Canllawiau

Cysylltu cymunedau gyda’r rheilffyrdd: y strategaeth datblygu rheilffyrdd cymunedol

Strategaeth rheilffyrdd cymunedol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Applies to England and Wales

Manylion

Crynodeb gweithredol

Yn wreiddiol fe ddatblygwyd y rheilffyrdd cymunedol fel mudiad llawr gwlad i roi sylw i rannau o’r rhwydwaith oedd wedi eu hamddifadu neu oedd dan risg, gyda chymunedau yn dod ynghyd i ddiogelu dyfodol eu llinellau lleol. Helpodd naws fentergar y sefydliadau a ffurfiont, ynghyd â’u gwybodaeth leol, i drawsnewid y llinellau hyn yn borthwyr ffyniannus i weddill y rhwydwaith rheilffyrdd a welir ar draws gwlad heddiw.

Mae’r rheidrwydd cyntaf o sicrhau bod llinellau lleol yn dal yn berthnasol a bod sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn parhau i chwarae rhan i ddenu teithwyr cynyddol yn parhau i fod yn allweddol. Fodd bynnag, ers i’r Llywodraeth gyhoeddi’r Strategaeth Ddatblygu Rheilffyrdd Cymunedol gyntaf ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2004, a adolygwyd ddiwethaf yn 2007, mae natur a ffocws gweithgaredd rheilffyrdd cymunedol wedi esblygu tu hwnt i hynny.

Mae sefydliadau rheilffyrdd cymunedol wedi llwyddo i harneisio cefnogaeth gan a chyrraedd yn bellach i mewn i’w cymunedau lleol a’r diwydiant rheilffyrdd trwy’r dull partneriaeth a ddefnyddiwyd. Mae’r strategaeth newydd hon yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, a chafodd ei hysbysu gan ymatebion a dderbyniwyd i ymgynghoriad 12 wythnos a ddaeth i ben yn Ionawr 2018 (PDF, 989KB).

Yn sylfaenol iddi, mae cefnogaeth i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i ffynnu fel grwpiau cynhwysol, annibynnol a chynaliadwy fel eu bod mewn safle da i gyflawni colofnau allweddol y strategaeth:

  • darparu llais i’r gymuned
  • hyrwyddo teithiau cynaliadwy iach a hygyrch
  • dod â chymunedau ynghyd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
  • cefnogi datblygiad cymdeithasol a chymunedol

Bydd y Llywodraeth a’r corff aelodaeth ar gyfer sefydliadau rheilffyrdd cymunedol, Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol, yn cydweithio i helpu rheilffyrdd cymunedol i ffynnu trwy:

  • cefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i arddangos ei bod yn gynhwysol, amrywiol ac yn gynrychiolwyr y gymuned yr ymddiriedir ynddynt
  • datblygu cynllun achredu newydd i gymryd lle cynllun dynodiad rheilffyrdd cymunedol yr Adran Drafnidiaeth, gan adlewyrchu’r rôl fwy cymunedol sydd gan sefydliadau rheilffyrdd cymunedol
  • darparu’r offer i ddatblygu sylfaen tystiolaeth gadarn yn arddangos gwerth rheilffyrdd cymunedol, i helpu cefnogi ei ddatblygiad ymhellach a denu cyllid atodol
  • rhannu gwybodaeth a phrofiad gan weithredwyr trenau, Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol ac yn arbennig rhwng sefydliadau rheilffyrdd cymunedol
  • annog partneriaid ar draws y diwydiant rheilffyrdd i gydweithio mwy gyda rheilffyrdd cymunedol a darparu hyblygrwydd ble fo’n bosibl er mwyn helpu cyflawni deilliannau cymdeithasol.

Bydd sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn darparu llais i’w cymuned leol trwy:

  • ddefnyddio gwybodaeth leol i ddeall a gweithredu fel eiriolwr i farnau ac anghenion pobl leol i‘r diwydiant rheilffyrdd a hysbysu penderfyniadau am wasanaethau a seilwaith i wella darpariaeth trafnidiaeth leol. Mae dialog parhaus gyda’r diwydiant a’r gymuned yn ganolog i hyn
  • gweithredu yn rôl cyfaill beirniadol i’r diwydiant rheilffyrdd, i nodi a delio â phroblemau a materion posibl
  • diogelu annibyniaeth sefydliadau rheilffyrdd cymunedol, yn cynnwys eu cefnogi i arallgyfeirio eu cyllid sylfaenol
  • cryfhau’r berthynas rhwng sefydliadau rheilffyrdd cymunedol ac awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth gwell cyfathrebu ar werth rheilffyrdd cymunedol gan y Llywodraeth ac Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol

Bydd sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn hyrwyddo teithiau cynaliadwy ac iach trwy:

  • gydweithio a gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr trafnidiaeth eraill, awdurdodau a sefydliadau i ddatblygu systemau trafnidiaeth integredig o amgylch gorsafoedd sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned
  • darpariaeth gan sefydliadau rheilffyrdd cymunedol o wybodaeth a chefnogaeth ‘y filltir olaf’ mewn gorsafoedd, i helpu teithwyr gwblhau eu taith ymlaen o’r orsaf
  • annog newid moddol i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus trwy hyrwyddo llwybrau beicio a cherdded a dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus i ac o orsafoedd, a hyrwyddo rheilffyrdd fel rhan allweddol o deithiau cynaliadwy ac iach
  • gweithio gydag ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i hyrwyddo teithio ar reilffordd i gael mynediad ar gyfleoedd

Bydd sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn helpu dod â chymunedau ynghyd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant trwy:

  • gydnabod y gall rheilffyrdd cymunedol fod ar flaen y gad o ran cefnogi’r Llywodraeth a’r diwydiant rheilffyrdd i ryddhau gwerth cymdeithasol y rheilffyrdd, ac i fod yn eofn wrth wneud hynny
  • meithrin perthynas agos gydag elusennau a grwpiau lleol, yn cynnwys rhai sydd heb gael unrhyw ymwneud â’r rheilffyrdd yn flaenorol
  • cynnig cyfleoedd i unigolion wirfoddoli ar y rheilffyrdd neu ar brosiectau yn gysylltiedig i’r rheilffyrdd, darparu cyfleodd i bobl wedi eu hynysu’n gymdeithasol i gysylltu gydag eraill ac i unigolion ddatblygu sgiliau bywyd newydd, yn ogystal â rhoi yn ôl i’w cymunedau
  • magu hyder y bobl sydd ag anghenion cefnogaeth penodol i deithio ar drên
  • ymdrechu i gyrraedd y rhai nad ydynt yn cyrchu gwasanaethau rheilffyrdd ar hyn o bryd i nodi’r rhwystrau, a gweithio gyda gweithredwyr trenau a Network Rail i ddelio â’r rhain
  • ehangu gwaith sefydliadau rheilffyrdd cymunedol gyda phlant a phobl ifanc i addysgu teithwyr y dyfodol a chynyddu mynediad at gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hamdden
  • hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a gynigir gan y rheilffyrdd yn rhan o’r ymgysylltu hwn gydag ysgolion a phobl ifanc, gan helpu creu gweithlu mwy amrywiol
  • defnyddio’r arweinyddiaeth a ddarperir gan Rwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i hybu sgiliau, hyder a chynhwysiant sefydliadau rheilffyrdd cymunedol

Bydd sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn cefnogi datblygiad cymdeithasol a chymunedol trwy:

  • hyrwyddo a hybu teithiau twristiaeth a hamdden ar drên, cefnogi busnesau bach a datblygiad mentrau cymdeithasol, trwy ddenu cwsmeriaid newydd i fusnesau o amgylch y rheilffyrdd a sefydlu mentrau sy’n gysylltiedig i’r rheilffyrdd
  • gweithio gyda gweithredwyr trenau i archwilio hyblygrwydd o ran prisio i gefnogi grwpiau difreintiedig
  • nodi, cyfrannu i, neu fod yn ymgynghorai ar gyfleoedd datblygu o amgylch y rheilffyrdd, o hybu cyfleusterau presennol i gynlluniau i ddatgloi tai newydd neu dwf economaidd
  • cysylltu rheilffyrdd treftadaeth trwy hyrwyddo ar y cyd, cydweithredu ar fentrau a rhannu arfer gorau a phrofiad, cydnabod rheilffyrdd treftadaeth fel elfen bwysig o’r diwydiant rheilffyrdd
  • gwneud gwell defnydd o dir a gorsafoedd rheilffordd, ehangu rôl adeilad yr orsaf i gynnig mwy o wasanaethau i a lle i’r gymuned leol, gyda’r diwydiant rheilffyrdd yn dilyn ymagwedd fwy hyblyg a galluogol i amodau prydles parthed defnydd cymunedol

Cyflawni’r strategaeth

Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i gyflawni’r strategaeth hon a bydd y Llywodraeth yn gweithio’n agos gyda Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol, gweithredwyr trenau, Network Rail ac eraill i wneud hynny

Ond yn fwyaf arwyddocaol, rydym yn edrych tuag at sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i roi bywyd i’r strategaeth hon, i barhau i weithio ar draws ffiniau o fewn eu cymunedau a thu hwnt. Rydym eisiau annog unigolion, cymunedau, sefydliadau gwirfoddol a busnesau i gymryd cyfrifoldeb dros y materion sy’n bwysig iddynt a’u cymunedau, gan gydweithio ac ailfeddwl sut mae polisi a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflawni.

Cyflwyniad i reilffyrdd cymunedol

Yn 2017 cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth “Cysylltu Pobl: Gweledigaeth Strategol ar gyfer y Rheilffyrdd”, gan gydnabod yr heriau mae’r diwydiant yn wynebu a sefydlu’r weledigaeth ar gyfer dyfodol rheilffyrdd Prydain. Mae teithwyr yn ganolog i’n diwygiadau, gyda’r strategaeth yn annog mwy o ymgysylltu rhwng y rheilffyrdd a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu, gyda rheilffyrdd cymunedol mewn safle da i gefnogi.

Mae rheilffyrdd cymunedol yn ymwneud â chysylltu cymunedau i’r rheilffyrdd trwy bartneriaethau, grwpiau, sefydliadau, mentrau cymdeithasol a gwirfoddolwyr lleol. Ar y dechrau, datblygodd y cysyniad rheilffyrdd cymunedol o sefydliadau llawr gwlad, cyn cael ei fabwysiadu fel strategaeth y Llywodraeth yn 2004 a chael ei gefnogi’n ehangach gan y diwydiant rheilffyrdd. Gall chwarae rhan arweiniol yng ngweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer cymdeithas sifil (unigolion a sefydliadau sy’n cyflawni gweithgareddau gyda’r prif ddiben o gyflawni gwerth cymdeithasol ac sy’n annibynnol o reolaeth y wladwriaeth).

Mae llinellau rheilffyrdd cymunedol yn cludo dros 40 miliwn o gwsmeriaid bob blwyddyn ac yn rhan o’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol, gyda chwmnïau trên yn gweithredu’r gwasanaethau a Network Rail yn berchen ar ac yn cynnal y seilwaith (y trac, signalau a mwyafrif y gorsafoedd).

Mae llinellau a gwasanaethau rheilffyrdd cymunedol yn cael eu cefnogi gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol. Mae’r rhain yn sefydliadau yn y gymuned ac wedi eu harwain gan y gymuned yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r cwmni gweithredu trenau neu gwmnïau sy’n gwasanaethu’r llinell, Network Rail, cynghorau lleol a sefydliadau cymunedol eraill megis grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd a grwpiau gwirfoddol. Yn 2017, roedd yna oddeutu 60 o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol ym Mhrydain Fawr, rhai wedi eu lleoli mewn awdurdodau lleol, eraill mewn elusennau, mentrau cymdeithasol neu fel cwmnïau buddiannau cymunedol.

Yn 2004, cyhoeddodd y Llywodraeth Strategaeth Ddatblygu Rheilffyrdd Cymunedol, gan gydnabod yn ffurfiol rheilffyrdd cymunedol a rôl partneriaethau rheilffyrdd cymunedol wrth gefnogi nodau strategol y rheilffordd genedlaethol. Cafodd y polisi hwn ei adolygu ddiwethaf yn 2007.

Yn 2015, canfu adroddiad i ‘Werth Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a Gwerth Gwirfoddoli Rheilffyrdd Cymunedol (PDF, 4.5MB)’, yr ymchwil mwyaf cynhwysfawr i’w gyflawni i werth rheilffyrdd cymunedol, 3,200 o wirfoddolwyr rheilffyrdd cymunedol yn rhoi 250,000 awr y flwyddyn mewn cefnogaeth, gyda gwerth ariannol blynyddol o £3.4 miliwn.

Tra bod ein rheilffyrdd wedi gweld nifer teithwyr yn dyblu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae rhai llinellau rheilffyrdd cymunedol wedi gweld twf mwy fyth na hyn.4 Mae hynny’n her arwyddocaol i’r diwydiant rheilffyrdd ac yn galw am welliant parhaus i gyflawni’r profiad teithio gorau posibl i’n teithwyr heddiw ac yn y dyfodol. Ar lefel leol, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu rheilffyrdd mewn safle delfrydol i weithio gyda’r diwydiant i gefnogi’r gwelliant hwn, a sicrhau ei fod wedi ei hysbysu gan anghenion a dyheadau cymunedau.

Tra bod ein rheilffyrdd wedi gweld nifer teithwyr yn dyblu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae rhai llinellau rheilffyrdd cymunedol wedi gweld twf mwy fyth na hyn (troednodyn 1). Mae hynny’n her arwyddocaol i’r diwydiant rheilffyrdd ac yn galw am welliant parhaus i gyflawni’r profiad teithio gorau posibl i’n teithwyr heddiw ac yn y dyfodol. Ar lefel leol, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu rheilffyrdd mewn safle delfrydol i weithio gyda’r diwydiant i gefnogi’r gwelliant hwn, a sicrhau ei fod wedi ei hysbysu gan anghenion a dyheadau cymunedau.

Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol yw’r corff cynrychioliadol sy’n darparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i’r sector rheilffyrdd cymunedol, yn arbennig trwy wasanaethau a digwyddiadau aelodaeth. Mae’r sefydliad yn eiriolwr ar gyfer rheilffyrdd cymunedol, gan ddarparu cyswllt rhwng aelodau a llywodraethau cenedlaethol a datganoledig, partneriaid a’r diwydiant. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod rôl bwysig Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol o ran helpu cyflawni deilliannau strategol ac mae’n gyllidydd allweddol ar gyfer y sefydliad.

Trwy ei rhaglen masnachfraint rheilffyrdd, mae’r Llywodraeth yn ceisio darparu canlyniadau gwell i deithwyr, gwerth gwell i’r trethdalwr, a gyrru budd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer y wlad. Rhaid i gwmnïau gweithredu trenau sy’n ddeiliaid rhyddfraint sefydlu sut fyddant yn gweithio gyda Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i gyflawni deilliannau strategol, yn ogystal â chreu ymrwymiadau a rhwymedigaethau penodol iddynt gefnogi’r sector rheilffyrdd cymunedol, sy’n cynnwys:

  • darparu cyllid i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol, gyda’r rhan fwyaf o fasnachfreintiau newydd yn darparu cyllid trwy sefydliadau blynyddoedd lluosog. Mae hyn yn aml yn galluogi partneriaethau i gyflogi swyddogion rheilffyrdd cymunedol ar sail gynaliadwy ac yn cynorthwyo cynllunio tymor hir
  • cefnogi cynlluniau mabwysiadu rheilffyrdd, yn amrywio o fabwysiadwyr gorsafoedd unigol yn adrodd am feiau hyd at grwpiau mwy yn helpu trawsnewid amgylcheddau gorsafoedd a chyflawni mentrau allgymorth
  • cefnogi’r broses o ddatblygu sgiliau a hyfforddiant ymhlith partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a darparu mynediad i gymorth arbenigol gan y diwydiant, er enghraifft yn ymwneud â chynllunio, ymgysylltu â’r gymuned, amserlennu, prisiau a marchnata
  • mwy o gydweithredu, ymgysylltu, cyfathrebu, ffocws rheoli ac atebolrwydd gyda chwmnïau gweithredu trenau parthed rheilffyrdd cymunedol
  • anogaeth i gefnogi datblygu gofod gorsafoedd segur er budd y gymuned

Astudiaeth achos: prosiect gorsaf Beccles

Mae Beccles yn dref farchnad fechan ar Linell East Suffolk rhwng Lowestoft ac Ipswich, gyda gorsaf reilffordd mewn lleoliad da i fod yn ganolfan gymunedol. Cafodd adeilad yr orsaf ei adnewyddu a rhoi diben newydd iddo gan y gymuned leol trwy Elusen Adfywio Beccles a’r Cylch. Mae cyflawniadau’r Prosiect hyd yma o ran darparu cyfleusterau i grwpiau a gweithgareddau cymunedol lleol yn cynnwys darparu pedair swyddfa ar gyfer busnesau bach a chanolig a newydd lleol yn Beccles. Mae yna gyswllt Wi-Fi ym mhob rhan o’r adeilad a dwy ystafell gyfarfod y gellir eu llogi am brisiau fforddiadwy. Mae mynediad llawn i’r anabl i’r toiledau. Mae’r ystafell gweithgaredd/ ffitrwydd a’r gofod ystafell gyfarfod uchod yn cael defnydd da gan bobl a grwpiau lleol. Mae’r Brifysgol y Drydedd Oes (U3A – mudiad rhyngwladol gyda’r nod o addysgu ac ysgogi aelodau’r gymuned sydd wedi ymddeol yn bennaf) leol yn ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer sgyrsiau a chyfarfodydd. Mae yna ddosbarthiadau ioga, ffitrwydd i fenywod a phynciau eraill yn rheolaidd.

Mae grŵp mabwysiadu’r orsaf hefyd wedi gwneud cryn dipyn i sicrhau cronfeydd atodol i ddathlu treftadaeth yr orsaf, gosod lloches aros newydd, gwella mynediad at yr orsaf a darparu gwybodaeth i dwristiaid.

Ymgynghori ar strategaeth newydd

Mae’r ddegawd ers i ni adolygu polisi cenedlaethol rheilffyrdd cymunedol ddiwethaf yn 2007 wedi gweld cryn newid a thwf, gyda rheilffyrdd cymunedol yn dal i ddatblygu ymysg rhwydwaith reilffyrdd sy’n esblygu ac yn ehangu. I sicrhau bod y strategaeth ar gyfer datblygu rheilffyrdd cymunedol ymhellach yn adlewyrchu’r cyd-destun newydd hwnnw, yn Nhachwedd 2017 fe lansiodd y Llywodraeth ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos i roi cyfle i’r rhai gyda diddordeb mewn rheilffyrdd cymunedol yng Nghymru a Lloegr i hysbysu polisi yn y dyfodol.

Cafodd yr ymgynghoriad ei strwythuro o amgylch pedwar maes allweddol oedd wedi eu nodi trwy ymgysylltu gyda’r sector rheilffyrdd cymunedol:

  • cysylltu pobl i lefydd a chyfleoedd
  • integreiddio cymunedau i greu cymdeithas fwy teg ac annog amrywiaeth a chynhwysiant
  • cefnogi economïau lleol a rhanbarthol a chyfleoedd i rannu
  • awgrymu dulliau arloesol i wella’r ffordd mae’r rheilffyrdd yn gweithio

Derbyniodd y Llywodraeth 175 o ymatebion i’r ymgynghoriad gan amrywiaeth o randdeiliaid yn cynnwys gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol, grwpiau defnyddwyr rheilffyrdd, cwmnïau gweithredu trenau, awdurdodau lleol, sefydliadau eraill yn cynnwys elusennau, a nifer o unigolion gyda diddordeb mewn gwasanaethau rheilffyrdd lleol. Roedd nifer yn ymatebion gan ddau neu fwy o sefydliadau yn cynrychioli cymuned neu ardal leol. Yn Ebrill 2018 fe wnaethom gyhoeddi crynodeb o ymatebion a dderbyniom i’r ymgynghoriad.

Fe gododd rhai themâu amlwg o’r ymatebion hynny ac rydym wedi edrych eto ar y meysydd a drafodwyd yn yr ymgynghoriad i adlewyrchu’r rhain. Felly mae’r strategaeth hon wedi ei strwythuro o amgylch y penodau canlynol:

  • helpu rheilffyrdd cymunedol i ffynnu
  • darparu llais i’r gymuned
  • hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy ac iach o deithio
  • dod â chymunedau ynghyd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant
  • cefnogi datblygiad cymdeithasol a chymunedol
  • ymroddiad y Llywodraeth i gyflawniad y strategaeth

Helpu rheilffyrdd cymunedol i ffynnu

Crynodeb

Er mwyn cyflawni’r strategaeth hon yn llwyddiannus, mae angen i grwpiau rheilffyrdd cymunedol fod yn sefydliadau cynaliadwy a chynhwysol. Rhaid iddynt allu arddangos i’w cymunedau, y diwydiant rheilffyrdd a phartneriaid posibl y gwerth pwysig maent yn ychwanegu.

Mae’r bennod hon yn sefydlu disgwyliadau’r sefydliadau hynny, y gefnogaeth y gallant dderbyn gan y Llywodraeth, Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol ac eraill, a’r offer fydd ar gael i’w helpu i barhau i ffynnu.

Creu sefydliadau cymunedol effeithiol a chynhwysol

Rhaid i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd fel sefydliadau llawr gwlad sicrhau eu bod yn sefydliadau cynhwysol sydd wir yn cynrychioli’r cymunedau lleol maent yn gweithredu ynddynt, er mwyn gallu datblygu dealltwriaeth ddofn o anghenion mwyaf enbyd cymunedau lleol, ac i barhau i fod yn berthnasol wrth i gymdeithas newid.

Mae’n bwysig i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd gynrychioli gwerthoedd gorau gweithfannau cynhwysol, ble mae staff a gwirfoddolwyr yn teimlo wedi eu grymuso i daclo unrhyw ymddygiadau negyddol i ddiogelu enw da’r sector rheilffyrdd cymunedol. Rydym yn gefnogol o waith Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i sicrhau bod gan sefydliadau aelodaeth godau ymddygiad priodol a mynediad at gyngor a hyfforddiant addas megis ar ragfarn anymwybodol sy’n cynorthwyo gydag adeilad gwell dealltwriaeth ar faterion cynhwysiant.

Bydd cyfathrebu a bod yn dryloyw bod yn agored i fewnbwn ac ymwneud pawb trwy wahanol ffyrdd, ymgynghori’n helaeth ar draws cymunedau, a sicrhau bod anghenion a barnau lleol yn flaenllaw mewn penderfyniadau, yn arbennig o ran pa brosiectau a gweithgareddau i’w cefnogi a chyflawni, yn helpu sicrhau bod rheilffyrdd cymunedol yn adlewyrchu’r gymuned leol a’i hanghenion mor gyflawn â phosibl.

Dylai partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd hefyd ystyried sut i gynnwys ymrwymiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu haelodaeth ac ar fyrddau, er enghraifft trwy arddangos sut maent yn alinio gyda Deddf Cydraddoldeb 2010.

Rydym yn annog y diwydiant rheilffyrdd, Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i barhau i hyrwyddo a chefnogi mentrau megis ‘Menywod ar y Rheilffyrdd’ a ‘Menywod mewn Rheilffyrdd Cymunedol’, sydd wedi eu creu i wella amrywiaeth yn niwydiant rheilffyrdd y Deyrnas Unedig a’r sector rheilffyrdd cymunedol trwy ddarparu cyfleoedd rhwydweithio a hyrwyddo arferion cynhwysol, annog ymrwymiadau a rhanddeiliaid i fabwysiadu amrywiaeth fel strategaeth busnes a dyfeisio mentrau wedi eu hanelu at hyrwyddo cyfleoedd i rai sydd wedi eu hymyleiddio mewn rhyw fodd.

Byddem yn cefnogi ac annog Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a chwmnïau gweithredu trenau yn gweithio trwy’r Grŵp Cyflawni’r Rheilffyrdd i ystyried sut gallai’r diwydiant rheilffyrdd a rheilffyrdd cymunedol gydweithio fwyaf effeithiol i gefnogi, ymgysylltu a gwrando ar bobl ifanc, sy’n llunio’r genhedlaeth nesaf o deithwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion rheilffyrdd cymunedol a staff y rheilffyrdd.

Bydd bod yn sefydliadau cynhwysol yn helpu rheilffyrdd cymunedol i gyrraedd partneriaid newydd sy’n dod ag arbenigedd a gwybodaeth atodol. Bydd cael strwythurau llywodraethu tryloyw priodol ar waith yn cefnogi cynhwysiant partneriaid, buddsoddwyr a noddwyr newydd, yn ogystal ag ymwneud ehangach gan y gymuned.

Arddangos gwerth

Mae’n bwysig i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol barhau i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gadarn ar eu heffaith a’r gwerth y gallant ychwanegu, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau (y newid sy’n digwydd o ganlyniad i’w gweithredoedd), os ydynt i barhau i ddatblygu eu gwaith a denu cyllid atodol yn llwyddiannus, yn arbennig gan ffynonellau tu hwnt i’r rheilffordd. Bydd gwneud defnydd o gyngor, offer a fframweithiau arbenigol fel Fframwaith Effeithiau Cymdeithasol Cyffredin i’r Rheilffordd newydd y Bwrdd Diogelwch a Safonau’r Rheilffyrdd yn helpu yn yr ymgyrch hon, ac rydym yn cefnogi gwaith parhaus Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i gynorthwyo hyn. Mae gan Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol rôl allweddol i chwarae o ran cefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i ddehongli fframweithiau o’r fath fel eu bod yn gallu datblygu cynlluniau ac achosion busnes effeithiol.

Tra bod yn rhaid i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol allu addasu i adlewyrchu amgylchiadau lleol a newidiol, dylent fanteisio ar y cyfle a ddaw o’r broses cynllunio llinellau – wedi ei gydlynu gan Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol fel gwasanaeth craidd i’w aelodau – i feddwl mewn modd strategol, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n cyd-fynd ag anghenion a chyfleoedd lleol.

Rhannu gwybodaeth a meithrin arbenigedd

Mae’n bwysig i Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol barhau i ddatblygu ei amrywiaeth o gyngor, gwybodaeth a hyfforddiant. Mae seminarau, gweithdai, gweminarau, Gwobrau Rheilffyrdd Cymunedol cenedlaethol, gwefan, cyhoeddiadau ac adroddiadau ymchwil Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol yn creu cyfleoedd da i ddosbarthu arfer gorau, rhannu gwersi a ddysgwyd a darparu arbenigedd, dealltwriaeth a chysylltiadau o’r tu allan i reilffyrdd cymunedol. Mae yna hefyd gyfle i hyfforddi cwmnïau gweithredu trenau i ddefnyddio eu cynhadledd flynyddol rheilffyrdd cymunedol a digwyddiadau eraill i rannu arfer gorau a darparu hyfforddiant datblygu ar gyfer partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd.

Yn ogystal, byddem yn annog Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i gefnogi rheilffyrdd cymunedol ymhellach i gysylltu gyda llwybrau sgiliau a chyfleoedd ehangach trwy gyfeirio a darparu templedi, offer a deunydd hyfforddi parod i’w defnyddio, i alluogi defnydd hawdd, adeiladol a chyswllt gyda mentrau cenedlaethol, a detholiad o gynigion i gefnogi prentisiaethau rheilffyrdd cysylltiedig presennol.

Mae’r diwydiant rheilffyrdd ac Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol yn cael eu hannog i gefnogi’r sefydliadau rheilffyrdd cymunedol hyn i gynnal lleoliadau profiad gwaith a phrentisiaethau mewn modd sy’n fanteisiol i’r unigolyn sy’n cymryd rhan a’r sefydliad sy’n lletya.

