Post-legislative scrutiny of the Domestic Abuse Act 2021 (Welsh) (accessible)
Updated 15 June 2026
Memorandwm i’r Pwyllgor Materion Cartref a Phwyllgor Deddf Cam-drin Domestig 2021
Gwaith Craffu ar ôl Deddfu ar Ddeddf Cam-drin Domestig 2021
Cyflwynwyd i Senedd y DU gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref drwy Orchymyn Ei Fawrhydi
Ebrill 2026
CP 1575
Cyflwyniad
Mae’r memorandwm hwn yn rhoi asesiad o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (y “Ddeddf”) ers iddi gael Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2021, gan gynnwys y broses o’i rhoi ar waith a’i heffaith. Fe’i paratowyd gan y Swyddfa Gartref i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Materion Cartref a Phwyllgor Deddf Cam-drin Domestig 2021 Fe’i cyhoeddir yn unol â’r ddogfen ganllaw sydd ar gael ar GOV.UK.[footnote 1]
Wrth ddatblygu’r asesiad o dan y memorandwm hwn, adolygodd y Llywodraeth yr adborth a’r dystiolaeth a gasglwyd wrth roi pob adran ar waith. Gwahoddodd y Llywodraeth hefyd nifer o randdeiliaid i gyflwyno myfyrdodau ysgrifenedig ar y broses o roi’r Ddeddf ar waith er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu’r memorandwm hwn. Roedd y gweithgarwch ymgysylltu hwn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Gomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr; y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru; y sector cam-drin domestig; y gweinyddiaethau datganoledig; partneriaid plismona; Gwasanaeth Erlyn y Goron; a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi.
Rhoddwyd cyfle pellach i’r gwledydd datganoledig a phartneriaid statudol adolygu’r asesiad yn llawn. Drwy gydol yr asesiad, mae’r safbwyntiau a rannwyd yn uniongyrchol â’r Llywodraeth wedi cael eu hadlewyrchu. Pan fydd ymchwil, data cyhoeddus, neu werthusiadau yn cael eu cynnwys, rydym wedi cynnwys cyfeiriadau priodol.
Mae’r Ddeddf yn rhan o fframwaith ehangach y Llywodraeth i ymdrin â cham-drin domestig. Ers i’r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol, mae’r Llywodraeth wedi amlinellu cyfres o ymrwymiadau pellach drwy Tackling Violence Against Women and Girls Strategy (2021); Tackling Domestic Abuse Action Plan (2022); ac ym mis Rhagfyr 2025, drwy gyhoeddi Freedom from Violence and Abuse: a cross-government strategy to build a safer society for women and girls (y cyfeirir ati fel y “Strategaeth VAWG”). Mae’r strategaeth fwyaf diweddar yn adlewyrchu uchelgais llywodraeth gyfan i haneru Trais yn Erbyn Menywod a Merched, gan gynnwys cam-drin domestig, o fewn degawd. Cefnogir yr uchelgais hon gan gynllun gweithredu cynhwysfawr sy’n cyflwyno 259 o ymrwymiadau.
Amcanion Deddf Cam-drin Domestig 2021
Pasiwyd y Ddeddf mewn ymateb i gyffredinrwydd mynych cam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr. Bwriad y Ddeddf oedd rhoi fframwaith cliriach a chadarnach drwy wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin domestig a’i effaith ar ddioddefwyr, cryfhau effeithiolrwydd y system gyfiawnder o ran amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig, dwyn cyflawnwyr i gyfrif, a gwella’r cymorth a roddir i oedolion a phlant sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Mae’r memorandwm hwn yn ystyried i ba raddau mae’r Ddeddf wedi cyflawni’r amcanion hyn yn ymarferol ers ei chychwyn.
Cadarnhaodd y Ddeddf ddiffiniad statudol o gam-drin domestig, a oedd yn adnabod yr amrywiaeth eang o ymddygiadau camdriniol ac yn cydnabod plant yn benodol fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Creodd swyddfa annibynnol y Comisiynydd Cam-drin Domestig i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, dwyn cyrff statudol a’r Llywodraeth i gyfrif, rhannu arfer gorau, a monitro’r cymorth a gynigir i ddioddefwyr. Gwnaeth y Ddeddf hefyd gyflwyno mesurau amddiffyn sifil newydd i’w gwneud yn bosibl i ymyrryd yn gynharach ac mewn ffordd fwy hyblyg; gosod dyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol haen un i ddarparu cymorth ar ffurf llety diogel i ddioddefwyr a’u plant; a chryfhau mesurau amddiffyn i ddioddefwyr yn y systemau troseddol, teuluol a chyfiawnder. Gwnaeth ehangu ar droseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig a’u hatgyfnerthu, a chyflwyno nifer o ddarpariaethau atodol a oedd â’r nod o wella diogelwch dioddefwyr, rheoli troseddwyr, a sicrhau cydlyniaeth systemig.
Rhychwant tiriogaethol
Mae’r Ddeddf yn rhychwantu Cymru a Lloegr yn bennaf ac mae’n ategu’r fframwaith presennol yng Nghymru, o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Fodd bynnag, mae rhai darpariaethau yn rhychwantu rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac maent yn gymwys ynddynt. Manylir isod ar y ffordd y mae rhychwant tiriogaethol y Ddeddf a’i chymhwyso yn amrywio:
- Mae adrannau 57 i 61 (cymorth awdurdodau lleol), adran 78 (digartrefedd: dioddefwyr cam-drin domestig), adran 79 (tenantiaethau diogel a roddir i ddioddefwyr cam-drin domestig) ac adran 83 (canolfannau cyswllt) yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac ond yn gymwys i Loegr.
- Mae’r darpariaethau yn Rhan 2 o Atodlen 2 yn rhychwantu’r Alban ac ond yn gymwys yn yr Alban, ac mae’r rhai yn adran 73 a Rhan 3 o Atodlen 3 yn rhychwantu Gogledd Iwerddon ac ond yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon.
- Mae adrannau 81 ac 82 (prosesu data at ddibenion mewnfudo) yn rhychwantu Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac maent yn gymwys i Gymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ceir tabl cryno yn nodi rhychwant tiriogaethol darpariaethau’r Ddeddf a’r ffordd y cânt eu cymhwyso yn Atodiad A.
Nododd y Gyfarwyddiaeth Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru nifer o ddarpariaethau Deddf Cam-drin Domestig 2021 sy’n ymestyn i Gymru ac mae wedi rhoi sylwadau ar adrannau penodol o dan yr asesiadau perthnasol.
Er bod Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn rhan bwysig o’r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru, mae’n rhaid deall y ffordd y mae’n gweithredu yng nghyd-destun cyfrifoldebau datganoledig a’r fframwaith statudol presennol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Yn ymarferol, mae’r broses gyflawni yng Nghymru wedi’i llywio gan strategaeth, modelau comisiynu a dyletswyddau sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru, sy’n wahanol i Loegr.
Mae’r Adran Gyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon a Chyfarwyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth yr Alban yn nodi bod y darpariaethau yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 sy’n cwmpasu’r Alban a Gogledd Iwerddon yn rhai gweithdrefnol eu natur ar y cyfan.[footnote 2] Maent yn ymwneud yn bennaf ag awdurdodaeth alltiriogaethol a chydnabyddiaeth drawsawdurdodaethol a gorfodi achosion o dorri Gorchmynion Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig.
Nid yw’r darpariaethau hyn yn sefydlu fframwaith cam-drin domestig o sylwedd i Ogledd Iwerddon na’r Alban. Yn hytrach, maent yn cefnogi cydlyniaeth rhwng awdurdodaethau, yn enwedig lle mae achosion yn cynnwys elfen drawsffiniol. Nodir dull gweithredu deddfwriaethol Gogledd Iwerddon ei hun yn Neddf Cam-drin Domestig ac Achosion Sifil (Gogledd Iwerddon) 2021 a nodir dull gweithredu deddfwriaethol yr Alban ei hun yn Neddf Cam-drin Domestig (Yr Alban) 2018.
Nododd y Gyfarwyddiaeth Cymunedau a Chyfiawnder Cymdeithasol yng Nghymru, Cyfarwyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth yr Alban a’r Adran Gyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon fod cryn ymgysylltu â swyddogion, ac â Chynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd Cymru a Senedd yr Alban wedi digwydd wrth i’r Ddeddf gael ei datblygu.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig, ynghyd â phartneriaid gweithredol, er mwyn dysgu oddi wrth ei gilydd a sicrhau bod troseddau, cosbau, gorchmynion amddiffyn a darpariaethau cysylltiedig eraill yn gweithredu ochr yn ochr â’i gilydd ac yn gyson rhwng ein rhanbarthau.
Cychwyn
Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2021. Yn unol ag adran 90 o’r Ddeddf, daeth ei darpariaethau i rym mewn camau drwy gyfres o reoliadau cychwyn, a oedd yn adlewyrchu’r gwaith paratoi gweithredol a gweinyddol yr oedd ei angen i’w rhoi ar waith mewn sawl sector.
Daeth y darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf Cam-drin Domestig Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2021:
- Adran 71 – Cydsynio i niwed difrifol er pleser rhywiol yn peidio â bod yn amddiffyniad.
- Adran 75 – Strategaeth ar gyfer erlyn a rheoli troseddwyr.
- Adran 83 – Adrodd ar y defnydd o ganolfannau cyswllt yn Lloegr.
- Adran 85-86 – Pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol neu drosiannol.
- Adrannau 87-91 – Darpariaethau terfynol.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 29 Mehefin 2021:
- Adran 69 – Bygythiadau i ddatgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gyda’r bwriad o achos trallod.
- Adran 72 – Troseddau yn erbyn y person a gyflawnir y tu allan i’r DU: Cymru a Lloegr.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 5 Gorffennaf 2021
- Adran 76 – Amodau polygraff ar gyfer troseddwyr a ryddheir ar drwydded.
- Adran 78 – Digartrefedd: dioddefwyr cam-drin domestig.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 29 Gorffennaf 2021
- Adran 74 Is-adran (1) a (2) – Diwygiadau sy’n ymwneud â throseddau a gyflawnir y tu allan i’r DU, Cymru/Lloegr a’r Alban.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 1 Hydref 2021:
- Adrannau 1 a 2 – Diffiniad statudol o gam-drin domestig.
- Adrannau 57-61 – Dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol haen un yn Lloegr i roi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a’u plant mewn llety diogel.
- Adran 63 – Mesurau arbennig yn y llys teulu.
- Adran 80 – Gwaharddiad ar godi tâl am ddarparu tystiolaeth feddygol o gam-drin domestig.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 1 Tachwedd 2021:
- Adrannau 4-21 – Sefydlu’r Comisiynydd Cam-drin Domestig.
- Adran 79 – Rhoi tenantiaethau diogel mewn achosion o gam-drin domestig.
- Adran 84 – Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i roi canllawiau ynglŷn â cham-drin domestig.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 29 Rhagfyr 2021:
- Adran 81 – Adolygiad o brosesu data personol dioddefwyr at ddibenion mewnfudo.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 31 Ionawr 2022.
- Adran 3 – Plant fel dioddefwyr cam-drin domestig.
Cychwynnodd y darpariaethau yn ystod gwanwyn a haf 2022:
- Adran 73 – Troseddau yn erbyn y person a gyflawnir y tu allan i’r DU: Gogledd Iwerddon (21 Chwefror 2022).
- Adran 74 – Is-adran (3) – Diwygiadau sy’n ymwneud â throseddau a gyflawnir y tu allan i’r DU, Gogledd Iwerddon (21 Chwefror 2022).
- Adran 62 – Mesurau arbennig mewn achosion troseddol ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig (a gychwynnodd yn rhannol ar 19 Mai 2022).
- Adran 67 – Y defnydd o orchmynion a wneir o dan adran 91(14) o Ddeddf Plant 1989 (19 Mai 2022).
- Adran 70 – Trosedd newydd tagu neu fygu (7 Mehefin 2022).
- Adran 64 – Mesurau arbennig yn yr achosion sifil: dioddefwyr cam-drin domestig (14 Mehefin 2022).
- Adrannau 65 a 66 – Gwahardd cyflawnwyr cam-drin domestig rhag croesholi eu dioddefwyr yn bersonol ac fel arall mewn achosion teuluol a sifil o dan amgylchiadau penodol yng Nghymru a Lloegr (21 Gorffennaf 2022).
Cychwynnodd y darpariaethau ar 5 Ebrill 2023:
- Adran 77 – Canllawiau ynglŷn â datgelu gwybodaeth gan heddluoedd (Cynllun Datgelu Trais Domestig).
- Adran 68 – Ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol.
- Adran 82 – Cod ymarfer ar rannu data ar ddioddefwyr cam-drin domestig at ddibenion mewnfudo.
Cychwynnodd y darpariaethau ar 7 Tachwedd 2025:
- Adran 49A, a fewnosodwyd gan Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024 – Trefniadau i hysbysu ysgolion os amheuir bod plentyn yn ddioddefwr cam-drin domestig.
Nid yw’r darpariaethau wedi eu cychwyn yn llawn eto:
- Adrannau 22-56 – Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig. Mae’r darpariaethau hyn wedi cael eu cychwyn ar sail cynllun peilot ar 27 Tachwedd 2024, a bydd y cynlluniau peilot yn para yn ystod 2026. Nid yw proses gychwyn genedlaethol lawn wedi digwydd eto.
- Adran 49B, a fewnosodwyd gan Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024 – Nid yw’r pŵer i estyn adran 49A i ddarparwyr gofal plant mewn grym.
RHAN 1: Diffiniad o gam-drin domestig (Adrannau 1-3)
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn cynnwys tair adran sydd, ar y cyd, yn rhoi fframwaith penodol i adnabod cam-drin domestig ac ymdrin ag ef. Mae’r adrannau hyn hefyd yn sicrhau dealltwriaeth glir o bwy sy’n ddioddefwr, neu gyflawnwr, cam-drin domestig.
Caiff Rhan 1 ei hasesu o safbwynt dwy elfen:
- Adrannau 1 a 2 – sy’n diffinio cam-drin domestig a phersonol gysylltiedig.
- Adran 3 – sy’n diffinio plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain.
Adran 1-2 – Diffiniadau o ‘cam-drin domestig’ a ‘personol gysylltiedig’
Cyflwyniad
Diben a bwriad adrannau 1 a 2 yw egluro o dan ba amgylchiadau mae ymddygiad o’r fath yn gam-drin domestig. Mae’r adrannau hyn yn anelu at roi diffiniad clir a chynhwysfawr o gam-drin domestig, er mwyn sicrhau bod y fframwaith cyfreithiol yn adnabod ac yn ymdrin â phob math o gam-drin.
Mae adran 1 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn cyflwyno diffiniad statudol o “cam-drin domestig” at ddiben y Ddeddf. Mae is-adrannau (2)(a) yn darparu bod yn rhaid i’r person sy’n cyflawni’r ymddygiad a’r person y mae’r ymddygiad wedi’i anelu ato fod dros 16 oed a bod yn rhaid iddynt fod yn bersonol gysylltiedig (fel y’i diffiniwyd yn adran 2.
Mae hefyd yn diffinio’r hyn sy’n gyfystyr ag ymddygiad camdriniol. Mae is-adrannau (2)(b) a (3) yn nodi’r mathau o ymddygiad a fyddai’n gyfystyr â cham-drin domestig, pe bai’r meini prawf yn (2)(a) yn cael eu bodloni. Y pum ymddygiad yw: cam-drin corfforol neu rywiol, ymddygiad treisgar neu fygythiol, ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol, cam-drin economaidd a cham-drin seicolegol, emosiynol neu fath arall o gam-drin. Mae adran 1(4) yn diffinio, am y tro cyntaf yng nghyd-destun cam-drin domestig, gam-drin economaidd fel unrhyw ymddygiad sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar allu dioddefwr i gaffael, defnyddio neu gadw arian neu eiddo arall, neu gael nwyddau neu wasanaethau.
Mae adran 2 yn diffinio’r term “personol gysylltiedig” at ddibenion y meini prawf ynglŷn â pherthynas yn adran 1(2)(a). Mae adran 2(1) yn nodi’r gwahanol fathau o berthynas a fyddai’n gwneud y camdriniwr a’r sawl sy’n cael ei gam-drin yn bersonol gysylltiedig pe bai unrhyw un o’r canlynol yn gymwys:
(a) they are, or have been, married to each other;
(b) they are, or have been, civil partners of each other;
(c) they have agreed to marry one another (whether or not the agreement has been terminated);
(d) they have entered into a civil partnership agreement (whether or not the agreement has been terminated);
(e) they are, or have been, in an intimate personal relationship with each other;
(f) they each have, or there has been a time when they each have had, a parental relationship in relation to the same child (as a parent, or parental responsibility, for the child);
(g) they are relatives.
Nid yw’r rhan uchod ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
Mae adran 2(3) yn diffinio “perthynas” drwy gyfeirio at y diffiniad o dan adran 63(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, sef: (a) the father, mother, stepfather, stepmother, son, daughter, stepson, stepdaughter, grandmother, grandfather, grandson or granddaughter of that person or of that person’s spouse, former spouse, civil partner or former civil partner, or; (b) the brother, sister, uncle, aunt, niece, nephew or first cousin (whether of the full blood or of the half blood or by marriage or civil partnership) of that person or of that person’s spouse, former spouse, civil partner or former civil partner; and includes, in relation to a person who is cohabiting or has cohabited with another person, any person who would fall within paragraph (a) or (b) if the parties were married to each other or were civil partners of each other.
Nid yw’r rhan uchod ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adrannau 1 a 2 o’r Ddeddf i rym ar 5 Gorffennaf 2021 at y dibenion canlynol yn unig:
- Adrannau 75 (strategaeth ar gyfer erlyn a rheoli troseddwyr), 76 (amodau polygraff ar gyfer troseddwyr a ryddheir ar drwydded) ac 83 (adrodd ar y defnydd o ganolfannau cyswllt yn Lloegr) o’r Ddeddf.
- Adrannau 177 (pa un a yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety), 179 (dyletswydd awdurdod tai lleol yn Lloegr i ddarparu gwasanaethau cynghori), 189 (angen blaenoriaethol am lety), a 198 (atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall) o Ddeddf Tai 1996(1) ac erthygl 6 o Orchymyn Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol am Lety) (Lloegr) 2002(2).
I’r graddau nad oeddent eisoes mewn grym, daeth adrannau 1 a 2 i rym ar 1 Hydref 2021.
Asesiad
Mae adrannau 1 a 2, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a phartneriaid plismona, yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth.
Cyflwynodd adrannau 1 a 2 ddiffiniad statudol trawslywodraethol o “cam-drin domestig” a “personol gysylltiedig”. Mae hyn wedi creu fframwaith clir a dealltwriaeth o’r hyn sy’n gyfystyr â cham-drin domestig ar gyfer y system cyfiawnder troseddol a sifil, yn ogystal ag asiantaethau sy’n gweithredu oddi mewn i’r system a’r tu allan iddi. Mae’r adrannau hyn yn bwysig am eu bod yn sail i’r Ddeddf ehangach ac yn sicrhau bod dioddefwyr cam-drin domestig yn cael eu hadnabod a’u hamddiffyn. Mae adran 1 hefyd yn cydnabod yn benodol y gellir cydnabod plant 16 a 17 oed fel dioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin domestig. O ganlyniad, mae pobl ifanc 16 a 17 oed bellach yn cael gwell mynediad at wasanaethau cymorth ac yn cael eu hystyried yn well o fewn y system cyfiawnder troseddol, gydag ymarfer sy’n ystyriol o drawma cryfach a gwell dealltwriaeth gyffredinol o achosion o gam-drin domestig ymhlith yr heddlu, erlynwyr, y llysoedd a gwasanaethau cymorth.
Ym marn Gwasanaeth Erlyn y Goron mae’r diffiniad yn gweithredu’n unol â’r bwriad yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, megis y rhai lle mae cam-drin ar sail anrhydedd yn bresennol lle y gall ymddygiad niweidiol gynnwys rhwydweithiau teuluol neu gymunedol estynedig, nid yw cam-drin wedi cael ei gipio’n llwyr gan y mathau o berthynas a ragnodwyd o dan y Ddeddf. Ond, ar wahân i’r drosedd ynglŷn ag ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol, nid yw’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn creu troseddau sy’n unigryw i gam-drin domestig. Mae hyn yn golygu y gellir erlyn cam-drin domestig drwy amrywiaeth eang o droseddau yn seiliedig ar yr ymddygiad dan sylw, nad yw’n gofyn i erlynwyr nodi unrhyw gysylltiad personol. Felly, nid yw hyn yn cyfyngu ar erlyniadau. Mae’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru yn cefnogi barn Gwasanaeth Erlyn y Goron ac mae wedi codi’r pwynt bod diffyg dealltwriaeth ac eglurder ynghylch cyflawni teuluol ehangach hefyd yn golygu na chaiff nifer sylweddol o droseddau yn erbyn pobl hŷn eu hadnabod na’u canfod ac nad yw cyfiawnder yn cael ei sicrhau.
Mae partneriaid plismona wedi nodi bod y diffiniad statudol o gam-drin domestig yn eang yn fwriadol, sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o fathau o berthynas a niweidiau y tu hwnt i drais corfforol – emosiynol, seicolegol, economaidd, ac ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol. Fodd bynnag, wrth gymhwyso’r diffiniad hwn at ddynameg mathau cyfoes o berthynas mae heriau yn codi. Gall sefyllfaoedd gynnwys perthynas nad yw’n berthynas rywiol agos neu sy’n berthynas o natur rywiol gyfyngedig, rhyngweithio ar-lein yn unig, neu berthynas a ffurfiwyd drwy lwyfannau caru, y gall pob un ohonynt fod yn anodd i’w categoreiddio’n gyson. Mae ymchwil gan Brifysgol Fetropolitanaidd Llundain fel rhan o Brosiect Bright Light, yn dangos bod y seilwaith cam-drin domestig presennol (gan gynnwys Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig) yn canolbwyntio’n bennaf ar gam-drin gan bartner neu gyn-bartner personol. Ond mae cam-drin yn y teulu yn aml yn gofyn am ymatebion gwahanol, gyda llawer o ddioddefwyr yn dewis peidio ag ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol.[footnote 3] Ond dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r canfyddiadau hyn, o ystyried nad yw Heddlu Avon a Gwlad yr Haf, sef yr heddlu sy’n ymgymryd â Phrosiect Bright Light, yn defnyddio Asesiad Risg Cam-drin Domestig (y prif adnodd asesu risg a ddefnyddir gan swyddogion ymateb cyntaf yr heddlu), ac nid oes gan yr heddlu dimau cam-drin domestig penodedig.
Mae adran 1 a 2 wedi cael derbyniad da gan y sector cam-drin domestig, sydd wedi nodi bod mwy o gam-drin domestig yn cael ei adnabod. Fodd bynnag, cododd y pwynt bod bylchau unigol a sefydliadol o hyd yn y ddealltwriaeth o gam-drin domestig, yn enwedig ar gyfer rhai carfannau o ddioddefwyr, megis dioddefwyr LHDT+, dioddefwyr hŷn, a grwpiau Du ac ethnig leiafrifol eraill. Rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r bylchau hyn drwy ddiweddariad o’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig, rydym yn anelu at eu cyhoeddi yn 2026. Gwnawn hyn ochr yn ochr â’r broses barhaus o roi Strategaeth VAWG ar waith, sy’n ymrwymo i nifer o gamau gweithredu i wella dealltwriaeth o gam-drin domestig ymhlith cyrff statudol, yn bennaf drwy ei hymrwymiad i sicrhau newid diwylliannol drwy Ganolfan Genedlaethol newydd y Llywodraeth ar gyfer VAWG ac Amddiffyn y Cyhoedd (NCVPP).
Mae adran 1(4) yn cyflwyno’r term “cam-drin economaidd”. Bu hyn yn allweddol wrth sicrhau bod dioddefwyr sy’n profi cam-drin economaidd yn cael eu hamddiffyn yn well. Mae hyn yn cynnwys manteision cael eu hamddiffyn drwy Orchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig er enghraifft, yn ogystal â chydnabyddiaeth gynyddol o gam-drin economaidd mewn cyrff statudol drwy’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig. At hynny, ers 2022 mae’r Swyddfa Gartref wedi darparu £767,000 o gyllid i Surviving Economic Abuse i gryfhau ymateb systemau ariannol i gam-drin economaidd. Mae’r sector gwasanaethau ariannol hefyd wedi cryfhau ei ymateb i gam-drin economaidd. Yn 2025, cyhoeddodd Cyllid y DU y Cod Cam-drin Ariannol ar ei newydd wedd sy’n adlewyrchu mwy o gydnabyddiaeth o gam-drin economaidd yn y diwydiant cyllid. Fodd bynnag, rydym ar ddeall bod angen o hyd i gyrff statudol ddeall cam-drin economaidd yn well, gan gynnwys drwy asesiadau o risgiau ac anghenion dioddefwyr. Gan edrych i’r dyfodol, ymrwymodd Strategaeth VAWG a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gymryd camau pellach i fynd i’r afael â cham-drin economaidd. Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynnwys cael gwared ar y math o wasanaeth Tâl Uniongyrchol er mwyn atal y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant rhag cael ei ddefnyddio fel dull o gam-drin, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny; treialu Ffurflen Tystiolaeth o Gam-drin Economaidd o 2025, er mwyn helpu dioddefwyr a goroeswyr y mae arnynt ddyled i’r Llywodraeth i ddatgelu eu hamgylchiadau; a sicrhau bod ffeiliau credyd dioddefwyr a goroeswyr yn adlewyrchu dyled dan orfodaeth ac yn ymdrin â hi’n gywir, yn unol â’r ymrwymiadau yn y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.
Adran 3 – Plant fel dioddefwyr
Cyflwyniad
Bwriad adran 3 yw sicrhau bod plant yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain ac yn cael ymateb priodol gan wasanaethau statudol. Cyflwynodd adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 gydnabyddiaeth gyfreithiol o blant (o dan 18 oed) sy’n gweld, yn clywed, neu’n profi effeithiau cam-drin domestig fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain lle mae’r dioddefwr, neu’r cyflawnwr, yn perthyn i’r plentyn, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto. Mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag sydd yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989 ac mae i “perthynas” yr ystyr a roddwyd gan adran 63(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.
Fel mater o gyfraith, mae’r adran ond yn trin plant fel dioddefwyr cam-drin domestig at ddibenion y darpariaethau annibynnol yn y Ddeddf. Nid yw’r adran yn gymwys mewn perthynas â diwygiadau a wnaed gan y Ddeddf i ddeddfiadau eraill, nac i gyfeiriadau mewn mannau eraill mewn deddfwriaeth at ddioddefwyr cam-drin domestig. Ystyrir bod unrhyw achos o gam-drin plant o dan 16 oed, yn unol â’r diffiniad statudol cyfredol o gam-drin domestig, yn achos o gam-drin plant fel mater o gyfraith.
Rhoi’r adran ar waith
Ar 1 Hydref 2021, daeth adran 3 (plant fel dioddefwyr cam-drin domestig) i rym at ddibenion adran 63 (mesurau arbennig mewn achosion teuluol: dioddefwyr cam-drin domestig) a Rhan 4 (cymorth awdurdodau lleol).
Ymdrinnir â’r asesiad o’r broses o roi adran 3 ar waith yn yr adrannau perthnasol.
Ar 1 Tachwedd 2021, daeth adran 3 i rym at ddibenion adran 79 (rhoi tenantiaethau diogel mewn achosion o gam-drin domestig). Ymdrinnir â’r asesiad o’r broses o roi adran 3 ar waith yn yr asesiad o adran 79.
I’r graddau nad oedd eisoes mewn grym, daeth adran 3 i rym yn llawn ar 31 Ionawr 2022.
Mae adran 3 hefyd yn cefnogi adran 49A (trefniadau i hysbysu ysgolion etc), a ddaeth i rym ar 7 Tachwedd 2025.
Asesiad
Mae adran 3, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron , y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a phartneriaid plismona, yn gam sylweddol o ran cydnabod profiadau plant a sicrhau lle canolog i’w lleisiau. Mae adran 3 wedi arwain at well arferion i gefnogi plant a gwell dealltwriaeth gyffredinol o achosion o gam-drin domestig ymhlith cyrff statudol. Fodd bynnag, yn unol â’r adborth cyson gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig, Comisiynydd Plant Lloegr, asiantaethau statudol, a gweithwyr proffesiynol rheng flaen yn y trydydd sector, mae adran 3 yn aml yn cael ei deall neu ei chymhwyso mewn ffordd anghyson ac nid yw wedi gwireddu’r uchelgais lawn yn ôl y bwriad.
Mae’r broses o roi’r ddeddfwriaeth ar waith i gydnabod plant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain wedi cael ei hasesu’n dda yn yr adroddiad Multi-agency response to children who are victims of domestic abuse ym mis Ionawr 2026 gan Ofsted, y Comisiwn Ansawdd Gofal, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF ac Arolygiaeth Prawf EF.[footnote 4] Yn seiliedig ar y cyd-arolygiad o chwe ardal leol, canfu’r adroddiad fod ffocws cynyddol ar y ffordd y mae’r heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd, adddysg a gofal cymdeithasol plant yn ymateb pan fydd plant yn ddioddefwyr cam-drin domestig. Er gwaethaf y newidiadau mewn deddfwriaeth drwy’r Ddeddf, nid yw arweinwyr strategol lleol yn cydnabod anghenion plant sy’n ddioddefwyr yn llawn.
Yng Nghymru, darperir y cyfrifoldeb i ddiogelu plant gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Fodd bynnag, mae adran 3 yn dal i fod yn gymwys i Gymru ac mae’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru wedi codi’r pwynt bod effaith adran 3 yng Nghymru yn adlewyrchu’r hyn a welir yn Lloegr ac nad yw’r ymateb i blant fel dioddefwyr yn ddibynadwy nac yn gyson eto.
Nododd y Comisiynydd Cam-drin Domestig hefyd nad yw’r prif fetrig yn Strategaeth VAWG, a ddefnyddir i fesur llwyddiant yr ymrwymiad i haneru VAWG, yn cipio profiadau plant o dan 16 oed. Fodd bynnag, mae hyn o ganlyniad i ddiffyg data cadarn ar nifer y plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Mae hyn yn llesteirio ein gallu i fesur mewn ffordd ddibynadwy unrhyw newid mewn niferoedd dros gyfnod y Strategaeth VAWG.
Mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig hefyd wedi nodi nad yw canllawiau ar wahân ynglŷn â sut y dylai adran 3 fod yn gymwys yn ymarferol wedi cael eu cyhoeddi. At hynny, nid yw asesiadau bob amser yn cydnabod plant yn briodol. Er enghraifft, mae’r sector cam-drin domestig wedi codi’r pwynt nad yw’r ffactorau asesu a ddefnyddir gan weithwyr cymdeithasol i gofnodi’r risg o gam-drin domestig yn cael eu defnyddio’n gyson i gofnodi plant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Fodd bynnag, mae’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig, a gyhoeddwyd o dan adran 84 o’r Ddeddf, yn cynnwys adran ar gydnabod plant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru yn 2026 a byddant yn cynnwys adran gryfach ar anghenion ac ystyriaethau ar gyfer plant. At hynny, mae’r fersiwn wedi’i diweddaru o’r Canllawiau Statudol ar Weithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2026 yn cyfeirio at blant fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain drwy’r cyfan.[footnote 5] Ochr yn ochr â hyn, mae’r Adran Addysg wrthi’n adolygu’r ffactorau asesu hyn a ddefnyddir gan weithwyr cymdeithasol i wella sut y gallant adnabod plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.
Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd y Comisiynydd Cam-drin Domestig yr adroddiad Victims in their own right?, a archwiliodd yr ymatebion i brofiadau babanod, plant a phobl ifanc o gam-drin domestig.[footnote 6] Nododd yr adroddiad sawl anghysondeb, y ffaith nad oedd fawr ddim buddsoddiad i gefnogi plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt, a diffyg darpariaeth gwasanaethau arbenigol. Gwnaeth 66 o argymhellion ym maes atal, ymyrryd yn gynnar a chymorth er mwyn sbarduno gwelliannau a rhoi adran 3 ar waith yn ymarferol. Nododd ymateb y Llywodraeth ddiwygiadau nodedig a fydd yn ceisio ymdrin â’r pryderon a godwyd gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig.[footnote 7] Mae hyn yn cynnwys:
(a). diwygio Cymorth i Deuluoedd ac amddiffyn plant a chyflwyno arferion gorau ar raddfa addas drwy’r rhaglen Partneriaeth Teuluoedd yn Gyntaf gwerth £2.4bn sydd â ffocws ar ymyrryd yn gynnar i fynd i’r afael ag anghenion a risgiau i deuluoedd, gan gynnwys ymateb i gam-drin domestig
(b). diweddaru’r cwricwlwm Addysg Cydberthynas, Rhyw ac Iechyd i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i feithrin cydberthnasau cadarnhaol ac adnabod ymddygiad camdriniol
(c). cryfhau sgiliau a galluoedd gweithwyr cymdeithasol i blant a theuluoedd er mwyn iddynt nodi cam-drin domestig ac ymdrin ag ef, gan gynnwys ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol, drwy raglen Sefydlu Gwaith Cymdeithasol newydd ei chyllido
(d). rhoi dyletswydd newydd ar waith i rannu gwybodaeth sy’n rhoi sail gyfreithlon glir dros rannu gwybodaeth at ddibenion diogeu a hyrwyddo lles, gan gynnwys mewn ymateb i gam-drin domestig.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi codi’r pwynt mai dim ond pan fydd y diffiniad statudol o gam-drin domestig (Rhan 1 o’r Ddeddf) yn gymwys, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ddau barti fod yn 16 oed neu’n hŷn, y bydd y terfyn amser cyhuddo dwy flynedd estynedig ar gyfer ymosod cyffredin yn gymwys. Mae achosion sy’n ymwneud â dioddefwyr iau yn mynd yn ôl i’r terfyn chwe mis safonol; mae hyn yn golygu na ellir cyhuddo ynglŷn â’r un ymddygiad oherwydd oedran y dioddefwr yn unig. Ni all y rhai o dan 16 oed ddibynnu ar adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 (ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol) am fod y drosedd hon wedi’i chyfyngu’n benodol drwy statud i achosion lle mae’r dioddefwr yn 16 oed neu’n hŷn. Mae hyn yn golygu nad yw troseddau yn adlewyrchu profiad dioddefwr yn ei arddegau o gam-drin yn ei gyfanrwydd. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ychwanegu ‘marciwr cam-drin domestig’ at achosion unigol ar ei System Rheoli Achosion ar gyfer pob math o ymddygiad cam-drin domestig, ni waeth beth yw oedran y dioddefwr neu’r sawl a amheuir. Ochr yn ochr â hyn, nododd y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru fod angen data ar ymddygiadau cyn 16 oed, er mwyn cael deall ac atal y gamdriniaeth a ddioddefwyd gan bobl ifanc 16-18 oed. Mae’r Swyddfa Gartref wrthi’n cynnal adolygiad cwmpasu o’r terfyn oedran yn y diffiniad statudol o gam-drin domestig er mwyn gwella’r ymateb i brofiadau plant o gam-drin domestig, gan gynnwys camdriniaeth yn ystod perthynas rhwng pobl ifanc yn eu harddegau. Daw hwn i ben yn 2026.
