Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 38: costau

Diweddarwyd 25 July 2018

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Costau mewn ceisiadau cynhennus i’r cofrestrydd

1.1 Gwrthwynebiadau i geisiadau

Oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon bod gwrthwynebiad i gais yn ddi-sail (pryd na fydd effaith ar y cais), rhaid iddo weld a oes modd datrys y gwrthwynebiad trwy gytundeb. Os nad oes modd gwneud hynny rhaid iddo gyfeirio’r mater at y tribiwnlys (adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau: Cyfarwyddyd i ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF yn egluro’r trefnau y mae’n rhaid eu dilyn. Rheolau’r Drefniadaeth Tribiwnlys (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Siambr Eiddo) 2013 sy’n penderfynu’r costau mewn cysylltiad â’r achos gerbron y tribiwnlys. Gweler Costau mewn achos gerbron y tribiwnlys.

Caiff unrhyw gostau sy’n ymwneud â’r cais a’r gwrthwynebiad, ond nad ydynt yn gysylltiedig â’r achos gerbron y tribiwnlys, eu disgrifio fel costau mewn cysylltiad ag ‘achos gerbron y cofrestrydd’. Mae achos o’r fath yn cychwyn gyda’r cais i’r cofrestrydd ac yn diweddu pan gaiff y cais ei gwblhau neu ddileu. O dan rai amgylchiadau, mae modd adennill y costau hyn oddi wrth yr ochr arall trwy Gofrestrfa Tir EF.

Gall hyn godi oherwydd nad yw gwrthwynebiad yn cyrraedd y tribiwnlys. Fe all gael ei derfynu trwy gytundeb neu fe all y cais neu’r gwrthwynebiad gael ei dynnu’n ôl. Os bydd y partïon yn datrys y mater trwy gytundeb fodd bynnag, dylai’r cytundeb fod wedi delio â mater costau, fel na ddylai fod angen cais am gostau i’r cofrestrydd.

Gall y partïon hefyd fynd i gostau ar ôl i’r mater gael ei gyfeirio, nad ydynt yn gysylltiedig â’r achos gerbron y tribiwnlys, er enghraifft delio â gweithredu penderfyniad y tribiwnlys.

1.2 Cais am orchymyn y cofrestrydd

Mae rheol 202 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu y gall rhywun sydd wedi mynd i gostau o ran achos gerbron y cofrestrydd (‘y ceisydd’) ofyn i’r cofrestrydd wneud gorchymyn sy’n mynnu bod parti yn yr achos (‘yr atebydd’) yn talu’r cyfan neu ran o’r costau hynny. Fodd bynnag, gall y cofrestrydd wneud gorchymyn o’r fath dim ond lle’r achoswyd costau oherwydd ymddygiad afresymol yr atebydd o ran yr achos.

Rhaid gwneud y cais am orchymyn yn ysgrifenedig a all fod trwy ebost yn unol â Hysbysiad 21 o dan reol 14 ac Atodlen 2 i Reolau Cofrestru Tir 2003, erbyn 12 hanner dydd ar yr 20fed diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r achosion perthnasol. Lle cyfeiriwyd anghydfod at y tribiwnlys, fel arfer ni fydd yr achos gerbron y cofrestrydd yn cael ei orffen nes bydd y tribiwnlys neu’r llys wedi dod i benderfyniad a Chofrestrfa Tir EF wedi gweithredu ar unrhyw orchymyn neu wedi cymryd y fath gamau ag y bydd gofyn amdanynt o ganlyniad i’r penderfyniad.

Weithiau, gall y tribiwnlys barhau i ystyried materion atodol megis costau hyd yn oed pan fydd yr achos gerbron y cofrestrydd wedi ei gwblhau. Os yw hyn yn digwydd, y dyddiad y bydd Cofrestrfa Tir EF yn cwblhau neu’n dileu’r cais perthnasol fydd dyddiad cwblhau’r achos perthnasol at ddibenion gwneud cais am gostau o dan reol 202 o hyd.

