Ffurflen

Sut i lenwi ffurflen IHT100c

Diweddarwyd 25 Gorffennaf 2025

Pryd y dylech lenwi’r ffurflen hon 

Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i CThEF am asedion mewn ymddiriedolaeth nad ydynt yn eiddo perthnasol mwyach.  

Cyn i chi ddechrau  

Dylech gwblhau pob maes. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen. 

Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl nodiadau perthnasol cyn i chi ddechrau i lenwi’r ffurflen.  

Gellid cynnwys rhai mathau o asedion mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, fel stociau a chyfranddaliadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu rhoi yn yr adran gywir. Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran.   

Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc sy’n dangos y balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.  

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych chi wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen – efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen.  

Adran A: ynghylch y setlwr 

Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion personol y setlwr.  

Os oedd y trosglwyddiad cyn 6 Ebrill 2025

Gwiriwch y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant drwy ddefnyddio’r llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd domisil y setlwr yn y DU neu fod ei ddomisil wedi’i ystyried ei fod yn y DU.

Os oedd y trosglwyddiad ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025

Gwiriwch reolau preswylio hirdymor y DU yn y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd y trosglwyddwr yn breswylydd hirdymor yn y DU.

Adran B: manylion y person neu’r busnes sy’n delio â’r digwyddiad hwn 

Dylech gynnwys enw a manylion personol y person sy’n delio â’r digwyddiad trethadwy.   

Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen heb gymorth cyfreithiwr neu gyfrifydd ac am i CThEF ysgrifennu atoch chi, ond am i rywun arall ddelio â galwadau ffôn, dylech gynnwys awdurdod ysgrifenedig ar wahân pan fyddwch yn anfon y ffurflen atom.   

Adran C: ynglŷn â’r ymddiriedolaeth  

Os ydych yn ymddiriedolwr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth.  

Os yw’r ymddiriedolaeth eisoes wedi’i chofrestru, gwnewch yn siŵr bod y manylion yn gyfredol cyn llenwi’r ffurflen hon. 

Y dyddiad y dechreuodd yr ymddiriedolaeth  

Dyma’r dyddiad pan gafodd yr asedion eu rhoi yn yr ymddiriedolaeth am y tro cyntaf.   

Cyfeirnod Treth Etifeddiant  

Dysgwch sut i gael cyfeirnod Treth Etifeddiant.  

Os nad oes un gennych, gadewch y blwch C4 yn wag.  

Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)  

Rhif 10 digid yw hwn. Byddwch yn cael UTR pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer Treth Incwm neu’n sefydlu cwmni cyfyngedig.   

Dysgwch sut i ddod o hyd i’ch rhif UTR.  

Os nad oes un gennych, gadewch y blwch C5 yn wag. 

Adran D: yr hyn sy’n ffurfio atodlenni eich cyfrif ymddiriedolaeth 

Mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi rhai tudalennau atodol os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol.  

Mae’r trosglwyddwr â’i ddomisil y tu allan i’r DU  

Dylech lenwi atodlen D31 os yw’r trosglwyddwr naill ai:  

  • mae ei ddomisil mewn gwlad dramor  

  • mae ei ddomisil yn cael ei drin fel petai yn y DU  

Dysgwch ragor o wybodaeth am y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg)

Dylech lenwi atodlen D31a os nad oedd y trosglwyddwr yn breswylydd tymor hir yn y DU.

Am ragor o wybodaeth ynghylch reolau preswylio hirdymor yn y DU darllenwch y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw stociau a chyfranddaliadau wedi’u cynnwys  

Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw stociau a chyfranddaliadau.  

Os oedd unrhyw ddyledion yn ddyledus i’r ymddiriedolaeth  

Dylech lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd unrhyw arian ar fenthyg gan yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, morgais neu fenthyciad personol nad yw wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.   

Os oedd unrhyw bolisïau yswiriant yn gysylltiedig  

Dylech lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw bolisïau yswiriant wedi’u cynnwys yn y digwyddiad.  

Os yw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol wedi’u cynnwys  

Dylech lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol.  

Os yw tir ac adeiladau wedi’u cynnwys  

Dylech lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys tir, adeiladau, coed neu dangoed yn y DU.  

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Amaethyddol  

Dylech lenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu rhyddhad ar gyfer eiddo amaethyddol.  

Os ydych yn hawlio Rhyddhad Busnes  

Dylech lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu Rhyddhad Busnes.  