Mae’r un mor bwysig i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol barhau i ddysgu gan ei gilydd, trwy rannu astudiaethau achos, cyflwyno mewn cynadleddau a gweithdai a thrwy gynnal ymweliadau. Dylai hyn gynnwys rhannu dysgu, gwybodaeth a beth sy’n gweithio o ran manteision cymdeithasol ac effaith gymunedol. Er y gall fod cyfleoedd i bartneriaeth rheilffyrdd cymunedol ddarparu ymgynghoriaeth am dâl i un arall ar gyflawni gwasanaeth arbenigol, er enghraifft prosiect allgymorth ysgol, mae’n bwysig fod dosbarthu gwybodaeth a chyfnewid syniadau rhwng sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn parhau i lifo’n agored. Byddem hefyd yn annog cwmnïau gweithredu trenau, Network Rail a chwmnïau eraill i archwilio cyfleoedd i secondio cyflogeion i gymunedau lleol fel bod eu sgiliau busnes yn effeithio ar a thrawsnewid cymunedau – ac er mwyn iddynt allu dysgu am ymgysylltu cymunedol a deall anghenion a barnau lleol. Mae caniatáu i staff wirfoddoli i gefnogi mentrau cymunedol yn darparu cyfleoedd pellach i rannu gwybodaeth ac arbenigedd.

Cefnogi twf rheilffyrdd cymunedol

Mewn ardaloedd ble nad oes ymwneud cymunedol gyda’r rheilffyrdd, fe anogir y diwydiant rheilffyrdd i weithio o fewn y cymunedau hynny i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i ddelio â materion lleol. Ble mae unigolion a chymunedau eisiau gweithredu a chymryd rhan, mae gan Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a chwmnïau gweithredu trenau hefyd rôl allweddol o ran cefnogi sefydlu grwpiau a phartneriaethau newydd. Mae hyn yn cynnwys eu cynorthwyo i gael mynediad at gyllid cychwynnol i’w helpu i sefydlu eu hunain yn gyflym, ac annog eraill i’w cefnogi.

I sicrhau bod twf rheilffyrdd cymunedol yn dal yn berthnasol, bydd yn bwysig i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol ddeall, rhagweld ac ymateb i dueddiadau ac arloesiadau ehangach yn y diwydiant rheilffyrdd yn ogystal ag o fewn cymdeithas a’u cymunedau eu hunain. Yn ogystal, mae angen i’r Llywodraeth, ACoRP Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a phartneriaid diwydiant gydweithio i ddiddymu rhwystrau biwrocrataidd ac ymarferol. Bydd helpu cyflawni hyn yn rôl bwysig ar gyfer y Grŵp Llywio Rheilffyrdd Cymunedol Cenedlaethol (troednodyn 2) – i hyrwyddo gweithredoedd a mentrau i dyfu byd rheilffyrdd cymunedol.

Astudiaeth Achos: Love Thy Neighbour yn Smethwick Rolfe Street

Mae Gorsaf Smethwick Rolfe Street yn ardal canol dinas ym Mirmingham gyda lefelau uchel o amrywiaeth ddiwylliannol, ac roedd angen ei hadfywio. Gweithiodd y cwmni gweithredu trenau, London Midland, gyda Sefydliad Smethwick Abrahamic, sy’n uno Mwslimiaid â phobl o bob ffydd i wella eu cymuned, i ffurfio grŵp mabwysiadu cyntaf yr orsaf.

Gyda chymorth gan Network Rail a London Midland, fe ailsefydlodd y grŵp ardd yr orsaf. Ymgynghorodd myfyrwyr Celf BTEC o goleg lleol gyda’r gymuned i gynhyrchu murlun celf mawr i ddathlu diwylliannau amrywiol Smethwick. Mae’r canlyniad yn waith celf parhaol, lliwgar a thrawsnewidiol sy’n datgan ‘Câr dy gymydog’ mewn sawl iaith wahanol. Helpodd myfyrwyr o’r un coleg drawsnewid ystafell na ddefnyddiwyd yn yr orsaf yn ofod cyfarfod ac arddangos y gellid ei ddefnyddio gan y gymuned, gan alluogi’r orsaf i gymryd rhan mewn Diwrnod Agored Treftadaeth.

Fe unodd y prosiect fyfyrwyr, gan ddatblygu eu set sgiliau ac arddangos eu gwaith. Cyfrannodd grwpiau aml ffydd a gwirfoddolwyr wedi ymddeol i’r cynllun, gan blannu a chynnal gardd yr orsaf. Gyda nifer o bobl wedi eu cynnwys ar draws diwylliannau, oedrannau a galluoedd, mae perthnasau parhaus wedi eu sefydlu a’r gymuned wedi trawsnewid yr orsaf yn ganolfan ac yn borth y gallant ymfalchïo ynddi.

Cydweithio gyda’r diwydiant rheilffyrdd i arloesi

Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol wedi bod yn arloesol o ran codi ymwybyddiaeth o’r rheilffyrdd lleol a gweithio gyda chynllunwyr lleol i sicrhau rhwymedigaethau cynllunio (fel cytundebau Adran 106 (troednodyn 3) ac ardollau seilwaith cymunedol) i sicrhau’r cyllid angenrheidiol i wella eu rheilffyrdd lleol. Mae eraill wedi mabwysiadu ac wedi ceisio cyflawni cynlluniau trwy ddulliau cydweithredol a chymunedol, er enghraifft trwy weithio gydag unigolion sydd ar gynlluniau talu’n ôl cymunedol neu gefnogi pobl sy’n mynd trwy adsefydliad. Mae’r rhan fwyaf wedi bod yn greadigol o ran denu defnyddwyr newydd i’r rheilffyrdd trwy fynd â’r rheilffordd allan i’r gymuned trwy brosiectau celf, cystadlaethau a digwyddiadau.

Er mwyn i reilffyrdd cymunedol barhau i weithredu’n arloesol ac effeithiol, rhaid i’r diwydiant rheilffyrdd sicrhau bod ei reoliadau a phrosesau, a all fod yn gymhleth iawn, yn cael eu gweithredu’n gymesur mewn prosiectau dan arweiniad y gymuned. Rydym yn annog Network Rail i gydweithredu’n fwy effeithiol gyda phartneriaethau rheilffyrdd cymunedol, yn arbennig trwy geisio mewnbwn i’r strategaeth tymor byr i hir ar gyfer llwybrau a sicrhau bod dyheadau lleol wedi eu mewnosod yn strategaeth gyffredinol Network Rail ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig. Rydym yn annog Network Rail i fod yn fwy ymatebol a hyblyg wrth weithio gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol, eu cefnogi i ganfod datrysiadau arloesol, a chyflawni gwelliannau lleol a gweithgareddau yn y gorsafoedd. Mae trosglwyddiad Network Rail o fwy o awdurdod i’w lwybrau rhanbarthol yn galluogi ei staff lleol i ymgysylltu’n fwy gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol. Ar lefel genedlaethol, mae yna rôl bwysig i Arweinydd Rheilffyrdd Cymunedol a Rhwydwaith Rheilffyrdd Cenedlaethol i ddarparu arweinyddiaeth yn y sefydliad i ganfod ffyrdd i sicrhau bod prosesau mewnol yn gymesur a chefnogol yn arbennig pan fydd cyfleoedd i wneud gwell defnydd o asedau rheilffyrdd neu dir nad yw’n cael ei ddefnyddio wedi eu nodi gan grwpiau cymunedol.

Achrediad

Yn rhan o Strategaeth Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol 2004, gallai llinellau a gwasanaethau rheilffyrdd cymunedol gael eu ‘dynodi’ gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Crëwyd dynodiad fel system i alluogi llinellau rheilffyrdd cymunedol i gael eu rheoli, marchnata a chefnogi, gyda’r nod o ganfod ffyrdd i leihau gwaith papur a symleiddio prosesau yn ymwneud â llinellau rheilffyrdd cymunedol. Er nad yw dynodiad wedi ei ddefnyddio’n ymarferol i gyflawni’r holl nodau a fwriadwyd yn wreiddiol, mae wedi galluogi nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol i gael mynediad at gyllid atodol i gychwyn prosiectau arloesol, yn bennaf trwy’r Gronfa Ddatblygu Rheilffyrdd Cymunedol Dynodedig. Ar rai achlysuron mae hefyd wedi bod yn ysgogiad i’r diwydiant rheilffyrdd fabwysiadu datrysiadau mwy pragmatig i ddelio ag anghenion lleol. Yn bwysicaf oll, mae wedi cyflwyno’r statws o gydnabyddiaeth ffurfiol gan Lywodraeth, sydd wedi ei groesawu gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol.

Dangosodd ymgynghoriad gyda’r diwydiant rheilffyrdd a thu hwnt yn ystod datblygiad y strategaeth newydd hon awydd i ddynodiad yn ei ffurf bresennol gael ei amnewid gyda rhywbeth sy’n rhoi mwy o ffocws ar fod yn nod ansawdd ar gyfer partneriaethau rheilffyrdd cymunedol. Felly, rydym wedidatblygu system achrediad ar gyfer rheilffyrdd cymunedol.

Mae achrediad yn adeiladu ar etifeddiaeth dynodiad. Bydd yn:

  • gweithredu fel nod ansawdd yr ymddiriedir ynddo ar gyfer grwpiau rheilffyrdd cymunedol
  • cael ei ddatblygu fel brand sy’n cael ei adnabod o fewn y diwydiant rheilffyrdd a thu hwnt, yn gweithredu fel offeryn i gynorthwyo grwpiau rheilffyrdd cymunedol wrth ymgysylltu gyda rhanddeiliaid newydd mewn llywodraeth leol a diwydiant preifat. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu grwpiau rheilffyrdd cymunedol i gydweithio gyda phartneriaid newydd ac arallgyfeirio eu cyllid sylfaenol
  • cynorthwyo i greu cyfleoedd i ddatblygu e-ffaith rheilffyrdd cymunedol ymhellach ac i ddylanwadu ar brisiau nad ydynt wedi eu rheoleiddio.

Mae’r broses hon yn berthnasol i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Llywodraeth wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a’r Grŵp Llywio Cenedlaethol Rheilffyrdd Cymunedol i gynllunio’r prosesau ymgeisio a monitro ar gyfer achrediad, sy’n cyd-fynd, cymaint ag sy’n bosibl, gyda phrosesau cynllunio presennol rheilffyrdd cymunedol. Fe’u cynllunir i hyrwyddo arfer da a maent yn cynnwys adolygiadau rheolaidd i sicrhau eu bod yn cynnal y safonau priodol. Bydd yna hefyd broses ar gyfer diddymu statws achrededig o unrhyw grwpiau sy’n syrthio islaw’r safonau disgwyliedig a ble na ellir datrys problemau. Mae’r y Grŵp Llywio hefyd yn chwarae rhan wrth helpu adeiladu achrediad fel nod ansawdd a ymddiriedir.

Gweithredoedd allweddol i gyflawni nodau’r bennod hon:

  • Network Rail a chwmnïau gweithredu trenau i ddefnyddio sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i wella cyfathrebu gydag a chynnwys cymunedau ar newidiadau i’r rheilffyrdd, ac i fod yn ymatebol a chefnogol parthed gweithgareddau lleol
  • Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i barhau i ddatblygu ei ddetholiad o gyngor, gwybodaeth a hyfforddiant i gefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i wneud gwella defnydd o dystiolaeth ac i barhau i fod yn sefydliadau cynhwysol.
  • Yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a’r Grŵp Llywio Cenedlaethol Rheilffyrdd Cymunedol i ddatblygu a gweithredu’r system achredu rheilffyrdd cymunedol newydd.

Darparu llais i’r gymuned

Crynodeb

Un o ddibenion allweddol y rheilffyrdd cymunedol yw ei rôl o ran darparu llais i’r gymuned, cyfathrebu barnau ac anghenion pobl leol i’r diwydiant rheilffyrdd. Mae’r golofn hon o’r strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn annibynnol ac effeithiol wrth gyflawni eu rôl fel cyfaill beirniadol, a phwysigrwydd cynnal dialog agored gyda’r diwydiant rheilffyrdd a chymunedau.

Darparu dealltwriaeth leol

Cryfder allweddol rheilffyrdd cymunedol yw’r parch mae wedi ennill gan gymunedau lleol a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach. Mae’n cynnal dialog parhaus gyda’r ddau, ac wedi ffynnu yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd ei allu i weithredu fel partner effeithiol a chyfaill beirniadol i’w bartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd, awdurdodau lleol a Llywodraeth. Gall sefydliadau rheilffyrdd cymunedol fod yn eiriolwyr cryf dros wella darpariaeth trafnidiaeth leol, a gall helpu nodi ffyrdd i’r rheilffyrdd chwarae rôl fwy gweithredol ac effeithiol wrth gefnogi a gwella’r cymunedau mae’n gwasanaethu. Mae deall barnau, anghenion, arferion a rhwystrau pobl leol i deithiau rheilffyrdd yn galluogi’r diwydiant rheilffyrdd i ddelio â chyd-destunau lleol unigryw trwy ddilyn dull sydd wedi ei deilwra i anghenion a chyfleoedd lleol.

Ar draws y wlad, ble maent wedi derbyn cefnogaeth mae partneriaethau a grwpiau rheilffyrdd cymunedol wedi gweithio gyda’r diwydiant i gyflawni newid gwirioneddol er lles teithwyr a chymunedau. Yn aml bydd y partneriaethau a grwpiau hyn yn defnyddio gwybodaeth leol am batrymau ac anghenion teithio i helpu cynllunwyr i fireinio gwasanaethau lleol sy’n cyflawni’r budd gorau posibl i’r gymuned. Gall ymgysylltu ystyrlon rhwng partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a’u cwmni gweithredu trenau pan fydd newidiadau amserlen ac eraill yn cael eu hystyried wella darpariaeth trafnidiaeth leol, a gwella dealltwriaeth cymunedau a chefnogaeth i newidiadau o’r fath.

Mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol wedi dylanwadu ar newidiadau i amseriad y trenau olaf ar benwythnosau a threnau/stopiau atodol i gefnogi digwyddiadau mawr mewn ardaloedd lleol. Maent wedi cyflawni ymchwil, ymgynghoriadau ac adolygiadau yn cynnwys cynnal arolygon ar drenau ac oddi wrth y rheilffordd, i nodi galw ar gyfer gwahanol wasanaethau, megis cyflwyno Gwasanaethau Gwyliau Banc a Sul, ac i gael gwell dealltwriaeth o rwystrau cyffredin i deithio ar y rheilffordd. Gall eu dealltwriaeth ychwanegu gwerth i ddatblygiad gwasanaethau rheilffyrdd ar bob rhan o’r broses. Gall partneriaethau rheilffyrdd cymunedol ddarparu tystiolaeth sydd wedi ei ddefnyddio i gyflwyno’r achos dros brosiectau seilwaith mawr ac i nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau llai sy’n helpu cyflawni gorsafoedd deniadol, cymunedol a darpariaeth gwasanaeth seiliedig ar anghenion. Mae’n allweddol fod rheilffyrdd cymunedol yn parhau i gyflawni’r rôl hon a bod y diwydiant rheilffyrdd yn parhau i fod yn barod i wneud y gorau o gyfleoedd o’r fath.

Astudiaeth achos: Troad Todmorden a Dolen Basio Darwen

Mae’r gwelliannau i wasanaethau yn deillio o Droad Todmorden, darn o reilffordd a ailadeiladwyd yn 2014, a Dolen Basio Darwen yn ganlyniad positif i awdurdodau lleol, y diwydiant rheilffyrdd a rheilffyrdd cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth. Datblygodd Community Rail Lancashire ymwybyddiaeth a defnydd o’r gwasanaethau ar y ddwy linell, gan ei gwneud yn bosibl i ddatblygu achosion busnes hyfyw ar gyfer y buddsoddiadau hyn, sy’n dod i gyfanswm o dros £30 miliwn.

Cefnogodd Community Rail Lancashire gyflwyniad gwasanaethau uniongyrchol newydd o Ddwyrain Swydd Gaerhirfryn i Fanceinion trwy Droad Gorllewinol Todmorden wedi ei adsefydlu. Cynyddodd amlder trenau i wasanaeth pob hanner awr i Fanceinion trwy Darwen a Choridor Bolton yn dilyn cynllun £14 miliwn i ymestyn y ddolen basio yn Darwen.

Sicrhau annibyniaeth

Mae tarddiad rheilffyrdd cymunedol fel mudiad llawr gwlad wedi arddangos bod partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn darparu’r gwerth a deilliannau gorau pan fyddant yn rhydd i gynnig her adeiladol i gwmnïau gweithredu trenau ac i ystyried dulliau arloesol, dan arweiniad cymunedol i faterion lleol. Nid yw’n fodel y gellir ei orfodi ar gymunedau lleol gan Lywodraeth na chwmnïau gweithredu trenau, er y gellir ei annog a chefnogi, ac mae’r Llywodraeth yn cydnabod er mwyn iddynt allu cyflawni’r effaith a gwerth gorau posibl, rhaid i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol barhau i fod yn annibynnol. Yn rhan o hyn, mae’r Llywodraeth wedi ceisio creu mwy o sicrwydd ar gyfer partneriaethau rheilffyrdd cymunedol trwy gyflwyno gofynion ariannu ar gyfer rheilffyrdd cymunedol mewn cytundebau masnachfraint rheilffordd fel y sefydlwyd ym Mhennod Un.

Yn gynyddol, mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn dod yn fwy dibynnol ar weithredwr trenau fel eu prif neu unig ffynhonnell cyllid. Tra bod y cyllid hwn wedi bod o werth mawr i’r rheilffyrdd cymunedol i gefnogi cynllunio a chyflawni yn y tymor hir, gall greu risg bosibl y gallai’r cwmni gweithredu trenau fod eisiau rheolaeth dros weithrediad y partneriaethau rheilffyrdd cymunedol. I helpu lleihau’r risg o bartneriaeth yn dibynnu ar un cyllidwr o’r diwydiant, ble ceir gorgyffwrdd rhwng llwybrau gweithredwyr a chysylltiadau priodol, byddwn yn ystyried gofyn i gwmnïau gweithredu trenau eraill wneud cyfraniad ariannol ac i fod yn aelod gweithredol o’r bartneriaeth rheilffyrdd cymunedol berthnasol.

I ddiogelu’r annibyniaeth hon, rydym yn annog partneriaethau rheilffyrdd cymunedol i edrych ar arallgyfeirio eu cyllid sylfaenol. Mae enghreifftiau o sut mae sefydliadau rheilffyrdd cymunedol eisoes yn gwneud hyn yn cynnwys edrych ar gyfleoedd menter gymdeithasol; denu nawdd corfforaethol; a chyflawni gwasanaethau fel ymgynghoriaeth i bartneriaid. Gallai arallgyfeirio gwaith twristiaeth sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol hefyd ddarparu ffrydiau cyllid atodol trwy farchnata am dâl a chyfleoedd hysbysebu i fusnesau ac atyniadau lleol. Er enghraifft, darparu dolenni i wefannau llety a chael comisiwn ar atgyfeiriadau llwyddiannus, neu trwy gynnig gofod hysbysebu am dâl ar lenyddiaeth marchnata. Gallai partneriaethau rheilffyrdd cymunedol hefyd greu incwm atodol o asedau cymunedol, trwy ddarparu gofod ar gyfer grwpiau cymunedol, busnesau lleol, dibenion addysgol, ffeiriau swyddi/recriwtio, digwyddiadau contractwyr a digwyddiadau cymdeithasol.

Gall cwmnïau gweithredu trenau gynorthwyo partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn y maes hwn trwy eu helpu i ddatblygu eu sgiliau cynllunio busnes a darparu cyfleoedd i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol ddarparu gwasanaethau a dyletswyddau asiantaeth yn fwy economaidd. Gall hyn gynnwys rhedeg swyddfeydd tocynnau, darparu gwiriadau gorsaf, ysgrifennu adroddiadau arbenigol, darparu cynadleddau a rheoli digwyddiadau. Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol wedi sefydlu eu hunain fel mentrau cymdeithasol neu gwmnïau datblygu i gyflawni detholiad o weithgareddau sy’n creu incwm.

Mae rôl awdurdodau lleol yn parhau i fod yn allweddol. O ystyried eu mynediad at a dealltwriaeth o bartneriaid, cyfleoedd a ffrydiau ariannu prosiectau addas, gellir cyflawni llawer mwy gyda’u cefnogaeth a dull partneriaeth. I sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i fod yn rhan o reilffyrdd cymunedol, mae yna rôl ar gyfer Llywodraeth a Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol gyfathrebu gwerth gweithio gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol yn well. Mae hefyd angen i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol sicrhau bod eu gweithgareddau yn alinio gydag anghenion a blaenoriaethau lleol a datblygu perthynas effeithiol gyda llywodraeth leol a phartneriaid. Mae’n bwysig i’r diwydiant rheilffyrdd gydnabod bod llawer o gyllid prosiectau awdurdodau lleol yn gofyn i gynlluniau gael eu cyflawni o fewn blwyddyn ariannol benodol, felly rhaid iddynt fod yn ystwyth ac ymatebol a sicrhau bod prosesau’r diwydiant yn cyd-fynd gydag yn hytrach na llesteirio cyflawniad prosiect.

Mae’n bwysig cydnabod na fydd yr holl fentrau a phrosiectau rheilffyrdd cymunedol yn cynhyrchu refeniw. Dylid cyflawni gweithgaredd i greu incwm a chodi arian (a gwaith rheoli a phartneriaeth gysylltiedig) mewn ffordd sy’n cefnogi cyflawniad prif weithgareddau’r bartneriaeth neu grŵp i gyflawni gwerth cymdeithasol a bodloni anghenion lleol, yn hytrach na bod creu incwm yn nod ynddo’i hun. Mae’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu trwy fasnachfraint yn darparu llwyfan ddylai sicrhau bod gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol elfen o sicrwydd tymor hwy ac yn gallu canolbwyntio ar ddeilliannau yn unol ag anghenion a dyheadau lleol.

Gweithredoedd allweddol i gyflawni nodau’r bennod hon:

  • Yr Adran Drafnidiaeth i sicrhau bod lleisiau rheilffyrdd cymunedol yn cael eu clywed ar lefel strategol
  • cwmnïau gweithredu trenau i fod yn bartneriaid rhagweithiol i reilffyrdd cymunedol, gan sicrhau eu bod yn cynnal mecanweithiau effeithiol ar gyfer cyfathrebu, cefnogaeth ac ymgysylltiad, tra’n parchu annibyniaeth sefydliadau rheilffyrdd cymunedol
  • cwmnïau gweithredu trenau a Network Rail i sicrhau bod ganddynt fecanweithiau yn eu lle i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol gyfathrebu gydag a darparu adborth iddynt, ac i’w syniadau ac awgrymiadau gael eu hystyried a gweithredu arnynt
  • sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i chwilio am gyfleoedd i ddatblygu cyllid sylfaenol mwy amrywiol

Hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy ac iach o deithio

Crynodeb

Gyda’u dealltwriaeth o anghenion a barnau lleol trwy waith partneriaeth, gall rheilffyrdd cymunedol helpu gosod y rheilffyrdd yng nghalon teithiau cynaliadwy. Mae’r bennod hon yn sefydlu sut gall rheilffyrdd cymunedol gyflawni mwy o werth cymdeithasol trwy gefnogi teithiau cynaliadwy i ac o orsafoedd – y rôl y gall chwarae o ran cynllunio teithiau, dod â darparwyr sy’n cydweddu ei gilydd ynghyd, ac arwain gwelliannau lleol.

Uno partneriaid teithio

Diolch i’w rôl o fewn cymunedau lleol, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd mewn safle da i wneud gorsafoedd lleol a llinellau rheilffyrdd yn bwyntiau ffocws i’r gymuned. Gallant ddefnyddio eu cysylltiadau i ddod â phartneriaid ynghyd i gyflawni gwelliannau, defnyddio eu gweithgareddau a chyfathrebiadau i greu dealltwriaeth, diddordeb a balchder yn y rheilffordd a’r ardal ehangach, ac yn dod ag aelodau’r gymuned leol ynghyd ar gyfer budd cyffredin.

Mae’r rheilffordd yn ganolog i nifer o deithiau, ond yn ôl ei natur nid yw o ddrws i ddrws. Mae teithiau pobl yn cychwyn cyn iddynt gyrraedd yr orsaf rheilffordd ac yn gorffen wedi iddynt ei gadael. Mae system drafnidiaeth integredig, yn cysylltu gwahanol ddulliau trafnidiaeth ac yn galluogi pob un i ddefnyddio ei gryfderau, yn allweddol i gyflawni symudiad tuag at ddulliau iachach a mwy cynaliadwy o deithio. Gall rheilffyrdd cymunedol helpu darparu gwell dealltwriaeth o’r profiad o’r ‘filltir olaf’ tu hwnt i’ orsaf. Mae mentrau megis Cynlluniau Teithio Gorsafoedd (troednodyn 4), gwella llwybrau a chyfleusterau cerdded a beicio, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, cynlluniau llogi beiciau a chardiau deallus – nifer yn cynnwys neu wedi eu harwain gan reilffyrdd cymunedol – yn dechrau delio â hyn. Ond mae angen partneriaeth a chydweithredu pellach gyda darparwyr ategol, yn amrywio o gerdded a beicio i fysus (yn cynnwys cludiant cymunedol), metros a thramiau i dacsis neu wasanaethau car talu wrth fynd.

Gall rheilffyrdd cymunedol fod yn fodd i ddod â’r darparwyr a dulliau teithio ategol hyn ynghyd, gan gyrraedd ac ymgysylltu gyda sefydliadau a darparwyr gwasanaethau lleol eraill, fel elusennau a grwpiau cefnogaeth lleol, darparwyr iechyd, sefydliadau addysgol, cyfleusterau hamdden a chyflogwyr lleol yn ogystal â darparwyr trafnidiaeth ategol ar nodi datrysiadau trafnidiaeth a rennir mewn modd holistig.

Mae rhai partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn cynnal fforymau llinell cangen rheolaidd sy’n uno’r prif awdurdod lleol, y Cynghorau Dosbarth a Bwrdeistref perthnasol ac, os ydynt yn bodoli, Cynghorau Tref, Plwyf a Chymuned. Gallant hefyd gynnwys grwpiau twristiaeth, busnes, defnyddwyr rheilffordd a chyfeillion gorsaf lleol, a gweithredwr y trenau a chyrff eraill sydd â diddordeb.

Gall partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau gorsafoedd hefyd gyflawni budd trwy ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth ‘milltir olaf’ (y daith o’r orsaf i’r gyrchfan derfynol), yn arbennig mewn gorsafoedd ble nad oes staff ac mewn lleoliadau mwy gwledig ac ynysig.

Gall hyn oll helpu unigolion i wneud teithiau aml fodd cynaliadwy, lleihau allyriadau a thagfeydd a gwella ansawdd aer ac iechyd mewn cymunedau. Trwy fanteision profiad trafnidiaeth a rennir, wrth fynd ar daith gydag eraill, a phan fydd teithiau yn cynnwys elfen o weithgaredd corfforol (fel mae nifer ohonynt ar y rheilffyrdd yn gwneud), gall hefyd helpu llesiant corfforol a meddyliol unigolion a chefnogi cymdeithas i ddelio â materion unigedd ac ynysu.

Mae yna rôl i Lywodraeth, awdurdodau lleol, y diwydiant rheilffyrdd a Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i gefnogi hyn trwy feithrin perthnasau adeiladol gyda sefydliadau eraill yn gweithio yn y maes teithiau cynaliadwy ac egnïol. Byddwn yn cynorthwyo sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i greu cysylltiadau gyda darparwyr trafnidiaeth cymunedol a gweithredwyr bysiau lleol.

Creu teithiau cynaliadwy, iach

Mae yna rôl i reilffyrdd cymunedol o ran hyrwyddo teithiau lleol diogel, hygyrch ac iach ac adeiladu ymroddiad lleol i gefnogi strategaethau cenedlaethol y Llywodraeth, yn cynnwys y ‘Strategaeth Buddsoddi Beicio a Cherdded’, ‘Strategaeth Trafnidiaeth Gynhwysol’ a’r strategaeth chwaraeon a gweithgaredd corfforol ‘Dyfodol Chwaraeon’. Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu rheilffyrdd wedi helpu hwyluso darpariaeth cyfleusterau beicio, yn cynnwys parcio beics diogel a llogi beiciau mewn gorsafoedd. Mae nifer wedi annog defnyddio’r rheilffyrdd ar gyfer beicio a cherdded hamdden gyda rhai yn cynhyrchu taflenni yn cefnogi ac annog teithiau cerdded o neu rhwng gorsafoedd neu feicio mewn grwpiau. Mae eraill wedi cynnig teithiau cerdded tywysedig yn aml yn trafod hanes lleol neu lwybrau natur rhwng gorsafoedd.

Mae’r Llywodraeth eisiau i gerdded a beicio fod yn rhan gyffredin o fywyd beunyddiol, a’r dewis naturiol ar gyfer teithiau byrrach ac yn rhan o deithiau hirach sy’n cynnwys, er enghraifft, taith trên.

Gall partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd chwarae eu rhan trwy hyrwyddo a hybu llwybrau beicio a cherdded i ac o orsafoedd, a nodi ac arwain ar gyfleoedd i wella cyfleusterau cerdded a beicio mewn gorsafoedd.

Yn ogystal, mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu yn gweithio gydag ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i hyrwyddo teithiau rheilffordd diogel, cynaliadwy ac annibynnol i helpu plant a phobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd (fe ystyrir hyn yn fanylach ym Mhennod Pump). Gall gweithgaredd o’r fath hefyd fod yn ysgogiad i helpu cysylltu gwahanol genedlaethau a gwahanol grwpiau trwy rannu gwybodaeth a phrofiadau.

Er mwyn galluogi rheilffyrdd cymunedol i gael mewnbwn effeithiol i gynlluniau teithio lleol, bydd angen i’r Llywodraeth, y diwydiant rheilffyrdd ac Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol chwarae eu rhan o ran cyfeirio partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd at ffynonellau cyllid a hyfforddiant priodol, yn ogystal â’u cefnogi i sefydlu a chynnal perthnasau gweithredol effeithiol gyda sefydliadau eraill, yn cynnwys darparwyr trafnidiaeth ategol.

Rydym yn annog Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a’r diwydiant rheilffyrdd i gydweithio i archwilio sut y gellir datblygu ymwneud rheilffyrdd cymunedol ymhellach mewn cynllunio teithiau gorsafoedd.

Gweithredoedd allweddol i gyflawni nodau’r bennod hon:

  • Yr Adran Drafnidiaeth, cwmnïau gweithredu trenau, Network Rail a Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i gyfeirio a chefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i ddatblygu eu heffaith ar deithiau cynaliadwy ac egnïol, yn cynnwys trwy eu helpu i gysylltu gyda phartneriaid perthnasol a chael mynediad at gyllid, hyfforddiant a chyngor atodol
  • Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a’r diwydiant rheilffyrdd i archwilio sut y gellir datblygu ymwneud rheilffyrdd cymunedol ymhellach mewn cynllunio teithiau gorsafoedd

Astudiaeth achos: Rhaglen ‘Smarter Journeys’ Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Caint

Mae ‘Smarter Journeys’ yn rhaglen ysbrydoledig i ysgolion a gan Bartneriaeth Rheilffordd Gymunedol Caint sy’n ceisio galluogi ac annog pobl ifanc i ddewis mynd ar fwy o deithiau trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r rhaglen yn cefnogi disgyblion Blwyddyn 5 a 6, gan ddarparu sgiliau iddynt allu gwneud teithiau egnïol a chynaliadwy wrth iddynt baratoi ar gyfer y symud ymlaen i’r ysgol uwchradd.

Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau dros gyfnod o flwyddyn, gyda’r mwyafrif yn digwydd cyn neu ar ôl ysgol neu yn ystod amser gwasanaeth, gan leihau’r effaith ar amser cwricwlwm Blwyddyn 6. Mae gweithgareddau yn cynnwys taith am ddim ar drên ac ymweliad â gorsaf, ymweliad i’r ysgol gan fecanig beiciau lleol, gwersi diogelwch rheilffordd a chynllunio teithiau.

Mae Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Caint wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Aylesford yn ystod y tair blynedd diwethaf i helpu disgyblion i fagu hyder i deithio’n annibynnol a diogel i’r ysgol uwchradd. Bu disgyblion yn cymryd rhan mewn hyfforddiant beicio Bikeability gyda bron i 90% yn pasio. Cafwyd ymweliad hefyd gan ‘Dr Bike o Cycles UK Maidstone, a fu’n eu helpu i baratoi eu beics eu hunain ar gyfer eu hyfforddiant.

Bu disgyblion yn cymryd rhan yn y Gystadleuaeth Pedlo Mawr, cystadleuaeth beicio i’r ysgol dros bum niwrnod, a drefnwyd gan Sustrans ac a welodd oddeutu traean o ddisgyblion yn beicio i’r ysgol, i fyny o 4% ar ddiwrnod arferol. Bu disgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn menter o’r enw Big Street Survey ble cynhaliwyd arolwg o’u taith i’r ysgol a gwneud argymhellion i’r Pennaeth ynghylch sut gellid gwella eu taith, gan arwain at ddarparu cysgodfa feics newydd.

Dod â chymunedau ynghyd a chefnogi amrywiaeth a chynhwysiant

Crynodeb

Mae’r bennod hon yn sefydlu rôl rheilffyrdd cymunedol wrth helpu adeiladu a chefnogi cymunedau integredig. Mae’n edrych ar sut gall gweithgaredd rheilffyrdd cymunedol helpu datgloi gwerth cymdeithasol y rheilffyrdd trwy fwyhau’r ddarpariaeth i grŵp ehangach o bobl, gan eu gwneud yn fwy hygyrch a darparu sgiliau a hyder angenrheidiol i blant, pobl ifanc ac eraill i gael mynediad i’r cyfleoedd mae’n gynnig

Adeiladu Cymunedau Integredig

Mae cysylltu pobl yn ganolog i ddiben y rheilffyrdd ac yn hanfod rheilffyrdd cymunedol. Gyda rhwydwaith sydd yn genedlaethol ac yn lleol ar yr un pryd, mae’r rheilffyrdd mewn safle i gael effaith gymdeithasol ehangach. Mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd yn chwarae rhan allweddol mewn personoli’r rhwydwaith rheilffyrdd a’i wneud yn berthnasol i unigolion, sefydliadau a chymunedau mae’n eu gwasanaethu. Mae rheilffyrdd cymunedol hefyd angen edrych tu hwnt i’r bobl a grwpiau sydd wedi bod yn ymwneud â’r rheilffyrdd yn draddodiadol a bod yn agored i bawb; trwy gynnwys cyfuniad mwy o bobl gall chwarae rôl werthfawr o ran adeiladu a chefnogi cymunedau integredig.

Gellir hyrwyddo amrywiaeth cymunedau lleol, a manteision yr amrywiaeth hon i gymunedau, trwy gynnal mentrau sy’n cwmpasu grwpiau ac ardaloedd daearyddol lluosog. I wneud hyn, rhaid i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol weithio’n agos i feithrin perthnasau ac alinio gwerthoedd gyda grwpiau cymunedol ac elusennau lleol – y rhai sy’n gwerthfawrogi anghenion a gofynion gwahanol grwpiau defnyddwyr.

Mae’n bwysig i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol gyrraedd a chynnwys grwpiau nad ydynt wedi bod yn ymwneud â’u gwaith yn draddodiadol. Gall cyflawni prosiectau penodol gyda mewnbwn cymunedol fel ‘trenau cerddoriaeth’, digwyddiadau adeg gwyliau, dyddiau hwyl yr haf a ffeiriau, a phrosiectau celf cymunedol oll helpu darparu cyfleoedd cymdeithasol, hamdden a chreadigol sy’n cynorthwyo llesiant ac yn uno grwpiau amrywiol.

Gwerth gwirfoddoli a mabwysiadu gorsafoedd

Mae mabwysiadu gorsafoedd wedi bod yn un o lwyddiannau mawr rheilffyrdd cymunedol. Mae dros 1,000 o grwpiau mabwysiadu wedi eu ffurfio’n genedlaethol, yr un mor gartrefol mewn amgylchedd canol y ddinas neu leoliad gwledig. Yn ogystal â denu miloedd o bobl i wirfoddoli, dod â phobl ynghyd a chreu balchder yn eu gorsaf a chymuned, mae’r grwpiau hyn yn chwarae rôl bwysig o ran gwneud eu gorsafoedd yn llefydd croesawgar, dymunol a deniadol. Yn aml mae eu gwaith yn mynd tu hwnt i gynnal a chadw sylfaenol, gan gynnwys garddio a thyfu bwyd cymunedol, prosiectau celf lleol a gweithdai ac ymweliadau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Trwy wneud eu gorsafoedd yn groesawgar a deniadol a chynnal gweithgareddau ymgysylltu lleol, mae mabwysiadwyr gorsafoedd yn cyflawni amrywiaeth o fanteision i’w cymunedau. Mae annog defnydd o’r rheilffyrdd a threchu rhwystrau i deithiau cynaliadwy yn dod â manteision amgylcheddol, tra bod eu presenoldeb gweledol mewn gorsafoedd a’r amgylcheddau deniadol maent yn creu yn aml yn helpu lleihau fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol (troednodyn 5).

Yr hyn sy’n allweddol i reilffyrdd cymunedol – a mabwysiadu gorsafoedd yn benodol – yw cynnwys aelodau o’r gymuned leol. Mae gwirfoddoli nid yn unig yn gyfle i aelodau’r gymuned roi rhywbeth yn ôl, mae hefyd yn darparu cyfle iddynt gwrdd ag eraill a datblygu eu hyder a galluoedd. Gall fod yn gyfle i bobl sydd wedi eu hynysu’n gymdeithasol, er enghraifft gweddwon diweddar, pobl anabl, rhai sy’n newydd i’r ardal, a phobl sy’n gwella o salwch hirdymor neu lawdriniaeth, i ymgysylltu ag eraill. Mae hefyd yn darparu cyfleoedd i bobl sydd â diddordeb mewn datblygu sgiliau bywyd newydd a gall fod yn ffordd arbennig i basio gwybodaeth ymlaen rhwng gwahanol genedlaethau.

Mae’r Llywodraeth yn gweld hyn fel rhan bwysig o lwyddiant rheilffyrdd cymunedol ac eisiau gweld cyfleoedd i wirfoddoli ar ein rheilffyrdd ar gael i bawb. Canfu adroddiad i ‘Werth Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a Gwerth Gwirfoddoli Rheilffyrdd Cymunedol (PDF, 4.5MB)’ bod mwyafrif y gwirfoddolwyr ar reilffyrdd cymunedol yn dod o gefndir cymdeithasol tebyg, gyda lefel uwch na’r cyfartaledd o addysg yn cynnwys graddau a chymwysterau technegol neu arbenigol perthnasol, ac roedd diffyg amrywiaeth cymdeithasol, yn arbennig o ran ethnigrwydd ac oed ac, i rai graddau, rhyw. Wrth i ni weld newid tuag at bobl yn parhau mewn gwaith cyflogedig yn hwyrach mewn bywyd, mae’r nifer o bobl sydd ar gael i gymryd eu lle ymysg y boblogaeth wedi ymddeol yn lleihau. Yn ogystal, mae cymunedau lleol yn drefol ac yn wledig yn dod yn fwy amrywiol. Felly mae angen apelio i ddemograffeg ehangach os ydym am weld twf cynaliadwy mabwysiadu gorsafoedd sy’n creu naws o gynhwysiant cymunedol.

Rydym oll yn gyfrifol am sicrhau bod pawb, waeth beth eu cefndir, yn teimlo’n hyderus i gymryd rhan mewn rheilffyrdd cymunedol. Bydd creu grwpiau agored, croesawgar yn helpu creu naws o gynhwysiant cymunedol, ble gall pobl o bob oed a chefndir ddod ynghyd i wneud gwahaniaeth positif i’w cymuned a magu cyfeillgarwch parhaus. Mae gwirfoddoli wedi profi i fod yn fuddiol i unigolion yn cymryd rhan a chymunedau ehangach ac mae’n bwysig y gwneir ymdrech weithredol i ddenu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn sicrhau bod rheilffyrdd cymunedol yn adlewyrchu a deall eu hanghenion.

Bydd creu partneriaethau gydag ysgolion lleol, grwpiau cymunedol, elusennau a busnesau i feithrin naws o ysbryd cymunedol a hyrwyddo mynediad i a dealltwriaeth o’r rheilffordd ar draws grwpiau amrywiol yn helpu gwneud hyn. Gall gwneud defnydd o adeiladau segur i greu canolfannau cymunedol hefyd ddarparu gofod i gymunedau ddod ynghyd yn gorfforol ac i gefnogi cydlyniant a llesiant cymunedol (ystyrir hyn yn fanylach ym Mhennod Chwech.

Gwella hygyrchedd a hyder yn y rheilffordd i bawb

Gall sefydliadau rheilffyrdd cymunedol helpu cwmnïau gweithredu trenau a Network Rail i gael gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau i deithio a gweithio gyda nhw er mwyn delio â’r rhain. I nifer o bobl, mae diffyg mudoledd neu hyder mewn defnyddio’r system drafnidiaeth yn gallu bod yn rhwystr i gyflogaeth, addysg, gofal iechyd ac i fywyd cymdeithasol. Mae gweithredwyr trafnidiaeth yn cydnabod yn gynyddol bod cynllunio a chyflawni eu gwasanaethau mewn ffordd wirioneddol gynhwysol y peth iawn i’w wneud, yn ogystal â gwneud synnwyr da yn fasnachol.

Mae yna dros 13 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig sydd ag anabledd, a all gynnwys namau corfforol neu synhwyraidd, yn ogystal ag anableddau llai gweladwy neu ‘gudd’ fel awtistiaeth, dementia, anableddau dysgu neu orbryder sy’n gallu bod yr un faint o rwystr i deithio. Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd wedi gweithio’n rhagweithiol gyda’r diwydiant rheilffyrdd ac awdurdodau lleol i nodi a cheisio cyllid ar gyfer gwelliannau i wella hygyrchedd mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Gall hygyrchedd a hyder cymdeithasol wrth deithio fod yr un mor bwysig â galluogi pobl i lywio trwy orsafoedd a mynd ar drenau. A yw’r gwasanaethau a ddarperir yn bodloni anghenion y gymuned, ac a yw’n fforddiadwy a hawdd i’w ddeall? Mae hyn yn faes allweddol ble gall rheilffyrdd cymunedol, gyda chefnogaeth y diwydiant rheilffyrdd yn dilyn Egwyddorion Datblygiad Cynaliadwy’r Rheilffyrdd, helpu rhoi’r rheilffyrdd o fewn cyrraedd mwy o bobl. Gall mentrau ‘Rhoi cynnig ar y trên’ sydd wedi eu hanelu at fagu hyder ymysg grwpiau gydag anghenion atodol helpu delio â materion yn ymwneud ag unigedd ac ynysu cymdeithasol.

Ynghyd â gweithio gyda’r diwydiant rheilffyrdd i annog gwelliannau ffisegol i gynorthwyo hygyrchedd corfforol i’r rheilffyrdd, mae’r rhan fwyaf o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd yn gweithio i ddatblygu sgiliau, dealltwriaeth a hyder mewn defnydd o’r rheilffyrdd hefyd. Mae hyn yn allweddol oherwydd bod rhwystrau trafnidiaeth ar gyfer grwpiau difreintiedig yn cynnwys amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a seicolegol.

Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd yn cynnal gweithdai ac ymweliadau ar gyfer grwpiau sy’n wynebu rhwystrau hygyrchedd neu sydd ag anghenion cefnogaeth penodol, er mwyn magu hyder, cynefindra a dealltwriaeth, megis pobl gydag anableddau dysgu, grwpiau gyda nam ar y golwg, pobl hŷn a theuluoedd dan anfantais gymdeithasol. Mae hyn yn faes gwaith pwysig i reilffyrdd cymunedol ddatblygu ac ymestyn ymhellach.

Trwy eu gwaith gyda phartneriaid ar gynllunio teithiau lleol, dylai partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd allu cyrraedd grwpiau ac unigolion nad ydynt yn cyrchu gwasanaethau rheilffyrdd ar hyn o bryd i nodi eu rhwystrau a bylchau mewn gwasanaeth, ac i weithio gyda phartneriaid i flaenoriaethu a sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol a’r newidiadau gofynnol i wneud gwasanaethau rheilffordd yn hygyrch i bawb. Mae hyn yn faes datblygu allweddol a bydd y Llywodraeth yn disgwyl i gwmnïau gweithredu trenau a Network Rail weithio gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i ystyried datrysiadau lleol. Mae’n ofynnol i nifer o gwmnïau gweithredu trenau ddarparu adroddiad blynyddol ar reilffyrdd cymunedol yn rhan o’u masnachfraint; yn y dyfodol byddwn yn gofyn bod yr adroddiad hwn yn cynnwys diweddariad ar gynnydd yn y maes hwn.

Er mwyn i reilffyrdd cymunedol leihau rhwystrau’n effeithiol, mae yna hefyd broblem ynghylch fforddiadwyedd ar gyfer grwpiau difreintiedig neu ymylol y bydd angen i’r diwydiant rheilffyrdd ei daclo. Mae fforddiadwyedd teithiau a thrafnidiaeth i grwpiau difreintiedig yn ganolog i gyflawni cymunedau mwy teg trwy wella mynediad at gyfleoedd, yn arbennig o ran cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Bydd y Llywodraeth yn annog cwmnïau gweithredu trenau i weithio gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i ystyried datrysiadau lleol, yn cynnwys datrysiadau tocynnau arloesol sy’n gwneud y rheilffordd yn fwy hygyrch i’r grwpiau hyn. Byddwn hefyd yn gofyn i gwmnïau gweithredwyr trenau adrodd yn ôl ar gynnydd yn y maes hwn yn eu hadroddiad blynyddol ar reilffyrdd cymunedol.

Astudiaeth achos: Harrington Hump

Mewn rhai gorsafoedd gyda phlatfformau isel, mae’r pellter camu rhwng y platfform a’r trên yn gallu ei gwneud yn anodd i deithwyr fynd ar drên a dod oddi arno. Gall hyn gael effaith ar rai pobl anabl, rhieni gyda phlant ifanc mewn cadeiriau gwthio, teithwyr gyda bagiau a rhai pobl hŷn.

Gan nad yw’n debygol y bydd achos busnes cryf dros ailadeiladu platfformau i safonau modern mewn gorsafoedd gyda nifer isel o deithwyr, mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol wedi gosod ‘Harrington Hump’, sy’n cael ei enw o Orsaf Harrington, yn lle hyn. Datblygwyd y datrysiad arloesol hwn yn gyntaf ar Linell Cumbrian Coast mewn ymateb i angen a nodwyd gan y bartneriaeth leol. Mae’n galluogi codi rhan o’r platfform i leihau’r pellter camu rhwng y trên a’r platfform am gost is, gan ganiatáu mynediad hwylus i’r rhai gyda phroblemau mudoledd.

Ers ei gyflwyniad gwreiddiol mae dros 100 o orsafoedd yng Nghymru a Lloegr wedi elwa o gyflwyno’r ‘Harrington Hump’.

Ymgysylltu â phobl ifanc

Mae’r rhan fwyaf o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a nifer o grwpiau mabwysiadu eisoes yn gweithio gydag ysgolion, grwpiau ieuenctid neu eraill i gyflawni sesiynau addysgol, ymweliadau, deunyddiau neu gyfathrebiadau sy’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth a hyder mewn defnyddio rheilffyrdd. Mae llawer o hyn wedi ei anelu tuag at hyrwyddo teithio annibynnol trwy ddatblygu dealltwriaeth o fanteision ac ymarferoldeb teithio ar reilffordd, yn cynnwys tocynnau, cyfnewid, teithio cynaliadwy ac iach a diogelwch.

Mae gan bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol y potensial i chwarae rôl arwyddocaol mewn addysgu a chreu teithwyr rheilffyrdd y dyfodol. Trwy gynyddu hyder pobl ifanc mewn teithio ar y rheilffordd, gallant wella eu mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, addysg, hyfforddiant a hamdden. Mae gan hyn y potensial i adeiladu mudoledd iach a chynaliadwy tymor hwy gyda goblygiadau arwyddocaol ar gyfer ffyniant, iechyd a lles unigolion a chymunedau.

Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn cydlynu gweithgareddau a phrosiectau ymarferol gyda phobl ifanc, ond yn arbennig rhai oed ysgol gynradd, sydd nid yn unig yn hybu addysgu’r cwricwlwm ond hefyd yn darparu profiad ymarferol a sgiliau bywyd.

Yn ogystal, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn cael cyfle i fod yn frocer ar gyfer cyfnewid sgiliau a gwybodaeth rhwng ysgolion neu grwpiau ieuenctid a busnesau lleol.

Mae yna gwmpas i reilffyrdd cymunedol ehangu ei gyrhaeddiad, yn arbennig trwy ddatblygu ei waith gyda phobl ifanc i gwmpasu addysg uwchradd a thrydyddol. Gall hyn gynnwys gwaith ymwybyddiaeth gyda cholegau a phrifysgolion (wythnos y glas, er enghraifft), prosiectau rhyngweithiol, cyflwyniadau ac ymweliadau wedi eu cysylltu i waith cwricwlwm, cynnig cyfleoedd i wirfoddoli a lleoliadau yn gysylltiedig i gyrsiau myfyrwyr, a hyrwyddo cyfleoedd gyrfa a llwybrau i waith. Mae hyn yn cynnwys o fewn y diwydiant rheilffyrdd: gall rheilffyrdd cymunedol hyrwyddo cyfleoedd gyrfa fel bod pobl ifanc yn gweld gweithio ar y rheilffyrdd fel dewis cyflogaeth hyfyw ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial, yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n cychwyn dan anfantais.

Mae sefydliadau rheilffyrdd cymunedol hefyd yn cael eu hannog i archwilio cyfleoedd i ddatblygu eu gallu i gynnal lleoliadau profiad gwaith a phrentisiaeth. Mae rhai partneriaethau rheilffyrdd cymunedol nawr yn cynnig lleoliadau ar gyfer myfyrwyr coleg, ac eraill wedi creu cyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr gydag anghenion arbennig. Mae hyn yn enghraifft o sut gall rheilffyrdd cymunedol helpu pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a nodi a dilyn llwybrau gyrfa sy’n addas iddyn nhw, yn cynnwys ar y rheilffyrdd. Yn ei dro, mae hyn yn helpu’r diwydiant rheilffyrdd i ddenu gweithlu talentog, deinamig ac amrywiol, fel y gwelir yn y strategaeth sgiliau seilwaith trafnidiaeth.

Golyga technoleg newydd, fel y rhai sydd wedi eu hysgogi gan ddefnydd cynyddol o ddatrysiadau digidol ar y rheilffyrdd, bod y rheilffyrdd angen sgiliau newydd mewn cystadleuaeth gyda diwydiannau eraill ar gyfer y sgiliau hyn a rhai mwy traddodiadol. I lwyddo, bydd angen i’r rheilffyrdd ddatblygu delwedd y diwydiant fel sector modern, technoleg uchel, ble mae sgiliau peiriannu meddalwedd neu wasanaeth cwsmeriaid yr un mor bwysig â gyrru trên. Un ffordd o gyflawni hyn yw i’r diwydiant rheilffyrdd weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion a phrifysgolion i sicrhau cyflenwad o bobl gyda sgiliau perthnasol. Mae hyn yn faes cryfder profedig ar gyfer partneriaethau rheilffyrdd cymunedol sy’n gyfarwydd â sefydlu perthnasau cynhyrchiol gyda sefydliadau addysgol.

Felly mae cyfle gwirioneddol i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd arwain ymdrechion y diwydiant yn y maes hwn a chefnogi dyheadau’r Llywodraeth i greu gwlad sy’n gweithio i bawb, trwy fanteisio ar gyfleoedd i sgwrsio gyda phobl ifanc y maent yn ymgysylltu â nhw am yrfaoedd posibl yn y dyfodol.

Astudiaeth achos: teithwyr y dyfodol

Mae Community Rail Lancashire wedi bod yn gweithio gyda disgyblion (8 i 10 oed) ers dros wyth mlynedd i ddarparu rhaglen addysgol gyda chyswllt i’r cwricwlwm. Yn seiliedig ar y cymeriad cartŵn ‘Brian the Bull’, mae’n cynnwys dros wyth awr o astudio yn seiliedig ar ymweliad ysgol, taith trên a diwrnod llawn o astudio yn yr ystafell ddosbarth arbennig yng Ngorsaf Accrington.Mae meysydd astudio yn cynnwys gwaith amserlen, barddoniaeth, creu mapiau, technoleg a chynaliadwyedd. Yn ystod y diwrnod, mae Swyddog Cefnogaeth Cymunedol o Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn darparu sesiwn ar ddiogelwch rheilffyrdd.

Yn gydnabyddiaeth o’u gwaith, mae disgyblion yn derbyn ‘Pasbort i Deithio Diogel’ sy’n cofnodi’r wybodaeth maent wedi sicrhau ac yn eu galluogi i deithio am ddim ar y llinell os ydynt yn teithio gydag oedolyn sy’n talu am gyfnod o dri mis.

I adeiladu ar y gwaith hwn, mae Community Rail Lancashire nawr yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr coleg 16 i 18 oed, gan ddarparu profiad gwaith a chymunedol gwerthfawr.

Astudiaeth achos: sgiliau am oes yng ngorsaf Gobowen

Trwy Severn Dee Travel, sefydliad dielw sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr a Phartneriaeth Rheilffordd Caer Amwythig, mae caffi bychan yn yr ystafell aros yng Ngorsaf Gobowen yn Sir Amwythig yn darparu profiad gwaith i’r coleg lleol ar gyfer myfyrwyr gydag anghenion arbennig. Yn gweithio mewn amgylchedd diogel a chefnogol, mae myfyrwyr o Goleg Derwen yn cyflawni profiad gwaith o safon uchel ble gallant ddysgu sgiliau arlwyo a gwasanaeth cwsmeriaid sylfaenol. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng hyn a’u hastudiaethau galwedigaethol ac mae’n cefnogi eu dyheadau gyrfa tymor hwy trwy ddarparu cyfle iddynt ddatblygu sgiliau cysylltiedig i waith.

Mae hyn nawr yn rhan o’r cwricwlwm yng Ngholeg Derwen ac fe gydnabu Ofsted fod y caffi yn darparu “cyfle i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, galwedigaethol a chyflogadwyedd ehangach arbennig i fyfyrwyr tra’n gweithio yng nghalon y gymuned. Maent yn dysgu sut i weithio fel tîm a chyfathrebu gyda chwsmeriaid.”

Cefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i gyflawni

Mae yna rôl allweddol i Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol chwarae o ran cefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i gyflawni yn y meysydd a sefydlir yn y bennod hon trwy ddarparu cyngor a hyfforddiant. Rydym yn annog Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i ddatblygu pecynnau gwaith a hyfforddiant priodol, yn cynnwys ar ddulliau i gysylltu â grwpiau a sectorau sy’n anoddach i’w cyrraedd, a chefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i wella asesiad, casglu tystiolaeth a datblygu gwerth cymdeithasol eu gweithgareddau.

I gydnabod pa mor bwysig yw cefnogi’r rheilffyrdd i fod yn hygyrch i ran ehangach o’r gymuned i ni, rydym hefyd yn argymell fod Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol yn enwebu Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant i ddarparu arweinyddiaeth i’r sector rheilffyrdd cymunedol ehangach.

Yn ogystal, rydym yn annog cwmnïau gweithredu trenau i gynnwys y meysydd hyn yn eu cynadleddau blynyddol ar y rheilffyrdd cymunedol, yn cynnwys elfen ar amrywiaeth a chynhwysiant ac yn amlinellu gweithgaredd penodol i hyrwyddo integreiddiad. Byddai hyn yn hybu’r nod o feithrin perthnasau da o fewn cymunedau, rhannu arfer gorau, adeiladu sgiliau ac, yn bwysig, hyrwyddo a dathlu llwyddiant yn y maes hwn.

Gweithredoedd allweddol i gyflawni nodau’r bennod hon:

  • Yr Adran Drafnidiaeth, Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a’r diwydiant rheilffyrdd i ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth briodol i helpu partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd i gael hyder wrth gysylltu gydag ac ymgysylltu â grwpiau sydd ‘heb lais’, a chefnogi mynediad at lwybrau gyrfa.
  • cwmnïau gweithredu trenau i gynnwys amcan amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb yn eu cynhadledd flynyddol rheilffyrdd cymunedol, ac i archwilio sut gellid sefydlu cyswllt gwell rhwng eu mentrau amrywiaeth a chynhwysiant ehangach a rheilffyrdd cymunedol.
  • Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i ystyried a sefydlu strategaeth i gefnogi mwy o ymgysylltu gyda phobl ifanc mewn rheilffyrdd cymunedol.

Cefnogi datblygiad cymdeithasol a chymunedol

Crynodeb

Yn ogystal â chefnogi unigolion mewn cymunedau i gael mynediad at gyfleoedd a chyrraedd eu potensial, gall rheilffyrdd cymunedol hefyd helpu cymunedau lleol eu hunain i ffynnu a thyfu. Mae’r bennod hon yn ffocysu ar sut all gynorthwyo ein rheilffyrdd i gael mwy o effaith economaidd a chymdeithasol a chefnogi adfywiad lleol. Mae hefyd yn ystyried rôl rheilffyrdd cymunedol o ran hyrwyddo teithiau trên a thwristiaeth a chyswllt i reilffyrdd treftadaeth.

Mae’r rheilffordd yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i economi’r Deyrnas Unedig, yn cefnogi a hwyluso busnes, cyflogaeth, hamdden a thwristiaeth. Mae’r sector rheilffyrdd yn darparu dros 200,000 o swyddi ac yn bwysig iawn o ran helpu gwahanol ardaloedd daearyddol a sectorau o’r gymuned fusnes ledled y Deyrnas Unedig i gyfrannu mewn ffordd fwy cytbwys a chyfartal. Yn ôl ymchwil gan Grŵp Cyflawni’r Rheilffyrdd19, mae’r diwydiant rheilffyrdd ym Mhrydain yn cyfrannu £10.1 biliwn mewn gwerth ychwanegol i’r economi bob blwyddyn ac yn cynyddu cynhyrchiant busnes o £11.3 biliwn.

Mae’r rheilffordd yn cynnig modd cyflym, cost effeithiol i gludo nifer fawr o bobl i drefi a dinasoedd, cefnogi twf economaidd ac yn cynnig dull deniadol a chynaliadwy o deithio, yn cynnwys mynediad at ardaloedd gwledig ac arfordirol amgylcheddol sensitif a chefnogi’r sector twristiaeth.

Cefnogi economïau lleol

Mae gan reilffyrdd cymunedol rôl i’w chwarae wrth nodi bylchau mewn gwasanaeth, dylanwadu ar welliannau i amserlenni a chefnogi’r rheilffyrdd i gipio cyfleoedd a grëwyd gan dwf tai a busnes newydd. Gall helpu hyrwyddo a hybu teithiau twristiaeth a hamdden ar y rheilffyrdd, sy’n cyflawni budd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, ac yn helpu cwmnïau gweithredu trenau i lenwi llefydd gwag, yn arbennig yn ystod cyfnodau allfrig.

Mae rheilffyrdd cymunedol yn annog pobl i deithio ar y trên, archwilio diwylliant, treftadaeth a thirwedd lleol ac i ymgysylltu gyda phobl leol. Trwy hyrwyddiad penodol a lleol, gall rheilffyrdd cymunedol gefnogi datblygiad busnesau bach a mentrau cymdeithasol trwy ddenu cwsmeriaid newydd. Er enghraifft, mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn hyrwyddo ‘Llwybrau Cwrw’r Cledrau’ sy’n hyrwyddo ymweliadau ar drên i dafarndai pentrefi, eraill yn cyhoeddi Canllawiau Bwyd sy’n hyrwyddo llefydd da i fwyta a phrynu cynnyrch lleol ar hyd eu llinellau cangen. Gall rhai mentrau ddarparu cyfleoedd cysylltiedig ar hyd y ffordd, gan ddod â chwsmeriaid i siopau, bwytai, ystafelloedd te, marchnadoedd a digwyddiadau lleol tra’n cynyddu teithwyr ar linellau lleol.

Mae hyrwyddo gwasanaethau trên presennol a cheisio gwelliannau i wasanaethau a chyfleusterau yn ffyrdd allweddol i helpu cynyddu cyfleoedd cyflogaeth. Mae yna sawl enghraifft ble, trwy eu rôl fel llysgenhadon ar gyfer y rheilffyrdd a’r gymuned leol, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol wedi nodi addasiadau i wasanaeth i ddatgloi marchnadoedd newydd i’r rheilffyrdd, fel cyflwyno gwasanaethau hwyrach neu wasanaeth ar y Sul. Mae’n allweddol bod y diwydiant rheilffyrdd yn parhau i fod yn agored ac ymatebol i’r cyfleoedd hyn pan y’u cyflwynir iddynt. Yn ogystal ag archwilio gwelliannau capasiti posibl a newidiadau i amserlenni, byddwn yn annog cwmnïau gweithredu trenau i fod yn hyblyg o ran prisiau ar gyfer grwpiau ymylol sydd heb fynediad i drafnidiaeth bersonol a’r rhai sydd eisiau mynd i fyd gwaith trwy deithiau a gefnogir neu ostyngol. Mae hyn eisoes yn digwydd, gyda datblygiad cynigion fel tocynnau lluosog a chynigion ar gyfer ceiswyr gwaith fel cynllun Job Track Great Anglia. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i sicrhau y gall grwpiau ymylol gael mynediad at drafnidiaeth.

Gall rheilffyrdd cymunedol hefyd gefnogi busnesau bach trwy bolisïau prynu partneriaethau rheilffyrdd cymunedol, i brynu gan fusnesau lleol. Ble mae busnes bach lleol neu fenter gymdeithasol wedi sefydlu yn adeilad yr orsaf, mae cyfle i’w hyrwyddo a chefnogi trwy gynnal digwyddiadau sy’n denu pobl fel galâu yn yr orsaf, fydd yn cynyddu’r sylfaen cwsmeriaid posibl i’r busnes. Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu rheilffyrdd wedi cynnal digwyddiadau, fel trenau arbennig a marchnadoedd ffermwyr sydd wedi darparu cyfleoedd masnachu newydd i gynhyrchwyr lleol.

Tyfu’r rhwydwaith rheilffyrdd

Tra bydd yr holl gynigion i ddatblygu a thyfu’r rhwydwaith rheilffyrdd yn parhau i fod yn amodol i werthusiad o’u hachos busnes, gall sefydliadau rheilffyrdd cymunedol helpu nodi cyfleoedd lleol i ddatblygu yn unol ag anghenion a dyheadau lleol – boed hynny’n hybu’r cyfleusterau presennol neu ddatblygu rhai newydd. Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol wedi nodi gorsafoedd newydd a gwelliannau posibl i’r rhwydwaith rheilffyrdd, ac wedi bod yn hynod effeithiol o ran sefydlu’r achos dros fuddsoddi ac mewn rhai achosion hyd yn oed helpu codi’r arian sydd ei angen. Mae yna gwmpas i bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol weithio gyda Network Rail neu eu cwmni gweithredu trenau i nodi cyfleoedd i wella ac ymestyn gwasanaethau rheilffyrdd, boed hynny yn adolygu patrymau gwasanaeth neu gysylltedd i rwydwaith rheilffyrdd ehangach y Deyrnas Unedig.

Fel hyn, gall rheilffyrdd cymunedol helpu bodloni ymroddiad y Llywodraeth i nodi cynlluniau i ddatgloi tai neu dwf economaidd newydd sy’n cynnig gwerth da am arian, fel y disgrifiwyd yn fanylach yn ‘Cysylltu pobl: gweledigaeth strategol ar gyfer y rheilffordd’. Rydym wedi cyflwyno dull cyllido newydd ar gyfer uwchraddiadau a gwelliannau mawr yng Nghymru a Lloegr o 2019, gyda rhaglen dreigl o fuddsoddiad, yn canolbwyntio ar ddeilliannau sy’n darparu buddion i gymunedau, teithwyr, defnyddwyr cludiant a’r economi. Rydym yn annog Network Rail ac Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i gefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i ddarparu mewnbwn i’r broses hon.

Mae’n bwysig bod y diwydiant rheilffyrdd yn trafod unrhyw ddatblygiadau ar y gweill neu arfaethedig gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol, er mwyn sicrhau yr ystyrir eu gwybodaeth a mewnbwn lleol gwerthfawr wrth wneud penderfyniadau. Yn aml gall sefydliadau rheilffyrdd cymunedol hefyd ddarparu cyngor ar opsiynau cyllido, er enghraifft, trwy nodi ffynonellau posibl o awdurdodau lleol neu ddatblygwyr i hybu prosiectau.

Byddem hefyd yn croesawu ymgynghori gan awdurdodau lleol gyda phartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd ar geisiadau cynllunio, er mwyn iddynt allu helpu nodi prosiectau buddsoddi cynaliadwy ar gyfer teithiau a gorsafoedd y gellir eu cyflawni trwy gyfraniadau gan ddatblygwyr fel cyllid Adran 106.

Cyswllt gyda rheilffyrdd treftadaeth

Dengys yr ystadegau diweddaraf gan y Gymdeithas Rheilffyrdd Treftadaeth bwysigrwydd y rheilffyrdd treftadaeth, gyda dros 150 o reilffyrdd, tramiau ac amgueddfeydd treftadaeth yn amrywio o ychydig gannoedd o lathenni o hyd i dros 20 milltir. Mae hyn yn denu 13 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, yn cynnwys wyth miliwn o deithwyr. Ar y cyd, mae’r rheilffyrdd hyn yn cyflogi dros 3,000 o staff cyflogedig ac ychydig dros 22,000 o wirfoddolwyr ac fe amcangyfrifwyd bod eu gwerth i economi’r Deyrnas Unedig yn 2013 yn oddeutu £250 miliwn y flwyddyn.

Mae rheilffyrdd treftadaeth yn bennaf yn darparu profiad, er enghraifft taith ar drên stêm, yn hytrach na gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus – gyda dim ond pump rheilffordd treftadaeth yn cynnig gwasanaethau ymlaen i’r rhwydwaith cenedlaethol. Yn ogystal â hyn, mae yna 18 o reilffyrdd ym Mhrydain gyda chyswllt ffisegol i’r rhwydwaith cenedlaethol, ac 17 gyda gorsafoedd cyfnewid a mwy ar y gweill.

Mae yna gyfle i reilffyrdd cymunedol gysylltu i linellau treftadaeth trwy hyrwyddiad ar y cyd yn rhan o’r cynnig twristiaeth, yn arbennig ble mae’r llinell treftadaeth yn cysylltu i’r rhwydwaith rheilffordd cenedlaethol neu’n gyfagos. Yn yr un modd, mae gan y llinell treftadaeth rôl i’w chwarae o ran annog teithiau rheilffyrdd fel modd i gyrraedd eu llinell.

Mae nifer o gwmnïau gweithredu trenau yn cynnig tocynnau ymlaen i reilffyrdd treftadaeth (tocyn taith un ffordd yn cwmpasu cam trafnidiaeth gyhoeddus y daith a thaith ar y rheilffordd treftadaeth) a’u hyrwyddo fel atyniadau ymweld, rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn parhau i’w annog trwy fasnachfreintiau. Mae nifer o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn cydweithio’n llwyddiannus ar fentrau ar y cyd gyda’u gweithredwyr treftadaeth lleol.

Gan fod nifer o briodweddau llinellau a gwasanaethau rheilffyrdd cymunedol yn debyg i rai rheilffyrdd treftadaeth, yn cynnwys rôl allweddol gwirfoddolwyr, mae yna gymaint y gall pob un ei ddysgu o’i gilydd ac felly byddem yn argymell fod Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a’r Gymdeithas Rheilffyrdd Treftadaeth yn helpu sefydlu perthnasau buddiol i’w gilydd rhwng aelodau. Mae yna eisoes lwybr sefydledig da ar gyfer gwirfoddolwyr rheilffyrdd treftadaeth ifanc yn symud i weithio ar y rhwydwaith cenedlaethol, a gallai dull tebyg helpu denu mwy o wirfoddolwyr ifanc i reilffyrdd cymunedol.