RHAN 2 – Y Comisiynydd Cam-drin Domestig (Adrannau 4-21)
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn cynnwys 18 o adrannau i gyd, ac mae’r darpariaethau hynny, ar y cyd, yn sefydlu rôl, swyddfa, a phwerau’r Comisiynydd Cam-drin Domestig.
Caiff Rhan 2 ei hasesu o safbwynt dwy elfen:
- Adrannau 4-6; 11-14; 19; ac 21 – sy’n ymwneud â rôl a threfniadau llywodraethu’r Comisiynydd.
- Adrannau 7-10; 15-18; ac 20 – sy’n ymwneud â phwerau a swyddogaethau’r Comisiynydd.
Adrannau 4-6; 11-14; 19; ac 21 – Sefydlu Rôl y Comisiynydd Cam-drin Domestig a’i Llywodraethu Corfforaethol
Cyflwyniad
Bwriad adrannau 4-6 ac 11-14 yw (i) sefydlu swyddfa a rôl Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr fel deiliad swydd annibynnol sydd â diben craidd o wella’r ymateb i gam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr.[footnote 8] Nod y rôl yw rhoi arweinyddiaeth, craffu, a llais cryf i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig; (ii) sicrhau y gall y Comisiynydd Cam-drin Domestig gyflawni ei swyddogaethau’n annibynnol gydag adnoddau a threfniadau llywodraethu priodol; a (iii) sicrhau bod y Comisiynydd Cam-drin Domestig yn gweithredu o fewn fframwaith clir o atebolrwydd a thryloywder, drwy ddogfen fframwaith statudol, cynlluniau strategol ac adroddiadau blynyddol a osodir gerbron Senedd y DU, gyda disgwyliadau y byddant yn gymwys i gyrff cyhoeddus.
Mae adran 4 yn darparu ar gyfer sefydlu’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, fel deiliad swydd statudol annibynnol a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Cefnogir y ddarpariaeth greiddiol honno gan gyfres o drefniadau llywodraethu a gweithredol cysylltiedig:
- mae adran 5 yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyllido’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a’i swyddfa, gan gynnwys talu cydnabyddiaeth a lwfansau, gan sicrhau bod y swyddfa yn cael yr adnoddau i gyflawni ei swyddogaethau statudol.
- mae adran 6 yn darparu ar gyfer staffio swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig. Mae’n pennu mai gweision sifil sy’n cael eu secondio i swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig fydd y staff. (Gallant fod yn weision sifil eisoes neu’n weision sifil sydd wedi cael eu recriwtio’n benodol at y diben.) Cyflogir staff sy’n gweithio i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig gan y Swyddfa Gartref yn unol â thelerau, amodau, ac arferion recriwtio’r Gwasanaeth Sifil. Fodd bynnag, mae penodiadau unigol yn amodol ar gymeradwyaeth y Comisiynydd Cam-drin Domestig, sy’n adlewyrchu annibyniaeth weithredol fwriadedig y rôl.
- mae adran 11 yn ategu adrannau 4-6 drwy ei gwneud yn ofynnol i ddogfen fframwaith statudol gael ei sefydlu, sy’n llywodraethu’r berthynas rhwng y Comisiynydd Cam-drin Domestig a’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r ddogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, cyllido a staffio swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a materion sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau, a thrwy hynny’n rhoi dull strwythuredig o gydbwyso annibyniaeth ag atebolrwydd.
Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig sefydlu Bwrdd Cynghorol, a fydd yn rhoi cyngor i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ar arfer ei swyddogaethau.
Mae adran 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig baratoi cynllun strategol i roi gwybodaeth am ei flaenoriaethau, ei raglen waith yn y dyfodol, a’r materion y mae’n bwriadu cyflwyno adroddiadau arnynt, i Senedd y DU, gweinidogion a’r cyhoedd. Rhaid i’r cynllun hwn ymwneud â chyfnod nad yw’n llai na blwyddyn ac nad yw’n fwy na thair blynedd.
Mae adran 14 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig baratoi adroddiad blynyddol ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol a’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae adran 19 yn cyfyngu ar arfer swyddogaethau’r Comisiynydd Cam-drin Domestig mewn perthynas ag achosion unigol, gan ddarparu na chaiff y Comisiynydd Cam-drin Domestig ymyrryd nac arfer unrhyw swyddogaeth mewn achos unigol. Fodd bynnag, mae is-adran (2) yn ei gwneud yn eglur nad yw’r cyfyngiad hwn yn atal y Comisiynydd Cam-drin Domestig rhag ystyried achosion unigol a dod i gasgliadau yn eu cylch, er mwyn nodi neu ddeall materion cyffredinol ar lefel genedlaethol, ar yr amod nad yw’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn ymyrryd yn yr achosion hynny.
Mae adran 21 yn gwneud tri diwygiad canlyniadol i ddeddfiadau eraill mewn cysylltiad â sefydlu rôl y Comisiynydd Cam-drin Domestig. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaeth na chaiff y Comisiynydd Cam-drin Domestig fod yn Aelod Seneddol, a diwygiadau i sicrhau bod y Comisiynydd o fewn cwmpas Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae is-adran (3) hefyd yn diwygio swyddogaethau craffu Senedd Cymru gan ei galluogi i graffu ar waith y Comisiynydd Cam-drin Domestig i’r graddau y mae’n ymwneud â Chymru, gan gynnwys pan fydd y Comisiynydd Cam-drin Domestig yn ymgynghori neu’n cydweithredu ag awdurdodau Cymreig datganoledig, sefydliadau gwirfoddol a phersonau eraill yng Nghymru, neu’n datgelu gwybodaeth i awdurdod Cymreig datganoledig.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adrannau 4-6; 11-14; 19; ac 21 i rym ar 1 Tachwedd 2021.
Penodwyd y Comisiynydd Cam-drin Domestig cyntaf (y Fonesig Nicole Jacobs) fel darpar Gomisiynydd ym mis Medi 2019 ac ymgymerodd â’i phwerau statudol ar 1 Tachwedd 2021. Ar 18 Gorffennaf 2022, cyhoeddwyd bod y Fonesig Nicole Jacobs wedi cael ei hailbenodi am ail dymor, hyd at fis Medi 2025. Ar 5 Rhagfyr 2025, cyhoeddwyd bod y Fonesig Nicole Jacobs wedi cael ei hailbenodi am drydydd tymor, hyd at fis Medi 2028.
Yn unol ag adran 11, cyhoeddwyd y ddogfen Fframwaith sy’n llywodraethu’r berthynas rhwng y Swyddfa Gartref a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (y Comisiynydd) ar 1 Tachwedd 2021 ac fe’i diweddarwyd ar 10 Ionawr 2022.
Yn unol ag adran 12, gwnaeth y Comisiynydd sefydlu a chynnull y Bwrdd Cynghorol cyntaf ar 23 Chwefror 2023 ac mae wedi parhau i gynnull y Bwrdd ers ei sefydlu.
Yn unol ag adran 13, ar 28 Mawrth 2023, cyhoeddodd y Comisiynydd gynllun strategol ar gyfer mis Medi 2022 i fis Medi 2025. Mae’r Comisiynydd wrthi’n datblygu cynllun strategol ar ei newydd wedd ar gyfer y cyfnod nesaf o dair blynedd.
Yn unol ag adran 14, cyhoeddodd y Comisiynydd ei hadroddiad blynyddol cyntaf ym mis Gorffennaf 2023, a oedd yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Disgwylir i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiadau blynyddol yn cwmpasu’r cyfnodau 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024 a 1 Ebrill 2024 – 31 Mawrth 2025 cyn bo hir a bydd yn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar gyfer 1 Ebrill 2025 – 31 Mawrth 2026 ym mis Gorffennaf 2026.
Asesiad
Mae adrannau 4-6 ac adrannau 11-14, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (y Comisiynydd), yn gweithredu yn ôl y bwriad ar y cyfan ac mae rôl y Comisiynydd wedi cael ei sefydlu. Y farn ar y cyd yw bod rôl y Comisiynydd wedi gweithredu fel deiliad swydd statudol annibynnol effeithiol gyda rôl lefel system i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, annog arferion da, a gwella’r gwaith o atal cam-drin domestig ac amddiffyn a chynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig fel sy’n ofynnol o dan adran 4.
Fel y mae’r asesiad o adrannau 7-10 a 15-21 isod yn adlewyrchu, mae’r Comisiynydd wedi ymgysylltu â swyddogion, gweinidogion, cyrff cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ar lefel llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol. Drwy’r gweithgarwch ymgysylltu hwn, mae’r Comisiynydd wedi rhoi gwybodaeth a thystiolaeth arbenigol, ac wedi dylanwadu’n gadarnhaol ar y broses o ddatblygu polisïau, ymarfer gweithredol, a dealltwriaeth system gyfan ymhlith cyrff statudol ac anstatudol fel ei gilydd. Drwy wella’r ddealltwriaeth o gam-drin domestig ac ansawdd ymarfer drwy’r system gyfan, mae’r Comisiynydd wedi gwneud gwahaniaeth hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig.
Mae’r ddogfen fframwaith statudol a sefydlwyd o dan adran 11 yn cefnogi trefniadau llywodraethu, atebolrwydd, annibyniaeth, ac adnoddau’r Comisiynydd. Mae’r Swyddfa Gartref a’r Comisiynydd fel ei gilydd wedi rhoi sylw dyladwy i’r ddogfen hon yn ymarferol. Wrth i’r Fframwaith gael ei ddatblygu i ddechrau, ac wrth i’r fersiwn wedi’i diweddaru a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022 gael ei datblygu, ymgysylltwyd â’r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn unol ag adran 11, is-adrannau (6) a (7). Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Fframwaith. Bwriedir ymgynghori â’r naill a’r llall cyn y trydydd diweddariad yn 2026. Mae’r gweinidogion presennol a blaenorol â chyfrifoldeb am Ddiogelu a VAWG i gyd wedi cyfarfod yn rheolaidd â’r Comisiynydd. Mae’r Swyddfa Gartref wedi arfer ei rôl fel noddwr yn unol â’r ddogfen fframwaith ac wedi sicrhau bod y Comisiynydd yn cyflawni ei swyddogaethau’n effeithiol. Fodd bynnag, mae wedi nodi bod agweddau ar y fframwaith cyfredol wedi cynnwys disgwyliadau gan y Comisiynydd sy’n mynd y tu hwnt i’r swyddogaethau a nodwyd yn y Ddeddf. Mae’r pryderon hyn wedi cael eu cydnabod gan y ddau barti a bwriedir ymdrin â nhw drwy’r trydydd diweddariad ar y ddogfen fframwaith yn unol ag is-adran (5).
Mae’r ddogfen Fframwaith hefyd yn atgyfnerthu gofynion adrannau 5 a 6 drwy nodi prosesau sy’n ymwneud â llywodraethu, cyllido, a staffio. O dan adran 5, mae’r Fframwaith yn nodi’r broses a gynhelir gyda’r Comisiynydd cyn pennu dyraniadau cyllidebol, megis gofyn i’r Comisiynydd fod yn rhan o’r cais am ei gyllideb o dan yr Adolygiad o Wariant cyffredinol. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n penderfynu ar ddyraniadau cyllidol. Mae’n ystyried yr adnoddau sydd eu hangen i alluogi’r Comisiynydd i arfer ei swyddogaethau statudol, cyflwyno ei Chynllun Strategol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cydnabyddiaeth. Ar ôl dyrannu cyllid, caiff y gyllideb ei rheoli o ddydd i ddydd gan y Comisiynydd a’i swyddfa, yn ddarostyngedig i reolaethau gwario ac amodau a bennir gan y Swyddfa Gartref. Mae’r Comisiynydd wedi nodi bod angen i’r deiliad swydd gymryd mwy o ran yn y prosesau sy’n pennu adnoddau cyllidebol a staffio a bod prosesau cymeradwyo ariannol a recriwtio yn y Swyddfa Gartref yn ymyrryd ag annibynniaeth weithredol y Comisiynydd. Er bod y prosesau hyn yn rhoi sicrwydd ynglŷn â gwariant cyhoeddus, mae’r Comisiynydd yn dymuno bod trothwyon o’r fath yn cael eu haddasu i gydnabod annibyniaeth y Comisiynydd. Ymdrinnir â’r pryderon hyn fel rhan o’r diweddariad arfaethedig ar y Fframwaith.
O dan adran 6, mae’r Swyddfa Gartref wedi darparu swyddfa briodol, cyfarpar a chyfleusterau eraill i’r Comisiynydd. O ran staffio, mae’r Comisiynydd yn cymeradwyo pob penodiad i’r swyddfa, ac mae ei swyddfa yn rheoli’r prosesau ynglŷn â manylebau rôl, adolygu ceisiadau a phaneli cyfweld.
Gwneir hyn yn unol ag Egwyddorion Recriwtio’r Gwasanaeth Sifil. Mae staff y swyddfa o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y Comisiynydd o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, cydnabyddir bod rheolaethau recriwtio ehangach y Swyddfa Gartref, ar adegau, wedi cyfyngu ar amseroldeb penderfyniadau staffio. Bwriedir ymdrin â’r mater hwn drwy’r diweddariad nesaf ar y Fframwaith.
Mae adrannau 5, 6, ac 11, gyda’i gilydd, wedi sicrhau bod annibynniaeth wleidyddol a strategol y Comisiynydd wedi cael ei hymgorffori. Mae’r Comisiynydd wedi gallu codi pryderon, a beirniadu polisi’r Llywodraeth yn gyhoeddus ac yn breifat heb ofni curo’n ôl ac mae wedi cael yr adnoddau i gyflawni ei rôl mewn ffordd annibynnol a chredadwy.
Mae Bwrdd Cynghorol y Comisiynydd, o dan adran 12, yn weithredol ac mae’n bodloni’r gofynion statudol o ran ei faint a’i gyfansoddiad. Mae’n cynnwys deg aelod, sydd o fewn y terfyn statudol, sef o leiaf chwe aelod a hyd at ddeg. Mae cynrychiolwyr ar gyfer buddiannau’r carfannau penodol a bennwyd o dan is-adran (4). Mae’r Bwrdd yn gweithredu yn ôl y bwriad, gan roi cyngor arbenigol i’r Comisiynydd a chyfrannu at gynlluniau strategol y Comisiynydd, ond nid yw presenoldeb cynrychiolwyr gofal cymdeithasol wedi bod yn gyson bob amser. Mae’r Comisiynydd hefyd wedi nodi, oherwydd y rhestr ragnodol o aelodau a osodwyd yn y ddeddfwriaeth, ynghyd â’r cyfyngiad o hyd at ddeg person, y caiff y Comisiynydd ei hatal rhag gwahodd cynrychiolaeth o amrywiaeth ehangach o bersonau y byddai hefyd yn briodol iddynt fod yn bresennol i gefnogi amcanion strategol y Comisiynydd. Mae’r Comisiynydd yn lliniaru hyn drwy ymgynghori a chyfarfod ag amrywiaeth eang o randdeiliaid y tu allan i’r Bwrdd Cynghorol.
Yn unol ag adran 13, cyhoeddodd y Comisiynydd ei Chynllun Strategol cyntaf ym mis Mawrth 2023, a oedd yn cwmpasu 2023-2025. Pennodd raglenni gwaith y Comisiynydd yn y dyfodol, gan gynnwys y materion roedd yn bwriadu cyflwyno adroddiadau arnynt, megis y Llys Teulu a phlant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Yn unol ag is-adran (6), cynhaliodd y Comisiynydd y broses ymgynghori briodol â’r Ysgrifennydd Cartref a’r Bwrdd Cynghorol ac mae’n bwriadu gwneud hynny eto ar gyfer yr iteriad nesaf o’r Cynllun Strategol. Gosodwyd y Cynllun gerbron Senedd y DU yn unol ag is-adran (7). Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd baratoi a chyhoeddi Cynllun Strategol newydd cyn diwedd y cyfnod a gwmpesir gan y Cynllun Strategol cyfredol. Daeth y Cynllun blaenorol i ben ym mis Medi 2025, ac mae’r Comisiynydd yn anelu at gyhoeddi ei Chynllun Strategol nesaf erbyn haf 2026. Gellir priodoli’r oedi hwn yn rhannol i Freedom from violence and abuse: a cross-government strategy a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2025, y mae’r Comisiynydd yn dymuno ei hadlewyrchu yn ei Chynllun Strategol nesaf, er mwyn ymdrin â gweithgarwch y Llywodraeth dros y tair blynedd nesaf.
O dan adran 14, cyhoeddodd y Comisiynydd ei hadroddiad blynyddol cyntaf o fewn y terfyn amser disgwyliedig, a oedd yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Fodd bynnag, ers hynny, ni chafodd adroddiadau blynyddol eu cyhoeddi yn unol â’r amserlen ddisgwyliedig ond disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi cyn bo hir. Disgwylir i’r Comisiynydd gyhoeddi ei phedwerydd adroddiad blynyddol o fewn y terfyn amser a ddisgwylir gan y ddeddfwriaeth. Bwriedir i’r diweddariad arfaethedig ar y ddogfen Fframwaith gryfhau sicrwydd ynglŷn â therfynau amser adrodd a chyhoeddi adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.
Mae’r Comisiynydd wedi cydymffurfio ag adran 19 (Cyfyngiad ar ymgysylltu ag achosion unigol) drwy beidio ag arfer swyddogaethau mewn perthynas ag achosion unigol. Mae’r Comisiynydd wedi cyfeirio’n briodol ddioddefwyr sy’n cysylltu â’r swyddfa i gael cymorth gyda gwaith achos at y gwasanaethau priodol. Pan fydd pryderon diogelu eu codi, gall y Comisiynydd hefyd atgyfeirio achosion, yn unol â’i phwerau i rannu gwybodaeth o dan adran 18. Yn gyson ag adran 19(2), mae’r Comisiynydd yn defnyddio achosion unigol i ddatblygu cyngor ac argymhellion fel rhan o’i goruchwyliaeth strategol ac i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif. At hynny, yn unol â’r disgwyliadau a nodwyd yn y Fframwaith, mae’r Comisiynydd hefyd wedi sefydlu Grŵp Dioddefwyr a Goroeswyr er mwyn ymgysylltu â dioddefwyr a goroeswyr. Ym mis Mawrth 2024, lansiodd y Comisiynydd y Llwyfan VOICES, sef llwyfan ymgysylltu rhithwir i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig er mwyn cadw mewn cysylltiad â datblygiadau perthnasol o ran polisi, ymchwil ac ymarfer. Ei nod yw rhoi cyfleoedd i ddioddefwyr a goroeswyr rannu eu profiad er mwyn dylanwadu ar y Llywodraeth a chyrff statudol. Mae Llwyfan VOICES wedi rhoi cyfleoedd amrywiol i gyfrannu at bolisïau, gan gynnwys uwchgynhadledd i oroeswyr yn 2025.
Mae’r Comisiynydd yn gweithredu yn unol ag adran 21, gan gynnwys yr anghymhwysiad statudol rhag bod yn aelod o Dŷ’r Cyffredin; bod wedi’i chwmpasu gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000; ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a phartneriaid pan fydd gwaith y Comisiynydd yn ymwneud â buddiannau Cymru. Ni nodwyd unrhyw bryderon mewn perthynas â gweithredu’r darpariaethau hyn.
Adrannau 7-10;15-18; ac 20 – Swyddogaethau a Phwerau’r Comisiynydd
Cyflwyniad
Bwriad adrannau 7-10; 15-18; ac 20 yw diffinio swyddogaethau, pwerau a chylch gwaith y Comisiynydd o ran darparu goruchwyliaeth annibynnol a hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin domestig. Mae’r adrannau hyn hefyd yn sefydlu’r cyfrifoldebau statudol ar awdurdodau cyhoeddus i ymgysylltu â’r Comisiynydd. Bwriedir i’r adrannau hyn, gyda’i gilydd, sicrhau y gall y Comisiynydd weithredu’n annibynnol ac yn effeithiol, a bod ei chanfyddiadau, ei chasgliadau a’i hargymhellion yn destun ystyriaeth ystyrlon gan y Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus eraill.
Mae adran 7 yn amlinellu swyddogaethau cyffredinol y Comisiynydd. Y swyddogaethau hyn yw annog ymarfer da mewn perthynas ag atal cam-drin domestig; atal a chanfod troseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig, ac ymchwilio iddynt a’u herlyn; adnabod cyflawnwyr, dioddefwyr a phlant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt; ac amddiffyn a chefnogi dioddefwyr.
Mae is-adran (2) yn rhoi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o weithgareddau y gall y Comisiynydd ymgymryd â nhw er mwyn cyflawni ei swyddogaethau cyffredinol, gan gynnwys monitro, asesu a chyhoeddi adroddiad ar berfformiad awdurdodau cyhoeddus. Mae is-adran (3) yn cyfyngu cymhwysiad tiriogaethol agweddau penodol ar swyddogaethau a phwerau’r Comisiynydd i Loegr yn unig, gan gydnabod y cyd-destun datganoledig yng Nghymru a bodolaeth Gweinidogion Cymru a’r ffaith bod awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn arfer swyddogaethau yn y maes polisi hwn.
Mae adran 8 yn rhoi’r pŵer i’r Comisiynydd baratoi adroddiadau ar unrhyw fater sy’n ymwneud â cham-drin domestig a chyflwyno’r adroddiadau hynny i’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae’n ofynnol i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiadau o’r fath a threfnu iddynt gael eu gosod gerbron Senedd y DU. Mae adran 20 yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar yr angen am wasanaethau cam-drin domestig penodol yn Lloegr, a’u darparu.
Roedd yn ofynnol i’r adroddiad gael ei gyhoeddi o fewn 12 mis ar ôl i adran 20 ddod i rym, yn amodol ar estyniad untro o hyd at 6 mis gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 16 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus a restrwyd yn adran 15 a Gweinidog sy’n gyfrifol am un o adrannau gweinidogol y Llywodraeth ymateb i unrhyw argymhellion a gyfeirir at yr awdurdod hwnnw, pan fydd yr argymhellion hynny yn cael eu gwneud mewn adroddiad gan y Comisiynydd o dan adran 8. Mae’n rhaid i ymateb yr awdurdodau cyhoeddus a enwyd i unrhyw argymhellion gael ei gyhoeddi o fewn 56 diwrnod calendr i ddyddiad cyhoeddi adroddiad y Comisiynydd.
Pwerau i’w gwneud yn ofynnol i gydweithredu, derbyn a rhannu gwybodaeth, a rhoi cyngor:
- Mae adran 9 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i ofyn am gyngor neu gymorth gan y Comisiynydd mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â cham-drin domestig.
- Mae adran 10 yn rhoi pwerau deilliadol i’r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn y Comisiynydd i gyflawni ei swyddogaethau fel y’u nodwyd yn adrannau 7 i 9, gyda’r eithriad penodol o fenthyca arian.
- Mae adran 15 yn galluogi’r Comisiynydd i ofyn i awdurdod cyhoeddus penodedig gydweithredu â’r Comisiynydd mewn unrhyw ffordd y tybia’r Comisiynydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion ei swyddogaethau.
- Mae adran 17 yn diwygio adran 9 o Ddeddf Cam-drin Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 i’w gwneud yn ofynnol i bob Adroddiad pob Adolygiad Lladdiad Domestig gael ei anfon at y Comisiynydd.
- Mae adran 18 yn galluogi’r Comisiynydd i ddatgelu gwybodaeth i berson neu sefydliad arall pe bai’r Comisiynydd wedi cael y wybodaeth mewn cysylltiad â’i swyddogaethau, a phe bai datgeliad o’r fath yn helpu’r Comisiynydd i gyflawni unrhyw un o’i swyddogaethau.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adrannau 7-10; 15-18; ac 20 i rym ar 1 Tachwedd 2021.
O dan adran 8, gosododd y Comisiynydd ei hadroddiad cyntaf gerbron Senedd y DU ym mis Tachwedd 2022. Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn cyflawni’r ddyletswydd o dan adran 20 (Dyletswydd i adrodd ar wasanaethau cam-drin domestig yn Lloegr) ac fe’i cyhoeddwyd o fewn y cyfnod o 12 mis ar ôl cychwyn yr adran, fel sy’n ofynnol o dan adran 20(3).
O dan adran 15, arferodd y Comisiynydd y pŵer i ofyn i awdurdod cyhoeddus penodol gydweithredu am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2022. Mae’r pŵer wedi cael ei ddefnyddio ar bedwar achlysur ers hynny. Mae’r Comisiynydd hefyd wedi llwyddo i gael gwybodaeth sy’n berthnasol i gyflawni ei swyddogaethau, heb orfod galw ei phwerau ffurfiol i rym.
O dan adran 17, cafodd y Comisiynydd gasgliadau Adolygiad Lladdiad Domestig am y tro cyntaf ym mis Medi 2021. Ers hynny, mae wedi cael dros 400 o Adolygiadau Lladdiadau Domestig.
Asesiad
Mae adrannau 7-10; 15-17; ac 21, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (y Comisiynydd) yn gweithredu yn ôl y bwriad yn fras. Mae’r Comisiynydd wedi arfer ei phwerau yn unol â’i swyddogaethau cyffredinol, ac mae awdurdodau cyhoeddus wedi cydymffurfio â cheisiadau gan y Comsiynydd, fel y’i hamlinellwyd yn y ddeddfwriaeth.
Mae’r Comisiynydd wedi cyflawni’r swyddogaethau cyffredinol o dan adran 7 drwy amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Cynnal cynhadledd genedlaethol yn 2023 i rannu arferion gorau gyda llywodraeth genedlaethol, ddatganoledig a lleol, y sector cam-drin domestig arbenigol, a phartneriaid gweithredol.
- Sefydlu Tîm ‘Ymarfer a Phartneriaethau ‘ yn swyddfa’r Comisiynydd, sy’n ymgysylltu â phartneriaethau a gwasanaethau lleol i nodi ac annog arferion gorau wrth gomisiynu, cydweithio a rhoi cymorth.
- Cyhoeddi adroddiadau ac ymchwil (gan gynnwys adroddiadau nad ydynt wedi cael eu cyhoeddi o dan bwerau adran 8 neu adran 20).
- Ymgysylltu’n rheolaidd â’r cyfryngau cenedlaethol a lleol a seneddwyr, er mwyn codi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a’r ffyrdd y gall y system wneud yn well er mwyn nodi a chefnogi dioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin domestig.
- Cydweithredu â chyrff cyhoeddus cenedlaethol a lleol, a mynd ati i ddatblygu cydberthnasau â nhw, er mwyn dylanwadu ar bolisïau a gweithrediadau.
- Cynnull digwyddiadau ymgysylltu â sefydliadau gwirfoddol, cyrff cyhoeddus, ac eraill i rannu gwybodaeth a llywio gwaith y Comisiynydd.
- Cydweithredu â chyrff y tu allan i’r Deyrnas Unedig, er mwyn llywio ymarfer a datblygu polisïau. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â Llywodraeth Sbaen ar ei gwaith i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig sy’n fudwyr a chyd-drefnu ymweliad gan swyddogion a gwasanaethau arbenigol o UDA er mwyn trafod arferion gorau wrth weithredu llinellau cymorth.
Yn benodol, o dan adran 8, mae’r Comisiynydd wedi gosod saith adroddiad gerbron Senedd y DU. Mae’r adroddiadau hyn wedi cyd-fynd â blaenoriaethau strategol y Comisiynydd ac maent wedi bod yn effeithiol o ran codi ystyriaethau pwysig gyda’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus ehangach, Senedd y DU a’r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Nid yw’r Llywodraeth na’r Comisiynydd wedi nodi pryderon ynglŷn â gweithrediad y prosesau ar gyfer hepgor gwybodaeth sensitif o dan is-adran (4), na’r prosesau ar gyfer gosod adroddiadau gerbron Senedd y DU, sydd wedi gweithio’n briodol. Yn gysylltiedig ag adran 8, o dan adran 20, cyhoeddodd y Comisiynydd ei hadroddiad ar fapio gwasanaethau cam-drin domestig yn Lloegr ym mis Tachwedd 2022. Gwnaeth y Comisiynydd hefyd gynnwys gwasanaethau yng Nghymru, yn unol â’i gallu i wneud hynny o dan adran 7(4). Mae pob adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 8 ac adran 20 yn cyflawni bwriadau swyddogaethau’r Comisiynydd fel y’u hamlinellwyd yn adran 7. Mae’r adroddiadau wedi ennyn parch nifer o randdeiliaid ac maent yn cynnwys methodolegau clir sy’n sail i dystiolaeth a chanfyddiadau’r adroddiadau. Maent wedi bod yn fodd effeithiol i gefnogi polisïau a gweithrediadau’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus a dylanwadu arnynt.
Yn unol ag adran 16, mae’r Llywodraeth a’r cyrff cyhoeddus perthnasol wedi ymateb i argymhellion y Comisiynydd mewn adroddiadau a gyhoeddwyd o dan adran 8 ac adran 20. Fel arfer, nid yw’r gofyniad statudol yn adran 16(6) i gyhoeddi’r ymateb o fewn 56 diwrnod i adroddiad y Comisiynydd gael ei osod gerbron Senedd y DU wedi cael ei fodloni, ond fel arfer cytunwyd ar y newidiadau hyn ar y cyd â’r Comisiynydd. Pan fethwyd â chydymffurfio â’r terfyn amser hwn, y prif reswm oedd bod y Llywodraeth wedi gofyn am fwy o amser i ystyried ei barn wrth ymateb i argymhellion, neu am fod toriad seneddol wedi achosi heriau o ran cydymffurfio â’r terfyn amser. Ceir hefyd wahaniaeth o ran fformat ymateb y Llywodraeth i bob adroddiad, ac mae’r sector cam-drin domestig wedi nodi bod hyn wedi achosi dryswch mewn rhai ymatebion, yn enwedig os nad yw’r Llywodraeth wedi nodi’n benodol a yw wedi derbyn, neu wedi gwrthod, argymhellion y Comisiynydd.
Mae’r Comisiynydd wedi rhoi cyngor a chymorth o dan adran 9 o’r Ddeddf i’r Swyddfa Gartref, o ran cynnal cynllun peilot o’r System o Oruchwylio Lladdiadau Domestig ac i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o ran parhau â’r System o Oruchwylio Llysoedd Teulu. Mae’r Comisiynydd wedi cael ei digolledu’n briodol am y gwaith hwn, yn unol â’i gallu i godi tâl am gyngor a chymorth o’r fath o dan adran 9(3) ac mae wedi parhau i gyhoeddi ei gwaith ar y meysydd hyn yn unol ag adran 9(4).
Mae adran 10 yn galluogi’r Comisiynydd i wneud unrhyw beth a fydd, yn nhyb y Comisiynydd, yn hwyluso’r gwaith o gyflawni ei swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â gwneud hynny neu sy’n ffafriol i wneud hynny. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw bryder ynglŷn â gwaith y Comisiynydd sy’n dod o dan adran 10. Mae’r gweithgarwch hwn yn dangos bod adran 10 yn gweithredu yn ôl y bwriad i alluogi’r Comisiynydd i gwblhau gwaith nad yw wedi’i nodi’n benodol yn y Ddeddf. Nid yw’r Comisiynydd wedi cael benthyg arian, a fyddai wedi’i wahardd o dan adran 10(2), i gyflawni ei gweithgarwch.
Mae’r pŵer o dan adran 15 wedi cael ei ddefnyddio’n bennaf i geisio gwybodaeth gan gomisiynwyr gwasanaethau lleol i ddioddefwyr, megis awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Yn benodol, ceiswyd gwybodaeth i lywio gwaith y Comisiynydd i fapio darpariaeth cam-drin domestig arbenigol yn 2022, yn ogystal â gwaith pellach i nodi cymorth penodol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig sy’n blant. Nid yw’r Comisiynydd wedi nodi unrhyw broblemau o ran cydymffurfio â cheisiadau a wnaed drwy ddefnyddio’r pŵer hwn. At hynny, mae’r rhestr o awdurdodau cyhoeddus y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio ag adran 15 wedi cael ei diwygio, yn unol â’r disgwyliadau a nodwyd yn is-adrannau 4, 5 a 6. Mae hyn wedi ehangu’r cwmpas i gynnwys y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu ac wedi diwygio’r Ddeddf i adlewyrchu’r newid o Grwpiau Comisiynu Clinigol i Fyrddau Gofal Integredig.
Ers i adran 17 gael ei chychwyn, mae’r Comisiynydd wedi nodi ei bod wedi cael dros 400 o Adolygiadau Lladdiadau Domestig. Nid yw’r Comisiynydd wedi nodi unrhyw broblemau o ran cydymffurfio a phan ofynnwyd am adolygiadau, maent bob amser wedi dod i law. Fodd bynnag, mae’r Comisiynydd yn nodi nad oes unrhyw system ar gael ar hyn o bryd i gadarnhau bod pob adolygiad a gynhelir yn cael ei anfon i’w swyddfa. At hynny, dim ond fel cynllun peilot y mae’r system o oruchwylio yn gweithredu, lle mae ardaloedd lleol sy’n cymryd rhan yn ymgysylltu’n wirfoddol. Felly, ni fu angen defnyddio pwerau yn uniongyrchol o dan adran 17 eto, a all fod yn angenrheidiol os caiff y system ei chyflwyno’n genedlaethol. Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 12 Mawrth 2026 y bydd y Llywodraeth yn neilltuo cyllid ar gyfer system oruchwylio ar gyfer argymhellion a wneir fel rhan o Adolygiadau Lladdiadau Domestig. Caiff manylion pellach ynglŷn â sut y bydd y system yn gweithredu eu cyhoeddi maes o law.
Mae pwerau a swyddogaethau’r Comisiynydd wedi’u hategu gan adran 18, sy’n galluogi’r Comisiynydd i ofyn i berson neu sefydliad arall ddatgelu gwybodaeth i’r Comisiynydd, neu sy’n galluogi’r Comisiynydd i ddatgelu gwybodaeth i berson neu sefydliad arall. Mae’r adran yn galluogi dioddefwyr, goroeswyr, a sefydliadau i rannu gwybodaeth â’r Comisiynydd er mwyn llywio ei goruchwyliaeth strategol ac yn ei dro yn helpu’r Comisiynydd i ddatgelu gwybodaeth i gyrff perthnasol i lywio polisïau a gweithgarwch gweithredol.
Mae hyn wedi cael ei ddeddfu o fewn cyfyngiadau is-adrannau 3 a 4, ochr yn ochr â’r cyfyngiadau a nodwyd yn adran 19 ynglŷn ag ymwneud ag achosion unigol. Mae adran 18 hefyd yn galluogi’r Comisiynydd i wneud atgyfeiriadau diogelu pan fydd yn cael datgeliad gan ddioddefwr neu oroeswr, pan fydd y wybodaeth a ddatgelwyd yn cyrraedd trothwy diogelu.
Mae’r Comisiynydd wedi ymgysylltu’n rheolaidd â Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod gwaith y Comisiynydd yn adlewyrchu’r cyd-destun yng Nghymru, gan gynnwys fel aelod o’i Bwrdd Partneriaeth ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV). Mae’n parhau i weithio gyda’r Cynghorydd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i Gymru ac wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr o Gymru er mwyn sicrhau bod ei gwaith yn cyd-fynd yn briodol â chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn unol ag adran 7 (3) a (6). Nododd y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru fod y Comisiynydd wedi cael effaith sylweddol ac wedi sicrhau bod profiad goroeswyr yn rhan ganolog o waith polisi a diwygio.
Mae’r darpariaethau hyn, gyda’i gilydd, wedi galluogi’r Comisiynydd i sicrhau ymgysylltu â’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Mae’r adrannau hyn wedi sicrhau ystyriaeth ystyrlon o’r dystiolaeth a’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Comisiynydd. Mae hyn wedi llywio polisi cyhoeddus, gweithrediadau, a chyfeiriad strategol Strategaeth VAWG. Ar y cyfan, mae hyn wedi arwain at ymateb i gam-drin domestig o ansawdd uwch.
RHAN 3 – Pwerau i ymdrin â cham-drin domestig (Adrannau 22-56)
Mae Rhan 3 o’r Ddeddf yn cynnwys 37 o adrannau, gan gynnwys adrannau 49A a 49B a fewnosodwyd gan ddeddfwriaeth ganlyniadol (Deddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024), a gyflwynodd ar y cyd fesurau amddiffyn cryfach i ddioddefwyr drwy Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig; Gorchmynion Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig: a dyletswydd newydd ar yr heddlu i hysbysu sefydliad addysgol plentyn os yw’r heddlu wedi ymateb i achos o gam-drin domestig.
Caiff Rhan 3 ei hasesu o safbwynt dwy elfen:
- Adrannau 22-49 a 50-56 – sy’n cyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn rhag Cam-drin a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin.
- Adrannau 49A a 49B – sy’n cyflwyno’r ddyletswydd newydd ar yr heddlu i hysbysu sefydliadau addysgol.
Adrannau 22-49 a 50-56 – Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig, Gorchmynion Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig, a Phwerau ategol
Cyflwyniad
Bwriad adrannau 22-49 a 50-56 yw cryfhau’r ymateb gan yr heddlu a’r llysoedd teulu, sifil a throseddol, a gwella’r ffordd y caiff dioddefwyr cam-drin domestig eu hamddiffyn.
Deddfodd adrannau 22-26 o’r Ddeddf i gyflwyno’r Hysbysiadau Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig newydd. Hysbysiad sifil a roddir gan yr heddlu i amddiffyn dioddefwyr ar unwaith yn y byrdymor ar ôl achos o gam-drin domestig yw hwn. Gall swyddogion yr heddlu roi hysbysiad os oes ganddynt seiliau rhesymol dros gredu bod person 18 oed neu’n hŷn (“ cyflawnwr”) wedi bod yn cam-drin person arall sy’n 16 oed neu’n hŷn (“y dioddefwr”) a bod y partïon yn bersonol gysylltiedig â’i gilydd o fewn ystyr y Ddeddf. Diben hysbysiad yw amddiffyn y dioddefwr ar unwaith rhag pob math o gam-drin domestig. Os cafodd hysbysiad ei roi, mae’n rhaid i’r heddlu hefyd wneud cais am Orchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig. Yna, caiff cais am orchymyn ei restru ar gyfer gwrandawiad yn y llysoedd ynadon cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac o fewn 48 awr i gyflwyno’r hysbysiad. Mae hysbysiad yn gyfrwymol yn gyfreithiol o adeg ei gyflwyno, ac os bydd y cyflawnwr yn torri unrhyw un o’i amodau, gall gael ei arestio a’i ddwyn gerbron llys ynadon.
Mae adranau 27-49 yn Neddf Cam-drin Domestig 2021 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y Gorchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig newydd. Bwriad polisi’r gorchymyn sifil newydd hwn yw dwyn ynghyd yr elfennau cryfaf o’r gyfundrefn gorchmynion amddiffynnol presennol yn un gorchymyn sifil hyblyg, cynhwysfawr. Y gorchmynion hyn yw’r rhai trawsawdurdodaethol cyntaf sy’n gallu cael eu gwneud yn y llysoedd teulu, sifil a throseddol, naill ai ar gais neu yn ystod achosion sy’n mynd rhagddynt. Gellir hefyd wneud gorchymyn o’r fath ar ddiwedd achos troseddol naill ai ar ôl euogfarn (yn ychwanegol at ddedfryd neu ddatrysiad arall) neu ar ôl rhyddfarn. Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol o ran gorchmynion amddiffynnol, sy’n ei gwneud yn bosibl i ddioddefwyr gael eu hamddiffyn ar draws awdurdodaethau yn fwy cyson. Yn wahanol i’r Gorchymyn Amddiffyn Rhag Trais Domestig sy’n bodoli eisoes, nid yw’r gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i gyfnod lleiaf neu fwyaf a ganiateir. Yn hytrach na hynny, caiff y llys bennu’r cyfnod sydd, ym marn y llys, yn briodol o dan yr amgylchiadau, sy’n golygu bod dioddefwyr yn gallu cael y mesur o amddiffyn sydd ei angen arnynt cyhyd ag y bo’n angenrheidiol. Gall gorchymyn osod gwaharddiadau a gofynion cadarnhaol ar y person sy’n ddarostyngedig i’r gorchymyn. Gall gwaharddiadau gynnwys cyfyngiadau ar gyswllt, allgáu o safleoedd neu ardaloedd penodedig, a lle y bo’n angenrheidiol ac yn gymesur, fonitro electronig. Gall gofynion cadarnhaol gynnwys dilyn rhaglen newid ymddygiadol, camddefnyddio sylweddau neu ymyriad iechyd meddwl, neu ofyniad arall sydd wedi’i anelu at ymdrin ag ymddygiad y cyflawnwr. Mae torri amodau gorchymyn heb esgus rhesymol yn drosedd lle y gellir rhoi cosb o hyd at 5 mlynedd yn y carchar, dirwy, neu’r ddau, ar ôl euogfarn. Mae hyn yn golygu dulliau gorfodi cryfach o gymharu â gorchmynion amddiffynnol sifil blaenorol. At hynny, mae’r gorchymyn yn cynnwys gofynion hysbysu gorfodol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n ddarostyngedig i’r gorchymyn roi manylion personol penodedig i’r heddlu, gan gynnwys enw a chyfeiriad ac unrhyw newidiadau canlyniadol. Mae methiant i gydymffurfio â’r gofynion hysbysu hyn, heb esgus rhesymol, yn gyfystyr â throsedd.
Mae adran 50 o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi hysbysiad statudol mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau o dan Ran 3 o’r Ddeddf gan yr heddlu. Mae dyletswydd statudol ar yr heddlu i roi sylw i’r canllawiau hyn wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig.
Mae adran 51 o’r Ddeddf yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi cod ymarfer ar lywodraethu sut y caiff data personol a geir mewn cysylltiad â monitro unigolion sy’n ddarostyngedig i ofynion monitro electronig a osodwyd drwy Orchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig eu prosesu. Bwriedir i’r ddarpariaeth sicrhau bod y defnydd o fonitro electronig yn y fframwaith ar gyfer Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn cynnwys mesurau diogelu priodol ynglŷn â phrosesu data.
Mae adran 52 yn rhoi pŵer i’r Llys Teulu wneud gorchymyn neu amrywio gorchymyn sy’n bodoli eisoes yng nghyd-destun achosion teuluol penodedig. Drwy’r ddarpariaeth hon gellir integreiddio mesurau diogelu mewn achosion llys teulu sy’n mynd rhagddynt, heb fod angen cais ar wahân.
Mae adran 53 yn ychwanegu Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig a glywir yn y Llys Teulu at y rhestr o achosion na allant fod yn ddarostyngedig i’r cytundebau ffi amodol.
Gwnaeth adran 54 fân ddiwygiadau canlyniadol i’r Cod Dedfrydu.
Mae adran 55 o’r Ddeddf yn darparu ar gyfer diddymu cyfundrefn yr hysbysiadau a’r gorchmynion amddiffyn rhag trais domestig, sy’n adlewyrchu bwriad Senedd y DU y dylai Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig ddisodli’r fframwaith blaenorol o orchmynion amddiffynnol.
Rhoi’r adran ar waith
Cafodd adrannau 22-49 a 50-54 a 56 eu cychwyn ar sail cynllun peilot ar 27 Tachwedd 2024, a bydd y cynllun peilot yn para tan fis Tachwedd 2026 o leiaf. Wrth gyflwyno’r cynllun peilot:
- O dan adrannau 22-49, mae Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig wrthi’n cael eu treialu mewn ardaloedd dethol, gan gynnwys Manceinion Fwyaf, tair bwrdeistref yn Llundain (Croydon, Bromley a Sutton), Cleveland, Gogledd Cymru, a gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yng Nghymru a Lloegr fel rhan o’r Strategaeth VAWG.
- Cyhoeddwyd y canllawiau o dan adran 50 ym mis Tachwedd 2024. [footnote 9]
- Cafodd y Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 51 ei gyhoeddi ym mis Hydref 2020 ac yna’i ddiweddaru ym mis Mawrth 2024, cyn i’r cynllun peilot ynglŷn â Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig gychwyn. Gwnaed hyn er mwyn adlewyrchu mân newidiadau mewn perthynas â phrosesu data monitro electronig ac yn barod at ei ddefnydd fel rhan o rai gorchmynion sifil, gan gynnwys fel rhan o Orchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig. [footnote 10]
- Mae adrannau 52-54 ac adran 56 yn atodol yn unig. Fel gyda gweddill darpariaethau Rhan 3, maent wedi cael eu cychwyn ar sail cynllun peilot.
- Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi diweddaru ei ganllawiau i gefnogi’r broses o gyflwyno’r cynllun peilot.
Nid yw Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig wedi cael eu cychwyn yn llawn yn genedlaethol eto. O ganlyniad, nid yw adran 55 wedi cael ei rhoi ar waith am nad yw cyfundrefn yr Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig wedi cael ei diddymu eto. Bydd y broses o’i diddymu yn gysylltiedig â chyflwyno Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn fwy cyffredinol yng Nghymru a Lloegr er mwyn sicrhau parhad amddiffyn ac osgoi bylchau mewn mesurau diogelu wrth i’r gyfundrefn newydd gael ei rhoi ar waith.
Asesiad
Ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, a phartneriaid plismona, nid yw adrannau 22-49 nac adrannau 50-56 yn cyflawni bwriad llawn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd proses o gyflwyno Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig ledled Cymru a Lloegr yn llawn yn cychwyn pob adran yn Rhan 3.
O dan y cynllun peilot i gychwyn adrannau 22-49 ac adrannau 50-54 a 56 ym mis Tachwedd 2024, mae’r cynllun peilot ar gyfer Hysbysiadau/Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig wedi cael ei werthuso’n barhaus. Gwneir hyn gan yr asiantaeth ymchwil annibynnol Ecorys UK, ac academyddion o Brifysgol Caerhirfryn, Prifysgol Leeds, a Phrifysgol Hull. Mae Ecorys UK a’i bartneriaid yn anelu at gynnal gwerthusiad o broses, effaith a gwerth am arian Hysbysiadau/Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig. Nod y gwerthusiad o effaith yw asesu effeithiolrwydd Hysbysiadau/Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig o ran lleihau aildroseddu ac ailerledigaeth. Mae’r rhanddeiliaid sy’n cyfrannu at werthuso Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn cynnwys y rhai ym maes plismona, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, aelodau o’r farnwriaeth, arweinwyr cenedlaethol ar fonitro electronig, a staff o Bartneriaeth Drive, darparwyr gofynion cadarnhaol a sefydliadau trydydd parti. Bydd y cyfnod gwerthuso yn rhedeg tan fis Tachwedd 2026. Yna caiff adroddiad terfynol ei gyflwyno i’r Swyddfa Gartref. Mae adborth gweithredol wedi llywio’r broses o roi Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig ar waith. Er enghraifft, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i’r Bil Troseddu a Phlismona ar Gyfnod Adrodd yr Arglwyddi er mwyn datrys problemau deddfwriaethol gyda phroses y gofynion cadarnhaol fel ymateb uniongyrchol i adborth gan bartneriaid gweithredol.
Yn y cyfamser, mae adroddiadau’r heddlu wedi nodi bod mwy na 1,000 o Orchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig wedi cael eu rhoi yn ardaloedd yr heddluoedd a’r llysoedd sy’n cymryd rhan ers lansio’r cynllun peilot ym mis Tachwedd 2024. Mae’r niferoedd cychwynnol hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn cael eu defnyddio yn ardaloedd y cynllun peilot. Fodd bynnag, mae adborth gweithredol a roddwyd i’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gan bartneriaid ym maes plismona, y llysoedd a’r sector a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn dangos bod rhwystrau deddfwriaethol yn cyfyngu ar y defnydd o ofynion cadarnhaol mewn Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig. Yn benodol, pan fydd Hysbysiad Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn cael ei roi, mae’n ofynnol i’r llys benderfynu ar gais am Orchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig o fewn 48 awr. Er bod y terfyn amser hwn yn briodol o ran sicrhau bod person yn cael ei amddiffyn yn gyflym, mae’n creu rhwystrau ymarferol i nodi darparwyr rhaglen addas, cwblhau asesiadau, a chyflwyno tystiolaeth ategol i’r llys. O ganlyniad, caiff gwrandawiadau eu gohirio’n rheolaidd, sy’n golygu bod dioddefwyr wedi’u hamddiffyn gan Hysbysiad Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn unig, na all gael ei orfodi fel trosedd os caiff ei dorri.
Er mwyn ymdrin â’r materion hyn, cyflwynodd y Llywodraeth welliannau i’r Bil Troseddu a Phlismona ar Gyfnod Adrodd yr Arglwyddi, sy’n:
- Galluogi llysoedd troseddol i wneud Gorchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig llawn yn y gwrandawiad cyntaf, gan ymgorffori gofyniad i gynnal asesiad o addasrwydd sy’n pennu mai dim ond os asesir bod y cyflawnwr yn addas y bydd yn cymryd rhan mewn rhaglen. Bydd hyn yn sicrhau bod person yn cael ei amddiffyn yn amserol heb oedi.
- Dileu’r gofyniad i enwi person cyfrifol yn y Gorchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig ym mhob awdurdodaeth llys. Adlewyrchu realiti gweithredol, yn enwedig mewn ceisiadau a arweinir gan yr heddlu, pan fydd nodi darparwr o fewn 48 awr yn anodd. Byddai ei rôl yn cael ei chadw o hyd ond, yn hytrach, byddai’n cael ei hamlinellu mewn canllawiau statudol.
- Cau’r bwlch presennol ym mhwerau presennol y llys drwy alluogi llysoedd troseddol i amrywio Gorchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig drwy eu cynnig eu hunain.
Mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru hefyd yn pryderu bod mynediad at ymyriadau newid ymddygiad ar bob lefel o risg yn dal i fod yn anghyson ledled Cymru a Lloegr. Mae hyn yn cyfyngu ar ddefnyddioldeb Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig fel adnodd atal fel y’i bwriadwyd yn y ddeddfwriaeth. Yn Strategaeth VAWG, ymrwymodd y Llywodraeth i sefydlu arlwy cyson a chynhwysfawr ym mhob ardal leol, gan wella mynediad at ymyriadau wedi’u teilwra i gyflawnwyr cam-drin domestig a stelcio ar bob lefel o risg. Mae’r gwaith hwn, ochr yn ochr â’r ymrwymiadau i annog ymateb cymunedol cydgysylltiedig i VAWG, yn ategu ac yn cefnogi’r cynlluniau ehangach i gyflwyno Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn genedlaethol.
Mae adborth gan randdeiliaid hefyd wedi nodi bod Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn cael eu gwneud ar gyfradd arafach yn y Llys Teulu o gymharu â cheisiadau a arweinir gan yr heddlu. Mae’r dystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu y gellir priodoli hyn yn rhannol i absenoldeb darpariaethau amddiffynnol uniongyrchol sy’n ymwneud â phlant yn benodol yn fframwaith y Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig o gymharu â Gorchmynion Peidio ag Ymyrryd. Nododd y Comisiynydd Cam-drin Domestig fod y ddeddfwriaeth fel y’i drafftiwyd yn methu ag amddiffyn dioddefwyr sy’n blant yn benodol, am ei bod yn pennu mai dim ond er mwyn atal person rhag cam-drin person arall sy’n 16 oed neu’n hŷn y gellir gwneud y gorchmynion.
Mae’r Llywodraeth yn edrych ar opsiynau deddfwriaethol i fynd i’r afael â’r mater hwn.
At hynny, er bod y sector cam-drin domestig wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan ynglŷn â chyflwyno Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig, mae’r sector hefyd wedi codi pryderon ynglŷn â’r angen am asesiadau risg effeithiol i ategu’r defnydd o Orchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig. Eleni, (2026), bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau ar yr ymateb amlasiantaethol i’r risg o gam-drin domestig er mwyn cefnogi’r gwaith o adnabod ac asesu risg yn effeithiol. Er y gall y Gorchymyn Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig amddiffyn rhag pob math o gam-drin domestig ar-lein ac all-lein, mae’r sector cam-drin domestig wedi nodi bod angen mwy o eglurder ynglŷn â defnyddio Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig i ymateb i gam-drin ar-lein a cham-drin a hwylusir gan dechnoleg, pan na fydd y cyflawnwr yn agos yn ddaearyddol, a thystiolaeth i ddeall a yw Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig yn effeithiol o ran ymdrin â’r risg hon.
Wrth roi adran 50 ar waith, cynhaliodd y Llywodraeth flaenorol ymgynghoriad cyhoeddus ar ganllawiau statudol drafft ynglŷn â defnydd yr heddlu o Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig. Cafwyd ymatebion gan sawl rhanddeiliad, gan gynnwys yr heddlu, y Comisiynydd
Cam-drin Domestig a’r sector cam-drin domestig. Llywiodd yr ymgynghoriad y broses o ddatblygu’r canllawiau terfynol.[footnote 11] Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddiweddaru’r canllawiau pan fydd Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig wedi cael eu cyflwyno yn ardal pob heddlu a llys yng Nghymru a Lloegr. Bydd rhagor o ymgysylltu â rhanddeiliaid fel rhan o’r broses hon.
Mae’r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 51 yn amlinellu, ar lefel uchel, y cyfrifoldebau a’r disgwyliadau cyffredinol ynglŷn â phrosesu data personol a gesglir wrth fonitro person yn electronig. Mae’r Cod yn gymwys i gasglu, cadw, prosesu a rhannu data monitro electronig.
Gan nad yw proses gychwyn genedlaethol lawn wedi digwydd eto, mae Hysbysiadau a Gorchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig yn dal i fod ar waith yn y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr. Bydd asesiad o ddiddymu o dan adran 55 yn cael ei gynnal unwaith y bydd y broses genedlaethol o gyflwyno Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig wedi cael ei chwblhau, er mwyn sicrhau parhad amddiffyn.
Adrannau 49A a 49B – Dyletswydd ar yr heddlu i hysbysu sefydliad addysgol plentyn os yw’r heddlu wedi ymateb i achos o gam-drin domestig
Cyflwyniad
Mae adran 49A (trefniadau i hysbysu ysgolion etc) o’r Ddeddf yn cyflwyno’r ddyletswydd statudol ar yr heddlu i hysbysu sefydliad addysgol plentyn os yw’r heddlu wedi ymateb i achos o gam-drin domestig yng nghartref y plentyn. Cyfeirir at hyn weithiau fel “Ymgyrch Encompass”. Mae adran 49B (pŵer i estyn adran 49A i ddarparwyr gofal plant) yn cyflwyno’r pŵer i estyn adran 49A i ddarparwyr gofal plant.
Mae adrannau 49A a 49B yn cefnogi adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 o ran cydnabod plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain. Drwy hysbysu sefydliad addysgol plentyn neu leoliad gofal plant, gall y plentyn gael y cymorth a’r mesurau diogelu priodol yn unol â dyletswyddau statudol presennol y lleoliadau hyn.
Rhoi’r adran ar waith
O dan adran 20 (dioddefwyr cam-drin domestig sy’n blant) o Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024, diwygiwyd Deddf Cam-drin Domestig 2021 i fewnosod adrannau 49A a 49B. Daeth adran 49A (trefniadau i hysbysu ysgolion etc) i rym ar 7 Tachwedd 2025.
Nid yw adran 49B wedi cael ei chychwyn.
Asesiad
Mae adran 49A, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru, a phartneriaid plismona, yn cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae angen mwy o amser i gael rhagor o ddata ar gysondeb ac ansawdd y broses o’i rhoi ar waith. Mae’r Llywodraeth yn ystyried rhoi adran 49B (pŵer i estyn adran 49A i ddarparwyr gofal plant) ar waith ond mae angen ystyriaeth ofalus o ddiogelwch rhannu gwybodaeth, amrywiaeth y fframweithiau ar gyfer darparwyr gofal plant, a’r gallu cyfyngedig o bosibl i gymryd camau dilynol, cyn gwneud unrhyw benderfyniad i roi adran 49B ar waith.
O dan adran 49A, mae dyletswydd statudol ar heddluoedd bellach i hysbysu sefydliad addysgol plentyn pan fyddant wedi ymateb i achos o gam-drin domestig yng nghartref plentyn. Rhaid rhoi’r hysbysiad hwn p’un a yw’r plentyn yn bresennol yn gorfforol ai peidio. Os yw’r plentyn yn cael addysg yn y cartref neu’n colli addysg, dylai’r awdurdod lleol perthnasol gael ei hysbysu. Ochr yn ochr â chychwyn y ddyletswydd, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ganllawiau statudol i gefnogi heddluoedd wrth iddynt ei rhoi ar waith. Roedd hyn cynnwys cyd-destun ehangach ar blant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain, ochr yn ochr â chanllawiau ar y broses o roi’r hysbysiad a pha wybodaeth y dylai’r hysbysiad ei chynnwys, gan gynnwys cofnodi llais y plentyn. Mae’r Swyddfa Gartref yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi a monitro’r broses o’i rho ar waith.
Ym marn Arweinydd Cenedlaethol yr Heddlu ar gyfer Ymgyrch Encompass, ers i’r ddyletswydd ddod yn statudol, mae wedi cael ei chyflwyno’n llwyddiannus, gyda phob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn chwarae rhan lawn. Mae’r broses gyflwyno genedlaethol bellach wedi’i hymgorffori fel ymarfer safonol ym maes plismona ac addysg ac mae’n cefnogi’r nod bwriadedig o sefydlu dull diogelu cenedlaethol, cyson lle mae sefydliadau addysgol yn cael eu hysbysu cyn y diwrnod ysgol nesaf bod plentyn wedi cael ei amlygu i gam-drin domestig. Mae hyn yn cryfhau mesurau diogelu amlasiantaethol ac yn sicrhau bod pob plentyn y mae cam-drin domestig yn effeithio arno neu sy’n wynebu risg o hynny yn cael gofal, dealltwriaeth a chymorth priodol.
Comisiynodd y Swyddfa Gartref broses i werthuso cynllun Ymgyrch Encompass.[footnote 12] Cynhaliwyd y gwerthusiad rhwng 2022 i 2023, cyn i’r cynllun ddod yn ofyniad statudol. Defnyddiodd gyfweliadau, data gweinyddol, ac astudiaethau peilot i ystyried sut mae’r cynllun yn cael ei roi ar waith ymhlith heddluoedd ac awdurdodau lleol. Dangosodd y canfyddiadau fod Ymgyrch Encompass yn cael ei werthfawrogi’n eang am wella cymorth amserol a mesurau i ddiogelu plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, ceir amrywiadau o ran sut y caiff y cynllun ei gyflwyno ac o ran manylion hysbysiadau a roddir.
Nododd yr adroddiad The multi-agency response to children who are victims of domestic abuse gan Ofsted, y Comisiwn Ansawdd Gofal, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF ac Arolygiaeth Prawf EF, sut mae’r ddyletswydd yn cryfhau gallu ysgolion i gefnogi a diogelu plant ac fe’i cydnabyddir yn gyffredinol fel menter diogelu werthfawr.[footnote 13] Mae’r cyhoeddiad hwn a rhanddeiliaid wedi nodi y gall y ddyletswydd fod yn llai effeithiol os bydd oedi cyn i’r heddlu roi hysbysiad neu os bydd diffyg manylion o ran yr hyn a rennir yn yr hysbysiad.
RHAN 4 – Cymorth awdurdodau lleol (Adrannau 57-61)
Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn cynnwys pum adran, a gyflwynodd, gyda’i gilydd, ddyletswydd newydd ar awdurdodau lleol Haen 1 (Awdurdodau Unedol a Metropolitanaidd, Cynghorau Sir, Awdurdod Llundain Fwyaf a Chyngor Ynysoedd Scilly) yn Lloegr i ddarparu cymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a’u plant mewn llety diogel (“Dyletswydd i Ddarparu Llety Diogel”).
Caiff Rhan 4 ei hasesu o safbwynt un elfen (adrannau 57-61) am fod y darpariaethau yn gorgyffwrdd â’i gilydd.
Nid yw’r ddyletswydd o dan Ran 4 yn gymwys i Gymru. Gall Llywodraeth y DU ddeddfu mewn perthynas â thai yng Nghymru, ond er mwyn gwneud hynny bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gan Senedd Cymru. Yn ymarferol, mae gan Gymru ei fframwaith statudol sefydledig ei hun ar gyfer tai ac atal digartrefedd a amlinellwyd yn Neddf Tai (Cymru) 2014 ac ym mholisïau ehangach Llywodraeth Cymru.
Adrannau 57-61 – Dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol Haen 1 yn Lloegr i roi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a’u plant mewn llety diogel
Cyflwyniad
Cyflwynwyd y darpariaethau o dan Ran 4, gyda’i gilydd, mewn ymateb i amrywiadau a bylchau ers amser o ran comisiynu cymorth cam-drin domestig sy’n seiliedig ar lety. Drwy gyflwyno’r ddyletswydd i ddarparu llety diogel, mae Rhan 4 yn anelu at sicrhau mwy o gysondeb ym maes cynllunio a darpariaeth leol yn Lloegr a gwella’r cymorth y mae dioddefwyr cam-drin domestig yn ei gael.
Mae adran 57 yn sefydlu dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol perthnasol yn Lloegr i asesu, neu wneud trefniadau i asesu, yr angen am gymorth sy’n seiliedig ar lety i ddioddefwyr cam-drin domestig (gan gynnwys plant) yn ei ardal sy’n byw mewn “llety perthnasol”. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnnnol i’r awdurdodau lleol perthnasol baratoi a chyhoeddi strategaeth ar gyfer y cymorth hwnnw a monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y strategaeth. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol wneud eu strategaeth yn weithredol wrth gyflawni eu swyddogaethau ac ymgynghori â’u bwrdd partneriaeth lleol ar gam-drin domestig (a sefydlwyd o dan adran 58) a rhanddeiliaid eraill cyn ei chyhoeddi; mae’n rhaid iddynt hefyd barhau i adolygu’r strategaeth a gall ei newid neu ei ddisodli.
Mae adran 57(2) yn diffinio “cymorth‑sy’n seiliedig ar lety” ac yn darparu bod “llety perthnasol” yn cael ei bennu mewn rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae adrannau 57(7) ac (8) yn gosod dyletswyddau cydweithredu ar awdurdodau Haen 2, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt weithio gydag awdurdodau Haen 1 wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae adran 57(9) yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ynglŷn â pharatoi a chyhoeddi strategaethau.
Mae adran 58 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol perthnasol benodi Bwrdd Partneriaeth Lleol ar Gam-drin Domestig i gynghori ar arfer y swyddogaethau o dan adran 57, a darparu cymorth arall gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â cham-drin domestig yn ardal yr awdurdod. Mae’r adran yn pennu isafswm nifer aelodau’r bwrdd, gan gynnwys cynrychiolwyr awdurdodau Haen 1 a 2 (cynghorau dosbarth lle y bo’n gymwys), dioddefwyr/goroeswyr sy’n oedolion ac yn blant, elusennau cam-drin domestig a sefydliadau gwirfoddol, gwasanaethau gofal iechyd, a chyrff plismona/cyfiawnder troseddol. Mae Byrddau Partneriaeth Lleol yn ffurfioli mewnbwn amlasiantaethol (gan gynnwys gan y sector arbenigol a lleisiau dioddefwyr/goroeswyr) yn asesiad anghenion, yn strategaeth ac yn oruchwyliaeth, gan ymdrin ag ymgysylltu anghyson â’r bartneriaeth a welwyd cyn i’r ddyletswydd gael ei chyflwyno.
Mae adran 59 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol perthnasol gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl pob blwyddyn ariannol, a fydd yn nodi sut mae wedi arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4. Mae rheoliadau a wneir o dan adran 59(2) yn rhagnodi ffurf a chynnwys yr adroddiadau hyn.
Y gofyniad i gyflwyno adroddiad blynyddol yw’r offeryn craidd sy’n ei gwneud yn bosibl i gamau gweithredu lleol gael eu goruchwylio’n ganolog, ac i dueddiadau, adnoddau, a mynediad ledled Lloegr gael eu monitro.
Mae adran 60 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canllawiau statudol ar arfer swyddogaethau awdurdodau lleol o dan Ran 4. Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, awdurdodau lleol, a phersonau eraill o’r fath fel y’i hystyrir yn briodol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r canllawiau hyn wrth arfer swyddogaeth y maent yn ymwneud â hi. Mae hyn yn cynnig ffordd o bennu disgwyliadau a safonau cenedlaethol ar gyfer cyflawni drwy ganllawiau statudol.
Mae adran 61 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn Rhan 4, gan gynnwys “awdurdod lleol” ac “awdurdod lleol perthnasol”, gan restru cyrff perthnasol o dan bob un. Y diffiniadau hyn sy’n pennu pwy sydd â’r prif ddyletswyddau o dan adrannau 57 a 58. Mae hyn yn sicrhau diffiniadau statudol cyson ynghylch pwy sydd o fewn cwmpas fel awdurdod lleol perthnasol o dan Ran 4.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth y dyletswyddau a amlinellwyd o dan Ran 4 i rym ar 1 Hydref 2021.
Gosododd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol reoliadau o dan adrannau 57(9) a 59(2) o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (Rheoliadau Cymorth Cam-drin Domestig (Strategaethau ac Adroddiadau Blynyddol Awdurdodau Lleol) 2021) ar 9 Medi 2021, a gychwynnodd ar 1 Hydref 2021.[footnote 14] Gwnaeth y rheoliadau hyn bennu (i) terfynau amser ar gyfer y strategaethau cyntaf (5 Ionawr 2022), (ii) sefydlu cylch adolygu o dair blynedd, (iii) rhagnodi’r materion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi sylw iddynt wrth baratoi strategaethau, a (iv) ffurf/cynnwys adroddiadau blynyddol o dan adran 59.
Ategwyd hyn gan y canllawiau statudol, a gyhoeddwyd o dan adran 60, y canllawiau statudol (“Rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig mewn gwasanaethau llety diogel cam-drin domestig”) ar 1 Hydref 2021.[footnote 15]
Cyflwynwyd adroddiadau blynyddol cyntaf awdurdodau lleol ar gyfer y cyfnod 2021-22, a chafodd y cyhoeddiad cenedlaethol cyntaf a oedd yn defnyddio’r data hyn ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2023. Cafwyd cyhoeddiadau gwybodaeth reoli cenedlaethol dilynol ar gyfer 2022–23 (Rhagfyr 2023), 2023–24 (Hydref 2024) a 2024–25 (Hydref 2025).[footnote 16]
Gwnaeth y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol hefyd osod deddfwriaeth sy’n diffinio’r mathau o lety diogel perthnasol o dan adran 57(2) (Rheoliadau Cymorth Cam-drin Domestig (Llety Perthnasol a Chynlluniau Nodded Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol) (Diwygio) 2021 (ar 9 Medi 2021, a gychwynnodd ar 1 Hydref 2021.[footnote 17] Datblygwyd y rheoliadau hyn ar y cyd â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, awdurdodau lleol perthnasol, a’r cyfryw bersonau eraill ag yr ystyria’r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn briodol, yn unol ag adran 57(11).
Asesiad
Mae Rhan 4, ym marn Llywodraeth y DU, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, yn gweithredu yn ôl y bwriad ar y cyfan ac mae wedi sbarduno cynnydd sylweddol o ran darparu cymorth lleol. Mae pob awdurdod lleol Haen 1 wedi rhoi’r elfennau statudol ar waith sy’n ofynnol o dan y ddyletswydd, h.y. maent wedi paratoi asesiadau anghenion, wedi cwblhau ac wedi cyhoeddi eu strategaethau ac wedi rhoi Bwrdd Partneriaeth Lleol ar waith. Mae awdurdodau lleol hefyd wedi diweddaru eu hasesiadau angen a’u strategaethau yn unol â’r gofyniad statudol i’r rhain gael eu hadolygu bob tair blynedd. Gwelwyd gwelliannau i ddarpariaeth llety diogel ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig, fodd bynnag, mae’r asesiad isod yn dangos bod anghenion heb eu diwallu o hyd ac nad yw rhai carfannau o ddioddefwyr yn gallu cael gafael ar wasanaethau priodol.
Asesiad ar y Cyd:
Ers i’r ddyletswydd gael ei chyflwyno, mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi neilltuo £667 miliwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r ddyletswydd. Mae hyn yn cynnwys £160 miliwn yn 2025-26, sef cynnydd o £30 miliwn ers y flwyddyn flaenorol. Er mwyn cryfhau prosesau cyflawni, mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi neilltuo £499 miliwn o 2026-27 ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae’r cyllid hwn yn adlewyrchu cost amcangyfrifedig darparu ar gyfer yr angen heb ei ddiwallu am gymorh mewn llety diogel i ddioddefwyr a’u plant, gan nodi bod y galw yn parhau i fod yn fwy na’r ddarpariaeth sydd ar gael. Dyrennir y brif elfen o gyllid i awdurdodau lleol Haen 1 am mai nhw sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau. Dyrennir y cyllid hwn gan ddefnyddio Fformiwla Anghenion Cymharol sy’n ystyried poblogaeth, amddifadedd ac amrywiadau mewn costau llafur (Addasiad Cost Ardal). Dyrennir cyllid hefyd i awdurdodau Haen 2 er mwyn talu am gostau gweinyddol cefnogi’r awdurdod Haen 1 perthnasol drwy, er enghraifft, ddarparu data a gwybodaeth. Dyrennir y cyllid hwn drwy gymhwyso rhaniad cyfartal, gydag addasiad i adlewyrchu gwahaniaethau daearyddol mewn costau cyflog (Addasiadau Cost Ardal).
Ar adeg cyflwyno’r ddyletswydd, sefydlwyd Grŵp Llywio Arbenigol Cenedlaethol o dan arweiniad gweinidog yn 2022 i oruchwylio’r broses o gyflawni’r ddyletswydd yn Lloegr. Gwnaeth y Grŵp hwn, a gyd-gadeirir gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig, adolygu’r data blynyddol, adolygu canlyniadau sy’n dod i’r amlwg a rhoi cyngor arbenigol i weinidogion er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr arweiniad a’r cymorth cywir. Cyfarfu’r Grŵp deirgwaith y flwyddyn a chyhoeddodd ddau adroddiad cynnydd blynyddol a oedd yn cwmpasu’r cyfnodau 2021-22 a 2022-23.[footnote 18] Nododd y rhain gyflawniadau a heriau, astudiaethau achos o arfer gorau a meysydd â ffocws yn y dyfodol. Roedd y grŵp yn cael ei werthfawrogi gan y sector cam-drin domestig fel ffordd o dynnu sylw gweinidogion at unrhyw bryderon. O dan y Llywodraeth bresennol, mae’r swyddogaeth goruchwylio hon wedi symud i Grŵp Tai Cam-drin Domestig newydd a arweinir gan weinidog, sydd hefyd yn cael ei gydgadeirio gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig. Mae’r aelodau yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cam-drin domestig, llywodraeth leol a thai.
Bydd y grŵp hwn yn parhau i fonitro sut mae awdurdodau lleol yn cyflawni’r ddyletswydd o dan Ran 4, a bydd hefyd yn ystyried materion ehangach sy’n effeithio ar deithiau dioddefwyr drwy lety diogel.
Yn ychwanegol at yr oruchwyliaeth hon, comisiynodd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol werthusiad annibynnol tair blynedd â chyllideb o £1.8 miliwn, a gyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf 2025.[footnote 19] Roedd y gwerthusiad yn ystyriaeth gynhwysfawr, gadarn o sut mae awdurdodau lleol yn rhoi’r ddyletswydd ar waith. Roedd y gwerthusiad yn un amlddull, gan syntheseiddio tystiolaeth gynradd ac eilaidd. Roedd yn cynnwys data ansoddol helaeth mewn trawstoriad cynrychioliadol o 19 o ardaloedd astudiaeth achos, gyda gwaith maes, gan gynnwys cyfweliadau â goroeswyr sy’n ddioddefwyr a’u plant (314 o oroeswyr a oedd yn cynnwys 269 o oedolion a 45 o bobl ifanc a phlant), darparwyr gwasanaethau ac awdurdodau lleol (485 o weithwyr proffesiynol). Canfu’r gwerthusiad fod y ddyletswydd wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon, gan helpu goroeswyr i deimlo’n fwy diogel, ailadeiladu eu bywydau, gwella cymorth i blant a gweithio amlasiantaethol.
Canfu hefyd fod y ddyletswydd wedi gwella gwaith cynllunio lleol ac wedi galluogi awdurdodau lleol i gynnal ac ehangu gwahaniaethau, gyda gwell gwerth am arian lle mae lleisiau goroeswyr yn llywio gwaith cynllunio. Mae anghenion plant bellach yn cael eu hadnabod yn well a darparu ar eu cyfer yn well.
Mae’r data monitro blynyddol a gyflwynwyd i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol gan awdurdodau lleol yn dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr unigolion a gafodd gymorth mewn llety diogel, sef 36,454 yn 2021–22, 50,670 yn 2022–23, a chynnydd eto i 63,950 yn 2023–24. Yn 2024-25 mae bellach wedi mwy na dyblu ers lefelau 2021-22 gyda 76,850 o unigolion yn cael cymorth mewn llety diogel, gyda phlant yn cyfrif yn gyson am tua thraean o’r holl unigolion a gafodd gymorth. Mae’r ystod o wasanaethau cymorth a gomisiynir wedi ehangu. Mae’r rhan fwyaf o ddioddefwyr yn cael cymorth o dan gynlluniau noddfa a lloches, ac mae llety gwasgaredig wedi parhau i dyfu.
Fodd bynnag, mae’r gwerthusiad annibynnol a’r gwaith i barhau i fonitro’r data hefyd yn dangos bod heriau o hyd. Er bod mwy o ddarpariaeth, mae llawer o aelwydydd o hyd yn methu â chael cymorth o 20,616 yn 2021-22 i 28,190 yn 2024–25. Cyfyngiadau ar adnoddau yw’r rheswm a nodir amlaf dros beidio â rhoi cymorth i aelwydydd, sy’n cyfrif am tua 30% o’r angen heb ei ddiwallu yn 2024-25. Canfu’r gwerthusiad hefyd fod ansawdd y broses weithredu yn amrywio rhwng ardaloedd, o ganlyniad i wahaniaethau mewn comisiynu, argaeledd darpariaeth arbenigol, ac effeithiolrwydd y Byrddau Partneriaeth Lleol o ran llywio asesiadau angen a diweddaru strategaethau. Roedd mynediad a chanlyniadau yn dal i fod yn anghyfartal, ac roedd goroeswyr ag anghenion ychwanegol neu amgylchiadau teuluol cymhleth neu a oedd yn perthyn i grwpiau heb gynrychioliaeth ddigonol yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol, er bod y ddyletswydd yn ysgogi gwelliannau graddol o ran darpariaeth, maint ac amrywiaeth y cymorth. Er bod rhai goroeswyr, yn enwedig y rhai â lefel is o anghenion, wedi cael gwell mynediad a chanlyniadau iechyd meddwl, roedd y buddiannau yn llai cyson i’r rhai ag anghenion iechyd meddwl sylweddol, sy’n tynnu sylw at anghydraddoldebau mynych.
Ar y cyfan, mae’r tueddiadau hyn yn dangos, er bod y ddyletswydd wedi ehangu graddfa’r ddarpariaeth, nad yw eto wedi lleihau lefel gyffredinol yr angen heb ei ddiwallu ers ei chyflwyno, a chyfyngiadau ar adnoddau yw’r prif rwystr i fynediad o hyd. Nododd y gwerthusiad annibynnol fod angen gwneud rhagor o gynnydd, gan gynnwys cynnwys lleisiau goroeswyr, cryfhau comisiynu cynhwysol er mwyn ei gwneud yn bosibl i wasanaethau arbenigol bach ‘gan ac i’ ar gyfer grwpiau wedi’u lleiafrifoli gystadlu am gontractau, gwella sut y caiff canlyniadau eu mesur, a sicrhau cydweithredu ar draws ffiniau.
At hynny, mae’r sector cam-drin domestig a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi codi pryderon ynglŷn â chydbwysedd rhwng gwasanaethau llety a chomisiynu gwasanaethau yn y gymuned. Fodd bynnag, nododd y gwerthusiad annibynnol fod y ffocws ar wasanaethau llety yn adlewyrchu’r ddyletswydd statudol benodol a’r cyllid a ddarperir i awdurdodau lleol o dan Ran 4, yn hytrach na symud o wasanaethau yn y gymuned, sydd y tu hwnt i’r ddyletswydd. Mae’r sector cam-drin domestig hefyd wedi codi pryderon y gall dealltwriaeth anghyson o niweidiau sy’n ymwneud â thechnoleg effeithio ar ddioddefwyr sy’n defnyddio llety diogel, a all barhau i brofi camdriniaeth a hwylusir drwy dechnoleg. Bydd y Swyddfa Gartref yn ystyried y ffordd orau o ymdrin â’r pryderon hyn drwy’r gwaith sy’n mynd rhagddo gennym i wella’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig a gwelliannau i’r dull amlasiantaethol o ymdrin â risg.
Mae adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn cydnabod plant fel dioddefwyr cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain, sy’n ychwanegu pwyslais at ofynion y ddyletswydd ar gyfer awdurdodau Haen 1 i ystyried anghenion yr holl ddioddefwyr, gan gynnwys plant, pan fyddant yn cyflawni eu swyddogaethau. Canfu’r gwerthusiad fod y ddyletswydd wedi arwain at well cymorth i blant a phobl ifanc mewn llety diogel, yn enwedig lle roedd gweithwyr plant penodedig yn eu lle, gan sicrhau bod anghenion plant yn cael eu cydnabod ochr yn ochr ag anghenion y goroeswyr sy’n oedolion. Fodd bynnag, roedd y ddarpariaeth yn dal i fod yn anwastad, gyda’r galw am gymorth i blant yn fwy na’r cyflenwad, a bylchau o hyd, yn enwedig i deuluoedd sydd â dau neu fwy o blant, meibion hŷn (dros 13 oed), neu’r rhai â phlentyn/plant ag anghenion ychwanegol neu gymhleth. Nododd y gwerthusiad nad oeddent bob amser yn cael eu monitro’n systematig, a nododd awdurdodau lleol fod angen mwy o gysondeb, disgwyliadau cliriach, ac adnoddau mwy penodol er mwyn sicrhau bod cymorth i blant yn ateb y galw. Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi comisiynu ymchwil bellach i fynd i’r afael â rhai o’r bylchau a nodwyd gan y gwerthusiad, gan gynnwys ymchwil i ddeall sut mae cymorth yn cael ei roi ochr yn ochr â diogelwch mewn cynlluniau nodded (sy’n galluogi dioddefwyr i aros yn eu cartrefi yn ddiogel); ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar fesur effaith y cymorth.
Nodir asesiadau penodol o adrannau unigol isod:
Ers i’r ddyletswydd o dan adran 57 gael ei chyflwyno yn 2021, mae pob awdurdod lleol Haen 1 wedi rhoi’r elfennau statudol sy’n ofynnol o dan y ddyletswydd ar waith, h.y. maent wedi paratoi asesiadau angen ac wedi cwblhau ac wedi cyhoeddi eu strategaethau. Mae awdurdodau lleol hefyd wedi diweddaru eu hasesiadau angen a’u strategaethau yn unol â’r gofyniad statudol i’r rhain gael eu hadolygu bob tair blynedd. Nododd y gwerthusiad annibynnol fod gan awdurdodau lleol a sefydliadau cam-drin domestig arbenigol farn gadarnhaol am y fframwaith adran 57, gan nodi bod y gofynion statudol ar gyfer asesiadau angen, strategaethau a monitro wedi cryfhau gwaith cynllunio lleol ac wedi gwella tryloywder wrth gomisiynu. Nododd awdurdodau lleol fod y ddyletswydd wedi arwain at brosesau mwy cyson ond hefyd fod pwysau ar adnoddau ac amrywiadau o ran ansawdd asesiadau angen rhwng ardaloedd. Yn yr un modd, mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi nodi, er bod Rhan 4 wedi cryfhau strwythur a gweladwyedd cymorth llety, fod cynghorau yn parhau i wynebu cryn bwysau ym maes comisiynu, gan gynnwys y galw cynyddol, cyfyngiadau ar y gallu i ddarparu llety diogel, a phwysau cyllido ehangach.
Caiff cymorth cam-drin domestig sy’n seiliedig ar lety yn Lloegr ei gyllido drwy gyfuniad o gyllidebau craidd awdurdodau lleol a’r grant Rhan 4 a glustnodwyd. Er bod y grant hwn wedi cryfhau cysondeb ac wedi diogelu darpariaeth hanfodol, nid yw fel arfer yn ateb y galw llawn, ac mae cynghorau yn aml yn ei ategu o gronfeydd cyffredinol neu gyllidebau tai. Parheir i dalu am gostau tai o fewn llochesi drwy’r Budd-dal Tai neu’r elfen tai o’r Credyd Cynhwysol yn bennaf. Mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi nodi y bydd yn bwysig gwella cydlyniaeth ffrydiau cyllido ar gyfer gwasanaeth cymorth cam-drin domestig yn y Llywodraeth a mynd i’r afael â’r pwysau ar farchnadoedd tai lleol er mwyn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.
Roedd y sector cam-drin domestig yn gwerthfawrogi’r ffaith bod anghenion yn fwy gweladwy, yn enwedig i blant a goroeswyr wedi’u lleiafrifoli, a bod ymgysylltu cryfach mewn rhai ardaloedd. Ond gwnaethant bwysleisio ymwneud anghyson â’r gwaith o ddatblygu strategaethau, adnoddau cyfyngedig (yn enwedig darparwyr ‘gan ac i’ llai o faint) ac anghysondeb o ran arferion monitro a mesur canlyniadau. Nododd y Gymdeithas Llywodraeth Leol hefyd fod sefydliadau ‘gan ac i’ arbenigol yn wynebu rhwystrau penodol o dan y fframweithiau comisiynu presennol, gan gynnwys anhawster i gystadlu â darparwyr mwy o faint, a all atal amrywiaeth darpariaeth, yn enwedig ar gyfer grwpiau wedi’u lleiafrifoli.
At hynny, mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi codi’r pwynt, er bod yn rhaid i awdurdodau lleol Haen 1 asesu’r angen lleol am lety diogel oherwydd cam-drin domestig, nad oes unrhyw ofyniad ar hyn o bryd i’r asesiadau hyn gael eu cyflwyno’n ôl i’r llywodraeth ganolog. Mae’r hepgoriad hwn, ym marn y Comisiynydd, yn cyfyngu ar allu’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i ddeall pa mor dda mae awdurdodau lleol yn cyflawni’r ddyletswydd statudol. Yn benodol, mae’n ei hatal rhag deall faint o gyllid sy’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i wasanaethau cam-drin domestig arbenigol. Mae hyn yn colli’r cyfle i asesu sut mae Rhan 4 yn cefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau arbenigol a chreu ffynhonnell o dystiolaeth systematig i fonitro, gwerthuso, a gwella’r ffordd y mae’r ddyletswydd ynglŷn â llety diogel yn cael ei rhoi ar waith yn genedlaethol.
Yn unol ag adran 58, mae Byrddau Partneriaeth Lleol bellach wedi’u hymgorffori ledled Lloegr, gyda threfniadau wedi’u dogfennu mewn strategaethau Haen 1. Canfu’r gwerthusiad annibynnol, lle roedd y Byrddau Partneriaeth Lleol wedi’u sefydlu’n gyffredinol ac roeddent yn ganolog i’r gwaith o roi’r ddyletswydd ar waith yn effeithiol, fod hyn yn helpu i ddarparu trefniadau llywodraethu strwythuredig, goruchwyliaeth amlasiantaethol, a dull o sicrhau bod asesiadau angen, strategaethau a chomisiynu yn cael eu llywio gan sylfaen dystiolaeth eang. Mae canfyddiadau’r gwerthusiad hefyd yn dangos bod gwerth am arian a gwell canlyniadau yn fwy tebygol lle roedd lleisiau goroeswyr wedi llywio’r gwaith cynllunio, ac roedd Byrddau Partneriaeth Lleol wedi galluogi dioddefwyr/goroeswyr i ymgysylltu.
Lle roedd y Byrddau wedi ymsefydlu’n dda, h.y. presenoldeb rheolaidd ac ymwneud ystyrlon gan ddarparwyr arbenigol, goroeswyr (gan gynnwys plant), cynrychiolwyr, canfu’r gwerthusiad waith comisiynu wedi’i dargedu’n well, cydweithredu cryfach rhwng asiantaethau, a gwaith cynllunio mwy ymatebol i anghenion dioddefwyr/goroeswyr. Mae hyn yn gyson ag adroddiadau awdurdodau lleol, sydd wedi nodi bod Byrddau Partneriaeth Lleol wedi cryfhau cydweithrediad amlasiantaethol a’r strwythur llywodraethu i gyflawni’r ddyletswydd o dan Ran 4. Canfu llawer o awdurdodau lleol fod y Byrddau wedi gwella cyfathrebu â darparwyr, wedi cefnogi penderfyniadau comisiynu mwy tryloyw, ac wedi helpu i sicrhau bod asesiadau angen, strategaethau a’r broses gyflawni yn cyd-fynd â’i gilydd.
Roedd sefydliadau yn y sector cam-drin domestig, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau ‘gan ac i’, yn gwerthfawrogi’r Byrddau Partneriaeth Lleol am roi mwy o fynediad at swyddogion penderfynu lleol a chynnig mwy o dryloywder o ran comisiynu a chynllunio strategol.
Nododd gwasanaethau arbenigol gydberthnasau cryfach ag awdurdodau lleol lle roedd y Byrddau yn gynhwysol ac wedi’u rhedeg yn dda, ac roedd rhai yn teimlo eu bod yn gallu cael mwy o ddylanwad ar asesiadau angen a’r ffordd y cynllunnir gwasanaethau.
Fodd bynnag, canfu’r gwerthusiad hefyd fod ansawdd ac effeithiolrwydd eu Byrddau Partneriaeth Lleol yn amrywio. Lle roedd presenoldeb anghyson, neu ddiffyg cynrychiolaeth arbenigol neu gynrychiolwyr plant, neu lle roedd Byrddau wedi’u hymgorffori i raddau llai mewn prosesau gwneud penderfyniadau lleol, roedd y broses gyflawni yn wannach. Mae hyn yn gyson â myfyrdodau awdurdodau lleol, sydd wedi nodi heriau, megis pwysau ar adnoddau a dealltwriaeth amrywiol o gyfrifoldebau statudol ymhlith aelodau Bwrdd, a arweiniodd at effeithiolrwydd anwastad ymhlith ardaloedd. Mae’r sector cam-drin domestig hefyd wedi rhannu pryderon o ran gallu cyfyngedig i ymgysylltu yn enwedig o ran sefydliadau llai o faint sy’n gwasanaethu cymunedau heb gefnogaeth ddigonol. Mae’r sector hefyd wedi nodi dylanwad anghydradd lle roedd canfyddiad bod y Byrddau yn cael eu dominyddu gan awdurdodau lleol a thuedd mewn rhai ardaloedd i Fyrddau Partneriaeth Lleol fod â ffocws cul ar lety diogel yn hytrach na’r llwybrau cymorth ehangach y bydd eu hangen ar oroeswyr o bosibl.
Yn unol ag adran 59, mae awdurdodau lleol wedi cydymffurfio â’r gofyniad adrodd blynyddol, gan roi set ddata genedlaethol gyson sy’n cofnodi nifer y dioddefwyr a gafodd gymorth, nodweddion goroeswyr, y galw heb ei ateb a rhesymau dros beidio â rhoi cymorth. Mae’r set ddata hon yn eistedd ochr yn ochr â gofynion strategaeth o dan adran 57 ac mae’n ffurfio sylfaen dystiolaeth fawr at ddibenion monitro cenedlaethol. Mae’n rhaid i awdurdodau
lleol gwblhau eu data blynyddol a’u cyflwyno i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol o fewn tri mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mae ffurflennni data blynyddol gan awdurdodau lleol Haen 1 wedi ei gwneud yn bosibl i gyfres ddata genedlaethol gael ei chyhoeddi sy’n darparu data o flwyddyn i flwyddyn ar y canlynol:
- nifer yr unigolion a gafodd gymorth;
- nodweddion y goroeswyr a gafodd gymorth (gan gynnwys plant);
- mathau o lety a chymorth a ddarparwyd;
- lefel y galw heb ei ateb;
- rhesymau pam na ellid rhoi cymorth i aelwydydd.
Nododd y gwerthusiad annibynnol fod y data wedi’i gwneud yn bosibl i gael darlun cenedlaethol clir o bwysau ar adnoddau, amrywio rhwng ardaloedd, patrymau cenedlaethol a mynediad anghydradd i rai grwpiau goroeswyr.
Mae’r data hefyd wedi tynnu sylw at y cynnydd yn nifer yr unigolion a gafodd gymorth mewn llety diogel o flwyddyn i flwyddyn; a lefelau cyson uchel o alw heb ei ateb, yn enwedig oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau, sef y prif reswm o hyd dros beidio â rhoi cymorth i aelwydydd.
Fodd bynnag, ni all y data ar eu pen eu hunain gofnodi ansawdd na chanlyniadau, a nododd y gwerthusiad a phartneriaid gweithredol fod angen data mwy cyflawn, cyson a manwl – yn enwedig ar gyfer grwpiau arbenigol a grwpiau wedi’u lleiafrifoli. Mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a’r sector cam-drin domestig hefyd wedi pwysleisio gwerth y data blynyddol i fonitro’r hyn a gyflawnir yn lleol. Fodd bynnag, maent wedi galw’n gyson am y canlynol:
- Data mwy cyflawn a chyson ymhlith awdurdodau lleol
- Adroddiadau manylach ar ddarpariaeth arbenigol a darpariaeth “gan ac i”
- Gwell adrodd ar grwpiau goroeswyr nad yw eu hanghenion yn cael eu cofnodi’n dda yn y ffurflenni data blynyddol
- Mwy o ystyriaeth o’r baich ar wasanaethau lleol sy’n cefnogi’r broses o ddatblygu’r adroddiad.
Nododd y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan adran 60 ddisgwyliadau ynglŷn â sut y dylai byrddau weithredu, gan gynnwys eu rôl o ran llywio asesiadau angen a strategaethau, rhoi’r strategaethau ar waith a sicrhau bod lleisiau goroeswyr wedi’u hymgorffori mewn penderfyniadau cynllunio a chomisiynu. Caiff awdurdodau lleol eu hannog i weithio’n agos gyda darparwyr gwasanaethau arbenigol a defnyddio amrywiaeth eang o dystiolaeth wrth asesu angen. Mae’r canllawiau hyn wedi bod yn ganolog o ran safoni disgwyliadau, cefnogi prosesau lleol, egluro sut mae Rhan 4 yn rhyngweithio â dyletswyddau statudol eraill, ac ymgorffori dealltwriaeth gyffredinol o’r hyn y mae “cymorth sy’n seiliedig ar lety” yn ei olygu. Ystyriodd y gwerthusiad i ba raddau roedd yr hyn a gyflawnwyd yn lleol yn gyson â’r canllawiau. Canfu fod cydymffurfedd â’r canllawiau, yn enwedig o ran comisiynu a arweinir gan anghenion, cynnwys darparwyr “gan ac i”, a chymorth i blant, yn gysylltiedig â mynediad a chanlyniadau cryfach mewn llawer o ardaloedd a fu’n destun astudiaeth achos (ond nododd amrywiadau o hyd). Fodd bynnag, mae amrywiadau lleol a phwysau ar adnoddau yn golygu bod effeithiolrwydd yn anghyson ac nad yw bob amser yn glir sut mae penderfyniadau comisiynu mewn rhai awdurdodau lleol yn adlewyrchu’r canllawiau statudol. At hynny, mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi codi’r pwynt y byddai’n fuddiol diweddaru’r canllawiau statudol i gryfhau disgwyliadau ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion penodol dioddefwyr sy’n blant a hefyd sicrhau bod pob bwrdd partneriaeth yn neilltuo rhan benodol o’i agenda i adolygu data, y galw, ac angen a nodwyd.
Darpariaeth diffinio fer yw adran 61, ond mae ei heffaith ar weithredu yn sylweddol gan fod y diffiniadau hyn yn egluro pwy sydd â’r prif ddyletswyddau o dan adrannau 57 a 58. Drwy ddiffinio “awdurdod lleol perthnasol,” mae adran 61 yn nodi pa awdurdodau sy’n gyfrifol am y swyddogaethau statudol craidd (asesiad angen, strategaeth a Byrddau Partneriaeth Lleol).
RHAN 5 – Amddiffyn dioddefwyr, tystion, ac ati mewn achosion cyfreithiol (Adrannau 62-67)
Mae Rhan 5 o’r Ddeddf yn cynnwys chwe adran, sydd, gyda’i gilydd, yn cryfhau mesurau amddiffyn i ddioddefwyr a thystion mewn achosion cyfreithiol.
Caiff Rhan 5 ei hasesu o safbwynt 3 elfen:
- Adrannau 62-64 – sy’n ymwneud â “mesurau arbennig” statudol newydd mewn achosion troseddol, sifil ac achosion teulu.
- Adrannau 65-66 – sy’n ymwneud â gwahardd croesholi’n bersonol o dan amgylchiadau yn y llysoedd sifil a theulu.
- Adran 67 – sy’n ymwneud â’r defnydd o orchmynion gwahardd o dan adran 91(14) o Ddeddf Plant 1989.
Noder, mae’r adrannau hyn wedi cael eu rhoi ar waith yng nghyd-destun ôl-groniadau o hyd a diwygiadau ehangach yn y llysoedd. Nid yw’r cyd-destun ehangach hwn wedi cael ei gynnwys yn yr asesiad, gan fod yr ystyriaethau hyn yn mynd y tu hwnt i gwmpas a bwriad y Ddeddf.
Adrannau 62-64 – Mesurau arbennig mewn achosion troseddol, teulu, a sifil ar gyfer troseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig
Cyflwyniad
Mae mesurau arbennig yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau sydd â’r nod o helpu dioddefwyr a thystion sy’n agored i niwed ac sydd wedi’u bygylu i roi eu tystiolaeth orau mewn achosion troseddol. Gall y rhain, er enghraifft, gynnwys rhoi tystiolaeth o’r tu ôl i sgrin, fel na all y tystion weld y diffynnydd, neu roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo byw o ystafell arall. Gellir hefyd ofyn am gyfuniad o fesurau arbennig.
Mae dau gategori o dystion yn gymwys i ofyn am fesurau arbennig mewn achosion troseddol o dan Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999: (i) tystion sy’n agored i niwed (y rhai o dan 18 oed neu sydd ag anabledd neu anhwylder corfforol neu feddyliol) a (ii) tystion sydd wedi eu bygylu, sy’n debygol o brofi ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth. Pan fydd cais yn cael ei wneud am fesurau arbennig ar sail bygylu, mae’n rhaid iddo ddangos i’r llys fod y tyst yn debygol o brofi ofn neu drallod mewn cysylltiad â rhoi tystiolaeth er mwyn i’r tyst gael ei ystyried yn gymwys i gael mesurau arbennig. Cyn adran 62, dim ond mewn perthynas ag achwynwyr mewn troseddau rhywiol a throseddau caethwasiaeth fodern, a hefyd dystion mewn achosion a oedd yn ymwneud â drylliau neu gyllyll yr oedd cymhwystra awtomatig ar sail ofn neu drallod yn y llys troseddol yn gymwys, oni bai eu bod yn dewis peidio â chael mesurau arbennig.
Gwnaeth adran 62 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 ddiwygio adran 17 o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999 fel y bydd pob achwynydd mewn troseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig honedig yn cael eu hystyried yn rhai wedi’u bygylu yn awtomatig ac felly’n gymwys i gael mesurau arbennig mewn achosion troseddol. Nid yw cymhwystra awtomatig yn golygu y bydd mesurau arbennig yn cael eu caniatáu ym mhob achos.
Mae’n rhaid i farnwr benderfynu a fyddai mesur penodol yn gwella ansawdd tystiolaeth y tyst, gan ystyried dymuniadau’r tyst a’r angen i bob parti allu profi’r dystiolaeth yn effeithiol. Gall achwynwyr sy’n gymwys hefyd ddewis peidio â defnyddio mesurau arbennig o gwbl.
Gwnaeth adran 62 hefyd ddiwygio adran 25(4)(a) o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999 i roi’r pŵer i lysoedd troseddol gyfarwyddo bod tystiolaeth mewn achosion sy’n ymwneud â cham-drin domestig yn cael ei gwrando’n breifat. Cyn hynny, dim ond mewn achosion a oedd yn ymwneud â throseddau rhyw, caethwasiaeth fodern, neu lle roedd gan y llys seiliau rhesymol dros gredu bod tyst wedi cael ei fygylu, neu’n debygol o gael ei fygylu, gan rywun heblaw’r cyhuddedig yr oedd cyfarwyddiadau o’r fath ar gael.
Mae adran 63 yn ei gwneud yn ofynnol i reolau’r llys Teulu ddarparu [that] the court should assume that the quality of a victim of domestic abuse’s evidence, and their participation as a party in proceedings, are likely to be diminished by reason of vulnerability.
Nid yw’r rhan uchod ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.
Roedd adran 64 yn darparu bod partïon sy’n agored i niwed, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, mewn achosion sifil, yn cael cymorth i gymryd rhan mewn achosion sifil. Mae hyn yn dilyn adroddiad y Cyngor Cyfiawnder Sifil, ym mis Chwefror 2020, ar dystion a phartïon sy’n agored i niwed.[footnote 20] Argymhellodd y dylai’r Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Sifil ystyried diwygio’r rheolau trefniadaeth presennol (ac unrhyw gyfarwyddiadau ymarfer ategol) i dynnu sylw pob Barnwr sifil, parti ac eiriolwr ar natur bod yn agored i niwed.
Rhoi’r adran ar waith
Cafodd adran 62 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 ei rhoi ar waith yn rhannol ar 19 Mai 2022. O’r dyddiad hwnnw, daeth achwynwyr mewn achosion o gam-drin domestig yn gymwys yn awtomatig ar gyfer y rhan fwyaf o’r mesurau arbennig sydd ar gael o dan Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999. Fel y’i nodwyd yn rheoliad 2(2) o OS 2022/533, nid yw cymhwystra awtomatig yn ymestyn ar hyn o bryd i brif dystiolaeth ar ffurf fideo-recordio o dan adran 27 o’r Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999, na chroesholi a recordiwyd ymlaen llaw ac ailholi o dan adran 28:
- Er nad yw achwynwyr cam-drin domestig yn gymwys yn awtomatig o dan adran 27 o’r Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol, gall yr heddlu ddefnyddio’r ddarpariaeth hon o hyd, lle mae o’r farn ei bod yn briodol ac y byddai’n helpu achwynwyr i roi eu tystiolaeth orau.
- Mae adran 28 o’r Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol ond wedi cael ei chychwyn ar gyfer tystion sy’n agored i niwed ac achwynwyr mewn perthynas â throseddau rhywiol neu gaethwasiaeth fodern. Felly, mae ond ar gael i achwynwyr mewn perthynas â throseddau cam-drin domestig sy’n gymwys ar wahân ar gyfer un o’r rhesymau hyn. Ar hyn o bryd, nid yw’r Llywodraeth yn bwriadu estyn yr hyn sydd ar gael o dan adran 28 o’r Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol i garfannau eraill. Y flaenoriaeth o hyd yw ymgorffori adran 28 ar gyfer y carfannau y mae wedi cael ei chychwyn ar ei chyfer. Byddai angen i’r Llywodraeth fod yn hyderus bod materion o ran ansawdd a dibynadwyedd wedi cael eu datrys yn llawn, a bod y llwyth achosion presennol yn Llys y Goron wedi lleihau, cyn ystyried estyn adran 28 i achwynwyr mewn achosion o gam-drin domestig.
Daeth adran 63 i rym ar 1 Hydref 2021. Yn unol ag adran 63(2), gwnaed newidiadau i Reolau Trefniadaeth Teulu 2010, yn benodol yn Rhan 3A o’r rheolau a Chyfarwyddyd Ymarfer 3AA, er mwyn sicrhau bod y dybiaeth a amlinellwyd yn adran 63 yn gymwys i ddioddefwyr cam-drin domestig pan fydd y Llys Teulu yn ystyried a ddylid gwneud cyfarwyddiadau cymryd rhan (sy’n cynnwys cyfarwyddiadau ynglŷn â mesurau arbennig yn y Rheolau Trefniadaeth Teulu). Gwnaeth y diwygiadau hyn hefyd gyflwyno eithriad i’r dybiaeth honno, os na fydd y dioddefwr yn dymuno bod y dybiaeth yn gymwys, fel sy’n ofynnol o dan adran 63(4).
Daeth adran 64 i rym ar 14 Mehefin 2022. Ar gais y Llywodraeth, gwnaeth y Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Sifil ddiwygio Cyfarwyddyd Ymarfer 1A ar 31 Mai 2022 i gyfeirio’n benodol at fod yn agored i niwed a darpariaethau priodol y mesurau arbennig yn y llysoedd sifil.[footnote 21] Rhoddodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ganllawiau i’w staff ym mis Gorffennaf 2022, gan eu diweddaru ym mis Tachwedd 2025. Cynhaliwyd ymarfer codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i’r farnwriaeth hefyd i baratoi ar gyfer rhoi’r adran ar waith.
Asesiad
Mae adrannau 62-64, ym marn Llywodraeth y DU, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, partneriaid plismona, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru, wedi cael eu rhoi ar waith, ac eithrio adran 62 sydd wedi’i rhoi ar waith yn rhannol. Ond mae diffyg data i ategu’r asesiad ac mae tystiolaeth anecdotaidd, o’r llysoedd a’r sector cam-drin domestig, yn dangos bod ymdrech i roi’r darpariaethau ar waith, ond mai cyfyngedig ydyw oherwydd cyfyngiadau ehangach.
Asesiad ar y Cyd:
Mae’r data cyfredol ar niferoedd a defnydd yn gyfyngedig, sy’n ei gwneud yn heriol i ddod i gasgliadau cadarn ynglŷn ag effaith gyffredinol adrannau 62, 63 a 64 ar y defnydd o fesurau arbennig i achwynwyr cam-drin domestig ar hyn o bryd.
Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw ddata cymharol ynglŷn â’r defnydd o fesurau arbennig cyn ac ar ôl i adrannau 62, 63 a 64 gael eu rhoi ar waith.
Er enghraifft, nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn coladu data ynglŷn â darparu mesurau arbennig ym mhroses y llys sifil ar gyfer hawliadau ar bapur. Fodd bynnag, mae’r llwyfannau digidol sifil Online Civil Money Claims a’r Damages Claims Portal yn cynnwys nodwedd sy’n ei gwneud yn bosibl i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF gofnodi â llaw fesur arbennig y gofynnir amdano mewn achos sy’n galluogi llysoedd lleol i ddarparu’r mesur/au i helpu partïon i gymryd rhan mewn gwrandawiadau. Ond nid yw gwybodaeth/data o’r fath ar gael yn ganolog ar hyn o bryd.
Mae cynnydd yn cael ei wneud i sicrhau rhagor o ddata ar y broses o roi adrannau 62, 63 a 64 ar waith a chryfhau’r sylfaen dystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwaith Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF i gyflwyno ffrwd waith trawsawdurdodaethol ar fesurau arbennig sydd â’r nod o ddatblygu dulliau arfer gorau o reoli ceisiadau am fesurau arbennig a gwella profiad defnyddwyr i’r rhai sy’n gofyn amdanynt. Mae hyn yn cynnwys cynllun peilot mewn tair ardal llys (a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2026) gyda’r nod o sicrhau arferion gorau cyson ac effeithiol ynglŷn â mesurau arbennig yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, ni waeth beth yw’r awdurdodaeth neu’r adeilad llys.
- Mae’r gwasanaeth digidol newydd ‘Manage Cases’ ar gyfer llysoedd Sifil a Theulu a Thribiwnlysoedd wedi cael ei gyflwyno yn y llysoedd. Fodd bynnag, bwriedir cyflwyno adnoddau ychwanegol yn raddol, a fydd yn rhoi’r gallu i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF goladu data ynglŷn â’r defnydd o fesurau arbennig ym mhroses y llys ac a fydd yn galluogi swyddogion i ddatblygu sail dystiolaeth gryfach ynglŷn â’r defnydd o fesurau arbennig yn y dyfodol.
- Mae gwaith pellach yn cael ei wneud i wella’r data a’r ddealltwriaeth o adran 62. Creodd Deddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024 fframwaith i fonitro a yw asiantaethau cyfiawnder troseddol yn cydymffurfio â’r Cod i Ddioddefwyr, gan gynnwys dyletswyddau deddfwriaethol ar asiantaethau i gasglu a rhannu gwybodaeth ar gydymfffurfio â’r Cod. Unwaith y daw’r darpariaethau perthnasol i rym, bydd yn ofynnol i gyrff cyfiawnder troseddol gasglu gwybodaeth a ragnodwyd mewn is-ddeddfwriaeth ynghylch a yw gwasanaethau yn cael eu darparu mewn cydymffurfedd â’r Cod, a sut.
- Mae Rhaglen Gwella Data’r System Cyfiawnder Troseddol yn bwriadu cefnogi gwelliannau i ansawdd data dioddefwyr a ddelir ar lwyfannau’r system gyfiawnder. Er mai ar gam cynnar y mae’r gweithgarwch hwn, drwyddo, gallwn gasglu rhagor o ddata ar y defnydd o fesurau arbennig a helpu i gael darlun cliriach o’r hyn sy’n gweithio’n dda a lle y bydd angen gwneud gwelliannau pellach o bosibl.
Nodir asesiadau penodol o adrannau unigol isod:
Mae adborth gan heddluoedd yn dangos profiadau cymysg ar ôl i gymhwystra awtomatig ar gyfer mesurau arbennig o dan adran 62 gael ei gyflwyno. Mae un heddlu wedi nodi bod y gallu i ddweud wrth ddioddefwyr o’r cychwyn eu bod yn gymwys yn awtomatig ar gyfer mesurau arbennig wedi gwneud trafodaethau yn haws, wedi helpu i fagu hyder dioddefwyr, ac wedi cefnogi ymgysylltu, yn enwedig o ran ystyried opsiynau cyswllt byw. Mae cymhwystra awtomatig hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd i addasu’r mesurau at anghenion dioddefwyr. Fodd bynnag, mae heddlu arall wedi nodi, er bod cymhwystra awtomatig wedi helpu i sicrhau cysondeb o ran y gallu i gynnig mesurau arbennig i ddioddefwyr, nad yw ar ei ben ei hun wedi cael effaith sylweddol ar wella ymgysylltu ymhlith dioddefwyr na chefnogaeth i erlyn achos. Nododd fod cymhwystra awtomatig yn dangos bod cam-drin domestig yn cael ei gymryd o ddifrif, ond nad yw’n ‘bwynt gwerthu’ o ran annog ymgysylltu. Roedd swyddogion yn tueddu i ddefnyddio iaith syml yn hytrach na chyfeirio’n benodol at gymhwystra awtomatig.
Mae heddluoedd hefyd wedi nodi nad yw cymhwystra awtomatig wedi cael gwared ar y gofyniad i wneud ceisiadau clir â rhesymau da sydd wedi’u teilwra at amgylchiadau pob dioddefwr, a all greu problemau gweithredol a beichiau ar heddluoedd, gan arwain at oedi. At hynny, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi codi’r pwynt, er bod dioddefwyr bellach yn gymwys yn awtomatig i wneud cais am fesurau arbennig penodol, fod angen o hyd i’r llys benderfynu a ddylid rhoi mesurau, a pha fesurau.
Ymdrinnir â’r rhan fwyaf o achosion o gam-drin domestig yn y llysoedd ynadon. Mae Gweithgor Arweinwyr Cam-drin Domestig Rhanbarthol Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn helpu’r rhanbarthau i gyflwyno gwasanaeth teg, hygyrch a chynhwysol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig mewn llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gwneud hynny drwy gyfuno arbenigedd a phrofiad ac mae’n rhoi arweiniad, deunydd, a gwybodaeth i staff Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF a’r farnwriaeth er mwyn gwella’r ffordd yr ymdrinnir ag achosion a phrofiad dioddefwyr cam-drin domestig sy’n ymgysylltu â’n llysoedd. Mae adborth gan Arweinwyr Cam-drin Domestig yn nodi bod camddealltwriaeth ymhlith ymarferwyr ynglŷn ag effaith adran 62. Er bod adran 62 yn gwneud tystion mewn achos o gam-drin domestig yn gymwys i gael mesurau arbennig, oni bai nad ydynt yn dymuno eu defnyddio, mae hyn yn aml yn cael ei gamddehongli fel hawl awtomatig. Mae timau gweithredol yn mynd ati i sicrhau bod Arweinwyr Cam-drin Domestig yn deall y pryder hwn yn fanylach. Hefyd, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn archwilio’r mater hwn ymhellach gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ac yn penderfynu a allai fod angen rhagor o arweiniad neu hyfforddiant er mwyn helpu ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth gliriach a mwy cyson o’r ddarpariaeth hon.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd wedi gwneud gwaith i wella’r data a fyddai’n cefnogi asesiadau o adran 63 yn y dyfodol. Er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o brofiadau yn y Llys Teulu, gan gynnwys y defnydd o fesurau arbennig, gwnaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyllido Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig i gyflwyno dull o fonitro cam-drin domestig mewn achosion preifat ac achosion plant a chyflwyno adroddiadau ar hyn.
Adolygodd Swyddfa’r Comisiynydd 298 o ffeiliau achos a oedd yn ymwneud ag achosion trefniadau plentyn mewn tri llys teulu a gaewyd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023. Er bod maint y sampl a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adolygiad hwn yn fach, mae’n rhoi rhywfaint o wybodaeth am y defnydd o fesurau arbennig yn y Llys Teulu – sy’n rhoi darlun cymysg o ran y broses rhoi ar waith. Cyhoeddodd y Comisiynydd ei hadroddiad “Everyday business: addressing domestic abuse and continuing harm through a family court review and reporting mechanism” ym mis Hydref 2025.[footnote 22] Roedd yn cynnwys adolygiad o 100 o ffeiliau mewn achosion trefniadau plentyn, arsylwi ar wrandawiadau mewn sampl o achosion byw rhwng mis Mawrth a mis Mehefin 2024, grwpiau ffocws â goroeswyr cam-drin domestig, a chyfweliadau â barnwyr, ynadon a swyddogion Cafcass/Cafcass Cymru ym mhob llys. Canfu’r adroddiad y canlynol:
- Ym mhob llys lle bu arsylwi roedd sgriniau ar gael ac roeddent yn gallu darparu ardaloedd aros ar wahân o ryw fath. Ond nid oedd gan yr un llys fynedfeydd ar wahân i bartïon sy’n agored i niwed.
- Dim ond mewn 20-21% o ffeiliau y gwelwyd tystiolaeth o geisiadau am fesurau arbennig, er gwaethaf y lefel uwch o ddefnydd a welwyd. Yn ystod yr ymarfer arsylwi, gwelwyd mesurau arbennig yn cael eu rhoi ar waith mewn 43% o’r holl wrandawiadau yr arsylwyd arnynt. Mewn achosion y nodwyd eu bod yn ymwneud â cham-drin domestig, defnyddiwyd mesurau arbennig mewn 53% o wrandawiadau. Mae hyn yn dangos bwlch cofnodi.
- Roedd y defnydd o fesurau arbennig yn amrywio rhwng llysoedd o 27% i 53%.
Ar y cyfan, mae myfyrdodau’r Comisiynydd Cam-drin Domestig a’r sector cam-drin domestig yn adlewyrchu’r ffaith bod staff y llys a’r farnwriaeth yn gwneud eu gorau i wneud i fesurau arbennig weithio mor effeithiol â phosibl o fewn cyfyngiadau adeilad y llys a’r cyfarpar a oedd ar gael.
O ran adran 64, nodir bod mesurau arbennig yn cael eu defnyddio’n amlach yn y llysoedd troseddol a theulu, yn hytrach na’r llysoedd sifil. Mae’r Rheolau Trefniadaeth Sifil yn manylu ar yr ymarfer a’r weithdrefn y mae’n rhaid eu dilyn yn y llysoedd sifil yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rheolau hyn yn cael eu cefnogi gan Gyfarwyddiadau Ymarfer sy’n dod o dan y rheolau ac maent yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â gweithdrefnau neu brosesau. Prif nod y Rheolau Trefniadaeth Sifil yw galluogi’r llysoedd i ymdrin ag achosion yn gyfiawn.
Disgwylir i’r gwaith trawstoriadol i wella mesurau arbennig helpu o ran deall ansawdd y broses o roi adran 64 ar waith.
Adrannau 65 a 66 – Gwahardd Croesholi’n Bersonol mewn achosion teulu a sifil
Cyflwyniad
Bwriad adrannau 65 a 66 yw diogelu dioddefwyr a thystion eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu haildrawmateiddio yn ystod achosion llys.
Cyflwynodd adran 65 waharddiad statudol ar groesholi personol rhwng dioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin domestig honedig mewn achosion teuluol.
Mewnosododd adran 66 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 Ran 7A newydd (sef adrannau 85E i 85N) yn Neddf Llysoedd 2003 er mwyn gwneud darpariaeth ynglŷn â chroesholi tystion sy’n agored i niwed mewn achosion sifil yng Nghymru a Lloegr.
Roedd adrannau 65 a 66 yn cynnwys darpariaethau i wahardd cyflawnwyr neu gyflawnwyr cam-drin honedig yn awtomatig rhag croesholi eu dioddefwyr yn bersonol yn y llysoedd sifil neu’r llysoedd teulu, ac fel arall, lle y byddai’n effeithio ar ansawdd tystiolaeth y tyst neu’n achosi cryn drallod. Ni chaiff parti sydd wedi cael ei euogfarnu, wedi cael rhybuddiad, neu wedi cael ei gyhuddo o drosedd benodedig, neu y mae gwaharddeb mewn grym yn ei erbyn, groesholi’n bersonol dyst sy’n ddioddefwr neu’n ddioddefwyr honedig, y drosedd honno neu sydd wedi’i ddiogelu gan y waharddeb ac fel arall. Hefyd, pan fydd tystiolaeth benodol yn cael ei chyflwyno bod tyst wedi dioddef cam-drin domestig gan barti yn yr achos, ni chaff y parti hwnnw groesholi’r tyst yn bersonol ac fel arall. Caiff y llys teulu neu sifil hefyd roi cyfarwyddyd yn gwahardd parti rhag croesholi tyst os byddai’n achosi cryn drallod neu os byddai’n arwain at dystiolaeth o ansawdd gwael ac na fyddai’n groes i gyfiawnder. Pan fydd y waharddeb yn gymwys, mae’n rhaid i’r llys ystyried yn gyntaf a oes ffordd “amgen foddhaol” o groesholi’r tyst neu o gael y dystiolaeth berthnasol.
Ar gyfer adran 65 ac adran 66, os bydd y llys yn penderfynu nad oes ffordd amgen foddhaol ar gael, bydd yn ofynnol i’r parti gwaharddedig drefnu, o fewn terfyn amser penodedig, i gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig ymgymryd â’r croesholiad ar ei ran a hysbysu’r llys am y trefniadau hyn.[footnote 23] Os bydd y parti, ar ôl y terfyn amser, yn cadarnhau nad yw wedi gallu sicrhau cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, neu os nad yw’r llys wedi cael ei hysbysu a daw i’r casgliad na chaiff neb ei benodi, mae’n rhaid i’r llys benderfynu, er cyfiawnder, a oes angen penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys i ymgymryd â’r croesholiad. Os cyrhaeddir y trothwy hwn, mae’n rhaid i’r llys benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig. Nid yw cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a benodir gan y llys yn gyfrifol i’r parti yn y ffordd arferol.
Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn darparu bod yr Arglwydd Ganghellor yn gallu gwneud darpariaeth i dalu ffioedd neu gostau cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig o gyllid canolog a rhoi canllawiau mewn cysylltiad â’u rôl.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adrannau 65 a 66 i rym ar 21 Gorffennaf 2022, ar yr un pryd ag y daeth y cynllun ar gyfer cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig yn weithredol.
Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu â’r proffesiwn cyfreithiol cyn eu rhoi ar waith. Rhoddodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ganllawiau i’w staff ym mis Gorffennaf 2022, gan eu diweddaru ym mis Tachwedd 2025.
Cynhaliwyd ymarfer codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant i’r farnwriaeth hefyd i baratoi ar gyfer rhoi’r adran ar waith.
Ategwyd adran 65 gan Gyfarwyddyd Ymarfer 3AB o’r Rheolau Trefniadaeth Teulu a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2022.[footnote 24] Ategwyd adran 66 gan Gyfarwyddyd Ymarfer 1A o’r Rheolau Trefniadaeth Teulu a gyflwynwyd ym mis Mai 2022.[footnote 25]
Asesiad
Mae adrannau 65 a 66, ym marn Llywodraeth y DU, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, wedi cael eu rhoi ar waith, ond bu heriau gweithredol o hyd, sydd wedi cyfyngu ar effaith fwriadedig ar gyfer adran 65 yn bennaf (Llys Teulu).
Yn fewnol, rhoddodd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ganllawiau i staff y llys a fyddai’n trefnu darpariaeth cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig mewn achosion sifil a theuluol er mwyn helpu gyda’r broses. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys llwybrau uwchgyfeirio ar gyfer ymholiadau ac maent yn cael eu hadolygu a’u hadnewyddu’n rheolaidd.
Ar gyfer adran 66, mae’r data mewnol a gofnodir â llaw gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn awgrymu mai anaml iawn y defnyddir y ddarpariaeth hon mewn achosion sifil; mae hyn yn debygol o adlewyrchu’r nifer cymharol fach o achosion sy’n bodloni’r meini prawf a bennwyd yn y Ddeddf Cam-drin Domestig a hefyd y gyfran fach o achosion yn yr awdurdodaeth sy’n mynd i dreial. Mae’r data a gesglir â llaw yn awgrymu bod 27 o achosion o benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig dros y ddwy flynedd diwethaf ar gyfer llysoedd sifil. Fodd bynnag, nodir cafeat mawr, oherwydd natur y data a gesglir â llaw ac mae’n debygol bod y data yn tangynrychioli’r ffigur cywir. Fodd bynnag, mae’n dangos bod y darpariaethau yn cael eu defnyddio drwy’r awdurdodaeth gyfan.
Credir bod adran 65 yn cael ei defnyddio’n amlach, ac mae llysoedd teulu wedi nodi problemau o ran penodi cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig. Mae’r nifer bach o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sydd ar gael wedi arwain at ohirio achosion, oedi, ac mae rhai barnwyr wedi troi’n ôl at yr arfer, cyn y Ddeddf Cam-drin Domestig, o holi tystion sy’n agored i niwed eu hunain. Mae hyn yn beth dryslyd i dystion ac yn tanseilio bwriad y cynllun, yn ogystal â chymylu’r ffin rhwng barnu ac eirioli. Mae niferoedd bach o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig wedi arwain at feirniadaeth gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig, uwch-farnwyr, cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig, a chyrff proffesiynol cyfreithiol.
Ym marn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, daeth y gwaharddiad ar groesholi i rym cyn bod nifer digonol o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig wedi cofrestru i ymgymryd â’r gwaith. Y disgwyliad oedd y byddai staff Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn gallu troi at y gofrestr a phenodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn gyflym ar sail rota. Yn ymarferol, nododd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF ei bod yn ofynnol i staff gysylltu â phob cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a oedd wed cofrestru a’u bod yn methu o hyd â dod o hyd i rywun i ymgymryd â’r achos. Roedd tasg yr oedd disgwyl iddi gymryd 10 munud weithiau yn cymryd sawl awr neu ddiwrnodau hyd yn oed ac roedd hyn i gyd yn waith ychwanegol nas cyllidwyd ar ei gyfer. I ddechrau, gofynnwyd i staff y llys ffonio cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig neu e-bostio unigolion, ond cafodd y canllawiau eu diweddaru fel y gallent anfon copi dall at bob cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig a oedd wedi cofrestru, gyda’r bwriad o’i gwneud yn fwy tebygol y byddai rhywun yn derbyn yr achos. Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF bellach yn gofyn i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig nod os oeddent yn fodlon i lysoedd heblaw eu dewis safleoedd gysylltu â nhw hefyd.
Ochr yn ochr â hyn, gwnaeth y Llywodraeth gynyddu ffioedd penodedig cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig 10% (heb gynnwys TAW) a chyflwyno ffi newydd am ‘benodiadau a derfynwyd’ ar 31 Mai 2024. Mae’r ffi newydd yn caniatáu i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig gael eu digolledu pan fyddant wedi cael eu penodi ac wedi ymgymryd ag o leiaf 30 munud o waith paratoi ond nad oedd eu hangen wedyn. Er enghraifft, os bydd y parti gwaharddedig yn dod o hyd i’w gyfreithiwr ei hun. Roedd y newidiadau hyn i’r ffi ar ben y polisi ynglŷn â threuliau a gyflwynwyd ar 2 Ionawr 2024, sy’n golygu bod cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig yn gallu hawlio treuliau ar ôl teithio i weithio mewn llys nad yw’n lleol iddynt.
Mae’r mesurau hyn wedi cael derbyniad cadarnhaol ac mae nifer y cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig wedi cynyddu. Ym mis Mawrth 2026, mae data mewnol Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn dangos bod 769 o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig cofrestredig. Mae 540 yn gweithredu yn y llysoedd teulu ac mae 229 o gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sifil yn gweithredu yn y llysoedd sifil. Gwelwyd cynnydd canrannol o 80% yn nifer y cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig cofrestredig rhwng mis Hydref 2024 (428) a mis Mawrth 2026 (769).
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn nodi, er bod nifer y cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig wedi cynyddu, fod llawer ohonynt wedi cofrestru ar gyfer sawl llys a rhanbarth yn y disgwyliad y byddant yn gallu cymryd rhan mewn gwrandawiadau o bell. Y farn bolisi yn hyn o beth yw y dylent fod yn bresennol yn bersonol ac nid o bell. Mae’r llysoedd yn nodi eu bod yn cael anhawster i gael cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig i ddod i wrandawiadau yn bersonol, ac er ei bod yn haws penodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, fod problemau pan fyddant yn canslo heb roi rhesymau digonol, sy’n gosod pwysau ychwanegol ar dimau llys sydd eisoes o dan bwysau.
Mae adborth rhanddeiliaid yn parhau i nodi bod ffioedd yn ffactor arwyddocaol sy’n dylanwadu ar nifer y cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig. Mae swyddogion polisi yn ystyried opsiynau posibl i ddiwygio’r ffioedd er mwyn rhoi cymhelliant i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig dderbyn y gwaith. Un ffactor arall sy’n ymwneud â ffioedd yw bod y rheoliadau ynglŷn â ffioedd yn ei gwneud yn ofynnol i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig gyflwyno eu hawliadau am dâl i’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol o fewn tri mis i wrandawiad a gwblhawyd neu a ganslwyd neu derfynu penodiad. Yn ymarferol, mae cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig yn aml yn cael y ddogfennaeth angenrheidiol yn hwyr gan y llysoedd/y farnwriaeth, sy’n arwain at nifer mawr o hawliadau hwyr am dâl i’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, cyflwynwyd 220 o hawliadau hwyr am dâl gan gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig, a chyflwynwyd y mwyafrif o’r rhain 3-6 mis ar ôl y gwrandawiad. Mae hyn wedi bod yn broblem hirsefydlog ers i’r cynllun fod yn weithredol. Ar hyn o bryd, nid yw’n broblem am fod yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn talu hawliadau hwyr. Fodd bynnag, mae swyddogion polisi yn ceisio ymdrin â’r broblem hon drwy roi mwy o amser i gyflwyno hawliadau a chadarnhau’r goblygiadau os na chaiff hawliadau eu cyflwyno o fewn y terfyn amser penodedig. Er mwyn gwneud hyn byddai angen offeryn statudol a diwygiadau i’r canllawiau statudol.
Ategir cynllun y cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig gan ganllawiau statudol, sy’n nodi diben a chwmpas y rôl. Mae’r canllawiau yn amlinellu sut y bydd y rôl yn gweithredu’n ymarferol. Mae hefyd yn nodi egwyddorion a chyfyngiadau sy’n benodol i’r rôl statudol, y mae’n rhaid iddynt gael eu hadlewyrchu yng ngweithredoedd a phenderfyniadau’r cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig.
Hefyd, mae’r canllawiau yn helpu i roi eglurder ynglŷn â rôl y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig er budd y llys, y partïon a’u cynrychiolwyr mewn achosion lle y gall llys benodi cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig neu lle mae wedi penodi un. O dan ganllawiau statudol, mae’n ofynnol i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig gwblhau hyfforddiant ar dystion sy’n agored i niwed ac eiriolaeth sy’n canolbwyntio ar y teulu, neu ddangos bwriad i wneud hyn, o fewn chwe mis i gofrestru ar gyfer y cynllun. Ystyrir bod yr hyfforddiant hwn yn hanfodol i ymarferwyr sy’n gweithio gyda thystion sy’n agored i niwed a dioddefwyr cam-drin domestig. Fodd bynnag, mae cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig wedi cael anhawster i ddilyn yr hyfforddiant gofynnol o ganlyniad i lefel isel o ddarpariaeth hyfforddiant addas. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn parhau i ddatblygu ei hyfforddiant i gynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig sy’n gyfreithwyr, ond bu oedi cyn ei gyflwyno. Mae swyddogion polisi yn ymgysylltu â Chymdeithas y Cyfreithwyr i fonitro cynnydd.
Mae swyddogion polisi hefyd yn ystyried a ddylid diwygio agweddau ar y canllawiau statudol, gan gynnwys cynigion i gyflwyno seiliau dros dynnu unigolion oddi ar gofrestr y cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig neu ddadgofrestru. Mae’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF wedi codi pryderon ynglŷn ag unigolion penodol y gellid cyfiawnhau eu dadgofrestru o bosibl. Mae’r materion o dan ystyriaeth yn cynnwys a ddylai telerau dadgofrestru gynnwys bod cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn gallu cael ei ddadgofrestru am achosion mynych o beidio â bod yn bresennol neu bresenoldeb hwyr, neu lle mae cyrff neu reoleiddwyr yn y sector cyfiawnder yn codi pryderon â thystiolaeth neu’n rhoi sancsiynau sy’n eu hatal rhag ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol. Bydd y canllawiau statudol diwygiedig hefyd yn ystyried rhoi cyfarwyddyd cliriach ynglŷn â phryd y dylai llysoedd ystyried achosion o wrthdaro buddiannau, er enghraifft lle mae cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig hefyd yn gweithredu fel cynrychiolydd troseddol y parti.
Adran 67 – Gorchmynion o dan adran 91(14) o Ddeddf Plant 1989
Cyflwyniad
Bwriadwyd i adran 67 fynd i’r afael â phum nod craidd (isod) drwy ddiwygio Deddf Plant 1989 i egluro pryd y caiff y llys wneud gorchymyn o dan adran 91(14) o Ddeddf Plant 1989. Mae adran 91(14) o Ddeddf Plant 1989 yn rhoi pŵer i lysoedd, o dan amgylchiadau penodol, orchymyn na chaiff unrhyw gais am orchymyn o dan y Ddeddf honno ei wneud gan unrhyw berson a enwir yn y gorchymyn heb ganiatâd y llys. Wrth wneud hynny, mae’n ceisio:
- Atal cyn-bartneriaid camdriniol rhag dwyn dioddefwyr yn ôl i’r llys dro ar ôl tro. Nodwyd y camddefnydd hwn o brosesau’r llys fel niwed penodol yn Adroddiad 2020 y Panel Niwed.
- Amddiffyn dioddefwyr a phlant rhag niwed pellach a achosir gan geisiadau mynych neu niweidiol. Mae’r mesur yn helpu i gau bylchau a ddatgelwyd gan ymchwil, megis Adroddiad y Panel Niwed a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2020, a ddangosodd fod gorchmynion adran 91(14) yn cael eu tanddefnyddio, gan adael dioddefwyr yn agored i geisiadau mynych gan gyflawnwyr.
- Egluro y gall llysoedd osod y gorchmynion hyn ar eu menter eu hunain.Mae hyn yn tynnu’r baich oddi ar ddioddefwyr, a oedd yn ystyried yn flaenorol bod yn rhaid iddynt wneud cais am orchmynion o’r fath eu hunain, yn aml am eu bod yn ofni ôl-effeithiau.
- Sicrhau bod llysoedd yn ystyried a yw amgylchiadau wedi newid cyn caniatáu rhagor o geisiadau. Mae’r fframwaith diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i lysoedd ystyried a yw newid perthnasol mewn amgylchiadau wedi digwydd cyn rhoi caniatâd i berson gwaharddedig wneud cais arall. Wrth wneud hyn, mae’r gofyniad hwn yn cryfhau’r broses hidlo ac yn sicrhau mai dim ond ceisiadau dilys fydd yn mynd rhagddynt yn y dyfodol.
- Gwella prosesau diogelu plant a lleihau niwed emosiynol.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 67 i rym ar 19 Mai 2022. Mae’n cynnwys darpariaeth yn nodi bod yr amgylchiadau lle y caiff y llys wneud gorchymyn adran 91(14) yn cynnwys lle mae’r llys wedi’i fodloni y byddai gwneud cais am orchymyn o dan Ddeddf Plant 1989 yn golygu bod y plentyn dan sylw, neu unigolyn arall, yn wynebu risg o niwed.
Ategwyd y gwaith o roi adran 67 ar waith drwy gyflwyno Cyfarwyddyd Ymarfer 12Q, sy’n ategu Rheolau Trefniadaeth Teulu 2010, a roddodd fframwaith gweithdrefnol clir i’r farnwriaeth ystyried arfer ei disgresiwn i wneud gorchymyn o dan adran 91(14) o Ddeddf Plant 1989, gan gynnwys cymhwyso’r ddarpariaeth “risg o niwed” yn adran 91A.
Cafodd Cyfarwyddiadau Ymarfer cyfredol eraill eu diweddaru ochr yn ochr â chyflwyno adran 91A. Mae’r diwygiadau yn pwysleisio bod gorchmynion adran 91(14) yn gweithredu fel adnoddau amddiffyn plant, gan atal niwed seicolegol ac emosiynol. Mae hyn yn gyson â diben ehangach y Ddeddf Cam-drin Domestig, sef blaenoriaethu diogelwch plant mewn cyd-destunau cam-drin domestig.
Asesiad
Mae adran 67, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, yn cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, bydd angen rhagor o ddata i roi sicrwydd ei bod wedi cael ei rhoi ar waith yn effeithiol.
Mae adborth gan y sector cam-drin domestig wedi nodi bod newid cadarnhaol wedi digwydd o ran sut roedd y llysoedd yn ymdrin â gorchmynion adran 91(14) lle roedd dioddefwyr a gorchmynion cam-drin domestig yn eu ceisio.
Gwnaeth y sector hefyd nodi ymdeimlad bod llai o stigma yn gysylltiedig â gofyn am orchmynion o’r fath.
Fodd bynnag, nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn coladu data ar y defnydd o orchmynion adran 91(14). Fel y cyfryw, nid oes unrhyw ddata cymharol ar gael ar y defnydd o’r gorchmynion hyn cyn ac ar ôl i adran 67 gael ei rhoi ar waith. Fodd bynnag, drwy wasanaeth digidol newydd y llysoedd teulu (Manage Cases) bydd y llysoedd yn gallu cofnodi pryd mae gorchymyn adran 91(14) yn cael ei wneud. Dim ond mewn pedair ardal Llys Teulu Dynodedig y defnyddir y system ar gyfer cyfraith breifat ar hyn o bryd. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn parhau i fonitro’r defnydd o orchmynion o dan adran 91 ac yn ymgysylltu â’r sector cam-drin domestig a’r farnwriaeth i nodi cyfleoedd i wella’r ddealltwriaeth o adran 67 a’r ffordd y caiff ei rhoi ar waith.
RHAN 6 – Troseddau sy’n ymwneud ag ymddygiad camdriniol neu dreisgar (Adrannau 68-74)
Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn cynnwys saith adran, sydd, gyda’i gilydd, yn cyflwyno neu’n diwygio troseddau sy’n ymwneud ag ymddygiad camdriniol neu dreisgar.
Caiff Rhan 6 ei hasesu o safbwynt saith elfen:
- Adran 68 – sy’n ymwneud â diwygio’r drosedd ynglŷn ag ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol.
- Adran 69 – sy’n ymwneud â bygythiadau i ddatgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gyda’r bwriad o achosi trallod.
- Adran 70 – sy’n ymwneud ag achosion o dagu a mygu nad yw’n angheuol.
- Adran 71 – sy’n ymwneud â chydsynio i niwed difrifol at ddibenion pleser rhywiol yn peidio â bod yn amddiffyniad.
- Adrannau 72-74 – a fydd yn cael eu hasesu gyda’i gilydd am eu bod yn ffurfio set o ddarpariaethau ynglŷn â throseddau a gyflawnwyd y tu allan i’r DU.
Adran 68 – Ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol
Cyflwyniad
Bwriad adran 68 yw cefnogi mwy o ddioddefwyr cam-drin domestig drwy estyn diogelwch cyfraith droseddol, o dan y drosedd ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol, i ddioddefwyr sy’n profi cam-driniaeth gan gyn-bartner ar ôl gwahanu. Mae hyn yn bwysig am fod y dystiolaeth yn dangos y gall camdriniaeth gan gyn-bartner agos barhau, ac mewn rhai achosion, ddwysáu ar ôl gwahau, sef cyfnod lle mae dioddefwyr cam-drin domestig yn aml yn agored iawn i niwed.[footnote 26] Mae’r estyniad hwn yn ymdrin â’r risg hon.
Mae adran 68 yn diwygio adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015, sy’n creu’r drosedd ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol. Cyn ei diwygio, roedd y drosedd hon ond yn gymwys lle roedd y partïon yn bersonol gysylltiedig, a ddiffiniwyd fel perthynas rhwng partneriaid agos; cyn-bartneriaid a oedd wedi parhau i fyw gyda’i gilydd; neu aelodau o’r teulu a oedd wedi byw gyda’i gilydd. Mae’n gwneud adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 yn gyson â’r diffiniad o bersonol gysylltiedig yn adran 2 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Wrth wneud hyn, mae’n dileu’r gofyniad bod yn rhaid bod y dioddefwr a’r cyflawnwr yn byw gyda’i gilydd, gan estyn y drosedd ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol i gyn-bartneriaid agos neu aelodau o’r teulu, p’un a ydynt yn rhannu aelwyd ai peidio.
Mae adran 77 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi canllawiau statudol, y mae’n rhaid i unrhyw bersonau neu asiantaeth sy’n ymchwilio i droseddau mewn perthynas ag ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol o dan adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 roi sylw iddynt.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 68 i rym ar 5 Ebrill 2023. Ar yr un pryd, cyhoeddwyd y Canllawiau Statudol ar Ymddygiad Rheolaethol neu Orfodaethol, a hynny ar yr un diwrnod.[footnote 27]
Asesiad
Mae adran 68, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru, partneriaid plismona, Gwasanaeth Erlyn y Goron, a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, yn cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Nododd partneriaid plismona fantais y drosedd mewn ymateb i fathau newydd canfyddedig o droseddu, y gellir eu cynnwys o dan gwmpas ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol. Fodd bynnag, erys heriau o hyd o ran y data sy’n cael eu casglu am y drosedd a phroblemau gweithredol sy’n atal y drosedd rhag cael ei chyflwyno’n effeithiol.
Yn ôl myfyrdodau rhanddeiliaid, mae adran 68 yn hollbwysig o ran amddiffyn dioddefwyr sy’n wynebu ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol gan aelod o’r teulu nad ydynt yn byw gydag ef/hi. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, ddioddefwyr camdriniaeth ar sail ‘anrhyddedd’ fel y’i gelwir, lle na fydd cyflawnwyr yn rhannu aelwyd â’r dioddefwr o bosibl ond lle maent, serch hynny, wedi arfer rheolaeth neu orfodaeth am gyfnod estynedig. Drwy ddileu’r gofyniad o ran cyd-fyw, mae hyn wedi ehangu cwmpas y drosedd. Mae data mewnol Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dangos bod nifer y troseddau sydd wedi cyrraedd gwrandawiad cyntaf wedi cynyddu o 3,999 yn 2023-24 i 5,374 yn 2024-25, a bod 3,293 o droseddau eisoes wedi cyrraedd gwrandawiad cyntaf yn ystod hanner cyntaf 2025-26. Fodd bynnag, nid yw data ar gyd-fyw wedi’u cofnodi ar gyfer erlyniadau ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, ac felly nid oes modd canfod a ellir priodoli’r cynnydd hwn i’r newid mewn cwmpas a gyflwynwyd gan adran 68.
Fodd bynnag, er bod achosion wedi cynyddu, y sefyllfa o hyd yw nad yw’r ddeddfwriaeth ynglŷn ag ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn cael ei ddefnyddio ddigon o gymharu â’r ddeddfwriaeth ynglŷn â cham-drin corfforol. Mae’r dystiolaeth gan bartneriaid plismona, cyrff arolygu, ymchwil academaidd a sylwadau ymarferwyr yn awgrymu bod ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn cael ei dangofnodi ac nad yw’n cael ei adnabod ddigon. Mae’r ymchwil yn dangos bod rhai ymchwiliadau yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau, a all fethu â chofnodi patrwm cronnol camdriniaeth sydd ei angen i ddangos tystiolaeth o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol.[footnote 28] Gall ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol hefyd gael ei gynnwys o dan droseddau eraill, megis ymosod, neu ei gofnodi fel cyfres o ddigwyddiadau unigol yn hytrach na throsedd dull ymddwyn. Mae’n bosibl y bydd ymarfer erlyniadol yn dylanwadu ar benderfyniadau i gyhuddo, gan gynnwys blaenoriaethu troseddau lle mae’r dedfrydau mwyaf a ganiateir yn uwch, ac nad oes cyhuddiadau o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol bob amser fel y brif drosedd. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi diweddaru ei ganllawiau i helpu erlynwyr i ddewis y cyhuddiad mwyaf priodol, lle mae troseddau yn gorgyffwrdd, gan gynnwys aflonyddu, stelcio neu ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol.
Fodd bynnag, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi nodi, wrth i fwy o droseddu ddigwydd ar-lein, fod erlynwyr yn wynebu heriau o ran dangos tystiolaeth o batrymau o reolaeth drwy orfodaeth, yn enwedig lle mae’r gamdriniaeth yn digwydd dros sawl llwyfan, yn cynnwys cyfrifon dienw, neu negeseuon sy’n diflannu. Mae’r sector cam-drin domestig hefyd wedi codi pryderon nad yw cam-drin economaidd yn cael ei ddeall yn gywir ac nad ymchwilir iddo’n gywir. Mae’n hollbwysig bod yr ymateb i ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn ymdrin â’r pryderon hyn, neu mae risg o danseilio’r gallu i gadarnhau patrwm o ymddygiad.
Er mwyn ymdrin â’r materion hyn, mae’r Llywodraeth yn diweddaru’r canllawiau statudol ar ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol erbyn diwedd 2026. Bydd y diweddariad hwn yn cryfhau’r ddealltwriaeth o’r ffyrdd niferus y gall ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol amlygu ei hun ac yn helpu gweithwyr proffesiynol rheng flaen i adnabod ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, ymchwilio iddo a’i erlyn.
Adran 69: Bygythiadau i ddatgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gyda’r bwriad o achos trallod
Cyflwyniad
Bwriad adran 69 oedd cryfhau’r ffordd y diogelir dioddefwyr sy’n cael eu bygwth y bydd ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat yn cael eu datgelu a gwella’r ymateb i ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.
Gwnaeth adran 69 ddiwygio adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015, sy’n creu’r drosedd datgelu ffotograff neu ffilm rywiol breifat gyda’r bwriad o achosi trallod i unigolyn sy’n ymddangos yn y ffotograff neu’r ffilm. Gwnaeth y diwygiad estyn y drosedd i gynnwys bygwth datgelu deunydd o’r fath, er mwyn cydnabod y gall bygwth rhywun ynddo’i hun achosi cryn niwed, gan gynnwys ofn, gorfodaeth a thrallod, hyd yn oed pan na fydd unrhyw ddeunydd yn cael ei ddatgelu yn y pen draw. Mae’r adran hefyd yn pennu, mewn achosion sy’n cynnwys bygythiadau, nad oedd yn angenrheidiol i’r erlyniad brofi bod y ffotograff neu’r ffilm rywiol breifat y cyfeirir ato neu ati yn bodoli, nac ychwaith, os yw’n bodoli, ei fod/ei bod yn ffotograff neu’n ffilm rywiol breifat mewn gwirionedd, cyhyd â bod y bygythiad yn ymwneud â deunydd y dywedir ei fod yn portreadu unigolyn perthnasol.
Fodd bynnag, cyhoeddwyd argymhellion terfynol Adolygiad Comisiwn y Gyfraith o’r gyfraith droseddol ar ddelweddau personol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022, yn dilyn hynt y Ddeddf.[footnote 29] Derbyniodd y Llywodraeth bob un o’r 54 o argymhellion i ddiwygio’r gyfraith mewn perthynas â throseddau sy’n ymwneud â delweddau personol. Fel rhan o’r dasg o roi’r argymhellion hyn ar waith, cafodd adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 ei diddymu i Gymru a Lloegr gan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023. Mae’r diddymiad hwn yn cynnwys y drosedd o fygwth datgelu ffotograffau neu ffilmiau rhywiol preifat, sydd wedi cael ei mewnosod yn adran 33 gan adran 69 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021.
Cyflwynodd Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 droseddau newydd, sef rhannu neu fygwth rhannu delweddau personol, a fewnosodwyd yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003 (adgran 66B). Mae’r troseddau newydd hyn wedi’u llunio â strwythur trosedd haenog: trosedd sylfaenol rhannu neu fygwth rhannu delwedd yn fwriadol heb gydsyniad (nid oes angen profi bwriad o achosi niwed) a throseddau gwaethygedig lle caiff deunydd ei rannu gyda’r bwriad o achosi braw, trallod neu gywilydd, neu at ddibenion pleser rhywiol. Mae hyn yn benodol yn dileu bwriad i achosi trallod fel elfen o’r drosedd sylfaenol ond mae’n ei gadw fel ffactor gwaethygol. Newidiodd hyn y ffocws yn fwriadol, o gymhelliad y cyflawnwr i ddiffyg cydsyniad y dioddefwr, yn dilyn tystiolaeth ac argymhellion gan Gomisiwn y Gyfraith bod y prawf ‘bwriad o achosi trallod’ yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 yn rhwystr mawr i erlyniadau effeithiol ac nad oedd yn adlewyrchu niweidiau gwirioneddol cam-drin drwy rannu delweddau personol.
O ganlyniad i hynny, nid yw’r drosedd o dan adran 33 yn gymwys mwyach i ymddygiad a ddigwyddodd ar ôl cychwyn y darpariaethau perthnasol yn Neddf Diogelwch Ar-lein 2023. Fodd bynnag, bydd y drosedd o dan adran 33 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ymddygiad a ddigwyddodd cyn cychwyn y troseddau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn rhinwedd adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 69 i rym ar 29 Mehefin 2021. Fodd bynnag, hepgorwyd adran 69 yn weithredol o 31 Ionawr 2024 yn rhinwedd adran 240(1) o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023 (pennod 50) o’i darllen ar y cyd â pharagraff 23(2) o Atodlen 14. Yr hepgoriad fel y’i dygwyd i rym gan reoliad 2 o Reoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Cychwyn Rhif 3) 2024 (O.S. 2024/31).
Asesiad
Oherwydd diddymu adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015, sy’n cynnwys adran 69 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, nid ydym wedi cynnal asesiad. Y cyfnod o’r adeg y daeth adran 69 i rym, cyn cael ei disodli gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein oedd dwy flynedd a saith mis, sydd ond yn cynnig cyfnod cyfyngedig i asesu’n ystyrlon sut y cafodd y drosedd ei defnyddio. Bydd yr asesiad o’r troseddau newydd ynglŷn â delweddau personol o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, yn cael ei gynnwys o dan y broses o graffu ar y ddeddf honno ar ôl deddfu.
Adran 70 – Tagu neu fygu
Cyflwyniad
Bwriad adran 70 yw ymdrin ag achosion o dagu neu fygu nad yw’n angheuol a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn o dan y gyfraith droseddol.
Mae adran 70 yn cyflwyno trosedd newydd, sef achos o dagu neu fygu person arall nad yw’n angheuol. Mae’r adran hon yn mewnosod adrannau 75A a 75B newydd yn Neddf Troseddau Difrifol 2015. Cyn mis Mehefin 2022, nid oedd achosion o dagu a mygu nad oedd yn angheuol yn cael eu cydnabod fel troseddau unigol ac fel arfer roeddent yn cael eu herlyn o dan droseddau ymosod cyffredinol. Fodd bynnag, mae goroeswyr tagu yn wynebu risg uwch o drais yn y dyfodol ac mae ymchwil gan y Sefydliad Ymdrin â Thagu (IFAS) wedi dangos bod profiad o dagu nad yw’n angheuol yn ffactor risg allweddol ar gyfer lladdiad domestig.[footnote 30]
Mae adran 75A yn diffinio elfennau’r drosedd tagu neu fygu. Mae’r darpariaethau hyn yn nodi’r canlynol:
- Dim ond os bydd amodau penodol yn cael eu bodloni y gellir dibynnu ar gydsynio i dagu neu weithred berthnasol arall fel amddiffyniad.
- Ni fydd cydsyniad yn amddiffyniad pan fydd y person sy’n destun y weithred yn cael niwed difrifol a bod y diffynnydd naill ai’n bwriadu achosi niwed difrifol neu ei fod yn ddi-hid ynghylch a fyddai niwed difrifol yn cael ei achosi.
- Y gofynion tystiolaethol i gadarnhau bod cydsyniad yn bresennol.
- Ystyr “niwed difrifol” at ddibenion y drosedd hon.
- Y cosbau sy’n gymwys ac mae’r drosedd yn un neillffordd. Yn achos euogfarn ddiannod, y gosb fwyaf yw 12 mis o garchar, dirwy, neu’r ddau. Yn achos euogfarn ar dditiad, y gosb fwyaf yw pum mlynedd o garchar, dirwy, neu’r ddau.
- Awdurdodaeth alltiriogaethol, sy’n nodi o dan ba amgylchiadau y gall ymddygiad sy’n gyfystyr â throsedd o dan adran 75A gael ei erlyn os caiff ei chyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 70 i rym ar 7 Mehefin 2022.
Asesiad
Mae adran 70, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yng Nghymru, partneriaid plismona, a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, yn cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth ac mae gwaith yn mynd rhagddo i wella’r ymarfer ar gyfer nodi a chyhuddo o dan y drosedd.
Mae rhanddeiliaid wedi myfyrio’n anecdotaidd bod creu’r drosedd wedi cryfhau’r gydnabyddiaeth a’r atebolrwydd cyfreithiol am yr ymddygiad hwn ac felly ei bod wedi helpu i amddiffyn dioddefwyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif.
Rhannodd y sector cam-drin domestig fyfyrdodau bod cyflwyno’r drosedd unigol hon wedi helpu i newid y ddealltwriaeth o dagu, o’i drin fel math o ymosod cyffredin i gael ei gydnabod fel dangosydd risg uchel o lefel gynyddol o gamdriniaeth a thrais.
Er mwyn helpu i roi’r weithred o dagu a mygu nad yw’n angheuol ar waith fel trosedd unigol, darparodd y Swyddfa Gartref gyllid i sefydlu’r Sefydliad Ymdrin â Thagu (IFAS) i godi ymwybyddiaeth a chryfhau’r ddealltwriaeth o dagu yn y DU. Ers 2022, mae’r Swyddfa Gartref wedi rhoi mwy na £1.7 miliwn o gyllid i’r IFAS, sy’n ategu bwriad y ddeddfwriaeth. Mae’r data mwyaf diweddar a gyhoeddwyd gan IFAS yn dangos bod yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi 44,426 o droseddau tagu a mygu yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2025. Mae hyn wedi cynyddu o 23,817 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2023, sef y flwyddyn gyntaf ar ôl i dagu a mygu ddod yn drosedd unigol.[footnote 31]
Mae data Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dangos, yn y tair blynedd ers i’r drosedd gael ei chyflwyno, yn unol â’r cynnydd mewn troseddau cofnodedig, fod cyhuddiadau wedi cynyddu o 1,483 yn 2022–23 i 8,545 yn 2024–25 – cynnydd o bron chwe gwaith cymaint. Yn ystod chwarter cyntaf 2025-26 yn unig, cofnodwyd 2,656 o gyhuddiadau.[footnote 32] Fodd bynnag, mae cyfyngiadau yn codi o ganlyniad i grwpio tagu a mygu yn un drosedd, gan gynnwys yr anallu i ddatgyfuno data’r heddlu neu’r llys sy’n ymwneud yn benodol â thagu, ar wahân i fygu.
Roedd hyfforddiant cadarn cyn i’r drosedd gael ei rhoi ar waith yn golygu bod erlynwyr yn gallu cyhuddo mewn perthynas ag achosion o fewn 24 awr i’r drosedd ddod i rym, a oedd yn cefnogi defnydd cynnar ac effeithiol o’r ddeddfwriaeth. Erys heriau o hyd o ran dealltwriaeth y cyhoedd a rheithgorau, yn enwedig y ffaith nad yw tagu yn gofyn am isafswm lefel o bwysau neu rym, nac unrhyw anaf gweladwy. Mae canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron, sydd wedi cael eu diweddaru ar sail cyfraith achosion ddiweddar, bellach yn gwneud y materion hyn yn fwy eglur ac yn helpu erlynwyr i esbonio natur y drosedd a’i chymhwyso’n gyson yn ymarferol. Fodd bynnag, oherwydd natur tagu a mygu nid yw “niwed difrifol” bob amser yn amlwg yn ystod archwiliad gweledol. Mae’r sector cam-drin domestig wedi nodi, o ystyried y dystiolaeth feddygol hirsefydledig y gall hyd yn oed pwysau byr ar y gwddf achosi anaf mewnol heb farciau allanol, nad yw’r trothwy ar gyfer “niwed difrifol” yn ddigon i adlewyrchu’n llawn y risg glinigol sydd ynghlwm wrth ymddygiad o’r fath; a bod “niwed difrifol” ond yn cwmpasu niwed corfforol ac nid niwed seicolegol. Mae hefyd wedi nodi y gall absenoldeb diffiniad statudol o dagu gyfrannu at anghysondeb o ran penderfyniadau cyhuddo a throthwyon ymarfer tystiolaethol.
Mae’n bwysig bod dioddefwyr yn gallu cael archwiliad meddygol at ddibenion ystyriaethau iechyd a chasglu tystiolaeth, gan gynnwys mewn adrannau achosion brys, a bod gan ofal arferol a gofal fforensig y GIG lwybrau priodol. Mae’r Swyddfa Gartref ar ddeall nad yw hyn bob amser yn digwydd yn ymarferol, a all gyfyngu ar effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth. Mae’r sector cam-drin domestig hefyd wedi nodi nad oes unrhyw anafiadau gweladwy ar rai dioddefwyr, ac, yn aml, nad yw ymatebwyr cyntaf wedi cael hyfforddiant arbenigol i adnabod arwyddion cynnil ond clinigol arwyddocaol. Mae dangosyddion o’r fath yn cynnwys newidiadau i’r llais, mân-waedu, neu symptomau niwrolegol. Yn absenoldeb mynediad rheolaidd at archwiliad meddygol priodol, mae risg o dangyhuddo neu beidio â pharhau ag achos, sy’n cyfyngu ar effaith ymarferol y drosedd. Bydd y Llywodraeth yn parhau i ystyried llwybrau er mwyn gwella mynediad at archwiliad meddygol priodol ac ymateb amlasiantaethol.
Bwriadwyd i’r ddeddfwriaeth bennu dedfryd o hyd at bum mlynedd o garchar am drosedd tagu a mygu nad yw’n angheuol, a chafwyd cryn ddadlau ar y mater hwn yn ystod hynt y Ddeddf. Mae rhai sefydliadau wedi mynegi’r farn nad yw’r ddedfryd uchaf statudol bresennol o 5 mlynedd yn adlewyrchu’n ddigonol ddifrifoldeb y niwed na’r risg sy’n gysylltiedig â thagu a mygu nad yw’n angheuol.
Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth o’r farn bod y ddedfryd uchaf statudol wedi rhoi pwerau dedfrydu priodol i’r llysoedd a bod y ddeddfwriaeth wedi cyflawni ei diben o ran dedfrydu. Y ddedfryd gyfartalog o garchar am euogfarn o dagu a mygu yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2025 oedd 21.2 mis.[footnote 33] At hynny, ar 1 Ionawr 2025, ar ôl dyfarniad y Llys Apêl yn achos R v Cook [2023] EWC Crim 452, cyhoeddodd Cyngor Dedfrydu Cymru a Lloegr ganllawiau newydd i farnwyr ac ynadon ar ddedfrydu mewn achosion o dagu a mygu nad yw’n angheuol. Cydnabu’r Cyngor Dedfrydu fod y drosedd, a’r fersiwn ohoni sydd wedi’i gwaethygu gan hiliaeth neu grefydd, yn droseddau difrifol a oedd yn beryglus iawn i ddioddefwyr, lle gall hyd yn oed cyfnod byr o dagu achosi risg o anaf difrifol neu farwolaeth. Diben y canllawiau, a fu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus, yw sicrhau bod y rhai sy’n ceisio niweidio eraill yn y ffordd hon yn cael dedfrydau sy’n adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn.
Ym mis Mehefin 2025, ar ôl argymhelliad gan yr Adolygiad Annibynnol o Bornograffi, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai pornograffi sy’n portreadu unrhyw weithredoedd o dagu yn cael ei droseddoli drwy ddarpariaethau yn y Bil Troseddu a Phlismona, er mwyn amddiffyn menywod rhag trais a chryfhau’r system cyfiawnder troseddol i ddioddefwyr. Mae’r Llywodraeth wedi nodi bod y diwygiad hwn yn rhan o ddull gweithredu ehangach o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Er nad yw’n ddibynnol ar y Ddeddf, mae bodolaeth trosedd benodol ynglŷn â thagu nad yw’n angheuol wedi rhoi cyd-destun cyfreithiol pwysig ar gyfer y datblygiad polisi hwn.
Adran 71 – Cydsynio i niwed difrifol er pleser rhywiol yn peidio â bod yn amddiffyniad
Cyflwyniad
Mae adran 71 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig yn gwneud y gyfraith yn fwy eglur drwy ailddatgan mewn statud yr egwyddor gyfreithiol gyffredinol a gadarnhawyd yn achos R v Brown [1993] UKHL 19, na all person gydsynio i niwed corfforol gwirioneddol nac anaf mwy difrifol arall nac ychwaith, drwy estyniad, i’w farwolaeth ei hun. Mae hyn yn golygu na all diffynnydd ddibynnu ar gydsyniad dioddefwr i achosi niwed o’r fath fel rhan o unrhyw “amddiffyniad rhyw dreisgar a aeth o chwith”. O ystyried bod y gyfraith bresennol yn gymwys i bob sefyllfa ac nad yw wedi’i chyfyngu i’r rhai sy’n gyfystyr â cham-drin domestig, mae’r eglurder a roddwyd yn adran 71 hefyd yn gymwys yn fwy cyffredinol.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 71 i rym ar 29 Ebrill 2021.
Asesiad
Nid oes angen asesiad am fod adran 71 ond yn ailddatgan, mewn statud, y gyfraith bresennol.
Adrannau 72-74 – Troseddau a gyflawnwyd y tu allan i’r DU
Cyflwyniad
Un o Gonfensiynau Cyngor Ewrop yw Confensiwn Istanbwl, sy’n ymwneud ag atal a gwrthsefyll trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig. Llofnododd y DU y Confensiwn ar 8 Mehefin 2012 ond cyn Deddf Cam-drin Domestig 2021, nid oedd wedi ei gadarnhau eto. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y mesurau a oedd eisoes ar waith yn y DU yn cydymffurfio â’r Confensiwn neu’n mynd ymhellach na’r Confensiwn. Un o elfennau allweddol y Confensiwn oedd sicrhau bod gwladwriaethau a oedd yn ei gadarnhau yn gallu defnyddio eu cyfraith genedlaethol i erlyn troseddau sy’n ofynnol o dan y Confensiwn pan oeddent yn cael eu cyflawni gan eu gwladolion neu eu preswylwyr dramor. Y term cyfreithiol am bwerau i ganiatáu erlyniadau yn y DU am droseddau a gyflawnwyd gan wladolion neu breswylwyr y DU dramor yw awdurdodaeth alltiriogaethol. Roedd angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn cael pwerau o’r fath.
Roedd gan y llysoedd yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon awdurdodaeth alltiriogaethol eisoes am rai o’r troseddau sy’n ofynnol o dan y Confensiwn ond nad oedd ganddynt awdurdodaeth alltiriogaethol am droseddau eraill a oedd yn ofynnol o dan Erthyglau 33 i 39 o’r Confensiwn. Yn unol â hynny:
- Mae adran 72 yn rhychwantu’r amgylchiadau lle gellir erlyn troseddau rhywiol a threisgar penodol a gyflawnwyd dramor yng Nghymru a Lloegr, lle y cyflawnir y drosedd gan wladolyn y DU neu berson sy’n preswylio’n arferol yng Nghymru a Lloegr;
- Mae adran 73 yn gwneud darpariaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon sy’n cyfateb i’r hyn a geir yn adran 72 mewn perthynas â Chymru a Lloegr.
- Mae adran 74 yn estyn ymhellach o dan ba amgylchiadau y gellir erlyn troseddau rhywiol a threisgar penodol a gyflawnwyd dramor yng Nghymru a Lloegr (Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2021), yr Alban (Rhan 2 o Atodlen 3 i Ddeddf 2021) a Gogledd Iwerddon (Rhan 3 o Atodlen 3 i Ddeddf 2021) lle y cyflawnir y drosedd gan wladolyn y DU neu berson sy’n preswylio’n arferol yn y rhan berthnasol o’r DU.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 72 i rym ar 29 Mehefin 2021. Daeth adran 73 i rym ar 21
Chwefror 2022 a daeth adran 74 is-adran (1) a (2) i rym ar 29 Mehefin 2021, a daeth adran 74, is-adran (3) i rym ar 21 Chwefror 2022. Cadarnhaodd y DU Gonfensiwn Istanbwl ym mis Gorffennaf 2022.
Asesiad
Er nad oes unrhyw ddata ar gael i’w gwneud yn bosibl i ddadansoddi nifer yr achosion alltiriogaethol sy’n cael eu herlyn yn y DU, mae Llywodraeth y DU a’r holl wledydd datganoledig yn cydnabod graddfa’r trais yn erbyn menywod a merched ac yn cefnogi’r defnydd o adrannau 72-74.
Ymatebodd Llywodraeth y DU i adroddiad terfynol Grŵp yr Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig ar roi Confensiwn Cyngor Ewrop ar atal a gwrthsefyll VAWG a cham-drin domestig ar waith (adroddiad llinell sylfaen), a gyhoeddwyd ar 18 Mehefin 2025.[footnote 34] Mae ymateb Llywodraeth y DU yn amlinellu’r ystod o fesurau sy’n cael eu datblygu gan y DU ynglŷn â VAWG.
RHAN 7 – amrywiol a chyffredinol (Adrannau 75-91)
Mae Rhan 7 o’r Ddeddf yn cynnwys 17 o adrannau, sydd, gyda’i gilydd, yn cwmpasu darpariaethau amrywiol a chyffredinol. Mae hyn yn cynnwys profion polygraff, mesurau diogelu ym maes digartrefedd, tenantiaethau diogel, gofynion tystiolaeth feddygol, rheolau ynglŷn â phrosesu data, adolygiadau o ganolfannau cyswllt, a darpariaethau rheoliadol a chychwyn terfynol y Ddeddf.
Caiff Rhan 7 ei hasesu o safbwynt 11 o elfennau:
- Adran 75 – sy’n ymwneud â strategaeth ar gyfer erlyn a rheoli troseddwyr.
- Adran 76 – sy’n ymwneud ag amodau polygraff ar gyfer troseddwyr sy’n cael eu rhyddhau ar drwydded.
- Adran 77 – sy’n ymwneud â chanllawiau gwybodaeth gan heddluoedd, a elwir yn Gynllun Datgelu Trais Domestig.
- Adran 78 – sy’n ymwneud â chymorth i ddioddefwyr sy’n wynebu risg o ddigartrefedd neu sy’n ddigartref.
- Adran 79 – sy’n ymwneud â thenantiaethau diogel i ddioddefwyr cam-drin domestig.
- Adran 80 – sy’n ymwneud â’r gwaharddiad ar godi tâl am dystiolaeth feddygol o gam-drin domestig at ddibenion cymorth cyfreithiol.
- Adrannau 81-82 – sy’n cael eu hasesu gyda’i gilydd, gan fod y ddwy adran yn ymwneud â phrosesu data personol dioddefwyr at ddibenion mewnfudo.
- Adran 83 – sy’n ymwneud ag adroddiad ar ganolfannau cyswllt yn Lloegr.
- Adran 84 – sy’n ymwneud â chanllawiau statudol ar gam-drin domestig.
- Adrannau 85-86 – sy’n cael eu hasesu gyda’i gilydd gan eu bod yn ymwneud â phwerau ar gyfer diwygiadau canlyniadol a darpariaethau trosiannol ac arbed).
- Adrannau 87-91 – sy’n cael eu hasesu gyda’i gilydd gan eu bod yn ymwneud â darpariaethau terfynol.
Adrannau 75 – Strategaeth ar gyfer erlyn a rheoli troseddwyr
Cyflwyniad
Bwriad adran 75 oedd cryfhau’r ymateb i gyflawnwyr cam-drin domestig drwy gyflwyno dyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar gyfer cyflawnwyr (“strategaeth cyflawnwyr”) o fewn 12 mis i’r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol. Roedd y strategaeth yn ofynnol er mwyn amlinellu’r ffordd y byddai’r Llywodraeth yn dwyn cyflawnwyr cam-drin domestig gerbron llys barn ac yn asesu ac yn rheoli’r risgiau a achosir gan unigolion sy’n cyflawni troseddau sy’n ymwneud â throseddau cam-drin domestig, gan gynnwys stelcio.
Roedd adran 75 yn ei gwneud yn ofynnol ymhellach i’r strategaeth gynnwys ymrwymiad i leihau aildroseddu a’r tebygolrwydd y bydd cyflawnwyr yn cyflawni rhagor o droseddau cam-drin domestig. Wrth ddatblygu’r strategaeth, gosododd y Ddeddf hefyd ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i ymgysylltu â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig ac unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol. Mae’r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol barhau i adolygu’r strategaeth ac y caiff ei hadolygu.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 75 i rym ar 29 Ebrill 2021 pan gafodd y Ddeddf Cam-drin Domestig Gydsyniad Brenhinol. Mewn ymateb i’r ddyletswydd statudol, cyhoeddodd y Llywodraeth “Tackling Domestic Abuse Plan” ar 30 Mawrth 2022.
Mae datblygiadau strategol ers hynny wedi parhau i adlewyrchu’r amcanion a amlinellwyd yn adran 75, megis “Freedom from violence and abuse: a cross – government strategy to build a safer society for women and girls”, a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2025.
Asesiad
Mae adran 75, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a phartneriaid plismona, yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth.
Roedd Tackling Domestic Abuse Plan[footnote 35] (“y Cynllun”), a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Mawrth 2022, yn seiliedig ar bedwar piler: blaenoriaethu atal, cefnogi dioddefwyr, mynd ar drywydd cyflawnwyr, ac adeiladu system gryfach. Mae adran 75 yn cael ei chyflawni drwy’r piler ‘Pursuing Perpetrators yn y Cynllun.
Yn fwy diweddar, mae Freedom from violence and abuse: a cross-government strategy to build a safer society for women and girls[footnote 36] (“Strategaeth VAWG”), a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2025, yn nodi cyfeiriad strategol y Llywodraeth hon. Roedd Strategaeth VAWG yn seiliedig ar y tri philer: atal ac ymyrryd yn gynnar, mynd ar drywydd cyflawnwyr yn ddiarbed, cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr. Mae’r pileri ar atal ac ymyrryd yn gynnar a mynd ar drywydd cyflawnwyr yn ddiarbed yn parhau â bwriad adran 75. Mae’r camau gweithredu pendant yn nodi y bydd y Llywodraeth yn parhau i ganfod cyflawnwyr cam-drin domestig a stelcio, ymchwilio iddynt, eu herlyn a’u rheoli, a hefyd leihau’r risg y bydd yr unigolion hyn yn cyflawni unrhyw droseddau cam-drin domestig a stelcio pellach.
Wrth ddatblygu’r ddwy strategaeth a’u rhoi ar waith, gwnaeth y Llywodraeth weithio ac ymgynghori’n agos â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, ochr yn ochr ag ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Gyda’i gilydd, mae’r Tackling Domestic Abuse Plan a Strategaeth VAWG ganlyniadol yn ymgorffori mesurau sy’n ymwneud ag erlyn, rheoli risg a rheoli cyflawnwyr cam-drin domestig a stelcio. Mae partneriaid gweithredol a’r sector cam-drin domestig wedi gwneud sylwadau cadarnhaol bod y Cynllun a Strategaeth VAWG wedi gwneud yr ymateb i gyflawnwyr cam-drin domestig yn fwy aeddfed.
Adran 76 – Amodau polygraff ar gyfer troseddwyr a ryddheir ar drwydded
Cyflwyniad
Bwriad adran 76 yw gwella’r ddealltwriaeth o effeithiolrwydd amodau polygraff ar gyfer troseddwyr cam-drin domestig. Diwygiodd adran 28 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 i ganiatáu profion polygraff ar bobl sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar ar drwydded a oedd wedi cael eu heuogfarnu o droseddau penodol a oedd yn ymwneud â cham-drin domestig ac a oedd wedi cael dedfryd o garchar am gyfnod nad oedd yn llai na 12 mis.
Mae Deddf Rheoli Troseddwyr 2007 wedi caniatáu profion polygraff ar bobl benodol sydd wedi cael eu heuogfarnu o droseddau rhywiol ers 2014.
Diwygiodd Deddf Gwrthderfysgaeth a Dedfrydu 2021 Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 i ganiatáu profion polygraff ar droseddwyr terfysgol a throseddwyr sy’n gysylltiedig â therfysgwyr, a bu’n fesur rheoli risg defnyddiol, gan roi gwybodaeth am risg i ymarferwyr prawf na fyddent fel arall yn ymwybodol ohoni. Drwy hyn gallai ymarferwyr gymryd camau i gryfhau cynlluniau rheoli risg; newid ffocws goruchwyliaeth; neu gymryd camau gorfodi, gan gynnwys adalw troseddwyr i’r carchar. Am y rhesymau hyn roedd diddordeb gweithredol cryf mewn estyn profion polygraff i gyflawnwyr cam-drin domestig risg uchel.
Pennodd y Ddeddf fod trosedd berthnasol a oedd yn ymwneud â cham-drin domestig yn un o’r troseddau canlynol a oedd yn gyfystyr â cham-drin domestig o fewn ystyr y Ddeddf (adran 1):
- Llofruddiaeth;
- Trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Amddiffyn rhag Aflonyddu 1997 (torri gorchymyn atal);
- Trosedd a bennwyd yn Rhan 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (troseddau treisgar penodedig);
- Trosedd o dan adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 (ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).
- Roedd hefyd yn caniatáu profion polygraff ar bobl a euogfarnwyd o dan adran 39 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig (torri gorchymyn amddiffyn rhag cam-drin domestig).
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 76 i rym at ddibenion y cynllun peilot o 5 Gorffennaf 2021 i 4 Gorffennaf 2024.
Asesiad
Mae adran 76, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a phartneriaid plismona, yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth.
Dechreuodd cynllun peilot ar brofion polygraff i gyflawnwyr cam-drin domestig risg uchel ar 5 Gorffennaf 2021, ac ychwanegwyd cyfranogwyr newydd at y cynllun peilot tan 4 Gorffennaf 2024. Roedd cyfranogwyr yn cael profion polygraff tan 4 Gorffennaf 2025. Mae’r cynllun peilot yn cael ei werthuso’n annibynnol fel Hap-dreial Wedi’i Reoli gan Ganolfan Plismona ar Sail Tystiolaeth Caergrawnt. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn ymgymryd â gwerthusiad proses mewnol. Bwriedir cyhoeddi canfyddiadau’r gwerthusiad yn 2027 a chânt eu defnyddio i lywio penderfyniadau ynglŷn â’r defnydd o brofion polygraff ar gyflawnwyr cam-drin domestig yn y dyfodol.
Adran 77 – Canllawiau ynglŷn â datgelu gwybodaeth gan heddluoedd
Cyflwyniad
Bwriad adran 77 yw gwella cysondeb gwybodaeth drwy broses strwythuredig i heddluoedd ystyried a ddylid datgelu gwybodaeth am ymddygiad camdriniol neu dreisgar blaenorol unigolyn naill ai i ddioddefwr posibl neu berson sydd yn y sefyllfa orau i’w amddiffyn, a hefyd gydbwyso hynny ar yr un pryd â’r gofyniad y dylai datgeliadau gael eu gwneud o fewn fframwaith cyfreithiol clir, gan sicrhau bod penderfyniadau yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur, ac y rhoddir y pwys priodol ar ofynion diogelu data a’r hawl i barch at fywyd preifat a bywyd teuluol.
Er mwyn cyflawni’r bwriad hwn, mae adran 77 o ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn gosod dyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i roi canllawiau i brif swyddogion yr heddlu ynglŷn â datgelu gwybodaeth at ddibenion amddiffyn unigolion rhag cam-drin domestig. Nid yw’r ddarpariaeth yn creu pwerau datgelu newydd, ond bwriedir iddi gefnogi’r defnydd cyson, cyfreithlon a chymesur o bwerau presennol yr heddlu i ddatgelu gwybodaeth lle y bo angen er mwyn atal troseddau a diogelu dioddefwyr. Cyfeirir at y cynllun fel y Cynllun Datgelu Trais Domestig, neu ‘Cyfraith Clare’.
Mae canllawiau a roddir o dan adran 77 yn rhai statudol. Mae’n ofynnol i heddluoedd roi sylw iddynt wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â datgeliadau sy’n ymwneud â cham-drin domestig. Bwriedir i’r canllawiau hyrwyddo dull gweithredu cenedlaethol cyson o ymdrin â datgeliadau, a hefyd gadw’r angen am farn broffesiynol a phenderfyniadau ar sail achos unigol.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 77 i rym ar 5 Ebrill 2023, pan gyhoeddwyd y canllawiau statudol o dan adran 77. Mae’r canllawiau yn adeiladu ar fframwaith presennol Cynllun Datgelu Trais Domestig, gan osod disgwyliadau cliriach ar heddluoedd mewn perthynas â gwneud penderfyniadau, diogelu a datgeliadau, sy’n disodli’r trefniadau anstatudol blaenorol.
Asesiad
Mae adran 77, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a phartneriaid plismona, yn cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, erys heriau gweithredol o hyd o ran cyflwyno adran 77 yn gyson ymhlith holl ardaloedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Mae adran 77 wedi cryfhau’r fframwaith statudol sy’n sail i’r Cynllun Datgelu Trais Domestig drwy atgyfnerthu disgwyliadau o ran cysondeb, cymesuredd a diogelwch dioddefwyr. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o adolygiadau gweithredol, adborth rhanddeiliaid ac argymhellion dysgu wedi nodi heriau o hyd o ran rhoi’r Cynllun Datgelu Trais Domestig ar waith, gan gynnwys amrywiadau rhwng ymarfer heddluoedd, oedi cyn prosesu ceisiadau, ac anghysondebau o ran y ffordd y cymhwysir y canllawiau statudol. Mewn rhai ardaloedd, mae gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr yn nodi eu bod yn gorfod dadlau’n gryf â heddluoedd er mwyn iddynt wneud datgeliad. Gallai’r problemau hyn danseilio bwriad ataliol y Cynllun Datgelu Trais Domestig ac, mewn rhai achosion, effeithio ar hyder a diogelwch dioddefwyr.
