Canllawiau

Cyflwyniad i arbed treth

Beth yw arbed treth, beth sy’n gallu digwydd i chi os ydych yn ymuno â chynllun arbed treth, a sut i gael cymorth i setlo’ch materion treth.

Beth yw arbed treth

Mae arbed treth yn golygu plygu rheolau’r system dreth er mwyn ceisio ennill mantais dreth mewn ffordd nad oedd gan y Senedd mewn golwg erioed.

Yn aml, mae’n golygu trafodion ffug, artiffisial nad oes fawr o bwrpas iddynt heblaw creu’r fantais hon. Mae’n golygu glynu wrth lythyren, ond nid ysbryd, y gyfraith.

Nid yw’r rhan fwyaf o gynlluniau arbed treth yn gweithio. Mae’n bosibl y bydd y rhai hynny sy’n eu defnyddio yn gorfod talu mwy o dreth yn y dyfodol na’r swm yr oeddynt yn ceisio ei arbed - gan gynnwys cosbau.

Sut i adnabod cynlluniau arbed treth

Dyma rai o’r arwyddion y gallech fod cyn rhan o gynllun arbed treth neu’ch bod yn cael cynnig ymuno ag un.

Mae fel petai’n rhy dda i fod yn wir

Mae bron yn sicr ei fod yn rhy dda i fod yn wir. Mae rhai cynlluniau’n addo gostwng eich bil treth am gost fechan neu’n rhad ac am ddim, ac yn awgrymu nad oes rhaid i chi wneud llawer mwy na thalu ffioedd hyrwyddwr y cynllun a llofnodi’r gwaith papur.

Talu ar ffurf benthyciadau neu daliadau eraill heb eu trethu

Mae rhai cynlluniau ar gyfer contractwyr, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro eraill neu gyflogwyr bach a chanolig eu maint, yn golygu talu gweithwyr - yn rhannol neu’n gyfan gwbl - naill ai ar ffurf benthyciad neu daliad arall nad oes disgwyl iddynt ei ad-dalu.

Gellir ailgyfeirio’r taliad drwy gadwyn o gwmnïau, ymddiriedolaethau neu bartneriaethau sy’n aml wedi’u lleoli alltraeth ac a geir drwy law trydydd parti. Weithiau ceir y taliad yn uniongyrchol oddi wrth y cyflogwr.

Mae ffyrdd eraill y gellir disgrifio’r taliadau hyn sydd heb eu trethu yn cynnwys:

  • grantiau
  • cyflogau cynnar
  • taliadau cyfalaf
  • cyfleusterau credyd
  • blwydd-daliadau
  • cyfranddaliadau and bonysau
  • derbynebau ymddiriedol

Ym mhob achos, mae’r cynlluniau’n addo rhoi arian ym mhoced y gweithiwr heb orfod talu treth arno. Mae’r cynlluniau hyn yn aml yn cael eu gwerthu gan gwmnïau ambarél nad ydynt yn cydymffurfio o ran treth.

Manteision sylweddol

Mae manteision y cynllun fel pe baent yn anghymesur â’r arian sy’n cael ei greu neu gost y cynllun i chi. Bydd hyrwyddwr y cynllun yn honni nad oes fawr o risg i’ch buddsoddiad.

Troi mewn cylch neu drefniadau artiffisial

Mae’r cynllun yn cynnwys arian sy’n troi mewn cylch ac yn ôl i’r man lle y dechreuodd, neu ryw drefniant artiffisial tebyg lle ceir trafodion sydd heb unrhyw ddiben masnachol amlwg.

Honiadau camarweiniol

Caiff y cynllun ei hysbysebu gan ddefnyddio honiadau camarweiniol. Gall y rhain gynnwys honiadau sy’n awgrymu bod y cynllun yn cael ei ardystio neu ei gymeradwyo gan CThEM neu fod y cynllun yn gallu cynyddu’ch cyflog clir. Er enghraifft:

  • ‘Wedi’i gymeradwyo gan CThEM’
  • ‘Cadwch fwy o’ch enillion ar ôl treth’
  • ‘Rydym yn sicrhau eich bod yn cael y cyflog clir mwyaf’
  • ‘Cyflog effeithlon o ran treth ac sy’n cydymffurfio’

Mae’r datganiadau hyn yn debygol o fod yn gamarweiniol. Nid yw CThEM yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth.

Mae CThEM wedi rhoi cyfeirnod (SRN) i’r cynllun

Os yw CThEM wedi nodi trefniant fel un sy’n nodwedd amlwg ar arbed treth ac yn ymchwilio iddo, byddwch yn cael cyfeirnod y cynllun gan eich hyrwyddwr a dylech gynnwys hyn ar eich Ffurflen Dreth.

Os oes cyfeirnod cynllun gan y trefniant, nid yw hyn yn golygu bod CThEM wedi ‘cymeradwyo’ y cynllun. Nid yw CThEM yn cymeradwyo unrhyw gynlluniau arbed treth.

Os nad oes cyfeirnod cynllun gan y trefniant, nid yw hyn yn golygu nad yw’r trefniant yn gynllun arbed treth, a gellid ymchwilio iddo o hyd.

Cwmnïau ambarél nad ydynt yn cydymffurfio o ran treth

Mae llawer o gwmnïau ambarél yn gweithredu o fewn y rheolau treth. Fodd bynnag, mae rhai cwmnïau ambarél yn hyrwyddo cynlluniau arbed treth. Mae’r cynlluniau hyn yn honni eu bod yn ffordd ‘gyfreithlon’ neu’n ‘effeithlon o ran treth’ o gadw mwy o’ch incwm trwy leihau’ch rhwymedigaeth treth.

Beth i’w wneud os yw cwmni ambarél yn cynnig gostwng eich rhwymedigaeth treth a chynyddu’ch cyflog clir yn Sbotolau 45.

Cynlluniau sy’n peri pryder i CThEM

Gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o gynlluniau arbed treth y mae CThEM yn edrych yn fanwl arnynt. Hyd yn oed os nad oes sôn am y cynllun, efallai y bydd CThEM yn ei herio’r un fath.

Cyn i chi ymuno â chynllun

Dylech wneud eich gwaith ymchwil eich hun i gael gwybod mwy am y cynghorydd a’r cynllun sydd ar gael cyn i chi gofrestru ar ei gyfer.

Gallwch ofyn am gyngor neu help gan gyfrifydd neu ymgynghorydd treth annibynnol, cymwys. Dewiswch un sy’n aelod o gorff proffesiynol sy’n rheoleiddio safonau ac ymddygiad ei aelodau.

Os ymunwch â chynllun arbed treth

Os ydych yn ymuno â chynllun arbed treth, bydd CThEM yn ymchwilio i’ch materion treth yn llwyr, a gall hefyd wneud y canlynol:

  • ei gwneud yn ofynnol i chi dalu’r dreth rydych yn ceisio’i harbed ymlaen llaw — gallech gael bil treth o’r enw hysbysiad i wneud taliad cyflymedig: bydd gofyn i chi dalu swm llawn y dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae CThEM yn cyfrifo sy’n ddyledus, ymlaen llaw a chyn pen 90 diwrnod
  • cymryd camau cyfreithiol — gallech orfod mynd i’r llys os nad ydych yn talu’r dreth a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd arnoch — mae CThEM yn ennill tua 9 o bob 10 achos arbed treth sy’n mynd i’r llys; os byddwch yn colli, gallech wynebu biliau sy’n newid bywyd, a chostau cyfreithiol ar ben y dreth sydd arnoch, cosbau a llog sy’n cronni
  • eich trin fel trethdalwr risg uchel — mae hyn yn golygu y bydd CThEM yn archwilio’ch holl faterion treth yn ofalus yn y dyfodol, nid dim ond eich defnydd o’r cynllun arbed treth

Os ydych o’r farn y gallech fod yn rhan o gynllun arbed treth

Mae gan CThEM dimau penodedig i’ch helpu i dalu’r hyn sydd arnoch i setlo’ch materion treth. Gorau i gyd po gyntaf y byddwch yn cysylltu â CThEM, er mwyn cwtogi ar faint o log y bydd gennych i’w dalu.

Os nad ydych eisoes yn siarad â rhywun am setlo’ch materion treth, gallwch gysylltu â thîm penodedig CThEM.

Os ydych wedi cael cyfeirnod y cynllun

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM am gynlluniau sy’n cael eu cwmpasu gan y rheolau datgelu. Os na wnewch hynny, gallech fod yn agored i gosb hyd at £5,000.

Sut i roi gwybod am gynllun arbed treth

Gallwch roi gwybod i CThEM am drefniadau neu gynlluniau arbed treth ac am y person sy’n cynnig y cynllun i chi os ydych yn gwneud y canlynol :

  • rydych wedi cael eich annog i ymuno â chynllun arbed treth
  • rydych yn ymwybodol o gynllun arbed treth
  • rydych am roi gwybod i ni am rywun sy’n gwerthu cynllun arbed treth
Cyhoeddwyd ar 6 September 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 May 2022 + show all updates
  1. The section 'How to report tax avoidance' has been updated.

  2. Guidance updated to provide more information on how to identify a tax avoidance scheme.

  3. A Welsh language version of this guidance has been published.

  4. First published.