Canllawiau

Y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol

Diweddarwyd 19 April 2024

Applies to England and Wales

Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio cynghorau sir, gadw cofrestr pridiannau tir lleol sy’n cofnodi’r rhwymedigaethau sy’n effeithio ar eiddo o fewn eu hardal weinyddol. O dan Ddeddf Seilwaith 2015, cafodd cyfrifoldeb am y 331 o gofrestri ei drosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF fesul cam. Roedd y trosglwyddiad cyntaf yn haf 2018.

Roedd hwn yn gam hanesyddol ymlaen yn uchelgais y Llywodraeth i wneud y broses prynu cartref yn symlach, yn gyflymach ac yn rhatach. Mae hefyd yn rhan bwysig o’n Strategaeth Fusnes i helpu i wella’r broses drawsgludo gyfan.

1. Ein gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol digidol

Mae Cofrestrfa Tir EF yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i safoni a mudo gwybodaeth cofrestr pridiannau tir lleol i un lle hygyrch.

Gall unrhyw un gael mynediad i’n gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol trwy ein Gwasanaeth chwilio am bridiannau tir lleol. Gall cwsmeriaid busnes gael mynediad hefyd trwy eu cyfrifon porthol neu Business Gateway. Mae canlyniad pob chwiliad yn rhoi manylion am gofnodion ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol sy’n ymwneud â’r tir neu’r eiddo o dan sylw.

Bydd awdurdodau lleol yn parhau i ddarparu ymatebion i ymholiadau CON29, megis cynlluniau ffyrdd cyfagos neu rybuddion sy’n bodoli, a allai effeithio ar benderfyniad y prynwr i fynd rhagddo neu beidio. Pan fydd data pridiannau tir lleol awdurdod lleol wedi cael eu mudo i Gofrestrfa Tir EF, ni fyddwch yn gallu cael canlyniadau chwiliadau pridiannau tir lleol o’r awdurdod lleol hwnnw mwyach.

Gan ddefnyddio ein gwasanaeth, bydd y dewis gennych i lawrlwytho chwiliad personol yn rhad ac am ddim neu chwiliad swyddogol am £15. Fel arall, gallwch ddefnyddio darparwr chwilio a gaiff fynediad i’n gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar eich rhan.

1.1 Gwyliwch fideo ar Creu Cofrestr Pridiannau Tir Lleol genedlaethol (1 munud 4 eiliad)

Creu Cofrestr Pridiannau Tir Lleol genedlaethol - YouTube

1.2 Manteision chwiliad swyddogol Pridiannau Tir Lleol

Y manteision yw:

  • mae canlyniadau chwilio yn darparu’r lefel uchaf o ddiwydrwydd dyladwy ac mae ganddynt indemniad wedi ei gefnogi gan y wladwriaeth
  • mae stent gofodol llawn pob pridiant i’w weld ar y canlyniad chwilio
  • ffi safonol o £15 ar gyfer pob chwiliad, gan ddarparu gostyngiad yn y pris cyfartalog cenedlaethol cyfredol
  • ansawdd data cyson sy’n darparu canlyniadau chwilio clir a chywir
  • canlyniadau chwilio ar-lein ar unwaith gyda mynediad 24/7 i’r data, gan leihau oedi wrth dderbyn chwiliadau
  • ailadrodd chwiliad diderfyn am chwe mis i wirio am unrhyw bridiannau newydd cyn cwblhau trafodiad
  • dangosfwrdd hanes chwilio yn rhoi mynediad i’ch chwiliadau blaenorol ar unrhyw bryd

Darllenwch am yr hyn y mae’r gwasanaeth yn ei gynnig.

2. Awdurdodau lleol

Hyd yma, rydym wedi trosglwyddo data pridiannau tir lleol yr awdurdodau lleol canlynol i wasanaeth digidol Cofrestrfa Tir EF.

