Papur polisi

Crynodeb gweithredol

Cyhoeddwyd 23 March 2021

Mae’r weledigaeth hon ledled y DU ar gyfer dyfodol cyflenwi ymchwil clinigol i bawb sy’n gweithio yn y GIG, i unrhyw un sy’n ystyried cymryd rhan mewn ymchwil ac i bawb sy’n noddi ac yn cefnogi ymchwil ar draws diwydiant, y byd academaidd a’r trydydd sector.

Ymchwil clinigol yw asgwrn cefn gofal iechyd – dyma’r ffordd yr ydym yn gwella atal, canfod, diagnosio, a thrin afiechyd. Mae cyflenwi’r ymchwil hwn yn dibynnu ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cefndir yn gweithio law yn llaw â chyfranogwyr ymchwil, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Yma, rydym yn nodi ein huchelgais i greu amgylchedd ymchwil clinigol sy’n canolbwyntio ar y claf, sydd o blaid arloesi ac wedi’i alluogi’n ddigidol, sy’n grymuso pawb ledled y GIG i gymryd rhan mewn cyflenwi ymchwil, ac yn sicrhau bod cleifion o bob rhan o’r DU yn cael eu cefnogi i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n berthnasol iddynt.

Bydd gweithredu’r weledigaeth hon yn rhyddhau gwir botensial ein hamgylchedd ymchwil clinigol i wella iechyd pob un ohonom, i fanteisio ar ein harbenigedd ymchwil enwog, a gwneud y DU yn un o’r lleoedd gorau yn y byd i ddylunio a chyflenwi ymchwil.

Dangosodd y pandemig COVID-19 yn glir gryfder ein sylfaen ymchwil, trwy ddarparu treialon platfform yn gyflym, fel RECOVERY, a’n cyfraniad blaenllaw i’r ymdrech frechlyn fyd-eang, sef ein hachubiaeth yn ôl i normalrwydd.

Bu cydweithredu yn sylfaen i’n llwyddiant. Mae ein gwyddonwyr a’n rheolyddion sy’n arwain y byd wedi gweithio’n agos gyda diwydiant ac elusennau ymchwil meddygol, ochr yn ochr â’n gweithlu ymchwil ymroddedig, gan gynnwys staff o bob rhan o’r GIG a miloedd o gyfranogwyr o bob un o 4 cornel y DU. Rydym wedi dangos, pan ddown at ein gilydd, y gall ymchwil clinigol y DU fynd i’r afael â’r heriau gofal iechyd mwyaf dybryd.

Ond rydym hefyd wedi dysgu rhai gwersi pwysig o’r pandemig ynglŷn â lle mae angen i ni wella. Er holl lwyddiannau ein hymchwil COVID-19, rydym wedi gweld ymchwil arall yn dioddef. Mae’r pwysau ar y gweithlu a’r amharu a fu ar ddulliau cyflenwi traddodiadol wedi arwain at gau safleoedd astudio, neu fe’u gwelsom nhw’n cael trafferth recriwtio yn ystod y pandemig – gan beri i ymchwil arafu. Ac er ein bod wedi gweld rhai enghreifftiau gwych o ddylunio a darparu treialon arloesol, mae angen i ni fynd ymhellach fyth i gefnogi treialon mwy arloesol ar draws pob cam, pob math o driniaeth a phob cyflwr – i ymgorffori dulliau arloesol ar draws ein hecosystem ymchwil gyfan. Yn bwysicaf oll, mae’r pandemig wedi dangos yn glir yr anghydraddoldebau iechyd annerbyniol sy’n parhau ledled ein gwlad. Rhaid i’r rhain fod yn gatalydd ar gyfer newid.

Yr amser i weithredu yw nawr. Mae technolegau a thriniaethau newydd a yrrir gan ddata a dadansoddeg yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn diagnosio, yn trin ac yn atal salwch. Rydym yn benderfynol y bydd y DU ar flaen y gad yn y chwyldro gofal iechyd hwn ac mae ein gweledigaeth yn nodi sut y byddwn yn darparu ecosystem ymchwil clinigol sy’n manteisio ar arloesi, yn cyflawni ar gyfer yr holl noddwyr ymchwil, yn wydn yn wyneb argyfyngau gofal iechyd yn y dyfodol ac yn cynnig gobaith o’r newydd i gleifion ledled y DU.