Os yw asedion tramor wedi’u cynnwys  

Dylech lenwi atodlen D39 (yn agor tudalen Saesneg) os yw unrhyw un o’r asedion y tu allan i’r DU.   

Adran E: Asedion yn y DU sy’n agored i dreth 

Mae’n rhaid i chi lenwi adran E gyda manylion yr holl asedion a drosglwyddwyd fel rhan o’r digwyddiad hwn.   

Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi’u gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn y ‘gwerth marchnad agored’.   

Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf.   

Mae’n rhaid i bob blwch ddangos cyfanswm pob math o ased. Er enghraifft, dylai blwch E2 ddangos cyfanswm yr holl gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.   

Asedion lle gellir talu treth mewn rhandaliadau  

Gellir talu asedion a gynhwysir yng ngholofn B mewn rhandaliadau blynyddol dros 10 mlynedd.   

Dysgwch ragor am asedion y gellir eu talu mewn rhandaliadau.  

Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu llog ar randaliadau, ond mae rhai asedion sy’n gymwys i gael rhyddhad rhag llog (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r rhandaliadau hyn yn rhydd o log dim ond os yw’r rhandaliad yn cael ei dalu ar neu cyn y dyddiad dyledus.    

E1 Tai, adeiladau a thir  

Mae’n rhaid i chi nodi gwerth holl eiddo rhydd-ddaliad, lesddaliad, etifeddol ac eiddo symudol arall yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad hwn. Peidiwch â chynnwys ffermdai a thir fferm.   

Os oes gennych brisiad proffesiynol, atodwch gopi gyda’r ffurflen hon.   

Mae angen i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhoi manylion pob eitem o dir.  

E2 Banc, cymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill  

Mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyfrif gyda’r canlynol:  

  • banc  

  • cymdeithas adeiladu  

  • cymdeithas gilyddol, cyfeillgar neu gydweithredol  

  • archfarchnad   

  • cwmni yswiriant  

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.   

E3 Arian parod   

Mae hyn yn cynnwys unrhyw sieciau a wneir i’r trosglwyddai.  

E4 Bondiau Premiwm a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)  

Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.  

Cysylltwch â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (ar wefan NS&I) (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn gwybod y gwerth ar ddyddiad y trosglwyddiad.  

E5 Nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol  

Dylech gynnwys yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Er enghraifft, tsieni, dillad, gemwaith a cheir. Bydd angen i chi hefyd lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg).   

E6 Polisïau aswiriant bywyd, pensiynau a diogelu morgeisi  

Rhowch wybod i ni am unrhyw bensiynau a pholisïau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Os oedd y trafodyn yn cynnwys polisi aswiriant bywyd ond nid oedd mewn gwirionedd ymhlith yr asedion a oedd wedi’u cynnwys yn y digwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod i ni amdano, bydd angen i ni gael gwybod am y trefniadau.   

Mae’n rhaid i chi lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys copi o bob polisi pan fyddwch yn anfon y ffurflen.   

E7 Gwarantau Llywodraeth y DU a gwarantau bwrdeisiol   

Dylech gynnwys:  

  • Stoc y Trysorlys  

  • Stoc y Siecr  

  • Stoc Drosadwy  

  • stoc a benthyciadau cyfunol  

  • Stoc Ariannu  

  • Bondiau Cynilo  

  • Bondiau Buddugoliaeth  

  • Benthyciadau Rhyfel  

  • stoc y Llywodraeth a gedwir ar Gofrestr Banc Lloegr   

  • bondiau a gyhoeddwyd gan endidau trefol (awdurdodau llywodraeth leol)

Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) i roi gwybod i ni amdanynt. 

E8 Stociau, cyfranddaliadau a buddsoddiadau a restrwyd  

Dylech gynnwys:  

  • pob stoc, cyfranddaliad, dyledeb a gwarantau a restrwyd ar Restr Ddyddiol Swyddogol y Gyfnewidfa Stoc  

  • ymddiriedolaethau unedol  

  • ymddiriedolaethau buddsoddi  

  • cwmnïau buddsoddi pen agored  

  • cyfranddaliadau a restrir ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig sy’n rhan o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA)

  • cyfranddaliadau tramor a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain  

Peidiwch â chynnwys cyfranddaliadau a restrwyd a oedd yn rhoi rheolaeth dros gwmni i’r ymadawedig. Dylech gynnwys y rhain ym mlwch E12.   

