Canllawiau statudol

Cynllun Iaith Gymraeg Cofrestrfa Tir EF

Diweddarwyd 22 October 2019

Applies to England and Wales

1. Cyflwyniad

1.1

O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, rhaid i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun sy’n nodi sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg.

1.2

Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg hwn (y cynllun) yn gosod allan y gofynion angenrheidiol i alluogi Cofrestrfa Tir EF i gydymffurfio â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae’n disgrifio sut y byddwn yn gweithredu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, sef wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

1.3

Mae’r cynllun hwn yn ymdrin â’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’r cyhoedd yng Nghymru. Yn y cynllun hwn, ystyr cyhoedd yw unigolion, pobl gyfreithiol a chyrff corfforaethol. Mae’n cynnwys y cyhoedd yn gyffredinol, neu ran o’r cyhoedd, yn ogystal ag aelodau unigol o’r cyhoedd. Mae’r term yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennau. Mae cyfarwyddwyr a phobl eraill sy’n cynrychioli cwmnïau cyfyngedig hefyd yn dod o dan ystyr y term ‘cyhoedd’. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys pobl sy’n gweithredu mewn swyddogaeth sy’n cynrychioli’r Goron, y Llywodraeth neu’r Wladwriaeth. O ganlyniad, nid yw pobl sy’n cyflawni swyddogaethau swyddogol o natur gyhoeddus, er eu bod yn bobl gyfreithiol, yn dod o dan ystyr y gair cyhoedd pan fyddant yn cyflawni’r swyddogaethau swyddogol hynny.

1.4

Paratowyd y cynllun hwn yn unol ag Adran 21 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 9 o’r Ddeddf. Daeth i rym ar 27 Medi 2019 ac mae’n disodli’n cynlluniau blaenorol dyddiedig 20 Mawrth 1998, 29 Ionawr 2002, 4 Chwefror 2005 a 25 Mawrth 2010.

1.5

Sefydlwyd Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg o fewn Cofrestrfa Tir EF yn dilyn cyflawniad Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Ei ddiben yw cyfeirio, rheoli a gweithredu polisi Cofrestrfa Tir EF o ran yr iaith Gymraeg. Cofrestrydd Tir Swyddfa Abertawe yw Cadeirydd y Grŵp, ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Cofrestrfa Tir EF.

1.6

Byddwn yn ymgymryd ag unrhyw fath o gyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru, nad yw wedi ei ddisgrifio’n benodol yn y cynllun hwn, mewn modd sy’n gyson â’r egwyddorion cyffredinol a ymgorfforir yn y cynllun hwn.

1.7

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn moderneiddio’r fframwaith cyfreithiol presennol o ran defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac mae’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 hefyd yn cyflwyno safonau statudol a fydd yn disodli cynlluniau iaith Gymraeg. Bydd y safonau yn nodi sut y dylai sefydliadau a enwyd ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Mae nifer o sefydliadau eisoes yn gweithredu Safonau’r Gymraeg. Dros amser, bydd mwy o sefydliadau yn dod o dan ddyletswydd i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg wrth i’r gyfundrefn honno ddisodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg a ddarparwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Nid yw rhai sefydliadau megis Cofrestrfa Tir EF yn ddarostyngedig i Safonau ar hyn o bryd. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn golygu na fydd gofyniad ar Gofrestrfa Tir EF i gydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd Cofrestrfa Tir EF yn parhau i weithredu yn unol â’i chynllun iaith Gymraeg ac yn ei ddiwygio er mwyn ei gryfhau.

1.8

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwynion am weithrediad y cynllun, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Cymraeg.

2. Cefndir

2.1

Asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu o dan adain Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yw Cofrestrfa Tir EF. Mae’n gyfrifol am ddarparu’r holl wasanaethau sy’n gysylltiedig â chofrestru teitl tir yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn gyfrifol am gofrestru Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol yng Nghymru a Lloegr.

