Deunydd hyrwyddo

Rheolaethau tollau llawn – camau gweithredu ar gyfer busnesau yn yr UE sy’n masnachu â’r DU

Diweddarwyd 10 October 2023

Mae rheolaethau tollau llawn bellach ar waith ar gyfer Prydain Fawr. Mae hyn yn golygu bod gan fusnesau yn yr UE reolau newydd i’w dilyn wrth symud nwyddau rhwng yr UE a Chymru, Lloegr neu’r Alban.

Bydd y trefniadau tollau presennol ar gyfer symud nwyddau o Iwerddon a Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr yn cael eu hymestyn cyhyd â bod trafodaethau rhwng y DU a’r UE ar weithrediad Protocol Gogledd Iwerddon yn parhau.

Mae’r dudalen hon yn nodi’r camau i’w cymryd i gadw’ch busnes gyda Phrydain Fawr yn symud yn ystod 2022.

Camau i’w cymryd nawr os ydych yn masnachu â’r DU

  • gwiriwch fod eich partner masnachu yn y DU yn barod am y newidiadau i’r rheolau ar gyfer mewnforio nwyddau i’r DU o’r UE

  • gwiriwch fod eich cludwr, neu’r person sy’n gyrru’ch nwyddau, yn barod am wiriadau wrth y ffin - mae’r llawlyfr cludwyr yn nodi’r hyn y mae angen i’ch cludwr ei wneud. Mae’n bwysig eich bod yn cytuno ar y telerau ac amodau masnachol gyda’ch cludwr, a bod ganddo’r gwaith papur cywir yn ei le.

Camau eraill i’w hystyried:

Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru fel busnes sydd wedi’i sefydlu yn y DU

Dylai’r telerau ac amodau yr ydych wedi cytuno arnynt gyda’ch cwsmer gynnwys manylion pwy sy’n gyfrifol am wneud datganiadau tollau’r DU. Os mai chi sy’n gyfrifol, gallwch ddewis naill ai:

Dysgwch ragor am gwmnïau tramor sydd wedi’u cofrestru yn y DU.

Os mai chi sy’n gyfrifol am wneud datganiadau tollau, trefnwch eich bod yn gallu gwneud Datganiadau Tollau’r DU os oes angen i chi wneud hynny

Cael rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) sy’n dechrau gyda GB.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y camau eraill y mae angen i chi eu cymryd i baratoi ar gyfer gwneud datganiadau tollau ar gyfer mewnforio ac allforio ar GOV.UK.

Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru ar gyfer TAW yn y DU, er mwyn rhoi cyfrif am TAW mewnforio

Gall hyn fod yn berthnasol os ydych yn anfon nwyddau at ddefnyddwyr ym Mhrydain Fawr neu os ydych yn symud nwyddau i Brydain Fawr ar gyfer eich busnes eich hun.

Os ydych yn cyflenwi nwyddau mewn llwythi gwerth £135 neu lai’n uniongyrchol i ddefnyddwyr ym Mhrydain Fawr, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru ar gyfer TAW yn y DU. Mae rheolau arferol y tollau yn berthnasol wrth gyflenwi nwyddau mewn llwythi sy’n werth mwy na £135 i gwsmeriaid ym Mhrydain Fawr. Os ydych yn symud nwyddau ar gyfer eich busnes eich hun, dylech gofrestru ar gyfer TAW yn y DU fel person sy’n agored i dreth y DU, ond sydd heb ei sefydlu yma (NETP).

Mae hyn yn golygu y gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio (a thollau eraill) eich hun ar unrhyw nwyddau yr ydych yn cadw perchnogaeth arnynt pan fyddant yn cyrraedd Prydain Fawr.

Bydd angen i chi ddilyn y gweithdrefnau arferol ar gyfer rhoi cyfrif am TAW mewnforio, a gallwch ddewis rhoi cyfrif am y TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW. Os byddwch yn cofrestru’ch busnes yn yr UE fel NETP, bydd angen i chi lenwi Ffurflen TAW.

