arolygu safleoedd lle cynhelir treialon clinigol i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn unol ag arfer clinigol da.
Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) Corff hyd braich yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo buddiannau cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r HRA yn gyfrifol am gymeradwyo moeseg ymchwil. Rhaid i bob ymchwil meddygol sy’n cynnwys pobl yn y DU, p’un ai yn y GIG neu’r sector preifat, gael ei gymeradwyo yn gyntaf gan bwyllgor moeseg ymchwil annibynnol.
Clefyd prin Yn gyflwr sy’n effeithio ar lai nag 1 o bob 2,000 o bobl. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod dros 7,000 o glefydau prin, gyda chyflyrau newydd yn cael eu nodi’n barhaus wrth i ymchwil ddatblygu. Amcangyfrifir bod 1 o bob 17 o bobl yn cael eu heffeithio gan glefyd prin ar ryw adeg yn eu bywydau.
Cofrestr Ymchwil Iechyd yr Alban (SHARE) Cofrestr o dros 280,000 o bobl yn yr Alban sy’n 11 oed neu’n hŷn ac sydd wedi caniatáu defnyddio eu cofnodion iechyd i asesu cymhwysedd ar gyfer astudiaethau ymchwil, yn ogystal â gwaith arloesol i gynnal casgliad cydsyniol o weddillion gwaed o brofion clinigol arferol ar gyfer ymchwil iechyd dienw.
Coleg Brenhinol y Meddygon Corff aelodaeth broffesiynol ym Mhrydain sy’n ymroddedig i wella arfer meddygaeth, yn bennaf trwy achredu meddygon trwy arholiad.
Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) Hwn yw yr undeb nyrsio a chorff proffesiynol mwyaf y byd. Mae’n cynrychioli mwy na 450,000 o nyrsys, myfyrwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr cymorth nyrsio yn y DU ac yn rhyngwladol.
COVID-19 Yn glefyd heintus a achosir gan y coronafeirws sydd newydd ei ddarganfod.
Cydweithrediad Mynediad Carlam (AAC) Yn dwyn ynghyd ddiwydiant, y llywodraeth, rheoleiddwyr, cleifion a’r GIG i gael gwared ar rwystrau a chyflymu cyflwyno triniaethau a thechnolegau newydd arloesol a all drawsnewid gofal.
Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) Mae hwn yn rhan o’r UKRI, sy’n gyfrifol am gydlynu ac ariannu ymchwil meddygol yn y Deyrnas Unedig. Mae gwaith yr MRC yn amrywio o ymchwil labordy, er enghraifft ar enynnau a moleciwlau, hyd at ymchwil gyda phobl, megis treialon clinigol ac astudiaethau poblogaeth.
Cymru Iachach Cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018; hwn yw cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru.
Cynllun Tymor Hir y GIG Ei nod yw gwella ansawdd gofal cleifion a chanlyniadau iechyd. Mae’n nodi sut y bydd y setliad cyllideb o £20.5 biliwn ar gyfer y GIG, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn haf 2018, yn cael ei wario dros y 5 mlynedd nesaf.
Cyswllt Data Ymchwil Ymarfer Clinigol (CPRD) Gwasanaeth ymchwil dielw llywodraeth y DU sydd â dros 30 mlynedd o ddata clinigol gofal sylfaenol. Mae CPRD yn casglu data cleifion dienw o rwydwaith o feddygfeydd ledled y DU ac yn cyflenwi hwn i ymchwil iechyd cyhoeddus.
DataLoch Ystorfa ddata iechyd yn yr Alban a grëwyd ar y cyd gan GIG Lothian, Borders & Fife a Phrifysgol Caeredin.
Deallusrwydd artiffisial (AI) Mae hwn yn disgrifio ystod o dechnegau sy’n caniatáu i gyfrifiaduron gyflawni tasgau y credir yn nodweddiadol sydd angen sgiliau rhesymu a datrys problemau dynol.
Fframwaith clefydau prin Cyhoeddwyd yn 2021, yn amlinellu blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer gwella bywydau pobl sy’n byw gyda chlefydau prin dros y 5 mlynedd nesaf.
Genome UK: the Future of Healthcare Cyhoeddwyd yn 2020; mae’r strategaeth lywodraethol hon ledled y DU yn nodi’r weledigaeth i ymestyn arweinyddiaeth y DU ym maes gofal iechyd ac ymchwil genomig.
Genomeg Yw’r astudiaeth o enynnau’r corff, eu swyddogaethau a’u dylanwad ar dwf, datblygiad a gwaith y corff – gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i edrych ar DNA y corff a chyfansoddion cysylltiedig.
Gofal Iechyd Digidol Cymru Awdurdod iechyd arbennig newydd a fydd yn darparu gwasanaethau digidol, data a thechnoleg cenedlaethol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru.
iCAIRD Cydweithrediad ledled yr Alban o 15 partner o bob rhan o ddiwydiant, y GIG, a’r byd academaidd sy’n gweithio i sefydlu canolfan ragoriaeth o’r radd flaenaf, ac sy’n canolbwyntio ar gymhwyso deallusrwydd artiffisial i ddiagnosteg ddigidol.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (HSCNI) Yw’r darparwr iechyd a gofal cymdeithasol cenedlaethol ar gyfer Gogledd Iwerddon. At ddibenion y ddogfen hon, mae pob cyfeiriad at y GIG yn cynnwys cyrff cyfatebol ar draws y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig, gan gynnwys HSCNI.