2.2

Darperir gwasanaethau Cofrestrfa Tir EF trwy rwydwaith o swyddfeydd lleol. Lleolir Pencadlys Cofrestrfa Tir EF yn Croydon. Mae gwasanaethau technoleg gwybodaeth wedi eu lleoli yn Plymouth. Caiff Pridiannau Tir a Chredydau Amaethyddol eu gweinyddu o Plymouth. Mae gan gwsmeriaid busnes fynediad electronig i ystod o wasanaethau cofrestru ar-lein. Mae gan y cyhoedd fynediad electronig i ystod fwy cyfyng o wasanaethau cofrestru.

2.3

Mae Cofrestrfa Tir EF yn gweithredu fel sefydliad cenedlaethol sy’n cwmpasu Cymru a Lloegr gyfan, ac mae’n gweithredu o 14 lleoliad. Yr unig leoliad yng Nghymru yw’r swyddfa yn Abertawe, sef yr unig swyddfa sy’n cynnig ystod lawn o wasanaethau Cymraeg – gan ymdrin â chwsmeriaid a phrosesu ceisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg lle mae angen hyn. Fodd bynnag, nid yw’r swyddfa’n ymdrin â cheisiadau’n ymwneud ag eiddo yng Nghymru yn unig. Er enghraifft, mae’n prosesu pob cais gan gwsmeriaid dinesig (hynny yw, cwsmeriaid nad ydynt yn broffesiynol sy’n gweithredu ar eu rhan eu hunain), a thua 50% o’r holl geisiadau i gofrestru eiddo am y tro cyntaf ar draws Cymru a Lloegr gyfan. Mewn partneriaeth â Swyddfa Durham, mae ganddi staff sy’n gweithio i’r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid rithwir genedlaethol, sy’n delio ag ymholiadau a ddaw gan gwsmeriaid ar draws Cymru a Lloegr.

2.4

Mae’r gwasanaethau y mae Cofrestrfa Tir EF yn eu darparu i’r cyhoedd, fel rheol trwy eu cynrychiolwyr proffesiynol, yn cynnwys gwasanaethau cyn-gwblhau, ceisiadau i gofrestru tir am y tro cyntaf, ceisiadau i gofrestru trafodion yn ymwneud â thir cofrestredig ac ymholiadau cyffredinol. Gall anghydfodau ynglŷn â thir cofrestredig gael eu datrys yn weinyddol trwy gytundeb neu trwy gyfeirio at adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys Haen Gyntaf a all wrando ar y mater ei hunan neu gyfeirio un o’r partïon i gychwyn achos llys.

3. Cynllunio a chyflwyno gwasanaeth

Polisïau, deddfwriaeth, gwasanaethau a mentrau

3.1

Bydd ein polisïau, mentrau a gwasanaethau’n gyson â’r cynllun hwn. Byddant yn ystyried y Gymraeg a byddant, lle bynnag y bo’n bosibl, yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywyd bob dydd.

3.2

Pan fo’n briodol, bydd ein dogfennau ymgynghorol yn trafod y berthynas rhwng y Gymraeg a’r polisïau, mentrau a gwasanaethau sydd o dan sylw.

3.3

Pan fyddwn yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu neu gyflwyno polisïau, mentrau, gwasanaethau neu ddeddfwriaeth newydd o dan arweiniad sefydliadau eraill, byddwn yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n gyson â’r cynllun hwn.

3.4

Ein harfer fydd sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

3.5

Bydd unrhyw gytundebau neu drefniadau a wnawn gyda thrydydd parti’n gyson â rhannau perthnasol y cynllun hwn, pan fydd y cytundebau neu’r trefniadau hynny’n ymwneud â darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i Gofrestrfa Tir EF sicrhau bod trydydd partïon yn darparu’r gwasanaethau hynny yn unol â’r cynllun hwn.

3.6

Bydd gwasanaethau a ddarperir yn Gymraeg ac yn Saesneg o’r un ansawdd a chânt eu darparu yn ôl yr un amserlen.

3.7

Mae Dogfennau Cynnig Newid Busnes a Briffiau Comisiynu mewnol yn cyfeirio at ofynion Cymraeg a chaiff y rhain eu hystyried ar ddechrau prosiectau newydd.

