Canllawiau

Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol

Ffïoedd sy'n daladwy ar gyfer gwasanaethau pridiannau tir lleol.

Applies to England and Wales

Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol

Mae’r wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn yn grynodeb o Reolau Ffïoedd Pridiannau Tir Lleol (Lloegr) 2018 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffïoedd) (Cymru) 2021 (‘y Rheolau Ffïoedd’). Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn cyfeirio at Reolau Pridiannau Tir Lleol 2018 (‘y Rheolau’).

Gwasanaeth Gwneud cais trwy ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF neu Business Gateway Gwneud cais trwy ddefnyddio GOV.UK Gwneud cais trwy’r post Gwneud cais trwy ffurflen gysylltu* Sut i dalu ffïoedd
Chwiliad swyddogol o’r gofrestr
(gan gynnwys cyhoeddi tystysgrif swyddogol chwiliad)
o dan adran 9(1) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975

Nodyn: gweler Eithriad dim ffïoedd.
£15 £15 Ddim ar gael Ddim ar gael Debyd uniongyrchol lle mae cytundeb yn ei le rhwng y ceisydd sy’n gofyn am y gwasanaeth a Chofrestrfa Tir EF.

Cerdyn credyd neu ddebyd.
Cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Cerdyn credyd neu ddebyd.

Os yw’ch cais yn cael ei anfon trwy’r post: siec neu archeb bost wedi ei groesi ac yn daladwy i Gofrestrfa Tir EF.
Amrywio cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(1) o’r Rheolau Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau
Dileu cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(1) o’r Rheolau Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau
Amrywio cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau o dan reol 7(6) o’r Rheolau (tystysgrif diffiniol wedi ei chyflwyno) Ddim ar gael Ddim ar gael £18 £18 Fel ar gyfer cofrestru Hysbysiad Rhwystro Golau

*Ffurflen gysylltu ar gyfer Pridiannau Tir Lleol

Dim ffïoedd

Nid oes yn rhaid talu ffi ar gyfer:

  • cais i chwilio yn y gofrestr (chwiliad personol)
  • cais i gofrestru pridiant tir lleol (heblaw Hysbysiad Rhwystro Golau)
  • cais i amrywio neu ddileu cofrestriad (heblaw cofrestriad Hysbysiad Rhwystro Golau)
  • cais am gopi o unrhyw ddogfen a restrir fel un a gedwir gan y cofrestrydd yn y manylion cofrestru ar gyfer Hysbysiad Rhwystro Golau, neu gais am gopi o unrhyw orchymyn llys neu eitem o ohebiaeth a gedwir gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chofrestriad, neu gais o dan Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 neu’r Rheolau
  • chwiliad swyddogol os ydych wedi talu am chwiliad swyddogol am yr un eiddo o fewn y 6 mis diwethaf

Sut i dalu ffïoedd

Gallwch dalu am wasanaethau trwy:

  • gerdyn credyd neu ddebyd
  • debyd uniongyrchol newidiol, os oes cyfrif E-wasanaethau busnes gennych
  • siec neu archeb bost, dim ond pan fydd post neu geisiadau wedi eu caniatáu (yn daladwy i ‘Gofrestrfa Tir EF’)

Rhagor o wybodaeth

Mae’r Rheolau Ffïoedd yn pennu’r ffïoedd sy’n daladwy i’r cofrestrydd am wasanaethau yn ymwneud â’r pridiannau tir lleol sy’n effeithio ar dir yng Nghymru a Lloegr, ac maent yn rhagnodi pryd y mae’r ffïoedd yn daladwy a sut y maent i’w talu.

Dim ond pan gaiff gwasanaeth pridiannau tir lleol ar gyfer ardal ei drosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF y daw’r Rheolau Ffïoedd i rym mewn ardal awdurdod lleol.

Am ragor o wybodaeth am y ffi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.

Cyhoeddwyd ar 18 June 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 April 2021 + show all updates
  1. Update to the reasons where a fee is not payable. The fees also now apply to local authorities in Wales.

  2. First published.