Meddygaeth fanwl Dull sy’n dod i’r amlwg ar gyfer trin ac atal afiechydon sy’n ystyried amrywioldeb unigol mewn genynnau, yr amgylchedd a ffordd o fyw i bob person.
NHS Digital (NHSD) Yw’r partner gwybodaeth a thechnoleg cenedlaethol i’r system iechyd a gofal genedlaethol. Mae NHSD yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod gwybodaeth iechyd yn llifo’n effeithlon ac yn ddiogel.
NHSx Yn uned ar y cyd sy’n dod â thimau o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a GIG Lloegr a Gwella ynghyd i yrru trawsnewid gofal yn ddigidol. Mae hyn yn cynnwys gosod polisi cenedlaethol a datblygu arfer gorau ar gyfer technoleg, digidol a data’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan gynnwys rhannu data a thryloywder.
Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd (NIHR) Asiantaeth llywodraeth y DU sy’n ariannu ymchwil i iechyd a gofal, ac mae’n un o’r cyllidwyr ymchwil clinigol cenedlaethol mwyaf yn Ewrop.
Strategaeth Ddiwydiannol Gwyddor Bywyd Cyhoeddwyd yn 2017 ac ysgrifennwyd gan yr Athro Syr John Bell, Hyrwyddwr Gwyddor Bywyd y DU. Mae’r strategaeth hon yn darparu argymhellion i’r llywodraeth ar lwyddiant tymor hir y sector gwyddor bywyd.
Swyddfa Gwyddor Bywyd (OLS) Yn rhan o’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae OLS yn hyrwyddo ymchwil, arloesi a’r defnydd o dechnoleg i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal.
Treialon platfform Yncaniatáu ar gyfer gwerthuso triniaethau neu ymyriadau lluosog yn ystod treialon clinigol, gan ddefnyddio gwerthusiadau dros dro ac ychwanegu ymyriadau newydd.
Therapïau celloedd a genynnau a therapïau sy’n seiliedig ar gelloedd Yn cynnwys tynnu celloedd, protein neu ddeunydd genetig (DNA) oddi ar y claf (neu roddwr), a’u newid i ddarparu therapi hynod bersonol, sy’n cael ei ail-chwistrellu i’r claf.
Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) Corff cyhoeddus an-adrannol a noddir gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS). Mae UKRI yn dwyn ynghyd y saith cyngor ymchwil disgyblu gan gynnwys MRC, yn ogystal ag Research England ac Innovate UK.
Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mae’n rhan o Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd, ac mae’n gyfrifol am weinyddu a chydlynu cyllideb ymchwil a datblygu iechyd a gofal cymdeithasol ar ran yr Adran Iechyd, Gogledd Iwerddon (DoH NI). Mae ei waith yn seiliedig ar yr egwyddor bod rhaid i’r wybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol orau gael ei hategu gan wybodaeth, yn seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd yn dda, y gellir ei chymhwyso wedyn wrth ddarparu gofal.
Ymchwil clinigol Yn cyfeirio at yr holl ymchwil a wneir ar fodau dynol (pobl iach neu sâl). Mae’n canolbwyntio ar wella gwybodaeth am afiechydon, datblygu dulliau diagnostig a thriniaethau neu ddyfeisiau meddygol newydd i sicrhau gwell gofal i gleifion.
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) Yw’r sefydliad Cymreig sy’n ariannu ac yn cefnogi ymchwil iechyd a chymdeithasol yng Nghymru. Ei nod yw darparu goruchwyliaeth ar y cyd o ymchwil i sicrhau ei fod o’r ansawdd gwyddonol rhyngwladol uchaf, ei fod yn berthnasol i anghenion a heriau iechyd a gofal yng Nghymru, a’i fod yn gwneud gwahaniaeth i bolisi ac arfer mewn ffyrdd sy’n gwella bywydau cleifion, pobl a chymunedau yng Nghymru.
  1. At ddibenion y ddogfen hon mae cyfeiriadau at y GIG yn cynnwys yr HSC yng Ngogledd Iwerddon. 

  2. Jonker L and Fisher S. J. The correlation between National Health Service trusts’ clinical trial activity and both mortality rates and care quality commission ratings: a retrospective cross-sectional study. Public Health. 2018; 157:1–6. 

  3. NIHR, Number of participants in NIHR-supported research exceeds one million for the first time

  4. Ozdemir B.A, Karthikesalingham A, Singha S, Poloniecki J. D, Hinchliffe R. J and Thompson M. M. Research Activity and the Association with Mortality. PLoS ONE. 2015; 10. 

  5. NIHR, New report highlights how NIHR support for clinical research benefits the UK economy and NHS

  6. KPMG, Impact and value of research supported by NHS organisations in Wales

  7. HSC R&D Division Northern Ireland, Impact of HSC R&D Division funding