Canllawiau ar gyfer Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff Statudol (DWMPs)
Canllawiau i ymgymerwyr carthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr ar sut i baratoi, cyhoeddi a chynnal eu DWMP.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae gan ymgymerwyr carthffosiaeth yng Nghymru a Lloegr ddyletswydd statudol i baratoi, cyhoeddi a chynnal Cynllun Rheoli Draenio a Charthffosiaeth o dan adran 94 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991. Yr enw cyffredin ar y cynlluniau hyn yw Cynlluniau Rheoli Draenio a Dŵr Gwastraff (DWMP).
Mae’r canllawiau anstatudol hyn yn rhoi cyfarwyddyd i ymgymerwyr carthffosiaeth sut i baratoi, cyhoeddi a chynnal DWMP sy’n cydymffurfio. Gallai’r canllawiau hyn fod yn ddefnyddiol hefyd i Awdurdodau Rheoli Risg (RMAau) eraill sy’n gweithio gydag ymgymerwyr carthffosiaeth.