Ffurflen

Rhestr wirio: ceisiadau ar gyfer tir cofrestredig

Diweddarwyd 1 February 2024

Applies to England and Wales

Dylech gwblhau neu ystyried pob un o’r pwyntiau canlynol (lle bo’n berthnasol i’ch cais) ac amgáu neu atodi’r holl wybodaeth berthnasol cyn anfon eich cais atom.

Gwnewch yn siwr eich bod wedi:

  1. Ystyried unrhyw dreth dir y doll stamp sy’n daladwy a, lle y bo’n briodol, amgáu tystiolaeth o gydymffurfio (megis SDLT 5).

  2. Asesu’r ffi yn gywir.

  3. Cynnwys manylion i awdurdodi taliad trwy ddebyd uniongyrchol neu fel arall, amgáu siec yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’.

  4. Rhoi cyfrif am unrhyw lyffethair, er enghraifft cyfyngiadau ac arwystlon, ac amgáu tystiolaeth o gydymffurfio neu ollwng lle bo’n briodol – gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion: cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr a chyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol.

  5. Lle bo modd, defnyddio ffurflen RXC i ddarparu cydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio dderbyniol.

  6. Croeswirio’r holl enwau rhwng gweithredoedd a ffurflenni cais i sicrhau eu bod yn cyfateb â’r gofrestr, neu ddarparu tystiolaeth gefnogol i gyfrif am unrhyw anghysondeb, er enghraifft tystysgrif priodas/marwolaeth, profiant, atwrneiaeth, ac ati.

  7. Nodi enwau llawn a chywir y partïon ar bob dogfen a gyflwynwyd, gan gynnwys y ffurflen gais.

  8. Cadarnhau, os yw’n gais i gofrestru cydberchnogion, a fyddant yn dal y teitl fel cyd-denantiaid llesiannol neu denantiaid cydradd.

  9. Rhoi rhif cofrestredig y cwmni a thystiolaeth o’i gyfansoddiad lle bo’n briodol.

  10. Ystyried y gofynion ychwanegol ar gyfer cwmni/endid tramor a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor. Rhoi tystiolaeth o dderbynyddiaeth neu ymddatod os yw’n ofynnol.

  11. Sicrhau bod cyfeiriadau’r eiddo ar y ffurflenni a’r gweithredoedd yn cyfateb â’r wybodaeth ar y gofrestr.

  12. Darparu’r holl gyfeiriadau ar gyfer gohebu sy’n ofynnol.

  13. Gwirio bod pob panel ac eithrio’r cyflawni yn union yr un fath os yw’r trosglwyddiad mewn dwy ran.

  14. Sicrhau bod yr holl weithredoedd wedi cael eu dyddio, eu cyflawni a’u tystio’n gywir – gweler cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd.

  15. Cwblhau holl baneli perthnasol y ffurflen gais gywir.

  16. Rhestru pob parti ym mhanel 13 o ffurflen AP1, gan gynnwys unrhyw atwrnai, ac amgáu unrhyw ffurflenni hunaniaeth (ID1, ID2 neu ID3) a all fod yn ofynnol – gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

  17. Llofnodi a dyddio’r ffurflen gais (lle bo’n gymwys os ydych yn cyflwyno ffurflenni cais ar bapur).

  18. Sicrhau bod holl dudalennau unrhyw ddogfennau a anfonir yn gyflawn, bod y delweddau yn glir ac mewn lliw lle bo’n briodol.

  19. Sicrhau bod unrhyw gynlluniau y cyfeirir atynt yn y gweithredoedd wedi eu hatodi a bod unrhyw gyfeiriadau ar y cynlluniau y cyfeirir atynt yn y gweithredoedd, er enghraifft lliwio, i’w gweld ar y cynlluniau.