Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 41: ystadau sy’n datblygu (gwasanaethau cofrestru atodiad 6 – cais gwirfoddol i nodi buddion gor-redol)

Diweddarwyd 25 June 2015

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

O dan adran 71 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 57 o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae’n ddyletswydd ar bawb sy’n gwneud cais i gofrestru gwarediad cofrestradwy ystad gofrestredig i ddatgelu buddion gor-redol arbennig ar geisiadau i gofrestru gwarediad cofrestradwy ystad gofrestredig. Mae hyn yn golygu, bob tro y bydd cais yn cael ei wneud i gofrestru trosglwyddiad, prydles, arwystl neu roi hawddfraint, bod yr ymgeisydd yn gorfod dadlennu’r buddion hyn. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu i gael rhagor o wybodaeth.

Os yw’r buddion hyn yn effeithio ar fwy nag un llain ac yn cael eu nodi ar eich cofrestr cyn dechrau datblygu, ceir manteision i bawb.

2. Manteision cais gwirfoddol

I ddatblygwyr.

  • unwaith y nodwyd budd ar y gofrestr ni fydd angen i chi ei ddadlennu fel budd gor-redol a rhoi dogfennau i bob prynwr
  • bydd gennych lai o ohebiaeth oddi wrthym ni i’w drin. Mae hyn oherwydd, bob tro y bwriadwn gofnodi rhybudd o fudd gor-redol a ddadlennwyd ar gais i gofrestru trosglwyddiad, prydles ac ati ar eich cofrestr, rhaid i ni anfon rhybudd atoch

I brynwyr a phrydleseion.

  • bydd y rhan fwyaf o fuddion eisoes ar y gofrestr cyn iddynt ymrwymo i brynu. Bydd llai o fuddion digofrestredig sy’n gor-redeg gwarediadau cofrestradwy iddynt fodloni eu hunain yn eu cylch a dadlennu ar eu cais i gofrestru

I Gofrestrfa Tir EF.

  • dim ond unwaith y bydd yn rhaid inni ystyried buddion, yn hytrach nag ar bob cais

3. Sut i wneud cais

Gwnewch gais gan ddefnyddio ffurflen AN1, ac amgáu unrhyw ddogfennau cefnogol. Os dymunwch, gallwch atodi ffurflen DI i’r AN1 i’ch cynorthwyo wrth drefnu’r manylion perthnasol. Dim ond un cais AN1 y mae’n rhaid i chi ei gyflwyno, beth bynnag fo nifer y buddion gor-redol yr ydych yn gwneud cais i’w nodi. Os oes cyfyngiad ar nodi neu rybuddiad yn erbyn delio ar eich cofrestr, dylech gysylltu â swyddfa Cofrestrfa Tir EF fydd yn delio gyda’r cais cyn ei gyflwyno i gael rhagor o gyngor. Dylai eich cais fynd gyda chais i gymeradwyo cynllun yr ystad neu i gymeradwyo prydles neu drosglwyddiad drafft.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

4. Yr hyn y bydd Cofrestrfa Tir EF yn ei wneud

Ar yr amod ein bod yn fodlon ar y dystiolaeth a gyflwynwyd, byddwn fel arfer yn cofnodi rhybudd ar y gofrestr. Yna bydd y buddion hyn yn amlwg i brynwyr a phrydleseion pan fyddant yn derbyn copïau swyddogol o gofrestr y datblygwr.

5. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.