Ffurflen

Sut i newid enw plentyn trwy weithred newid enw

Diweddarwyd 1 May 2024

1. Cyn i chi ddechrau

Defnyddiwch y cyfarwyddyd hwn i’ch helpu i lenwi’r ffurflenni sydd eu hangen arnoch i gofrestru enw newydd plentyn yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Gelwir hyn yn ‘newid enw plentyn trwy weithred newid enw’. Gallwch wneud hyn dim ond os mai chi yw rhiant y plentyn neu os oes gennych gyfrifoldeb rhiant drosto/drosti.

Cyn i chi ddarllen y cyfarwyddyd hwn, dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid enw plentyn trwy weithred newid enw.

Os ydych chi dros 18 oed ac eisiau cofrestru i newid enw eich hun, rhaid i chi ddefnyddio’r cyfarwyddyd a’r ffurflenni ar gyfer newid eich enw trwy weithred newid enw. Ni allwch gofrestru i newid enw eich hun os ydych o dan 18 oed.

Os cafodd y plentyn ei eni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer newid enw plentyn yn yr Alban.

2. Beth fydd ei angen arnoch i newid enw plentyn trwy weithred newid enw

Mae’n rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni canlynol atom:

Rhaid i chi gynnwys copi o dystysgrif geni’r plentyn gyda’r ffurflenni fel tystiolaeth o’i ddinasyddiaeth Brydeinig neu’r Gymanwlad.

Os yw’r plentyn wedi cael ei fabwysiadu, rhaid i chi hefyd anfon atom gopïau o’u dogfennau mabwysiadu. Efallai y bydd angen i chi gynnwys dogfennau eraill, a elwir yn ‘arddangosion’, yn dibynnu ar eich statws priodasol neu statws eich perthynas.

3. Y ffi ar gyfer newid enw plentyn trwy weithred newid enw

Cyfanswm y ffi ar gyfer newid enw plentyn trwy weithred newid enw yw £48.32. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffi cofrestru’r llys – £11
  • tâl hysbysebu – £29.52
  • copi o The Gazette gyda’ch enw newydd – £8.80

Gallwch dalu’r ffi drwy:

  • siec
  • archeb bost
  • drafft banc
  • cerdyn credyd neu ddebyd

Dylech wneud eich siec, archeb bost neu ddrafft banc yn daladwy i ‘GLlTEF’. Dylech ei gynnwys pan fyddwch yn anfon y ffurflenni neu’n eu cyflwyno’n bersonol yn y Llysoedd Barn Brenhinol.

Dim ond yn bersonol neu drwy ffonio 020 3936 8957 (opsiwn 1) y gallwch dalu’r ffi gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

4. Ffurflen gweithred newid enw ar gyfer plentyn dan oed (LOC022)

Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen gweithred newid enw gyda holl fanylion enw newydd y plentyn a’i hen enw.

Os oes gennych bartner sy’n cyd-rianta’r plentyn, rhaid i’r ddau ohonoch lofnodi’r ffurflen.

Cenedligrwydd ac adrannau Deddf Cenedligrwydd Prydeinig

I newid eich enw trwy weithred newid enw, rhaid i chi fod yn:

  • Ddinesydd Prydeinig
  • Dinesydd tiriogaethau dibynnol Prydain
  • Dinesydd y Gymanwlad

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu o dan adran berthnasol Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 eu bod y math o ddinesydd rydych chi’n ei ddewis.

Adran 1 (1)

Os ydynt yn ddinesydd Prydeinig.

Adran 37 (1)

Os cawsant eu geni mewn tiriogaeth ddibynnol Brydeinig neu wlad o’r Gymanwlad.

Tystion

Mae’n rhaid i chi gael 2 dyst yn bresennol pan fyddwch chi’n llofnodi’r ffurflen gweithred newid enw. Rhaid iddyn nhw hefyd lofnodi’r ffurflen.

Gall eich datganydd, cyfreithiwr neu gomisiynydd llw hefyd fod yn dyst.

5. Affidafid er budd gorau (LOC023)

Rhaid i chi gynnwys ‘affidafid er budd gorau’ gyda’r cais. Mae angen i chi ddangos i’r llys bod newid enw’r plentyn er eu budd gorau. Nid oes fformat penodol ar gyfer y ddogfen hon, ond gallwch ddod o hyd i ffurflen a awgrymir (LOC023) ochr yn ochr â’r cyfarwyddyd hwn.

Fel y rhiant, neu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant, mae’n rhaid i chi gwblhau’r affidafid a thyngu ei fod yn wir ym mhresenoldeb unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i dystio llofnodi dogfennau cyfreithiol pwysig. Gall hyn fod yr un unigolyn sy’n awdurdodi’r broses o dyngu i wirionedd y datganiad statudol.

Cyfeirir pob cais i newid enw plentyn at yr uwch feistr am ganiatâd i gofrestru.

Arddangosion i’r affidafid er budd gorau

Mae ‘arddangosyn’ yn ddogfen a ddefnyddir yn y llys fel tystiolaeth. Mae’r llys angen arddangosion fel tystiolaeth o bwy mae’ch cais yn dweud yr ydych chi a’r plentyn.

Yn dibynnu ar eich statws perthynas, rhaid i chi gynnwys rhai arddangosion penodol gyda’ch affidafid er budd gorau:

  • os ydych yn weddw – dylech gynnwys dystysgrif marwolaeth eich partner
  • os ydych wedi ysgaru – dylech gynnwys y gorchymyn terfynol o ysgariad neu ddiddymiad neu gydsyniad eich cyn-bartner
  • os ydych yn dymuno priodi partner arall – dylech gynnwys cydsyniad eich partner newydd a chydsyniad eich cyn-bartner

Gall y rhai sy’n rhoi caniatâd wneud hynny drwy ysgrifennu llythyr - dylai ddweud nad oes ganddyn nhw unrhyw wrthwynebiadau i chi newid enw presennol y plentyn i’w enw newydd.

Os na allwch gael caniatâd eich cyn-bartner, rhaid i chi roi rheswm dros yr affidafid.

6. Datganiad statudol gweithred newid enw ar gyfer plentyn dan oed (LOC024)

Mae datganiad statudol yn ddogfen y mae’n rhaid i unigolyn sy’n eich adnabod chi a’r plentyn ei llenwi. Rhaid iddynt lofnodi i gadarnhau a datgan mai chi yw’r sawl a enwir yn y cais. Cyfeirir atynt yn y datganiad fel y ‘datganydd’.

Mae’n rhaid i’r datganydd:

Os nad yw eich datganydd yn ddeiliad tŷ, rhaid i chi ddweud wrthym. Yna bydd y barnwr yn penderfynu a ellir derbyn eu datganiad.

Dylech hefyd nodi pa mor hir y mae’r datganydd wedi adnabod y plentyn.

Ni all y datganydd fod yn:

  • ŵr neu’n wraig
  • partner sifil
  • unrhyw berthynas arall (trwy enedigaeth neu briodas) i chi

Os nad ydych wedi adnabod unrhyw un ers 10 mlynedd neu fwy, rhaid i chi gynnwys datganiad ysgrifenedig sy’n esbonio’r rhesymau dros hynny. Bydd hyn yn cael ei gyfeirio at uwch farnwr yn y Llysoedd Barn Brenhinol, a fydd yn penderfynu a ellir cofrestru eich gweithred newid enw.

Tyngu i wirionedd y datganiad statudol

Unwaith y bydd y datganydd wedi llenwi a llofnodi’r datganiad statudol, rhaid iddynt dyngu ei fod yn wir ym mhresenoldeb unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i fod yn dyst i ddogfennau cyfreithiol pwysig yn cael eu llofnodi. Gallai hyn fod yn:

  • gyfreithiwr
  • comisiynydd llwon
  • swyddog o’r uwch lysoedd

Pan fydd y datganydd yn tyngu bod y datganiad yn wir, rhaid iddynt wneud hynny naill ai trwy dyngu llw ar lyfr sanctaidd neu drwy roi cadarnhad, a dyna lle darllenir y datganiad o wirionedd.

Rhaid i’r tyst awdurdodedig lofnodi’r datganiad statudol hefyd.

Codir ffi arnoch pan fydd y datganydd yn tyngu llw neu’n cadarnhau. Os gwneir y llw neu’r cadarnhad yn y llys, y ffi yw £14. Gall y ffi fod yn wahanol os yw’r llw neu’r cadarnhad yn cael ei wneud ym mhresenoldeb cyfreithiwr neu gomisiynydd llwon.

Arddangosion i’r datganiad statudol

Mae ‘arddangosyn’ yn ddogfen a ddefnyddir yn y llys fel tystiolaeth. Mae’r llys angen arddangosion fel prawf o bwy mae’ch cais yn dweud yr ydych chi.

Yn y datganiad statudol, cyfeirir at yr arddangosion ar ffurf llythrennau:

  • Arddangosyn A – ffurflen y weithred newid enw (LOC022)
  • Arddangosyn B – copi o dystysgrif geni’r plentyn fel tystiolaeth o’i ddinasyddiaeth Brydeinig neu Gymanwlad

Bydd angen i’r arddangosion gynnwys dalenni blaen wedi’u llofnodi gyda’r llythyren arddangosyn perthnasol a rhaid i’r arddangosion gael eu llofnodi gan yr un tyst awdurdodedig a welodd y datganydd yn tyngu llw neu’n cadarnhau.

Bydd y sawl sy’n gweinyddu’r datganiad statudol yn darparu dalenni’r arddangosion.

Mae’n ofynnol i’r taflenni arddangos gynnwys y geiriad canlynol:

“Dyma’r arddangosyn a farciwyd ‘A’/B’/’C’ y cyfeirir ato yn natganiad [nodwch enw’r datganydd statudol (yr unigolyn sydd wedi eich adnabod am 10 mlynedd neu fwy)] a ddatganwyd gerbron [rhowch enw’r tyst awdurdodedig] ar [diwrnod] o [mis] yn y flwyddyn [blwyddyn].”

7. Hysbysiad The Gazette ar gyfer plentyn dan oed (LOC026)

The Gazette yw cyhoeddwr swyddogol newidiadau enw yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Rhaid i chi gwblhau hysbysiad ar gyfer The Gazette eich hun wrth gofrestru gweithred newid enw.

Os ydych yn credu y bydd cyhoeddi eich manylion chi a’r plentyn yn The Gazette yn eich rhoi chi ac ef/hi mewn perygl, dylech ysgrifennu a llofnodi datganiad gydag unrhyw dystiolaeth ategol a’i gynnwys gyda’ch ffurflenni. Mae’n rhaid i chi dal dalu’r ffi am yr hysbyseb a’r copi o’r Gazette. Yna bydd y llys yn penderfynu a fydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi yn The Gazette ai peidio. Os byddant yn cytuno, byddwch yn cael ad-daliad o’r ffi am yr hysbyseb a’r copi.

Os oes gennych ymholiad ynghylch sut a phryd y bydd eich hysbysiad yn cael ei gyhoeddi, gallwch gysylltu â The Gazette yn uniongyrchol.

8. Ble i anfon eich ffurflenni gweithred newid enw

Anfonwch neu ewch â’ch ffurflenni a’ch dogfennau i Adran Mainc y Brenin.

Adran Mainc y Brenin
Adran Gorfodi
Ystafell E15
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

9. Beth fydd yn digwydd nesaf

Byddwn yn gwirio’ch ffurflenni ac unrhyw ddogfennau ategol i sicrhau eich bod wedi eu llenwi a’u cyflwyno’n gywir. Bydd yn rhaid i ni ddychwelyd eich ffurflenni os oes unrhyw beth yn anghywir.

Byddwn wedyn yn selio’r weithred newid enw wreiddiol ac yn dyrannu rhif iddo. Bydd hyn yn cael ei arddangos mewn sêl gron ar y weithred.

Byddwn yn anfon yr hysbysiad drafft ymlaen i’r Gazette, a fydd wedyn yn ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd. Byddwch yn cael copi o’r hysbysiad cyhoeddedig.

Byddwn yn anfon y weithred wreiddiol wedi’i selio atoch fel tystiolaeth bod y plentyn wedi newid ei enw/henw.

Yna efallai y bydd angen i chi ddweud wrth ysgol neu fanc y plentyn (os oes ganddynt gyfrif) neu unrhyw sefydliad arall eu bod wedi newid eu henw a darparu’r dystiolaeth y maent yn gofyn amdani.

10. Cael help gyda gweithred newid enw

Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid enw’r plentyn, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.

Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

Ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 10am tan 4pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost: kbdeedspoll@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwyno’r ffurflenni trwy e-bost.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred bresennol sy’n 5 oed neu lai.

Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 mlynedd, cysylltwch â’r Archifau Cenedlaethol.