Guidance

Tribiwnlysoedd cyflogaeth: y dyfarniad T426

Updated 5 February 2024

Cyflwyniad

Cysylltwch â swyddfa tribiwnlys neu’r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid os hoffech gael copi o’r cyhoeddiad hwn mewn fformat gwahanol.

  • Cymru a Lloegr: 0300 323 0196
  • Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176
  • Yr Alban: 0300 790 6234

Mae dyfarniadau a gyflwynir ar bartion o fis Chwefror 2017 yn cael eu cyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein.

Canllawiau’r Llywyddion

Dan Reolau’r Tribiwnlys Cyflogaeth, gall Llywyddion y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr a’r Alban gyhoeddi Canllawiau. Nod y canllawiau hynny yw gwella cysondeb o ran y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rheoli achosion a galluogi’r partïon i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn i’w ddisgwyl gan y tribiwnlys. Nid ydynt yn orfodol ond dylid eu dilyn lle bo hynny’n bosib.

Darllenwch y canllawiau a gyhoeddwyd gan y ddau Lywydd

Cyhoeddi Dyfarniadau Tribiwnlysoedd Cyflogaeth

Mae Rheoliad 14(1) Rheoliadau’r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cyfansoddiad a Rheolau Trefniadaeth) (S.I. 2013/1237) (y Rheoliadau) yn mynnu bod yr Arglwydd Ganghellor yn cadw cofrestr o’r holl ddyfarniadau (yn cynnwys rhesymau ysgrifenedig) a gyhoeddir gan Dribiwnlysoedd Cyflogaeth. Mae cynnwys y gofrestr ar gael yn agored i’r cyhoedd ei archwilio.

Rhaid cyhoeddi’r mwyafrif llethol o ddyfarniadau a roir i bartïon ar y gofrestr.

Eglurir Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (y Rheolau) yn Atodlen 1 y Rheoliadau. Mae gan Dribiwnlys Cyflogaeth rym, o dan Reol 50 i wneud gorchymyn gyda golwg ar rwystro neu gyfyngu ar ddadlennu unrhyw agwedd ar achos mewn tribiwnlys i’r cyhoedd ond ni all wneud y cyfryw orchymyn oni byddir yn cwrdd ag un neu ragor o amodau llym iawn. (Dyry Rheol 50 ragor o fanylion am yr amodau hyn.)

O dan Reol 50 gall Tribiwnlys Cyflogaeth wneud gorchymyn sy’n gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei gyhoeddi yn y gofrestr. Gall hyn gynnwys gorchymyn sy’n atal datgelu enw un neu ragor o unigolion y cyfeirir atynt yn y dyfarniad, er enghraifft. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am orchymyn o dan Reol 50 wneud hynny cyn gynted ag y gellir yn yr achos tribiwnlys. Gellir gwneud unrhyw gais o’r math hwn yn ysgrifenedig neu mewn unrhyw wrandawiad.

Sut allaf i herio dyfarniad y tribiwnlys?

Gellir newid dyfarniadau Tribiwnlys Cyflogaeth dim ond:

  • os yw’r tribiwnlys yn penderfynu, ar gais naill barti neu ar ei liwt ei hun i ailystyried y dyfarniad; neu
  • ar ôl apêl gan un o’r partïon (gweler isod)

Sut allaf i ofyn i’r tribiwnlys ailystyried y dyfarniad?

Gallwch wneud cais i’r tribiwnlys i ofyn iddo ailystyried dyfarniad. Wrth ailystyried y penderfyniad gwreiddiol, gellir ei gadarnhau, ei amrywio neu ei ddiddymu. Os bydd y dyfarniad yn cael ei ddiddymu efallai bydd y penderfyniad yn cael ei wneud eto.

Gallwch wneud cais i’r dyfarniad gael ei ailystyried ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu cyn pen 14 diwrnod o’r dyddiad cafodd y dyfarniad ei anfon atoch gan y tribiwnlys neu cyn pen 14 diwrnod o’r dyddiad cafodd y rhesymau ysgrifenedig eu hanfon (os yn ddiweddarach). Rhaid i’ch cais i ailystyried dyfarniad fod yn gais ysgrifenedig a rhaid ei gopïo i’r holl bartïon eraill oni bai y gwneir y cais yn ystod y gwrandawiad. Gall Barnwr Cyflogaeth ymestyn y terfyn amser ar gyfer gwneud cais i ailystyried dyfarniad.

