Canllawiau

Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: trefniadau sy'n bodoli eisoes

Yn nodi gofynion ar gyfer y rhai mewn trefniadau a wnaed cyn i'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2025.

Dogfennau

Welsh - pre-existing arrangements under the Foreign Influence Registration Scheme

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch alternativeformats@homeoffice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn diogelu diogelwch a buddiannau’r DU trwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu sefydliadau a reolir gan wladwriaeth‑dramor penodol. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.

Mae’r cyfnod gras 3 mis ar gyfer trefniadau sy’n bodoli eisoes – hynny yw, y rhai a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2025 – bellach wedi dod i ben.

Trefniadau newydd o dan yr haen uwch

Rhaid i chi gofrestru trefniadau newydd o dan haen uwch y cynllun o fewn 10 diwrnod i’r trefniant gael ei wneud a chyn i’r gweithgareddau ddigwydd.

Gweler y canllawiau ar yr haen uwch am ragor o wybodaeth.

Trefniadau newydd o dan yr haen dylanwad gwleidyddol

Rhaid i chi gofrestru trefniadau newydd o dan yr haen dylanwad gwleidyddol o fewn 28 diwrnod i’r trefniant gael ei wneud.

Gweler y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol am ragor o wybodaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Hydref 2025 show all updates
  1. The details section has been updated to reflect that the 3 month grace period, for pre-existing arrangements made before 1 July 2025, has ended.

  2. Addition of html versions in Arabic, Persian, Russian and Chinese.

  3. Addition of html versions in the following languages: French, Welsh, Portuguese and Spanish.

  4. Translations to landing page added.

  5. Added translations in Arabic, Chinese, French, Persian, Portuguese, Russian, Spanish and Welsh.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon