Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 79: Pridiannau Tir Lleol

Diweddarwyd 7 February 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1.Cyflwyniad

1.1 Cefndir i bridiannu tir lleol

Yn gyffredinol, mae pridiannau tir lleol yn bridiannau neu’n gyfyngiadau ariannol ar y defnydd o dir sy’n llywodraethol eu natur ac yn cael eu gosod gan awdurdodau lleol o dan bwerau statudol, a elwir fel arall yn awdurdodau gwreiddiol. Maent yn effeithio ar bwy bynnag sy’n berchen ar y tir ac felly ceir rhwymedigaeth iddynt fod yn gofrestredig, i rybuddio prynwyr eu bod yn bodoli. Fel rheol, ni fyddai eu bodolaeth yn amlwg trwy archwilio’r tir neu’r gofrestr teitl (neu weithredoedd teitl os yw’r tir yn dal i fod yn dir digofrestredig).

Os nad yw pridiant tir lleol yn gofrestredig, bydd yn parhau i effeithio ar brynwr yn yr un modd ag yr oedd yn effeithio ar y perchennog gwreiddiol. Fodd bynnag, os yw prynwr yn gwneud chwiliad swyddogol neu bersonol cyn prynu, fel rheol, bydd hawl ganddo gael iawndal am y golled y mae’n ei dioddef o ganlyniad i fethiant y chwiliad i ddatgelu pridiant tir lleol oedd yn bodoli pan gafodd y chwiliad ei wneud.

Mae mathau cyffredin o bridiannau tir lleol yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i):

  • amodau a osodir mewn caniatâd cynllunio (mae’r rhain yn ffurfio’r mwyafrif o bridiannau)
  • adeiladau rhestredig
  • ardaloedd cadwraeth
  • gorchmynion diogelu coed
  • rhybuddion cynllunio a gorfodi
  • gorchmynion rheoli mwg
  • hysbysiadau rhwystro golau

1.2 Pryd i wneud cais i Gofrestrfa Tir EF

Cyn i Rannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 ddod i rym mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, mae dyletswydd ar yr awdurdod lleol perthnasol i gadw’r gofrestr pridiannau tir lleol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol. Mae Deddf Seilwaith 2015 yn caniatáu i’r Prif Gofrestrydd Tir (“y cofrestrydd”) ymgymryd yn raddol â’r swyddogaeth statudol ar gyfer pridiannau tir lleol trwy roi rhybudd i awdurdod lleol penodol gan nodi’r dyddiad pan ddaw’r cofrestrydd yn gyfrifol am bridiannau tir lleol ar gyfer ardal yr awdurdod lleol hwnnw.

Cyflwynir rhybudd fesul cam, gan ddechrau yn haf 2018, sy’n golygu y bydd yn rhaid gwneud cais o hyd i’r awdurdod lleol perthnasol i wneud chwiliad neu wneud cais i gofrestru, amrywio neu ddileu pridiant, hyd nes bod y cofrestrydd yn gyfrifol am bridiannau tir lleol ar gyfer yr ardal awdurdod lleol y mae’r tir perthnasol wedi ei gynnwys ynddi. Os yw pridiant neu chwiliad yn effeithio ar dir sy’n rhannol mewn ardal y mae’r cofrestrydd yn awdurdod cofrestru ar ei chyfer ac yn rhannol mewn ardal lle nad ydyw, bydd yn rhaid gwneud ceisiadau ar wahân i’r awdurdod lleol perthnasol a’r cofrestrydd – sydd, yn ymarferol, yn golygu Cofrestrfa Tir EF.

Gallwch weld a yw’r cofrestrydd yn gyfrifol am bridiannau tir lleol ar gyfer ardal awdurdod lleol penodol.

1.3 Yr hyn y bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei ddarparu

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cadw’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol ar gyfer yr ardaloedd hynny lle mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym (gweler Pryd i wneud cais i Gofrestrfa Tir EF). Os yw pridiant tir lleol yn effeithio ar dir mewn ardal o’r fath, bydd yn rhaid i’r awdurdod gwreiddiol wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i gofrestru pridiant, ac mae’n rhaid i’r unigolyn y mae, neu yr oedd, y pridiant yn orfodadwy ganddo ddiwethaf wneud cais i amrywio neu ddileu pridiannau tir lleol, gan ddefnyddio’r dulliau a fanylir yn Awdurdodau gwreiddiol.