Os oes gan eich busnes sefydliad yn y DU, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gofrestru ar gyfer TAW fel busnes domestig yn hytrach na gwerthwr o dramor neu NETP. Gallwch ddod o hyd i arweiniad ar hyn yma: Pwy ddylai gofrestru ar gyfer TAW (Hysbysiad TAW 700/1)

Os ydych yn bwriadu casglu tollau mewnforio, gan gynnwys TAW mewnforio, yn y man gwerthu bydd angen i chi ddilyn rheolau’r Tollau. Gallwch ddod o hyd i arweiniad ar hyn yma:

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu datganiad cyflenwr gydag unrhyw nwyddau rydych yn eu hanfon at gwsmer ym Mhrydain Fawr sydd am hawlio’r tariff ffafriol

Mae’r Cytundeb Masnachu a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn golygu y gallai’r nwyddau rydych yn eu mewnforio neu’n eu hallforio fanteisio ar gyfradd is o Doll Dramor (ffafriaeth tariff). Er mwyn defnyddio hyn, mae arnoch angen tystiolaeth bod y nwyddau:

  • rydych yn eu hallforio o’r UE yn tarddu o’r UE
  • rydych yn eu mewnforio i’r UE o’r DU yn tarddu o’r DU

Wrth ddweud ‘tarddu’, rydym yn cyfeirio at y wlad lle y cynhyrchwyd neu y gweithgynhyrchwyd y nwyddau (neu’r deunyddiau, y rhannau neu’r cynhwysion a ddefnyddiwyd i’w creu). Nid yw’r tarddiad yn ymwneud â’r lle y cafodd y nwyddau eu cludo neu eu prynu ohono. Bydd angen i’ch nwyddau fodloni gofynion y rheolau o ran tarddiad sy’n benodol i’r cynnyrch, fel yr amlinellir yn y Cytundeb Masnachu a Chydweithredu.

I hawlio ffafriaeth tariff, mae angen i chi gael un o’r tystiolaethau o darddiadau canlynol:

  • datganiad tarddiad – mae’n rhaid i hwn gael ei wneud gan yr allforiwr i gadarnhau bod y cynnyrch yn tarddu o’r DU neu’r UE
  • gwybodaeth y mewnforiwr – mae’r opsiwn hwn yn galluogi’r mewnforiwr i hawlio ffafriaeth tariff ar sail ei wybodaeth ei hun o darddiad y nwyddau y mae’n eu mewnforio

Mae’n bosibl y bydd datganiadau cyflenwyr eich cwsmeriaid yn y DU yn cael eu gwirio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu darparu ar yr adeg y byddwch yn anfon y nwyddau. Dysgwch fwy am wneud datganiadau cyflenwyr. Os bydd eich cwsmer yn y DU yn gofyn i chi ddarparu Datganiad Tarddiad, bydd angen i chi gael tystiolaeth bod y nwyddau’n bodloni’r rheolau o ran tarddiad.

Os nad yw’r nwyddau rydych yn eu hallforio o’r UE yn tarddu yno ond eu bod wedi’u prosesu yno i ryw raddau, gall prosesu yn yr UE gyfrif tuag at Gronni Dwyochrog ym Mhrydain Fawr os ydych yn darparu Datganiad Cyflenwr ar gyfer nwyddau nad ydynt yn Tarddu.

Gwnewch yn siŵr bod gan eich cludwr Gyfeirnod Symud Nwyddau dilys os ydych yn symud nwyddau drwy leoliadau wrth y ffin sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS)

Os ydych yn symud nwyddau drwy leoliadau wrth y ffin sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS) i reoli nwyddau, mae’n rhaid i’ch cludwr, neu os ydych yn symud nwyddau eich hun, mae’n rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw ar gyfer GVMS (mae’r dudalen we hon ar gael mewn 10 iaith Ewropeaidd) a bod gennych Gyfeirnod Symud Nwyddau dilys i fynd ar y llong. Os na wnewch hynny, bydd eich nwyddau’n cael eu hoedi.

Gwnewch yn siŵr bod gan eich cludwr yr holl wybodaeth y mae angen iddo ei chynnwys yn y Cyfeirnod Symud Nwyddau cyn i’ch nwyddau gael eu symud. Gallwch wirio pa gyfeirnodau datganiadau y dylid eu nodi mewn Cyfeirnod Symud Nwyddau ar GOV.UK.

Dod o hyd i help a chymorth pellach

Dysgwch beth sydd angen i chi ei wybod a’i wneud i barhau i fasnachu â’r DU os ydych yn rhedeg busnes yn yr UE.

Bydd angen i chi hefyd fod yn ymwybodol o’r prosesau allforio a mewnforio lleol yn y wlad rydych wedi’i lleoli ynddi. Mae gan wefan y Comisiwn Ewropeaidd arweiniad ar fewnforio i’r UE ac allforio ohono.