Ffurflen

Morgais digidol: cymeradwyo (e-ACD)

Ffurflen gais e-ACD: Cymeradwyaeth Cofrestrfa Tir EF am forgais digidol a neilltuo cyfeirnod swyddogol e-MD.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Morgais digidol: cymeradwyo (e-ACD)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customersupport@mail.landregistry.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn sefydliad rhoi benthyg neu’n gweithredu ar ran rhoddwr benthyg ac mae angen gwneud cais am gymeradwyaeth gweithred morgais ddigidol. Mae hyn yn cynnwys neilltuo cyfeirnod swyddogol e-MD Cofrestrfa Tir EF.

Rhaid ichi sicrhau hefyd fod fersiwn papur o’r un weithred wedi ei gymeradwyo trwy ddefnyddio Ffurf safonol arwystl: cymeradwyo (ACD).

Gallwch anfon y ffurflen ACD ar ei phen ei hun, yr e-ACD ar ei ben ei hun os cafodd y weithred morgais bapur ei chymeradwyo beth amser yn ôl, neu anfon y ddau gyda’i gilydd.

Os nad ydych yn anfon y ffurflen ACD, ni fydd yn eich atal rhag defnyddio’r gwasanaeth digidol, ond byddai’n achosi problem os na all cymerwr benthyg ddefnyddio’r gwasanaeth digidol am ryw reswm ac mae angen ei chwblhau ar bapur.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon ymateb atoch trwy ebost.

Ffïoedd a chyfeiriad

Ni chodir unrhyw ffioedd ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Anfonwch y ffurflen hon trwy ebost i CommericalArrangements@landreisgtry.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 28 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 March 2019 + show all updates
  1. Form amended to replace 'mortgage' with 'charge' under 'Effective date and time' in panel 7.

  2. Added translation