Creu cyfeirnod symud nwyddau
Ewch ati i gael cyfeirnod symud nwyddau i symud nwyddau trwy leoliadau sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael cyfeirnod symud nwyddau ar ôl cofrestru gyda’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau.
Ni fydd rhaid i chi gael cyfeirnod symud nwyddau os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn dod â nwyddau i mewn i’r DU at ddefnydd personol
- rydych yn dod â nwyddau masnachol i mewn i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) yn eich bagiau (yn agor tudalen Saesneg)
- rydych yn cymryd nwyddau masnachol allan o Brydain Fawr yn eich bagiau
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mae angen i chi wirio beth sydd ei angen i gael cyfeirnod symud nwyddau. Rhaid i chi nodi cyfeirnod ar gyfer yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys mewn cerbyd, trelar neu gynhwysydd.
Nwyddau o’r UE i Brydain Fawr
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif cofrestru’r cerbyd, os yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- rhif y trelar neu gyfeirnod y cynhwysydd, os nad yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- cyfeirnodau ar gyfer symudiadau Carnet Admission Temporaire neu Fynediad Dros Dro (ATA) a Charnet ‘Transports Internationaux Routiers’ (TIR), os yw hynny’n berthnasol
- carnets papur ATA neu TIR, ar gyfer symudiadau Carnet ATA neu TIR — mae’n rhaid i’r rhain deithio gyda’r nwyddau drwy gydol y daith
- Cyfeirnod Symud Mewnforion (MRN) os gwneir datganiadau yn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
- rhif EORI, ar gyfer nwyddau pan fo’r masnachwr wedi’i awdurdodi i wneud datganiadau yn ei gofnodion ei hun
Ar gyfer pob symudiad Confensiwn Cludo Cyffredin, bydd angen un o’r canlynol arnoch:
- MRN a fydd wedi’i gynhyrchu gan y Gwasanaeth System Gludo Gyfrifiadurol Newydd (NCTS)
- copi papur o’r datganiad cludo (er enghraifft, Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo (TAD) neu’r Ddogfen Weinyddol Sengl (SAD)) sy’n teithio gyda’r nwyddau os nad yw’r NCTS ar gael pan fydd y nwyddau’n dechrau eu symudiad
Mae’n rhaid i chi beidio â chynnwys cyfeirnodau datganiadau mewnforio cysylltiedig yn y cyfeirnod symud nwyddau ar gyfer nwyddau sy’n symud o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin.
Gallwch ddewis cynnwys MRN y datganiad cryno wrth gyrraedd ar gyfer diogelwch wrth fewnforio, ond nid yw’n orfodol.
Nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif cofrestru’r cerbyd, os yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- rhif y trelar neu gyfeirnod y cynhwysydd, os nad yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- cyfeirnodau ar gyfer symudiadau Carnet ATA a TIR, os yw hynny’n berthnasol
- carnets papur ATA neu TIR, ar gyfer symudiadau Carnet ATA neu TIR — mae’n rhaid i’r rhain deithio gyda’r nwyddau drwy gydol y daith
- MRN mewnforion os gwneir datganiadau yn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
- rhif EORI masnachwr awdurdodedig lle bo masnachwr awdurdodedig yn gwneud datganiadau yn ei gofnodion eu hun ar gyfer nwyddau sy’n cael eu symud
- MRN y datganiad cryno wrth gyrraedd ar gyfer diogelwch wrth fewnforio
Ar gyfer pob symudiad Confensiwn Cludo Cyffredin, bydd angen un o’r canlynol arnoch:
- MRN a fydd wedi’i gynhyrchu gan yr NCTS
- copi papur o’r datganiad cludo (er enghraifft, Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo neu’r Ddogfen Weinyddol Sengl) sy’n teithio gyda’r nwyddau os nad yw’r NCTS ar gael pan fydd y nwyddau’n dechrau eu symudiad
Mae’n rhaid i chi beidio â chynnwys cyfeirnodau datganiadau mewnforio cysylltiedig yn y cyfeirnod symud nwyddau ar gyfer nwyddau sy’n symud o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin.
Nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif cofrestru’r cerbyd, os yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- rhif y trelar neu gyfeirnod y cynhwysydd, os nad yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- cyfeirnodau ar gyfer symudiadau Carnet ATA a TIR, os yw hynny’n berthnasol
- carnets papur ATA neu TIR, ar gyfer symudiadau Carnet ATA neu TIR — mae’n rhaid i’r rhain deithio gyda’r nwyddau drwy gydol y daith
- datganiad allforio cyfunol o ran y tollau a diogelwch — Cyfeirnod Unigryw y Llwyth ar gyfer Datganiad (DUCR) sydd wedi’i ddatgan yn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau — dysgwch ym mha amgylchiadau y mae’r datganiad cyfunol o ran y tollau a diogelwch yn berthnasol (yn agor tudalen Saesneg)
- Dogfen Ategol ar gyfer Allforio ar gyfer allforyn anuniongyrchol o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr a ddatgenir yn Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg)
- MRN y datganiad cryno ar gyfer diogelwch wrth allforio ar gyfer nwyddau sy’n symud o dan drefniadau cludo gan ddefnyddio naill ai dogfen TAD, Dogfen Ategol ar gyfer Gwarant Cludo neu garnet TIR
Ar gyfer pob symudiad Confensiwn Cludo Cyffredin, bydd angen un o’r canlynol arnoch:
- MRN a fydd wedi’i gynhyrchu gan yr NCTS
- copi papur o’r datganiad cludo (er enghraifft, Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo neu’r Ddogfen Weinyddol Sengl) sy’n teithio gyda’r nwyddau os nad yw’r NCTS ar gael pan fydd y nwyddau’n dechrau eu symudiad
Nwyddau o Brydain Fawr i’r UE
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif cofrestru’r cerbyd, os yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- rhif y trelar neu gyfeirnod y cynhwysydd, os nad yw’ch symudiad yn dod gyda rhywun
- cyfeirnodau ar gyfer symudiadau Carnet ATA a TIR, os yw’n berthnasol — mae’n rhaid i garnets papur deithio gyda’r nwyddau drwy gydol y daith
- y DUCR ar gyfer yr holl ddatganiadau allforio cyfunol o ran y tollau a diogelwch a ddatganwyd yn y Gwasanaeth Datganiadau Tollau — gallwch uwchlwytho mwy nag un datganiad os oes angen i chi wneud hynny
- MRN y datganiad cryno wrth ymadael o ran diogelwch pan fydd angen datganiad cryno wrth ymadael (yn agor tudalen Saesneg), ac eithrio pan fo DUCR wedi’i gynnwys ar gyfer yr holl nwyddau mewn symudiad cludo
Ar gyfer pob symudiad Confensiwn Cludo Cyffredin, bydd angen y canlynol arnoch:
- pob DUCR os nad yw’r anfonydd awdurdodedig yn bodloni’r meini prawf i ddefnyddio MRN Dogfen Ategol ar gyfer Cludo
- y Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo MRN, os nad yw’r nwyddau’n cludo nwyddau, yn gadael o leoliad ‘allforion wedi cyrraedd’ (yn agor tudalen Saesneg) a chychwynnwyd y symudiad gan draddodwr awdurdodedig os oedd yn dal rhai awdurdodiadau
- copi papur o’r datganiad cludo (er enghraifft, Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo neu’r Ddogfen Weinyddol Sengl) os dylid defnyddio MRN Dogfen Ategol ar gyfer Cludo ond nid yw NCTS ar gael pan fydd y nwyddau’n dechrau eu symudiad
- y Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo MRN os nad oes angen datganiad allforio ar y nwyddau — er enghraifft, pan fyddant yn teithio drwy Brydain Fawr o Iwerddon neu wedi cael eu cymryd o storfa dros dro (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych yn symud nwyddau o dan carnet ATA, carnet TIR neu ddatganiadau Dogfen Weinyddol Sengl (SAD) papur yn lleoliadau Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich cyfeirnodau ATA, TIR neu SAD wedi’u cynnwys mewn cyfeirnod symud nwyddau cyn mynychu’r porthladd neu’r cyfleuster mewndirol wrth y ffin i’r dogfennau gael eu cymeradwyo.
Gallai symudiad y nwyddau cael ei ohirio os nad ydych yn gwneud hynny.
Cael cyfeirnod symud nwyddau heb orfod cynnwys gwybodaeth am gyfeirnod datganiad
Mae yna amgylchiadau pan allwch gael cyfeirnod symud nwyddau heb orfod cynnwys cyfeirnod datganiad.
