Canllawiau

[Diddymwyd] Ap COVID-19 y GIG: sut mae defnyddio’r ap

Diweddarwyd 28 March 2023

This canllawiau was withdrawn on

The NHS COVID-19 app has closed down, so this content is out of date.

It is important that you continue to follow the latest guidance to protect yourself and others:

This includes reporting NHS lateral flow test results on GOV.UK. If you’re eligible for COVID-19 treatment, you must report your result so the NHS can contact you about treatment.

Find out about:


Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

Applies to England and Wales

Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Canllawiau COVID-19 Lloegr ar nhs.uk
Canllawiau COVID-19 Cymru ar LLYW.CYMRU

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

pam mae’r ap wedi cau
am eich data ap a phreifatrwydd

Sut mae rhoi canlyniad prawf positif

Os ydych o dan 18 oed ac yn profi’n bositif am COVID-19, dylech hysbysu oedolyn y gallwch ymddiried ynddo cyn cymryd unrhyw gamau.

Mewnbynnu canlyniad prawf

Os ydych chi’n defnyddio fersiwn ap 5.0 neu’n hwyrach, gallwch nodi unrhyw ganlyniad prawf lif unffordd positif neu PCR positif ar gyfer olrhain cyswllt, boed o brawf GIG neu brawf y gwnaethoch dalu amdano. Ni ofynnir i chi nodi cod 8 nod, hyd yn oed os oes gennych un gan y gwasanaeth profi COVID-19.

Ni allwch nodi canlyniad negyddol neu wag, oherwydd bydd yr ap ond yn derbyn canlyniad prawf positif ar gyfer olrhain cyswllt.

Os ydych chi’n defnyddio fersiwn hŷn o’r ap (yn gynharach na 5.0), dim ond canlyniad prawf o brawf GIG y gallwch chi ei nodi a gofynnir i chi nodi cod 8 nod. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf i gael y nodweddion a’r canllawiau diweddaraf.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n nodi canlyniad prawf

Pan fyddwch yn nodi’ch canlyniad positif, gallwch ddewis rhannu’ch canlyniad ar gyfer olrhain cyswllt. Bydd yr ap yn hysbysu defnyddwyr ap eraill a oedd yn agos atoch chi yn ddienw y gallent fod mewn perygl.

Byddant yn cael rhybudd ‘cyswllt agos’ ac yn cael eu cyfeirio at ganllawiau ar sut i gadw’n ddiogel a diogelu eraill. Ni fydd yn ofynnol iddynt aros gartref (hunanynysu). Mae olrhain cysylltiadau yn helpu atal lledaeniad COVID-19.

Byddwch hefyd yn cael y cyngor iechyd diweddaraf yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd gennych.

Nid yw’r ap yn cyrchu’ch manylion personol nac yn olrhain eich lleoliad. Nid yw’n rhannu eich canlyniad â gwasanaethau eraill.

Os gwnaethoch gymryd prawf llif unffordd y GIG

Nid yw dweud wrth yr ap am eich canlyniad llif unffordd GIG ar gyfer olrhain cyswllt dienw yr un peth ag adrodd eich canlyniad i wasanaeth profi COVID-19 ar GOV.UK

Os cawsoch brawf llif unffordd y GIG, dylech roi gwybod am eich canlyniad ar GOV.UK os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - gallwch hefyd wneud hyn drwy ffonio 119 (dim ond os yw’n bositif).

Sylwer: Ni allwch roi gwybod am ganlyniad ar GOV.UK (neu drwy ffonio 119) fwy na 24 awr ar ôl cymryd y prawf. Ni allwch roi gwybod am ganlyniad prawf y talwyd amdano ar GOV.UK neu drwy ffonio 119.

Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad llif unffordd GIG fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Os cewch neges gwall wrth geisio nodi cod yn yr ap

Mae’n bosibl y cewch y neges gwall ganlynol pan geisiwch nodi canlyniad eich prawf COVID-19 yn yr ap: ‘Nid yw’r cod yn cael ei gydnabod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cod dilys.’

Yn fersiwn ap 5.0 neu ddiweddarach, nid oes angen i chi nodi cod 8 nod mwyach i nodi canlyniad prawf. Dylech ddiweddaru’ch ap i’r fersiwn ddiweddaraf, yna ail-gofnodwch eich canlyniad prawf yn yr ap.

Sut mae gwirio symptomau

Gallwch wirio eich symptomau yn yr ap drwy ddewis y botwm ‘Gwirio symptomau’. Gofynnir nifer o gwestiynau syml lle bydd angen i chi ateb ‘oes’ neu ‘nac oes’. Pan fyddwch chi wedi ateb y cwestiynau, gallwch wirio’r crynodeb o’ch atebion cyn i chi gyflwyno’r wybodaeth hon ar yr ap. Bydd yr ap yn darparu arweiniad perthnasol yn seiliedig ar eich atebion a ble rydych chi’n byw. Cadwch yr ap yn gyfredol i sicrhau eich bod yn derbyn y canllawiau iechyd diweddaraf. Gall canllawiau amrywio rhwng Cymru a Lloegr.

Gallwch gofnodi symptomau hyd at 5 diwrnod yn y gorffennol.

Sut mae diweddaru’r ap

Mae ap COVID-19 y GIG yn cael ei ddiweddaru’n aml gyda gwelliannau i’r cynnwys, hygyrchedd a swyddogaethau. Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru’r ap er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cyngor a’r canllawiau diweddaraf.

Yn dibynnu ar eich ffôn a gosodiadau diweddaru eich apiau, efallai y bydd yr ap yn diweddaru’n awtomatig.

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am sut mae galluogi uwchraddio ap yn awtomatig, neu sut mae uwchraddio’r ap eich hun:

Gan fod yr ap yn defnyddio technoleg gan Apple a Google, mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio fersiwn ddiweddaraf system weithredu eich ffôn.

Weithiau, pan fydd diweddariad i’r ap yn bwysig iawn, efallai y byddwn yn anfon neges atoch yn gofyn i chi ddiweddaru eich ap neu system weithredu.

Sut mae defnyddio’r ap mewn gwlad arall

Mae’r ap ar gael yng Nghymru a Lloegr.

Nid yw’n gydnaws ag apiau olrhain cyswllt mewn gwledydd eraill. Felly, os ydych yn teithio y tu allan i Gymru neu Loegr, ni fyddwch yn derbyn unrhyw rybuddion o ganlyniad i ‘gyswllt agos’ â rhywun sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 ac wedi rhannu eu canlyniad gan ddefnyddio ap eu gwlad eu hunain.

Os byddwch chi’n datblygu symptomau, yn cael prawf positif am COVID-19 neu’n cael hysbysiad cysylltiad tra byddwch chi oddi cartref, dylech bob amser ddilyn canllawiau lleol y wlad rydych chi ynddi.

Mae gwasanaeth ymholiadau Cael cymorth gyda COVID-19 ar gael os oes gennych chi ymholiad penodol am deithio’n rhyngwladol.

Sut mae dileu’r ap

Dydy’r ap ddim yn orfodol a gallwch ei ddileu fel y mynnoch.

Mae cyfarwyddiadau ar sut mae dileu apiau ar eich ffôn clyfar ar gael ar gyfer y canlynol:

Os byddwch chi’n dewis dileu’r ap, ni fyddwch yn cael rhybuddion na hysbysiadau mwyach.