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg). Copïwch y ffigur o flwch SS1 ar yr atodlen a’i nodwch ym mlwch E8 ar y ffurflen hon.   

E9 Difidendau neu log ar stociau, cyfranddaliadau a gwarantau  

Defnyddiwch atodlen D32 i lenwi’r blwch hwn. Dylech gynnwys cyfanswm gwerth y difidendau a’r llog ar asedion ym mlychau E7, E8, E10, E11 ac E12 sy’n ddyledus ar ddyddiad y trosglwyddiad ond nad oeddent wedi’u talu eto.   

E10 Cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd, a chyfranddaliadau anrhestredig, ac eithrio daliannau sy’n rhoi rheolaeth  

Os nad yw cwmni wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, unrhyw gyfnewidfa stoc a gydnabyddir tramor neu farchnad amgen, mae ei gyfranddaliadau a’i warantau yn cael eu dosbarthu fel heb eu rhestru.  

Dylech nodi cyfanswm gwerth y stociau a’r cyfranddaliadau canlynol os nad oedd gan y setlwr reolaeth dros y cwmni:  

  • stociau a chyfranddaliadau mewn cwmnïau cyfyngedig preifat anrhestredig  

  • cyfranddaliadau a fasnachwyd ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM), gan gynnwys cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA.

  • cyfranddaliadau a ddelir mewn Cynllun Buddsoddiad Menter (EIS) neu mewn Cynllun Dechrau Busnes (BSS)  

Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys y rhain pan fyddwch yn llenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).   

E11 Rhandaliadau ar gyfranddaliadau  

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu treth mewn rhandaliadau ar gyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad busnes, os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol: 

  • gallwch ddangos y bydd talu mewn un swm yn achosi caledi ariannol  
  • mae o leiaf 20% o’r dreth sy’n ddyledus ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu mewn rhandaliadau   
  • mae’r cyfranddaliadau’n werth mwy nag £20,000 ac yn ffurfio:  
    • o leiaf 10% o werth cyfanswm y cyfranddaliadau a gyhoeddwyd gan y cwmni  
    • o leiaf 10% o werth cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni 

Os oes gennych dreth i’w thalu ar ddaliannau cyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn rhoi rheolaeth, ac mae’r rhain yn gymwys i’w talu mewn rhandaliadau, nodwch werth y cyfranddaliadau ym mlwch E11. Gallwch ddod o hyd i’r gwerth hwn ym mlychau 3 a 4 yn Atodlen D32. 

E12 Daliannau sy’n rhoi rheolaeth ar gyfer cyfranddaliadau anrhestredig, cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd a chyfranddaliadau rhestredig  

Os oedd gan y person a wnaeth y trosglwyddiad reolaeth dros y cwmni, dylech gynnwys:   

  • cyfranddaliadau a fasnachwyd ar AIM, gan gynnwys cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA  

  • cyfranddaliadau masnachu ar y Off Exchange (OFEX)

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a’r cyfranddaliadau.   

E13 Ffermydd, ffermdai a thir ffermio  

Dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr asedion yr ydych yn didynnu Rhyddhad Amaethyddol oddi arnynt.   

Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:

E14 Busnesau gan gynnwys busnesau ffermio, asedion busnes a choed  

Dylech gynnwys gwerth net buddiant mewn busnes ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.  

Os yw’r setlwr wedi cymryd rhan mewn mwy nag un busnes, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer pob busnes neu bartneriaeth. Nodwch gyfanswm gwerth yr holl fusnesau ym mlwch E14.  

E15 Tir, adeiladau a hawliau eraill dros dir  

Dylech gynnwys gwerth unrhyw dir, adeiladau neu hawliau eraill dros dir nad ydynt wedi’u cynnwys mewn unrhyw flychau eraill ar y ffurflen hon.   

Gall hyn gynnwys:  

  • eiddo sydd wedi eu gosod  

  • garejys cloi  

  • tir segur  

  • eiddo diffaith  

  • chwareli  

  • meysydd awyr  

  • hawliau pysgota neu hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir  

Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gyda manylion y tir neu’r eiddo.  

E16 Dyledion sy’n ddyledus i’r Ymddiriedolaeth  

Dylech nodi’r ffigur o flwch 3 pan fyddwch yn llenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg).   

E17 Ad-daliad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf  

Dylech nodi cyfanswm unrhyw dreth a ad-dalwyd i’r ymddiriedolaethau. Os nad ydych yn gwybod yr union swm, dylech roi amcangyfrif rhesymol.   