Rhaid i’r cais am y gorchymyn:

  • nodi’r atebydd y ceisir y gorchymyn yn ei erbyn a chynnwys cyfeiriad ar gyfer cyflwyno rhybudd i’r atebydd
  • datgan yn llawn sail y cais
  • rhoi cyfeiriad ar gyfer cyfathrebu â’r ceisydd, a
  • bod wedi ei lofnodi gan y ceisydd neu ei drawsgludwr

1.3 Rhybudd i’w roi

Os gwneir cais dilys rhaid i’r cofrestrydd roi rhybudd o’r cais i’r atebydd y ceisir y gorchymyn yn ei erbyn. Bydd y rhybudd yn rhoi cyfnod o 20 diwrnod gwaith neu’r fath gyfnod arall ag y bydd y cofrestrydd yn ei gredu sy’n briodol i’r atebydd ymateb yn ysgrifenedig.

1.4 Ymateb

Rhaid i ymateb yr atebydd:

  • ddatgan a yw’r atebydd yn gwrthwynebu’r cais
  • os felly, rhaid iddo ddatgan yn llawn sail y gwrthwynebiad hwnnw
  • rhoi cyfeiriad ar gyfer cyfathrebu â’r atebydd, a
  • bod wedi ei lofnodi gan yr atebydd neu ei drawsgludwr

1.5 Penderfyniad

Rhaid i’r cofrestrydd benderfynu a yw am wneud gorchymyn bod angen talu costau neu beidio ar sail:

  • y cais ysgrifenedig
  • unrhyw ymateb
  • yr holl amgylchiadau gan gynnwys ymddygiad y partïon, a
  • chanlyniad unrhyw ymholiadau y mae’n rhaid eu gwneud yn ei dyb ef

1.6 Gorchymyn y cofrestrydd

Rhaid i’r cofrestrydd anfon ei resymau ysgrifenedig at yr holl bartïon dros unrhyw orchymyn a wna. Os yw’r cofrestrydd yn gwneud gorchymyn bod rhaid talu costau gall y gorchymyn hwnnw:

  • fynnu bod parti sydd â gorchymyn yn ei erbyn yn talu’r cyfan neu ran o’r costau a dalwyd gan y parti sy’n gwneud y cais, a
  • phennu’r swm i’w dalu neu ofyn bod y llys yn asesu costau (os na chytunwyd fel arall) a phennu sail yr asesiad i’w ddefnyddio gan y llys

1.7 Sail yr asesiad

Ymhob achos bydd y llys dim ond yn caniatáu i barti adennill costau a dalwyd yn rhesymol ac o swm rhesymol. Ceir dau fath o asesiad, sy’n cael eu nodi yn rheol 44.4 o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998, sef:

  • safonol. Mae hyn yn golygu y bydd y llys hefyd yn ystyried a yw’r costau yn gymesur â’r materion o dan sylw. Yn ogystal, os oes unrhyw amheuon a oedd y costau a dalwyd yn rhesymol neu’n rhesymol a chymesur o ran swm, byddant yn cael eu penderfynu o blaid yr ochr sy’n talu
  • indemniad. Nid yw cyfranoldeb yn berthnasol yma a bydd unrhyw amheuon a oedd y costau a dalwyd yn rhesymol neu’n rhesymol o ran swm yn cael eu penderfynu o blaid yr ochr sy’n derbyn

1.8 Gorfodi’r gorchymyn

Mae gorchymyn y cofrestrydd ynghylch costau yn orfodadwy fel gorchymyn y llys (adran 76(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae hyn yn golygu os nad yw’r parti a orchmynnwyd i dalu’r costau yn cydymffurfio â’r gorchymyn, y llysoedd ac nid Cofrestrfa Tir EF sydd â’r pŵer i’w orfodi.

Os yw’r gorchymyn yn nodi’r swm sydd i’w dalu, mae modd ei orfodi mewn Llys Sirol. Mae gwybodaeth bellach ar gael o lys sirol lleol neu o wefan gwasanaeth y llysoedd (https://www.gov.uk/chwilio-am-lys-neu-dribiwnlys) sy’n cynnwys manylion yr holl ganolfannau gwrandawiadau a Llysoedd Sirol lleol a’u hardaloedd.

Os yw’r gorchymyn yn datgan bod costau i’w hasesu gan y llys os na chytunwyd arnynt, bydd angen cais ffurfiol am asesiad manwl os bydd anghydfod yn codi ynghylch faint sy’n daladwy. Dylid gwneud ceisiadau am asesiadau manwl i’r llys sirol lleol, ac eithrio o ran achosion sy’n dod o dan y canolfannau gwrandawiadau Llysoedd Sirol canlynol:

  • Barnet
  • Bow
  • Brentford
  • Canol Llundain
  • Clerkenwell a Shoreditch
  • Croydon
  • Edmonton
  • Ilford
  • Kingston
  • Lambeth
  • Mayors a Dinas Llundain
  • Romford
  • Uxbridge
  • Wandsworth
  • Gorllewin Llundain
  • Willesden
  • Woolwich

Yn yr achosion hynny, Swyddfa Gostau’r Goruchaf Lys fydd y swyddfa briodol. Mae’r trefnau i’w dilyn yn cael eu dangos mewn rheolau manwl sydd i’w gweld yn rheol 47 o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998. Rhaid gwneud y cais cyn pen tri mis wedi gorchymyn y cofrestrydd.

1.9 Apelio

Gall rhywun nad yw’n cytuno â gorchymyn y cofrestrydd ynghylch costau apelio at y llys sirol, sy’n gallu gwneud unrhyw orchymyn sy’n ymddangos yn briodol (adran 76(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Mae’r trefnau i’w dilyn yn cael eu dangos mewn rheolau manwl sydd i’w gweld yn Rheolau Trefniadaeth Sifil 1998. Rhaid apelio o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r cofrestrydd roi’r rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad (Rheolau Trefniadaeth Sifil Rhan 52 Cyfarwyddyd Ymarfer 52 paragraffau 17.1-17.4). Mae rhagor o wybodaeth am apelio i’w chael o’r llys sirol lleol neu o wefan y gwasanaeth llysoedd. Mae ffurflen apelio, ynghyd â nodiadau llawn ar sut i lenwi’r ffurflen honno ar gael i’w llwytho i lawr o wefan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Dylid cyflwyno copi o rybudd yr apêl o dan sêl i Gofrestrfa Tir EF. Fel y crybwyllwyd yn Gorfodi gorchymyn, mae gwefan gwasanaeth y llysoedd hefyd yn cynnwys manylion holl lysoedd sirol lleol a’u hardaloedd.

2. Costau mewn achos gerbron y tribiwnlys

Unwaith y bydd mater yn cael ei gyfeirio gan y cofrestrydd at y tribiwnlys o dan Reolau Cofrestru Tir (Cyfeirio at Ddyfarnwr Cofrestrfa Tir EF) 2003, caiff ei reoli gan adrannau 107-114 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau’r Drefniadaeth Tribiwnlys (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Siambr Eiddo) 2013. Gwnaiff y rhain ddarpariaeth ar gyfer talu costau parti mewn achos gerbron y tribiwnlys gan barti arall yn yr achos.

Dylid sylwi nad oes gan y tribiwnlys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn ar gyfer costau o ran yr achos gerbron y cofrestrydd pa un ai y bu’r costau cyn neu ar ôl y cyfeiriad at y tribiwnlys.

3. Costau mewn cysylltiad â hawliadau indemniad

Caiff yr amgylchiadau lle gall hawl i indemniad godi a’r trefnau i’w dilyn eu hegluro yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad. Mae’r adran hon yn trafod hawliadau indemniad o ran costau neu dreuliau’r hawliwr.

3.1 Cydsyniad y cofrestrydd

Dim ond costau a threuliau a dalwyd gyda chydsyniad y cofrestrydd sy’n adenilladwy, oni bai:

  • y bu’n rhaid eu talu ar fyrder, ac
  • nad oedd yn ymarferol o fewn rheswm i wneud cais am gydsyniad (paragraff 3(2) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Nid oes angen caniatâd o dan yr amgylchiadau hyn.

Lle bo angen cydsyniad, dylid ei geisio ymlaen llaw ond mae modd gofyn i’r cofrestrydd roi cymeradwyaeth wedyn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i’r hawliwr dderbyn fod posibilrwydd na fydd cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ac na fydd modd adennill y costau a threuliau o dan sylw.