Felly, wrth i ni ddechrau dod allan o gysgod y pandemig, mae’n rhaid i ni ddefnyddio hwn fel cyfle i ddysgu gwersi ac adeiladu’n ôl yn well.

Yr hyn yr ydym am gyflawni

Mae 5 thema allweddol yn sail i’n gweledigaeth:

  1. Ymchwil clinigol wedi’i ymgorffori yn y GIG – i greu diwylliant sy’n gadarnhaol o safbwynt ymchwil, lle mae’r holl staff iechyd a gofal yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gefnogi a chymryd rhan mewn ymchwil clinigol fel rhan o’u swydd.

  2. Ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf – i wneud mynediad a chyfranogiad mewn ymchwil mor hawdd â phosibl i bawb ledled y DU, gan gynnwys poblogaethau gwledig, amrywiol a’r rhai nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.

  3. Ymchwil symlach, effeithlon ac arloesol – fel bod y DU yn cael ei hystyried fel y lle gorau yn y byd i gynnal ymchwil clinigol cyflym, effeithlon a blaengar.

  4. Ymchwil wedi’i alluogi gan ddata ac offer digidol – i sicrhau bod gan y DU yr amgylchedd ymchwil clinigol mwyaf datblygedig a alluogir gan ddata yn y byd, sy’n manteisio ar ein hasedau data unigryw i wella iechyd a gofal cleifion ledled y DU a thu hwnt.

  5. Gweithlu ymchwil cynaliadwy a gefnogir – sy’n cynnig cyfleoedd gwerth chweil a gyrfaoedd cyffrous i’r holl staff gofal iechyd ac ymchwil o bob cefndir proffesiynol – ar hyd a lled ymchwil masnachol ac anfasnachol.

Ein strategaeth a’n cynlluniau ar gyfer cyflenwi

Mae gennym gynlluniau yn eu lle i wireddu’r weledigaeth hon. Rydym wedi nodi 7 maes ar gyfer gweithredu, i chwalu rhwystrau traddodiadol a chyflenwi amgylchedd ymchwil clinigol sy’n canolbwyntio ar y claf ac sydd o blaid arloesi.

  1. Gwella cyflymder ac effeithlonrwydd sefydlu’r astudiaeth. Mae hyn yn cynnwys cyflymu costio, contractio a chymeradwyo – i gyd yn feysydd y gwyddom a all achosi oedi. Ac rydym yn mynd ymhellach, i gyflymu cymeradwyo a chyflenwi ymchwil. Er enghraifft, mae’r Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) wedi lansio peilot adolygiad moeseg cyflym ar gyfer treialon clinigol byd-eang a cham I, sy’n ceisio haneru’r amser a gymerir i gymeradwyo ceisiadau ymchwil.

  2. Adeiladu ar lwyfannau digidol i ddarparu ymchwil clinigol. Rydym wedi gweld grym llwyfannau ymchwil digidol yn ystod COVID-19, gydag NHS DigiTrials yn cefnogi cyflenwi treialon brechlyn a therapiwtig yn gyflym. Bellach, mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiannau hyn a chynyddu’r capasiti i lwyfannau digidol wella’r modd y cyflenwir ymchwil. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â beichiau iechyd poblogaeth pwysig eraill, megis canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, yn lleihau’r baich ar staff iechyd a gofal rheng flaen a chefnogi cyflenwi ymchwil ar gyfer triniaethau a thechnolegau blaengar, gan gynnwys meddyginiaethau genomig.

  3. Cynyddu’r defnydd o ddyluniadau ymchwil arloesol. Rydym yn gweld timau astudio ledled y wlad yn addasu dulliau cyflenwi ymchwil i fanteisio ar brosesau a thechnolegau rhithwir yn yr amgylchedd presennol. Mae arnom angen i’r dulliau newydd hyn gael eu mabwysiadu ar draws ymchwil masnachol ac anfasnachol yn y dyfodol. Bydd hyn yn gwneud yn haws i bobl gael mynediad at ymchwil, a bydd hefyd yn rhyddhau capasiti yn y GIG. Trwy helpu i ddarparu’r ymchwil gorau lle mae’n fwyaf addas, byddwn yn parhau i gefnogi astudiaethau arloesol ar gyfer triniaethau a thechnolegau blaengar ar draws pob cam, pob therapi a phob cyflwr.