Bydd yn rhaid i gwsmeriaid wneud cais i Gofrestrfa Tir EF am chwiliad swyddogol neu gynnal chwiliad personol o’r gofrestr os yw’r tir y mae’r chwiliad yn ofynnol ar ei gyfer o fewn ardal o’r fath, gan ddefnyddio’r dulliau a fanylir yn Chwilio’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

2. Awdurdodau gwreiddiol

2.1 Cais i gofrestru pridiant tir lleol

2.1.1 Pwy ddylai wneud y cais

Ystyr ‘yr awdurdod gwreiddiol’, mewn perthynas â phridiant tir lleol, yw Gweinidog y Goron, adran o’r llywodraeth, awdurdod lleol neu unigolyn arall y mae’r pridiant yn dod i fodolaeth ganddo, neu, pan ddaw i fodolaeth, y mae’r pridiant yn orfodadwy ganddo.

Cyfrifoldeb yr awdurdod gwreiddiol mewn perthynas â phridiant tir lleol yw gwneud cais i gofrestru’r pridiant hwnnw. Dylai cais i gofrestru pridiant gael ei wneud cyn gynted â phosibl, oherwydd bydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu adennill iawndal gan yr awdurdod gwreiddiol perthnasol y mae rhwymedigaeth ar y cofrestrydd i’w dalu o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975, oni bai bod cais wedi cael ei wneud gan yr awdurdod gwreiddiol hwnnw ar gyfer cofrestru’r pridiant mewn digon o amser iddo fod yn ymarferol i Gofrestrfa Tir EF osgoi fod yn atebol i dalu’r iawndal.

2.1.2 Sut i wneud cais

Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i gais i gofrestru pridiant (heblaw hysbysiad rhwystro golau) gael ei wneud trwy ddefnyddio dull cyfathrebu electronig. Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn caniatáu i Gofrestrfa Tir EF benderfynu’r dull cyfathrebu electronig i’w ddefnyddio i wneud ceisiadau a ffurf unrhyw gais o’r fath.

Gwiriwch ai’r cofrestrydd yw’r awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol y mae’ch pridiant wedi ei gynnwys ynddi. Gellir gwneud hyn cyn cofrestru pridiant trwy ddefnyddio’r gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol. Os nad y cofrestrydd yw’r awdurdod cofrestru, peidiwch â gwneud cais i gofrestru’r pridiant gyda ni. Yn lle hynny, dylai’r pridiant gael ei gofrestru yng nghofrestr pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol perthnasol.

I wneud cais, gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth ‘Maintain’ Pridiannau Tir Lleol
  • defnyddio Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) i wneud cais i gofrestru’r pridiant yn awtomatig

Bydd awdurdodau lleol wedi pennu ‘Admin User’ gyfer y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK a fydd yn rheoli cyfrifon o fewn eu sefydliad a hwn ddylai fod y pwnt cysylltu yn y lle cyntaf. Yn ogystal â’r awdurdod lleol, byddwn yn nodi ac yn cysylltu ag awdurdodau gwreiddiol eraill sy’n debygol o wneud ceisiadau rheolaidd i ddarparu mynediad at y gwasanaeth cofrestr.

Os oes angen mynediad arnoch, neu os oes problemau mynediad gennych, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF: gweler Pethau i’w cofio am fanylion. Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 hefyd yn rhoi hawl i’r cofrestrydd ganiatáu i geisiadau gael eu gwneud trwy ddull electronig arall heblaw trwy’r gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol mewn rhai amgylchiadau, ac esbonnir hyn yn Awdurdodau gwreiddiol nad oes ganddynt fynediad at y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol.

Dylai unrhyw gais i gofrestru, amrywio neu ddileu Hysbysiad Rhwystro Golau gael ei wneud yn unol ag adran Hysbysiadau Rhwystro Golau o’r cyfarwyddyd hwn.

Ni all Cofrestrfa Tir EF ddarparu cyngor cyfreithiol ynghylch a yw pridiant yn bridiant tir lleol.

