Canllawiau

Canllawiau: profion TB buchol cyn symud ac ar ôl symud

Diweddarwyd 1 February 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Drwy gydol y canllawiau hyn, mae’r term ‘gwartheg’ yn cynnwys byfflo dŵr Asiaidd a buail fferm.

Drwy symud gwartheg o ardaloedd â chyfraddau uchel o TB yng Nghymru neu Loegr, mae perygl y caiff TB ei gyflwyno i ardaloedd â chyfraddau is o TB. Mae’r Alban yn rhydd o TB yn swyddogol felly mae’n bwysig peidio â chaniatáu i TB ledaenu dros y ffin.

Mae gan Gymru, Lloegr a’r Alban reolau gwahanol ynglŷn â phrofion. Os ydych yn symud gwartheg rhwng rhannau gwahanol o Brydain Fawr, mae angen i chi wybod y gofynion profi TB sy’n gymwys i’r wlad a’r ardal.

Gall fod angen i’ch gwartheg gael profion TB cyn iddynt gael eu symud ac ar ôl iddynt gael eu symud. Mae hyn yn lleihau’r risg y bydd TB buchol nas canfuwyd yn cael ei ledaenu.

Rhaid i chi beidio ag archebu prawf TB o fewn 60 diwrnod i gwblhau’r prawf TB blaenorol gan nad yw hwn yn brawf dilys.

Trefnu profion cyn symud ac ar ôl symud

Cyn ac ar ôl i chi symud gwartheg, gall fod angen i chi drefnu profion croen cyn symud ac ar ôl symud a thalu amdanynt. Bydd angen gwneud hyn oni bai bod prawf gwyliadwraeth neu brawf buches rheolaidd wedi’i drefnu neu wedi’i gwblhau yn ddiweddar.

Cadarnhewch eich cyfnodau profi TB buchol. Pennir y rhan fwyaf o gyfnodau profi buchesi unigol yn ôl cyfnod profi eu hardal ond gall rhai ohonynt fod yn wahanol. Os yw cyfnod profi TB eich buches yn newid, bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn anfon datganiad atoch ynghylch y cyfnod profi TB.

Os nad yw prawf gwyliadwraeth neu brawf buches rheolaidd wedi’i drefnu neu ei gwblhau yn ddiweddar, rhaid i chi drefnu prawf â’ch milfeddyg preifat. Rhaid i’r milfeddyg fod yn Filfeddyg Swyddogol sydd wedi’i gofrestru â phanel profi gwartheg APHA. Rhaid bod eich milfeddyg wedi’i awdurdodi i gynnal profion TB.

Yng Nghymru a Lloegr, gall Profwr Twbercwlin Cymeradwy brofi gwartheg, ond ni allwch ddefnyddio’r prawf hwn ar gyfer eu hallforio y tu allan i Brydain Fawr.

Mae cost prawf TB yn drafodyn preifat rhyngoch chi a’ch milfeddyg swyddogol neu brofwr twbercwlin cymeradwy. Rhowch wybod i’ch milfeddyg swyddogol neu brofwr twbercwlin cymeradwy cyn gynted ag y bydd angen i’r gwartheg gael eu profi. Bydd hyn yn ei helpu i drefnu’r prawf er mwyn i chi allu symud eich gwartheg pan fyddwch yn dymuno gwneud hynny.

Bydd y milfeddyg swyddogol neu brofwr twbercwlin cymeradwy yn chwistrellu twbercwlin i mewn i’r croen ar wddf y gwartheg. Ar ôl 3 diwrnod, bydd yn cwblhau’r broses drwy wirio a yw’r gwartheg wedi cael adweithiau i’r prawf.

Rheolau ynglŷn â phrofion cyn symud

Mae profion cyn symud yng Nghymru a Lloegr yn ddilys am 60 diwrnod o ddyddiad y pigiad, sef diwrnod sero o’r cyfnod 60 diwrnod.

Rhaid bod yr holl wartheg o fuchesi yng Nghymru a Lloegr wedi cael canlyniad negatif i brawf TB o fewn 60 diwrnod cyn iddynt gael eu symud, oni fyddant yn bodloni’r canlynol:

  • maent o dan 42 diwrnod oed
  • maent yn dod o fuches a brofir yn llai aml na bob blwyddyn (Lloegr)
  • mae’r anifail, y fuches neu’r math o symudiad wedi’i (h)eithrio

Os ydych yn geidwad gwartheg yng Nghymru neu Loegr, rhaid i chi sicrhau bod gwartheg wedi cael canlyniad negatif i brawf TB o fewn 30 diwrnod cyn iddynt gael eu symud i’r Alban. Rhaid peidio â chynnal y prawf tra bydd y fuches o dan gyfyngiadau TB cyn i statws rhydd o TB swyddogol y fuches gael ei adfer.

Mae’r gofynion hyn yn gymwys hyn oni bai bod y gwartheg:

  • o dan 42 diwrnod oed
  • wedi byw gydol eu bywyd mewn ardal risg isel yn Lloegr – bydd angen profi gwartheg o fuchesi mewn ardaloedd risg isel a brofir yn flynyddol neu’n fwy aml o hyd
  • yn cael eu hanfon yn syth i’w lladd
  • yn symud i sioe neu arddangosfa am lai na 24 awr cyn dychwelyd i’w safle gwreiddiol

Rhaid i geidwaid gwartheg ddilyn rheolau eu gwlad ar gyfer profion cyn symud pan fyddant yn symud gwartheg i wledydd eraill ym Mhrydain Fawr. Rhaid i’r ceidwad sy’n derbyn hefyd sicrhau bod y gwartheg yn cydymffurfio â gofynion profi’r wlad sy’n derbyn.

Er nad yw’n ofynnol i brofi gwartheg cyn iddynt gael eu symud o’r Alban i Gymru neu Loegr ar hyn o bryd, gall fod adegau lle y bydd y sawl sy’n derbyn y gwartheg yng Nghymru a Lloegr yn gofyn i’r gwartheg gael prawf cyn eu bod yn cael eu symud o’r Alban.

Yng Nghymru, gallwch ddefnyddio labeli cod bar ar basbortau gwartheg i ddangos y dyddiad y cafodd eich gwartheg brawf TB negatif diwethaf.

Os bydd prawf cyn symud yn bositif a’i fod yn canfod un neu fwy o adweithyddion, bydd cyfyngiadau symud yn gymwys i’ch buches gyfan. Bydd eich buches yn ddarostyngedig i’r rheolaethau sy’n gymwys i fuches sydd wedi’i heintio.

Yng Nghymru, os bydd prawf cyn symud yn canfod un neu fwy o adweithyddion amhendant, bydd cyfyngiadau symud yn gymwys i’ch buches gyfan. Yn Lloegr a’r Alban, bydd cyfyngiadau symud yn gymwys i’r adweithyddion amhendant neu’r fuches gyfan yn dibynnu ar hanes TB y fuches.

Rheolau ynglŷn â phrofion ar ôl symud

Yn Lloegr, rhaid i chi drefnu profion ar ôl symud ar gyfer gwartheg a gaiff eu symud i fuchesi yn yr ardal risg isel o’r mannau canlynol:

  • yr ardal risg uchel a’r ardal ymylol yn Lloegr
  • Cymru

Rhaid i chi hefyd wneud prawf ar ôl symud ar wartheg a symudodd i’r rhannau o’r ardal ymylol sy’n cynnal profion gwyliadwriaeth blynyddol o’r mannau canlynol:

  • yr ardal risg uchel a’r rhannau o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cael profion gwyliadwriaeth bob chwe mis (gan gynnwys unrhyw fuchesi sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol o’r ardaloedd hyn)
  • Cymru

Yng Nghymru, rhaid i chi drefnu profion ar ôl symud ar gyfer gwartheg a gaiff eu symud i fuchesi yn yr ardal TB isel o’r mannau canlynol:

  • yr ardaloedd TB uchel a chanolradd yng Nghymru
  • yr ardal risg uchel a’r ardal ymylol yn Lloegr
  • Gogledd Iwerddon

Rhaid i chi hefyd wneud prawf ar ôl symud ar wartheg a symudodd ar neu ar ôl 1 Chwefror 2024 i’r ardaloedd TB canolradd o’r mannau canlynol:

  • yr ardaloedd TB uchel yng Nghymru
  • yr ardal risg uchel yn Lloegr (gan gynnwys unrhyw fuchesi sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol o’r ardaloedd hyn)
  • Gogledd Iwerddon

Yn yr Alban, rhaid i chi drefnu profion ar ôl symud ar gyfer gwartheg a gaiff eu symud o’r mannau canlynol:

  • yr ardal risg uchel a’r ardal ymylol yn Lloegr
  • Cymru
  • Gogledd Iwerddon

Rhaid i chi gynnal profion ar ôl symud ar wartheg rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd eich safle.

Mae eithriadau i gynnal profion ar ôl symud ar wartheg yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Rhaid i chi beidio â symud gwartheg sydd angen prawf ar ôl symud o’ch safle nes eu bod wedi cael canlyniad prawf negatif, oni bai eu bod:

  • yn mynd yn syth i gael eu lladd (o fewn 120 diwrnod iddynt gael eu symud i’ch safle)
  • yn mynd i grynhoad lladd (canolfan gasglu neu farchnad lladd) (Cymru a Lloegr)
  • yn mynd i uned besgi gymeradwy (Cymru a Lloegr)
  • yn mynd i uned besgi drwyddedig (Lloegr yn unig)
  • yn mynd i uned besgi eithriedig (Lloegr yn unig)
  • yn symud o uned gwarantîn ardystiedig o dan drwydded gyffredinol i sioe amaethyddol nad yw wedi’i heithrio (Cymru yn unig)
  • o dan drwydded a roddwyd gan arolygydd APHA

Rhaid i chi gynnal prawf ar ôl symud ar wartheg yn gyntaf os byddant yn cael eu lladd fwy na 120 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd:

  • yr ardal risg isel yn Lloegr
  • y rhannau o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cynnal profion gwyliadwriaeth blynyddol
  • ardaloedd TB canolradd yng Nghymru
  • yr ardal TB isel yng Nghymru
  • Yr Alban

Pryd y gallwch ddefnyddio canlyniadau prawf a ariennir gan y llywodraeth i symud gwartheg

Gall profion gwyliadwraeth TB neu brofion buches rheolaidd y mae’r llywodraeth yn talu amdanynt gyfrif fel profion cyn symud ac ar ôl symud.

Gallwch ddefnyddio prawf a ariennir gan y llywodraeth fel prawf cyn symud os byddwch yn symud gwartheg o fewn 60 diwrnod i gael canlyniad negatif, sef 60 diwrnod ar ôl dyddiad pigiad y prawf croen.

Nid yw hyn yn gymwys i fuchesi yng Nghymru y mae cyfyngiadau symud wedi cael eu codi yn ddiweddar mewn perthynas â nhw ar ôl achosion parhaus o TB. Achosion sy’n para 18 mis neu fwy yw’r rhain. Ni ellir defnyddio’r prawf rhyddhau fel prawf cyn symud. Rhaid i chi aros o leiaf 60 diwrnod ar ôl y prawf rhyddhau cyn y gellir cynnal prawf cyn symud ar wartheg.

Os symudir gwartheg i’r Alban, gellir defnyddio prawf TB arferol a ariennir gan y llywodraeth fel prawf cyn symud ar yr amod y caiff y prawf ei gynnal o fewn y 30 diwrnod blaenorol.

Ni ellir defnyddio profion cyfnod byr na phrofion croen eraill yn ystod achosion o TB cyn i statws rhydd o TB swyddogol buches gael ei adfer.

Gallwch ddefnyddio prawf a ariennir gan y llywodraeth yn hytrach na phrawf ar ôl symud os yw gwartheg wedi bod yn yr ardal risg isel yn Lloegr, y rhannau o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol, yr ardal TB isel yng Nghymru, yr ardaloedd TB canolradd yng Nghymru neu yn yr Alban am o leiaf 60 diwrnod ar yr adeg y cynhelir y prawf. Mae profion a wneir o fewn 60 a 120 diwrnod yn brofion ar ôl symud dilys.

Os cynhelir prawf ar y gwartheg yn y fuches cyn y 60 diwrnod, bydd angen i chi gynnal prawf ar ôl symud arall.

Gallwch drafod pa anifeiliaid i’w profi â’ch milfeddyg swyddogol, arolygydd milfeddygol APHA neu brofwr twbercwlin cymeradwy. Efallai y byddant am weld prawf o ddyddiadau’r prawf diwethaf.

Eithriadau a thystiolaeth o brawf

Mae rhai gwartheg, buchesi neu symudiadau wedi’u heithrio rhag profion cyn symud ac ar ôl symud.

Dylech gadw tystiolaeth am o leiaf 3 blynedd os byddwch yn symud gwartheg sydd wedi’u heithrio rhag profion TB.

Bydd canlyniadau negatif ar gyfer prawf croen a gofnodir ar siartiau profion TB (Ffurflen TB52c) gan eich milfeddyg swyddogol neu brofwr twbercwlin cymeradwy yn cadarnhau eich bod yn gallu symud gwartheg sydd wedi cael eu profi. Rhaid i chi gadw’r siartiau hyn am 3 blynedd a 60 diwrnod fel tystiolaeth o brawf TB.

Mae’r siartiau profion TB hefyd yn rhoi gwybodaeth am hanes profi a chlefydau. Mae darpar brynwyr yn debygol o ofyn am dystiolaeth o brofion a symudiadau i’w helpu i benderfynu ar lefel y risg TB sy’n gysylltiedig.

Os ydych yn brynwr, dylech ofyn am dystiolaeth o brofion cyn symud o fewn 60 diwrnod cyn y dyddiad symud arfaethedig, oni bai bod yr anifail, y fuches neu’r symudiad wedii (h)eithrio. Gallwch hefyd edrych ar y map ibTB sy’n dangos statws TB buchesi yng Nghymru a Lloegr.

Rhaid i brynwyr yn yr Alban ofyn am dystiolaeth fod y profion cyn symud yn cydymffurfio â rheoliadau’r Alban. Rhaid bod gwartheg wedi cael canlyniad negatif i brawf TB o fewn 30 diwrnod cyn symud i’r Alban. Rhaid i’r dystiolaeth ddangos hefyd na chynhaliwyd y prawf tra roedd y fuches wreiddiol o dan gyfyngiadau TB.

Ni all APHA roi manylion buchesi unigol.

Methiant i gynnal prawf ar y gwartheg

Mae APHA yn gwirio symudiadau gwartheg a chofnodion profi gwartheg fel mater o drefn. Mae’n hysbysu awdurdodau lleol am doriadau a amheuir fel y gallant ymchwilio i achosion o ddiffyg cydymffurfio. Gall unrhyw un sy’n methu â chydymffurfio â rheolau profion TB fod yn destun camau gorfodi ffurfiol gan gynnwys erlyniad.

Gall methu â chynnal prawf TB ar wartheg o fewn y terfyn amser effeithio ar yr iawndal a delir os bydd y prawf yn canfod un neu fwy o adweithyddion. Gall hefyd fod yn achos o fynd yn groes i’r Gofynion Rheoli Statudol yng Nghymru a’r Alban. Mae hyn yn gymwys o dan reolau trawscydymffurfio a gallai olygu y bydd gostyngiad yn y taliadau a gewch o’r cynllun.

Derbyn gwartheg nad ydynt wedi cael eu profi cyn eu symud yng Nghymru a Lloegr

Os byddwch yn derbyn gwartheg na chawsant eu profi cyn eu symud, dylech ynysu’r gwartheg cyn gynted â phosibl. Rhaid i chi gysylltu ag APHA i drefnu prawf TB preifat a thalu amdano.

Os bydd APHA yn canfod eich bod wedi derbyn gwartheg na chawsant eu profi cyn eu symud, bydd yn gosod cyfyngiadau ar y gwartheg nes y byddwch yn eu profi, oni bai bod y gwartheg wedi’u heithrio.

Derbyn gwartheg nad ydynt wedi cael eu profi cyn eu symud yn yr Alban

Os byddwch yn derbyn gwartheg o Gymru neu Loegr nad ydynt wedi cael eu profi cyn eu symud, rhaid i chi dalu am brawf ar ôl symud yn syth.

Os bydd APHA yn canfod eich bod wedi derbyn gwartheg na chawsant eu profi cyn eu symud, bydd yn gosod cyfyngiadau symud ar eich buches gyfan, oni bai bod y gwartheg wedi’u heithrio.

Mae cyfyngiadau symud yn gymwys nes y bydd y gwartheg a dderbynnir wedi cael prawf ar ôl symud yn syth.

Os bydd gwartheg yn dod o Gymru, neu o’r ardal risg uchel neu’r ardal ymylol yn Lloegr, dylech gynnal prawf ar ôl symud arall ar y gwartheg rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd. Rhaid i hyn fod o leiaf 60 diwrnod ar ôl y prawf blaenorol.

Symud gwartheg i mewn i’ch buches heb iddynt gael eu profi cyn eu symud yng Nghymru, