Papur polisi

Cynllun Gweithredu ar gyfer Pobl sy’n Agored i Niwed - Hydref 2022

Diweddarwyd 12 December 2023

1. Cyflwyniad

Gall defnyddio un o’r gwasanaethau a gynigir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (HMCTS) fod yn brofiad brawychus i unrhyw un. Gall fod yn her fwy fyth i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Rydyn ni’n dweud bod pobl yn fregus pan maen nhw’n cael trafferth i wneud rhywbeth a bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw. Gallai hyn fod oherwydd anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu’n brofiad sydd wedi gwneud i rywun deimlo’n anniogel.

Mae Cynllun Gweithredu Bregusrwydd GLlTEF yn dangos sut rydym yn anelu at sicrhau bod ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd yn hygyrch i bawb. Mae’n nodi’r hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau nad yw ein defnyddwyr bregus o dan anfantais neu yn destun gwahaniaethu, wrth i ni ddarparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n gwrando ar bobl sy’n fwy agored i niwed sy’n defnyddio ein gwasanaethau, a’n partneriaid sy’n cefnogi grwpiau bregus. Rydym yn gweithio i addasu a gwella ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion. Rydyn ni yn ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) ac adrannau eraill y llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod ni’n darparu’r lefel gywir o gefnogaeth. Mae’n bwysig i ni fod ein defnyddwyr bregus bob amser yn gallu cael mynediad i’r system gyfiawnder mewn modd diogel a’u bod yn hyderus wrth wneud hynny.

2. Cefndir

Rydym wedi ymrwymo i gadw ein Cynllun Gweithredu Bregusrwydd yn gyfredol. Fe’i gyhoeddwyd ddiwethaf ym mis Ebrill 2022. Fel o’r blaen, mae’r cynllun hwn yn cynnwys ein gwaith fel rhan o raglen ddiwygio GLlTEF i greu gwasanaethau hygyrch yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth fel y gall ein defnyddwyr bregus gael mynediad i’r system gyfiawnder mewn modd diogel a’u bod yn hyderus wrth wneud hynny.

  1. Darparu cymorth i’n defnyddwyr bregus i gael mynediad a chymryd rhan yng ngwasanaethau’r llys a’r tribiwnlys a chyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth eraill pan fo angen.
  2. Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr bregus.
  3. Gwneud ein gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr bregus.

Byddwn yn parhau i sicrhau y gall ein defnyddwyr bregus gael mynediad i’n gwasanaethau a byddwn yn gwneud hyn trwy:

  • ymgysylltu parhaus â defnyddwyr bregus a’n partneriaid sy’n cefnogi grwpiau bregus
  • ystyried effaith newid deddfwriaethol fel Deddf Cam-drin Domestig 2021, Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 a Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022
  • gweithredu strategaethau traws-lywodraethol megis y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Plant Awtistig, Pobl Ifanc, ac Oedolion, a Chynllun Gweithredu Niwroamrywiaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

3. Beth rydyn ni wedi’i wneud ers ein diweddariad diwethaf

4. Darparu cymorth i’n defnyddwyr bregus i gael gafael ar wasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd, eu defnyddio a chyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth eraill pan fo angen

4.1 Traws-awdurdodaethol

Rydym wedi:

  • cyflwyno polisi diogelu GLlTEF, arweiniad a hyfforddiant i staff i sicrhau bod gennym y sgiliau a’r wybodaeth i gefnogi defnyddwyr bregus a allai fod angen eu diogelu. Diogelu yw amddiffyn hawliau oedolion a phlant sydd mewn perygl i fyw yn ddiogel, i ffwrdd o gamdriniaeth ac esgeulustod

  • dechrau cynnig Gwasanaeth Cymorth Digidol cenedlaethol mewn partneriaeth â “We Are Digital” (WAD), un o brif ddarparwyr sgiliau a chynhwysiant digidol y DU. Mae hyn yn golygu y gallwn gefnogi defnyddwyr:

    • Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant
    • Gwasanaeth Un Ynad
    • Gwasanaeth hawlio arian ar-lein y llys sifil
    • Gwasanaeth Profiant
    • Gwasanaeth Ysgariad
    • Help i dalu ffioedd ar gyfer defnyddio ein gwasanaethau ar-lein

Efallai nad oes gan rai o’n defnyddwyr y dechnoleg, na’r sgiliau digidol a’r hyder i wneud pethau ar-lein. Bydd y Gwasanaeth Cymorth Digidol yn helpu ein defnyddwyr sy’n wynebu’r mathau hyn o rwystrau i gael gafael ar y gwasanaethau hynny ar-lein a llenwi ffurflenni ar GOV.UK

4.2 Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Rydym wedi:

  • ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr ein Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (ET) i ddechrau eu hachosion ar-lein. Rydym wedi cyflwyno ffurflen hawlio newydd gyda chyfarwyddiadau cliriach

  • rydym wedi cyflwyno’r canllaw prohibition of cross examination in the family courts. Os nad oes rhywun yn eich cynrychioli, gall y llys nawr benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwys i gwestiynu’r parti arall
  • cefnogi’r Cynllun Seibiant Dyledion, a elwir yn fwy cyffredin yn Lle i Anadlu sy’n fenter gan Drysorlys EF a weinyddir gan y Gwasanaeth Ansolfedd

Mae’r ddeddfwriaeth yn cefnogi dyledwyr sy’n gofyn am gyngor ar ddyledion trwy ddarparu amddiffyniadau cyfreithiol iddynt rhag gorfodi eu dyledion am gyfnod o hyd at 60 diwrnod.

5. Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr bregus

5.1 Traws-awdurdodaethol

Rydym wedi:

  • cynnal asesiadau mynediad at gyfiawnder ar draws ein gwasanaethau diwygiedig i helpu i adnabod ble mae modd gwneud gwelliannau. Mae’r asesiadau hyn wedi helpu gwasanaethau i adnabod mynediad posibl at faterion cyfiawnder ac ystyried newidiadau yn y gwasanaeth i wella profiad defnyddwyr

  • parhau i gwblhau asesiadau fel rhan o’n Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus pan fyddwn yn gwneud newidiadau i’n prosesau, ein polisïau neu’r ffordd rydym yn gweithio

  • casglu adborth o’n cynllun peilot ynglŷn â’r Cynllun Blodau Haul Anableddau Cudd. Roedd y canfyddiadau yn dangos cefnogaeth gyffredinol i’r cynllun ac yn canolbwyntio ar:

    • rwyddineb cael gafael ar gortyn gwddf
    • bod yn ddiogel wrth wisgo cortyn gwddf yn ein hadeiladau
    • profiad defnyddwyr cyffredinol.

6. Gwneud ein gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr bregus

6.1 Llysoedd Troseddol

Rydym wedi:

  • cynnal treialon gyda rheithiwr byddar gyda mwy wedi’u trefnu i gael eu cynnal erbyn diwedd 2022. Daw hyn yn dilyn newidiadau a ddigwyddodd o ganlyniad i Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022, sy’n caniatáu siarad Iaith Arwyddion Prydain yn ystafell drafod y rheithgor. Y disgwyliad yw y bydd hyn yn caniatáu i dros 80,000 o bobl fyddar ar draws Cymru a Lloegr i allu gwasanaethu ar reithgor.

  • darparu recordiad o’r broses groesholi ymlaen llaw ar gyfer dioddefwyr troseddau rhywiol difrifol a chaethwasiaeth fodern. Mae hyn ar waith ar draws treialon Llys y Goron lle ganiateir hynny gan y Farnwriaeth

  • creu canllawiau a deunyddiau dysgu ar gyfer staff y llys i helpu i gefnogi defnyddwyr â mesurau arbennig. Mae mesurau arbennig yn caniatáu i ddioddefwyr a thystion gymryd rhan mewn achosion troseddol heb orfod cwrdd â’r sawl a gyhuddwyd wyneb yn wyneb.