4. Ymdrin â siaradwyr Cymraeg

4.1 Gohebiaeth ysgrifenedig (sy’n cynnwys negeseuon ebost a chyfryngau cymdeithasol)

4.1.1

Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn Gymraeg, byddwn yn paratoi ateb yn Gymraeg (os oes angen ateb). Bydd ein hamserau targed ar gyfer ateb yr un â’r amserau targed ar gyfer ateb i lythyrau a ysgrifennwyd yn Saesneg.

4.1.2

Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn ddwyieithog, byddwn yn cadarnhau eu dewis iaith ac yn ateb yn yr iaith honno.

4.1.3

Pan fyddwn yn dechrau gohebu gydag unigolyn, grŵp neu sefydliad, byddwn yn gwneud hynny’n Gymraeg pan fyddwn yn gwybod y byddai’n well ganddynt ohebu yn Gymraeg.

4.1.4

Bydd yr uchod yn berthnasol i ohebiaeth ebost, cyfryngau cymdeithasol ynghyd â gohebiaeth ar bapur.

4.1.5

Bydd cylchlythyron a anfonir at y cyhoedd ac ymarferyddion yng Nghymru ar ffurf ddwyieithog.

4.1.6

Mae papur pennawd a negeseuon ebost Cofrestrfa Tir EF yn nodi ein bod yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg.

4.2 Gohebu dros y ffôn

4.2.1

Byddwn yn sicrhau bod modd i’r cyhoedd ddelio â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg wrth siarad dros y ffôn.

4.2.2

Caiff galwadau i Gofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe, heblaw’r rheiny a wneir i’r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid, eu hateb gyda chyfarchiad dwyieithog.

4.2.3

Mae’r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid a leolir yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe’n rhan o ganolfan gyswllt rithwir fwy sy’n delio gydag ymholiadau cyffredinol ar draws Cymru a Lloegr. Ceir llinell Gymraeg benodedig i ddelio â chwsmeriaid sydd am gynnal eu hymholiadau yn Gymraeg, a chaiff y gwasanaeth hwn ei hysbysebu mewn ffurflenni, cyfarwyddiadau, cyhoeddiadau a straeon newyddion ar GOV.UK.

4.3 Cyfarfodydd cyhoeddus

4.3.1

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus.

4.3.2

Os bydd Cofrestrfa Tir EF yn trefnu digwyddiadau corfforaethol yng Nghymru, ac yn darparu seminarau technegol ar gyfer cwsmeriaid sy’n ymarferyddion, rhoddir cyhoeddusrwydd i wasanaethau Cymraeg Cofrestrfa Tir EF yn ystod y digwyddiadau. Manteisir ar y cyfle hefyd i ofyn i’r gwrandawyr a ydynt yn defnyddio’r gwasanaethau ac a oes ganddynt sylwadau amdanynt. Bydd o leiaf un aelod o staff Cofrestrfa Tir EF sy’n arwain y seminar yn medru’r Gymraeg.

4.4 Cyfarfodydd eraill â’r cyhoedd yng Nghymru

4.4.1

Pan fyddwn yn trefnu neu’n mynychu cyfarfodydd preifat â’r cyhoedd, byddwn yn canfod eu dewis iaith ar y cyfle cyntaf a byddwn yn sicrhau bod aelod o staff cymwys sy’n siarad Cymraeg yn delio â’r rhai sy’n nodi mai Cymraeg yw eu dewis iaith.

4.5 Cysylltiadau eraill â’r cyhoedd yng Nghymru

4.5.1

Mae siaradwyr Cymraeg ar gael yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe i ddelio ag aelodau o’r cyhoedd sydd am gynnal eu busnes trwy gyfrwng y Gymraeg.

4.5.2

Dangosir arwyddion yn amlwg yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe i nodi bod gwasanaeth Cymraeg ar gael ac mae’r holl arwyddion mewn mannau cyhoeddus yn ddwyieithog.

