Canllawiau

Ystadau sy’n datblygu: gwasanaethau cofrestru: cymeradwyo cynlluniau ystadau (cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 2)

Diweddarwyd 9 May 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Rydym wedi dylunio’r gyfundrefn cymeradwyo cynlluniau ystadau i symleiddio a chyflymu cyflenwi copïau swyddogol, chwiliadau swyddogol a chofrestriadau dilynol tra bo’r safle’n weithredol. Mae hefyd yn cynnig y manteision canlynol:

  • gall trafodaethau ar werthu lleiniau fwrw ymlaen heb gopi swyddogol o gynllun teitl y datblygwr
  • gallwch wneud ceisiadau ar ffurflen OC1 am dystysgrifau archwiliad o’r cynllun teitl a cheisiadau chwiliad swyddogol, trwy gyfeirio at rif y llain ar gynllun ystad cymeradwy yn hytrach na darparu cynllun gyda phob cais
  • trafodaethau cyflymach rhwng y datblygwr a’r prynwr ar werthiant lleiniau unigol

2. Sut i wneud cais

Gall cymeradwyo cynllun ystad ddilyn gwasanaeth cymeradwyo terfyn yr ystad neu gallwch wneud cais annibynnol amdano. Ar y cyfle cyntaf posibl, anfonwch ddau gopi o gynllun yr ystad i Gofrestrfa Tir EF yn dangos y trefniant terfynol. Gellir anfon cynllun ystad i’w gymeradwyo trwy’r ffurflen ar GOV.UK.

Wrth wneud cais i gymeradwyo cynllun ystad, dylech ddatgan yn glir bod un o’r canlynol yn berthnasol:

  • chi yw’r perchennog cofrestredig
  • mae gennych yr hawl i gael eich cofrestru fel y perchennog
  • eich bod yn gweithredu ar ran neu gyda chaniatâd y perchennog cofrestredig neu berson a chanddo hawl i gael ei gofrestru fel y perchennog

Pan gaiff cynllun ystad ei gyflwyno ar gyfer ei gymeradwyo ac nid yw eich statws yn glir, byddwn yn gofyn am gadarnhad. Os na ddarperir hyn, caiff y cais ei wrthod.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn eich hysbysu o unrhyw broblemau all fod wedi codi, a gweithio tuag at eu datrys cyn unrhyw weithgaredd gwerthu. Pan nad oes unrhyw broblemau, byddwn yn rhoi caniatâd. Yna gall y cynllun cymeradwy (neu ddetholiadau ohono) fod yn sail i’r cynlluniau trosglwyddiad neu brydles gan ddarparu parhad trwy gydol gwerthiant y llain. Lle byddwch wedi defnyddio gwasanaeth cymeradwyo terfyn yr ystad, dylech seilio cynlluniau trefniant yr ystad ar yr un cynllun.

Nid yw’r gymeradwyaeth hon yn cadarnhau bod caniatâd cynllunio i ddatblygu wedi ei geisio neu ei gael. Awdurdodau cynllunio lleol, nid Cofrestrfa Tir EF, sy’n ymdrin â chaniatâd cynllunio. Mewn rhai achosion gallwn wrthod cais i gymeradwyo cynllun ystad drafft os ydym yn credu y gallai rhoi’r gymeradwyaeth gamarwain aelodau’r cyhoedd i gredu bod datblygiad pellach yn debygol, megis pan geisir cymeradwyaeth am gynllun y tybir ei fod yn gynllun buddsoddi mewn bancio tir (lle y mae tirfeddiannwr yn rhannu ei dir i nifer o leiniau bychain i’w gwerthu a lle honnir bod gan y lleiniau werth sylweddol o ran buddsoddiad, fel arfer wrth ddisgwyl datblygiad yn y dyfodol).

Mae’r gofynion manwl ar gyfer manyleb y cynllun ystad a chynnal arolwg i’w gweld yn atodiad 5 i’r cyfarwyddyd ymarfer hwn.

Cyfeiriwch bob cais i gymeradwyo cynlluniau ystadau trwy hyb gwasanaeth cymorth arbenigol Cofrestrfa Tir EF.

3. Cyfunddaliad

Mae cyfarwyddyd ymarfer 60: cyfunddaliad yn rhoi manylion y gofynion a manylebau ar gyfer cynlluniau datganiadau cymuned cyfunddaliad.

4. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.