Canllawiau

Cymryd rhan mewn gwrandawiad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo

Diweddarwyd 31 May 2022

1. Cyn cychwyn

Bydd y llys neu dribiwnlys yn rhoi gwybod i chi pryd bydd eich gwrandawiad ac efallai byddent yn gofyn ichi wirio eich offer cyn y gwrandawiad.

Gwnewch y gwiriadau cyn gynted â phosib fel nad yw eich gwrandawiad yn cael ei ohirio. Os oes angen help arnoch gyda hyn, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib.

I gymryd rhan yn y gwrandawiad fideo bydd angen y canlynol arnoch:

  • ystafell breifat a thawel gyda mynediad i’r rhyngrwyd.
  • gliniadur, cyfrifiadur, tablet/llechen neu ffôn clyfar gyda chamera a meicroffon.

2. Ail-wirio eich offer

Gan ddefnyddio’r manylion anfonwyd atoch, mewngofnodwch 30 munud cyn amser dechrau’r gwrandawiad.

1. Ar y sgrîn sy’n nodi manylion y gwrandawiad, cliciwch ‘mewngofnodi i’r gwrandawiad’.

2. Darllenwch yr wybodaeth ar y sgrîn ‘paratoi’, yna cliciwch ‘Nesaf’.

3. Bydd sgrîn yn ymddangos yn egluro eich bod ar fin gwirio’ch offer. Cliciwch ‘Parhau’.

4. Ar y sgrîn ‘Defnyddiwch eich camera a Microffon’, cliciwch ‘Rhoi ymlaen’.

5. Bydd blwch yn ymddangos yn gofyn am ganiatâd i roi eich camera a’ch meicroffon ymlaen. Cliciwch ‘Caniatáu’ (‘Allow’).

6. Byddwch yn cael cadarnhad bod eich camera a microffon ymlaen. Cliciwch ‘Gwylio’r fideo’.

7. Bydd fideo yn agor ac yn dechrau chwarae. O dan ffenestr y fideo, dylech weld eich hun mewn ffenestr lai. O dan hynny, dylech allu gweld bar gwyrdd sy’n symud yn ôl lefelau sain. Os gallwch weld eich hun a bod y bar gwyrdd yn symud, mae eich camera a’ch microffon yn gweithio. Cliciwch ‘Mae fy offer yn gweithio’.

Os na allwch weld eich hun a/neu dydy’r bar gwyrdd ddim yn symud, cliciwch ‘Nid yw fy offer yn gweithio’, yna cysylltwch â ni i gael help.

8. Os ydych wedi clicio ‘Mae fy offer yn gweithio’, byddwn yn gofyn ichi gadarnhau bod eich camera a microffon yn gweithio, a gallwch weld a chlywed y fideo yn glir. Cliciwch ‘Oeddwn/Oedd’ yn y tair sgrîn nesaf yna ‘Parhau’.

9. Ar ôl i chi gwblhau’r gwiriadau, byddwn yn dangos y sgrîn rheolau’r llys - mae gwrandawiadau fideo yn dilyn yr un rheolau a geir mewn llys neu dribiwnlys. Cliciwch ‘Parhau’.

10. Ar y sgrîn datganiad, ticiwch y blwch i gadarnhau na fyddwch yn recordio’r gwrandawiad – mae recordio gwrandawiad yn drosedd . Yna cliciwch ‘Parhau’.

11. Yna byddwch yn mynd i’r ystafell aros. Ar y sgrîn, fe welwch fanylion y bobl eraill sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad llys. Byddwch hefyd yn gallu gweld cloc ar gefndir glas.

12. Os oes gan eich offer fwy nag un camera neu ficroffon, gallwch benderfynu pa rai i’w defnyddio. Cliciwch ‘Dewis camera a microffon’. Bydd ffenestr fach yn ymddangos. Dewiswch yr opsiynau sydd orau gennych yna cliciwch ‘Cau’.

13. Os oes angen help arnoch gyda’ch offer, gallwch anfon neges i’r tîm cymorth. Cliciwch ar ‘Anfon neges at y swyddog gwrandawiadau fideo’ ar waelod y sgrîn ar y dde. Teipiwch eich neges yn y blwch a chliciwch ‘Anfon’.

Bydd aelod o’r tîm cymorth yn ymateb i’ch neges.

3. Dechrau neu ymuno â chyfarfod preifat

Tra byddwch yn yr ystafell aros, gallwch gael cyfarfod preifat gyda chyfranogwyr eraill. Gallwch wneud hyn cyn y gwrandawiad neu yn ystod toriad. Os oes angen cyfarfod brys arnoch a fyddai’n torri ar draws y gwrandawiad, bydd angen ichi ofyn am ganiatâd gan y barnwr. Byddant yn atal y gwrandawiad dros dro a byddwch yn dychwelyd i’r ystafell aros. Yna, gallwch ddechrau neu ymuno â chyfarfod preifat yn yr ystafell aros.

1. I ddechrau cyfarfod preifat, cliciwch ‘Dechrau cyfarfod preifat’.

2. Bydd sgrîn fach yn ymddangos yn gofyn i chi ddewis pa gyfranogwyr rydych am gyfarfod â nhw. Cliciwch ar y cyfranogwr/cyfranogwyr, ac yna cliciwch ‘Parhau’.

3. Os byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno â chyfarfod preifat gan gyfranogwr arall, byddwch yn gweld neges yn ymddangos ar eich sgrîn. I ymuno, cliciwch ar y cyfarfod, yna cliciwch ‘Parhau’. I wrthod, cliciwch ‘Cau’.

4. Bydd sgrîn newydd yn ymddangos ar gyfer y cyfarfod a byddwch yn gallu gweld y cyfranogwyr eraill yn y brif ffenestr. Fe welwch eich hun mewn ffenestr lai ar waelod y sgrîn ar y chwith. Bydd gennych yr un botymau rheoli â’r rhai yn y prif gyfarfod (gwelwch adran 4 ar gyfer canllawiau ar y botymau rheoli hyn).

Yn wahanol i’r prif wrandawiad, ni fydd cyfarfodydd preifat yn cael eu recordio.

5. Pan fyddwch mewn cyfarfod preifat, gallwch gloi’r ystafell i atal cyfranogwyr eraill rhag ymuno. Cliciwch ‘Cloi’r ystafell’ ar dop y sgrîn ar y dde. Byddwch yn gweld ‘Wedi cloi’ neu ‘Heb ei chloi’ ar y bar ar dop y sgrîn.

6. I ddatgloi’r ystafell gyfarfod breifat, cliciwch, ‘datgloi’r ystafell’ ar dop y sgrîn ar y dde.

7. Pan fyddwch yn barod i adael y cyfarfod, cliciwch ‘Gadael’ ar dop y sgrîn ar y dde.

8. Bydd ffenestr lai yn ymddangos yn gofyn i chi gadarnhau os ydych am adael neu aros yn y cyfarfod. Cliciwch ‘Gadael’.

Byddwch yn dychwelyd i’r ystafell aros.

4. Ymuno a chymryd rhan yn y gwrandawiad

1. Dau funud cyn y mae’r gwrandawiad i fod i ddechrau, bydd y cefndir glas ar y cloc yn troi yn ddu.

Dim ond pan fydd y barnwr yn barod bydd y gwrandawiad yn dechrau– gall hyn fod ar ôl yr amser dechrau a drefnwyd.

2. Os bydd oedi o 10 munud neu fwy, bydd y cloc yn troi’n felyn ac yn cynnwys neges yn eich hysbysu am yr oedi. Dylech fod wrth gefn rhag ofn y bydd angen i’r tîm gwrandawiadau fideo gysylltu â chi.

3. Pan fydd y barnwr yn barod i ddechrau’r gwrandawiad, byddwch yn gweld a chlywed rhybudd amser.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei recordio.

4. Pan fydd y gwrandawiad yn dechrau, bydd eich microffon yn cael ei ddiffodd. Ni ddylech droi eich microffon ymlaen, oni bai ei bod hi’n dro arnoch chi i siarad. Byddwch yn gweld eich hun mewn ffenestr yn y gwaelod ar y chwith. Ar y brif sgrîn, byddwch yn gallu gweld y barnwr a chyfranogwyr eraill. Efallai y bydd cyfranogwyr eraill mewn ffenestri o dan neu wrth ochr y barnwr, yn dibynnu ar ddewis gosodiadau’r barnwr.

