Canllawiau

Ap COVID-19 y GIG: canllawiau ar lawrlwytho a gosod

Darllenwch ein canllawiau ar sut mae lawrlwytho a gosod ap COVID-19 y GIG.

This guidance was withdrawn on

The NHS COVID-19 app has closed down, so this content is out of date.

It is important that you continue to follow the latest guidance to protect yourself and others:

This includes reporting NHS lateral flow test results on GOV.UK. If you’re eligible for COVID-19 treatment, you must report your result so the NHS can contact you about treatment.

Find out about:


Tynnwyd y canllawiau hyn yn ôl ar 27 Ebrill 2023

Mae ap COVID-19 y GIG wedi cau.

Mae’r cynnwys hwn wedi dyddio.

Mae’n bwysig eich bod yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i ddiogelu hun ac eraill:

Mae hyn yn cynnwys adrodd canlyniadau profion llif unffordd y GIG ar GOV.UK. Os ydych yn gymwys ar gyfer triniaeth COVID-19, rhaid i chi adrodd eich canlyniad fel y gall y GIG gysylltu â chi ynglŷn â thriniaeth.

Dysgwch:

Applies to England and Wales

Llwytho’r ap i lawr

Caiff yr ap ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd gyda swyddogaethau newydd a gwelliannau. Mae’r fersiwn ddiweddaraf yn cynnwys y nodweddion a’r cyngor diweddaraf felly mae’n bwysig eich bod yn ei diweddaru.

Dewiswch y math o ffôn sydd gennych i ddechrau arni.

Sut mae llwytho’r ap i lawr ar iPhone

Sut mae llwytho’r ap i lawr ar ffôn Android

Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o ffôn sydd gennych, bydd gan iPhone ap arno o’r enw App Store. Ar ffonau Android, yr enw arno yw Play Store. Gallwch hefyd edrych sut fath o ffôn sydd gennych chi drwy fynd i Settings > General > About > Model name. Os oes gennych chi iPhone bydd yn cadarnhau hyn yn ‘Model name’.

Bydd eich ffôn yn dangos ‘Android version’ yn Settings > About phone, os mai ffôn Android sydd gennych chi.

Ar gyfer eich pàs COVID y GIG, defnyddiwch ap y GIG ar wahân.

Mae’r ap wedi’i ddylunio i gael ei ddefnyddio gan un person fesul ffôn. Dylech lwytho’r ap i lawr a’i ddefnyddio ar eich ffôn clyfar eich hun, os oes gennych chi un.

Os oes gennych chi fwy nag un ffôn, gosodwch yr ap ar y ffôn rydych chi’n ei ddefnyddio amlaf a’i gario gyda chi bob amser. Os mai ffôn gwaith yw’r ffôn rydych chi’n ei ddefnyddio amlaf a’ch bod yn cael trafferth llwytho’r ap i lawr, holwch eich cyflogwr.

Canllawiau ar lawrlwytho a gosod ar gyfer Android

Cam 1: Dewch o hyd i ap COVID-19 y GIG ar Google Play Store, a’i osod

Dilynwch y camau hyn i ddod o hyd i’r ap ar eich ffôn Android:

  1. Chwiliwch am ap Google Play Store a’i daro i’w agor.
  2. Tarwch y blwch chwilio ‘Search for apps and games’.
  3. Teipiwch ‘NHS COVID-19’ i chwilio am yr ap. Byddwch yn gweld rhestr o ganlyniadau. Dewiswch yr ap gyda’r enw ‘NHS COVID-19’.
  4. Tarwch ‘Install’ i ddechrau llwytho’r ap i lawr.

Cam 2: Trowch Bluetooth ymlaen yng ngosodiadau eich ffôn

Ar ôl llwytho’r ap i lawr, bydd angen i chi alluogi Bluetooth fel bod olrhain cysylltiadau’n gweithio.

  1. Ewch i sgrin hafan eich ffôn. Chwiliwch am ‘Settings’ a’i daro i’w agor.
  2. Sgroliwch i lawr yn ‘Settings’ nes i chi ddod at ‘Connected devices’ neu ‘Connections’ a’i daro i’w agor.
  3. Chwiliwch am ‘Bluetooth’ a’i daro. Efallai y bydd angen i chi agor ‘Connected preferences’ i ddod o hyd i Bluetooth, yn dibynnu ar fodel eich ffôn.
  4. Tarwch y llithrydd wrth ymyl Bluetooth i’w alluogi. Dylai newid lliw pan fydd Bluetooth ymlaen.
  5. Efallai y bydd eich ffôn yn gofyn i chi ddewis dyfais Bluetooth gerllaw. Does dim angen gwneud hyn i olrhain cysylltiadau weithio, felly gallwch gau’r sgrin hon os yw’n ymddangos.

Cam 3: Defnyddio’r ap

  1. Ewch yn ôl i sgrin hafan eich ffôn lle gallwch weld pob un o’ch apiau. Chwiliwch am ap COVID-19 y GIG a’i daro i’w agor.
  2. Mae ap COVID-19 y GIG yn weithredol nawr.
  3. Gallwch ddefnyddio eich ffôn yn ôl yr arfer. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr ap yn rhedeg yn y cefndir a bod Bluetooth wedi’i alluogi fel bod olrhain cysylltiadau’n gweithio.

Canllawiau ar lawrlwytho a gosod ar gyfer iPhone

Cam 1: Dewch o hyd i ap COVID-19 y GIG ar App Store, a’i osod

Dilynwch y camau hyn i ddod o hyd i’r ap ar eich iPhone:

  1. Chwiliwch am ap App Store a’i daro i’w agor.
  2. Cliciwch ar ‘Search’ yng ngwaelod y sgrin.
  3. Teipiwch ‘NHS COVID-19 app’ yn y bar chwilio. Byddwch yn gweld rhestr o ganlyniadau. Ar eich sgrin byddwch nawr yn gallu gweld ap COVID-19 y GIG.
  4. Tarwch y botwm ‘Get’.
  5. Efallai y gofynnir i chi deipio manylion eich Apple ID i gadarnhau pwy ydych chi. Gallwch hefyd ddefnyddio’r dull dilysu gydag ôl bys neu wyneb, os ydych chi wedi galluogi’r rhain yn barod.

Cam 2: Trowch Bluetooth ymlaen yng ngosodiadau eich iPhone

Ar ôl llwytho’r ap i lawr, bydd angen i chi alluogi Bluetooth fel bod olrhain cysylltiadau’n gweithio.

  1. Ewch i sgrin hafan eich iPhone. Chwiliwch am ‘Settings’ a’i daro i’w agor.
  2. Sgroliwch i lawr yn y Gosodiadau nes i chi ddod o hyd i Bluetooth. Tarwch arno i’w agor.
  3. Tarwch y llithrydd wrth ymyl Bluetooth i’w alluogi. Dylai droi’n wyrdd pan fydd Bluetooth ymlaen.

Cam 3: Defnyddio’r ap

  1. Ewch yn ôl i sgrin hafan eich ffôn lle gallwch weld pob un o’ch apiau. Chwiliwch am ap ‘NHS COVID-19’ a’i daro i’w agor.
  2. Mae ap COVID-19 y GIG yn weithredol nawr.
  3. Gallwch ddefnyddio eich ffôn yn ôl yr arfer, ond gwnewch yn siŵr fod yr ap yn cael ei redeg yn y cefndir a bod Bluetooth wedi’i alluogi.

Rhoi eich cod post

Bydd yr ap yn gofyn i chi am ran gyntaf eich cod post. Er enghraifft, ‘PE12’. Ni fydd yn darparu’r union leoliad lle rydych chi’n byw. Os yw eich rhanbarth post yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd yr ap yn gofyn i chi ym mha awdurdod lleol rydych chi’n byw. Diben hyn yw sicrhau bod yr ap yn gallu rhoi’r wybodaeth fwyaf cywir i chi ar gyfer eich ardal.

Newid iaith

Mae’r ap ar gael yn Gymraeg, Saesneg, Arabeg (Safon Fodern), Bengaleg, Tsieinëeg (Wedi’i symleiddio), Gwjarati, Pwyleg, Pwnjabeg (sgript Gurmukhi), Rwmaneg, Somalieg, Tyrceg ac Wrdw.

I newid iaith yr ap, dewiswch Gosodiadau ar sgrin hafan ap COVID-19 y GIG. Efallai y bydd yn rhaid i chi lwytho fersiwn ddiweddaraf yr ap i lawr.

O dan Gosodiadau, dewiswch Iaith. Bydd yr ap yn dangos y canlynol.

Iaith y system

Dyma osodiad iaith eich ffôn.

Ieithoedd

Yma, gallwch ddewis ym mha iaith rydych chi am ddefnyddio ap COVID-19 y GIG. Gall fod yn wahanol i iaith eich system. Pan fyddwch chi wedi dewis yr iaith, bydd angen i chi gadarnhau eich dewis. Bydd eich ap nawr yn ymddangos yn yr iaith rydych chi wedi’i dewis.

Newid y gosodiadau hygyrchedd

Mae ap COVID-19 y GIG yn ap cynhenid sydd wedi’i greu ar gyfer dyfeisiau Apple iOS ac Android. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddefnyddio’r gosodiadau hygyrchedd parod ar eich ffôn i deilwra’r gofynion hygyrchedd yn ôl yr angen.

Ewch i ‘Settings’ yna ‘Accessibility’ i wneud newidiadau. Sylwch y bydd y newidiadau’n cael eu gwneud i’ch ffôn ac nid i’r ap yn unig.

Mae’n bosibl diffodd animeiddiad y cylchoedd sy’n symud ar sgrin hafan ap COVID-19 y GIG drwy osodiadau’r ap. Os oes gennych chi iPhone, ewch i ‘Settings’ ac yna ‘Motion (Animations)’ a dewis ‘ymlaen’ neu ‘diffodd’, pa un bynnag sydd orau gennych. Ar yr iPhone, efallai y bydd yr animeiddiad wedi cael ei ‘ddiffodd’ yn awtomatig oherwydd gosodiad ar eich ffôn o’r enw ‘Reduce Motion’. I newid ‘Reduce Motion’, ewch i ‘Settings’ yna ‘Accessibility’. Dewiswch ‘Motion’, yna gallwch droi ‘Reduce Motion’ ymlaen neu ei ddiffodd. Os oes gennych chi ffôn Android, ewch i ‘Settings’ yna ‘Animations’, a dewiswch ‘on’ neu ‘off’, pa un bynnag sydd orau gennych.

Newid eich cod post

Gallwch chi newid eich cod post yn yr ap drwy fynd i’r sgrin hafan a mynd i ‘Gosodiadau’. O’r fan honno, cliciwch ‘Data ardal’ yna ‘Golygu’. Os yw eich rhanbarth post yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol, bydd yr ap yn gofyn i chi ym mha awdurdod lleol rydych chi’n byw. Ewch i GOV.UK i ganfod ym mha awdurdod lleol rydych chi’n byw.

Ni ddylech olygu eich rhanbarth post oni bai eich bod wedi symud tŷ a bod rhanbarth post eich cartref wedi newid o ganlyniad i hynny.

Atal y cyfleuster olrhain cysylltiadau

Dylech atal y cyfleuster olrhain cysylltiadau pan fyddwch:

  • yn gweithio y tu ôl i sgrin ac yn cael eich diogelu’n llwyr rhag pobl eraill
  • yn cadw eich ffôn mewn locer neu fan cymunedol, er enghraifft wrth weithio neu gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden fel nofio
  • yn weithiwr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn gwisgo cyfarpar diogelu personol graddfa feddygol, fel masg llawfeddygol
  • yn weithiwr gofal iechyd sy’n gweithio mewn adeilad gofal iechyd fel ysbyty neu feddygfa meddyg teulu

Gallwch osod nodyn atgoffa i roi’r cyfleuster olrhain cysylltiadau ar waith eto ar ôl 4 awr, 8 awr neu 12 awr.

Cyhoeddwyd ar 13 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 March 2023 + show all updates
  1. Added notice explaining that the app will be closing down on 27 April.

  2. Added Welsh version.

  3. First published.