Canllawiau

Dibenion elusennol

Cyhoeddwyd 16 September 2013

Applies to England and Wales

1. Am ddibenion elusennol

Mae Ddeddf Elusennau 2011 yn diffinio diben elusennol, yn benodol, fel un sydd wedi’i gynnwys o fewn y 13 disgrifiad o ddibenion ac mae er budd y cyhoedd.

2. Disgrifiadau o ddibenion

Mae’r rhestr o ‘ddisgrifiadau o ddibenion’ yn Neddf Elusennau 2011 yn disgrifio meysydd eang o weithgarwch elusennol posibl.

Mae pob eitem a restrir yn ddisgrifiad neu’n ‘bennawd’ elusen yn hytrach na diben elusennol wedi’i ddatgan yn llawn ei hun. O dan bob un o’r disgrifiadau mae amrywiaeth o ddibenion, y mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â’r disgrifiad, ond mae pob un yn ddiben gwahanol ei hun. Mae’r rhestr o ddisgrifiadau, o’i chymryd gyda’r cyfan o ddibenion sy’n sail i bob disgrifiad, yn cwmpasu popeth sydd wedi, neu a allai gael ei gydnabod yn elusennol yng Nghymru a Lloegr.

Nid oes unrhyw ragdybiaeth awtomatig bod sefydliad â nod datganedig sydd wedi’i gynnwys o fewn un o’r disgrifiadau o ddibenion yn elusennol. Er mwyn bod yn ‘ddiben elusennol’ rhaid iddo fod er budd y cyhoedd. Rhaid dangos hyn ym mhob achos.

Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd elusen am addasu geiriad un o’r disgrifiadau o ddibenion fel ei nod datganedig. Gall hyn fod yn dderbyniol os yw’n glir bod yr hyn sy’n cael ei hyrwyddo yn ddiben elusennol er budd cyhoeddus.

Fodd bynnag, mewn nifer o achosion, gall y geiriad a ddefnyddir yn y disgrifiadau o ddibenion cyffredinol hyn gael mwy nag un ystyr, ac nid yw’r holl ystyron hynny yn ddibenion y mae’r gyfraith wedi’u cydnabod fel rhai elusennol. Mewn rhai achosion, mae’n bosib na fydd y geiriad yn egluro’n ddigonol beth mae’r sefydliad wedi cael ei ffurfio i’w wneud. Os mai dyma yw’r achos, efallai y bydd angen ychwanegu eglurhad pellach i sicrhau bod y diben sydd i’w hyrwyddo yn un sy’n elusennol yn unig, ac yn elusennol yn bendant. Bydd y comisiwn yn ystyried pob achos ar ei deilyngdod ei hun.

3. Atal neu leddfu tlodi

Yn y gorffennol, mae’r llysoedd wedi tueddu i ddiffinio ‘tlodi’ trwy gyfeirio at galedi ariannol neu ddiffyg pethau materol ond, yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sydd ohoni, mae tlodi yn cynnwys nifer o anfanteision ac anawsterau sy’n codi o ddiffyg adnoddau ariannol neu faterol, neu sy’n ei achosi.

Ni all fod unrhyw ddiffiniad absoliwt o’r hyn a allai ‘tlodi’ ei olygu oherwydd mae’r problemau sy’n achosi tlodi yn aml-ddimensiynol ac yn gronnus. Gall effeithio ar unigolion a chymunedau cyfan. Gallai gael ei brofi yn y tymor hir neu’r tymor byr.

Gall tlodi greu, a chael ei greu, gan amodau cymdeithasol niweidiol, megis iechyd a maeth gwael, a chyrhaeddiad isel mewn addysg a meysydd eraill o ddatblygiad dynol.

Mae atal neu leddfu tlodi yn golygu mwy na dim ond rhoi cymorth ariannol i bobl sy’n brin o arian; mae tlodi yn fater mwy cymhleth sy’n dibynnu ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd. Mae’r comisiwn yn cydnabod y bydd nifer o elusennau sy’n ymwneud ag atal neu leddfu tlodi yn gwneud hynny trwy fynd i’r afael â’r achosion (atal) a’r canlyniadau (lleddfu) tlodi.

Nid yw pawb sydd mewn caledi ariannol yn dlawd o reidrwydd, ond gall fod yn elusennol o hyd i leddfu eu caledi ariannol o dan y disgrifiad o ddibenion sy’n ymwneud â ‘helpu’r rhai mewn angen ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall’.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y comisiwn yn trin lleddfu tlodi a lleddfu caledi ariannol yr un fath. Yn gyffredinol, mae’n debygol o fod yn elusennol i leddfu naill ai tlodi neu galedi ariannol unrhyw un sydd heb yr adnoddau i ddarparu ar gyfer ei hun, naill ai yn y tymor byr neu’r tymor hir, bethau arferol bywyd y bydd y rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol.

Mae enghreifftiau o sut y gallai elusennau leddfu tlodi yn cynnwys:

  • rhoddion o arian
  • darparu eitemau (naill ai’n llwyr neu ar fenthyg) fel dodrefn, dillad gwely, dillad, bwyd, tanwydd, offer gwresogi, peiriannau golchi ac oergelloedd
  • talu am wasanaethau fel addurno tai hanfodol, insiwleiddio ac atgyweiriadau, golchi dillad, pryd ar glud, gwibdeithiau ac adloniant, gwarchod plant, llinell ffôn, trethi a chyfleustodau
  • darparu cyfleusterau fel cyflenwi offer neu lyfrau, talu ffioedd ar gyfer cyfarwyddyd, arholiad neu dreuliau eraill sy’n gysylltiedig â hyfforddiant galwedigaethol, iaith, llythrennedd, sgiliau rhifiadol neu dechnegol, costau teithio i helpu’r derbynwyr i ennill bywoliaeth, offer a chronfeydd ar gyfer gweithgareddau adloniadol neu hyfforddiant y bwriedir iddynt ddod ag ansawdd bywyd buddiolwyr i safon resymol

Mae darparu cyngor ar reoli arian a chwnsela ar ddyledion yn enghreifftiau o’r ffyrdd y gallai elusennau helpu i atal tlodi.

Gweler hefyd canllaw’r comisiwn ar atal neu leddfu tlodi er budd y cyhoedd a chynhwysiant cymdeithasol a’i benderfyniad ar AITC Foundation.

4. Hyrwyddo addysg

Mae’r gyfraith elusennau yn rhoi ystyr eang i addysg ac nid yw’n ei chyfyngu i addysg yn yr ystafell ddosbarth.

Er mwyn bod yn nod elusennol er budd cyhoeddus, rhaid i addysg allu gael ei ‘hyrwyddo’. Mae hyn yn golygu hyrwyddo, cynnal a chynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth unigol a chyfunol o feysydd astudio, sgiliau ac arbenigedd penodol.

Heddiw, mae addysg yn cynnwys:

  • addysg ffurfiol
  • addysg gymunedol
  • addysg a datblygiad corfforol pobl ifanc
  • hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant galwedigaethol) a dysgu gydol oes
  • ymchwil ac ychwanegu at wybodaeth a dealltwriaeth gyfunol o feysydd astudio ac arbenigedd penodol
  • datblygu galluoedd, cymwyseddau, sgiliau a dealltwriaeth unigol

Mae’r mathau o elusennau sy’n gallu hyrwyddo addysg yn cynnwys:

  • sefydliadau addysgol, megis ysgolion, colegau a phrifysgolion
  • sefydliadau sy’n cefnogi gwaith sefydliadau addysgol, neu sy’n gysylltiedig â nhw, megis sefydliadau rhieni athrawon, cronfeydd gwobrau, sefydliadau gosod safonau, sefydliadau hyfforddi athrawon, undebau myfyrwyr, byrddau arholi
  • cyn ysgolion ac addysg y tu allan i’r ysgol, megis cylchoedd chwarae, ysgolion Sadwrn, ysgolion haf, clybiau gwaith cartref
  • sefydliadau sy’n hybu addysg gorfforol pobl ifanc, megis cyfleusterau chwaraeon ieuenctid
  • sefydliadu sy’n darparu hyfforddiant sgiliau bywyd, megis cynlluniau gwobr Dug Caeredin, Sgowtiaid a Geidiau, Woodcraft Folk;
  • sefydliadau ymchwil a melinau trafod
  • cymdeithasau dysgedig megis y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
  • amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, athrofeydd gwyddonol
  • sefydliadau sy’n cyllido addysg pobl
  • sefydliadau sy’n addysgu’r cyhoedd mewn pwnc arbennig, er enghraifft hawliau dynol, newid hinsawdd, ffiseg, rheoli cyllid personol
  • y cyfryngau gwybodaeth fel y rhyngrwyd, radio, teledu, llyfrgelloedd, canolfannau gwybodaeth, gweisg prifysgolion, seminarau, cynadleddau a darlithoedd

Gweler hefyd canllaw’r comisiwn ar hyrwyddo addysg er budd y cyhoedd a’i benderfyniadau ar Countryside Alliance Foundation, Living in Radiance a Millennium College UK Limited.

5. Hyrwyddo crefydd

At ddibenion y gyfraith elusennau, mae crefydd yn system gred gyda nodweddion arbennig sydd wedi cael ei hadnabod yn y gyfraith achosion a’i chadarnhau yn y Ddeddf Elusennau, sy’n datgan:

“mae crefydd yn cynnwys:

  • crefydd sy’n cynnwys cred mewn mwy nag un duw, a
  • chrefydd nad yw’n cynnwys cred yn nuw”

Bwriad y ddeddfwriaeth oedd egluro bod crefyddau sy’n cynnwys cred mewn mwy nag un duw a’r rhai nad ydynt yn cynnwys cred yn nuw wedi’u cynnwys o fewn ystyr crefydd sy’n deillio o’r gyfraith achosion presennol.

Wrth ystyried a yw system gred yn grefydd at ddibenion y gyfraith elusennau, mae’r llysoedd wedi nodi rhai nodweddion sy’n disgrifio cred grefyddol. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys:

  • cred yn nuw (neu dduwiau) neu dduwies (neu dduwiesau), neu fod mawr, neu fod neu endid dwyfol neu drosgynnol neu egwyddor ysbrydol (‘bod mawr neu endid’), sy’n wrthrych neu’n ffocws y grefydd
  • perthynas rhwng y crediniwr a’r bod mawr neu’r endid trwy addoli, neu ddangos parch neu ddwysbarch at y bod mawr neu’r endid
  • graddfa o effeithiolrwydd, cydlyniad, difrifoldeb a phwysigrwydd
  • fframwaith moesol neu foesegol cadarnhaol, buddiol, adnabyddadwy

Mae enghreifftiau o sut y gall elusennau hyrwyddo crefydd yn cynnwys:

  • darparu lleoedd addoli
  • codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gredoau ac arferion crefyddol
  • cyflawni gweithredoedd defosiynol crefyddol
  • gwneud gwaith cenhadol ac allgymorth

Gweler hefyd canllaw’r comisiwn ar hyrwyddo crefydd er budd y cyhoedd a’i benderfyniadau ar The Church of Scientology (England and Wales), Good News for Israel a Sacred Hands Spiritual Centre.

6. Hyrwyddo iechyd neu achub bywydau

Mae hyrwyddo iechyd yn cynnwys atal neu leddfu salwch, clefydau neu ddioddefaint dynol, yn ogystal â hyrwyddo iechyd. Mae’n cynnwys dulliau confensiynol yn ogystal â dulliau cyflenwol, amgen neu gyfannol sy’n ymwneud â gwella’r meddwl, y corff a’r ysbryd wrth leddfu symptomau a gwella salwch. Er mwyn bod yn elusennol rhaid cael tystiolaeth ddigonol o effeithlonrwydd y dull i’w ddefnyddio. Bydd asesu effeithlonrwydd gwahanol therapïau yn dibynnu ar ba fuddion yr honnir eu bod yn eu rhoi (h.y. a yw’n ddiagnostig, yn wellhaol, yn therapiwtig a/neu’n lliniarol) ac yw’n cael ei gynnig i ategu meddyginiaeth gonfensiynol neu fel dewis arall. Ystyrir pob achos yn ôl ei deilyngdod. Mae ein canllawiau gweithredol yn esbonio ein dull o asesu’r budd-daliadau a hawlir ar gyfer therapïau cyflenwol neu amgen.

Mae lleddfu salwch yn ymestyn y tu hwnt i drin neu ddarparu gofal, megis ysbyty, i ddarparu eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau i leddfu dioddefaint neu helpu i wella pobl sy’n sâl, yn ymadfer, yn anabl neu’n eiddil neu roi cysur i gleifion.

Mae achub bywydau yn cynnwys amrywiaeth o weithgarwch elusennol wedi’i gyfeirio tuag at achub pobl y mae eu bywydau mewn perygl a diogelu bywyd ac eiddo.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • elusennau sy’n darparu triniaeth, gofal a gwellhad meddygol (gonfensiynol a/neu gyflenwol, amgen neu gyfannol), megis ysbytai a chanolfannau gwella, ac elusennau sy’n cefnogi eu gwaith neu sy’n gysylltiedig â nhw, e.e. Hospital League of Friends;
  • elusennau sy’n rhoi cysur, eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau i bobl sy’n sâl, yn ymadfer, yn anabl neu’n eiddil, e.e. radio ysbyty;
  • elusennau ymchwil meddygol;
  • elusennau sy’n darparu gwasanaethau a chyfleusterau i ymarferwyr meddygol, fel cartrefi i nyrsys;
  • elusennau sy’n sicrhau’r safonau priodol o arferion meddygol, e.e. y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • elusennau sy’n hyrwyddo gweithgareddau sy’n cael effaith fuddiol a brofwyd ar iechyd
  • elusennau sy’n darparu gwasanaethau achub, fel badau achub, achub mynydd, tân, ambiwlans, ambiwlans awyr a gwasanaethau cymorth cyntaf, neu sy’n helpu gwaith gwasanaethau’r heddlu ac achub er enghraifft drwy ddarparu cyfathrebu radio brys mewn trychinebau cenedlaethol a lleol
  • elusennau a sefydlwyd i helpu’r rhai sy’n dioddef trychinebau naturiol neu ryfel
  • darparu dosbarthiadau achub bywyd neu hunanamddiffyn
  • darparu gwasanaethau trallwyso gwaed

Gweler hefyd penderfyniadau’r comisiwn ar General Medical Council, Living in Radiance, NFSH Charitable Trust Limited a Odstock Private Care Limited.

7. Hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygu cymunedol

Mae hyrwyddo dinasyddiaeth neu ddatblygu cymunedol yn cwmpasu grŵp eang o ddibenion elusennol wedi’u cyfeirio tuag at gymorth ar gyfer seilwaith cymdeithasol a chymunedol sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn hytrach na’r unigolyn.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • hyrwyddo cyfrifoldeb dinesig a dinasyddiaeth dda, fel cynlluniau gwobr dinasyddiaeth dda, grwpiau Sgowtiaid a Geidiaid ac ati
  • hybu adfywiad trefol a gwledig
  • hyrwyddo gwirfoddoli
  • hyrwyddo’r sector gwirfoddol
  • hybu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd elusennau a’r defnydd effeithiol o adnoddau elusennol
  • hybu meithrin gallu’r gymuned
  • elusennau sy’n ymwneud â buddsoddiad cymdeithasol

Gweler hefyd adolygiadau o’r gofrestr elusennau a phenderfyniad y comisiwn ar Guidestar UK.

8. Hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth

Mae ‘diwylliant’ yn derm eang a ddefnyddir yn aml yng nghyd-destun hyrwyddo celf neu dreftadaeth.

Mae hyrwyddo celf yn cwmpasu ystod eang o weithgarwch elusennol gan gynnwys hyrwyddo mathau amrywiol o gelf ar lefel genedlaethol/broffesiynol a lleol/amatur, darparu cyfleusterau’r celfyddydau ac annog safon uchel o gelf. Mae ‘celf’ yn cynnwys celfyddyd haniaethol, gysyniadol a pherfformiad a chelfyddyd gynrychioliadol a ffigurol. Mae’n rhaid i elusennau sy’n ymwneud â hyrwyddo celf, boed yn gelf weledol neu’r celfyddydau perfformio fel cerddoriaeth, dawns a theatr, fodloni maen prawf teilyngdod, ac mae’r manylion am hyn i’w gweld yng nghyhoeddiad y comisiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf (RR10).

Gallai ‘treftadaeth’ gael ei hystyried fel rhan o hanes a thraddodiadau lleol neu genedlaethol gwlad sy’n cael eu trosglwyddo trwy genedlaethau dilynol. Mae hyrwyddo treftadaeth yn cynnwys elusennau sy’n gwarchod tir ac adeiladau hanesyddol. Mae canllawiau ar hyn i’w gweld yng nghyhoeddiad y comisiwn Gwarchod a Chadwraeth (RR9). Gallai hefyd gynnwys gweithgareddau sy’n ymwneud â gwarchod neu gynnal traddodiad arbennig lle y gellir dangos bod ei warchod yn cynnig budd i’r cyhoedd.

Mae hyrwyddo gwyddoniaeth yn cynnwys ymchwil wyddonol ac elusennau sy’n gysylltiedig â chymdeithasau a sefydliadau dysgedig amrywiol.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • orielau celf, gwyliau celf a chynghorau celf
  • elusennau sy’n hyrwyddo, neu’n annog safonau uchel yn y celfyddydau megis drama, bale, cerddoriaeth, canu, llenyddiaeth, cerflunwaith, paentio, sinema, meimio ac ati, e.e. theatrau, sinemâu a neuaddau cyngor; corau; cerddorfeydd; cymdeithasau cerddorol, operatig a dramatig
  • hybu crefftau a chrefftwaith
  • cymdeithasau hanes neu archaeoleg lleol neu genedlaethol
  • cymdeithasau celf leol
  • elusennau sy’n gwarchod henebion neu adeiladau hynafol
  • elusennau sy’n gwarchod heneb, adeilad neu gyfadeilad o bwysigrwydd hanesyddol/pensaernïol penodol, neu’n gwarchod adeiladau hanesyddol yn gyffredinol, fel ymddiriedolaethau gwarchod adeiladau
  • gwarchod traddodiadau hanesyddol, fel carnifalau, cymdeithasau dawnsio gwlad/gwerin, dawnsio gwlad Albanaidd, cymdeithasau dawnsio ucheldir, eisteddfodau, clybiau gwerin ac ati
  • prosiectau ymchwil wyddonol
  • elusennau sy’n ymwneud â chymdeithasau a sefydliadau dysgedig amrywiol, e.e. Coleg Brenhinol y Llawfeddygon; Coleg Brenhinol Nyrsio; y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol

Gweler hefyd penderfyniad y comisiwn ar Fine Lady on a White Horse Appeal.

9. Hyrwyddo chwaraeon amatur

Mae hyrwyddo chwaraeon amatur yn golygu hyrwyddo unrhyw gampau neu gemau sy’n hybu iechyd trwy gynnwys sgil neu ymdrech corfforol neu feddyliol sy’n cael eu cyflawni fel amatur. Mae canllaw’r comisiwn Statws Elusennol a Chwaraeon (RR11) yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r diffiniad o chwaraeon yn y Ddeddf Elusennau.

Mae penderfyniad y Comisiwn yn y cais i gofrestru y cais i gofrestru Cymdeithas Saethu Targed Caergrawnt yn esbonio sut rydym yn asesu effaith chwaraeon ar hyrwyddo iechyd.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • elusennau sy’n hyrwyddo chwaraeon mewn clwb lleol, e.e. clybiau pêl-droed, rygbi, tennis lleol ac ati
  • canolfannau aml-chwaraeon
  • sefydliadau eraill sy’n ymwneud â hyrwyddo campau neu gemau amatur arbennig

Enghraifft o elusen gofrestredig yn hyrwyddo chwaraeon amatur sy’n hyrwyddo iechyd trwy gynnwys sgil neu ymdrech feddyliol a’n hasesiad o hynny yw Hitchin Bridge Club.

Mae rhai clybiau chwaraeon amatur cymunedol yn glybiau chwaraeon cofrestredig sy’n golygu eu bod nhw’n glybiau sydd wedi cofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) o dan Atodlen 18 i Ddeddf Cyllid 2002 (c.23) (gostyngiad treth i glwb chwaraeon amatur cymunedol). Mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol sydd wedi cofrestru gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn elwa ar amrywiaeth o ostyngiadau treth, gan gynnwys Cymorth Rhodd. Cewch wybod rhagor am Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol gan Gyllid a Thollau EM.

Mae’r Ddeddf Elusennau yn darparu bod sefydliad sydd wedi cofrestru gyda HMRC fel clwb chwaraeon amatur cymunedol ac wedi’i sefydlu at ddibenion elusennol yn cael ei drin fel un sydd heb ei sefydlu at ddibenion elusennol ac felly ni all fod yn elusen. Mae hyn yn golygu y gall sefydliad sy’n hyrwyddo chwaraeon amatur gael ei gofrestru fel elusen, neu gael ei gofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol. ond ni all gael ei gofrestru fel y ddau.

10. Hyrwyddo hawliau dynol, datrys gwrthdaro neu gymodi neu hybu cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae canllawiau ar y ffyrdd amrywiol y gall elusen hyrwyddo hawliau dynol i’w gweld yng nghanllaw’r comisiwn Hyrwyddo Hawliau Dynol (RR12). Mae’r canllaw hwnnw yn egluro i ba raddau y gall elusennau hyrwyddo hawliau dynol mewn gwledydd y mae ei chyfraith gwlad yn darparu ychydig neu ddim diogelwch ar gyfer hawliau o’r fath.