Awdurdodau lleol Dyddiad trosglwyddo
Bwrdeistref Enfield yn Llundain 15 Awst 2022
Bwrdeistref Llundain Bexley 17 Ebrill 2024
Bwrdeistref Wandsworth yn Llundain 15 Tachwedd 2022
Corfforaeth Dinas Llundain 8 Hydref 2018
Cyngor Blackpool 20 Tachwedd 2018
Cyngor Bwrdeistref Bedford 18 Mawrth 2024
Cyngor Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen 28 Hydref 2021
Cyngor Bwrdeistref Boston 8 Ionawr 2024
Cyngor Bwrdeistref Burnley 27 Ebrill 2023
Cyngor Bwrdeistref Cheltenham 1 Medi 2022
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Bury 14 Gorffennaf 2022
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Dudley 19 Gorffennaf 2021
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Knowsley 12 Hydref 2022
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Sandwell 19 Hydref 2023
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Sefton 16 Ionawr 2023
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Solihull 25 Ebrill 2022
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Stockport 26 Ionawr 2023
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Tameside 18 Hydref 2021
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Trafford 24 Ebrill 2023
Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Wigan 24 Ebrill 2024
Cyngor Bwrdeistref Broxtowe 25 Ebrill 2024
Cyngor Bwrdeistref Gedling 27 Mawrth 2024
Cyngor Bwrdeistref Halton 16 Mawrth 2023
Cyngor Bwrdeistref Harrogate 28 Mawrth 2023
Cyngor Bwrdeistref Hastings 19 Mawrth 2024
Cyngor Bwrdeistref High Peak 25 Ebrill 2023
Cyngor Bwrdeistref Newcastle-under-Lyme 2 Mai 2022
Cyngor Bwrdeistref Pendle 15 Tachwedd 2021
Cyngor Bwrdeistref Redditch 13 Hydref 2021
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 23 Ionawr 2023
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 11 Gorffennaf 2023
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 26 Gorffennaf 2022
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 10 Mai 2023
Cyngor Bwrdeistref Stockton-on-Tees 7 Ebrill 2021
Cyngor Bwrdeistref Spelthorne 23 Ebrill 2021
Cyngor Bwrdeistref Tonbridge a Malling 25 Ebrill 2024
Cyngor Bwrdeistref Watford 6 Chwefror 2020
Cyngor Bwrdeistref Welwyn Hatfield 26 Mai 2021
Cyngor Bwrdeistref Woking 21 Mawrth 2024
Cyngor De Swydd Stafford 11 Awst 2022
Cyngor Dinas Bryste 20 Gorffennaf 2023
Cyngor Dinas Caerliwelydd 21 Ebrill 2020
Cyngor Dinas Chelmsford 28 Mawrth 2023
Cyngor Dinas Kingston upon Hull 24 Ebrill 2023
Cyngor Dinas Leeds 8 Ionawr 2024
Cyngor Dinas Lerpwl 3 Medi 2018
Cyngor Dinas Lincoln 20 Ebrill 2022
Cyngor Dinas Norwich 11 Gorffennaf 2019
Cyngor Dinas Peterborough 31 Ionawr 2020
Cyngor Dinas Plymouth 7 Ionawr 2022
Cyngor Dinas Portsmouth 28 Ebrill 2022
Cyngor Dinas Salford 31 Mawrth 2023
Cyngor Dinas Wolverhampton 18 Ionawr 2023
Cyngor Dosbarth Babergh 20 Ionawr 2022
Cyngor Dosbarth Bassetlaw 21 Medi 2023
Cyngor Dosbarth Blaby 16 Hydref 2023
Cyngor Dosbarth Bromsgrove 13 Hydref 2021
Cyngor Dosbarth Canol Dyfnaint 10 Hydref 2023
Cyngor Dosbarth Canol Suffolk 20 Ionawr 2022
Cyngor Dosbarth Canol Sussex 21 Mawrth 2022
Cyngor Dosbarth Craven 28 Mawrth 2023
Cyngor Dosbarth De Norfolk 22 Mehefin 2022
Cyngor Dosbarth Dwyrain Dyfnaint 4 Ionawr 2024
Cyngor Dosbarth Dwyrain Lindsey 26 Mehefin 2020
Cyngor Dosbarth Dwyrain Swydd Gaergrawnt 5 Rhagfyr 2022
Cyngor Dosbarth Epping Forest 25 Ebrill 2023
Cyngor Dosbarth Fenland 6 Medi 2022
Cyngor Dosbarth Gogledd Kesteven 16 Rhagfyr 2021
Cyngor Dosbarth Gogledd Orllewin Swydd Gaerlŷr 27 Gorffennaf 2022
Cyngor Dosbarth Gogledd Swydd Hertford 22 Ionawr 2024
Cyngor Dosbarth Gorllewin Lindsey 18 Ebrill 2023
Cyngor Dosbarth Gorllewin Swydd Rydychen 13 Ebrill 2023
Cyngor Dosbarth Hambleton 28 Hydref 2021
Cyngor Dosbarth Harborough 29 Ebrill 2022
Cyngor Dosbarth Malvern Hills 12 Ionawr 2023
Cyngor Dosbarth Metropolitanaidd Wakefield 22 Ebrill 2024
Cyngor Dosbarth Newark a Sherwood 26 Hydref 2021
Cyngor Dosbarth Ryedale 27 Mawrth 2023
Cyngor Dosbarth Scarborough 29 Tachwedd 2021
Cyngor Dosbarth Selby 14 Mawrth 2023
Cyngor Dosbarth Sevenoaks 28 Ebrill 2021
Cyngor Dosbarth Stratford-on-Avon 10 Mai 2021
Cyngor Dosbarth Swydd Richmond 27 Hydref 2022
Cyngor Dosbarth Warwig 11 Gorffennaf 2018
Cyngor Dosbarth Wyre Forest 19 Ebrill 2024
Cyngor Gogledd Swydd Lincoln 31 Mai 2024
Cyngor Gorllewin Berkshire 25 Ebrill 2024
Cyngor Gorllewin Suffolk 21 Gorffennaf 2022
Cyngor Haringey 20 Rhagfyr 2021
Cyngor Lambeth 1 Hydref 2019
Cyngor Milton Keynes 27 Awst 2020
Cyngor Sir Penfro 3 Ebrill 2023
Cyngor Sir Rutland 12 Rhagfyr 2022
Cyngor Sutton 7 Ionawr 2022
Cyngor Ynysoedd Scilly 17 Ionawr 2019
Cyngor Ynys Wyth 27 Ebrill 2022
Dinas a Sir Cyngor Abertawe 27 Ebrill 2022

