Canllawiau

Y Swyddfa Gartref: Canllawiau ar Drefniadau sy’n Bodoli Eisoes o dan y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramo

Diweddarwyd 1 Hydref 2025

Ebrill 2025

Ynglŷn â’r Canllawiau hyn

Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn sicrhau tryloywder dylanwad tramor yng ngwleidyddiaeth y DU ac yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch gweithgareddau rhai pwerau neu endidau tramor a allai beri risg i ddiogelwch a buddiannau’r DU. Mae wedi’i gynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.

Mae’r cynllun yn cynnwys dwy haen, pob un â gofynion ar wahân. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y gofynion hyn yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol a’r canllawiau ar yr haen uwch.

Daw gofynion y cynllun i rym ar 1 Gorffennaf 2025. Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r gofynion ar gyfer trefniadau sydd eisoes ar waith ar 1 Gorffennaf 2025.

Amseriad cofrestru ar gyfer trefniadau sy’n bodoli eisoes

1. Lle mae trefniant cofrestradwy eisoes ar waith ar 1 Gorffennaf 2025, mae cyfnod gras o 3 mis i gofrestru’r trefniant hwn. Mae’r cyfnod gras hwn yn berthnasol i drefniadau a wneir o dan yr haen dylanwad gwleidyddol a threfniadau a wneir gyda phwerau neu endidau tramor penodedig o dan yr haen uwch.

2. Felly, rhaid cofrestru trefniadau a wnaed cyn 1 Gorffennaf 2025, ac sy’n parhau y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw, erbyn 1 Hydref 2025.

3. Nid yw unrhyw drefniadau a wneir ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2025 yn elwa o’r cyfnod gras o 3 mis a rhaid eu cofrestru o fewn yr amserlenni sy’n berthnasol i bob haen. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol a’r canllawiau ar yr haen uwch.

4. Nid oes angen cofrestru trefniadau nad ydynt bellach yn weithredol ar 1 Gorffennaf 2025. Felly, os yw gweithgareddau sy’n digwydd o dan drefniant cofrestradwy wedi dod i ben yn llwyr erbyn 1 Gorffennaf 2025, nid oes angen cofrestru’r trefniant.

Goblygiadau i gyflogeion, isgontractwyr a phobl eraill sy’n cyflawni gweithgareddau

5. Lle nad yw cofrestru eto’n ddyledus, nid yw’n drosedd cyflawni gweithgareddau o dan drefniant cofrestradwy.

6. Felly, gall cyflogeion, isgontractwyr, a phersonau eraill sy’n cyflawni gweithgareddau yn ystod y cyfnod gras o 3 mis (1 Gorffennaf 2025 – 1 Hydref 2025), sy’n unol â threfniant a wnaed cyn i ofynion y cynllun ddod i rym, barhau â’u gweithgareddau yn ystod y cyfnod hwn heb fod angen cofrestru ymlaen llaw

© Hawlfraint y Goron 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at y Tîm Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu ebostiwch: psi@nationalarchives.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn h https://www.gov.uk/government/collections/foreigninfluence-registration-scheme

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn FIRS@homeoffice.gov.uk.