  • gweithredu gorchymyn cychwyn newydd a oedd yn gwneud i ddioddefwyr cam-drin domestig gael eu hystyried yn gymwys yn awtomatig ar gyfer mesurau arbennig yn y llysoedd troseddol. Mae’r mesurau arbennig yn cynnwys:

  • sgriniau i guddio’r tyst oddi wrth y diffynnydd
  • dolen fyw sy’n caniatáu i’r tyst roi tystiolaeth yn ystod y treial o’r tu allan i’r ystafell lys
  • roi tystiolaeth yn breifat, ac eithrio aelodau’r cyhoedd yn y llys
  • barnwyr a bargyfreithwyr yn peidio â gwisgo wigiau a gynau

6.2 Llysoedd Sifil, Teulu a Thribiwnlysoedd

Rydym wedi:

  • ail-lansio gwasanaeth digidol i gefnogi’r gyfraith ysgariad newydd a elwir yn gyffredin yn no fault divorce. Mae hyn yn darparu canllawiau wedi’u diweddaru a hysbysiadau gwell ar gynnydd achosion

  • cytuno y bydd pob achos yn cael ei restru fel gwrandawiadau fideo yn dilyn cyfarwyddyd barnwrol yn y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd. Gall gwrandawiadau wyneb yn wyneb neu wrandawiadau hybrid ddigwydd lle mae partïon wedi gofyn am un, neu fod y barnwr wedi penderfynu ei bod hi’n angenrheidiol

  • · cyflwyno 200 o sgriniau amddiffynnol mewn llysoedd teulu. Mae defnyddio sgriniau’n golygu nad oes rhaid i ddioddefwyr cam-drin domestig weld y troseddwr yn yr ystafell llys

  • lansio Llinell Dalu Awtomataidd (APL) sy’n caniatáu i ddefnyddwyr dalu ffioedd dyledwyr. Rydym yn parhau i gynnig dulliau eraill o dalu i unrhyw un na all ddefnyddio’r llinell.

7. Ein cynllun

8. Darparu cymorth i’n defnyddwyr bregus i gael gafael ar wasanaethau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd a’u defnyddio yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau gwybodaeth a chefnogaeth eraill pan fo angen

Rydym yn: Y dyddiad y dylid ei gwblhau erbyn Yr awdurdodaeth sydd ynghlwm â hyn
parhau i ddatblygu strategaeth gyfeirio newydd i wella’r ffordd rydym yn cysylltu defnyddwyr y gwasanaeth â gwasanaethau cymorth allanol pan fo angen. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cyflwyno canllaw i staff ar sut i gynnwys pethau y gellid cyfeirio atynt mewn modd effeithiol yn ein taflenni gwybodaeth i’r cyhoedd ac ar GOV.UK Yn mynd rhagddo traws-awdurdodaethol
cyflwyno’r Cynllun Blodau Haul Anableddau Cudd ar draws ein holl safleoedd, fel rhan o’n hymrwymiad yn y strategaeth awtistiaeth draws-lywodraethol. Mae rhai pobl yn dewis gwisgo cortyn gwddf Blodau’r Haul i ddangos y gall fod arnynt angen cefnogaeth ychwanegol. haf 2023 traws-awdurdodaethol
datblygu canllawiau i staff i helpu i gefnogi defnyddwyr sydd mewn risg o niwed neu mewn risg o gyflawni hunanladdiad gwanwyn 2023 traws-awdurdodaethol
gwerthuso’r cynllun peilot o ran cyflwyno Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor,  a elwid gynt yn Llinell Gymorth i Ddioddefwyr, yng Nghaint a Thames Valley Yn mynd rhagddo traws-awdurdodaethol
gwneud gwelliannau i ganiatáu ymgyfreithwyr drostynt eu hunain wneud gorchymyn trefniadau plant a cheisiadau Deddf Cyfraith Teulu (Cam-drin Domestig) i fynd i’r afael a’u hachos digidol yn uniongyrchol. Byddant yn gallu: diweddaru eu manylion cyswllt, darparu ymatebion i gyfarwyddiadau mewn gorchmynion, gweld dogfennau eraill yn cael eu hychwanegu at yr achos digidol, cael eu cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol, olrhain cynnydd eu hachos. Yn mynd rhagddo llysoedd sifil, teulu a thribiwnlysoedd
cefnogi cynnig am wasanaeth cwnsela rheithgor i roi cefnogaeth emosiynol i reithwyr haf 2023 llysoedd troseddol
datblygu proses wrth ddefnyddio mesur arbennig Adran 28 ym mhob safle mewn lleoliad anghysbell Yn mynd rhagddo llysoedd troseddol

9. Casglu a choladu tystiolaeth a’i defnyddio i nodi effeithiau newidiadau ar ddefnyddwyr bregus

Rydym yn: Y dyddiad y dylid ei gwblhau erbyn Yr awdurdodaeth sydd ynghlwm â hyn
cynnal asesiadau mynediad at gyfiawnder ar draws ein gwasanaethau er mwyn nodi ble y gellir gwneud gwelliannau. Data nodweddion gwarchodedig yw un ffynhonnell wybodaeth a fydd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau Yn mynd rhagddo traws-awdurdodaethol
ystyried sut y gallwn gefnogi dioddefwyr trais domestig yn well drwy adnabod mesurau ychwanegol, y gellid eu cyflwyno, heb beryglu didueddrwydd y llys Yn mynd rhagddo llysoedd sifil, teulu a thribiwnlysoedd

10. Gwneud gwasanaethau’n hygyrch i ddefnyddwyr bregus

Rydym yn: Y dyddiad y dylid ei gwblhau erbyn Yr awdurdodaeth sydd ynghlwm â hyn
parhau â phrosiect gwella hygyrchedd y Llysoedd Barn Brenhinol haf 2023 traws-awdurdodaethol
gweithio i wella mynediad i’n hadeiladau Yn mynd rhagddo traws-awdurdodaethol
gwerthuso ein prosesau i apelyddion sy’n bresennol mewn Tribiwnlysoedd Mewnfudo a Lloches i ddeall pa mor dda y mae’r gwasanaeth yn gweithio a beth yw profiad cyffredinol y defnyddiwr. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod mynediad cyfatebol at gyfiawnder i apelyddion sydd heb gynrychiolaeth gyfreithiol o’i gymharu â’r rhai sydd â chynrychiolaeth gyfreithiol haf 2023 llysoedd sifil, teulu a thribiwnlysoedd
gweithredu Mesurau Arbennig a Gwahardd Croesholi mewn Achosion Sifil fel rhan o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Mae’r ffurfiau a ddefnyddir amlaf yn cael eu diweddaru i alluogi defnyddwyr i ddweud wrthym am unrhyw fregusrwydd neu ofyniad sydd angen mesurau arbennig hydref 2022 llysoedd sifil, teulu a thribiwnlysoedd

11. Edrych i’r dyfodol

Byddwn yn parhau i adolygu unrhyw newidiadau a wnawn i ddeall beth yw’r effeithiau ar ddefnyddwyr bregus.

Rydyn ni’n meddwl am sut rydyn ni’n gwerthuso profiad dioddefwyr, tystion, a diffynyddion - yn enwedig y rhai sy’n cael eu hystyried yn fregus ac o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig — mewn llysoedd troseddol.

Trwy ein rhaglen ddiwygio, byddwn yn parhau i siarad â rhanddeiliaid a phartneriaid allanol. Mae ein Grwpiau Ymgysylltu â Defnyddwyr Cyhoeddus yn un ffordd yr ydym yn cael adborth ac yn deall materion yn well.

Os profir effeithiau negyddol ar bobl fregus sy’n defnyddio ein gwasanaethau, byddwn yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael â hwy ac yn cynnwys ein y gwaith a wnawn yn ein Cynllun Gweithredu Bregusrwydd.

Byddwn yn parhau i gyhoeddi ein cynllun ar GOV.UK.