Pan fydd trosglwyddo data o awdurdod lleol unigol i Gofrestrfa Tir EF wedi ei gwblhau, bydd yn dal yn ofynnol i awdurdodau lleol gymhwyso, amrywio a dileu pridiannu yn y gofrestr. Yn ogystal, bydd yn rhaid iddynt ganfod dogfennau ar gais ac ymateb i ymholiadau ychwanegol gan gwsmeriaid ar ôl i Gofrestrfa Tir EF gyhoeddi canlyniad chwilio.

Bydd mwy o awdurdodau lleol yn trosglwyddo eu data pridiannau tir lleol i’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gydag ychwanegiadau newydd.

3. Pridiannu tir lleol

Fel rheol, mae chwiliadau pridiannau tir lleol yn ofynnol yn y broses prynu eiddo. Mae’r rhan fwyaf o bridiannau tir lleol yn gyfyngiadau neu’n waharddiadau ar ddefnyddio’r eiddo. Bydd y chwiliad pridiannau tir lleol yn dangos a yw eiddo yn ddarostyngedig i bridiant os yw’r pridiant hwnnw wedi cael ei gofrestru. Bydd yr eiddo yn ddarostyngedig iddo pa un a yw wedi ei gofrestru neu beidio. Bydd yn rhaid cynnal chwiliadau eraill er mwyn penderfynu a oes rhwymedigaeth ar yr eiddo.

3.1 Rhwymedigaethau cyffredin wedi eu gwarchod fel pridiannau tir lleol

Mae’r rhwymedigaethau cyffredin a warchodir fel pridiannau tir lleol yn cynnwys:

  • caniatadau cynllunio amodol (mae’r rhain yn ffurfio’r mwyafrif o bridiannau)
  • adeiladau rhestredig
  • ardaloedd cadwraeth
  • gorchmynion diogelu coed
  • grantiau gwella ac adnewyddu
  • amodau ardaloedd rheoli mwg
  • amodau hysbysiadau rhwystro golau

Mae awdurdodau lleol yn cadw cofrestr pridiannau tir lleol ar gyfer eu hardal weinyddol. Maent yn dal y cofnodion mewn amrywiaeth o ffurfiau megis papur, microfiche ac yn electronig. Mae prisiau’n amrywio’n sylweddol, gan arwain at wasanaeth cwsmeriaid anghyson sy’n ddibynnol ar god post.