Mae hyrwyddo datrys gwrthdaro neu gymodi yn cynnwys datrys gwrthdaro rhyngwladol a lleddfu’r dioddefaint, tlodi a gofid sy’n codi trwy wrthdaro ar raddfa genedlaethol neu ryngwladol drwy adnabod beth sy’n achosi’r gwrthdaro a cheisio datrys gwrthdaro o’r fath. Mae’n cynnwys hyrwyddo cyfiawnder adferol, lle mae’r holl bartïon sydd â rhan mewn gwrthdaro neu drosedd arbennig, yn dod at ei gilydd i benderfynu sut i ddelio â’r canlyniadau a’r goblygiadau ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys dibenion wedi’u cyfeirio at gyfryngu neu gymodi rhwng pobl, sefydliadau, awdurdodau neu grwpiau sy’n ymwneud neu’n debygol o ymwneud ag anghydfod neu wrthdaro rhyngbersonol.

Mae hyrwyddo cytgord crefyddol neu hiliol neu gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cynnwys amrywiaeth o weithgarwch elusennol wedi’i gyfeirio tuag at hyrwyddo cytgord a lleihau’r gwrthdaro rhwng pobl o wahanol hil neu grefydd neu systemau cred a dileu gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth mewn cymdeithas.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • elusennau sy’n ymwneud â hyrwyddo hawliau dynol, yn y wlad hon neu dramor, fel helpu’r rhai sy’n dioddef cam-drin hawliau dynol, codi ymwybyddiaeth o faterion hawliau dynol, sicrhau gorfodi’r gyfraith hawliau dynol
  • elusennau sy’n ymwneud â hyrwyddo cyfiawnder adferol a mathau eraill o ddatrys gwrthdaro neu gymodi
  • elusennau sy’n ymwneud â datrys gwrthdaro cenedlaethol neu ryngwladol
  • elusennau cyfryngu
  • elusennau sy’n hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol
  • elusennau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ddileu gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol
  • elusennau sy’n galluogi pobl o un ffydd i ddeall credoau crefyddol pobl eraill

Gweler hefyd penderfyniad y comisiwn ar Concordis International Trust a Restorative Justice Consortium Limited.

11. Hyrwyddo diogelu neu wella’r amgylchedd

Mae hyrwyddo diogelu a gwella’r amgylchedd yn cynnwys gwarchod a chadwraeth yr amgylchedd naturiol a hyrwyddo datblygiad cynaliadwy. Mae cadwraeth yr amgylchedd yn cynnwys cadwraeth anifail, aderyn neu rywogaeth arbennig neu ‘fywyd gwyllt’ yn gyffredinol; rhywogaeth benodol o blanhigyn, cynefin neu ardal o dir, gan gynnwys ardaloedd o harddwch naturiol a diddordeb gwyddonol; fflora, ffawna a’r amgylchedd yn gyffredinol. Efallai y bydd rhaid i elusennau sy’n ymwneud â gwarchod neu wella’r amgylchedd gynhyrchu tystiolaeth arbenigol annibynnol sy’n awdurdodol ac yn wrthrychol i ddangos bod y rhywogaeth, tir neu gynefin dan sylw yn haeddu gael ei warchod. Mae canllawiau pellach ar hyn i’w gweld yng nghanllaw’r comisiwn Gwarchod a Chadwraeth (RR9).

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • elusennau sy’n ymwneud â chadwraeth fflora, ffawna neu’r amgylchedd yn gyffredinol
  • elusennau sy’n ymwneud â chadwraeth ardal ddaearyddol arbennig
  • elusennau sy’n ymwneud â chadwraeth rhywogaeth arbennig
  • sŵau
  • hybu datblygiad cynaliadwy a bioamrywiaeth
  • hyrwyddo ailgylchu a rheoli gwastraff cynaliadwy
  • prosiectau ymchwil i ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy

Gweler hefyd penderfyniadau’r comisiwn ar Cylch, Environment Foundation, Recycling in Ottery a The Wolf Trust.

12. Helpu’r rhai sydd mewn angen, ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall

Mae amrywiaeth o ddibenion elusennol sydd wedi’u cyfeirio tuag at helpu’r rhai sydd mewn angen, ar sail ieuenctid, oedran, salwch, anabledd, caledi ariannol neu anfantais arall. Mae hyn yn cynnwys lleddfu drwy ddarparu llety a gofal i bobl o’r fath.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • elusennau sy’n ymwneud â gofal, magu neu sefydlu bywyd plant neu bobl ifanc, e.e. cartrefi gofal plant, prentisiaethau ac ati.
  • elusennau sy’n ymwneud â lleddfu effeithiau henaint, megis y rhai sy’n darparu cyngor arbenigol, offer neu lety, canolfannau galw heibio ac ati
  • elusennau sy’n ymwneud â lleddfu anabledd, fel y rhai sy’n darparu cyngor arbenigol, offer neu lety neu sy’n darparu mynediad i bobl anabl, ac ati
  • elusennau sy’n ymwneud â darparu tai, fel elusendai, cymdeithasau tai a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig

13. Hyrwyddo lles anifeiliaid

Mae hyrwyddo lles anifeiliaid yn cynnwys unrhyw ddiben wedi’i gyfeirio tuag at atal neu roi’r gorau i greulondeb i anifeiliaid neu atal neu leddfu dioddefaint anifeiliaid.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • elusennau sy’n hyrwyddo caredigrwydd ac atal neu roi’r gorau i greulondeb i anifeiliaid
  • llochesi anifeiliaid
  • darparu gofal a thriniaeth filfeddygol
  • elusennau sy’n ymwneud â gofal ac ailgartrefu anifeiliaid sydd wedi’u gadael, eu cam-drin neu sydd ar goll
  • rheoli anifeiliaid gwyllt, e.e. ysbaddu

14. Hybu effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron, neu effeithlonrwydd yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub neu’r gwasanaethau ambiwlans

Mae’r lluoedd arfog yn bodoli er mwyn amddiffyn a diogelu’r cyhoedd. Mae’n elusennol i hyrwyddo effeithlonrwydd lluoedd arfog y Goron fel dull o amddiffyn y wlad. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod y lluoedd hynny wedi’u hyfforddi’n briodol a bod ganddynt yr offer priodol yn ystod gwrthdaro. Mae hefyd yn cynnwys darparu cyfleusterau a buddion i’r lluoedd arfog. Yn yr un modd mae hefyd yn elusennol i hyrwyddo effeithlonrwydd yr heddlu, gwasanaethau tân, achub neu ambiwlans oherwydd maent yn bodoli er mwyn atal a darganfod trosedd, cadw trefn gyhoeddus a diogelu’r cyhoedd. (‘Gwasanaethau tân ac achub’ yw’r gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdodau tân ac achub o dan Ran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (C.21)).

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • cynyddu gwybodaeth dechnegol aelodau’r gwasanaethau trwy ddarparu adnoddau addysgol, cystadlaethau a gwobrau
  • cynyddu ffitrwydd corfforol aelodau’r gwasanaethau trwy ddarparu cyfleusterau, offer a chystadlaethau chwaraeon
  • darparu cyfleoedd i bersonél y gwasanaethau gael profiad ychwanegol sy’n berthnasol i’w swyddi (e.e. clybiau awyrennau ar gyfer personél RAF)
  • cefnogi ystafelloedd bwyta (Swyddogion Heb Gomisiwn a Swyddogion) a sefydliadau (rhengoedd eraill) gan gynnwys darparu eiddo (eitemau fel platiau ac ati)
  • darparu a chynnal offerynnau ac offer bandiau
  • hyrwyddo a chryfhau’r bondiau rhwng unedau cynghreiriol
  • darparu cofebion i gofio’r rhai sydd wedi marw neu fuddugoliaethau
  • cynnal capeli (e.e. capeli catrodol mewn eglwysi cadeiriol) neu eglwysi
  • ymchwilio i hanes milwrol catrawd neu uned arall, a chyhoeddi llyfrau amdano
  • cynnal amgueddfa neu gasgliad arall ar gyfer gwarchod arteffactau sy’n gysylltiedig ag uned neu wasanaeth milwrol a chefnogi amgueddfeydd milwrol a gwasanaeth yn gyffredinol
  • annog esprit de corps (teyrngarwch aelod i’r uned y mae ef neu hi yn perthyn iddi a chydnabod anrhydedd yr uned)
  • darparu cymdeithasau sy’n cefnogi uned a galluogi aelodau sy’n gwasanaethu a chyn aelodau i gymysgu â’i gilydd
  • darparu cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant milwrol (e.e. neuaddau ymarfer)
  • annog recriwtio i’r gwasanaethau (e.e. trwy arddangosfeydd, arddangosfeydd awyr ac ati)
  • darparu gwasanaeth brys achub awyr neu ar y môr ac offer

15. Unrhyw ddibenion elusennol eraill

Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddiben elusennol heb ei gwmpasu gan y disgrifiadau eraill o ddibenion ac unrhyw ddibenion elusennol newydd a allai gael eu cydnabod yn y dyfodol fel rhai sy’n debyg i ddiben elusennol arall.