5. Ein hwyneb cyhoeddus

5.1 Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd a hysbysebion

5.1.1

Caiff yr holl ddeunydd cyhoeddusrwydd, gwybodaeth gyhoeddus, arddangosfeydd a deunydd hysbysebu a ddefnyddir yng Nghymru (er mwyn targedu’r cyhoedd yn gyffredinol) eu cynhyrchu’n gwbl ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Os oes rhaid cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y ddwy fersiwn yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd a bydd y ddwy ar gael ar yr un pryd ac yr un mor hygyrch.

5.1.2

Bydd hysbysebion a gyhoeddir mewn papurau newydd Saesneg (neu ddeunydd tebyg) a ddosberthir yn bennaf neu’n gyfan gwbl yng Nghymru, yn ddwyieithog, neu’n ymddangos fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (gyda’r ddwy fersiwn yn ymddangos ar yr un pryd, ac yn gyfartal o ran maint, amlygrwydd ac ansawdd).

5.1.3

Pan fydd angen staff i ofalu am stondinau ac arddangosfeydd, byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg cymwys yn bresennol, fel y bo’n briodol.

5.2 Cyhoeddiadau

5.2.1

Mae deunydd esboniadol a deunydd ymarfer sydd wedi eu cyfeirio at y cyhoedd ac ymarferyddion yng Nghymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael ar yr un pryd ac yr un mor hygyrch ar bapur neu ar ffurf electronig.

5.2.2

Mae ffurflenni a bennwyd gan ddeddfwriaeth eilaidd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

5.2.3

Lle bydd Cofrestrfa Tir EF yn gwerthu unrhyw gyhoeddiad, bydd pris dogfen ddwyieithog yr un â phris cyhoeddiad un iaith.

5.3 Tudalennau ar GOV.UK

5.3.1

Mae holl wefannau adrannau’r llywodraeth wedi eu cyfuno i GOV.UK. Mae gwefan GOV.UK, sy’n cael ei chynnal gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), sy’n rhan o Swyddfa’r Cabinet, yn casglu ynghyd mewn un lle gwybodaeth a gwasanaethau o bob adran llywodraeth y DU a channoedd o gyrff hyd braich.

Symudodd gwefan Cofrestrfa Tir EF i GOV.UK ar 20 Awst 2014. Mae Cofrestrfa Tir EF yn gyfrifol am gynnwys adran a pholisi a ddarperir ar ein tudalennau unigol ar GOV.UK a bydd cynnwys y tudalennau hynny ar gael yn Gymraeg. Mae deunyddiau Cymraeg yn cynnwys eitemau megis:

GDS sy’n gyfrifol am ddarparu cynnwys prif ffrwd fel yr elfennau isod ar GOV.UK:

  • gwybodaeth gyffredinol
  • tudalennau sy’n darparu gwybodaeth benodol ar swyddogaethau a chyfrifoldebau craidd Swyddfa’r Cabinet a rhyngwynebau a dewislenni cyffredinol.

5.3.2

Lle bo’n briodol, byddwn yn darparu fersiynau Cymraeg o’r tudalennau rhyngweithiol ar GOV.UK.

5.3.3

Wrth ddylunio gwefannau newydd, neu wrth ailddatblygu gwefannau cyfredol, byddwn yn ystyried Technoleg, Gwefannau a Meddalwedd: Ystyried y Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg ac unrhyw ganllawiau tebyg a gyhoeddir gan y Comisiynydd ynglŷn â dylunio gwefannau (ond gweler 5.3.1).

5.4 Y Gofrestr

5.4.1

Caiff cofrestri tir yng Nghymru eu hargraffu ar dempled cofrestr dwyieithog.

5.4.2

Gwneir cofnodion ar y gofrestr yn iaith y ddogfen wreiddiol.

5.4.3

Mae modd cofnodi cyfeiriadau Cymraeg ar gofrestri Cofrestrfa Tir EF. Y cyfeiriad Cymraeg a nodir yn yr ohebiaeth â Chofrestrfa Tir EF a ddefnyddir.

