Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 41: ystadau sy’n datblygu (gwasanaethau cofrestru atodiad 6 – cais gwirfoddol i nodi buddion gor-redol)

Diweddarwyd 25 Mehefin 2015

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

O dan adran 71 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 57 o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae’n ddyletswydd ar bawb sy’n gwneud cais i gofrestru gwarediad cofrestradwy ystad gofrestredig i ddatgelu buddion gor-redol arbennig ar geisiadau i gofrestru gwarediad cofrestradwy ystad gofrestredig. Mae hyn yn golygu, bob tro y bydd cais yn cael ei wneud i gofrestru trosglwyddiad, prydles, arwystl neu roi hawddfraint, bod yr ymgeisydd yn gorfod dadlennu’r buddion hyn. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu i gael rhagor o wybodaeth.

Os yw’r buddion hyn yn effeithio ar fwy nag un llain ac yn cael eu nodi ar eich cofrestr cyn dechrau datblygu, ceir manteision i bawb.

2. Manteision cais gwirfoddol

I ddatblygwyr.

  • unwaith y nodwyd budd ar y gofrestr ni fydd angen ichi ei ddadlennu fel budd gor-redol a rhoi dogfennau i bob prynwr
  • bydd gennych lai o ohebiaeth oddi wrthym ni i’w drin. Mae hyn oherwydd, bob tro y bwriadwn gofnodi rhybudd o fudd gor-redol a ddadlennwyd ar gais i gofrestru trosglwyddiad, prydles ac ati ar eich cofrestr, rhaid inni anfon rhybudd atoch

I brynwyr a phrydleseion.

  • bydd y rhan fwyaf o fuddion eisoes ar y gofrestr cyn iddynt ymrwymo i brynu. Bydd llai o fuddion digofrestredig sy’n gor-redeg gwarediadau cofrestradwy iddynt fodloni eu hunain yn eu cylch a dadlennu ar eu cais i gofrestru

I Gofrestrfa Tir EF.

  • dim ond unwaith y bydd yn rhaid inni ystyried buddion, yn hytrach nag ar bob cais

3. Sut i wneud cais

Gwnewch gais trwy lenwi ffurflen AN1, a chynnwys unrhyw ddogfennau cefnogol. Os dymunwch, gallwch ddarparu tystiolaeth ar ffurflen DI i’ch cynorthwyo wrth drefnu’r manylion perthnasol. Dim ond un cais AN1 mae’n rhaid ichi ei gyflwyno, beth bynnag fo nifer y buddion gor-redol rydych am eu nodi. Os oes cyfyngiad yn erbyn nodi neu rybuddiad yn erbyn delio ar eich cofrestr, dylech gysylltu â’r Tîm Datblygu yng Nghofrestrfa Tir EF i gael rhagor o gyngor cyn cyflwyno’r cais. Dylid cynnwys cais i gymeradwyo cynllun yr ystad neu i gymeradwyo prydles neu drosglwyddiad drafft gyda’ch cas. Fel arall, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a diogelu buddion trydydd parti.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Wrth uwchlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o’r gwreiddiol gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael.

4. Yr hyn y bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei wneud

Ar yr amod ein bod yn fodlon ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, byddwn fel arfer yn cofnodi rhybudd ar y gofrestr. Yna bydd y buddion hyn yn amlwg i brynwyr a phrydleseion pan fyddant yn derbyn copïau swyddogol o gofrestr y datblygwr.

5. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.