2.2 Cais i amrywio pridiant tir lleol

Pan fydd pridiant cofrestredig wedi cael ei amrywio neu os yw unrhyw gofrestriad yn anghywir, rhaid i’r unigolyn y mae’r pridiant yn orfodadwy ganddo wneud cais i amrywio’r cofrestriad. I wneud cais, defnyddiwch y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK neu’r API. Os yw perchennog eiddo neu ei drawsgludwr o’r farn y dylai cofrestriad gael ei amrywio, dylai gysylltu â’r unigolyn y mae’r pridiant yn orfodadwy ganddo er mwyn i’r unigolyn hwnnw allu gwneud cais i’r pridiant gael ei amrywio.

Gall y cofrestrydd amrywio cofrestriad ohono ei hun. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o gofrestriadau yn cael eu hamrywio dim ond o ganlyniad i gais gan yr unigolyn sydd â’r hawl i orfodi’r pridiant. Yn gyffredinol, dim ond yr unigolyn hwnnw fydd yn cadw’r wybodaeth angenrheidiol i benderfynu a yw pridiant cofrestredig wedi cael ei amrywio neu a yw cofrestriad yn anghywir. Mae’r cofrestrydd yn debygol o amrywio cofrestriad ohono ei hun dim ond, mewn amgylchiadau eithriadol iawn, am un rheswm neu’i gilydd (er enghraifft, nid oes modd adnabod yr unigolyn sydd â’r hawl i orfodi’r pridiant), ni fyddai’n ymarferol i fynnu i gais am amrywiad gael ei wneud gan yr unigolyn hwnnw.

2.3 Cais i ddileu pridiant tir lleol

Pan fydd pridiant cofrestredig wedi cael ei ryddhau, wedi peidio â chael effaith neu wedi peidio â bod yn bridiant, rhaid i’r unigolyn yr oedd y pridiant yn orfodadwy ganddo wneud cais i ddileu’r cofrestriad. I wneud cais, defnyddiwch y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK neu’r API.

Os yw unigolyn o’r farn y dylai cofrestriad gael ei ddileu, dylai gysylltu â’r unigolyn yr oedd y pridiant yn orfodadwy ganddo, yr awdurdod gwreiddiol fel arfer, er mwyn iddo wneud cais i’r pridiant gael ei ddileu.

Gall y cofrestrydd ddileu cofrestriad ohono ei hun ond mae’n debygol o wneud hynny dim ond yn yr amgylchiadau eithriadol pan fyddai cofrestriad yn cael ei amrywio; gweler Cais i amrywio pridiant tir lleol.

2.4 Ceisiadau i ddileu pridiant tir lleol yn unol â gorchymyn llys

Os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn ar gyfer dileu pridiant tir lleol, anfonwch gopi o’r gorchymyn hwnnw naill ai:

2.5 Awdurdodau gwreiddiol nad oes ganddynt fynediad at y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol

Os ydych yn awdurdod gwreiddiol nad oes gennych fynediad at wasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK neu’r API, cysylltwch â ni:

Byddwn yn gallu trefnu mynediad, neu roi cymeradwyaeth i’ch cais gael ei wneud trwy ddull ymgeisio electronig arall. Yn aml iawn bydd modd trefnu i fynediad gael ei roi heb unrhyw oedi ond os na ellir gwneud hyn am unrhyw reswm, mewn rhai achosion gallwch ofyn i Gofrestrfa Tir EF ganiatáu i gais gael ei wneud trwy ddull electronig arall.

Gall yr amgylchiadau hyn gynnwys ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i’r canlynol:

  1. Os nad yw awdurdod gwreiddiol wedi gallu trefnu mynediad eto at y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK neu’r API, ac mae angen iddo gofrestru pridiant tra bo’n aros i fynediad gael ei drefnu.

  2. Os yw awdurdod gwreiddiol neu unigolyn y mae neu yr oedd pridiant yn orfodadwy ganddo ddiwethaf am wneud cais i gofrestru pridiant, neu amrywio neu ddileu cofrestriad, ond nid yw’n debygol o orfod gwneud ceisiadau pellach yn rheolaidd.

2.6 Hysbysiadau Rhwystro Golau

Dim ond Hysbysiad Rhwystro Golau (HRhG) yn ymwneud â thir sy’n dod o fewn ardal awdurdod lleol y mae’r cofrestrydd yn awdurdod cofrestru ar ei chyfer byddwn yn gallu ei gofrestru.