5.5 Hunaniaeth gorfforaethol

5.5.1

Mae Cofrestrfa Tir EF yn mabwysiadu ac yn cyflwyno delwedd gorfforaethol ddwyieithog lawn yng Nghymru. Mae enw Cofrestrfa Tir EF, ei chyfeiriad a’i delwedd weledol yn gydradd o ran maint ac ansawdd yn Gymraeg a Saesneg ac maent yn ymddangos ar benawdau llythyron, papurau ffacs, slipiau cyfarch, cardiau busnes, bathodynnau adnabod, cyhoeddiadau, cerbydau a nwyddau a deunyddiau eraill.

5.5.2

Mae arddangosfeydd a ddefnyddir mewn digwyddiadau corfforaethol a seminarau ymarferyddion yng Nghymru yn ddwyieithog.

5.6 Arwyddion

5.6.1

Mae’r holl arwyddion yn y mannau lle ceir mynediad i’r cyhoedd yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe’n ddwyieithog. Mae’r arwyddion yn gyfartal o ran ffurf, maint, ansawdd ac amlygrwydd.

5.7 Hysbysiadau swyddogol, hysbysiadau cyhoeddus a hysbysiadau recriwtio staff

5.7.1

Mae hysbysebion a hysbysiadau cyffredinol mewn papurau newydd neu gyfryngau eraill yng Nghymru’n ddwyieithog ac yn gyfartal o ran ffurf, maint ac amlygrwydd.

5.7.2

Caiff hysbysebion am swyddi yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe eu cyhoeddi’n ddwyieithog mewn unrhyw bapurau newydd gan gynnwys unrhyw gyfryngau eraill yng Nghymru. Mae’r hysbysebion yn gydradd o ran ffurf, maint ac amlygrwydd. Oni bai yr ystyrir bod y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd, bydd pob hysbyseb ar gyfer swyddi yng Nghofrestrfa Tir Swyddfa Abertawe’n datgan bod y gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

5.8 Datganiadau i’r wasg a chyswllt â’r cyfryngau

5.8.1

Mae datganiadau i’r wasg yn ymwneud â materion sy’n effeithio ar Gymru a Lloegr neu Gymru yn unig yn cael eu hanfon i’r cyfryngau yng Nghymru yn ddwyieithog.

5.8.2

Byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael i gynnal cyfweliadau gyda’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg.

6. Gweithredu’r cynllun

6.1 Staffio

6.1.1

Mae gan Gofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe ddigon o staff Cymraeg eu hiaith cymwys i ddarparu gwasanaeth llawn yn Gymraeg. Rydym yn adolygu’r nifer o staff sy’n angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth yn gyson, er mwyn sicrhau bod digon o staff ar gael. Mae geiriaduron a chyfeirlyfrau Cymraeg eraill ar gael yn ystafell Pennaeth y Gwasanaethau Cymraeg.

6.1.2

Byddwn yn cadw cofnod o nifer y staff sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.

6.2 Recriwtio

6.2.1

Pan fyddwn yn recriwtio staff, byddwn yn dilyn y wybodaeth a gesglir wrth ddilyn y gweithdrefnau a ddisgrifir o dan Staffio uchod.

6.2.2

Darperir pecynnau gwybodaeth a ffurflenni cais electronig yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer pob swydd yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe. Darperir pecynnau papur yn Gymraeg a Saesneg ar gais. Lle bernir bod rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol, bydd hyn yn cael ei ddatgan yng nghymwyseddau swyddi.

6.2.3

Mae cyrsiau sefydlu ar gyfer staff newydd yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe’n cyfeirio’n benodol at ofynion y cynllun.

6.3 Hyfforddiant iaith

6.3.1

Mae Cofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe’n datblygu medrau ei staff presennol sy’n siarad Cymraeg ac yn annog staff nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddysgu’r iaith. Mae’r swyddfa’n ariannu pob cwrs hyfforddiant Cymraeg a fynychir gan aelodau o staff yn unol â pholisi Addysg Bellach Cofrestrfa Tir EF.

6.3.2

Byddwn yn datblygu gallu ein staff sy’n siarad Cymraeg i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy ddarparu hyfforddiant galwedigaethol yn Gymraeg, pryd bynnag y bo’n berthnasol.

6.4 Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

6.4.1

Byddwn yn darparu ar gyfer yr angen i gynnig gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg ac yn gweithredu’n unol â’r cynllun hwn wrth i ni ddatblygu, dylunio a phrynu cynnyrch a gwasanaethau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

6.4.2

Wrth i ni ddatblygu a phrynu systemau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, byddwn yn ystyried dogfen ganllaw Technoleg, Gwefannau a Meddalwedd: Ystyried y Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg.

6.5 Gweithio mewn partneriaeth

6.5.1

Pan fyddwn yn gweithredu fel arweinydd strategol ac ariannol o fewn partneriaeth ffurfiol, byddwn yn sicrhau bod unrhyw agweddau ar wasanaeth cyhoeddus yn cydymffurfio â’r cynllun hwn.

6.5.2

Pan fyddwn yn ymuno â phartneriaeth ffurfiol y mae sefydliad arall yn ei harwain, bydd ein mewnbwn ni’n cydymffurfio â’r cynllun hwn a byddwn yn annog y partneriaid eraill i gydymffurfio â’r cynllun hwn.

6.5.3

Pan fyddwn yn bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r cynllun hwn. Pan fyddwn yn gweithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gwneud hynny yn unol â’r cynllun hwn.

6.6 Trefniadau mewnol

6.6.1

Mae gan y mesurau yn y cynllun hwn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn Cofrestrfa Tir EF. Bydd gweithredu’n unol â’r cynllun yn fater o gydymffurfiaeth.

6.6.2

Mae Grŵp Llywio’r Iaith Gymraeg yn gyfrifol am gyfeirio, rheoli, gweithredu ac arolygu polisi Cofrestrfa Tir EF ynglŷn â’r iaith Gymraeg.

6.6.3

Mae Pennaeth y Gwasanaethau Cymraeg yn gyfrifol am weithredu’r cynllun o ddydd i ddydd ac mae’n adrodd i Gadeirydd y Grŵp Llywio, sydd, yn ei dro, yn adrodd i’r Uwch Dîm Arwain yng Nghofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe a Bwrdd Cofrestrfa Tir EF.

6.6.4

Mae’r cynllun yn eitem trafod yn holl gyfarfodydd Uwch Dîm Arwain Cofrestrfa Tir EF Swyddfa Abertawe.

6.6.5

Cytunwyd ar ein cynllun gweithredu gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Mae hwn yn nodi sut byddwn yn sicrhau cynnydd ar yr ymrwymiadau o fewn y cynllun hwn. Daw’r cynllun gweithredu yn weithredol ar y dyddiad y daw’r cynllun i rym.

6.6.6

Cyhoeddir y cynllun i’n staff, ac i’r cyhoedd yng Nghymru. Caiff ei gyhoeddi a’i amlygu ar GOV.UK.

6.6.7

Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r cynllun hwn i’n staff yn gyson ac yn esbonio sut y bydd yn effeithio ar eu gwaith o ddydd i ddydd.

6.6.8

Byddwn yn ymgymryd ag unrhyw fath o gyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru, nad yw wedi ei ddisgrifio’n benodol yn y cynllun hwn, mewn modd sy’n gyson â’r egwyddorion cyffredinol a ymgorfforir yn y cynllun.

6.7 Monitro

6.7.1

Byddwn yn monitro’r cynnydd o ran cyflwyno’r cynllun hwn yn erbyn targedau a nodir yn y cynllun gweithredu a ddaw gyda’r cynllun hwn. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd o ran cyflwyno’r cynllun hwn i Fwrdd Cofrestrfa Tir EF a Chomisiynydd y Gymraeg yn flynyddol.

6.7.2

Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon Cofrestrfa Tir EF yn cynnwys diweddariadau am y cynllun a’r gwasanaethau Cymraeg a ddarperir. Mae hefyd yn cyfeirio darllenwyr at dudalen y gwasanaethau Cymraeg ar GOV.UK.

6.7.3

Ein targed yw sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â nod ac amcanion y cynllun hwn. Byddwn yn darparu adroddiad ar weithrediad y cynllun yn dilyn cais gan Gomisiynydd y Gymraeg.