Pan fyddwch yn datgan nwyddau ar lafar neu drwy ymddygiad
Gallwch ddatgan rhai nwyddau wrth y ffin ar lafar neu drwy ymddygiad. Mae ‘drwy ymddygiad’ yn golygu y gallwch wneud ‘datganiad drwy ymddygiad’ wrth i chi gyrraedd man gadael neu fan cyrraedd Prydain Fawr drwy wneud y canlynol:
- cerdded drwy fan rheoli tollau (gall hyn fod yn sianel werdd, ‘dim byd i’w ddatgan’) gyda’r nwyddau, os ydych yn unigolyn ar droed
- gyrru (neu rywun yn eich gyrru) heibio man rheoli tollau gyda’r nwyddau yn eich cerbyd, os ydych yn mewnforio neu’n allforio nwyddau mewn cerbyd
- parhau â’ch taith, os nad oes unrhyw fannau rheoli tollau yno
Os ydych yn symud trelar gwag neu unrhyw nwyddau masnachol eraill y gellir eu datgan ar lafar neu drwy weithred (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen i chi gael cyfeirnod symud nwyddau ar gyfer nwyddau sy’n cael eu symud:
- o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon
- o’r UE i Brydain Fawr
- o Brydain Fawr i’r UE
Gallwch wneud hyn drwy ddewis naill ai’r opsiwn ‘datganiadau ar lafar neu drwy ymddygiad’ neu’r opsiwn ‘gwag’ yn y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau.
Mae’n rhaid defnyddio’r mathau hyn o ddatganiad dim ond pan fo’n briodol ac ar gyfer nwyddau sy’n berthnasol i ddatganiadau llafar a thrwy ymddygiad (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad yw’ch nwyddau’n bodloni’r meini prawf hyn, mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio’r datganiad llafar neu drwy ymddygiad i greu’ch cyfeirnod symud nwyddau. Os byddwch yn gwneud, mae’n bosibl y bydd eich taith yn cael ei gohirio ac efallai y byddwch yn wynebu cosb.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen i chi gwblhau datganiad diogelwch (yn agor tudalen Saesneg), lle y mae’n rhaid i chi nodi a yw’ch nwyddau’n symud o dan gontract cludo (bydd y gwasanaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn).
Ni fydd pob porthladd yn derbyn datgan nwyddau ar lafar neu drwy ymddygiad. Dylech wirio gyda’ch cludwr cyn symud y nwyddau.
Pan fyddwch yn datgan rhai eitemau a anfonir drwy’r post
Os ydych yn weithredwr post dynodedig neu’n Swyddfa Cyfnewid Alldiriogaethol, gallwch gael cyfeirnod symud nwyddau heb orfod cynnwys gwybodaeth am gyfeirnod datganiad ar gyfer rhai eitemau.
Mae hyn yn berthnasol i nwyddau sy’n symud o dan reolau Undeb Post Cyffredinol gyda’r canlynol:
- dogfennau symud CN37, CN38 a CN41
- Ffurflenni datganiad eitem CN22 a CN23
Os nad yw’r nwyddau’n bodloni’r meini prawf hyn, mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio opsiynau post i greu’ch cyfeirnod symud nwyddau. Os byddwch yn gwneud, mae’n bosibl y bydd eich taith yn cael ei gohirio ac efallai y byddwch yn wynebu cosb.
Symud nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr drwy Iwerddon
Nid oes rhaid i chi gael datganiad ar gyfer mewnforio os ydych yn symud nwyddau cymwys o Ogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg) drwy Iwerddon i gyrraedd Prydain Fawr, oni bai eich bod chi’n symud:
- nwyddau ecséis
- rhywogaethau sydd mewn perygl (yn agor tudalen Saesneg)
- nwyddau sy’n ymwneud ag Arfau Distryw Mawr (er enghraifft, deunyddiau ymholltol)
Pan fyddwch yn creu eich cyfeirnod symud nwyddau, dewiswch yr opsiwn ‘datganiadau ar lafar neu drwy ymddygiad neu does dim angen gwneud datganiad’ yn y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau.
Bydd hefyd angen y canlynol arnoch neu ar y person sy’n symud y nwyddau:
- tystiolaeth i ddangos bod y nwyddau yn nwyddau cymwys
- mynediad at ddogfen deithio a gyhoeddwyd yn y DU sy’n nodi cyrchfan y nwyddau (i ddangos eu bod dim ond yn pasio drwy Iwerddon)
Cael cyfeirnod symud nwyddau
Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r cyfeirnod symud nwyddau yn y porthladd rydych yn ei adael. Cysylltwch â’r cludwr yn y porthladd i gael gwybod sut i wneud hyn.
Bydd y cludwr yn caniatáu i chi gychwyn ar eich taith os yw’r cyfeirnod symud nwyddau yn ddilys.