Mae enghreifftiau o’r mathau o elusennau a dibenion elusennol sydd wedi’u cynnwys o fewn y disgrifiad hwn yn cynnwys:

  • darparu cyfleusterau ar gyfer adloniant a galwedigaeth amser hamdden arall er budd lles cymdeithasol gyda’r nod o wella amodau bywyd y sawl y maent wedi’u bwriadu ar ei gyfer. Mae canllawiau pellach ar hyn i’w gweld yng nghanllaw’r comisiwn Y Ddeddf Elusennau Adloniadol 1958 (RR4). (DS mae cyfleusterau sydd ar gael i’r cyhoedd cyfan neu i fenywod yn unig yn cael eu hystyried yn elusennol ar hyn o bryd o dan Ddeddf 1958. Mae’r Ddeddf Elusennau yn diwygio Deddf 1958 felly dylai’r cyfleusterau sydd ar gael i ddynion yn unig hefyd gael eu hystyried yn elusennol ar yr un sail. Mae’r Ddeddf Elusennau hefyd yn diddymu adran 2 o Ddeddf 1958, a oedd yn cadarnhau statws elusennol sefydliadau lles glowyr. Mae hyn yn golygu bod rhaid i elusennau lles glowyr yr oedd eu statws elusennol wedi cael ei gadarnhau gan Ddeddf 1958 ehangu eu hamcanion i wneud eu cyfleusterau ar gael i drigolion eraill y gymuned leol (ond yn dal i gynnwys glowyr) er mwyn parhau i fod yn elusennol)
  • darparu gweithfeydd a gwasanaethau cyhoeddus a darparu amwynderau cyhoeddus (fel atgyweirio pontydd, porthladdoedd, hafanau, sarnau a phriffyrdd, darparu dŵr a goleuni, mynwent neu’r amlosgfa, yn ogystal â darparu cyfleusterau cyhoeddus fel llyfrgelloedd, ystafelloedd darllen a thoiledau cyhoeddus)
  • amddiffyn y wlad (fel ymddiriedolaethau ar gyfer amddiffyn cenedlaethol neu leol)
  • hyrwyddo rhai dibenion gwladgarol, fel cofebion rhyfel
  • lleddfu cymdeithasol, ailgartrefu ac adsefydlu pobl sydd ag anabledd neu amddifadedd (gan gynnwys cronfeydd trychineb)
  • hyrwyddo diwydiant a masnach
  • hyrwyddo amaethyddiaeth a garddwriaeth
  • rhoddion er budd ardal leol arbennig (fel ymddiriedolaethau ar gyfer budd cyffredinol trigolion lle arbennig); harddu tref; cymdeithasau dinesig
  • hyrwyddo gwelliant meddyliol neu foesol
  • hyrwyddo lles moesol neu ysbrydol neu welliant y gymuned
  • cadw trefn gyhoeddus
  • hyrwyddo gweinyddiaeth gadarn y gyfraith
  • hyrwyddo safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfio â’r gyfraith yn y sector cyhoeddus a phreifat
  • adsefydlu cyn-droseddwyr ac atal troseddau

Mae dibenion elusennol wedi cael eu hestyn a’u datblygu gan benderfyniadau’r llysoedd a’r comisiwn dros y blynyddoedd trwy gymharu â dibenion y barnwyd eu bod yn rhai elusennol yn wreiddiol. Mae’r datblygiad hwn yn y gyfraith yn adlewyrchu newidiadau mewn amgylchiadau cymdeithasol. Mae’r broses yn parhau heddiw. Mae canllawiau pellach ar hyn i’w gweld yng nghanllaw’r comisiwn Cydnabod dibenion elusennol newydd (RR1a).

Gweler hefyd penderfyniadau’r comisiwn ar Community Server, Internet Content Rating Association a Living in Radiance.