  4. Alinio ein rhaglenni a’n prosesau ymchwil ag anghenion system iechyd a gofal y DU. Rydym yn edrych tuag at anghenion iechyd y boblogaeth a’r gwasanaeth iechyd yn y dyfodol – er mwyn deall yn well y gofynion a roddir ar y gwasanaeth ac i sicrhau ein bod yn nodi’r ymchwil sydd ei angen fwyaf i gefnogi cleifion a’r GIG ledled y Deyrnas Unedig.

  5. Gwella gwelededd a gwneud cyflenwi ymchwil yn bwysig i’r GIG. Rydym yn ymgysylltu â staff iechyd a gofal ac arweinyddiaeth i wreiddio’r syniad bod ymchwil clinigol yn rhan hanfodol a gwerth chweil o ofal cleifion effeithiol. Ac rydym yn gweithio i greu’r cymhellion ac ysgogiadau yn y system i sicrhau bod staff yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gefnogi ymchwil a gweld y buddion a ddaw yn ei sgil i’w cleifion. Mae hyn yn golygu dal, monitro a hyrwyddo gweithgaredd ymchwil ar draws y GIG – gan gynnwys nifer yr atgyfeiriadau at astudiaethau ymchwil, nifer y cyfranogwyr sy’n cael eu recriwtio, a chasglu data da mewn cofnodion iechyd electronig. Ac mae’n golygu adeiladu ymchwil i mewn i ofynion rheolyddion gofal iechyd ar gyfer cyrff y GIG a gofynion ailddilysu ar gyfer meddygon a nyrsys.

  6. Gwneud ymchwil yn fwy amrywiol ac yn fwy perthnasol i’r DU gyfan. Trwy adeiladu ar ganolfannau rhagoriaeth, fel y Ganolfan Iechyd BME yng Nghaerlŷr, byddwn yn cynyddu’r gefnogaeth i ymchwil mewn poblogaethau mwy amrywiol nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Byddwn hefyd yn sicrhau, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, bod ymchwil yn cael ei gyflenwi yn y mannau hynny lle mae’r cleifion â’r anghenion mwyaf yn byw. Mae hyn yn golygu cynyddu’r capasiti a’r hyder i gyflenwi ymchwil mewn ardaloedd sydd â’r beichiau gofal iechyd mwyaf a’r lefelau amddifadedd uchaf.

  7. Cryfhau cyfranogiad y cyhoedd, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth mewn ymchwil. Byddwn yn ehangu cefnogaeth i helpu noddwyr i gael mynediad hawdd at grwpiau cleifion a all gefnogi datblygiad eu hastudiaethau. Byddwn yn sicrhau bod ymchwil a ariennir yn gyhoeddus yn modelu’r safonau uchaf o ran cyfranogiad y cyhoedd, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth wrth ddylunio a chyflenwi ymchwil, ac yn parhau i bartneru â chyllidwyr eraill i wella amrywiaeth ac ymgysylltiad ar draws yr holl ymchwil clinigol.

Y camau nesaf

Dilynir cyhoeddi’r weledigaeth hon ledled y DU gan gynlluniau a strategaethau ar draws llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn ddiweddarach eleni. Bydd y rhain yn nodi’r hyn y byddwn yn ei gyflawni yn ystod 2021 i 2022.

Mae iechyd yn fater datganoledig, ac felly mae gan bob gweinyddiaeth unigol yr hyblygrwydd i gyflawni’r weledigaeth yn y ffordd sydd fwyaf effeithiol i’w phoblogaeth. Fodd bynnag, mae’r 4 weinyddiaeth wedi ymrwymo i gydweithio ar y cyd a, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, byddwn yn cronni ein hymdrechion ar y cyd ac yn defnyddio dulliau ledled y DU. Unwaith y bydd cyflenwi ar gyfer 2021 i 2022 ar y gweill a bod ein sylfeini cryf yn eu lle, byddwn wedyn yn gosod ein golygon hyd yn oed yn uwch.

Bydd cynllun manwl a fydd yn cyflenwi ein gweledigaeth ac yn rhyddhau gwir botensial ymchwil clinigol y DU. Gyda’n gilydd, gallwn greu amgylchedd cyflenwi ymchwil sy’n gwella bywydau cleifion, yn lefelu cyfleoedd economaidd ledled y DU ac yn cryfhau ein gwytnwch iechyd, i gyd tra’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Dyma beth sydd ei angen ar y DU, yr hyn y mae cleifion yn ei haeddu, a’r hyn sy’n rhaid i ni ei gyflenwi.