Mae pridiant tir lleol yn cael ei greu naill ai gan awdurdodau lleol neu gyrff eraill sydd â’r pwerau i wneud hynny, a elwir ar y cyd yn awdurdodau gwreiddiol.

3.2 Canllaw cyn mudo

Rhaid i awdurdodau lleol gwblhau nifer o dasgau cyn mudo eu data pridiannau tir lleol.

Darllenwch y canllaw cyn mudo.

3.3 Paratoi data

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi datblygu teclyn am ddim i helpu awdurdodau lleol baratoi eu data pridiannau tir lleol i’w mudo i’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ganolog.

Mae’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data ar gael i awdurdodau lleol nad ydynt yn y broses fudo ar hyn o bryd. Gall ddadansoddi cymaint neu cyn lleied o ddata electronig ag y mae awdurdodau lleol am eu darparu. Mae hyn yn cynnig modd iddynt amcangyfrif y nifer a’r math o ddiwygiadau y mae angen iddynt eu gwneud. Gallwn gynnig atebion awtomatig ar gyfer y newidiadau mwyaf cyffredin y mae angen eu gwneud, gan arbed llawer o amser.

Trwy ddefnyddio’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data, bydd gwell syniad gan awdurdodau lleol am yr amser a’r adnoddau sy’n ofynnol ar gyfer y broses fudo.

Anfonwch ebost at llcproject@landregistry.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am fynediad i’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data.

Defnyddio’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data

Gwyliwch fideo sy’n dangos sut y mae’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data yn gweithio (5 munud 15 eiliad).

Pridiannau tir lleol: Sut mae’r teclyn Dangosfwrdd Dadansoddi Data yn gweithio

3.4 Gwybodaeth beichiau newydd

Mae ein gwybodaeth beichiau newydd yn amlinellu ein dull ar gyfer gweithredu’r athrawiaeth beichiau newydd ar gyfer trosglwyddo pridiannau tir lleol o awdurdodau lleol i’n cofrestr pridiannau tir lleol ddigidol a’r gwasanaeth byw.

3.5 Ymgynghoriad cyhoeddus

Gan fod gweithredu yn gofyn am is-ddeddfwriaeth, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2017 drafft, a gafodd ei gynnal tan 11 Gorffennaf 2016.

4. Pridiannu Tir Lleol (CY79)

Darllenwch ein cyfarwyddyd ymarfer 79: pridiannau tir lleol am wybodaeth am y canlynol:

  • ceisiadau i gofrestru pridiant tir lleol neu amrywio neu ddileu cofrestru pridiant tir lleol
  • ceisiadau am chwiliad swyddogol neu chwiliad personol o’r gofrestr pridiannau tir lleol

4.1 Gwyliwch ein canllaw fideo Pridiannau Tir Lleol (6 munud 25 eiliad)

Os ydych yn gweithio i awdurdod lleol neu awdurdod gwreiddiol, cewch wybod sut i ychwanegu, diweddaru neu ddileu pridiannau ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

Newid gwybodaeth pridiannau tir lleol ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol

5. Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol

Mae’r wybodaeth yn ein canllaw: Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol yn grynodeb o Reolau Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol (Lloegr) 2018 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffïoedd) (Cymru) 2021. Mae’r canllaw hefyd yn cyfeirio at Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018.

6. Ein cyflenwyr

6.1 Cyflenwyr darparu gwasanaethau mudo

Ein cyflenwyr darparu gwasanaethau mudo yw:

6.2 Cyflenwyr meddalwedd pridiannau tir lleol

Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn wedi eu contractio i weithio gyda Chofrestrfa Tir EF:

Ein partneriaid rhaglen yw:

Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn yn gweithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol heb gontractau Cofrestrfa Tir EF:

Darllenwch ragor am gyflenwyr meddalwedd pridiannau tir lleol.

7. Cefnogaeth i awdurdodau lleol

Ewch i’r Hwb Mudo Pridiannau Tir Lleol i gael gwybodaeth am sut gall awdurdodau lleol fudo eu gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol i gofrestr ddigidol Cofrestrfa Tir EF.

8. Cysylltu

Ar gyfer ymholiadau pridiannau tir lleol cyffredinol, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu ar gyfer ymholiadau cyffredinol.

Ar gyfer ymholiadau gwasanaeth byw pridiannau tir lleol yn unig, defnyddiwch ein ffurflen gysylltu gwasanaeth byw.