Edrychwch i weld ai’r cofrestrydd yw’r awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol mae eich HRhG yn perthyn iddi.

2.6.1 Cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau

Mae cofrestru HRhG yn gweithredu fel rhwystr tybiannol o’r golau sy’n mynd trwyddo i adeilad cymydog dros dir yr unigolyn sy’n cofrestru’r pridiant. Yr effaith yw, oni bai bod yr adeilad eisoes yn elwa o hawddfraint golau, mae’r golau sy’n mynd trwyddo yn cael ei drin fel golau a dorrir ar ei draws, ac os yw’r cofrestriad hwnnw yn parhau am flwyddyn, mae’r cymydog yn cael ei atal mewn gwirionedd rhag caffael hawl i oleuni trwy bresgripsiwn. Felly mae HRhG yn wahanol mewn sawl ffordd i’r pridiannau tir lleol eraill.

Bydd HRhG yn dod i rym fel pridiant tir lleol dim ond pan fydd wedi ei gofrestru.

I wneud cais i gofrestru HRhG, gallwch naill ai:

  • defnyddio ein ffurflen gysylltu, gyda delweddau wedi eu sganio o’r dogfennau gofynnol – byddwn yn cael eich cais yn gynt wrth ddefnyddio’r dull hwn
  • anfon cais ar bapur trwy’r post, gyda chopïau o’r dogfennau gofynnol, i’r canlynol:

Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP

Rhaid i gais i gofrestru HRhG gael ei wneud ar Ffurflen A gyda chynllun lliw atodedig yn dangos yr adeilad y caiff yr hysbysiad ei gofrestru yn ei erbyn, ynghyd â chopi o’r dystysgrif a gyhoeddwyd gan yr Uwch Dribiwnlys. Os yw’r cais yn cael ei anfon trwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu, bydd yn rhaid sganio Ffurflen A wedi ei llenwi a chynllun lliw atodedig, a thystysgrif yr Uwch Dribiwnlys, ac anfon y delweddau fel atodiadau. Mae Ffurflen A wedi ei hamlinellu yn Atodlen 2 i Reolau Pridiannu Tir Lleol 2018.

Mae ffi yn daladwy ar gyfer y cais hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ffïoedd i gael rhagor o wybodaeth.

O dan reol 11 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018, gall Cofrestrfa Tir EF ddinistrio unrhyw ddogfennau papur, gan gynnwys dogfennau gwreiddiol, sy’n ymwneud â chofrestru neu gais neu ymholiad a bydd yn cadw copi mewn ffurf electronig. Felly, ni ddylai dogfennau gwreiddiol gael eu hanfon gyda chais Hysbysiad Rhwystro Golau.

Cofiwch gynnwys pob un o’r canlynol, neu caiff eich cais ei wrthod:

  • Ffurflen A wedi ei llenwi
  • cynllun lliw yn dangos yr adeilad y caiff yr hysbysiad ei gofrestru yn ei erbyn
  • copi o’r dystysgrif a gyhoeddwyd gan yr Uwch Dribiwnlys
  • ffi

2.6.2 Amrywio neu ddileu cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) o’r prif Reolau

Gall yr unigolyn a wnaeth gais i gofrestru’r Hysbysiad Rhwystro Golau, neu ei olynydd yn y teitl i’r tir y mae’r golau yn mynd trwyddo, wneud cais o fewn blwyddyn i’r cofrestriad i’r manylion cofrestredig gael eu hamrywio (er enghraifft, lleoliad yr adeiledd rhwystro tybiannol sydd i’w newid) neu ddileu’r cofrestriad.

I wneud cais i gofrestru’r amrywiad neu ddileu Hysbysiad Rhwystro Golau, gallwch naill ai:

  • defnyddio ein ffurflen gysylltu, gyda delweddau wedi eu sganio o’r dogfennau gofynnol – byddwn yn cael eich cais yn gynt wrth ddefnyddio’r dull hwn
  • anfon cais ar bapur trwy’r post, gyda chopïau o’r dogfennau gofynnol, i’r canlynol:

Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP

Byddwn yn gallu prosesu cais sy’n ymwneud â thir sydd wedi ei gynnwys o fewn ardal awdurdod lleol y mae’r cofrestrydd yn awdurdod cofrestru ar ei chyfer yn unig.