Felly, rydym yn argymell cysylltu â Chofrestrfa Tir EF, heblaw yn yr achosion mwyaf taer, cyn gynted ag y bydd yn ymddangos y gall fod camgymeriad yn y gofrestr a allai arwain at golled ariannol o ryw fath. Bydd hyn yn ein galluogi i ymchwilio i’r mater yn gynnar. Bydd hefyd yn ein cynorthwyo i sicrhau bod materion yn cael eu trin yn y ffordd gyflymaf a fwyaf cost-effeithiol, gan osgoi costau diangen.

Os caiff cydsyniad ei wrthod, nid oes modd adennill y costau a threuliau hynny fel indemniad. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio nad yw’r ffaith bod cydsyniad yn cael ei roi ohono’i hun yn golygu y bydd modd eu hadennill. Bydd yr hawliwr yn dal i orfod dangos bod ganddo hawl i indemniad a bod ei hawliad yn cyrraedd y meini prawf yn ôl cyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad.

Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i’r holl gostau a threuliau y mae hawliwr am i Gofrestrfa Tir EF eu had-dalu, gan gynnwys y rhai a dalwyd yn dilyn y cais am indemniad. Fodd bynnag, nid ydynt yn berthnasol os yw’r hawliwr Chofrestrfa Tir EF yn anghytuno ar hawl yr hawliwr i indemniad neu faint sydd i’w dalu, a bod yr hawliwr yn gwneud cais i’r llys ddatrys y mater. Yn yr achos hwnnw, nid oes angen cydsyniad y cofrestrydd mewn cysylltiad ag unrhyw gostau neu dreuliau’n ymwneud â’r achos hwnnw. Bydd egwyddorion arferol adennill costau mewn cysylltiad ag achos llys yn berthnasol, a’r parti aflwyddiannus, fel arfer, fydd yn gorfod talu costau’r ochr arall.

3.1.1 Derbyn caniatâd

Mae’r paragraffau canlynol yn egluro sut y byddwn yn delio â chais am ganiatâd a pha wybodaeth y byddwn yn gofyn i hawliwr ei darparu.

3.1.2 Caniatâd am gostau ymchwiliol a chostau anghyfreithadwy eraill

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hawliwr yn y lle cyntaf yn gofyn am ganiatâd i godi costau a threuliau am wneud gwaith ymchwiliol. Yr enghreifftiau mwyaf cyffredin yw ffïoedd cyfreithiol ac arolygwyr tir. Pan fyddwn yn derbyn cais o’r fath, byddwn yn ystyried a yw’r costau a’r treuliau y mae’r hawliwr yn bwriadu eu gwario yn rhesymol, o ran:

  • natur
  • swm

Er mwyn gwneud hyn byddwn yn gofyn i’r hawliwr ddarparu’r wybodaeth ganlynol.

  • pa gamau’n union y mae’r hawliwr yn bwriadu eu cymryd?
  • beth yw diben y camau hynny?
  • beth yw’r amcangyfrif o’r costau?
  • sut y cyfrifwyd y costau hynny?

Fel arfer byddwn yn cyfyngu unrhyw ganiatâd a roddir, yn ôl y math o gostau a threuliau a delir a/neu’r swm.

3.1.3 Caniatâd am gostau cyfreithadwy

Os yw hawliwr yn ystyried achos barnwrol ac efallai y bydd am hawlio ad-daliad ar ei gostau gan Gofrestrfa Tir EF fel indemniad, dylai sicrhau bod Cofrestrfa Tir EF wedi rhoi caniatâd penodol i godi am gostau a threuliau yn y trafodion hynny. Mae hyn yn gymwys i bob achos barnwrol, gan gynnwys y rhai hynny sy’n deillio o anghydfod yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys.

3.1.4 Costau a threuliau rhesymol

O bryd i’w gilydd bydd hawlwyr yn awyddus i ddechrau achos barnwrol os oes anghydfod ynglŷn â bodolaeth camgymeriad, ond lle na fyddai newid y gofrestr (os penderfynir yn y pen draw y bu camgymeriad) yn gwneud llawer o wahaniaeth i un parti neu’r ddau. Mewn achosion eraill, byddai costau achos barnwrol yn llawer uwch na gwerth neu bwysigrwydd y tir.

Mewn achosion fel hyn, byddwn yn atgoffa’r hawliwr wrth roi caniatâd:

  • mai dim ond costau a threuliau rhesymol y gall eu hawlio, a
  • byddwn yn ystyried pob hawliad i sicrhau, o ran unrhyw waith a wneir, ei bod yn rhesymol gwneud y gwaith a bod y swm a godwyd am y gwaith yn rhesymol

Un o’r ffactorau y byddwn yn ei ystyried yw gwerth y tir o dan sylw mewn perthynas â’r costau. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, ond ar y cyfan byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar gostau sy’n uwch na dwywaith gwerth y tir. Dylai’r hawliwr fod yn barod, mewn achos o’r fath, i roi eglurhad manwl a pherswadiol ynglŷn â pham ei fod o’r farn bod y costau a hawlir yn rhesymol.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd. Lle rhoddir caniatâd, bydd hynny fel arfer oherwydd bod Cofrestrfa Tir EF yn ystyried bod gwrandawiad barnwrol yn angenrheidiol er mwyn sefydlu’r ffeithiau gyda digon o sicrwydd. Dylai’r partïon fod yn ymwybodol, os, ar ôl rhoddir caniatâd, eu bod am setlo’r anghydfod trwy gydsyniad, dylent sicrhau bod Cofrestrfa Tir EF yn cytuno i hynny a bod y dystiolaeth sydd ar gael yn cyfiawnhau hynny. Gall methu â gwneud hyn arwain at Gofrestrfa Tir EF yn gwrthod talu’r cyfan neu ran o’r costau ar y sail nad oeddent yn rhesymol. Gallai hefyd effeithio ar unrhyw hawl i hawlio indemniad sylweddol.

3.1.5 Hyd a lled caniatâd am achos barnwrol

Byddwn yn gofyn i’r hawliwr ddarparu manylion llawn y camau arfaethedig a pham ei fod am ddilyn y llwybr hwnnw. Mae angen cymaint o wybodaeth â phosib arnom er mwyn dod i benderfyniad oherwydd unwaith y bydd wedi’i roi, ni ellir tynnu ein caniatâd yn ôl. Yn ogystal, nid oes gennym y pŵer i osod amodau.

Fel arfer, byddwn yn rhoi caniatâd ar gyfer yr holl achos barnwrol o dan sylw. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn ymestyn i unrhyw apêl, a fydd yn cael ei drin fel cam ar wahân.

O dan rai amgylchiadau bydd yn briodol cyfyngu ein caniatâd i gam penodol o’r achos barnwrol, ond ni fydd hyn yn digwydd fel rheol. Gweler Pryd y gallai caniatâd cyfnodol fod yn briodol.

  • mewn achosion brys pan fo hawliwr wedi gofyn i Gofrestrfa Tir EF roi caniatâd ar unwaith. Fel rheol, byddwn yn rhoi caniatâd cyfyngedig fel y gall yr hawliwr gymryd y camau sydd eu hangen i amddiffyn ei sefyllfa. Gellir ystyried yr achos yn fwy manwl wedi hynny yn y dull arferol.
  • mewn achosion anarferol lle credwn fod modd i ni gynnig indemniad teg a fydd yn galluogi’r partïon gytuno, ond nad oes gennym ddigon o wybodaeth i ddod i benderfyniad. Mewn achosion fel hyn, efallai y bydd yn briodol rhoi caniatâd hyd at, er enghraifft, cyfnod ffeilio amddiffyniad. Wedi hynny byddwn yn ystyried y mater eto yng ngoleuni’r wybodaeth bellach sydd ar gael bryd hynny. Y rheswm dros gyfyngu caniatâd fel hyn yw gweld a allwn gynnig indemniad teg i setlo’r achos. Os gallwn wneud hynny ond ei fod yn cael ei wrthod, byddwn yn ystyried peidio ag ymestyn y caniatâd ymhellach. Fel arall, bydd caniatâd yn cael ei ymestyn fel arfer i barhau’r â’r achos (ond nid unrhyw apêl).

3.1.7 Apeliadau

Byddwn yn mabwysiadu’r un dull cyffredinol â’r dull a amlinellir uchod, ond byddwn yn gofyn i’r hawliwr ddarparu’r wybodaeth ychwanegol ganlynol:

  • y rhesymau dros yr apêl. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu effaith apêl lwyddiannus. Er enghraifft, gall yr apelydd fod yn llwyddiannus, ond efallai y bydd wedi cyfyngu ei apêl i ddarn o dir sydd o fewn y rheol terfynau cyffredinol. Ni fyddai unrhyw gamgymeriad yn y gofrestr mewn achos o’r fath, hyd yn oed pe bai’n ennill yr apêl (oherwydd beth bynnag y canlyniad, ni fyddai angen diwygio’r cynllun teitl). Ni fyddai’n iawn rhoi caniatâd o dan amgylchiadau o’r fath oherwydd y gallai olygu y byddai gan yr hawliwr ddisgwyliadau camarweiniol. Ni fyddwn, fel rheol, yn dadansoddi rhinweddau’r dadleuon cyfreithiol. Yn y mwyafrif o achosion byddwn yn gweithio ar y sail bod gan yr hawliwr seiliau rhesymol dros apelio, os yw’r llys wedi rhoi caniatâd
  • cyfanswm y costau hyd yma. Mae’n dra phosib y bydd y costau, erbyn hyn, yn uwch na dwywaith gwerth y tir. Bydd yn rhaid i’r hawliwr roi rhesymau da felly pam ei bod yn rhesymol cael rhagor o gostau mewn apêl
  • gwerth y tir o dan sylw. Bydd hyn yn ofynnol er mwyn asesu a yw cyfanswm y costau a’r treuliau yn rhesymol

3.1.8 Gwrthod caniatâd

Fel arfer byddwn yn gwrthod caniatâd lle:

  • nad oes anghydfod ynglŷn â bodolaeth camgymeriad yn y gofrestr
  • a’n bod wedi cynnig indemniad rhesymol a fyddai’n golygu bod modd setlo’r anghydfod, ond sydd wedi’i wrthod yn afresymol.

Os yw’r hawliwr, ar unrhyw adeg, yn gwrthod cynnig rhesymol a fyddai’n golygu bod modd setlo’r anghydfod, byddwn yn gofyn i’r hawliwr egluro’n fanwl pam ei fod wedi gweithredu fel hyn. Os ydym yn dal i feddwl bod y cynnig yn rhesymol a’i fod wedi’i wrthod yn afresymol, byddwn yn gwrthod rhoi caniatâd fel rheol. Os ydym wedi rhoi caniatâd yn barod, cyn cynnig yr indemniad, mae’n debygol iawn y bydd unrhyw hawliad am gostau ar ôl gwrthod y cynnig yn cael ei wrthod, ar y sail nad oeddent wedi’u hachosi’n rhesymol.

3.2 Treuliau a dalwyd heb benderfynu bod hawl

Gall y cofrestrydd gytuno i ad-dalu hawliwr aflwyddiannus y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gostau a threuliau rhesymol a dalwyd yn dilyn y cais aflwyddiannus. Dylai’r hawliwr fod wedi cael cydsyniad y cofrestrydd cyn talu’r costau, ond gall y cofrestrydd gytuno o hyd i ad-dalu’r costau os bydd yn eu cymeradwyo wedyn neu os yw’n ystyried fod rhaid talu’r costau neu dreuliau ar fyrder ac nad oedd yn ymarferol o fewn rheswm i wneud cais am gydsyniad.

3.3 Gostwng faint o gostau sy’n daladwy

Fel gydag unrhyw hawliad am indemniad, gall elfennau fel twyll neu ddiffyg gofal priodol ar ran yr hawliwr effeithio ar faint o gostau neu dreuliau gaiff eu talu (paragraff 5 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Caiff y materion hyn eu trafod yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad.

3.4 Llog

O dan baragraff 9 Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 195 o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae llog syml yn daladwy ar unrhyw gostau neu dreuliau y cytunwyd arnynt. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn.

Lle bo’r cyfnod a nodwyd o dan reol 195(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cychwyn ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008, 1 y cant uwchben cyfradd1 neu gyfraddau sylfaenol perthnasol Banc Lloegr.

Cyfradd sylfaenol Banc Lloegr yw (a) y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd masnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon cytuno ar drafodion i ddarparu hylifedd tymor byr yn y marchnadoedd arian neu (b) lle bo gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1988 mewn grym, unrhyw raddfa a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.

