Gwneud hawliad meddiannu cyflym ar gyfer eiddo a leolir yn gyfan gwbl yn Lloegr: Ffurflen N5B
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud hawliad meddiannu cyflym ar gyfer eiddo rydych yn berchen arno yn Lloegr. Gall Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 effeithio ar eich hawliad – gweler 'Manylion' ar y dudalen hon.
Dogfennau
Manylion
Deddf Hawliau Rhentwyr
O’r 1 May 2026, os ydych yn landlord preifat ar eiddo yn Lloegr, gallwch ond gwneud hawliad cyflym os ydych wedi cyflwyno hysbysiad adran 21 ar eich tenant cyn 1 Mai 2026.
Bydd arnoch angen gofyn i’r llys gyhoeddi’r hawliad erbyn pa un bynnag o’r dyddiadau canlynol sy’n dod gyntaf:
- dyddiad dirwyn i ben yr hysbysiad adran 21
- 31 Gorffennaf 2026
Gweler yr arweiniad ar y broses y mae’n rhaid i chi ei dilyn pan fyddwch yn cyflwyno hysbysiad troi allan cyn 1 Mai 2026 i gael mwy o wybodaeth.
Gallwch barhau i wneud cais N5B o dan yr un rheolau â’r cyfnod cyn 1 Mai 2026, dim ond os ydych:
- yn ddarparwr awdurdod lleol o dai cymdeithasol ar gyfer tenantiaeth sicr yn Lloegr
- yn ddarparwr preifat cofrestredig o dai cymdeithasol ar gyfer tenantiaeth sicr yn Lloegr
- yn landlord preifat neu landlord cymdeithasol i eiddo yng Nghymru – fodd bynnag, rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen N5B Cymru
Gweler Rhoi eich eiddo ar rent: arweiniad ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod tai i gael mwy o wybodaeth.
Anfonwch eich ffurflen i’r llys sirol sydd agosaf at yr eiddo rydych yn hawlio meddiannaeth ohono.
Dewch o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.
Dysgwch sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
-
Added the Welsh landing page.
-
New forms and information for the Renters' Rights Act.
-
Updated N5B form.
-
Updated N5B Form.
-
Updated form N5B.
-
English version updated
-
First published.