Mae’n rhaid i chi gynnwys cyfeirnodau ar gyfer datganiadau gyda’r cyfeirnod symud nwyddau ar gyfer yr holl nwyddau rydych yn eu cario.
Efallai y codir cosb arnoch os byddwch yn mewnforio nwyddau i leoliad lle mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiadau ymlaen llaw, ac mae’r mewnforio yn digwydd heb ddigon o dystiolaeth bod datganiad wedi cael ei wneud.
Mae’n rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ynghylch a oes angen i chi gael eich nwyddau wedi’u gwirio gan y tollau wrth gyrraedd neu a allwch barhau â’ch taith.
Dod â nwyddau i’r DU
Dylech ddefnyddio’ch cyfeirnod symud nwyddau yn y gwasanaeth ‘gwirio a oes angen i chi fynychu archwiliad’ i ddeall a yw’ch nwyddau’n cael eu cadw. Os ydych yn cyrraedd Porthladd Dover neu Eurotunnel, bydd angen i chi fynychu Cyfleuster Mewndirol wrth y Ffin er mwyn i’r gwiriadau hyn gael eu cynnal. Ar gyfer pob lleoliad arall y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau, mae’n rhaid i chi fynd i’r cyfleuster archwilio yn, neu ger, y porthladd os caiff eich nwyddau eu cadw.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd swyddogion Llu’r Ffiniau yn y porthladd hefyd yn eich atal er mwyn cynnal gwiriadau ar eich cerbyd neu’ch llwyth.
Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i chi barhau i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin i gwblhau swyddogaethau’r tollau os ydych wedi cael cyfarwyddiadau i wneud hynny.
Rhaid mynd â’r nwyddau i gyfleuster mewndirol wrth y ffin yn uniongyrchol, a rhaid i’r nwyddau fod yn yr un cyflwr ag yr oeddent ar adeg eu mewnforio.
Mae’n bosibl y byddwch yn agored i gosb hyd at £2,500 os na fyddwch yn dilyn cyfarwyddiadau CThEF.
Cymryd nwyddau allan o’r DU
Gwiriwch pa leoliadau sydd angen datganiad allforion wedi cyrraedd (yn agor tudalen Saesneg).
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 September 2024 + show all updates
-
Information updated to confirm you need to use your goods movement reference to check if you need to report for an inspection.
-
Guidance on goods moved from Great Britain to Northern Ireland has been updated.
-
Guidance on goods moved from Great Britain to the EU has been updated.
-
Information about moving qualifying goods from Northern Ireland to Great Britain through Ireland has been added. Information about moving goods from Ireland to Great Britain has been removed.
-
Translation added.
-
Addition of Declaration Unique Consignment References and Transit Accompanying Document Movement Reference Numbers for Common Transit Convention movements to the list of what needs to be included in a goods movement reference for goods sent from Great Britain to the EU.
-
Information about moving goods under Carnets, paper Single Administrative Document (SADs) has been updated to support an update to the Goods Vehicle Movement Service, and guidance about the Common Transit Convention has been updated to make it clear you should not add associated import declarations to a goods movements reference.
-
Welsh translation added.
-
What you'll need to get a goods movement reference for Common Transit Convention movements has been updated.
-
For Common Transit Convention movements of goods from Great Britain to the EU, you will need a goods movement reference with all the export declaration references, or you can choose to present a Master Unique Consignment Reference in writing at an office of departure.
-
Guidance about when you declare goods orally or by conduct has been updated.
-
The requirements to get a goods movement reference from 1 January 2022 have been updated. This is because of changes to the goods vehicle movement service and the decision to temporarily extend staged customs controls for goods moving from Ireland and Northern Ireland (where applicable) to Great Britain.
-
From 1 January 2022, haulier's will need to check if they need to report for an inspection if they are arriving a the Port of Dover, Eurotunnel or Holyhead. Guidance on how to do this has been added. Guidance has also been added about what you'll need to include from 1 January 2022 when you present a goods movement reference at an ‘arrived export’ location using the Goods Vehicle Movement Service, and when you present a goods movement reference at other locations as part of a pre-lodged export declaration using the Goods Vehicle Movement Service.
-
Definition of ‘declaration by conduct’ added.
-
More information about what you’ll need to get your goods movement reference has been added.
-
Information about what you'll need to get a goods movement reference has been updated.
-
Welsh translation added.
-
Information about what you'll need to get a goods movement reference has been updated.
-
Information added about declaring goods orally or by conduct.
-
Information has been added about needing a goods movement reference if you are moving an empty trailer.
-
First published.