Canllawiau

[Diddymwyd] Ap COVID-19 y GIG: datrys problemau a gwybodaeth dechnegol

Diweddarwyd 28 March 2023

This canllawiau was withdrawn on

The NHS COVID-19 app has closed down, so this content is out of date.

It is important that you continue to follow the latest guidance to protect yourself and others:

This includes reporting NHS lateral flow test results on GOV.UK. If you’re eligible for COVID-19 treatment, you must report your result so the NHS can contact you about treatment.

Find out about:


Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

Applies to England and Wales

Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Canllawiau COVID-19 Lloegr ar nhs.uk
Canllawiau COVID-19 Cymru ar LLYW.CYMRU

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

pam mae’r ap wedi cau
am eich data ap a phreifatrwydd

Cael neges gwall

‘Yn anffodus, dydy’r ap ddim yn gweithio’

Mae sawl rheswm pam y gallech dderbyn y neges hon.

Efallai nad ydy eich ffôn yn gallu delio â’r ap. Rhagor o wybodaeth am ba ffonau sy’n gallu, neu ddim yn gallu, defnyddio ap COVID-19 y GIG.

Efallai fod gennych chi osodiadau cyfyngedig ar eich ffôn sy’n eich atal rhag defnyddio’r ap. Mae hyn yn fwyaf cyffredin os oes gennych chi ffôn gwaith neu os oes meddalwedd arbennig ar eich ffôn personol am eich bod yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith.

Efallai eich bod yn defnyddio fersiynau 6 i 10 OS Android ac mae rhannu lleoliad wedi ei analluogi.

Efallai fod gennych ap arall ar eich ffôn sy’n defnyddio’r un dechnoleg olrhain cysylltiadau ac sy’n atal ap COVID-19 y GIG rhag gweithio.

Os oes gennych chi iPhone, gwnewch yn siŵr fod ‘Exposure notifications’ ac ‘active region’ wedi’u galluogi yng ngosodiadau eich ffôn drwy ddilyn y camau hyn:

  1. Ewch i osodiadau eich ffôn a dewis ‘Exposure notifications’.
  2. Gwnewch yn siŵr fod ‘active region’ wedi’i osod fel ‘England and Wales - Department of Health and Social Care’.
  3. Dewiswch y saeth wrth ymyl yr opsiwn hwn, yna sgroliwch i lawr i ‘Share exposure information’.
  4. Gwnewch yn siŵr fod y botwm toglo ar gyfer ‘Share exposure information’ wedi’i droi ymlaen.

Ar ôl i chi gwblhau’r camau hyn, ewch yn ôl i ap COVID-19 y GIG a dilyn unrhyw negeseuon gosod.

Os ydych chi’n dal i gael problemau, defnyddiwch y ffurflen adborth i roi gwybod am broblem dechnegol.

Stopio amserydd yr ap

Os ydych chi wedi cael canlyniad positif yn ddiweddar neu wedi cofrestru symptomau, efallai y bydd ap COVID-19 y GIG wedi eich cynghori i aros gartref. Bydd yn rhoi amserydd i chi allu cadw golwg ar hyn. Does dim modd i chi stopio’r amserydd ac ni fyddwch yn cael hysbysiadau cysylltiad agos nes bydd yr amserydd wedi dod i ben.

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am symptomau mewn camgymeriad, ac os nad oes gennych chi symptomau COVID-19, does dim modd i chi ganslo’r amserydd yn yr ap. Os ydych chi wedi dechrau’r amserydd mewn camgymeriad, byddem yn eich cynghori i’w anwybyddu y tro hwn. Dim ond ar eich ffôn fydd hwn, ac ni fydd unrhyw un arall yn gallu ei weld.

Defnyddio batri eich ffôn

Mae’r ap yn defnyddio Bluetooth Ynni Isel (BLE) a system hysbysiadau cysylltiad Google neu Apple, sydd wedi’u dylunio i gael cyn lleied o effaith â phosibl ar fatri eich ffôn symudol, yn enwedig os ydy Bluetooth ar waith gennych fel arfer.

Os ydy batri eich ffôn yn cael ei ddefnyddio’n llawer mwy cyflym nag arfer, gallwch edrych faint o fatri mae’r ap yn ei ddefnyddio o’i gymharu ag apiau eraill.

Gallwch ddod o hyd i hyn ar eich ffôn drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod (efallai y bydd y camau ychydig yn wahanol, yn dibynnu ar eich ffôn):

  • Apple iOS: Settings > Battery
  • Android: Settings > Device Care > Battery

Wrth ddefnyddio’r ffôn o ddydd i ddydd, ni ddylai’r hysbysiadau cysylltiad ddefnyddio mwy na 5% o’r batri. Fodd bynnag, os ydy eich ffôn yn segur (er enghraifft, os nad ydych chi’n ei ddefnyddio’n aml), gall hysbysiadau cysylltiad gyfrannu at ganrannau uwch o ran defnydd o’r batri. Dydy hyn ddim o reidrwydd yn golygu bod yr ap neu’r hysbysiadau cysylltiad yn defnyddio mwy o’r batri yn gyffredinol.

Wrth bennu faint o’r batri sy’n cael ei ddefnyddio gan yr ap, dylech gadw llygad arno dros gyfnod o wythnos i gael gwell dealltwriaeth o weithgarwch y batri.