6.8 Adolygu ac addasu’r cynllun

6.8.1

Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn o fewn pedair blynedd o’i roi ar waith.

6.8.2

Efallai y bydd angen i ni adolygu’r cynllun hwn, neu gynnig diwygiadau iddo oherwydd newidiadau i swyddogaethau neu amgylchiadau, neu am unrhyw reswm arall.

6.8.3

Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cynllun hwn heb gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg.

7. Cysylltu

Eleri Sparnon Jones, Pennaeth y Gwasanaethau Cymraeg

Cofrestrfa Tir EF
Tŷ Cwm Tawe
Ffordd y Ffenics
Parc Anturiaeth Abertawe
Abertawe
SA7 9FQ

E-bost eleri.jones@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 9567

Llinell Gymraeg ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Ffôn
0300 006 0422

8. Atodiad

Prif dargedau ar gyfer cyflawni’r cynllun

Targed Camau gweithredu a dyddiad cwblhau
Iaith rhybuddion
Testun yn ymwneud ag iaith rhybuddion i’w ychwanegu at bob rhybudd sy’n gysylltiedig â theitlau WA a CYM.

Mawrth 2020.
 
GOV.UK
Cymryd camau i amlygu’r deunydd Cymraeg sydd ar gael ar GOV.UK a chyfieithu tudalennau priodol sydd o dan reolaeth CTEM nad ydynt ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.

Parhaus.
 
Find Property Information
Ar hyn o bryd, Find a Property yw’r gwasanaeth byw i gwsmeriaid gael gwybodaeth a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF am dir ac eiddo.

Fodd bynnag, ceir prosiect parhaus i ddeall yn well sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ac yn dod o hyd i wybodaeth am dir ac eiddo. Ar hyn o bryd mae Cofrestrfa Tir EF yn treialu gwasanaeth Find Property Information newydd ac yn cynnal adolygiad er mwyn sefydlu a yw’r gwasanaeth hwnnw’n diwallu anghenion y sefydliad a’i gwsmeriaid.

Y bwriad yw y bydd canlyniad y prosiect hwn yn nodi’r ffordd orau ymlaen ac yn penderfynu a ddylid disodli’r gwasanaeth Find a Property cyfredol:

- trwy barhau i ddatblygu’r gwasanaeth Find Property Information Beta sy’n cael ei dreialu ar GOV.UK ar hyn o bryd i fod yn wasanaeth cwbl weithredol
- neu trwy gyflwyno gwasanaeth hollol newydd
- neu trwy gadw’r gwasanaeth Find a Property

Pa bynnag opsiwn a ddewisir, bydd gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael naill ai o ddechrau’r gwasanaeth neu trwy gyfieithu’r tudalennau perthnasol.

Cyfieithu’r tudalennau perthnasol fel bod gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael ar ddechrau’r gwasanaeth byw.

Bydd gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael cyn gynted â phosibl o fewn oes y cynllun.
 
Search House Prices
Cyfieithu’r tudalennau perthnasol gyda’r bwriad o gael gwasanaeth cwbl ddwyieithog.

Yn dilyn ymchwiliad cychwynnol, ailgychwyn trafodaethau a’r broses ymchwilio yn 2020.

Disgwylir y bydd yn cymryd 10 wythnos i greu’r fersiwn Cymraeg.
 
Rhaglen Drawsnewid
Mae Cofrestrfa Tir EF yn adolygu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar hyn o bryd a bydd rhai o’r gwasanaethau hyn yn cael eu trawsnewid dros gyfnod o amser. Pan ddarperir unrhyw un o’r gwasanaethau hynny sydd newydd eu trawsnewid trwy’r sianel GOV.UK, bydd gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r rhaglen drawsnewid yn barhaus ac ar hyn o bryd bwriedir iddi redeg tan 2022/23.

Cyfieithu’r tudalennau perthnasol fel bod gwasanaeth Cymraeg llawn ar gael ar ddechrau’r gwasanaeth byw.

Parhaus.