Mae ffi yn daladwy ar gyfer y cais hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ffïoedd i gael rhagor o wybodaeth.

O dan reol 11 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018, gall Cofrestrfa Tir EF ddinistrio unrhyw ddogfennau papur, gan gynnwys dogfennau gwreiddiol, sy’n ymwneud â chofrestru neu gais neu ymholiad a bydd yn cadw copi mewn ffurf electronig. Felly, ni ddylai dogfennau gwreiddiol gael eu hanfon gyda’ch cais.

Cofiwch gynnwys pob un o’r canlynol, neu caiff eich cais ei wrthod:

  • Ffurflen B wedi ei llenwi (mae Ffurflen B wedi ei hamlinellu yn Atodlen 2 i Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018)
  • ffi

2.6.3 Amrywio cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(6) o’r prif Reolau (tystysgrif diffiniol wedi ei chyflwyno)

Pan gafodd Hysbysiad Rhwystro Golau ei gofrestru ar sail tystysgrif dros dro gan yr Uwch Dribiwnlys a, chyn diwedd y cyfnod y mae’r dystysgrif dros dro yn dod i ben ar ei gyfer, gellir cyflwyno cais i amrywio’r cofrestriad gwreiddiol naill ai:

  • gan ddefnyddio ein ffurflen gysylltu, gyda delweddau wedi eu sganio o’r dystysgrif diffiniol – byddwn yn cael eich cais yn gynt wrth ddefnyddio’r dull hwn
  • trwy’r post, gyda chopi o’r dystysgrif diffiniol, i’r canlynol:

Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP

Mae ffi yn daladwy ar gyfer y cais hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ffïoedd i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd y cofrestrydd yn amrywio’r cofrestriad yn unol â hynny. Nid oes angen cyflwyno Ffurflen B ar gyfer ceisiadau a wneir o dan reol 7(6).

2.6.4 Amrywio neu ddileu cofrestru hysbysiad rhwystro golau yn unol â gorchymyn y llys o dan adran 3(5) o Ddeddf Hawliau Golau 1959

Os yw’r llys wedi gwneud gorchymyn yn siarsio amrywio neu ddileu cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan adran 3(5) o Ddeddf Hawliau Golau 1959, anfonwch gopi swyddogol o’r gorchymyn hwnnw naill ai:

Light Obstruction Notices
PO Box 3286
Twyver House
Gloucester
GL1 9HP

Ni chodir ffi i gyflwyno copi o orchymyn o’r fath.

3. Chwilio’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol

Mae modd gwneud ymholiad am chwiliad swyddogol o’r gofrestr neu wneud cais i chwilio yn y gofrestr (i wneud chwiliad personol). Rhaid i’r ymholiad gael ei wneud trwy ddefnyddio’r dull cyfathrebu electronig a bennir gan y cofrestrydd ac yn y ffurf a bennir gan y cofrestrydd.

Os yw’r tir a nodir y mae’r chwiliad i’w wneud yn ei gylch yn cynnwys tir nad y cofrestrydd yw’r awdurdod cofrestru ar ei gyfer, bydd neges rhybudd yn cael ei dangos a bydd yn rhaid ichi wneud cais i’r awdurdod lleol perthnasol.

Y gwahaniaeth yn y wybodaeth y bydd chwiliad swyddogol yn ei darparu o’i gymharu â chwiliad personol

Yr hyn mae’r gwasanaeth yn ei gynnig

Ar gyfer chwiliad swyddogol (£15) neu chwiliad personol (am ddim), cewch:

  • ddisgrifiad o’r pridiant tir lleol
  • y dyddiad cofrestru (pryd gafodd y pridiant ei ychwanegu at y gofrestr)
  • manylion am yr awdurdod a all ateb cwestiynau am y pridiant tir lleol hwn

Ar gyfer chwiliad swyddogol (£15), cewch hefyd:

  • dystysgrif chwiliad swyddogol sy’n ddiogel (gwrth-ymyrraeth), wedi ei llofnodi’n ddigidol a’i gwarantu gan Gofrestrfa Tir EF, gan sicrhau dilysrwydd
  • cyswllt electronig i’r fan lle mae’r ddogfen ar gael i’w harchwilio, os yw’r cyswllt hon wedi cael ei darparu gan yr awdurdod gwreiddiol
  • terfyn y pridiant tir lleol, yn dangos ble mae’r pridiant yn dechrau ac yn gorffen
  • ar gyfer 6 mis, bydd pob chwiliad yn:

    • rhoi lawrlwythiadau diderfyn o dystysgrif swyddogol
    • chwiliadau swyddogol ailadroddus diderfyn i chwilio am bridiannau newydd cyn cwblhau trafodiad
    • bod ar gael i’w lwytho i lawr mewn fformatau lluosog (PDF, JSON, CSV, XML)
    • rhoi dangosfwrdd hanes chwilio
    • dangos chwiliadau gweithredol ac anweithredol

3.1 Chwiliad swyddogol

Gall cais am chwiliad swyddogol gael ei wneud trwy borthol Cofrestrfa Tir EF, neu Business Gateway, neu wasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK. Os ydych eisoes yn defnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF neu Business Gateway, mae’r opsiwn i brynu chwiliad Pridiannau Tir Lleol swyddogol ar gael trwy’r sianeli hyn. Os nad ydych yn defnyddio’r gwasanaethau hyn a hoffech gofrestru, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF: gweler Pethau i’w cofio am fanylion.

Mae Rheol 10 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd nodi’r tir y mae’r chwiliad i’w wneud yn ei gylch. Cewch eich annog i wneud hyn pan fyddwch yn gwneud chwiliad a gellir gwneud hyn trwy un o’r opsiynau canlynol.

  1. Rhoi cyfeiriad post y tir – os yw’r tir yn gofrestredig, bydd stent y teitl cofrestredig yn cael ei ddangos. Dylech wirio bod y stent a ddangosir yn adlewyrchu’n gywir yr ardal i’w chwilio yn ei herbyn. Gellir newid hyn â llaw os oes angen.

  2. Defnyddio’r map i dynnu stent y tir i’w chwilio yn ei erbyn.

Os ydych yn defnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF, gallwch hefyd nodi’r tir y mae’r chwiliad i’w wneud yn ei gylch trwy nodi’r rhif teitl, os yw’r tir yn gofrestredig. Gellir newid hyn â llaw os oes angen. Os yw’r tir yn ddigofrestredig, dylid defnyddio un o’r opsiynau a restrir uchod.

Pan fydd chwiliad wedi cael ei gwblhau ac mae canlyniad wedi cael ei gyhoeddi, ni fydd modd newid yr ardal chwilio.

Codir ffi am y gwasanaeth hwn. Gweler ein cyfarwyddyd ffïoedd i gael rhagor o wybodaeth.

I wneud cais i chwilio yn y gofrestr defnyddiwch y gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK. Byddwch yn gallu gweld ar y sgrin yr holl fanylion cofrestru ar gyfer pridiannau sy’n effeithio ar y tir rydych yn ei chwilio, ond ni fydd gennych fynediad at nodweddion ychwanegol y chwiliad swyddogol.

Mae Rheol 9 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd nodi’r tir y mae’r chwiliad o’r tir yn cael ei wneud yn ei gylch. Cewch eich annog i wneud hyn pan fyddwch yn chwilio a gellir ei wneud trwy un o’r opsiynau canlynol.

  1. Nodi cyfeiriad post y tir – os yw’r tir yn gofrestredig, bydd stent y teitl cofrestredig yn cael ei ddangos. Dylech wirio bod y stent a ddangosir yn adlewyrchu’n gywir yr ardal sydd i’w chwilio yn ei herbyn. Gellir newid hyn â llaw os oes angen.
  2. Defnyddio’r map i dynnu stent y tir i’w chwilio yn ei erbyn.

Ni chodir ffi i wneud cais am y dogfennau hyn. Gweler ein cyfarwyddyd ffïoedd i gael rhagor o wybodaeth.

3.3 Maint yr ardal chwilio

Nid yw stent y tir y gellir ei chwilio gan un cais, os yw’r cais am chwiliad swyddogol neu chwiliad personol, wedi ei gyfyngu i un darn o dir.

Ym mron pob achos, bydd modd i un cais gael ei wneud ar gyfer chwiliad o’r holl dir sy’n destun pryniant arfaethedig. Fodd bynnag, ni fydd modd i chwiliad fynd rhagddo pe byddai stent y tir a nodwyd yn arwain at nifer eithriadol o fawr o gofrestriadau’n cael eu datgelu, ac felly gallai parhau â’r cais niweidio gweithrediad y gwasanaeth.

Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd yn rhaid lleihau stent y tir a nodwyd a gwneud mwy nag un cais. Caiff ceiswyr eu hysbysu os bydd y stent yn rhy fawr pan fyddant wedi nodi yn eu cais y tir y caiff y chwiliad ei wneud yn ei erbyn: ni chaniateir i’r cais fynd rhagddo ymhellach.

4. Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004

Y ffordd symlaf i gael gwybodaeth o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yw trwy gynnal chwiliad personol ar-lein (chwiliad personol). Caiff y wybodaeth ei darparu i’w gweld ar y sgrin ar unwaith ac yn rhad ac am ddim.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth chwilio personol ar-lein, cysylltwch â ni gyda’ch cais, nid oes rhaid iddo fod yn ysgrifenedig. Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu hyd at 20 diwrnod gwaith ymateb i gael ei gyhoeddi.

Pan fyddwch yn anfon eich cais, rhaid ichi ddarparu un o’r canlynol:

  • rhif teitl Cofrestrfa Tir EF (os yw gennych)
  • cyfeiriad post (os yw ar gael)
  • cynllun er mwyn gallu nodi’r ardal chwilio

Dylech hefyd gynnwys eich manylion cysylltu, oherwydd mae’n bosibl y bydd angen gwybodaeth bellach arnom os nad oes modd nodi’n eglur y tir y mae’ch cais yn cyfeirio ato.

5. Rhagor o wybodaeth am bridiannau neu gopïau o ddogfennau

Mae pob cofrestriad yn cynnwys manylion am yr awdurdod gwreiddiol ar gyfer y pridiant a’r manylion cysylltu ar gyfer yr awdurdod sy’n gallu ateb cwestiynau am y pridiant.

Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch pridiannau gael eu cyfeirio at yr awdurdod gwreiddiol oherwydd yr awdurdod fydd â’r wybodaeth i gynorthwyo.

Os oes angen copi o ddogfen sy’n ymwneud â phridiant arnoch (heblaw dogfen a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF, (gweler Cael copïau o ddogfennau a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF), bydd yn rhaid ichi gysylltu â’r awdurdod gwreiddiol. Bydd y cofrestriad yn datgan pwy yw’r awdurdod gwreiddiol a ble y gallwch gael rhagor o wybodaeth am y pridiant, gan ddefnyddio’r manylion cysylltu a ddarperir.

6. Cael copïau o ddogfennau a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF

Gallwch wneud cais am gopi o unrhyw ddogfen a restrir fel un a gedwir gan y cofrestrydd ym manylion cofrestriad ar gyfer hysbysiad rhwystro golau neu unrhyw orchymyn llys neu eitem o ohebiaeth a gedwir gan y cofrestrydd sy’n gysylltiedig â chofrestriad.

I gael copi o ddogfen a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF, rhaid ichi ddefnyddio ein ffurflen gysylltu gyda’r canlynol:

  • cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF a ddangosir ar ganlyniadau chwiliad (os yw ar gael)
  • y math o ddogfen
  • dyddiad y ddogfen

Byddwch yn cael copi o’r ddogfen trwy ebost.

Ni chodir ffi i wneud cais am y dogfennau hyn. Gweler ein cyfarwyddyd ffïoedd i gael rhagor o wybodaeth.

7. Yr hyn i’w wneud os ydych yn meddwl bod camgymeriad mewn cofrestriad, neu ganlyniad chwiliad

Dylech gysylltu â’r awdurdod gwreiddiol perthnasol i drafod yr ymholiad gan ddefnyddio’r manylion cysylltu ar gyfer yr awdurdod sy’n gallu ateb cwestiynau am y pridiant fel y dangosir ar bob cofrestriad. Yn dilyn ei ymchwiliad, efallai y bydd yn gallu datrys y mater trwy wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i amrywio neu ddileu’r pridiant.

Os yw’ch chwiliad wedi cael ei ddarparu gan gwmni chwiliad personol, cysylltwch â’r cwmni yn y lle cyntaf oherwydd mae’n bosibl y bydd yn gallu rhoi cymorth.

Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, o dan reol 6 o Reolau Cofrestru Tir 2018, gall y Cofrestrydd, ohono ei hun, amrywio neu ddileu cofrestriad. Gweler Cais i amrywio pridiant tir lleol a Cais i ddileu pridiant tir lleol.

8. Iawndal

Fel rheol, bydd hawl gan brynwr tir i gael iawndal o dan adran 10 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 am unrhyw golled a gafwyd o ganlyniad os cafodd chwiliad swyddogol neu bersonol perthnasol ei wneud cyn yr amser perthnasol ac os nad oedd y chwiliad neu’r dystysgrif chwiliad swyddogol wedi dangos pridiant tir lleol oedd yn bodoli adeg gwneud y chwiliad.

At ddiben adran 10, mae unigolyn yn prynu tir pan fydd, am gydnabyddiaeth sydd â gwerth iddi, yn caffael unrhyw fudd yn y tir gan gynnwys lle mae’r caffaeliad fel prydlesai neu’n forgeisai.

Bydd chwiliad yn berthnasol os cafodd ei wneud (neu y gwnaed ymholiad amdano yn achos chwiliad swyddogol) gan neu ar ran y prynwr neu, cyn yr amser perthnasol, mae gan y prynwr neu ei asiant wybodaeth am ganlyniad y chwiliad neu gynnwys y dystysgrif chwiliad swyddogol.

Fel arfer, yr amser perthnasol fydd yr amser pan gafodd y contract ar gyfer caffael y budd ei wneud neu (os nad oes contract o’r fath) dyddiad y trosglwyddiad, trawsgludiad, prydles, morgais neu gyfrwng arall y cafodd y budd dan sylw ei gaffael trwyddo.

Rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig am iawndal. Rhaid i’r wybodaeth ganlynol gael ei chynnwys gydag unrhyw gais o’r fath:

  • manylion y chwiliad a gafodd ei wneud ac (yn achos chwiliad swyddogol) copi o’r dystysgrif chwiliad swyddogol berthnasol
  • y dyddiad pan gafodd y chwiliad ei wneud
  • disgrifiad o’r budd a brynwyd mewn dibyniaeth ar y chwiliad
  • manylion y pridiant yr honnwyd iddo fodoli ar yr adeg y cafodd y chwiliad ei wneud ond heb ei ddatgelu
  • manylion y golled yr honnir iddi gael ei dioddef o ganlyniad

9. Pethau i’w cofio

Gwiriwch ai’r cofrestrydd yw’r awdurdod cofrestru ar gyfer yr ardal awdurdod lleol lle mae’r tir perthnasol wedi ei gynnwys. Os na, bydd yn rhaid ichi wneud cais i’r awdurdod lleol perthnasol, nid Cofrestrfa Tir EF.

Yn gyffredinol, bydd dogfennau sy’n cynnwys neu’n ffurfio’r pridiant tir lleol yn cael eu cadw gan yr awdurdod gwreiddiol, nid gan Gofrestrfa Tir EF.

Os ydych yn meddwl bod cofrestriad yn anghywir neu y dylai pridiant gael ei ddileu, cysylltwch â’r awdurdod gwreiddiol perthnasol er mwyn iddo allu gwneud cais i Gofrestrfa Tir EF i amrywio neu ddileu’r cofrestriad.

I wneud cais am chwiliad swyddogol, defnyddiwch borthol Cofrestrfa Tir EF, neu Business Gateway, neu’r gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol ar GOV.UK.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn ymwneud â chwiliad pridiannau tir lleol yn unig. Dylai ymholiadau CON29 gael eu gwneud i’r awdurdod lleol perthnasol.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.

10. Cysylltu

Os oes unrhyw gwestiynau gennych am geisiadau pridiannau tir lleol, cysylltwch â ni.

Ffurflen gysylltu

Ffôn
0300 006 0422

HMLR Local Land Charges
Processing Team
PO Box 326
Mitcheldean
GL14 9BQ

Os ydych am gael mynediad at ein porthol neu Business Gateway, cewch wybod rhagor yma a gwneud cais i ddefnyddio E-wasanaethau busnes.

Os oes ymholiad gennych am ddebyd uniongyrchol amrywiol, cysylltwch â’r adran gyfrifon: