Papur polisi

Sut mae CThEF yn gweithio gydag asiantau

Diweddarwyd 23 January 2023

Beth yw asiantau treth

Mae asiantau treth yn asiantau, ac yn ymgynghorwyr, sydd wedi’u sefydlu yn y DU, neu mewn gwledydd eraill, ac sy’n gweithredu’n broffesiynol mewn perthynas â materion treth pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys asiantau ac ymgynghorwyr trydydd parti, p’un a ydynt yn gweithredu mewn perthynas â materion treth yn y DU neu faterion treth alltraeth, bob tro y byddant yn delio â CThEF.

Nid yw hyn yn gymwys i Gynorthwywyr Dibynadwy.

Siarter a strategaethau CThEF

Rydym yn parchu dymuniad unrhyw drethdalwr i gael ei gynrychioli gan asiant, ar yr amod bod yr awdurdodiad cywir yn ei le, fel y nodir yn Siarter CThEF.

Mae’r broses o awdurdodi asiantau wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a pharch gan y naill i’r llall.

Mae’n rhaid i’r asiant ddilyn safon CThEF ar gyfer asiantau.

Mae strategaeth gweinyddu trethi CThEF (yn Saesneg) yn cydnabod pwysigrwydd cadw a, phan fo angen, godi’r safonau ar gyfer asiantau treth a chyfryngwyr er mwyn meithrin ffydd yn y system gweinyddu trethi.

Er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau, mae’n rhaid dilyn telerau ac amodau gwasanaethau ar-lein CThEF.

Rydym yn argymell pob asiant i ymgyfarwyddo â’r egwyddorion yn y dogfennau hyn.

Sut mae CThEF yn helpu asiantau i helpu eu cleientiaid

Yn unol â’r egwyddorion a nodir yn y dogfennau hyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd asiantau treth yn y system gweinyddu trethi.

Rydym yn eu cynorthwyo ac yn eu helpu wrth gyflawni’r strategaeth asiantau, a thrwy amrywiaeth eang o ffyrdd eraill, megis:

  • e-byst rhagarweiniol ar gyfer asiantau treth sy’n cofrestru gyda CThEF, mae’r e-byst hyn yn rhoi gwybodaeth am gynnyrch a ddyluniwyd er mwyn rhoi help a chymorth i asiantau, yn ogystal â’u cyfeirio at newyddion, gwybodaeth, a diweddariadau i ddeddfwriaeth
  • cyhoeddiadau misol ynghylch Diweddariadau i Asiantau
  • blogiau
  • pynciau trafod ar gyfer asiantau treth
  • gweminarau
  • fforwm ar-lein penodedig ar gyfer asiantau
  • llinellau cymorth a chysylltiadau penodedig ar gyfer asiantau treth
  • ystod o becynnau cymorth hunanwasanaethu ar gyfer asiantau, er mwyn eu helpu i sicrhau bod Ffurflenni Treth eu cleientiaid yn gywir, yn ogystal ag arweiniad a llawlyfrau sydd ar gael ar-lein er mwyn i’r cyhoedd droi atynt
  • diweddariadau drwy e-byst ar wahân ar gyfer materion penodol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddiweddariadau CThEF drwy e-byst, fideos a gweminarau ar gyfer ymgynghorwyr ac asiantau treth (yn Saesneg).

Bydd asiant sydd wedi’i awdurdodi’n briodol gan drethdalwr er mwyn gweithredu ar ei ran, sydd hefyd yn cydymffurfio â safon CThEF ar gyfer asiantau, yn gallu cymryd mantais ar fynediad llawn i’r gwasanaethau asiant a gynigir gan CThEF.

Bydd y gwasanaethau hyn yn parhau i gael eu datblygu er mwyn galluogi asiantau i weld ac i wneud union yr un peth â’u cleientiaid, a hynny er mwyn iddynt fodloni ymrwymiadau treth eu cleientiaid mewn ffordd sydd mor hwylus â phosibl.

Dysgwch sut y gall cleientiaid awdurdodi asiant i weithredu ar eu rhan.

Mae’n bosibl y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni gysylltu ag asiantau ynghylch materion treth eu cleientiaid, hyd yn oed os ydynt yn dilyn safonau CThEF ar gyfer asiantau.

Os nad yw asiant yn bodloni safon CThEF ar gyfer asiantau

Ni fyddwn yn goddef ymddygiad gwael gan asiantau a fydd yn achosi niwed i drethdalwyr neu ein staff, neu sy’n cael effaith negyddol ar gyllid cyhoeddus.

Byddwn yn annog asiantau i wella’u hymddygiad, gosod sancsiynau er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwael, cyfyngu ar yr hyn y maent yn gallu ei wneud, neu eu hatal rhag gweithredu ar ran cleientiaid yn gyfan gwbl.

Pan nad yw asiant yn bodloni’r safon ar gyfer asiantau, byddwn yn cymryd camau cyn gynted â phosibl, a hynny mewn modd:

  • cymesur
  • rhesymol
  • cyfiawnadwy
  • cyfreithlon
  • teg

Mae amrywiaeth o ddulliau gennym, yn ogystal â pholisïau a phwerau, i’w defnyddio i fynd i’r afael ag ymddygiad gwael gan asiantau. Mae’r pwerau hyn wedi’u crynhoi yn ‘Codi safonau yn y farchnad cyngor treth — adolygiad CThEF o bwerau i gynnal y safon ar gyfer Asiantau’ (yn Saesneg).

Gallwn gyfyngu ar fynediad asiant at wasanaethau ar-lein, neu atal y mynediad hwnnw’n gyfan gwbl.

Byddwn hefyd yn ystyried camau pellach, sy’n amrywio o siarad â’r asiant hyd at ddefnyddio pwerau statudol (gan gynnwys ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol).

Gellir cymryd y camau canlynol hefyd:

  • datgeliad ynghylch camymddygiad i unrhyw gorff rheoleiddio proffesiynol y mae’r asiant yn aelod ohono, o dan adran 20(3) o Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005
  • hysbysiadau ynghylch ymddygiad anonest, a hysbysiadau cysylltiedig o ran mynediad at ffeiliau, cosbau ariannol, a chyhoeddi unrhyw gosbau a godwyd o dan adran 38 o Ddeddf Cyllid 2012
  • gwrthod delio ag asiant o gwbl

Pan fo’n briodol, byddwn yn gweithredu o dan y pwerau gwrth-wyngalchu arian (yn Saesneg).

Byddwn yn gorfodi’r strategaeth hyrwyddwyr (yn Saesneg) a chymryd camau yn unol â’r polisi ymchwiliadau troseddol (yn Saesneg).

Gall hyn fod yn ogystal â, neu ar wahân i, unrhyw gamau eraill a gymerir o dan safon CThEF ar gyfer asiantau.

Gan fod awdurdodi asiant yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch gan y naill i’r llall, a gan nad yw’n ofynnol o dan y gyfraith i ni gydnabod awdurdod asiant, rydym yn cadw’r hawl i anwybyddu awdurdodiad. Byddwn yn gwneud hynny os yw ymddygiad yr asiant yn wael, neu os yw’n torri safon CThEF ar gyfer asiantau. Yn yr achos hwn, byddwn yn delio’n uniongyrchol â’r cleient.

Eich hawliau fel asiant

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw benderfyniad gan CThEF, gallwch ofyn am adolygiad, gwneud apêl i dribiwnlys annibynnol, neu wneud y ddau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’ch hawliau ym mhob sefyllfa.

Dysgwch sut i gwyno i CThEF.