Ffurflen

Gwneud cais am adolygiad barnwrol o benderfyniad: Ffurflen N461

Gofyn i’r llys am ganiatâd i fwrw ymlaen â hawliad am adolygiad barnwrol, a nodi manylion yr hawliad.

Dogfennau

Ffurflen Hawlio Adolygiad Barnwrol: N461

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i ofyn i’r Llys Gweinyddol adolygu penderfyniad a wnaed gan bobl neu gyrff sydd â swyddogaeth cyfraith gyhoeddus, fel awdurdod lleol, llys neu weinidog.

Rhaid ichi wneud yr hawliad yn y Llys Gweinyddol priodol yn:

  • Y Llysoedd Barn Brenhinol, Llundain
  • Birmingham
  • Leeds
  • Manceinion
  • Caerdydd

Rhaid ichi ffeilio’r hawliad o fewn amserlenni penodol.

Gallwch hefyd ddarllen yr arweiniad ar ddod ag achos adolygiad barnwrol i’r Llys Gweinyddol.

Rhagor o wybodaeth am ddod ag achos i’r Llys Gweinyddol.

Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd.

Dewch o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.

Rhagor o wybodaeth am sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 1 February 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 March 2022 + show all updates
  1. Added Welsh version of the page

  2. Changes made to form following amendments to the civil procedure rules on judicial review, to bring it up to date.

  3. Added revised Welsh Form N461.

  4. Added revised N461 form.

  5. First published.