Gallwch ddod o hyd i ddadansoddiad o’r defnydd o’r batri yng ngosodiadau eich ffôn. Bydd y dadansoddiad o’r defnydd o’r batri yn dibynnu ar ba gyfuniad o apiau sy’n rhedeg ar eich ffôn ar y pryd. Os bydd llawer o apiau’n cael eu defnyddio, bydd pob ap yn dangos canran is o ran defnydd o’r batri. Fodd bynnag, os mai dim ond un ap sy’n rhedeg, gall ymddangos fel bod 100% o’r batri’n cael ei ddefnyddio ganddo ar y pwynt penodol hwnnw. Felly, mae’n bwysig ystyried pa apiau eraill sydd hefyd yn cael eu defnyddio.

Rhannu allweddi a chyfatebiadau yng ngosodiadau hysbysiadau cysylltiad

Mae ap COVID-19 y GIG yn defnyddio technoleg Apple a Google i fonitro cysylltiadau’n ddienw. Yng ngosodiadau eich ffôn, gallwch weld adran ar hysbysiadau cysylltiad neu gofnodion cysylltiad.

Os oes gennych chi iPhone, ewch i ‘Settings’ yna ‘Exposure notifications’ ac ‘Exposure logging status’.

Os oes gennych chi ffôn Android, ewch i ‘Settings’ yna ‘Exposure notifications’.

Ar y ddau fath o ffôn, os byddwch chi’n taro ‘Exposure checks’ byddwch yn gallu gweld rhestr o stampiau amser sy’n cael eu cofnodi bob tro mae eich ffôn yn derbyn rhestr o ‘allweddi’ dienw.

Yn y gosodiadau hyn, mae darparwr eich ffôn (Apple neu Google) yn rhoi trosolwg o’r cysylltiadau digidol (cofnodion cysylltiad) a sut mae’r dechnoleg GAEN yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys nifer y gwiriadau cysylltiad dros y 14 diwrnod diwethaf.

Mae’n rhestru pob un o’ch cysylltiadau digidol gyda defnyddwyr eraill yr ap rydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â nhw.

Dydy ap COVID-19 y GIG ddim yn cadw unrhyw ddata a fyddai’n dangos pwy yw rhywun. Mae’r dechnoleg cysylltiad digidol yn cyfnewid codau unigryw, sy’n cael eu newid yn rheolaidd, i greu cofnod o’ch cysylltiadau agos sy’n sicrhau preifatrwydd holl ddefnyddwyr ap COVID-19 y GIG.

Galluogi hysbysiadau cysylltiad

Os oes gennych chi iPhone sy’n rhedeg iOS 13.7 neu uwch, efallai y byddwch chi’n cael trafferth gosod ap COVID-19 y GIG am y tro cyntaf.

Pan fyddwch chi wedi llwytho’r ap i lawr ac yn ei osod, byddwch yn cael hysbysiad yn gofyn i chi alluogi ‘Exposure notifications’.

Os byddwch chi’n dewis ‘don’t enable’, bydd neges yn ymddangos ar y sgrin sy’n dweud ‘For this app to work, you must allow permissions on your device.’ Cewch eich annog i fynd i’ch gosodiadau gyda’r neges ‘go to settings’.

  1. Ewch i osodiadau eich ffôn a dewis ‘Exposure notifications’.
  2. Gwnewch yn siŵr fod ‘active region’ wedi’i osod fel ‘England and Wales - Department of Health and Social Care’.
  3. Dewiswch y saeth wrth ymyl yr opsiwn hwn, yna sgroliwch i lawr i ‘share exposure information’.
  4. Gwnewch yn siŵr fod y botwm toglo ar gyfer ‘share exposure information’ wedi’i droi ymlaen.

Ar ôl i chi gwblhau’r camau hyn, ewch yn ôl i ap COVID-19 y GIG a dilyn unrhyw negeseuon gosod.

Os nad oes modd dewis ‘Set as active region’, neu os yw’n dal ddim yn gweithio, rhowch gynnig ar y canlynol.

Yn eich gosodiadau:

  1. Ewch i ‘General’.
  2. Dewiswch ‘Reset’.
  3. Dewiswch ‘Reset location and privacy’.

Cael rhybudd am argaeledd yr ap

Caiff ap COVID-19 y GIG ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd gyda swyddogaethau newydd a gwelliannau. Mae fersiwn ddiweddaraf yr ap yn rhoi’r amddiffyniad gorau yn erbyn COVID-19, felly mae’n bwysig eich bod yn ei ddiweddaru.

Weithiau, pan fydd diweddariad i’r ap yn bwysig iawn, efallai y byddwn yn anfon neges atoch yn gofyn i chi ddiweddaru eich ap neu system weithredu. Os yw’r diweddariad yn hanfodol i’r ap weithio’n iawn, bydd hen fersiwn yr ap yn stopio gweithio a bydd angen i chi ei uwchraddio.

Os bydd angen i chi ddiweddaru eich ap, bydd yr hysbysiad yn dweud:

Mae argaeledd yr ap wedi newid.

neu

Dydy’r ap ddim ar gael ar hyn o bryd.

Pan fyddwch yn taro’r hysbysiad byddwch yn cael neges sy’n dweud:

Diweddarwch yr ap hwn. Mae’r fersiwn hon o’r ap yn annilys bellach dyddio ac mae wedi stopio gweithio.

Ewch i’r App Store neu Google Play Store a’i ddiweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf i helpu i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel.

Dysgwch sut mae diweddaru’r ap.