Mae partneriaid plismona wedi nodi pwysau gweithredol estynedig o ganlyniad i gyfuniad o ymwybyddiaeth gynyddol o’r Cynllun Datgelu Trais Domestig ymhlith y cyhoedd, sy’n arwain at fwy o geisiadau, a heriau sy’n gysylltiedig â bodloni disgwyliadau statudol ynglŷn ag amseroldeb datgeliadau. Er bod ffocws y ddeddfwriaeth a’r canllawiau ar ddatgelu gwybodaeth berthnasol a ddelir gan yr heddlu yn brydlon, mae partneriaid wedi pwysleisio bod mesurau diogelu effeithiol cyn, yn ystod ac ar ôl datgelu gwybodaeth yr un mor bwysig.
Mae diogelu effeithiol yn dibynnu ar weithio’n agos mewn partneriaeth gydag asiantaethau statudol ac anstatudol, gan gynnwys awdurdodau lleol a gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol. Mae adborth gweithredol yn dangos nad yw’r canllawiau statudol cyfredol bob amser yn nodi’n glir rolau a chyfrifoldebau partneriaid allweddol ym mhroses y Cynllun Datgelu Trais Domestig, sy’n gallu creu amrywioldeb o ran cymorth ôl-ddatgelu a threfniadau dilynol. Mae partneriaid wedi nodi ymhellach y bydd ateb y galw presennol a’r galw yn y dyfodol am y Cynllun Datgelu Trais Domestig mewn ffordd gynaliadwy yn achosi heriau ymarferol, gan gynnwys yr angen i chwilio am wybodaeth a ddelir mewn nifer o systemau’r heddlu. Felly, mae arloesedd a datrysiadau technolegol i gefnogi proses fwy effeithlon a chyson o rannu gwybodaeth yn cael eu cwmpasu fel rhan o waith ehangach i gryfhau fframwaith y Cynllun Datgelu Trais Domestig.
Mae partneriaid gweithredol hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod gweithredu’r Cynllun Datgelu Trais Domestig yn parhau i gael ei lywio gan dystiolaeth ac ymchwil sy’n dod i’r golwg. Mae gwaith academaidd sy’n mynd rhagddo, gan gynnwys ymchwil i rannu gwybodaeth a cham-drin domestig a gwaith sy’n canolbwyntio ar baratoi sgriptiau datgelu’r Cynllun Datgelu Trais Domestig sy’n fwy effeithiol ac sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr, yn cyfrannu at ddealltwriaeth ddyfnach o’r ffordd y mae datgeliadau yn cael eu profi gan ddioddefwyr a’r ffordd orau o gefnogi diogelwch a gwneud penderfyniadau hyddysg.
Mewn ymateb i’r heriau hyn, ymrwymodd y Llywodraeth yn y Strategaeth yn erbyn Menywod a Merched (VAWG) i ddatblygu fframwaith cliriach a mwy cyson i wella’r ffordd y mae’r Cynllun Datgelu Trais Domestig yn gweithredu ac archwilio’r posibilrwydd o ehangu trefniadau datgelu i fathau eraill o VAWG. Mae gwaith yn mynd rhagddo, ar y cyd â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a Merched ac Amddiffyn y Cyhoedd (NCVPP), i fynd i’r afael â’r materion hyn a sicrhau bod y Cynllun Datgelu Trais Domestig yn gweithredu mor effeithiol a diogel â phosibl.
Adran 78 – Digartrefedd: dioddefwyr cam-drin domestig
Cyflwyniad
Bwriad adran 78 yw lleihau’r risg y bydd dioddefwr cam-drin domestig yn mynd yn ddigartref.
Diwygiodd adran 78 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig Ran 7 o Ddeddf Tai 1996, ac erthygl 6 o Orchymyn Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol am Lety) (Lloegr) 2002 (O.S. 2002/2051). Sicrhaodd adran 78(1)-(4), a (6)-(9) fod y ddwy Ddeddf a’r Gorchymyn yn defnyddio’r un diffiniad wedi’i ddiweddaru o gam-drin domestig fel adran 1 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021. Gwnaeth adran 78(5) hefyd ddiwygio adran 189 o Ddeddf Tai 1996 i roi ‘angen blaenoriaethol’ i bersonau sy’n ddigartref o ganlyniad i fod yn ddioddefwyr cam-drin domestig. Mae ‘angen blaenoriaethol’ yn rhoi hawl i lety, gan gynnwys llety brys, lle y bo angen, i ddioddefwyr cam-drin domestig, ac unrhyw un sy’n preswylio’n arferol â nhw fel aelod o’u teulu, gan ei bod yn ofynnol i awdurdodau tai sicrhau llety i geiswyr o dan adran 188(1) o Ddeddf Tai 1996 os credant fod ceisydd o bosibl yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth a bod gan y ceisydd angen blaenoriaethol.
Diwygiodd adran 78(8) y Gorchymyn i ddileu’r categori presennol o angen blaenoriaethol fel person ‘who is vulnerable as a result of ceasing to occupy accommodation by reason of violence from another person or threats of violence from another person which are likely to be carried out’, a’i ddisodli â chategori o berson ag angen blaenoriaethol lle mae’n agored i niwed o ganlyniad i drais nad yw’n gam-drin domestig fel y’i diffiniwyd gan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (h.y. trais gangiau).
Roedd y cyfuniad o is-adrannau (5) ac (8) yn golygu nad oes angen mwyach i bersonau heb blant dibynnol, sy’n ddigartref o ganlyniad i gam-drin domestig, brofi i’r awdurdod tai lleol ei fod hefyd yn agored i niwed, o ganlyniad i’r gamdriniaeth honno neu fel arall, er mwyn cadarnhau eu bod mewn angen blaenoriaethol am lety.
Nid yw’r mesurau o dan adran 78 yn gymwys i Gymru. Gall Llywodraeth y DU ddeddfu mewn perthynas â thai yng Nghymru, ond er mwyn gwneud hynny bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gan Senedd Cymru. Yn ymarferol, mae gan Gymru ei fframwaith statudol sefydledig ei hun ar gyfer tai ac atal digartrefedd a amlinellwyd yn Neddf Tai (Cymru) 2014 ac ym mholisïau ehangach Llywodraeth Cymru.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 78 i rym ar 5 Gorffennaf 2021.
Asesiad
Mae adran 78, ym marn Llywodraeth y DU, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Rydym wedi asesu bod dioddefwyr cam-drin domestig yn arfer eu hawliau, fel y’u diffiniwyd o dan adran 78. Fodd bynnag, mae heriau ar y lefel leol o ran cysondeb wrth gyflawni’r ddyletswydd.
Yn seiliedig ar y data blynyddol mwyaf diweddar o 2024/2025 o’r ymarfer casglu gwybodaeth lefel achosion digartrefedd (H-CLIC), rydym wedi nodi bod 5,740 (8%) allan o 72,260 o aelwydydd digartref yr oedd y brif ddyletswydd yn ddyledus iddynt yn ddigartref oherwydd cam-drin domestig.[footnote 37] Mae hyn yn gynnydd ers y flwyddyn flaenorol, a chynnydd sylweddol o ran nifer yr achosion a gofnodwyd cyn i Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 gael ei chyflwyno, pan nodwyd 1,590 o achosion yn 2020/2021. Fodd bynnag, mae’r ystadegau hyn yn cofnodi’r prif reswm pam mae aelwydydd mewn angen blaenoriaethol o bosibl, a all gynnwys cam-drin domestig. Dylid nodi, er y gall aelwydydd fod mewn angen blaenoriaethol am sawl rheswm, dim ond y prif gategori a gofnodir. Serch hynny, mae hyn yn dangos bod dioddefwyr cam-drin domestig sy’n ddigartref, neu sy’n wynebu digartrefedd yn cael cymorth yn unol â bwriad adran 78.
Ochr yn ochr â’r brif ddyletswydd, rydym hefyd wedi monitro’r ddyletswydd i geisio lliniaru ar ddigartrefedd, sy’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 i gymryd camau rhesymol i helpu’r ceisydd i sicrhau llety am o leiaf 6 mis; a’r ddyletswydd atal, sef dyletswydd arall ar yr awdurdod tai lleol o dan Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 i gymryd camau rhesymol i atal digartrefedd. Roedd 10,610 (7%) o aelwydydd o dan fygythiad o ddigartrefedd oherwydd cam-drin domestig ac wedi’u cofnodi’n rhai yr oedd dyletswydd atal yn ddyledus iddynt yn 2024/2025 ac roedd 28,800 (16%) o aelwydydd yn ddigartref ac felly roedd dyletswydd i geisio lliniaru ar ddigartrefedd yn ddyledus iddynt yn 2024/2025 – sy’n golygu mai cam-drin domestig yw’r rheswm mwyaf cyffredin ond un pam mae dyletswydd i geisio lliniaru ar ddigartrefedd yn ddyledus i aelwydydd.[footnote 38] Gan nad yw’r ddyletswydd atal na’r ddyletswydd i geisio lliniaru ar ddigartrefedd yn dibynnu ar angen blaenoriaethol, nid oedd y dyletswyddau hyn wedi cael eu newid yn sylweddol drwy gyflwyno Deddf Cam-drin Domestig 2021, ac o’r mesurau hyn rydym wedi nodi bod y ddwy wedi arwain at gynnydd o gymharu â nifer yr achosion a gofnodwyd cyn i’r Ddeddf gael ei chyflwyno. Fodd bynnag, nid yw’n eglur a yw’r cynnydd hwn o ganlyniad i well cofnodi, mwy o achosion, neu well ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin domestig ar ôl newidiadau a wnaed drwy’r Ddeddf.
Nid ydym wedi cynnal asesiad ffurfiol o effeithiau adran 78 ar wasanaethau digartrefedd. Fodd bynnag, mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi comisiynu ymchwil gan IfF Research a’r Ganolfan ar gyfer Effaith Digartrefedd. Mae’r ymchwil hon yn ystyried sut y defnyddir llety dros dro gan ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn Lloegr.
Hefyd, gofynnodd y Gweinidog Gwladol dros Lywodraeth Leol a Digartrefedd i’r Gymdeithas Llywodraeth Leol ystyried yr heriau i awdurdodau lleol wrth gomisiynu gwasanaethau sy’n ymwneud â cham-drin domestig. Nododd ei hystyriaeth fod adnoddau yn gyfyngiad mewn llawer o ardaloedd, a all effeithio ar gomisiynu gwasanaethau cynghori ar dai a gwasanaethau digartrefedd eraill i helpu goroeswyr cam-drin domestig (e.e. cynlluniau noddfa). Mae cronfeydd yn Lloegr, megis y Grant Atal Digartrefedd, wedi helpu i ymdrin â rhai o’r cyfyngiadau hyn ar adnoddau, ond mae cynghorau wedi dweud wrth y Gymdeithas Llywodraeth Leol y byddent yn croesawu grant hirdymor a mwy o gyllid.
Mae adborth gan randdeilaid ehangach, gan gynnwys y sector cam-drin domestig, wedi codi’r pwynt nad oes ymarfer cyson o ran sut y caiff y ddyletswydd ei chyflawni a bod angen ymarfer cynhwysol gwell i ddiwallu anghenion yr amrywiaeth eang o ddioddefwyr, yn enwedig dioddefwyr hŷn, anabl a LHDT+. Ymhlith y problemau a nodwyd mae oedi cyn cael llety; cael cynnig llety anaddas neu anniogel; cyngor anghywir yn cael ei roi i ddioddefwyr y dylent fodloni’r prawf cysylltiad lleol, bod yn rhaid iddynt roi prawf o gam-drin corfforol, neu ei bod yn ofynnol iddynt roi gwybod i’r heddlu am gamdriniaeth; a heriau oherwydd y galw ehangach am stoc dai.
Fel y’i cyhoeddwyd gennym yn ein Cynllun Cenedlaethol i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd (Rhagfyr 2025), rydym eisoes yn cymryd camau i ymdrin â’r problemau hyn.[footnote 39] Er mwyn helpu goroeswyr i symud ymlaen i lety sefydlog pan fyddant yn barod, rydym wedi’i gwneud yn haws i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig gael tai cymdeithasol drwy roi esemptiad iddynt rhag profion cysylltiad lleol a phreswyliaeth. Rydym hefyd wedi gwella ffrydiau cyllido drwy greu’r Grant Digartrefedd, Cysgu Allan a Cham-drin Domestig newydd o 2026-27 ymlaen, a fydd yn helpu i symleiddio cyllid a galluogi cynghorau i fabwysiadu dulliau newydd o atal digartrefedd o ganlyniad i gam-drin domestig. Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wrthi’n datblygu pecyn cymorth ar atal digartrefedd a chymorth i oroeswyr cam-drin domestig.
Adran 79 – Rhoi tenantiaethau diogel mewn achosion o gam-drin domestig
Cyflwyniad
Bwriad adran 79 yw sicrhau nad oedd pryderon ynglŷn â cholli diogelwch tenantiaeth am oes yn wrthanogaeth i atal y rhai sy’n profi cam-drin domestig rhag gadael cyflawnwr neu geisio eu gorfodi i adael y cartref. Ei nod yw rhoi sefydlogrwydd a diogelwch i ddioddefwyr drwy sicrhau eu bod yn cael tenantiaeth am oes arall o dan yr amgylchiadau hyn.
Mae adran 79 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn cynnwys mesurau sy’n darparu, pan fydd awdurdodau lleol yn rhoi tenantiaeth ddiogel newydd i gyn-denant am oes sydd, neu a oedd yn ddioddefwr cam-drin domestig, fod yn rhaid i’r tenant gael tenantiaeth am oes arall. Mae hyn hefyd yn gymwys pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi tenantiaeth un person newydd i bersonau o’r fath yn eu cartref presennol ar ôl i’r cyflawnwr adael/gael ei orfodi i adael. At ddibenion yr adran hon, mae cyfeiriadau at ddioddefwr cam-drin domestig yn cynnwys achosion lle mae’r gamdriniaeth yn cael ei hanelu at berson arall yn aelwyd y dioddefwr (er enghraifft, plentyn).
Mae’r mesurau hyn yn gymwys i denantiaid a oedd yn dal tenantiaeth ddiogel yn flaenorol neu denantiaeth sicr lawn (nid un fyrddaliadol) a roddwyd gan awdurdod lleol neu Ddarparwr Cofrestredig Preifat tai cymdeithasol (cymdeithas dai), ymddiriedolaeth dai, neu’r Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol yn Lloegr. Mae’r polisi yn effeithio ar bobl sydd neu a oedd yn ddioddefwyr cam-drin domestig a oedd yn dal tenantiaeth am oes yn flaenorol ac sy’n ceisio tenantiaeth newydd gan yr awdurdod lleol. Dim ond pan fydd y denantiaeth newydd wedi cael ei rhoi mewn cysylltiad â’r gamdriniaeth ddomestig honno y bydd adran 79 yn gymwys. Mae adran 79 hefyd yn gymwys pan fydd dioddefwyr yn aros yn eu cartref ac yn cael tenantiaeth un person newydd ar ôl i’r cyflawnwr adael neu gael ei orfodi i adael.
Nid yw’r mesurau o dan adran 79 yn gymwys i Gymru. Gall Llywodraeth y DU ddeddfu mewn perthynas â thai yng Nghymru, ond er mwyn gwneud hynny bydd angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gan Senedd Cymru. Yn ymarferol, mae gan Gymru ei fframwaith statudol sefydledig ei hun ar gyfer tai ac atal digartrefedd a amlinellwyd yn Neddf Tai (Cymru) 2014 ac ym mholisïau ehangach Llywodraeth Cymru.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 79 i rym ar 1 Tachwedd 2021. O’r dyddiad hwn, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol yn Lloegr sicrhau, pan fydd person yn ddioddefwr cam-drin
domestig neu wedi bod yn ddioddefwr cam-drin domestig, a bod tenantiaeth ddiogel newydd yn cael ei rhoi am resymau sy’n gysylltiedig â’r gamdriniaeth honno, fod y denantiaeth yn cael ei rhoi am oes. Mae’r mesur yn gymwys pan fydd awdurdod lleol yn rhoi tenantiaeth newydd, gan gynnwys tenantiaeth un person newydd pan fydd dioddefwyr yn aros yn eu cartref. Roedd disgwyl i awdurdodau lleol ddiweddaru eu polisïau dyrannu a’u prosesau mewnol fel y byddent yn nodi aelwydydd cymwys ac yn rhoi tenantiaeth ddiogel am oes newydd iddynt.
Ym mis Ionawr 2022, gwnaeth y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fel y’i gelwid ar y pryd) ddiweddaru ei chanllawiau statudol Improving access to social housing for victims of domestic abuse er mwyn adlewyrchu’r newidiadau a gyflwynwyd gan adran 79, gan gynnwys y disgwyliad y dylai tenantiaid am oes presennol sy’n ffoi rhag cam-drin domestig gael tenantiaeth am oes newydd.[footnote 40] Ar yr un pryd, diweddarwyd y canllawiau statudol ar ddyraniadau i gryfhau’r cyngor ar rannu gwybodaeth pan fydd pryderon diogelu, gan gynnwys cam-drin domestig.[footnote 41]
Asesiad
Mae adran 79, ym marn Llywodraeth y DU, y Gymdeithas Llywodraeth Leol, a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, cymysg yw’r ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth o adran 79 ymhlith awdurdodau lleol, sy’n atal yr adran rhag cael ei gwireddu’n llawn.
Prif effaith ddisgwyliedig y polisi hwn yw mwy o sefydlogrwydd o ran llety i ddioddefwyr cam-drin domestig, drwy sicrhau bod cyn-denantiaid am oes yn cadw diogelwch am oes pan fydd tenantiaeth newydd yn cael ei rhoi iddynt mewn cysylltiad â cham-drin domestig. Felly, rydym yn disgwyl, dros amser, i gyfran fwy o ddioddefwyr cymwys gael tenantiaethau diogel am oes pan fydd awdurdodau lleol yn rhoi tenantiaethau newydd i gyn-denantiaid am oes am resymau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig y maent wedi’i brofi. Ar y cyfan, mae’r Llywodraeth, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill megis y sector cam-drin domestig yn asesu bod adran 79 wedi cael ei rhoi ar waith a’i bod yn ddefnyddiol i bobl sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, ond nad yw’n cael ei defnyddio mewn ffordd gyson bob amser. Mae’r ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd yn amrywio rhwng ardaloedd, ac mae rhai awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd nodi pryd y dylai fod yn gymwys neu i gofnodi achosion yn briodol.
Nid yw’r adran yn casglu unrhyw ddata ar y defnydd o adran 79. Fodd bynnag, yn 2018/19, roedd dros 5,000 (1.9%) o’r holl osodiadau tai cymdeithasol newydd i denantiaid cymdeithasol presennol a nododd mai ‘cam-drin domestig’ oedd y prif reswm dros adael eu cartref cymdeithasol blaenorol. Yn ôl yr ystadegau swyddogol achrededig yn Social housing lettings in England, tenants: April 2024 to March 2025, gadawodd 8% o aelwydydd eu cartref sefydlog diwethaf oherwydd cam-drin domestig – tua 15,000 o aelwydydd, [footnote 42] o gymharu â 7% yn y flwyddyn flaenorol. O’r aelwydydd hyn, menywod a arweiniodd ar 14,000 ohonynt, gyda 8,000 yn cynnwys plant dibynnol. Yn 2024/25 gwnaeth awdurdodau lleol 670 o osodiadau cymdeithasol newydd i aelwydydd a oedd wedi gadael eu cartref sefydlog diwethaf oherwydd cam-drin domestig ac a oedd yn flaenorol mewn tai cymdeithasol mewn tenantiaeth am oes (naill ai gan awdurdod lleol neu Ddarparwr Cofrestredig Preifat). O’r rhain, cafodd 657 denantiaeth ddiogel am oes (98%). Fodd bynnag, dim ond yn ôl i 2020/21 y mae cyfres amser o’r dadansoddiadau hyn ar gael.
Gwelwyd cynnydd bach ac yna leihad yn nifer y gosodiadau cymdeithasol newydd gan awdurdodau lleol i aelwydydd a oedd wedi gadael eu cartref sefydlog diwethaf oherwydd cam-drin domestig ac a oedd yn flaenorol mewn tai cymdeithasol mewn tenantiaeth am oes (naill ai gan awdurdod lleol neu Ddarparwr Cofrestredig Preifat). Roedd 702 o’r aelwydydd hyn yn 2020/21, a wnaeth gynyddu i 858 yn 2022/23 a lleihau i 670 yn 2024/25. Gwnaeth y gyfran a gafodd denantiaethau diogel am oes ostwng o 97% yn 2020/21 i 80% yn 22/23 ac yna gynyddu i 98% yn 2024/25. Nid ydym yn dal unrhyw ddata cyn 2020/21, felly nid oes modd cymharu’r sefyllfa cyn ac ar ôl i adran 79 gael ei chychwyn yn uniongyrchol.
Ar ôl cais am safbwyntiau awdurdodau lleol a thrwy gyrff cynrychioliadol yn y sector, cawsom amrywiaeth o adborth ynglŷn â sut mae adran 79 yn cael ei rhoi ar waith yn ymarferol. Ar y cyfan, nododd partneriaid fod adran 79 yn cael ei defnyddio, ond bod nifer yr achosion a nodwyd yn anecdotaidd o sampl maint bach yn ymddangos yn gymharol isel ac yn amrywio rhwng ardaloedd. Nododd rhai awdurdodau nifer bach o achosion yn y flwyddyn ddiwethaf lle roedd aelwydydd a oedd yn symud oherwydd cam-drin domestig wedi cael tenantiaethau diogel o dan adran 79. Nododd rhai fod aelwydydd a gafodd gynnig o lety o dan y ddyletswydd i geisio lliniaru ar ddigartrefedd neu’r ddyletswydd derfynol o ran digartrefedd yn gallu cadw tenantiaeth gymdeithasol, ond unwaith eto roedd cyfanswm nifer yr achosion a nodwyd yn fach.
Nododd awdurdodau hefyd lefelau cymysg o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o adran 79. Nododd sawl un fod y ddarpariaeth eisoes wedi’i hymgorffori yn eu polisïau dyrannu a’i bod yn helpu dioddefwyr i symud yn gyflymach i lety hirdymor, sefydlog heb gyfnodau estynedig mewn lloches neu lety dros dro anaddas. Fodd bynnag, disgrifiodd eraill ansicrwydd ynglŷn â pha mor aml y mae adran 79 yn gymwys yn ymarferol, gan dynnu sylw at heriau o ran nodi achosion cymwys yn gyson mewn gwahanol rannau o’r gwasanaeth. Roedd rhai awdurdodau yn aneglur ynghylch a yw’r ddarpariaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi tenantiaeth ddiogel newydd i bob dioddefwr cam-drin domestig a oedd yn dal tenantiaeth ddiogel gynt. Nid felly y mae.
Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu mai dim ond pan fydd awdurdod lleol yn rhoi tenantiaeth ddiogel, y mae’n rhaid i’r denantiaeth honno fod yn denantiaeth ddiogel am oes.
Disgrifiodd ymatebwyr amrywiadau mewn ymarfer gweithredol hefyd. Nododd un sefydliad rheoli hyd braich ei fod yn cynnal gwiriadau rheolaidd yn ystod gosodiadau i ganfod a yw ceiswyr yn dod o fewn cwmpas y Ddeddf ac yn sicrhau bod tenantiaethau diogel yn cael eu rhoi yn ôl y gofyn. Nododd awdurdodau eraill eu bod wrthi’n diweddaru hyfforddiant a chanllawiau mewnol i wella dealltwriaeth y staff o adran 79, ac mae rhai yn adolygu gallu eu systemau i gofnodi a nodi canlyniadau adran 79 yn well. Cydnabu sawl awdurdod anawsterau o ran monitro a chasglu data, a sefydlodd un Grŵp Gorchwyl a Gorffen penodedig ar Lety Diogel er mwyn gwella goruchwyliaeth ac ansawdd data ynglŷn â chymhwyso adran 79. Nododd awdurdodau hefyd, yn ymarferol, fod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn aml yn parhau i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig drwy drosglwyddiadau rheoli, yn hytrach na dibynnu ar adran 79.
Wrth i Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025 gael ei chyflwyno ac wrth i’r mathau o denantiaeth gael eu symleiddio o dan y fframwaith tenantiaeth sicr, dylai fod yn haws i awdurdodau lleol gydnabod pa denantiaethau blaenorol sy’n gymwys ar gyfer adran 79. Gall hyn, ynghyd â systemau gwell a chanllawiau cliriach, helpu i sicrhau bod y ddyletswydd yn cael ei chymhwyso’n fwy cyson a bod dioddefwyr yn cael y denantiaeth sicr y mae ganddynt yr hawl i’w chael. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ddiweddaru’r canllawiau statudol ar ddyrannu tai cymdeithasol fel y byddant yn adlewyrchu angen lleol yn well ac yn cefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed, gan gynnwys y rhai sy’n ffoi rhag cam-drin domestig.[footnote 43] Mae hyn yn rhoi cyfle i ystyried sut y gallai canllawiau wedi’u diweddaru ar ddyrannu helpu i wella ymwybyddiaeth a sicrhau defnydd mwy cyson o adran 79.
Adran 80 – Gwaharddiad ar godi tâl am ddarparu tystiolaeth feddygol o gam-drin domestig
Cyflwyniad
Bwriad adran 80 oedd cyflwyno gwaharddiad statudol ar godi tâl am baratoi a darparu tystiolaeth feddygol o gam-drin domestig lle mae angen tystiolaeth i gefnogi cais am gymorth cyfreithiol sifil. Mae’r newid bellach yn gwahardd gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol sy’n gweithio mewn ymarfer cyffredinol, sy’n darparu gwasanaethau o dan gontract meddyg teulu’r GIG, rhag codi taliadau am ddarparu’r gwasanaeth hwn. Mae hyn, yn ei dro, yn dileu rhwystrau ariannol i gymorth cyfreithiol i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig ac yn sicrhau mynediad mwy cyson at gyfiawnder ar adeg pan fyddant yn agored i niwed. Fodd bynnag, gall meddygon teulu preifat godi tâl o hyd, ond mae Cymdeithas Feddygol Prydain yn argymell peidio â chodi tâl i bob meddyg teulu.
Cyn rhoi adran 80 ar waith, roedd llythyrau o’r fath fel arfer yn cael eu trin fel gwasanaethau meddyg teulu preifat a gellid codi tâl amdanynt yn ôl disgresiwn practisau. Er bod canllawiau proffesiynol Cymdeithas Feddygol Prydain yn cynghori na ddylid codi tâl, nid oedd hyn yn gyfrwymol ac nid oedd yn sicrhau ymarfer cyson. Nodwyd rhai achosion o godi hyd at £150 ar unigolion am lythyrau o’r fath.
Mae’r llythyrau hyn yn un o’r mathau o dystiolaeth a ganiateir y gellir eu cyflwyno i benderfynu a yw person yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Gall unigolion ofyn am dystiolaeth gan nifer o unigolion a sefydliadau, heb fod yn gyfyngedig i’r llysoedd, yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cymorth cam-drin domestig a mwy.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 80 i rym ar 1 Hydref 2021.
Asesiad
Mae adran 80, ym marn Llywodraeth y DU a’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth.
Mae’r newid hwn wedi ffurfioli canllawiau proffesiynol blaenorol a nododd na ddylid codi tâl am dystiolaeth. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw wrthwynebiad amlwg ymhlith y proffesiwn ers i adran 80 gael ei rhoi ar waith, na phroblemau lle mae tâl wedi cael ei godi a fyddai’n mynd yn groes i adran 80.
Nodir bod Cymdeithas Feddygol Prydain o’r farn na ddylid bod angen tystiolaeth feddygol yn y broses o gael cymorth cyfreithiol. Yn hytrach, dylai asiantaethau cymorth cyfreithiol dderbyn gair dioddefwyr heb fod angen iddynt ymgynghori â gweithiwr meddygol proffesiynol, nad yw o bosibl yn y sefyllfa orau i gadarnhau a yw cam-drin domestig wedi digwydd. Fodd bynnag, cred y Llywodraeth o hyd fod yn rhaid i fynediad at gymorth cyfreithiol gael ei warchod er mwyn sicrhau bod cymorth cyfreithiol wedi’i dargedu at y rhai sydd â’r angen mwyaf yn ogystal â sicrhau y caiff cyllid ei ddefnyddio mewn ffordd ddilys, y gellir ei chyfiawnhau. Derbynnir amrywiaeth o dystiolaeth, sy’n cynnwys llythyr neu adroddiad gan weithiwr iechyd proffesiynol neu fel arall awdurdod priodol arall. Er mwyn sicrhau ein bod yn cael y cydbwysedd cywir yn hyn o beth, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal adolygiad o’r gofynion o ran tystiolaeth o gam-drin domestig er mwyn sicrhau nad yw’r gofynion o ran tystiolaeth yn rhwystro dioddefwyr cam-drin domestig rhag cael cymorth cyfreithiol.
Adrannau 81-82 – Adolygiad o brosesu data personol dioddefwyr at ddibenion mewnfudo a chod ymarfer ar rannu data rhwng heddluoedd a Gorfodi Mewnfudo.
Cyflwyniad
Bwriad cyfunol adran 81 ac adran 82 yw magu hyder dioddefwyr cam-drin domestig sy’n fudwyr, sydd o bosibl yn ofni y bydd yr heddlu yn rhannu eu data â Gorfodi Mewnfudo.
Gosododd adran 81 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 (“y Ddeddf”) ddyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i adolygu sut y caiff data personol dioddefwyr cam-drin domestig eu prosesu gan awdurdodau cyhoeddus penodedig (h.y. yr heddlu, swyddogion mewnfudo a swyddogion eraill y Swyddfa Gartref sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â mewnfudo neu loches), at ddibenion mewnfudo. Roedd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad a gosod adroddiad gerbron Senedd y DU. Wrth gynnal yr adolygiad, roedd yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol roi sylw i argymhellion adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF.[footnote 44] Bwriadwyd i’r adolygiad lywio dealltwriaeth Senedd y DU o’r ffordd roedd arferion rhannu gwybodaeth presennol yn cefnogi diogelwch dioddefwyr cam-drin domestig, yn effeithio ar hyder dioddefwyr o ran rhoi gwybod am gamdriniaeth, a nodi a oes angen newidiadau i bolisïau neu arferion o bosibl.
Mae adran 82 yn rhoi’r pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Cod Ymarfer ynglŷn â phrosesu data cam-drin domestig at ddibenion mewnfudo.
Bwriadwyd i’r ddarpariaeth sefydlu fframwaith ar gyfer canllawiau ynglŷn â sut y dylid ymdrin â data o’r fath, gan gynnwys mesurau diogelu ynglŷn â’u defnydd gan awdurdodau perthnasol. Pan fydd wedi’i gyhoeddi, mae’n ofynnol i bersonau y mae’r Cod Ymarfer yn gymwys iddynt roi sylw iddo wrth brosesu data cam-drin domestig at ddibenion mewnfudo. Wrth baratoi, diwygio, neu ddisodli’r Cod Ymarfer, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â’r Comisiynydd Cam-drin Domestig, y Comisiynydd Gwybodaeth ac unrhyw bersonau eraill a ystyrir yn briodol. Mae adran 82 hefyd yn sefydlu goruchwyliaeth seneddol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cod Ymarfer gael ei osod gerbron Senedd y DU a bod yn ddarostyngedig i broses gymeradwyo 40 diwrnod. Mae’n ofynnol ymhellach i’r Ysgrifennydd Gwladol barhau i’w adolygu, gyda darpariaeth iddo gael ei ddiwygio neu ei ddisodli yn ôl yr angen.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 81 i rym ar 29 Ebrill 2021. Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref adolygiad ffurfiol o gytundebau rhannu data rhwng yr heddlu a Gorfodi Mewnfudo ar gyfer dioddefwyr sy’n fudwyr a thystion troseddau â statws mewnfudo ansicr, a gyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2021.[footnote 45]
Daeth adran 82 i rym ar 5 Ebrill 2023. Fodd bynnag, nid yw Cod Ymarfer o dan adran 82 wedi cael ei gyhoeddi.
Asesiad
Mae adran 81, ym marn Llywodraeth y DU, gweinyddiaethau datganoledig, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a phartneriaid plismona, yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Maent hefyd o’r farn nad yw adran 82 wedi cael ei rhoi ar waith ac felly nad yw wedi cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Ond bydd diwygiadau polisi arfaethedig yn cyflawni bwriad sylfaenol adran 82 – codi hyder dioddefwyr sy’n fudwyr i roi gwybod i’r heddlu am gam-drin domestig.
Cydnabu’r adolygiad, o dan adran 81, bryderon a godwyd gan sefydliadau cam-drin domestig a chaethwasiaeth fodern y gallai’r arferion rhannu data presennol atal dioddefwyr rhag rhoi gwybod am gam-drin a cheisio cymorth cyfreithiol a daeth i’r casgliad bod angen gwelliannau i godi hyder dioddefwyr. Gosodwyd canfyddiadau’r adolygiad gerbron Senedd y DU drwy ddatganiad gweinidogol ysgrifenedig ar yr un diwrnod. Argymhellodd yr adolygiad y dylid datblygu Protocol ar Ddioddefwyr sy’n Fudwyr i staff Gorfodi Mewnfudo, a fyddai’n sicrhau na chaiff unrhyw gamau gorfodi mewnfudo eu cymryd yn erbyn dioddefwyr tra bydd ymchwiliadau troseddol yn mynd rhagddynt a thra bydd dioddefwyr yn cael cyngor ar unioni eu statws mewnfudo.
Arweiniodd Gorfodi Mewnfudo adolygiad y Swyddfa Gartref, a wnaeth argymhell Protocol ar Ddioddefwyr sy’n Fudwyr a dechrau gwaith datblygu ar brotocol. Fodd bynnag, roedd pryderon ynglŷn â her gyfreithiol ac anhawster o ran y neges i ddioddefwyr yn golygu bod y cynnig wedi ei ganslo.
Er nad yw Cod Ymarfer o dan adran 82 wedi cael ei gyhoeddi, nac ychwaith Protocol ar Ddioddefwyr sy’n Fudwyr i staff Gorfodi Mewnfudo, mae’r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i gyflwyno gofyniad i’r heddlu geisio cytundeb dioddefwyr cyn rhannu eu data personol â Gorfodi Mewnfudo. Archwiliodd y Swyddfa Gartref nifer o opsiynau gyda’r nod o wella cyfraddau rhoi gwybod am gam-drin domestig ymhlith dioddefwyr sy’n fudwyr a hefyd sicrhau uniondeb y system fewnfudo. Mae’r Swyddfa Gartref yn ystyried a oes angen Cod Ymarfer i roi’r gofyniad i gael cytundeb ar waith. Pe bai o’r farn bod angen Cod, câi ei ddatblygu yn unol â’r gofynion a nodwyd yn adran 82 o’r Ddeddf. Pe bai o’r farn nad oes angen Cod, yna bwriedir i’r ymrwymiad gael ei gyflawni drwy ddiweddaru’r canllawiau a’r polisi presennol.
Yn y cyfamser, mae Gorfodi Mewnfudo wedi lansio ymateb diogelu mewnol gwell i’r holl ddioddefwyr cam-drin domestig y mae eu gwybodaeth yn cael eu rhannu gan yr heddllu yn ystod ymholiad ynglŷn â statws mewnfudo. Mae’r Gwasanaeth Amddiffyn a Chefnogi Dioddefwyr (VPASS) a lansiwyd ym mis Medi 2025 ac sydd wedi’i leoli’n ganolog yn hwb Diogelu Cenedlaethol Gorfodi Mewnfudo, yn goruchwylio ac yn rhoi gwell cymorth i’r dioddefwyr hynny y mae eu data yn cael eu rhannu at ddibenion mewnfudo.
Materion cyfreithiol
Mae adran 82 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn rhoi pŵer disgresiwn i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi Cod Ymarfer sy’n llywodraethu sut y caiff data cam-drin domestig eu prosesu at ddibenion mewnfudo. Er bod y Ddeddf yn amlinellu mesurau diogelu gweithdrefnol a seneddol pan gyhoeddir Cod, nid yw’r mesurau diogelu hynny yn berthnasol oni bai bod y pŵer yn cael ei arfer. Yn absenoldeb Cod Ymarfer, yn lle hynny, caiff prosesu data cam-drin domestig at ddibenion mewnfudo ei reoleiddio gan y fframwaith diogelu data cyffredinol o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Rhan 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018, a ategir gan ganllawiau gweinyddol. Mae paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Diogelu Data 2018 yn darparu esemptiad o ran rheolaeth fewnfudo, sy’n caniatáu cyfyngiadau ar hawliau penodol testun y data lle y byddai ei gais yn debygol o effeithio ar rheolaeth fewnfudo effeithiol.
Mae gweithrediad adran 81 ac adran 82 yn golygu bod hawliau dynol ac ystyriaethau cyfraith gyhoeddus yn berthnasol, gan gynnwys diogelu bywyd preifat a theuluol o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’r gofyniad bod yn rhaid i unrhyw achosion o ymyrryd â’r hawliau hynny fod yn gyfreithlon, yn gymesur ac yn rhagweladwy. Mae absenoldeb cod statudol yn golygu nad oes unrhyw fframwaith deddfwriaethol yn nodi pryd a sut y gellir rhannu data personol dioddefwyr at ddibenion mewnfudo. Mae adolygiadau polisi ehangach yng nghyd-destun trais yn erbyn menywod a merched wedi nodi pryderon y gall rhannu gwybodaeth dioddefwyr â staff mewnfudo danseilio amcanion diogelu a gwneud dioddefwyr sy’n fudwyr yn llai parod i roi gwybod am gam-drin. Mewn ymateb, mae gwaith yn mynd rhagddo i ystyried a oes angen cyflwyno Cod Ymarfer statudol neu fesurau eraill, gan gynnwys wal dân rhannu data rhwng yr heddlu a Gorfodi Mewnfudo ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig, er mwyn helpu i roi’r Ddeddf ar waith yn effeithiol.
Adran 83 – Adrodd ar y defnydd o ganolfannau cyswllt yn Lloegr
Cyflwyniad
Roedd adran 83 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraeth gyhoeddi adroddiad ar y graddau y mae unigolion sy’n defnyddio canolfannau cyswllt plant yn Lloegr yn cael eu diogelu rhag y risg o gam-drin domestig neu, yn achos plant, rhag niwed.
Sylwer nad yw’r adroddiad yn gymwys i Gymru. Yng Nghymru, darperir y cyfrifoldeb i ddiogelu plant gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 83 i rym ar 29 Ebrill 2021. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol, “Research into Safeguarding Processes in Child Contact Centres in England”, ym mis Mawrth 2023.[footnote 46]
Asesiad
Mae adran 83, ym marn Llywodraeth y DU, yn cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth.
Er mwyn bodloni’r gofyniad o dan adran 83, comisiynodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gwmni ymchwil Cordis Bright i gynnal adolygiad o arferion diogelu mewn canolfannau cyswllt yn Lloegr. Cynhaliodd yr adolygiad arolwg o 190 o wasanaethau cyswllt yn Lloegr, adolygiad o 111 o bolisïau diogelu, ac ymchwil ansoddol fanwl gyda 76 o randdeiliaid, rhieni/gofalwyr a phlant. Ei nodau oedd:
- Deall mesurau diogelu a phrosesau ar gyfer rheoli honiadau neu achosion o gam-drin domestig a niwed mewn canolfannau cyswllt.
- Asesu i ba raddau y mae’r prosesau diogelu yn amddiffyn oedolion a phlant yn effeithiol, ac argymell gwelliannau.
Cyhoeddodd yr adolygiad sawl canfyddiad craidd:
- Mewn canolfannau sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a’r rhai sydd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant (‘NACCC’) yr oedd polisïau diogelu ar eu cryfaf. Roedd staff a gwirfoddolwyr mewn canolfannau yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelu.
- Nododd y rhan fwyaf o’r canolfannau atgyfeiriadau a oedd yn ymwneud â cham-drin domestig yn y 12 mis cyn yr ymchwil. Roedd yr asesiadau risg ar adeg atgyfeiriad yn drylwyr ac yn gyson ar y cyfan, ond roedd y ffordd roedd asesiadau risg yn cael eu diweddaru yn amrywio’n sylweddol rhwng canolfannau.
- Mae canolfannau yn rhoi polisïau gweithredol ataliol ar waith i hybu diogelwch corfforol fel mater o drefn, ond roedd cysondeb y broses hon yn amrywio.
- Canfu’r adolygiad fod lle i wella diogelu emosiynol, yn enwedig o ran cefnogi dioddefwyr a phlant cyn ac ar ôl cyswllt. Dim ond 11% o staff a gwirfoddolwyr a nododd eu bod wedi cael hyfforddiant arbenigol ar gam-drin domestig o fewn y 12 mis cyn yr ymchwil. Nododd staff hefyd fod nad oedd ganddynt hyder wrth ymateb i ddatgeliadau neu adnabod rheolaeth drwy orfodaeth.
- Nododd y canfyddiadau pa mor bwysig yw dullIau diogelu amlasiantaethol system gyfan a llwybrau atgyfeirio priodol, gan gynnwys cysylltiadau â gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol.
- Gwelwyd anghysondebau o ran sut roedd lleisiau a phrofiadau plant yn cael eu hintegreiddio â gwaith diogelu a symud achosion yn eu blaen.
Cynigiodd yr adroddiad bum argymhelliad:
- Cyflwyno hyfforddiant gorfodol ar ddiogelu a cham-drin domestig i holl staff a gwirfoddolwyr canolfannau cyswllt.
- Cryfhau dulliau o asesu risg a rheoli risg, gan gynnwys cymorth arbenigol i deuluoedd.
- Sicrhau bod lleisiau plant yn ganolog o adeg atgyfeiriad hyd at waith cynllunio ac adolygu cyswllt.
- Gwella cydgysylltu amlasiantaethol a chysondeb ymarfer.
- Adolygu cyllid i gefnogi darpariaeth hygyrch a chynaliadwy o ganolfannau cyswllt ledled y wlad.
O ganlyniad i ganfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad, gwnaeth Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant (NACCC), sef y sefydliad sy’n gyfrifol am achredu canolfannau cyswllt plant, ddiweddaru ei safonau cenedlaethol y mae pob canolfan gyswllt achrededig yn gweithio’n unol â nhw. Gwnaeth NACC hefyd ddiweddaru ei hyfforddiant mewn perthynas â diogelu, cam-drin domestig a chwblhau asesiadau risg, sy’n gwneud hyn yn orfodol i bob aelod o’r staff sy’n gweithio mewn canolfannau cyswllt plant ac sy’n rhoi cyswllt â chymorth ac wedi’i oruchwylio.
Adran 84 – Pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i gyhoeddi canllawiau ynglŷn â cham-drin domestig ac ati
Cyflwyniad
Bwriad adran 84 yw cyflwyno, am y tro cyntaf, bwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canllawiau i wella sut mae sefydliadau yn adnabod, deall, ac yn ymateb i achosion o gam-drin domestig. Yn benodol, mae is-adran (4) yn gosod dyletswydd ar bersonau sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus i roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan adran 84 wrth arfer y swyddogaethau hynny. Mae hyn yn cynnwys heddluoedd, comisiynwyr heddlu a throseddu, Gwasanaeth Erlyn y Goron , awdurdodau lleol, iechyd a gofal cymdeithasol, Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Cafcass) Lloegr a Cafcass Cymru.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adran 84 i rym ym mis Tachwedd 2021. Cyhoeddwyd y Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig ar 8 Gorffennaf 2022.
Asesiad
Mae adran 84, ym marn Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, a phartneriaid plismona, yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth. Mae’r diweddariad arfaethedig i’r canllawiau yn cael ei groesawu fel cyfle i lenwi bylchau yn y canllawiau a chryfhau ymhellach y ddealltwriaeth o fathau o gam-drin domestig sy’n dod i’r golwg, megis cam-drin ar-lein a cham-drin a hwylusir gan dechnoleg, a’r ffyrdd y mae cam-drin domestig yn amlygu ei hun ac yn effeithio ar garfannau gwahanol o ddioddefwyr, megis dioddefwyr sy’n niwrowahanol.
Mae’r Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig wedi cael eu cyhoeddi ac maent yn adlewyrchu’r amrywiaeth eang o ddioddefwyr y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt, yn ogystal â’r nifer mawr o ffyrdd y gall cam-drin domestig amlygu ei hun. Maent wedi cael derbyniad da ymhlith partneriaid gweithredol a’r sector cam-drin domestig. Maent yn amlinellu sut mae’r gwahanol fathau hyn o gam-drin yn effeithio ar ddioddefwyr a beth y gall asiantaethau statudol ac anstatudol ei wneud i wella’r ymateb i gam-drin domestig.
Fodd bynnag, ers i’r canllawiau gael eu cyhoeddi, mae ymchwil a thystiolaeth ynglŷn â cham-drin domestig wedi datblygu, ac rydym yn ymwybodol bod angen cryfhau’r canllawiau er mwyn adlewyrchu profiadau pob carfan o ddioddefwyr yn well. At hynny, rydym ar ddeall bod diffyg hyder o ran adnabod a deall gwrth-honiadau, yn enwedig pan fyddant yn cael eu defnyddio fel tacteg gan gyflawnwr. Mae angen hefyd ystyried canllawiau cryfach ar ddynameg a theipolegau cam-drin sy’n dod i’r golwg ac rydym ar fin dechrau’r broses o ddiweddaru’r canllawiau erbyn diwedd 2026 mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid er mwyn adlewyrchu’r rhain yn well.
At hynny, roedd asiantaethau statudol ac anstatudol fel ei gilydd yn cydnabod yn gyffredinol fod angen gwneud rhagor i wella effeithiolrwydd gweithio amlasiantaethol. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i brosesau rhannu gwybodaeth ac asesu risg megis Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg.
Eleni (2026), bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau ar yr ymateb amlasiantaethol i’r risg o gam-drin domestig, ochr yn ochr ag adolygu Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg ac ystyried a ddylid rhoi statws statudol iddynt. Bydd hyn yn cefnogi bwriad sylfaenol adran 84 i wella’r ffordd mae sefydliadau yn adnabod, yn deall ac yn ymateb i gam-drin domestig.
Adrannau 85-91 – Pwerau i wneud diwygiadau canlyniadol a Phwerau i wneud darpariaethau trosiannol neu arbed, darpariaethau terfynol, rheoliadau, darpariaethau ariannol, rhychwant, cychwyn, a theitl byr
Cyflwyniad
Bwriadau cyfun adrannau 85-91 yw sicrhau’r gallu i ddiwygio’r Ddeddf yn y dyfodol a rhoi eglurder ynglŷn â’r rhychwant tiriogaethol, pwerau gwneud penderfyniadau, dyddiadau cychwyn, a darpariaethau ariannol.
Mae adran 85 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol sy’n deillio o ddarpariaethau a wneir gan neu o dan y Ddeddf. Mae’r pŵer hwn yn ei gwneud yn bosibl i wneud diwygiadau, diddymiadau, dirymiadau neu addasiadau eraill i ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth bresennol os bydd angen gwneud newidiadau o’r fath i weithredu’r Ddeddf yn llawn, neu i sicrhau cysondeb rhwng y ddeddfwriaeth sylfaen a’r is-ddeddfwriaeth bresennol (is-adran (4)). Gwneir darpariaeth gyfatebol i Gymru, sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i arfer y pŵer hwn mewn perthynas â materion sydd o fewn y cymhwysedd datganoledig (is-adran (5)). Felly, diben adran 85 yw sicrhau bod y Ddeddf yn gallu cael ei hintegreiddio’n effeithiol yn y dirwedd ddeddfwriaethol ehangach, ac y gellir ymdrin ag anghysondebau neu fylchau anfwriadol wrth i ddarpariaethau’r Ddeddf gael eu cychwyn a’u cymhwyso’n ymarferol.
Mae adran 86 yn darparu pŵer cysylltiedig ond penodol i wneud rheoliadau, sy’n ei gwneud yn bosibl i ddarpariaethau trosiannol neu ddarpariaethau arbed gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r darpariaethau o sylwedd yn y Ddeddf sy’n dod i rym (is-adran (1)). Mae hyn yn cynnwys y gallu i wneud addasiadau (is-adran (5)), pan fydd rhannau gwahanol o’r Ddeddf yn cychwyn ar adegau gwahanol, neu pan fydd angen i ddarpariaethau cynharach weithredu ochr yn ochr â darpariaethau nad ydynt mewn grym eto.
Mae adran 86 hefyd yn dyrannu cyfrifoldeb am wneud darpariaethau o’r fath rhwng awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, a’r Adran Gyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, sy’n adlewyrchu rhychwant tiriogaethol y Ddeddf a’r ffordd y caiff cyfrifoldebau datganoledig eu rhannu (is-adran (4)). Bwriedir i’r adran gefnogi sicrwydd cyfreithiol a pharhad yn ystod y cyfnod pan fydd y Ddeddf yn cael ei chychwyn a’i rhoi ar waith mewn camau.
Mae adran 87 yn cyflawni swyddogaeth deddfwriaethol ategol drwy sicrhau y gellir arfer pwerau dirprwyedig o dan y Ddeddf mewn ffordd ddigon hyblyg i hwyluso’r broses o’i rhoi ar waith yn effeithiol ac ymdrin â materion ymarferol neu dechnegol sy’n codi o weithrediad y Ddeddf dros amser.
Mae adran 87 yn gwneud darpariaethau ynglŷn â gwneud rheoliadau o dan y Ddeddf. Mae’n darparu bod unrhyw bŵer sydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf yn arferadwy drwy offeryn statudol ac y caiff y cyfryw reoliadau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol. Mae’r adran yn pennu a yw rheoliadau yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol neu negyddol, gan sicrhau lefel briodol o oruchwyliaeth Seneddol yn dibynnu ar natur ac effaith y rheoliadau dan sylw. Mae’r ddarpariaeth hon yn cefnogi tryloywder ac atebolrwydd wrth arfer pwerau dirprwyedig o dan y Ddeddf ac mae’n gyson ag ymarfer deddfwriaethol sefydledig. Mae’r adran hefyd yn darparu y caiff rheoliadau gynnwys darpariaeth ddeilliadol, atodol, ganlyniadol, drosiannol neu arbed lle y bo’n briodol.
Mae adran 88 o’r Ddeddf yn nodi sut y bwriedir talu am y costau sy’n gysylltiedig â rhoi’r Ddeddf ar waith. Mae’r adran hon yn awdurdodi bod yn rhaid talu am unrhyw wariant sy’n ofynnol gan weinidogion wrth gyflawni dyletswyddau o dan y Ddeddf ynghyd ag unrhyw gostau ychwanegol sy’n cael eu creu mewn darnau eraill o ddeddfwriaeth oherwydd y Ddeddf drwy ddefnyddio arian a ddarperir gan Senedd y DU.
Mae adran 89 yn nodi rhychwant tiriogaethol darpariaethau’r Ddeddf, gan bennu rhychwant adrannau unigol yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r adran hon yn rhoi eglurder cyfreithiol ynglŷn â chyrhaeddiad daearyddol y Ddeddf ac yn adlewyrchu’r setliad datganoli drwy wahaniaethu rhwng materion a gedwir yn ôl, materion datganoledig a materion â chymhwysedd cymysg.
Mae adrannau 89(6) a (7) yn gwneud darpariaeth benodol i estyn adran 39(7)—sy’n darparu bod Gorchmynion Amddiffyn rhag Cam-drin Domestig a wneir gan un o lysoedd y lluoedd yn weithredol yng Nghymru a Lloegr fel pe bai wedi cael ei wneud gan llys sifil—a darpariaethau cysylltiedig y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig. Mae’r is-adrannau hyn yn darparu bod adran 39(7) yn ymestyn i Ynys Manaw a’r Tiriogaethau Tramor Prydeinig (ac eithrio Gibraltar) ac yn rhoi pwerau o dan Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 i addasu neu estyn y ddarpariaeth honno ymhellach, gan gynnwys i Ynysoedd y Sianel, gyda neu heb addasiadau. Mae’r darpariaethau hyn yn sicrhau bod yr elfennau o’r gyfundrefn amddiffyn rhag cam-drin domestig sy’n ymwneud â chyfiawnder y lluoedd arfog yn gallu gweithredu’n effeithiol mewn cyd-destunau tramor ac yng nghyd-destun y lluoedd arfog lle y bo’n briodol.
Mae darpariaeth glir ynglŷn â rhychwant yn angenrheidiol er mwyn helpu i roi’r Ddeddf ar waith yn effeithiol a sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus ac ymarferwyr yn deall pan fydd dyletswyddau statudol a phwerau yn gymwys.
Mae adran 90 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol gychwyn darpariaethau’r Ddeddf drwy reoliadau, gan ei gwneud yn bosibl i’r Ddeddf gael ei rhoi ar waith yn drefnus ac mewn camau. Er i rai darpariaethau ddod i rym ar adeg Cydsyniad Brenhinol, cafodd eraill eu cychwyn ar adegau gwahanol. Mae’r dull gweithredu hwn yn adlewyrchu maint a chymhlethdod y Ddeddf, a gyflwynodd amrywiaeth eang o ddiwygiadau yn y systemau troseddol, sifil a theuluol, yn ogystal â dyletswyddau statudol newydd ar awdurdodau cyhoeddus.
Mae adran 91 yn gwneud darpariaeth ar gyfer teitl byr y Ddeddf.
Rhoi’r adran ar waith
Daeth adrannau 85-91 i rym ar 29 Ebrill 2021.
Asesiad
Mae adrannau 85-91, ym marn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn effeithiol o ran cyflawni bwriad y ddeddfwriaeth.
Mae adrannau 85 ac 86 yn chwarae rhan bwysig i gefnogi’r broses o roi’r Ddeddf ar waith yn effeithiol, a chefnogi cydlyniaeth y cynllun deddfwriaethol yn ei gyfanrwydd a’r gallu i’w weithredu’n gyfreithiol. Roedd strwythur y Ddeddf yn rhagweld y byddai angen diwygiadau canlyniadol a darpariaethau trosiannol o ystyried hyd a lled y Ddeddf, y broses o’i chychwyn mewn camau a’r ffordd y mae’n rhyngweithio â fframweithiau deddfwriaethol sy’n bodoli eisoes. Yn seiliedig ar y deunydd cyhoeddus a seneddol sydd ar gael, nid oes fawr ddim tystiolaeth bod adrannau 85 ac 86 wedi bod yn nodwedd flaenllaw ar y broses o roi’r Ddeddf ar waith, sy’n awgrymu nad yw’r broses o bontio i’r fframwaith statudol newydd wedi dibynnu ar ddefnydd helaeth ohonynt. Mae hyn o bosibl yn dangos bod y Ddeddf yn effeithiol i raddau helaeth o ran integreiddio â deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a oedd yn bodoli eisoes, ac yr ymdriniwyd â’r trefniadau cychwyn a throsiannol heb darfu cyfreithiol sylweddol. Yn yr un modd, mae amlygrwydd cyfyngedig y pwerau hyn yn tanlinellu eu rôl fel mesurau diogelu technegol yn hytrach na darpariaethau sy’n sbarduno polisi, sy’n cefnogi cydlyniaeth gyfreithiol yn hytrach na llunio ymarfer ar y rheng flaen neu ganlyniadau i ddioddefwyr. Mae’n arwyddocaol o hyd eu bod wedi’u cynnwys, am eu bod yn rhoi hyblygrwydd a sicrwydd cyfreithiol pe bai angen addasiadau wrth i’r Ddeddf ymsefydlu.
Mae adran 88 yn gweithredu yn ôl y bwriad. Mae’n rhoi’r awdurdod statudol i Weinidogion dalu am unrhyw wariant sy’n codi o’r Ddeddf gan ddefnyddio arian a ddarperir gan Senedd y DU. Nid oes unrhyw broblemau gyda gweithrediad y ddarpariaeth hon, ac mae cyllid wedi cael ei ddyrannu yn ôl y gofyn i helpu i roi mesurau’r Ddeddf ar waith.
Mae adrannau 87, 89, 90 a 91, gyda’i gilydd, wedi gweithredu’n effeithiol ac yn ôl y bwriad ac maent yn parhau i ddarparu sail strwythurol gydlynol ac effeithiol i weithrediad y Ddeddf. Mae’r darpariaethau hyn wedi helpu i roi’r Ddeddf ar waith, wedi cynnal trefniadau cyfansoddiadol ac wedi sicrhau goruchwyliaeth seneddol gymesur drwy brosesau deddfwriaethol a chraffu. Nid oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod angen diwygio’r adrannau hyn fel rhan o’r adolygiad ar ôl deddfu.
Atodlenni
Atodlen 1
Rhagor o wybodaeth am remand o dan adran 40
Ceir sylwadau ar yr atodlen hon yn y sylwadau ar adran 40 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig.
Atodlen 2
Tagu neu Fygu: diwygiadau canlyniadol
Ceir sylwadau ar yr atodlen hon yn y sylwadau ar adran 70 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig.
Atodlen 3
Diwygiadau sy’n ymwneud â throseddau a gyflawnwyd y tu allan i’r DU
Ceir sylwadau ar yr atodlen hon yn y sylwadau ar adran 74 o’r Ddeddf Cam-drin Domestig.
Atodiad A – Rhychwant Tiriogaethol
| Darpariaeth | A yw’n ymestyn i Gymru a Lloegr AC yn gymwys i Loegr? | A yw’n ymestyn i Gymru a Lloegr AC yn gymwys i Gymru? | A yw’n ymestyn i’r Alban ac yn gymwys yno? | A yw’n ymestyn i Ogledd Iwerddon ac yn gymwys yno? |
|---|---|---|---|---|
| Adrannau 1 i 2 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 3 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 4 i 21 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 22 i 38 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 39 | Ydy | Ydy | Yn rhannol | Yn rhannol |
| Adrannau 40 i 49 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 49A i 49B | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 50 i 56 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 57 i 61 | Ydy | Nac ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 62 i 64 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 65 i 66 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 67 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 68 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 69 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 70 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 71 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 72 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 73 | Nac ydy | Nac ydy | Nac ydy | Ydy |
| Adran 74 | Yn rhannol | Yn rhannol | Yn rhannol | Yn rhannol |
| Adran 75 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 76 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 77 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 78 | Ydy | Nac ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 79 | Ydy | Nac ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 80 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 81 ac 82 | Ydy | Ydy | Ydy | Ydy |
| Adran 83 | Ydy | Nac ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adran 84 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Adrannau 85 i 91 | Ydy | Ydy | Ydy | Ydy |
| Atodlen 1 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Atodlen 2 | Ydy | Ydy | Nac ydy | Nac ydy |
| Atodlen 3 | Yn rhannol | Yn rhannol | Yn rhannol | Yn rhannol |
Atodiad B – Rhestr termau
| Acronym neu Derm | Ystyr |
|---|---|
| Y Ddeddf | Deddf Cam-drin Domestig 2021 |
| BMA | Cymdeithas Feddygol Prydain |
| Cafcass | Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd |
| CCB | Ymddygiad Gorfodaethol neu Reolaethol |
| CPS | Gwasanaeth Erlyn y Goron |
| DA | Cam-drin Domestig |
| DAC | Y Comisiynydd Cam-drin Domestig |
| DAPN | Hysbysiad Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig |
| DAPO | Gorchymyn Amddiffyn Rhag Cam-drin Domestig |
| DARA | Asesiad Risg Cam-drin Domestig |
| DfE | Yr Adran Addysg |
| DPA | Y Ddeddf Diogelu Data |
| DVDS | Y Cynllun Datgelu Trais Domestig |
| EM | Monitro Electronig |
| FPR | Rheolau Trefniadaeth Teulu |
| GLA | Awdurdod Llundain Fwyaf |
| HMCTS | Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF |
| IDVA | Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig |
| IE | Gorfodi Mewnfudo |
| IFAS | Y Sefydliad Ymdrin â Thagu |
| LHDT+ | Pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol |
| LGA | Cymdeithas Llywodraeth Leol |
| MARAC | Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg |
| MHCLG | Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol |
| MoJ | Y Weinyddiaeth Gyfiawnder |
| NACCC | Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant |
| NCVPP | Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer VAWG ac Amddiffyn y Cyhoedd |
| OMA | Deddf Rheoli Troseddwyr |
| PRP | Darparwr Cofrestredig Preifat |
| QLR | Cynrychiolwyr Cyfreithiol Cymwys |
| VAWDASV | Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol |
| VAWG | Trais yn Erbyn Menywod a Merched |
| Strategaeth VAWG | Freedom from Violence and Abuse: a cross-government strategy to build a safer society for women and girls |
| VPASS | Y Gwasanaeth Amddiffyn a Chefnogi Dioddefwyr |
| YJCEA | Deddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol |
-
https://www.gov.uk/government/publications/post-legislative-scrutiny-the-governments-approach ↩
-
Ar gyfer Gogledd Iwerddon, Rhan 3 o Atodlen 3, ac adrannau 39, 73, 74, 81–82 ac 85–91. Ar gyfer yr Alban , Rhan 2 o Atodlen 3, ac adrannau 39, 74, 81–82 ac 85–91. ↩
-
Roedd Prosiect Bright Light yn cynnwys cydweithrediad ymchwil gyflym rhwng Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn Lloegr a thîm traws-sefydliad o academyddion, yr oedd llawer ohonynt wedi arloesi i ddatblygu dull nodedig Ymgyrch Soteria o ymdrin â throseddau treisio a throseddau rhywiol difrifol. Cynhaliodd y prosiect adolygiad sylfaenol thematig o ymateb yr heddlu i gam-drin domestig mewn un heddlu. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/the-multi-agency-response-to-children-who-are-victims- ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/working-together-to-safeguard-children–2 ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/babies-children-and-young-peoples-experiences-of-domestic-abuse/victims-in-their-own-right-babies-children-and-young-peoples-experiences-of-domestic-abuse-accessible ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/government-response-to-the-report-victims-in-their-own-right ↩
-
Mae’n bwysig nodi gwahaniaeth o ran cyflawni swyddogaethau datganoledig yng Nghymru. Fel y’i pennwyd yn adran 7(3), nid yw’r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag awdurdod Cymreig datganoledig, na materion datganoledig. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/domestic-abuse-protection-orders-and-protection-notices/domestic-abuse-protection-orders-and-domestic-abuse-protection-notices-statutory-guidance-for-the-police-accessible ↩
-
https://assets.publishing.service.gov.uk/media/663116e1d0030b10e56a509a/Code_of_Practice.pdf ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/domestic-abuse-protection-orders-and-protection-notices/domestic-abuse-protection-orders-and-domestic-abuse-protection-notices-statutory-guidance-for-the-police-accessible ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/process-evaluation-of-operation-encompass ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/the-multi-agency-response-to-children-who-are-victims-of-domestic-abuse/the-multi-agency-response-to-children-who-are-victims-of-domestic-abuse ↩
-
https://www.legislation.gov.uk/uksi/2021/990/contents/made ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/domestic-abuse-support-within-safe-accommodation/delivery-of-support-to-victims-of-domestic-abuse-in-domestic-abuse-safe-accommodation-services ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/support-in-domestic-abuse-safe-accommodation-financial-year-2022-to-2023; https://www.gov.uk/government/publications/support-in-domestic-abuse-safe-accommodation-2023-to-2024; https://www.gov.uk/government/publications/support-in-domestic-abuse-safe-accommodation-2024-to-2025; https://www.gov.uk/government/publications/support-in-domestic-abuse-safe-accommodation-2024-to-2025 ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/delivery-of-support-in-domestic-abuse-safe-accommodation-annual-progress-report-2022-23/annual-progress-report-from-the-domestic-abuse-safe-accommodation-national-expert-steering-group-2022-to-2023 ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/domestic-abuse-duty-for-support-in-safe-accommodation-evaluation ↩
-
https://www.judiciary.uk/wp-content/uploads/2020/08/Vulnerable-witnesses-and-parties-consultation-September-2019.pdf ↩
-
https://www.justice.gov.uk/courts/procedure-rules/civil/rules/part01/practice-direction-1a-participation-of-vulnerable-parties-or-witnesses ↩
-
https://www.domesticabusecommissioner.uk/wp-content/uploads/2025/10/Everyday-Business-full-report-web.pdf ↩
-
Cyfreithwyr, bargyfreithwyr neu ymarferwyr gweithredol cyfreithiol siartredig cymwysedig sy’n dewis cofrestru ar gyfer y cynllun yw cynrychiolwyr cyfreithiol cymwysedig. Er mwyn bod yn gynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig, mae’n rhaid i gyfreithwyr gofrestru â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF. Gallant ddewis derbyn neu wrthod achosion ar ôl cofrestru – nid oes rhwymedigaeth arnynt i dderbyn gwaith fel cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig. Nid yw’r parti na’r tyst yn gyfrifol am dalu am y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig; mae’r cynllun yn talu am y gost. Mae rôl y cynrychiolydd cyfreithiol cymwysedig yn yr achos wedi’i chyfyngu i baratoi i groesholi tyst, a chynnal y croesholiad. Bwriedir i’r cynllun hwn sicrhau bod pob parti (a thyst), gan gynnwys y rhai sydd wedi’u gwahardd rhag croesholi rhywun arall, yn gallu cael treial teg, sy’n gyson â’i hawliau fel y’u nodwyd yn Erthyglau 6 ac 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. ↩
-
https://www.justice.gov.uk/courts/procedure-rules/family/practice_directions/practice-direction-3ab-prohibition-of-cross-examination-in-person-in-family-proceedings-under-part-4b-of-the-matrimonial-and-family-proceedings-act-1984 ↩
-
https://www.justice.gov.uk/courts/procedure-rules/civil/rules/part01/practice-direction-1a-participation-of-vulnerable-parties-or-witnesses ↩
-
Rezey ML (2020). Separated women’s risk for intimate partner violence: A multiyear analysis using the national crime victimization survey. Journal of Interpersonal Violence, 35(5–6), 1055–1080. 10.1177/0886260517692334 ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/controlling-or-coercive-behaviour-statutory-guidance-framework#full-publication-update-history ↩
-
Myhill A, Johnson K, McNeill A, Critchfield E a Westmarland N (2023) “A genuine one usually sticks out a mile”: Policing coercive control in England and Wales. Policing and Society 33(4): 398-413. Robinson, Amanda; Hohl, Katrin; Westmarland, Nicole; Johnson, Kelly; Williams, Emma; Lovett, Jo; Kelly, Liz; Vera-Gray, Fiona; a May, Tiggey (2025). Project Bright Light transforming the police response to domestic abuse: Findings report. Project report. Ar gael yn: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/182350 ↩
-
https://cdn.websitebuilder.service.justice.gov.uk/uploads/sites/54/2025/12/Intimate-image-abuse-final-report.pdf ↩
-
https://ifas.org.uk/wp-content/uploads/2024/04/DHR-Analysis-Non-Fatal-Strangulation-Report-February-2024.pdf ↩
-
https://ifas.org.uk/wp-content/uploads/2026/02/Strangulation-and-Suffocation-Offences-June-2024-June-2025-Report-1-2.pdf ↩
-
https://www.cps.gov.uk/cps/news/rise-strangulation-charges-highlights-cps-commitment-tackling-domestic-abuse ↩
-
https://www.gov.uk/government/statistics/criminal-justice-statistics-quarterly-september-2025 ↩
-
https://rm.coe.int/comments-submitted-by-the-united-kingdom-on-grevio-s-final-report-on-t/1680b6610b#:~:text=In%20February%202025%2C%20the%20. ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/tackling-domestic-abuse-plan/tackling-domestic-abuse-plan-command-paper-639-accessible-version ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/freedom-from-violence-and-abuse-a-cross-government-strategy/freedom-from-violence-and-abuse-a-cross-government-strategy-to-build-a-safer-society-for-women-and-girls-accessible ↩
-
Under Part 7 of the Housing Act 1996, if an applicant’s homelessness is not successfully prevented or relieved, a housing authority will owe an applicant the main housing duty (i.e. the main duty) in circumstances where the applicant has priority need for housing and is not homeless intentionally. https://www.gov.uk/government/statistics/statutory-homelessness-in-england-financial-year-2024-25/statutory-homelessness-in-england-financial-year-2024-25#accompanying-tables; https://www.gov.uk/government/statistical-data-sets/live-tables-on-homelessness ↩
-
https://www.gov.uk/government/statistics/statutory-homelessness-in-england-financial-year-2024-25/statutory-homelessness-in-england-financial-year-2024-25#accompanying-tables; https://www.gov.uk/government/statistical-data-sets/live-tables-on-homelessness ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/a-national-plan-to-end-homelessness ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/improving-access-to-social-housing-for-victims-of-domestic-abuse/improving-access-to-social-housing-for-victims-of-domestic-abuse ↩
-
https://www.gov.uk/guidance/allocation-of-accommodation-guidance-for-local-authorities ↩
-
https://www.gov.uk/government/statistics/social-housing-lettings-in-england-april-2024-to-march-2025/social-housing-lettings-in-england-tenants-april-2024-to-march-2025 ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/delivering-a-decade-of-renewal-for-social-and-affordable-housing/january-2026-progress-update-delivering-a-decade-of-renewal-for-social-and-affordable-housing ↩
-
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/945314/safe-to-share-liberty-southall-black-sisters-super-complaint-policing-immigration-status.pdf ↩
-
https://www.gov.uk/government/publications/review-of-data-sharing-migrant-victims-and-witnesses-of-crime/review-of-data-sharing-migrant-victims-and-witnesses-of-crime-accessible-version ↩
-
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1149869/research-into-safeguarding-processes-in-child-contact-centres-in-england.pdf ↩