Yn eich cais, rhaid i chi esbonio pam y byddai ailystyried y penderfyniad gwreiddiol er budd cyfiawnder. Ystyrir eich cais gan y Barnwr Cyflogaeth a wrandawodd yr achos, a all wrthod y cais os ydyw’n credu nad oes siawns rhesymol y bydd y dyfarniad yn cael ei amrywio neu ei ddiddymu.

Os nad yw’r cais yn cael ei wrthod, bydd yn cael ei anfon at y partïon eraill, ac fe ofynnir am eu safbwyntiau am p’un a all y Barnwr ddelio â’r cais heb gynnal gwrandawiad. Unwaith y bydd ymatebion yn cael eu derbyn, bydd y Barnwr yn penderfynu p’un a yw eich cais i ailystyried y dyfarniad angen gwrandawiad ai peidio. Os ydyw, byddwch yn cael gwybod pryd a lle i fynychu maes o law.

Bydd Tribiwnlys dim ond yn ailystyried dyfarniad pan fo’n angenrheidiol i wneud hynny er budd cyfiawnder.

Nid yw er budd cyfiawnder yn golygu y bydd dyfarniad neu benderfyniad yn cael ei ailystyried dim ond oherwydd eich bod yn anghytuno ag ef. Mae’n rhaid bod rhywbeth wedi mynd o’i le yn y gwrandawiad neu mewn perthynas â’r gwrandawiad, neu fod rhywbeth wedi digwydd ers y gwrandawiad sy’n gwneud y dyfarniad neu’r penderfyniad yn anghyfiawn. Os ydych yn gwneud cais i ailystyried yn seiliedig ar dystiolaeth newydd, rhaid i chi esbonio pam nad oedd y dystiolaeth ar gael ynghynt a chynnwys datganiad llawn o’r dystiolaeth rydych chi eisiau ei chyflwyno. Mae gan y tribiwnlys y pŵer i wrthod i ailystyried y dyfarniad, ei gadarnhau, ei amrywio neu ei ddiddymu. Nid yw cais i ailystyried yn newid y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl a gallwch apelio tra byddwch yn aros am ganlyniad y cais.

Sut allaf i apelio yn erbyn dyfarniad y tribiwnlys?

Os ydych yn credu bod y tribiwnlys wedi dod i ddyfarniad anghywir oherwydd ei fod wedi gwneud gwall cyfreithiol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth (EAT).

Gall sail yr apêl fod fel a ganlyn:

  • y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad wrth gymhwyso’r gyfraith; neu
  • y dyfarniad yn un na fyddai’r un tribiwnlys rhesymol wedi gallu’i roi

Gellir dod o hyd i ragor o arweinid am sut i gyflwyno apêl yn y daflen T440 ‘Rwyf eisiau apelio i’r Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth a’r Datganiad Ymarfer: Hysbysiadau o Apêl a Dadleuon Fframwaith.

Gallwch gael ffurflen apelio gan:

Y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
Second Floor
Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
Llundain
EC4Y 8AE

Neu, yn Yr Alban, gan:

Y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr apêl, dylech eu cyfeirio at Gofrestrydd y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth. Hefyd, gallwch gael ffurflenni apêl a gwybodaeth gyffredinol am y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth, a sut i apelio ar GOV.UK.

Rhaid i chi anfon copi o unrhyw hawliad ac ymateb, dyfarniad y tribiwnlys a’r rhesymau ysgrifenedig dros y dyfarniad gyda’ch hysbysiad o apêl, neu esboniad ynghylch pam nad yw unrhyw ddogfen goll wedi’i chynnwys. Gweler yr adran ar dudalen 4 os ydych yn dymuno gofyn am resymau ysgrifenedig am y dyfarniad.

Rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o apêl ddilys i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth yn:

Second Floor
Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
Llundain
EC4Y 8AE

Neu, yn Yr Alban, yn:

Y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH

Mae’r amserlen yn gaeth iawn ar gyfer gwneud unrhyw apêl, ac mae’n rhaid cadw ati.

Os yw’r dyfarniad yn cynnwys rhesymau ysgrifenedig, rhaid i chi apelio cyn pen 42 diwrnod i’r dyddiad y cafodd y dyfarniad ei anfon atoch.

Os nad yw’r dyfarniad yn cynnwys rhesymau ysgrifenedig, dylech ofyn amdanynt gan y Tribiwnlys cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad cafodd y dyfarniad ei anfon atoch, a rhaid i chi wedyn apelio cyn pen 42 diwrnod o’r dyddiad yr anfonwyd y rhesymau ysgrifenedig atoch.

Os nad yw’r dyfarniad yn cynnwys rhesymau ysgrifenedig ac nid ydych yn gwneud cais amdanynt cyn pen 14 diwrnod o’r dyddiad cafodd y dyfarniad ei anfon atoch, yna mae’n rhaid i chi apelio cyn pen 42 diwrnod i’r dyddiad y cafodd y dyfarniad ei anfon atoch, gydag esboniad o pam nad ydych wedi gofyn am resymau ysgrifenedig.

Er enghraifft, os mai dydd Mercher oedd y diwrnod hwn, rhaid i chi gyflwyno eich apêl i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth erbyn 4pm fan bellaf ar y dydd Mercher 42 diwrnod (chwe wythnos) yn ddiweddarach. Mae’n rhaid i chi apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (nid swyddfa’r tribiwnlys) mewn da bryd cyn diwedd y cyfnod o 42 diwrnod, yn enwedig os byddwch yn anfon eich hysbysiad am apêl trwy’r post rhag ofn y bydd y gwasanaeth post yn araf.

Os na fyddwch wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth o fewn saith niwrnod i bostio’r hysbysiad am apêl, dylech gysylltu â’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth i gadarnhau eu bod wedi cael eich apêl.

Yng Nghymru a Lloegr, ffoniwch 020 7273 1041, ffacs 01264 785 028 neu anfonwch e-bost i Londoneat@justice.gov.uk

Yn Yr Alban, ffoniwch 0131 225 3963, ffacs 01264 785 030 neu anfonwch e-bost i Edinburgheat@justice.gov.uk

Y berthynas rhwng y cais i ailystyried a’r apêl

Nid yw cais i ailystyried yn newid nac yn ymestyn y terfyn amser 42 diwrnod ar gyfer apelio. Os ydych yn gwneud cais i’r tribiwnlys ailystyried ei ddyfarniad, gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth. Rhaid i chi hefyd gyflwyno copi o’r cais i ailystyried i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth ac, os yw cais o’r fath wedi’i wrando a bod penderfyniad wedi’i wneud yn ei gylch, dylech hefyd gyflwyno copi o ddyfarniad y tribiwnlys ar y cais i ailystyried.

Pan fyddwch wedi apelio, efallai y bydd y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth am weld dogfennau neu arddangosion eraill a gyflwynwyd fel tystiolaeth yn y gwrandawiad.

Mae’r tribiwnlys fel arfer yn dinistrio ffeiliau flwyddyn ar ôl anfon y dyfarniad at yr unigolion perthnasol, ond, os oes apêl, bydd y ffeil yn cael ei chadw’n hirach.

Gofyn am resymau ysgrifenedig dros y dyfarniad

Dylech wneud cais am resymau ysgrifenedig dros eich dyfarniad yn y gwrandawiad neu cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad y cafodd y dyfarniad ei anfon i’r partïon. Dylai’r cais hwn gael ei wneud i’r swyddfa tribiwnlys a anfonodd y dyfarniad.

Cyngor cyfreithiol (ar apeliadau) a chynrychiolaeth gyfreithiol

Yn ddibynnol ar eich sefyllfa ariannol, efallai y gallwch gael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim neu am bris gostyngol am apeliadau ac ailystyried dyfarniadau. Efallai hefyd y gallwch gael cynrychiolaeth yn rhad ac am ddim neu yn rhatach ar gyfer apêl gerbron y Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth.

Bydd angen i chi ddangos:

  • na allwch, ar sail prawf o’ch incwm a’ch cynilion, fforddio i dalu am gynrychiolaeth eich hun; a
  • bod eich cais yn ddigon cryf fel y gellir cyfiawnhau talu am eich cynrychiolaeth gydag arian cyhoeddus

Yng Nghymru a Lloegr

Os yw eich achos yn ymwneud â gwahaniaethu yn y gwaith, gallech fod yn gymwys i gael cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim.

Ewch i www.gov.uk/legal-aid i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â’r gwasanaeth Cymorth Cyfreithiol Sifil ar 0345 345 4345.

Yn yr Alban

Mae cymorth cyfreithiol ar gael os ydych yn bodloni rhai amodau penodol. Os oes gennych gwestiynau am gyngor neu gymorth cyfreithiol, cysylltwch â chyfreithiwr neu â:

Bwrdd Cymorth Cyfreithiol Yr Alban
Thistle House
91 Haymarket Terrace
Caeredin
EH12 5HE

Ffôn: 0131 226 7061

I gael gwybod mwy am ddefnyddio arian cyhoeddus i dalu am wasanaethau cyfreithiol, ewch i wefan Bwrdd Cymorth Cyfreithiol Yr Alban.

Beth i’w wneud os nad ydych wedi cael yr arian y mae’r tribiwnlys wedi’i ddyfarnu i chi

Nid yw Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn gyfrifol am orfodi’r dyfarniadau y maent yn eu gwneud. Os na fyddwch yn cael yr arian y mae’r tribiwnlys wedi’i ddyfarnu ichi, bydd angen i chi ddefnyddio un o’r dulliau gorfodi sydd ar gael.

Gallwch roi gwybod i swyddog cosbau, ac efallai y bydd yn gallu cyflwyno Hysbysiad o Gosb ar yr atebydd. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael llys i’w gorfodi i dalu. Ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw un o’r uchod, os yw’r atebydd wedi apelio, neu ar fin gwneud hynny.

Hysbysu’r Swyddog Cosbau

Os nad yw’r atebydd wedi talu’ch dyfarniad, gallwch gysylltu â’r swyddog cosbau a fydd yn cyflwyno Hysbysiad o Rybudd iddo i’w hysbysu y gallai fod yn rhaid iddo dalu Cosb Ariannol i’r Llywodraeth. Mae hyn yn ychwanegol at y dyfarniad sy’n ddyledus i chi. Os anwybyddir yr Hysbysiad o Rybudd ac os na fydd y dyfarniad yn cael ei dalu, gall y swyddog cosbau dyroddi cosb ariannol i’r atebydd.

Gallwch hysbysebu’r swyddog cosbau trwy e-bostio etpenalties@businessandtrade.gov.uk neu lenwi’r Ffurflen Gorfod Cosbau.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth.

Os yw’r dyfarniad yn parhau i fod heb ei dalu, gallwch wneud cais i’r llys i’w gorfodi i dalu.

Yng Nghymru a Lloegr mae’r llwybr gorfodi yn digwydd trwy’r llys sirol, fodd bynnag, gallwch ddefnyddio cynllun Trac Cyflym y Tribiwnlys Cyflogaeth i’ch cynorthwyo. Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i chi gael Swyddog Gorfodi’r Uchel Lys (HCEO) yn rhan o’ch achos cyn gynted ag y bydd yr atebydd wedi methu â gwneud taliad yn unol â chyfarwyddyd y Tribiwnlys. Yn dilyn ei benodiad bydd yr HCEO yn cychwyn achos gorfodi yn y llys sirol ar eich rhan. Gellir dod o hyd i fanylion a gofynion y cynllun yng nghyhoeddiad EX727 sydd ar gael gan eich llys sirol lleol.

Un o ofynion cynllun Trac Cyflym y Tribiwnlys Cyflogaeth yw bod yr hysbysiad gwreiddiol o’r dyfarniad yn cael ei ffeilio gyda’r llys. Os oes angen copi ardystiedig o’r dyfarniad arnoch, gallwch gael un yn rhad ac am ddim trwy wneud cais i swyddfa’r Tribiwnlys sy’n delio gyda’ch achos.

Bydd yr HCEO yn cyhoeddi gwrit ar eich rhan a fydd yn caniatáu iddo gipio a gwerthu nwyddau’r atebydd os na cheir arian. Fodd bynnag, os fyddai’n well gennych ddefnyddio dull gorfodi gwahanol neu beidio â defnyddio’r cynllun Trac Cyflym, yna gellir cael ffurflen N322B gan eich llys sirol lleol. Byddai hefyd yn egluro’r opsiynau sydd gennych.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am wneud cais i’r Tribiwnlys Cyflogaeth.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cydymffurfio â dyfarniad y tribiwnlys

Rhaid ichi gydymffurfio â dyfarniad y tribiwnlys. Os ydych wedi cael gorchymyn i wneud taliad i’r parti/partïon eraill a’ch bod methu â gwneud hynny o fewn yr amserlen, yna efallai y cewch gosb ariannol a bydd y canlyniadau a ganlyn yn berthnasol:

Os ydych yn atebydd yng Nghymru a Lloegr:

  • Gellir cychwyn camau gorfodi yn eich erbyn am y swm sy’n ddyledus yn y llys sirol neu yn yr Uchel Lys
  • Bydd yr holl ddulliau gorfodi drwy’r Llysoedd ar gael i’r parti/partïon eraill (gan gynnwys gorchymyn atafaelu, methdaliad ac ansolfedd)
  • Os cymerir camau gorfodi yn eich erbyn, bydd y llys sirol neu’r Uchel Lys lle cymerir y camau hyn yn darparu manylion canlynol y dyfarniad i Ymddiriedolaethy Gofrestrfa Cyf., a bydd y manylion yn cael eu cofnodi’n awtomatig yn y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion, Dirwyon a Phenderfyniadau Tribiwnlysoedd:
    • eich enw llawn
    • eich cyfeiriad
    • eich dyddiad geni (os yw’n hysbys)
    • swm y dyfarniad
    • rhif yr achos
  • Mae’r gofrestr hon yn cael ei chadw gan Ymddiriedolaeth y Gofrestrfa Cyf. Gall aelodau o’r cyhoedd chwilio drwy’r Gofrestr hon ac mae banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau credyd yn aml yn ei harchwilio pan fyddant yn ystyried ceisiadau am gredyd a chamau gweithredu eraill
  • Unwaith y byddant wedi’u cofnodi, bydd eich manylion personol a manylion eich dyled yn cael eu cadw ar y gofrestr hon am gyfnod o chwe blynedd, ond bai ei bod yn cael ei thalu o fewn mis o gael ei chofrestru

Os ydych yn atebydd yn Yr Alban

Bydd Swyddog Siryf yn gallu gorfodi dyfarniad Tribiwnlys Cyflogaeth yn yr un modd a phetai’n ddyfarniad terfynol Llys y Siryf. Bydd Swyddog Siryf yn cymryd y camau sy’n briodol dan yr amgylchiadau i orfodi’r broses o dalu’r dyfarniad ac, os bydd popeth arall yn methu, mater i’r credydwr fydd gwneud cais i’r llys i secwestru’r dyledwr (ei ddyfarnu’n fethdalwr).

Cofiwch y bydd unrhyw gamau gorfodi yn arwain at ragor o gostau. Bydd y rhain yn cael eu hychwanegu at y swm sy’n ddyledus, sef y swm y byddwch chi’n gyfrifol amdano.

Cosbau ariannol

Bydd gan y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth bŵer, pan fo hawliad wedi cael ei wneud ar ôl 6 Ebrill 2014, i orchymyn bod atebydd sydd wedi bod yn aflwyddiannus mewn achos yn talu cosb ariannol hyd at £5,000, os yw’n ystyried bod ‘un neu fwy o nodweddion gwaethygol’ pan dorrodd y cyflogwr hawliau cyflogaeth yr hawlydd. Pennir isafswm unrhyw gosb yn £100.

Os bydd cosb ariannol wedi’i gorchymyn yn erbyn atebydd, bydd y gosb ariannol yn daladwy i’r Ysgrifennydd Gwladol ac nid i’r hawlydd.

Bydd Asiantaeth Casglu Dyledion, sydd wedi’i phenodi gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, yn cysylltu â chi i egluro’r broses talu.

Os bydd y cyflogwr yn talu’r gosb o fewn 21 diwrnod, bydd y swm sy’n daladwy yn cael ei haneru.