Yn ogystal, mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir gyda’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) annibynnol trwy’r broses Adolygiad Cyfnodol 2018 (PR18) bresennol, sy’n sefydlu’r taliadau y mae’n rhaid i weithredwyr trenau dalu i Network Rail i gael mynediad i’r rhwydwaith cenedlaethol, pa mor bwysig ydi hi i gefnogi gwasanaethau siarter teithwyr – mae hyn yn cynnwys rheilffyrdd treftadaeth. Fe ysgrifennom at yr ORR ym Mawrth 2018 yn dadlau y dylid rhoi cap ar y taliadau defnydd amrywiol ar gyfer y gwasanaethau siarter teithwyr hynny sy’n cael mynediad i’r rhwydwaith cenedlaethol i amddiffyn y buddion gwerthfawr maent yn ddarparu. Rydym yn croesawu penderfyniad dilynol yr ORR i roi cap ar gynnydd yn y taliadau hyn.

Gwneud defnydd gwell o dir a gorsafoedd y rheilffordd

Mae’r nifer o deithwyr mewn rhai gorsafoedd llai yn rhy isel i gyfiawnhau darparu staff ar gyfer gwasanaethau tocynnau yn unig. Fodd bynnag, mae cyfle i ddarparu cyfuniad o weithgareddau masnachol, gwasanaethau a chymunedol i fodloni anghenion penodol pob dalgylch gorsaf. Trwy edrych ar ehangu rôl adeilad yr orsaf i greu budd o’r darbodrwydd maint hyn ac felly gynnig mwy i gymunedau lleol, gall ein rheilffyrdd chwarae rhan flaenllaw wrth wella’r ffordd mae pobl yn byw a gweithio. Gall gorsafoedd ddarparu masnachu, gweithredu fel hybiau cymunedol, cynnig gwasanaethau swyddfa’r post, weithredu fel llyfrgelloedd, fod yn gartref i erddi ac arddangosiadau cymunedol, creu cyfleoedd ar gyfer hamdden neu wirfoddoli, darparu cyfleusterau teithio egnïol ar gyfer beicio er enghraifft, letya meithrinfeydd a llawer mwy.

Mae sawl enghraifft ble mae rheilffyrdd cymunedol wedi bod yn gatalydd sydd wedi troi adeilad a fu’n segur ac wedi ei esgeuluso i borth a chanolfan deniadol a diddorol, yn fanteisiol i deithwyr, pobl leol a busnesau lleol, yn arbennig mentrau cymdeithasol a busnesau newydd.

6.19 Er mwyn parhau i sicrhau cynnydd yn y maes hwn, mae’n bwysig i’r diwydiant rheilffyrdd fabwysiadu ymagwedd hyblyg i amodau prydlesu a dilyn dull cyson, agored yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth wrth ymgysylltu â grwpiau cymunedol. 6.20 Gall partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd gychwyn cynlluniau i wneud gwell defnydd o dir ac adeiladau rheilffordd sy’n segur neu heb eu defnyddio’n llawn, er eu lles eu hunain a’r gymuned ehangach. Ar dir rheilffordd, mae cyfleoedd i dderbyn trwydded neu brydles gan y tirfeddiannwr (yn y rhan fwyaf o achosion, Network Rail yw hwnnw) i wella’r orsaf a’r ardal gyfagos, ac i gynnwys y gymuned trwy brosiectau garddio, celf, arddangosiadau treftadaeth, cynnwys gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, a phrosiectau graddfa fechan eraill. Yn ogystal â bod yn fuddiol i lesiant a chydlyniant cymunedol, mae gwelliannau o’r fath yn effeithio’n bositif ar ddehongliad teithwyr a rhai nad ydynt yn deithwyr o’u rheilffordd a gorsaf leol, gan helpu meithrin perthnasau positif a theimlad o falchder, dylanwadu ar benderfyniadau pobl ar sut ac os byddent yn defnyddio’r rheilffordd yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae systemau presennol ar gyfer symud cynlluniau ymlaen yn ymddangos i fod yn faith ac felly’n llesteirio diddordeb. Fe groesawom fod Network Rail yn ystyried penodi hyrwyddwr eiddo rheilffyrdd cymunedol i oruchwylio mabwysiadu dull mwy hyblyg a syml yn genedlaethol ar gyfer trwyddedu ac ymateb i ymholiadau a cheisiadau dilynol, ac un ble mae diweddariadau amserol yn cael eu cyfathrebu i sefydliadau rheilffyrdd cymunedol a rhanddeiliaid eraill perthnasol. Bydd angen i Network Rail sicrhau nad yw’r gwelliannau i’r broses yn effeithio ar eu gwaith, diogelwch na goblygiadau rheoleiddiol.

Yn ogystal, dylai Network Rail ymgynghori ar bob cyfle gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol parthed cael gwared ar dir neu adeiladau neu unrhyw newidiadau neu ddatblygiadau ar eu llinellau neu yn eu gorsafoedd mabwysiedig.

Mae’n bwysig i gwmnïau gweithredu trenau gyflawni archwiliadau i nodi safleoedd posibl ar gyfer gweithredu ac i gefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i helpu cymunedau lleol ganfod defnydd amgen ar gyfer y llefydd segur hyn.

Mae moderneiddio parhaus y diwydiant rheilffyrdd yn golygu nad oes rôl i adeiladau’r gorffennol mwyach, wrth i newidiadau masnachol a thechnoleg eu gwneud yn ddibwrpas. Ni fydd pob un yn denu diddordeb masnachol, a bydd angen i Network Rail a chwmnïau gweithredu trenau fabwysiadu ymagwedd bragmatig parthed y gofod dibwrpas hwn. Argymhellwn eu bod yn cynnig prydlesi gyda rhent rhad i sefydliadau cymunedol dielw ble mae Network Rail yn fodlon:

  • nad oes achos busnes dros fynd ar drywydd rhent masnachol
  • y byddai’n galluogi bodloni themâu’r strategaeth hon
  • na fydd y dyfarniad yn groes i arweiniad Rheoli Arian Cyhoeddus

Bydd hyn yn helpu creu canolfannau cymunedol i gefnogi datblygiad cynaliadwy rheilffyrdd cymunedol, gydag unrhyw incwm dros ben a gynhyrchir yn cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau yn y dyfodol. Bydd hefyd yn helpu trawsnewid yr adeiladau hyn yn ofodau deniadol sy’n hyrwyddo’r rheilffyrdd ac yn caniatáu i falchder lleol ffynnu.

Astudiaeth achos: gorsaf Ridgmont

Mae Partneriaethau Rheilffordd Cymunedol Marston Vale wedi arwain ailddatblygiad yr adeilad olaf oedd yn weddill ar Linell Marston Vale, gan ddod ag adeilad gorsaf cofrestredig Gradd II yn ôl i ddefnydd cymunedol.

Wedi ei agor ym Medi 2013, mae’n ganolfan weithgaredd, yn darparu Canolfan Dreftadaeth ac ystafell de sydd wedi dod yn atyniad twristaidd ynddo’i hun. Mae’r adeilad hefyd yn bwynt gwybodaeth twristiaeth ac yn darparu canolbwynt i’r bartneriaeth rheilffordd cymunedol. Mae’n cynnig gofod swyddfa, ystafell gyfarfod a thoiledau hygyrch.

Mae’r orsaf yn ganolfan gymunedol fywiog, yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli. Nid oedd nifer o’r gwirfoddolwyr yn adnabod ei gilydd cyn cychwyn, ond maent wedi sefydlu cyfeillgarwch newydd ers hynny.

Gweithredoedd allweddol i gyflawni nodau’r bennod hon:

  • Network Rail a chwmnïau gweithredu trenau i ymgysylltu’n amserol gyda phartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd pan fydd datblygiadau yn cael eu cynnig neu gynllunio
  • Yr Adran Drafnidiaeth i gefnogi cydweithrediad rhwng gweithredwr trenau a’r diwydiant rheilffyrdd treftadaeth trwy fasnachfreintiau
  • Network Rail ac Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol i gefnogi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i ddarparu mewnbwn i’r dull cyllido ar gyfer uwchraddiadau a gwelliannau mawr yng Nghymru a Lloegr o 2019
  • Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol a’r Gymdeithas Rheilffyrdd Treftadaeth i hyrwyddo a brocera perthynas sy’n fuddiol i bawb rhwng eu haelodau
  • Network Rail i ymgynghori gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol ar gael gwared ar dir neu adeiladau, neu unrhyw newidiadau arfaethedig ar eu llinellau neu yn eu gorsafoedd mabwysiedig
  • cwmnïau gweithredu trenau i helpu nodi gofod segur mewn gorsafoedd a gweithio gyda sefydliadau rheilffyrdd cymunedol i roi bywyd newydd iddynt.

Ymroddiad y llywodraeth i gyflawniad y strategaeth

Mae cymdeithas sifil yn newid ac mae rôl Llywodraeth parthed cymdeithas sifil yn newid hefyd. Rydym eisiau annog unigolion, cymunedau, sefydliadau gwirfoddol a busnesu i lunio sut y delir â’r materion sy’n bwysig iddynt ac i gymryd mwy o gyfrifoldeb wrth ddelio â’r rhain. Rydym eisiau eu hannog i gydweithio ac ailystyried sut mae polisi a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu, yn cynnwys beth yw rôl busnesau, elusennau a chymunedau wrth greu cymdeithas sifil egnïol.

Mae’r strategaeth hon yn rhoi sefydliadau rheilffyrdd cymunedol ar flaen y gad ar gyfer y newid hwn, gan ddarparu cyfle i ystyried dulliau newydd o daclo materion cymdeithasol sefydledig ac sy’n codi trwy uchafu partneriaethau.

Mae cyflawniad llwyddiannus y strategaeth hon yn ddibynnol ar ymwneud gweithredol y diwydiant rheilffyrdd, Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol, awdurdodau lleol, cyrff trafnidiaeth is-genedlaethol ac, bwysicaf oll, sefydliadau rheilffyrdd cymunedol. Mae hefyd angen cefnogaeth partneriaid, noddwyr a buddsoddwyr eraill.

I’w cefnogi i gyflawni hyn, bydd y Llywodraeth yn:

  • gofyn i gwmnïau gweithredu trenau ac Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol adrodd yn rheolaidd i’r Adran ar eu gweithgareddau rheilffyrdd cymunedol a chynnal cyfarfodydd dwyochrog rheolaidd gyda nhw, i sicrhau cynnydd gyda chyflawniad y strategaeth
  • cynnal tîm rheilffyrdd cymunedol penodol, canolog yn yr Adran Drafnidiaeth i helpu hwyluso’r sector rheilffyrdd cymunedol trwy ddarparu cefnogaeth polisi a thechnegol i gefnogi llywodraeth ganolog a lleol, cwmnïau gweithredu trenau ac Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol
  • cefnogi Grŵp Llywio Cenedlaethol y Rheilffyrdd Cymunedol i ddarparu cyfeiriad strategol i’r sector rheilffyrdd cymunedol, a chyngor strategol i’r diwydiant rheilffyrdd ar anghenion a datblygiad rheilffyrdd cymunedol
  • monitro cyflawniad y strategaeth trwy Grŵp Llywio Cenedlaethol y Rheilffyrdd Cymunedol ar sail barhaus a chyflawni adolygiad cyfnodol o’r strategaeth bob tair blynedd i sicrhau ei bod yn dal yn berthnasol ac effeithiol

Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn parhau i weithio ar draws Llywodraeth i sicrhau bod rôl bwysig rheilffyrdd cymunedol mewn cyflawni buddion i gymunedau lleol ar draws nifer o amcanion ehangach, yn cynnwys ar iechyd cyhoeddus, cymdeithas sifil a chymunedau integredig, yn cael eu hyrwyddo, deall a chefnogi.

Troednodiadau

1: Nododd ymchwil 2015 fod llinellau partneriaethau rheilffyrdd cymunedol wedi tyfu 45% ar y cyfan, o gymharu â’r sector rhanbarthol (gwasanaethau rheilffyrdd cymharol) ar y cyfan, a dyfodd o 23% o 2006-7 i 2012-13. Rhwng 2010-11 a 2017-18, cynyddodd teithiau rheilffyrdd gan deithwyr ar draws Prydain Fawr o 26%.

2: Partneriaeth o lywodraeth ganolog a lleol, y diwydiant rheilffyrdd, Transport Focus ac ACoR Rhwydwaith y Rheilffyrdd Cymunedol P

3: Mae Cytundebau Adran 106 (S106) yn gytundebau cyfreithiol rhwng awdurdodau lleol a datblygwyr sy’n gysylltiedig i ganiatâd cynllunio a gallant hefyd gael eu hadnabod fel rhwymedigaethau cynllunio.

4: Gall Cynlluniau Teithio Gorsafoedd uno’r holl randdeiliaid sydd â budd mewn gorsafoedd rheilffordd (diwydiant rheilffyrdd, awdurdodau lleol, grwpiau teithwyr, gweithredwyr bysiau a thacsis, beicwyr ac eraill), i ddatblygu a chytuno ar amcanion cyffredin a dull cydlynol i gyflawni dewisiadau teithio mwy deallus gyda’r nod o leihau ei effaith amgylcheddol.

5: Dengys ymchwil a gyflawnwyd gan London Underground bod y dehongliad o amser teithio yn ystwyth, ac y gall ffactorau amgylcheddol a brofir gan gwsmeriaid yn ystod taith ddylanwadu ar hyn. Os yw amgylchedd gorsaf yn anniben, gorlawn a diofal, bydd hyd y daith yn teimlo’n hirach nag yw. Fodd bynnag, gall gwelliannau i awyrgylch gorsaf, yn cynnwys y rhai sydd wedi eu galluogi trwy weithgareddau partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau mabwysiadu gorsafoedd wneud i deithiau deimlo’n fyrrach i gwsmeriaid ac annog defnydd o’r rhwydwaith rheilffyrdd. Gellir cael rhagor o wybodaeth trwy gysylltu â’r tîm Profiad y Cwsmer yn London Underground ar designlu@tfl.gov.uk.

Cyhoeddwyd ar 16 November 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 April 2020 + show all updates
  1. Welsh version of guidance added.

  2. Update to reflect current status of work and name change of the Association of Community Rail Partnerships to the Community Rail Network.

  3. First published.