Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 36A: derbynyddion a benodir o dan ddarpariaethau Deddf Cyfraith Eiddo 1925

Diweddarwyd 10 October 2022

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi arweiniad ar agweddau cofrestru tir trosglwyddiadau a phrydlesi ystad gofrestredig lle mae’r gwarediad yn cael ei gyflawni ar ran y cymerwr benthyg gan dderbynyddion a benodir o dan ddarpariaethau Deddf Cyfraith Eiddo 1925. Bwriedir i’r cyfarwyddyd gael ei ddefnyddio gan ymarferyddion ansolfedd a thrawsgludwyr.

Mae’n cynnwys derbynyddion Deddf Cyfraith Eiddo a benodir mewn perthynas ag unigolion a chyrff corfforaethol. Ar gyfer agweddau eraill o ansolfedd personol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol. Am elfennau eraill o ansolfedd corfforaethol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol.

Er 8 Rhagfyr 2017, mae’r prosesau ansolfedd ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn adlewyrchu’r rhai sydd ar gael i gwmnïau ansolfent gan amlaf, felly yn y cyfarwyddyd hwn, gellir derbyn yr ymadroddion “cwmni” neu “gorff corfforaethol” (ar 8 Rhagfyr 2017 neu ar ôl hynny) i gynnwys partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. (Fodd bynnag, mae Rheolau Ansolfedd 1986 yn dal i fod yn gymwys i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig lle cyflwynwyd deiseb ar gyfer gweinyddu cyn 15 Medi 2003.)

Mae derbynyddiaeth Deddf Cyfraith Eiddo yn faes anodd o’r gyfraith, yn enwedig o ran natur y dderbynyddiaeth a dirprwyo pwerau i’r derbynnydd. Felly, nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn ddatganiad terfynol o’r gyfraith, ond yn egluro ymarfer a gofynion Cofrestrfa Tir EF ar sail dehongliad Cofrestrfa Tir EF o’r gyfraith.

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn cwmpasu olynyddion mewn teitl i’r cymerwr benthyg gwreiddiol yn benodol. Hefyd, gan fod trafodion sy’n cynnwys derbynyddion Deddf Cyfraith Eiddo yn drosglwyddiadau ar werthiant fel arfer, mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhagdybio bod trosglwyddiad o dan sylw. Mae Atodiad: tabl cryno.

2. Derbynyddion Deddf Cyfraith Eiddo

2.1 Diffiniad

Mae derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn dderbynnydd a benodir naill ai o dan bwerau statudol (adrannau 101(1), 103 a 109 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925) neu o dan bŵer datganedig sydd wedi ei gynnwys mewn morgais, nad yw’n bodloni’r gofynion ar gyfer derbynnydd gweinyddol.

Rhaid i dderbynnydd gweinyddol fod yn ymarferydd ansolfedd a naill ai’n:

  • (i) dderbynnydd neu reolwr y cyfan (neu’r cyfan i bob diben) o eiddo cwmni a benodwyd gan, neu ar ran, dalwyr unrhyw ddebenturon y cwmni a warantwyd trwy arwystl oedd, fel y’i crëwyd, yn arwystl ansefydlog, neu arwystl o’r fath ac un warant arall neu fwy, neu

  • (ii) rhywun fyddai’n dderbynnydd neu reolwr o’r fath ond am benodi rhywun arall fel derbynnydd rhan o eiddo’r cwmni (adran 29(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Ni chaiff deiliad arwystl ansefydlog cymhwysol mewn perthynas ag eiddo cwmni a grëwyd ar neu ar ôl 15 Medi 2003 benodi derbynnydd gweinyddol i’r cwmni, yn amodol ar eithriadau (adran 72A o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Mae’r pŵer statudol i benodi derbynnydd yn codi pan fo arian y morgais wedi dod yn daladwy a phan fo’r pŵer gwerthu’n arferadwy.

2.2 Penodiad

Gall y cymerwr benthyg benodi derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo o dan y pŵer statudol trwy ysgrifennu o dan lofnod. Gall y morgais amrywio, ymestyn neu eithrio’r pŵer statudol, a gall gynnwys pŵer datganedig i benodi (adrannau 109(3) a 101(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Mae’r mwyafrif o forgeisi bellach yn cynnwys darpariaeth sy’n pennu pryd y gellir gwneud penodiad.

Mae angen i’r cofrestrydd fod yn fodlon fod y pŵer prynu, ac felly’r pŵer i benodi’r derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo, wedi codi (hyd yn oed os nad yw’r pŵer wedi dod yn arferadwy) (gweler Bailey v Barnes [1894] 1 Ch.25 @ 35), fel arall ni chaiff y derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo wneud teitl da i brynwr (adran 109(1) o Deddf Cyfraith Eiddo 1925). Os yw’r penodiad trwy orchymyn llys, bydd y cofrestrydd yn rhagdybio bod y llys wedi bodloni ei hun o ran amodau’r morgais neu ddebentur a bod y pŵer i benodi wedi codi; bydd y gorchymyn llys (neu gopi ardystiedig) yn ddigonol. Lle nad yw’r penodiad wedi ei wneud gan y llys ac nad oes copi llawn o’r morgais neu ddebentur, sy’n cynnwys manylion llawn amodau’r morgais, wedi ei ffeilio yng Nghofrestrfa Tir EF, rhaid i’r ceisydd ddarparu tystiolaeth (fel tystysgrif gan y rhoddwr benthyg neu ei drawsgludwr) fod y pŵer penodi wedi codi.

Ni all corfforaeth neu fethdalwr heb ei ryddhau weithredu fel derbynnydd eiddo cwmni (ac eithrio yn yr ail achos o dan benodiad a wneir gan y llys) (adrannau 30 a 31 o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Pan fo mwy nag un derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn cael ei benodi, rhaid i’r offeryn penodi (neu orchymyn llys) nodi’n glir a ydynt yn gallu gweithredu ar y cyd ac yn unigol, neu ar y cyd yn unig.

Rhaid datgelu i’r cofrestrydd unrhyw her i ddilysrwydd y morgais neu ddebentur (a fydd yn effeithio ar y pŵer i benodi) sydd o fewn gwybodaeth wirioneddol y derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo neu’r ceisydd. Os yw’r cofrestrydd yn dod yn ymwybodol am reswm arall o’r posibilrwydd o her o’r fath, gellir cyflwyno rhybuddion, gan roi cyfle i wrthwynebu, cyn i’r cais allu barhau ymhellach ac efallai y bydd yn ofynnol i’r derbynnydd a’r ceisydd gadarnhau nad oeddynt yn ymwybodol o her o’r fath ar yr adeg y cwblhawyd y gwarediad y mae’n ceisio ei gofrestru. Nid yw bodolaeth derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn atal gweinyddwr rhag cael ei benodi, ac ni fydd derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn cael ei ddiswyddo’n awtomatig os yw hyn yn digwydd. Fodd bynnag, rhaid i dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo adael ei swydd os yw’r gweinyddwr yn rhoi cyfarwyddyd iddo wneud hynny (gweler paragraff 41(2) o Atodiad B1).

Lle mae gweinyddwr wedi ei benodi cyn penodi’r derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo, rhaid cyflwyno cydsyniad y derbynnydd neu ganiatâd y llys i benodiad y Ddeddf Cyfraith Eiddo gyda’r cais i gofrestru’r gwarediad, ac os na fydd yn gwneud hynny bydd y cofrestrydd yn cyflwyno rhybudd i’r gweinyddwr, gan roi’r cyfle i wrthwynebu, cyn y gellir prosesu’r cais ymhellach.

2.3 Pwerau

Mae Adran 109 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn galluogi i roddwr benthyg benodi derbynnydd unwaith y daw’r arian morgais yn ddyledus ond mae’r adran yn cyflwyno pwerau statudol cyfyngedig iawn, sy’n gorfod cael eu hamrywio neu eu hymestyn os yw’r derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo i gael pŵer i waredu’r eiddo a forgeisiwyd.

Felly, mae pŵer y rhoddwr benthyg i benodi derbynnydd yn cael ei ymestyn fel arfer i roi’r pŵer i’r derbynnydd werthu’r eiddo a forgeisiwyd a gweithredu trawsgludiad neu drosglwyddiad yn enw’r cymerwr benthyg. Mae darpariaeth o’r fath mewn morgais yn atwrneiaeth o blaid y derbynnydd, boed yn cael ei mynegi felly ai peidio, a boed y morgais hefyd yn cynnwys atwrneiaeth o blaid y derbynnydd ai peidio. Nid oes angen i’r derbynnydd weithredu trosglwyddiad fel atwrnai; mae’n ddigonol os datganwyd eu bod i’w weithredu ar ran y cymerwr benthyg (am wybodaeth bellach, gweler Derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn cyflawni).

3. Materion allweddol sy’n gyffredin mewn gwarediadau gan dderbynyddion Deddf Cyfraith Eiddo

3.1 A yw’r gwarediad yn weithredol er mwyn galluogi’r cofrestrydd i’w gofrestru?

Os oes mwy nag un cymerwr benthyg (neu fod ymddiried tir am ryw reswm arall), gall trosglwyddiad gan un derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo fod yn effeithiol o hyd. Mae gan ymddiriedolwyr bŵer i forgeisio’r eiddo a gallant ddirprwyo’r pŵer i werthu a thrawsgludo’r tir a forgeisiwyd i’r derbynnydd. Bydd dirprwyo gan fwy nag un cymerwr benthyg (boed yn unigolion neu gwmnïau) i dderbynnydd unigol (h.y. “dirprwyaeth ar y cyd” o dan adran 11 o Dedddf Ymddiriedolwyr 2000) yn weithredol at ddibenion cofrestru (mae’r cydberchennog/cymerwyr benthyg yn gweithredu trwy asiant unigol) a gellir cofrestru trosglwyddiad a gyflawnir gan dderbynnydd unigol. Fodd bynnag, os oes cyfyngiad Ffurf A yng nghofrestr teitl yr eiddo a forgeisiwyd, bydd angen ystyried gorgyrraedd (gweler Os gellir cofrestru’r gwarediad, a ellir tynnu ymaith neu ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A (neu Ffurf J neu K) cyfredol?), er mwyn pennu a ellir tynnu ymaith neu ddileu’r cyfyngiad ai peidio wrth gofrestru’r trosglwyddiad.

Fodd bynnag, lle bo unigolyn ar ei ben ei hunan neu gymerwr benthyg sy’n gwmni wedi ei gofrestru’n berchennog gyda chyfyngiad Ffurf A, ni ellir cofrestru trosglwyddiad neu brydles lle mae arian cyfalaf yn codi, hyd yn oed os oes mwy nag un derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn cyflawni’r weithred, gan y bydd y trosglwyddiad neu brydles yn warediad gan berchennog unigol ac felly wedi ei ddal gan y cyfyngiad.

3.2 Os gellir cofrestru’r gwarediad, a ellir tynnu ymaith neu ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A (neu Ffurf J neu K) cyfredol?

3.2.1 Tynnu ymaith neu ddileu cyfyngiad Ffurf A

Dim ond pan fo cyfyngiad Ffurf A yng nghofrestr teitl yr eiddo a forgeiswyd y mae angen i’r Gofrestra Tir ystyried y mater o orgyrraedd (a’r angen posibl i gyflawni gwarediad gan o leiaf ddau dderbynnydd).

Gall y cofrestrydd dynnu cyfyngiad Ffurf A ymaith yn awtomatig, o dan reol 99 o Reolau Cofrestru Tir 2003, os yw’n fodlon bod unrhyw fudd llesiannol trydydd parti wedi eu gorgyrraedd, neu yn unol â chais i ddileu o dan reol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003, os yw’n fodlon nad oes angen y cyfyngiad mwyach.

3.2.1.1 Tynnu ymaith awtomatig o dan reol 99 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Gall y cofrestrydd dynnu’r cyfyngiad Ffurf A ymaith yn awtomatig os yw’n fodlon bod budd llesiannol unrhyw drydydd parti (h.y. nid rhai perchnogion/cymerwyr benthyg ymddiriedolwyr) wedi eu gorgyrraedd gan y gwarediad a gofnodwyd ar gyfer cofrestru. Os yw’r derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn gweithredu ar ran cymerwr(wyr) benthyg, fel sy’n digwydd fel arfer, ac felly fel eu hasiant, ni ellir tynnu’r cyfyngiad Ffurf A ymaith yn ddiogel ac eithrio bod o leiaf ddau berchennog/cymerwr benthyg, ac o leiaf ddau dderbynnydd sy’n cyflawni’r trosglwyddiad. Y rheswm am hyn yw nad yw adran 2(1)(iii) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn gweithredu (gan nad yw’r gwarediad gan y rhoddwr benthyg) ac felly rhaid dibynnu ar adran 2(1)(ii). Mae’r ddarpariaeth olaf (trwy gyfeirio at adran 27 o Ddeddf Cyfraith Eiddo) yn caniatáu gorgyrraedd lle mae’r:

  • trosglwyddiad gan o leiaf ddau ymddiriedolwr, ac
  • mae’r arian cyfalaf yn cael ei dalu, neu’n cael ei gymhwyso yn ôl cyfarwyddyd, o leiaf ddau ymddiriedolwr

Nid yw’r ddau ofyniad hwn yn cael eu bodloni pan fo’r trosglwyddiad yn cael ei gyflawni, a’r arian cyfalaf yn cael ei dalu i, neu ei gymhwyso yn ôl cyfarwyddyd, atwrnai unigol (gweler adran 7 o Ddeddf Dirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999) (er enghraifft, lle mae derbynnydd unigol yn cyflawni ar ran cyd-gymerwyr benthyg (“dirprwyaeth ar y cyd”), neu fod yr un derbynnydd yn cyflawni ar ran pob cymerwr benthyg). Dyma pam mae angen o leiaf ddau ymddiriedolwr a dau dderbynnydd.

Enghraifft: Ystyrir bod adran 7 o Ddeddf Dirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999 yn gymwys lle mae dirprwyaeth ar y cyd o dan adran 11 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 oherwydd darpariaethau adran 13(1) a 26(b) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000, ac mae adran 27 o Ddeddf Cyfraith Eiddo yn enghraifft o “gyfyngiad” at ddibenion y ddwy ddarpariaeth hon. Mae dadl hefyd bod adran 12(2) a 15 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 yn gymwys i benodi cyd-dderbynyddion, er os nad yw’r darpariaethau hyn yn cael eu bodloni, yna bydd darpariaethau arbed adran 24 y Ddeddf honno’n gymwys yn ôl pob tebyg.

3.2.1.2 Cais i ddileu o dan reol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Os nad yw’r trosglwyddiad yn cael ei gyflawni gan o leiaf ddau dderbynnydd ac felly nad yw wedi cael effaith orgyrraedd, mae’n annhebygol y bydd y cofrestrydd, wrth ei gofrestru, yn fodlon nad yw’r ystad gofrestredig yn destun ymddiried tir mwyach (fel sy’n ofynnol yn ôl rheol 99 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn yr achos hwn, dylid tynnu’r cyfyngiad Ffurf A ymaith ond dim ond os yw’r trosglwyddai yn gwneud cais i’w ddileu (o dan reol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003) ac yn gallu bodloni’r cofrestrydd nad oes angen y cyfyngiad bellach oherwydd:

  • nid oedd yr ystad gofrestredig yn destun unrhyw fuddion llesiannol cyn y trosglwyddiad (er mwyn sicrhau mai’r perchnogion/cymerwyr benthyg cofrestredig, neu un neu fwy ohonynt, oedd yr unig berson (bobl) â budd llesiannol), neu
  • mae unrhyw fudd llesiannol wedi ei ohirio i’r ystad gyfreithiol sy’n cael ei throsglwyddo, o ganlyniad i adran 29(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (a fydd yn digwydd os nad oedd y buddiolwr mewn union feddiannaeth ar adeg y trosglwyddiad (gweler adran 29(2)(a)(ii) ac Atodlen 3, paragraff 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac felly nid oedd y budd llesiannol yn fudd gor-redol)

Tystiolaeth dderbyniol fydd naill ai:

  • tystysgrif ddiamod gan drawsgludwr sy’n gweithredu naill ai ar ran y derbynnydd neu’r ceisydd (sef y trosglwyddai) yn cadarnhau, ar sail eu gwybodaeth am y ffeithiau, nad oedd trydydd parti gyda budd llesiannol mewn union feddiannaeth o’r eiddo ar adeg y trosglwyddiad, neu
  • datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y ceisydd nad oedd budd llesiannol trydydd parti yn effeithio ar yr ystad gofrestredig ar adeg y trosglwyddiad neu, os oedd, nad oedd yn fudd gor-redol

3.2.2 Cadw cyfyngiad Ffurf A

Os nad yw’r ceisydd yn gallu bodloni gofynion rheol 99 neu reol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (gweler Tynnu ymaith neu ddileu cyfyngiad Ffurf A), bydd y cyfyngiad Ffurf A yn parhau yn y gofrestr hyd yn oed os yw’r trosglwyddiad wedi ei gofrestru. Gan mai arfer Cofrestrfa Tir EF yw peidio â chael mwy nag un cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr, bydd y cyfyngiad Ffurf A “a gedwir” yn parhau i warchod:

  • unrhyw fuddion llesiannol trydydd parti cyfredol ar adeg y trosglwyddiad nad ydynt wedi eu gorgyrraedd, a’r
  • buddion llesiannol sy’n codi o dan unrhyw ymddiried newydd

lle mae cyd-drosglwyddeion ac ni fydd yr un sy’n goroesi’n gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf a gododd ar warediad yr ystad gofrestredig.

Diben cyfyngiad Ffurf A yw nodi bodolaeth ymddiried tir a sicrhau bod gorgyrraedd yn digwydd, lle bo’n briodol, i beidio â gwarchod buddion llesiannol.

3.2.3 Dileu cyfyngiadau Ffurf J a Ffurf K

Yn yr un modd, ni all y cofrestrydd gofrestru’r trosglwyddiad ac ystyried dileu cyfyngiad Ffurf J neu Ffurf K yn awtomatig, ac eithrio:

  • y cydymffurfiwyd â chyfyngiad Ffurf J neu Ffurf K, a
  • bod y cofrestrydd yn fodlon bod y buddion llesiannol wedi eu gorgyrraedd neu nad yw’r ystad gofrestredig yn destun ymddiried tir bellach

3.3 A yw’r gwarediad yn cael ei effeithio gan fethdaliad, marwolaeth, analluogrwydd neu ddirwyn i ben y cymerwr benthyg?

Fel arfer bydd y morgais yn rhoi’r hawl i’r derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo werthu neu fel arall waredu’r eiddo a forgeisiwyd ac yn aml bydd yn cynnwys atwrneiaeth o blaid y derbynnydd. Nid yw’r atwrneiaeth yn bŵer arwystl ac ni fydd yn goroesi datodiad cwmni. Fodd bynnag, bydd y pŵer i ddal a gwaredu’r eiddo a forgeisiwyd a’r pŵer i gyflawni yn enw ac ar ran y cymerwr benthyg yn goroesi datodiad cwmni (Sowman v David Samuel Trust Ltd. ([1978] 1 All ER 616.); Barrows v Chief Land Registrar (The Times, 20 Hydref 1977). Nid yw achos Barrows yn eithrio’r posibilrwydd i’r egwyddor hon fod yn gymwys yn achos ansolfedd unigol. Mae Cofrestrfa Tir EF o’r farn y bydd hawl y derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo i werthu ar ran y cymerwr benthyg yn goroesi dirwyn i ben a methdaliad yn ogystal â marwolaeth ac analluogrwydd.

Pan fydd y llys yn dirwyn cwmni i ben, mae unrhyw warediad o eiddo’r cwmni ar ôl dechrau’r dirwyn i ben yn ddi-rym oni bai bod hawl i wneud hynny trwy orchymyn y llys (adran 127 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Fodd bynnag, lle crëwyd morgais cyn trefniadau dirwyn i ben, nid yw unrhyw warediad dilynol gan ddaliwr y morgais neu dderbynnydd o dan bwerau yn y morgais sy’n digwydd ar ôl i’r dirwyn i ben gychwyn, yn gofyn am orchymyn y llys.

Gall darpariaethau adrannau 238 i 241 a 244 a 245 o Ddeddf Ansolfedd 1986 sy’n ymwneud â thrafodion am werth rhy isel, blaenoriaethau, trafodion credyd am grocbris ac osgoi arwystlon ansefydlog arbennig, beri annilysu’r morgais yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Pan fydd cais ar sail gwarediad gan dderbynnydd yn cael ei ystyried, os bydd unrhyw awgrym y gall y datodwr geisio osgoi’r morgais yn ôl y darpariaethau hyn, gallwn gyflwyno rhybudd priodol sy’n rhoi cyfle i wrthwynebu o dan adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae ystyriaethau tebyg yn debygol o fod yn gymwys lle mae’n ymddangos y gallai ymddiriedolwr mewn methdaliad geisio osgoi’r morgais o dan adrannau 339, 340, 343 neu 423 o Ddeddf Ansolfedd 1986, wrth ystyried darpariaethau adran 342(2) a (2A).

Os yw’r ceisydd yn ymwybodol o unrhyw her o’r fath, rhaid i chi ei datgelu i ni wrth gyflwyno’r cais.

Mae’r tabl cryno yn Atodiad: tabl cryno yn ymdrin â’r pwyntiau yn: A yw’r gwarediad yn weithredol er mwyn galluogi’r cofrestrydd i’w gofrestru? ac Os gellir cofrestru’r gwarediad, a ellir tynnu ymaith neu ddileu unrhyw gyfyngiad Ffurf A (neu Ffurf J neu K) cyfredol?

4. Lle mae’r gwarediad yn brydles

4.1 A oes prydles ddilys wedi ei rhoi?

Gan ragdybio y byddai’r brydles, pe bai’n cael ei rhoi a’i chyflawni gan y cymerwr(wyr) benthyg/landlord(iaid) eu hunain, yn brydles gofrestradwy, byddai dilysrwydd yn dibynnu ar:

  • a yw’r morgais yn ymestyn pwerau cyfyngedig y derbynnydd yn adran 101(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ac yn rhoi’r pŵer i’r derbynnydd roi’r brydles gofrestradwy, ac
  • a yw’r derbynnydd wedi ei benodi’n ddilys (ac os penodir mwy nag un derbynnydd ond bod y brydles yn cael ei chyflawni gan un ohonynt yn unig, rhaid i’r penodiad ddarparu eu bod yn gallu gweithredu yn unigol – gan ragdybio nad yw’r morgais yn atal hyn)

Os yw’r amodau hyn yn cael eu bodloni, yna byddai’n ymddangos bod y brydles wedi ei rhoi yn ddilys.

4.2 A ellir cofrestru’r brydles?

Ar y rhagdybiaeth bod prydles ddilys wedi ei rhoi ac nad oes cyfyngiadau perthnasol eraill yn y gofrestr:

  • os nad oes cyfyngiad Ffurf A yng nghofrestr teitl yr eiddo a forgeisiwyd, gellir cofrestru’r brydles
  • os oes cyd-gymerwyr benthyg/landlordiaid wedi eu cofrestru fel perchnogion yr eiddo a forgeiswyd gyda chyfyngiad Ffurf A, gellir cofrestru prydles a gyflawnir gan dderbynnydd unigol ar eu rhan (nid yw’n warediad gan unig berchennog)
  • os oes unig gymerwr benthyg/landlord wedi ei gofrestru fel perchennog yr eiddo a gofrestrwyd gyda chyfyngiad Ffurf A, ni ellir cofrestru prydles a gyflawnir gan dderbynnydd unigol neu gyd-dderbynyddion ar eu rhan (mae’n warediad gan unig berchennog ac felly wedi eu dal gan y cyfyngiad).

4.3 Beth am unrhyw gyfyngiad Ffurf A?

Mae Cofrestrfa Tir EF o’r farn na fydd cyflawni gan un derbynnydd (boed cyd-dderbynyddion wedi eu penodi ai peidio) yn gorgyrraedd gan fod yn rhaid dibynnu, sut bynnag y cafwyd pwerau dirprwyedig y derbynnydd, ar adran 2(1)(ii) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (gweler Tynnu ymaith awtomatig o dan reol 99 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae hyn yn wir hyd yn oed os dadleuir bod penodi derbynnydd unigol yn ddirprwyaeth ar y cyd o dan adran 11 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000.

Mae unrhyw gyfyngiad Ffurf A ar deitl cymerwr benthyg/landlord yn gwarchod budd ymddiried sy’n effeithio ar y teitl hwnnw ac felly bydd yn parhau ar y teitl hwnnw. Ni fydd yn cael ei gario ymlaen i’r teitl prydlesol hyd yn oed os nad yw rhoi’r brydles wedi cael effaith orgyrraedd.

Mae’r tabl cryno yn Atodiad: tabl cryno yn cynnwys y pwyntiau yn Lle mae’r gwarediad yn brydles.

5. Derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn cyflawni

Nid oes gan dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo bŵer statudol i gyflawni ar ran y cymerwr benthyg.

Os yw pŵer y derbynnydd i gyflawni wedi ei gynnwys dim ond mewn cymal sy’n cyflwyno atwrneiaeth benodol, fel bod y derbynnydd yn cyflawni fel atwrnai, hyd yn oed os yw’r atwrneiaeth o dan 12 mis oed, bydd angen i’r ceisydd i gofrestru gofnodi gyda’r cais ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd yn datgan (os felly y mae) nad oeddynt, ar adeg cwblhau’r trafodiad, yn ymwybodol o unrhyw ddirymiad o’r pŵer neu’n ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad (megis methdaliad, marwolaeth neu analluogrwydd meddyliol yr unigolyn neu ddirwyn i ben y cwmni) a gafodd yr effaith o ddirymu’r pŵer.

Fel arall, byddwn yn derbyn tystysgrif wedi ei harwyddo gan drawsgludwr yn ardystio (os felly y mae) nad oedd y ceisydd, ar adeg cwblhau’r trafodiad, yn ymwybodol o unrhyw ddirymiad o’r pŵer neu’n ymwybodol o unrhyw ddigwyddiad (megis methdaliad, marwolaeth neu analluogrwydd meddyliol yr unigolyn neu ddirwyn i ben y cwmni) a gafodd yr effaith o ddirymu’r pŵer.

Fodd bynnag, fel y nodir yn Pwerau, mae morgais sy’n rhoi hawl i werthu neu fel arall waredu’r eiddo a forgeisiwyd (ac felly’r hawl i gyflawni trosglwyddiad (neu brydles) yn enw neu ar ran y cymerwr benthyg) yn creu pŵer asiant cyffredinol o blaid y derbynnydd, hyd yn oed os nad oes atwrneiaeth ar wahân yn cael ei roi gan y morgais. Ni fyddai felly’n angenrheidiol i’r derbynnydd gyflawni trosglwyddiad fel atwrnai ar gyfer y cymerwr benthyg; mae’n ddigonol bod y gwarediad yn cael ei ddatgan i’w gyflawni gan y derbynnydd ar ran y cymerwr benthyg. Ni fydd y datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu’r dystysgrif y cyfeirir atynt uchod yn ofynnol. Lle mae’r morgais yn cynnwys pŵer cyffredinol fel yr uchod ac atwrneiaeth, byddwn yn trin y gwarediad fel pe bai wedi ei gyflawni gan y derbynnydd ar ran y cymerwr benthyg, ac nid o dan yr atwrneiaeth (ac eithrio, wrth gwrs, bod y ffordd y cafodd ei gyflawni yn ein hatal rhag gwneud hyn).

Yn achos cymerwr benthyg sy’n gwmni, gall y trosglwyddiad hefyd, ar gyfarwyddyd y derbynnydd (y dylid ei wneud yn glir yn y geiriau cyflawni) naill ai:

  • gael ei selio gan y cwmni gan ddefnyddio ei sêl gyffredin ym mhresenoldeb swyddogion y cwmni awdurdodedig priodol
  • gael ei lofnodi fel gweithred gan ddau lofnodwr awdurdodedig (naill ai dau gyfarwyddwr, neu gyfarwyddwr ac ysgrifennydd/cyd-ysgrifennydd y cwmni), neu gan gyfarwyddwr sengl ym mhresenoldeb tyst sy’n ardystio

Isod, ceir ffurf gyflawni a awgrymir gan dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn enw ac ar ran cymerwr benthyg o dan awdurdod darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y morgais neu ddebentur (hynny yw, nid yn unol atwrneiaeth benodol).

ffurf gweithredu a awgrymir gan dderbynnydd DCE

6. Gollwng ystad o forgeisi ac arwystlon ar warediad gan dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo

Asiant y cymerwr benthyg nid y rhoddwr benthyg yw’r derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo (adran 109(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo1925). Gall fod yn ddefnyddiol cofio bod y derbynnydd yn dderbynnydd tir (tra bod gweinyddwr yn weinyddwr cwmni).

Nid oes gan y derbynnydd unrhyw bŵer i ryddhau’r eiddo o unrhyw forgais neu arwystl, gan gynnwys y morgais neu’r morgais y penodwyd y derbynnydd drwyddo, heb ystyried y dyddiadau y cawsant eu creu.

Pan fydd derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn gwerthu neu’n cyflawni gwarediad arall rhaid i’r prynwr sicrhau y ceir gollyngiad ar gyfer yr holl forgeisi ac arwystlon y bydd y prynwr hwnnw i gymryd yr eiddo yn rhydd ohonynt. Mae hyn yn cynnwys yr angen i gael gollyngiad o’r morgais y penodwyd y derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo drwyddo ac o unrhyw forgeisi ac arwystlon dyddiedig ar ei ôl.

7. Cais i gofrestru ar sail gwarediad gan dderbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo – tystiolaeth sydd ei hangen

Os yw eich cais i gofrestru yn seiliedig ar warediad gan dderbynnydd, yn ogystal â’r dystiolaeth arferol, bydd angen y canlynol arnom:

  • y morgais neu gopi ardystiedig ohono (ond nid os yw’r teitl wedi ei gofrestru a bod y morgais eisoes wedi ei gofrestru neu ei nodi a bod copi wedi ei ffeilio gyda ni, sy’n cynnwys holl delerau ac amodau cymwys y morgais – gweler ymhellach isod). Byddwn yn gwirio bod y morgais:
    • wedi ei gyflawni’n iawn
    • yn cynnwys y darpariaethau priodol er mwyn galluogi i’r derbynnydd gael ei benodi a chyflawni’r gwarediad (os nad yw’r darpariaethau hyn yn amlwg o’r weithred morgais ei hun, neu o’r copi a ffeiliwyd gyda ni, yna dylid cofnodi tystiolaeth arall, fel telerau ac amodau’r morgais)
    • wedi ei gofrestru o dan adran 395 o Ddeddfau Cwmnïau 1985 neu adran 860, adran 878 neu 859A Deddfau Cwmnïau 2006, lle mae’r rhoddwr benthyg yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan y Deddfau Cwmnïau
  • tystiolaeth bod pŵer penodi derbynnydd o dan y morgais wedi codi. Lle gwneir penodiad y derbynnydd trwy orchymyn llys, bydd y gorchymyn (neu gopi ardystiedig) yn ddigonol. Lle ni wneir y penodiad gan y llys, bydd angen tystiolaeth (megis tystysgrif gan yr arwystlai neu gan ei drawsgludwr ar ei ran) bod y pŵer penodi o dan y morgais neu ddebentur wedi codi, ac eithrio bod hyn yn amlwg o gopi llawn o’r morgais neu ddebentur sydd wedi ei ffeilio yng Nghofrestrfa Tir EF

  • offeryn yn penodi’r derbynnydd neu gopi ardystiedig (os penodir cyd-dderbynyddion, ond mai dim ond un sydd wedi cyflawni’r trosglwyddiad neu brydles, rhaid i’r penodiad ddatgan a allant weithredu ar y cyd neu’n unigol)

  • gollyngiad neu ryddhad o’r holl forgeisi neu arwystlon, gan gynnwys y morgais, y bydd y ceisydd i gymryd yr eiddo yn rhydd ohonynt. Os yw’r teitl yn gofrestredig eisoes, bydd angen i’r gollyngiad neu ryddhad gynnwys morgeisi neu arwystlon a warchodwyd yn y gofrestr yn unig

  • os yw’r derbynnydd yn cyflawni fel atwrnai, tystiolaeth o fod heb ei ddirymu lle bo’n briodol: gweler Derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo yn cyflawni

  • manylion unrhyw her i ddilysrwydd y morgais (er enghraifft gan drydydd parti neu gredydwr (gan gynnwys rhoddwr benthyg arall) sydd o fewn gwybodaeth wirioneddol y derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo neu’r ceisydd. Lle mai cwmni yw’r cymerwr benthyg a bod yr her gan ddatodwr neu weinyddwr y cwmni, neu os yw’r cymerwr benthyg yn unigolyn neu bartneriaeth a bod yr her gan ymddiriedolwr mewn methdaliad, dylid darparu manylion enw a chyfeiriad y datodwr, gweinyddwr neu ymddiriedolwr mewn methdaliad

  • cydsyniad unrhyw weinyddwr a benodwyd yn flaenorol, neu ganiatâd y llys i benodiad y derbynnydd lle bo’n ofynnol (gweler Penodiad)

  • os mai endid tramor yw perchennog cofrestredig yr ystad gofrestredig, a bod y gwarediad yn cael ei wneud wrth arfer pŵer gwerthu neu brydlesu gan dderbynnydd a benodir gan berchennog arwystl cofrestredig, neu gan ymarferydd ansolfedd penodedig o dan amgylchiadau penodedig, tystiolaeth i gydymffurfio â’r cyfyngiad canlynol os yw hyn yn ymddangos yn y gofrestr:

CYFYNGIAD: Nid oes unrhyw warediad o fewn adran 27(2)(a), (b)(i) neu (f) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 i’w gwblhau trwy gofrestriad oni bai bod un o’r darpariaethau ym mharagraff 3(2)(a)-(f) o Atodlen 4A i’r Ddeddf honno yn gymwys.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor. Sylwer nad yw’r Rheoliadau a fydd yn diffinio ‘ymarferydd ansolfedd penodedig’ ac ‘amgylchiadau penodedig’ wedi eu gwneud eto.

8. Cofnodion yn y gofrestr o ganlyniad i benodi derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo

8.1 Nodi penodiad y derbynnydd

Dylai’r morgais y penodwyd y derbynnydd Deddf Cyfraith Eiddo drwyddo fod wedi ei gofrestru neu ei gofnodi eisoes ar gyfer y teitl. Fodd bynnag, mae’r eiddo yn aros wedi ei freinio yn y cymerwr benthyg, ac felly ni ellir cofrestru’r derbynnydd fel perchennog y teitl na chael rhybudd o gofnod penodiad y derbynnydd yn y gofrestr.

8.2 Newid cyfeiriad

Fodd bynnag, os yw’r morgais yn rhoi’r pŵer i’r derbynnydd wneud cais ar ran y cymerwr benthyg, gall y derbynnydd wneud cais i ychwanegu cyfeiriad ychwanegol neu newid cyfeiriad y cymerwr benthyg (caniateir uchafswm o dri chyfeiriad – rheol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003), er mwyn sicrhau mai cyfeiriad y cymerwr benthyg ar gyfer gwasanaeth yn y gofrestr yw’r un a fydd yn derbyn unrhyw rybuddion gan Gofrestrfa Tir EF. Cofiwch, unwaith bydd y dderbynyddiaeth wedi dod i ben, ni fydd yn bosibl tynnu cyfeiriad y derbynnydd i ffwrdd pe bai hynny’n gadael y perchennog cofrestredig heb unrhyw gyfeiriad ar gyfer gohebu.

Os byddwch am gyflwyno cais o’r fath, mae arnom angen:

  • ffurflen AP1
  • copi ardystiedig o benodiad y derbynnydd
  • tystiolaeth bod gan y derbynnydd y pŵer i wneud cais ar ran y cymerwr benthyg
  • copi ardystiedig o’r morgais (os nad yw wedi ei gofrestru neu ei nodi eisoes).

Nid oes dim i’w dalu i wneud y cais hwn.

8.3 Cyfyngiadau neu rybuddion sy’n dibynnu ar adran 37 o Ddeddf Ansolfedd 1986

Efallai y gwelwn geisiadau hefyd am gyfyngiadau neu rybuddion gan dderbynyddion sy’n dibynnu ar adran 37 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Rydym o’r farn nad yw adran 37 yn arwain at fudd sy’n effeithio ar yr ystad gofrestredig, a chaiff y cais ei ddileu.

9. Atodiad: tabl cryno

Mae’r rhagdybiaethau canlynol yn cael eu gwneud at ddiben y tabl cryno isod.

  • mae’r morgais neu arwystl y penodwyd y derbynnydd(ion) drwyddo yn arwystl gofrestredig ac yn cynnwys darpariaeth sy’n golygu y gall unrhyw dderbynnydd werthu’r eiddo a chyflawni trawsgludiad o’r eiddo sydd yn enw’r cymerwr(wyr) benthyg
  • perchennog cofrestredig y morgais neu arwystl a benododd y derbynnydd(ion)
  • perchennog(ion) cofrestredig yr ystad gofrestredig yw’r cymerwr(wyr) benthyg gwreiddiol
  • unrhyw berchennog cofrestredig sy’n gwmni nad yw wedi ei ddiddymu
  • mae’r trosglwyddiad neu brydles am gydnabyddiaeth â gwerth iddi
  • mae’r cais i gofrestru’r gwarediad (hynny yw, i gwblhau’r cofrestriad) mewn trefn fel arall
  • lle mai dim ond rhai o’r derbynyddion a benodwyd sydd wedi cyflawni’r trosglwyddiad neu brydles (er enghraifft, penodir dau dderbynnydd ond dim ond un sy’n cyflawni, neu penodir tri derbynnydd ond dim ond dau sy’n cyflawni), penodwyd y derbynyddion ar y cyd neu’n unigol

At ddibenion y tabl, nid oes gwahaniaeth a yw’r perchennog(ogion)/cymerwr(wyr) benthyg gwreiddiol, yn achos unigolyn, yn fethdalwr, wedi marw neu’n dioddef analluogrwydd meddyliol neu, yn achos cwmni, yn cael ei ddirwyn i ben.

Gwarediad A ellir cofrestru’r gwarediad? Noder: Ym mhob achos isod ceir trosglwyddiad neu brydles ddilys A ellir dileu’r cyfyngiad Ffurf A?
1. Trosglwyddiad lle: mai unigolyn neu gwmni unigol yw’r perchennog ac nid oes Ffurf A. Gellir Amherthnasol
2. Trosglwyddiad lle: mai unigolyn neu gwmni unigol yw’r perchennog a Ffurf A. Na ellir (hyd yn oed os oes mwy nag un derbynnydd) gan y bydd y trosglwyddiad yn warediad gan unig berchennog ac felly’n cael ei ddal gan y cyfyngiad Na ellir
3. Trosglwyddiad lle: mai dau neu fwy unigolyn a/neu gwmni yw’r perchnogion ac nid oes Ffurf A a lle mai’r derbynnydd unigol sy’n cyflawni’r trosglwyddiad Gellir Amherthnasol
4. Trosglwyddiad lle: mai dau neu fwy unigolyn a/neu gwmni yw’r perchnogion a Ffurf A a’r derbynnydd unigol sy’n cyflawni’r trosglwyddiad Gellir (nid yw cyfyngiad Ffurf A yn dal y trosglwyddiad gan nad yw’n “warediad gan unig berchennog” ond gan gydberchnogion – sy’n gweithredu trwy dderbynnydd unigol) Ddim fel arfer – mae angen i’r trosglwyddai wneud cais i ddileu’r cyfyngiad
5. Trosglwyddiad lle: mai dau neu fwy unigolyn a/neu gwmni yw’r perchnogion a Ffurf A ac mai o leiaf dau dderbynnydd sy’n cyflawni’r trosglwyddiad Gellir Gellir
6. Prydles gofrestradwy o dan yr un amgylchiadau ag yn 1, 3, 4 neu 5 uchod (gan gyfnewid “trosglwyddiad” am “brydles”) Gellir Na ellir – ond nid yw’r cyfyngiad yn cael ei gario ymlaen i’r teitl prydlesol newydd
7. Prydles gofrestradwy o dan yr un amgylchiadau â 2 uchod (gan gyfnewid “trosglwyddiad” am “brydles”) Na ellir (hyd yn oed os oes mwy nag un derbynnydd) gan y bydd y trosglwyddiad yn warediad gan unig berchennog ac felly’n gymwys i’r cyfyngiad Na ellir

10. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.