Skip to main content
Canllawiau

Canllaw byr i fusnesau: cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr a chydymffurfio â chyfraith diogelu defnyddwyr

Cyhoeddwyd 4 Ebrill 2025

Mae’r crynodeb hwn ar gyfer busnesau sy’n cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr neu wybodaeth am adolygiadau. Mae’n egluro beth sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol.

Mae pethau eraill na ddylai busnesau eu gwneud (fel ysgrifennu neu gomisiynu eraill i ysgrifennu adolygiadau ffug). Eglurir y rhain ymhellach yn y canllawiau llawn ar adolygiadau ffug (in English) lle gallwch hefyd weld llawer o enghreifftiau.

Sut olwg sydd ar adolygiadau ffug

Gall adolygiadau defnyddwyr gymryd sawl ffurf. Gallent edrych fel:

  • testun: er enghraifft, blog ysgrifenedig neu sylw a bostiwyd o dan gynnyrch wedi’i restru ar wefan
  • araith: er enghraifft, barn lafar a fynegir mewn fideo ar lwyfan rhannu fideos
  • cynrychioliadau graffig: er enghraifft, sgôr seren yn ymddangos wrth ymyl enw bwyty mewn canlyniadau peiriannau chwilio, neu godi bawd wrth ymyl adolygiad ‘defnyddiol’

Gwybodaeth sy’n deillio o adolygiadau defnyddwyr (gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr) neu wedi’i dylanwadu gan yr adolygiadau hyn yw gwybodaeth agregedig ar ffurf sgoriau cyffredinol, crynodebau adolygiadau, cyfrifon adolygiadau a safleoedd.

Mae’n bwysig bod adolygiadau a gwybodaeth am adolygiadau yn ddibynadwy. Mae sawl math o adolygiadau a gwybodaeth am adolygiadau camarweiniol y gallai defnyddwyr eu gweld:

  • adolygiadau ffug: dyma adolygiadau sy’n edrych neu’n honni eu bod yn ddilys, ond mewn gwirionedd maent yn ffug
  • adolygiadau cudd â chymhellion: dyma adolygiadau sy’n cuddio’r ffaith iddynt gael cymhellion (er enghraifft, peidio â gwneud yn glir bod adolygiad wedi’i ysgrifennu yn gyfnewid am arian neu fuddion eraill, fel arhosiad am ddim mewn gwesty neu ‘anrheg am ddim’ arall)
  • gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug neu gamarweiniol: mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gyfun (pan gesglir gwybodaeth o lawer o adolygiadau unigol i roi un sgôr neu radd gyffredinol) sy’n seiliedig ar adolygiadau ffug

I bwy mae’r canllaw hwn yn berthnasol

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i chi os ydych chi’n fasnachwr sydd:

  • yn cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr neu wybodaeth adolygiadau defnyddwyr, gan gynnwys am fasnachwyr eraill a’u cynhyrchion
  • yn cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr neu wybodaeth adolygiadau defnyddwyr o unrhyw ffynhonnell, gan gynnwys os ydych chi’n cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr neu wybodaeth adolygiadau defnyddwyr a gasglwyd yn wreiddiol gan rywun arall

Rydych chi’n gyfrifol am unrhyw fformatau cyhoeddi rydych chi’n eu defnyddio. Gallai’r rhain gynnwys:

  • gwefannau
  • cyfryngau cymdeithasol
  • gwasanaethau chwilio
  • marchnadoedd ar-lein
  • safleoedd adolygu arbenigol
  • llwyfannau argymhellion masnachwyr
  • cyhoeddiadau print

Atal a chael gwared ar gynnwys gwaharddedig

Mae’r gyfraith ar adolygiadau ffug yn berthnasol i bob masnachwr sy’n cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr neu wybodaeth adolygiadau defnyddwyr. Ond mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn ymarferol yn dibynnu ar ffactorau fel ffynhonnell yr adolygiadau, nifer yr adolygiadau rydych chi’n eu cyhoeddi a’r risg o adolygiadau ffug yn cael eu cyfrannu.

Mae pob masnachwr unigol sy’n cyhoeddi adolygiadau a gwybodaeth am adolygiadau yn gyfrifol am atal a chymryd camau i ddileu cynnwys gwaharddedig (sef adolygiadau ffug, adolygiadau cudd â chymhellion a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug neu gamarweiniol).

Os yw trydydd parti hefyd yn darparu mynediad at yr adolygiadau neu’r wybodaeth yma, maen nhw hefyd yn gyfrifol am hyn a rhaid iddyn nhw gymryd camau i gydymffurfio â’r gyfraith.

Gallwch wneud cytundebau gyda thrydydd parti i fonitro adolygiadau a gwybodaeth, ond rydych chi’n dal yn gyfrifol am gymryd eich camau eich hun i atal a chael gwared ar gynnwys gwaharddedig.

Camau y mae angen i gyhoeddwyr eu cymryd

Os byddwch chi’n cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr neu wybodaeth adolygiadau defnyddwyr, mae angen i chi gymryd camau rhesymol a chymesur i atal a chael gwared ar adolygiadau ffug, adolygiadau cudd â chymhellion a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug neu gamarweiniol rhag cael eu cyhoeddi.

Dylech sicrhau bod gennych eich gweithdrefnau eich hun ar gyfer gwneud hyn.

Dylech gael polisi wedi’i gyhoeddi sy’n gwahardd adolygiadau ffug yn glir. Dylai eich polisi hefyd nodi eich dull o ymdrin ag adolygiadau â chymhellion a gwybodaeth am adolygiadau defnyddwyr.

Yn ogystal, mae yna sawl cam y bydd angen i chi eu cymryd yn ôl pob tebyg i:

  • ganfod adolygiadau gwaharddedig a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug / camarweiniol
  • ymchwilio i adolygiadau gwaharddedig a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug / camarweiniol
  • cymryd camau mewn ymateb i adolygiadau gwaharddedig a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug / camarweiniol. Gallai hyn gynnwys gosod sancsiynau lle bo’n briodol (er enghraifft, rhoi rhybuddion clir ar dudalennau neu wahardd defnyddwyr: cyhoeddir rhestr lawnach o sancsiynau yn y canllawiau llawn)

Mae angen i chi gymryd camau rhesymol a chymesur yn ôl yr angen i atal/dileu cynnwys gwaharddedig er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith.

Bydd angen i chi ystyried:

Polisïau y mae’n rhaid i chi eu cyhoeddi

Dylai pob masnachwr sy’n cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr neu wybodaeth adolygiadau defnyddwyr gyhoeddi polisïau sy’n gwahardd adolygiadau ffug yn glir. Dylai’r polisïau hyn hefyd gadarnhau dull y cyhoeddwr o ymdrin â gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ac adolygiadau â chymhellion.

Cwblhau asesiad risg

Rhaid i chi asesu’r risg o gyhoeddi cynnwys gwaharddedig mewn cynnwys rydych chi’n ei reoli.

Dylai eich asesiad risg:

  • asesu’r risgiau y gallai defnyddwyr wynebu adolygiadau gwaharddedig a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug / camarweiniol ar eich cyfryngau
  • nodi mesurau priodol i fynd i’r afael â’r risgiau hynny’n effeithiol
  • ystyried tystiolaeth a gwybodaeth berthnasol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • eich gweithdrefnau adnabod eich hun
    • pryderon a godwyd gan ddefnyddwyr ac eraill
    • canfyddiadau ymchwiliadau neu werthusiadau mewnol a gynhaliwch

Nid ymarfer untro yw asesu’r risg: dylech wneud hynny’n rheolaidd, ac yn enwedig os ydych chi’n bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i’r ffordd rydych chi’n gweithredu a allai gynyddu’r risg o wybodaeth waharddedig yn codi.

Prosesau y mae’n rhaid i chi eu cael ar waith

Yn ogystal â chyhoeddi’r polisïau gofynnol ac asesu’r risgiau, rhaid i chi ddylunio prosesau sy’n eich helpu i:

  • ganfod adolygiadau gwaharddedig a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug neu gamarweiniol, ac atal y rhain rhag cael eu cyhoeddi yn y lle cyntaf
  • ymchwilio i adolygiadau gwaharddedig a amheuir a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug neu gamarweiniol
  • cymryd camau mewn ymateb i adolygiadau gwaharddedig a gwybodaeth adolygiadau defnyddwyr ffug neu gamarweiniol i gael gwared ar y cynnwys hwn a lleihau’r risg y bydd yn ailymddangos

Dylech asesu’n rheolaidd pa mor effeithiol yw eich prosesau ar gyfer atal a dileu adolygiadau. Dylai’r prosesau hyn ymateb i unrhyw risgiau neu fygythiadau sy’n dod i’r amlwg a welwch.

Penderfynu beth sy’n rhesymol ar gyfer eich amgylchiadau

Dylech gael polisïau a gweithdrefnau ar waith sy’n seiliedig ar eich amgylchiadau unigol.

Bydd yr hyn sy’n rhesymol i’ch busnes yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos ac ar yr hyn sy’n gymesur â’r angen i atal y deunydd gwaharddedig yn effeithiol, a’i ddileu o’r cyhoeddiad.

Mae ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu beth sy’n rhesymol ac yn gymesur yn cynnwys:

  • y cymhellion a’r cyfleoedd sydd gan bobl i bostio cynnwys ffug yn yr ardal benodol rydych chi’n gweithredu ynddi
  • ffynhonnell yr adolygiadau defnyddwyr neu’r wybodaeth adolygiadau defnyddwyr rydych chi’n eu cyhoeddi, fel a all defnyddwyr gyhoeddi’n uniongyrchol ar eich gwefan, neu a ydynt yn cael eu cyhoeddi gyntaf ar wefan a reolir gan rywun arall
  • yr ymarferoldeb ar eich gwefan ar gyfer rhannu neu hyrwyddo adolygiadau
  • y math o gynnwys rydych chi’n ei ddangos i ddefnyddwyr
  • effaith bosibl y gweithgarwch ar y masnachwyr sy’n cael eu hadolygu
  • unrhyw risgiau ychwanegol sy’n deillio o effaith neu effaith bosibl adolygiadau gwaharddedig ar wybodaeth gyfun adolygiadau defnyddwyr