Gorfodi gorchmynion ar gyfer ailbenodi, ailgyflogi ac argymhellion

Os yw’r tribiwnlys wedi gorchymyn bod eich cyflogwr yn naill ai eich ailbenodi neu eich ailgyflogi neu, mewn achos gwahaniaethu, wedi gwneud argymhelliad, ac nad yw’r gorchymyn na’r argymhelliad wedi cael ei ddilyn, dylech ysgrifennu at swyddfa’r tribiwnlys sy’n delio â’ch achos. Rhaid ichi wneud hyn cyn gynted ag y bydd y dyddiad i’ch cyflogwr gydymffurfio â’r gorchymyn wedi pasio. Bydd y tribiwnlys wedyn yn trefnu gwrandawiad arall gerbron yr un tribiwnlys a gall orchymyn bod eich cyflogwr yn talu iawndal ychwanegol ichi.

Taliadau dileu swydd a thaliadau eraill a chyflogwyr ansolfedd

Os yw’r tribiwnlys wedi penderfynu bod gennych hawl i gael taliad dileu swydd a’ch bod yn cael anhawster i gael eich cyngyflogwr i’ch talu, neu cafwyd dyfarniad am gyflog heb ei thalu, tâl gwyliau, taliad am gyfnod o rybudd neu daliad gwarant a bod eich cyflogwr yn methu talu, dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Taliadau Dileu Swydd.

Llinell gymorth taliadau dileu swydd.

Rhif ffôn: 0330 331 0020 Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.

Swyddfeydd tribiwnlysoedd cyflogaeth

Aberdeen

Ground floor, AB1
48 Huntly Street
Aberdeen
AB10 1SH

Ffôn. 01224 593 137
E-bost: aberdeenet@justice.gov.uk

Bryste

Bristol Civil and Family Justice Centre
2 Redcliff Street
Bryste
BS1 6GR

Ffôn: 0117 929 8261
E-bost: bristolet@justice.gov.uk

Dundee

Ground Floor
Endeavour House
Greenmarket
Dundee
DD1 4BZ

Ffôn: 01382 221578
E-bost: dundeeet@justice.gov.uk

Dwyrain Llundain

2nd Floor, Import Building
2 Clove Crescent
London
E14 2BE

Ffôn: 020 7538 6161
E-bost: eastlondon@justice.gov.uk

Caeredin

54-56 Melville Street
Caeredin
EH3 7HF

Ffôn: 0131 226 5584
E-bost: edinburghet@justice.gov.uk

Glasgow

The Glasgow Tribunals Centre
20 York Street
Glasgow
G2 8GT

Ffôn: 0141 204 0730
E-bost: glasgowet@justice.gov.uk

Leeds

West Gate
6 Grace Street
Leeds
LS1 2RP

Ffôn: 0113 245 9741
E-bost: leedset@justice.gov.uk

Canol Llundain

Victory House
30-34 Kingsway
Llundain
WC2B 6EX

Ffôn: 020 7273 8603
E-bost: londoncentralet@justice.gov.uk

De Llundain

Montague Court
101 London Road
West Croydon
CR0 2RF

Ffôn: 020 8667 9131
E-bost: londonsouthet@justice.gov.uk

Manceinion

Alexandra House
14-22 The Parsonage
Manceinion
M3 2JA

Ffôn: 0161 833 6100
E-bost: manchesteret@justice.gov.uk

Canolbarth Lloegr (Dwyrain)

Nottingham Justice Centre
Carrington Street
Nottingham
NG2 1EE

Ffôn: 0115 947 5701
E-bost: midlandseastet@justice.gov.uk

Canolbarth Lloegr (Gorllewin)

Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UU

Ffôn: 0121 600 7780
E-bost: midlandswestet@justice.gov.uk

Newcastle

Newcastle Civil Family Courts and Tribunal Centre
Barras Bridge
Newcastle Upon Tyne
NE1 8QF

Ffôn: 0191 2058750
E-bost: newcastleet@justice.gov.uk

Cymru

Llys Ynadon Caerdydd a’r Fro
Plas Fitzalan
Caerdydd
De Cymru
CF24 0RZ

Ffôn: 029 2067 8100
E-bost: waleset@justice.gov.uk

Watford

3rd Floor
Radius House
51 Clarendon Rd
Watford
WD17 1HP

Ffôn: 01923 281 750
E-bost: watfordet@justice.gov.uk

Mae ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan 5.00 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Byddwn yn eich cyfeirio at fap sy’n dangos lleoliad y swyddfa lle mae’r gwrandawiad wedi’i drefnu.