E18 Asedion eraill  

Dylech nodi cyfanswm gwerth unrhyw asedion eraill nad ydynt eisoes wedi’u cynnwys. Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion yr asedion hyn yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.   

Section F: rhwymedigaethau, eithriadau a rhyddhadau 

Dylech gynnwys dyledion a oedd yn ddyledus gan yr ymddiriedolaeth ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy yn unig.   

Peidiwch â chynnwys y canlynol:  

  • ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gynhelir ar ôl dyddiad y digwyddiad  

  • unrhyw ffioedd cyfreithiwr, ffioedd asiant eiddo neu ffioedd prisio a ysgwyddwyd wrth ddelio â’r digwyddiad  

Rhwymedigaethau  

Ar gyfer blwch F1, dylech restru’r holl ddyledion sy’n ddyledus gan y trosglwyddwr y gellir eu didynnu o’r asedion a gynhwysir yn adran E, colofn A.   

Dylech lenwi enw’r person neu’r sefydliad y mae’r arian yn ddyledus iddo ac esbonio’n fras pam mae’r arian yn ddyledus. Os byddwch yn cynnwys didyniadau am ffioedd cyfreithwyr neu gyfrifwyr, rhowch y dyddiadau ar gyfer y cyfnod pan wnaed y gwaith.  

Ar gyfer blwch F2, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrwyd yn adran E, colofn B, y dylech eu cynnwys.    

Esemptiadau a rhyddhadau  

 Mae sawl rhyddhad sy’n gostwng gwerth y trosglwyddiad y mae angen i chi dalu treth arno.  

Mae rhagor o wybodaeth am y canlynol: 

Os yw rhyddhad trethiant dwbl yn cael ei hawlio oherwydd bod y person â’i ddomisil y tu allan i’r DU, llenwch atodlen D31

Er mwyn didynnu rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrir ym mlychau E1 i E18, dylech ysgrifennu teitl y rhyddhad a’r swm rydych am ei ddidynnu yn y blwch a ddarperir.  

Ar gyfer blwch F3, dim ond rhyddhadau yn erbyn yr asedion a restrir yn adran E, colofn A, y dylech eu cynnwys. Adiwch y rhyddhadau at ei gilydd ac ysgrifennu’r canlyniad yn y blwch ar gyfer y cyfanswm.  

Ar gyfer blwch F4, dim ond rhyddhadau ac eiddo sydd wedi’u heithrio yn erbyn yr asedion a restrir yn adran E, colofn B, y dylech eu cynnwys.

Adran G: Cyfradd y tâl treth cyn dyddiad y dengmlwyddiant cyntaf 

Dim ond os yw’r tâl cyn dengmlwyddiant yr ymddiriedolaeth y dylech lenwi’r adran hon. Ewch yn eich blaen o ‘Adran I’ os oedd y digwyddiad fwy na deng mlynedd ar ôl dyddiad dechrau’r ymddiriedolaeth. 

Dylech ddefnyddio’r adran hon i roi gwybod i ni am werth hanesyddol yr asedion a ychwanegwyd at yr ymddiriedolaeth gan y setlwr cyn dyddiad y tâl. Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i ni am asedion yr oedd y setlwr wedi’u hychwanegu at ymddiriedolaethau eraill.  

Mae’n rhaid i chi brisio pob ased ar y dyddiad y cafodd ei ychwanegu at yr ymddiriedolaeth. Peidiwch â chynnwys unrhyw ryddhadau nac eithriadau. 

Os daeth eiddo amherthnasol yn eiddo perthnasol 

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni os oedd unrhyw asedion a ychwanegwyd at yr ymddiriedolaeth wedi dod yn eiddo perthnasol cyn dyddiad y tâl.

Er enghraifft:

  • os oedd yr ymddiriedolaeth yn fuddiant cymhwysol mewn meddiant, ond fe ddaeth yn eiddo perthnasol yn ddiweddarach

  • ar ôl 5 Ebrill 2025, pan ddaw ‘eiddo eithriedig’ a ddelir mewn ymddiriedolaeth yn eiddo perthnasol, oherwydd bod y setlwr yn dod yn breswylydd tymor hir yn y DU  

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:  

  • dyddiad y daeth pob ased yn eiddo perthnasol

  • gwerth yr ased pan ddaeth yn eiddo perthnasol 

Gallwch grwpio unrhyw asedion a ddaeth yn eiddo perthnasol ar yr un diwrnod gyda’i gilydd.  

Darllenwch y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Ymddiriedolaethau cysylltiedig 

Mae angen i ni wybod am unrhyw ymddiriedolaethau eraill a sefydlwyd gan y setlwr ar yr un diwrnod â’r ymddiriedolaeth hon. Nid oes angen i ni wybod am ymddiriedolaethau elusennol. 

Dylai’r asedion yn yr ymddiriedolaethau hyn gael eu prisio ar ddyddiad y dechreuodd yr ymddiriedolaeth. Os yw’r tâl ar neu ar ôl 18 Tachwedd 2015, nid ydym bellach yn ystyried gwerth hanesyddol yr eiddo amherthnasol, er enghraifft eiddo eithriedig ac ‘ymddiriedolaethau arbennig’. 

Ychwanegiadau ar yr un diwrnod (taliadau ymadael ar neu ar ôl 18 Tachwedd 2015) 

Os ychwanegodd y setlwr unrhyw asedion at ymddiriedolaeth arall ar yr un diwrnod, a gynyddodd werth yr ymddiriedolaeth o fwy na £5,000, byddwn yn ystyried hyn i gyfrifo’r gyfradd dreth a godir. 

Haen gyfradd sero.  

Dim ond os oedd yr ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu ar neu ar ôl 24 Mawrth 1974 y mae angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw drosglwyddiadau trethadwy. Dylai pob trosglwyddiad gael ei brisio ar y dyddiad y cafodd ei wneud.  

Dylech nodi’r haen cyfradd sero ar ddyddiad y tâl ym mlwch G15.  

Gallwch ddod o hyd i’r cyfraddau a’r trothwyon yn ‘Haenau cyfradd sero, terfynau a chyfraddau ar gyfer Treth Etifeddiant (Cyfraddau a thablau IHT400)’.  

Os yw ‘cyfanswm yr haen cyfradd sero sydd ar gael’ yn ddim, bydd y gyfradd gychwynnol o Dreth Etifeddiant yn 6%.  

Adran H: Cyfrifo’r dreth sy’n daladwy 

Dim ond os ydych wedi llenwi adran G y dylech lenwi’r adran hon.  

Ffracsiwn priodol 

Rhoddir rhyddhad ar gyfer yr amser y mae’r asedion yn yr ymddiriedolaeth. Caiff ei gyfrifo ar sail y ‘chwarterau’ cyflawn ers i’r ymddiriedolaeth ddechrau.  

Defnyddiwch yr offeryn cyfrifo chwarteri i gyfrifo nifer y chwarteri cyflawn (yn agor tudalen Saesneg) rhwng dechrau’r ymddiriedolaeth a dyddiad y taliad.  

Grosio 

Os yw’r ymddiriedolwyr yn talu’r dreth sy’n ddyledus gan ddefnyddio’r asedion sy’n dal i fod yn yr ymddiriedolaeth, mae’n rhaid i chi addasu’r ffigur ym mlwch H12 er mwyn cymryd hyn i ystyriaeth. Gelwir hyn yn ‘grosio i fyny’.  

Dylech ddefnyddio’r cyfrifiad canlynol i gyfrifo’r gyfradd dreth effeithiol gros.  

(H12 ÷ (100 – H12)) × 100 = cyfradd dreth effeithiol gros 

Dylech nodi’r ffigur wedi’i addasu ym mlwch H14.  

Os yw cyfanswm y gyfradd dreth wedi’i grosio i fyny, dylech gyfrifo’r ffigur ar gyfer blwch H13 drwy luosi blwch F11 â H14. 

Rhyddhad treth ychwanegol os yw ymadawiad cyn i’r flwyddyn dreth gyntaf fynd heibio a’i fod yn destun grosio

Llenwi blwch H18

Defnyddiwch y camau canlynol i gyfrifo’r rhyddhad, yna ychwanegu’r ateb at flwch colofn E ym mlwch H18 yn ffurflen IHT100c.

  1. Cyfrifwch nifer y chwarteri cyflawn rhwng dechrau’r ymddiriedolaeth a’r dyddiad diwethaf y daeth yr ased yn eiddo perthnasol.

  2. Gostyngwch y rhif ym mlwch H11 gan y rhif a gewch chi wrth ddilyn cam 1.  

  3. Cymerwch y rhif o gam 2 a’i luosi â’r ganran ym mlwch H10 y ffurflen. Yna, rhannwch y rhif â 40.

  4. Rhannwch y ganran a gewch chi o gam 3 â (100% minws y ganran o gam 3).

  5. Gostyngwch y ganran ym mlwch H14 gan y ganran a gewch chi o gam 4.

  6. Lluoswch y ganran o gam 5 â gwerth yr eiddo perthnasol newydd. Er enghraifft, gwerth blwch F7 y mae modd ei briodoli i’r gwerthoedd ym mlychau G3 a G5. Dyma’r rhyddhad.

  7. Rhowch y rhyddhad a gewch chi o gam 6 yng ngholofn E, blwch H18.

Llenwi blwch H19

Defnyddiwch y camau canlynol i gyfrifo’r rhyddhad, yna ychwanegu’r ateb at flwch colofn E ym mlwch H19 yn ffurflen IHT100c.

  1. Cyfrifwch nifer y chwarteri cyflawn rhwng dechrau’r ymddiriedolaeth a’r dyddiad diwethaf y daeth yr ased yn eiddo perthnasol.

  2. Gostyngwch y rhif ym mlwch H11 gan y rhif o gam 1.

  3. Lluoswch y rhif o gam 2 â’r ganran ym mlwch H10. Yna, rhannwch y rhif â 40.

  4. Rhannwch y ganran o gam 3 â (100% minws y ganran o gam 3).

  5. Gostyngwch y ganran ym mlwch H14 gan y ganran o gam 4.

  6. Lluoswch y ganran o gam 5 â gwerth yr eiddo perthnasol newydd, er enghraifft, y gwerth ym mlwch F10 y mae modd ei briodoli i’r gwerthoedd ym mlychau G3 a G5. Dyma’r rhyddhad.

  7. Rhowch y rhyddhad a gewch chi o gam 6 yng ngholofn E, blwch H19.

Rhyddhad treth ychwanegol os yw’r ymadawiad rhwng dengmlwyddiant a’i fod yn destun grosio

Llenwi blwch J18

Defnyddiwch y camau canlynol i gyfrifo’r rhyddhad treth, yna ychwanegwch hyn at golofn blwch E o flwch J18 o’r ffurflen IHT100c.

  1. Cyfrifwch nifer y chwarteri cyflawn rhwng dyddiad y dengmlwyddiant diwethaf a’r dyddiad diwethaf y daeth yr ased yn eiddo perthnasol.

  2. Gostyngwch y rhif ym mlwch J11 gan y rhif a gewch chi wrth ddilyn cam 1.

  3. Lluoswch y rhif o gam 2 â’r ganran ym mlwch J10. Yna, rhannwch y rhif â 40.

  4. Rhannwch y ganran o gam 3 â (100% minws y ganran o gam 3).

  5. Gostyngwch y ganran ym mlwch J14 gan y ganran a gewch chi o gam 4.

  6. Lluoswch y ganran o gam 5 â gwerth yr eiddo perthnasol newydd, er enghraifft, y gwerth ym mlwch F7 y mae modd ei briodoli i’r gwerthoedd ym mlychau I3 ac I5. Dyma’r rhyddhad.

  7. Rhowch y rhyddhad a gewch chi o gam 6 yng ngholofn E, blwch J18.

Llenwi blwch J19

Defnyddiwch y camau canlynol i gyfrifo’r rhyddhad, yna ychwanegu’r ateb at flwch colofn E ym mlwch J19 yn ffurflen IHT100c.

  1. Cyfrifwch nifer y chwarteri cyflawn rhwng dyddiad y dengmlwyddiant diwethaf a’r dyddiad diwethaf y daeth yr ased yn eiddo perthnasol.

  2. Gostyngwch y rhif ym mlwch J11 gan y rhif a gewch chi wrth ddilyn cam 1.

  3. Lluoswch y rhif o gam 2 â’r ganran ym mlwch J10. Yna, rhannwch y rhif â 40.

  4. Rhannwch y ganran o gam 3 â (100% minws y ganran o gam 3).

  5. Gostyngwch y ganran ym mlwch J14 gan y ganran a gewch chi o gam 4.

  6. Lluoswch y ganran o gam 5 â gwerth yr eiddo perthnasol newydd, er enghraifft, y gwerth ym mlwch F10 y mae modd ei briodoli i’r gwerthoedd ym mlychau I3 ac I5. Dyma’r rhyddhad.

  7. Rhowch y rhyddhad a gewch chi o gam 6 yng ngholofn E, blwch J19.

Rhyddhad treth ychwanegol ar gyfer eiddo a ychwanegwyd 

Bydd y gyfradd gychwynnol o Dreth Etifeddiant yn cael ei gostwng i adlewyrchu’r amser nad oedd eiddo yn eiddo perthnasol.   

Rhennir y cyfnod 10 mlynedd yn 40 chwarter. Er enghraifft, os yw peth o’r eiddo ar y dyddiad ymadael dim ond wedi bod yn eiddo perthnasol am 5 mlynedd (20 o chwarterau), yna bydd cyfradd yr eiddo hwnnw yn hanner y gyfradd gychwynnol a roddir ym mlwch H12.  

Defnyddiwch yr offeryn cyfrifo chwarteri i gyfrifo nifer y chwarteri cyflawn (yn agor tudalen Saesneg).   

Llenwch y tablau yn H18 a H19 i gyfrifo’r rhyddhad ychwanegol ar asedion a ychwanegwyd at yr ymddiriedolaeth. Nodwch bob ased ar linell ar wahân.  

Dewch o hyd i ragor o arweiniad ac enghreifftiau am ryddhad ar gyfer asedion sydd wedi bod yn eiddo perthnasol am lai na’r 10 mlynedd lawn yn y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).

Enghraifft 

Dyddiad dechrau’r ymddiriedolaeth oedd 1 Ionawr 2010.  

Ar 1 Awst 2014, roedd dosbarthiad o asedion gwerth £160,000.  Ychwanegwyd £100,000 o’r asedion hyn at yr ymddiriedolaeth ar 1 Chwefror 2011. Daeth £60,000 o’r asedion yn eiddo perthnasol ar 1 Tachwedd 2012.  

Cyfanswm nifer y chwarterau cyflawn yw 21. Mae hyn yn cyfeirio at y canlynol: 

  • 14 o chwarterau rhwng 1 Chwefror 2011 ac 1 Awst 2014 

  • 7 o chwarterau rhwng 1 Tachwedd 2012 ac 1 Awst 2014 

Y gyfradd o flwch H12 yw 4.8%. 

Mae’r tabl canlynol yn dangos sut y dylech nodi’r wybodaeth hon ar y ffurflen.  

Gwerth yr eiddo perthnasol (a ychwanegwyd) Cyfradd (%) Chwarteri cyflawn Gostyngiad yn y dreth (£)
100,000 4.8 14 1,680
60,000 4.8 7 504

Cyfrifo’r llog ar gyfanswm y dreth sy’n daladwy 

Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y mis y digwyddodd y digwyddiad trethadwy.  

Os yw’ch taliad ar ôl y dyddiad dyledus, ychwanegir llog at unrhyw dreth heb ei dalu ac fe’i codir ar gyfradd ddyddiol. 

Dylech ddefnyddio’r gyfrifiannell llog Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo swm y llog sy’n ddyledus ar eich taliad a chwblhau’r tabl cryno ym mlwch H19.   

Os ydych yn talu treth cyn y dyddiad dyledus, ewch yn eich blaen i adran K.  

Adran I: cyfradd y tâl treth ar ôl dengmlwyddiant 

Dylech lenwi blychau I6 i I19 gan ddefnyddio’r cyfarwyddiadau yn ‘adran G’ ar gyfer y canlynol: 

  • ymddiriedolaethau cysylltiedig 

  • ychwanegiadau ar yr un diwrnod 

  • yr haen cyfradd sero

Mae angen i chi roi gwybod i ni am werth yr asedion ar adeg y dengmlwyddiant diwethaf. Gallwch ddod o hyd i hwn yn un o’r mannau canlynol: 

  • yr asesiad o dreth yr anfonasom atoch 

  • eich cofnodion eich hun, os gwnaethoch gyfrifo’r dreth eich hun 

Mae hefyd angen i ni wybod am unrhyw un o’r asedion canlynol: 

  • asedion sydd wedi bod yn eiddo perthnasol rhwng dyddiad y blwyddiant diwethaf a dyddiad y tâl hwn 

  • asedion oedd yn eiddo eithriedig ac wedi dod yn eiddo perthnasol oherwydd bod y setlwr yn dod yn breswylydd tymor hir yn y DU — darllenwch y llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) am ragor o wybodaeth

  • asedion a ychwanegwyd at yr ymddiriedolaeth rhwng dyddiad y blwyddiant diwethaf a dyddiad y tâl hwn 

Dylai’r asedion gael eu prisio ar y dyddiad yr ychwanegwyd at yr ymddiriedolaeth neu y daethant yn eiddo perthnasol.  