Fodd bynnag, ni chaiff llog ei dalu o ran cyfnodau lle nad yw’r hawliwr wedi cymryd camau rhesymol i ddilyn y cais neu, pan fo’n berthnasol, y cais am gywiriad (rheol 195(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Lle bo’r cyfnod a bennir o dan reol 195(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cychwyn cyn y dyddiad hwnnw:

  • ar gyfer y rhan o’r cyfnod cyn 10 Tachwedd 2008, ar y gyfradd neu gyfraddau priodol a osodir ar gyfer dyledion dyfarniadau llys, ac
  • ar gyfer y rhan o’r cyfnod ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008, 1 y cant uwchben cyfradd neu gyfraddau sylfaenol perthnasol Banc Lloegr.

3.5 Hawliwr yn cynrychioli ei hun

Tra bo’r rhan fwyaf o hawlwyr yn cyflogi cyfreithiwr neu gynrychiolydd cyfreithiol arall i’w cynorthwyo wrth ddelio â phroblemau’n deillio o gamgymeriad yn y gofrestr, mae’n well gan eraill ddelio â’r mater eu hunain. Ar yr amod bod y ceisydd wedi gweithredu’n rhesymol bydd fel arfer yn gallu cael ad-daliad o ran ei gostau a’i dreuliau parod. Bydd angen manylion llawn, ynghyd â derbynebau ble bynnag y bo modd. Felly, mae’n ddoeth cadw cofnod gofalus o unrhyw dreuliau all wedyn ffurfio rhan o hawl i indemniad.

Ni fydd gan hawliwr sydd heb gyflogi cynrychiolydd cyfreithiol hawl i unrhyw ‘gostau’ o ran ei amser ei hun, am nad yw’r rhain yn ‘gostau neu dreuliau a dalwyd gan y ceisydd o ran y mater’ (paragraff 3(1) Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Fodd bynnag, efallai y gall hawlio indemniad am unrhyw golled ariannol yn deillio o ddefnyddio ei amser ei hun wrth ddelio â’r camgymeriad a/neu’r cais am indemniad.

Mae gofyniad cydsyniad y cofrestrydd yn berthnasol i unrhyw hawliad o’r fath am gostau a threuliau parod a gall fod yn berthnasol i hawliad o’r fath am golled ariannol. Felly, os yw hawliwr yn meddwl y bydd yn gwneud hawliad o’r fath, dylai ofyn i’r cofrestrydd am ganiatâd mor fuan ag y bo modd.

4. Materion costau eraill

4.1 Newidiadau nad ydynt yn cywiro

Os caiff y gofrestr ei newid mewn achos heb gynnwys cywiriad, gall y cofrestrydd ddigolledu o hyd o ran unrhyw gostau neu dreuliau a dalwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â’r newid. (Gweler cyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad i gael manylion o ba bryd y bydd modd newid y gofrestr a phryd y bydd hynny yn cael ei ystyried yn gywiriad). Fel arfer mae angen caniatâd y cofrestrydd ymlaen llaw heblaw lle bydd yn ymddangos i’r cofrestrydd y bu’n rhaid talu’r costau neu dreuliau ar fyrder ac nad oedd yn ymarferol o fewn rheswm i wneud cais am ei gydsyniad (paragraff 9 Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.2 Newidiadau i’r gofrestr rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf

Lle bo’r cofrestrydd yn newid y gofrestr rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf sy’n cael ei chadw o dan adran 19, at ddiben cywiro camgymeriad neu ddiweddaru’r gofrestr, gall y cofrestrydd dalu’r hyn a wêl yn dda o ran unrhyw gostau rhesymol a dalwyd gan rywun mewn cysylltiad â’r newid (adran 21(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.3 Cyflwyno dogfennau

Os bydd cais iddo wneud hynny, o dan reol 201 o Reolau Cofrestru Tir 2003, mae gan y cofrestrydd bŵer, i fynnu bod rhywun sydd â dogfen yn ei feddiant (‘daliwr y ddogfen’) yn cyflwyno’r ddogfen honno i’r cofrestrydd. Gall y cofrestrydd fynnu bod pwy bynnag sydd wedi gwneud y cais yn talu’r costau rhesymol a dalwyd gan ddaliwr y ddogfen wrth gyflwyno’r ddogfen honno.

5. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.