5. Ar dop y sgrîn ar y dde, byddwch yn gweld rhai botymau rheoli. Gallwch wneud y canlynol:

  • rhannu fideo, sain neu ddogfennau (gweler rhannu tystiolaeth)
  • dewis y camera a/neu ficroffon yr hoffech ddefnyddio, os oes gennych fwy nag un ar eich dyfais
  • dangos neu guddio eich hunain trwy glicio ar y botwm/eicon llygad
  • diffodd eich camera trwy glicio ar y botwm camera - ni ddylech wneud hyn heb ganiatâd y barnwr
  • troi eich meicroffon ymlaen neu ei ddiffodd trwy glicio ar y botwm microffon
  • gofyn i siarad neu gael sylw’r barnwr trwy ddefnyddio’r botwm codi llaw

6. Os bydd y barnwr angen atal y gwrandawiad dros dro am unrhyw reswm, byddwch yn cael eich symud i’r ystafell aros. Gallwch gychwyn neu ymuno â chyfarfod preifat pan mae’r gwrandawiad wedi’i atal dros dro.

7. Unwaith bydd y barnwr yn barod i ailddechrau’r gwrandawiad, byddwch yn gweld y rhybudd amser unwaith eto. Os ydych mewn cyfarfod preifat, byddwch yn gweld rhybudd bod y gwrandawiad am ailddechrau. Os ydych yn dal mewn cyfarfod preifat pan mae’r barnwr yn ceisio ailddechrau, byddwch yn gadael y cyfarfod ac yn dychwelyd i’r prif gyfarfod yn awtomatig.

5. Rhannu tystiolaeth

Gallwch rannu tystiolaeth gyda chyfranogwyr eraill yn ystod y gwrandawiad. Bydd arnoch angen caniatâd y barnwr i wneud hyn.

Byddwch yn rhannu tystiolaeth trwy ddangos sgrîn eich cyfrifiadur neu drwy chwarae sain.

Os ydych am rannu tystiolaeth fideo, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • mewngofnodi i’r gwasanaeth trwy ddefnyddio’r porwr Google Chrome.
  • clicio ‘Rhannu fideo neu sain’ pan mae’r opsiwn yn ymddangos (mae hyn yn hanfodol i sicrhau ansawdd fideo)
  • lawrlwytho’r fideo i’ch gliniadur neu gyfrifiadur os ydy hi’n fideo ar-lein (i osgoi problemau gyda chyflymder y rhyngrwyd)

1. Ar dop y sgrîn ar y dde, cliciwch y botwm rhannu. Byddwch yn cael yr opsiwn i naill ai ‘Rhannu fideo neu sain’ neu ‘Rhannu dogfennau’.

2. Efallai y gofynnir i chi ddewis pa fath o dudalen i’w rhannu. Bydd hyn yn dibynnu ar y porwr rhyngrwyd rydych yn ei ddefnyddio. Bydd y rhan fwyaf o borwyr yn caniatáu ichi ddewis rhannu eich sgrîn gyfan neu borwr unigol neu ffenestr y rhaglen. Byddwch yn ofalus – os ydych yn dewis i rannu’ch sgrîn gyfan, bydd unrhyw ffenestri sydd ar agor gennych efallai nad ydych am eu rhannu, yn weladwy i bawb.

3. Unwaith y byddwch wedi gorffen rhannu eich tystiolaeth, cliciwch yr eicon ‘rhannu sgrîn’ unwaith eto. Ni fydd y cyfranogwyr eraill yn gallu gweld eich sgrîn rhagor.

6. Ar ddiwedd y gwrandawiad

1. Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y barnwr yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf. Pan fyddant yn cau’r gwrandawiad, byddwch yn dychwelyd i’r ystafell aros.

Gallwch barhau i ddefnyddio’r ystafell gyfarfod breifat os hoffech siarad â chyfranogwr arall.

2. Pan fyddwch yn barod i adael yr ystafell aros, cliciwch ‘allgofnodi’ ar dop y sgrîn ar y dde.

7. Cysylltu â’r tîm gwasanaeth Gwrandawiadau Fideo

Cysylltwch â ni os:

  • nad ydych wedi gallu cwblhau’r hunan-brawf yn llwyddiannus
  • oes angen i’ch sefydliad brofi unrhyw newidiadau i’r rhyngrwyd/ gosodiadau’r wal dân
  • oes arnoch angen canllawiau pellach i gymryd rhan mewn gwrandawiad fideo

Ni ddylech gysylltu â ni ynglŷn â’r achos. Dylech gysylltu â’r llys neu dribiwnlys yn uniongyrchol neu siarad â’ch cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych chi un.

Cymru a Lloegr

Rhif ffôn: 0300 303 0655

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Cyfeiriad e-bost: video-hearings@justice.gov.uk

Yr Alban

Rhif ffôn: 0300 790 6234

Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Cyfeiriad e-bost: SSCSA-Glasgow@justice.gov.uk