Adran J: Cyfrifo’r dreth sy’n daladwy 

Dylech ddefnyddio’r cyfarwyddiadau yn ‘adran H’ i’ch helpu gyda llenwi blychau J11 i J23. Cewch hyd i wybodaeth am y canlynol: 

  • y ffracsiwn priodol 

  • grosio i fyny 

  • rhyddhad treth ychwanegol ar gyfer eiddo a ychwanegwyd

Os yw’r dreth yn cael ei thalu gan ddefnyddio’r asedion sy’n dal i fod yn yr ymddiriedolaeth 

Dylech ddefnyddio’r cyfrifiad canlynol i gyfrifo’r gyfradd dreth effeithiol gros.  

(J12 ÷ (100 – J12)) × 100 = cyfradd dreth effeithiol gros 

Dylech nodi’r ffigur ym mlwch J14.  

Ar gyfer blwch J15, dylech luosi blwch F11 â J14.  

Cyfrifo’r rhyddhad treth ychwanegol ar gyfer eiddo a ychwanegwyd 

Defnyddiwch y cyfarwyddiadau yn adran H i’ch helpu gyda llenwi’r tablau ym mlychau J18 a J19.  

Defnyddiwch yr offeryn cyfrifo chwarteri i gyfrifo nifer y chwarteri cyflawn (yn agor tudalen Saesneg).   

Cyfrifo’r llog sy’n ddyledus  

Mae Treth Etifeddiant yn ddyledus heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y mis y digwyddodd y digwyddiad trethadwy.  

Os yw’ch taliad ar ôl y dyddiad dyledus, ychwanegir llog at unrhyw dreth heb ei dalu ac fe’i codir ar gyfradd ddyddiol. 

Dylech ddefnyddio’r gyfrifiannell llog Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo swm y llog sy’n ddyledus ar eich taliad a chwblhau’r tabl cryno ym mlwch J22.   

Adran K: Awdurdod ar gyfer ad-dalu Treth Etifeddiant 

Os bydd angen i ni ad-dalu Treth Etifeddiant, byddwn yn ei had-dalu’n uniongyrchol drwy Daliadau Cyflymach i’r cyfrif banc yn enwau pawb a lofnododd y ffurflen.  

Os nad oes gennych gyfrif banc yn yr enwau hynny, gallai fod yn anodd i chi gael yr ad-daliad. Er mwyn osgoi unrhyw anawsterau, rhowch fanylion y cyfrif yr ydych eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu iddo.   

Adran L: Datgelu cynlluniau arbed treth  

Dylech gynnwys y ddau beth canlynol:  

  • cyfeirnod yr hyrwyddwr neu’r cynllun, os ydych wedi cael un  

  • y flwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth   

Dysgwch am gynlluniau arbed treth

Datganiad  

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl ymddiriedolwyr wedi darllen y datganiad ac yn cytuno bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen, unrhyw atodlenni a dogfennau ategol eraill yn gywir.   

Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT100 heb lofnod gwlyb gan asiant neu ymddiriedolwr, cyn belled â bod enwau a manylion personol yr ymddiriedolwyr yn cael eu dangos ar y dudalen ddatganiad.   

Os ydych yn asiant  

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn y blwch gwybodaeth ychwanegol ar dudalen 12:  

‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hon, wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’  

Os ydych yn ymddiriedolwr  

Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad canlynol yn y blwch gwybodaeth ychwanegol ar dudalen 12:   

‘Fel yr ymddiriedolwr sy’n gweithredu yn y mater hwn, rwy’n cadarnhau mai’r holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hon, yw’r ymddiriedolwyr a’u bod wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’

Anfon eich ffurflen wedi’i llenwi atom

Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • copïau o unrhyw ddogfen yr ydym wedi gofyn amdani

  • unrhyw atodlenni wedi’u cwblhau (darllenwch adran D)

Dysgwch am yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi anfon eich ffurflen wedi’i llenwi atom (yn agor tudalen Saesneg).

Help

Cysylltwch â’r llinell gymorth Treth Etifeddiant os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.