Ffurf safonol arwystl: cymeradwyo (ACD)
Ffurflen gais ACD: Cymeradwyaeth Cofrestrfa Tir EF o ffurf safonol gweithred arwystl, a neilltuo cyfeirnod swyddogol Cofrestrfa Tir EF.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn sefydliad rhoi benthyg neu’n gweithredu ar ran rhoddwr benthyg ac mae angen gwneud cais am gymeradwyaeth ffurf safonol gweithred arwystl (a elwir hefyd yn ‘weithred morgais’). Mae’n cynnwys neilltuo cyfeirnod swyddogol Cofrestrfa Tir EF.
I ganfod ble i anfon y ffurflen wedi’i llenwi, gweler Cymeradwyo dogfennau morgais (CY30).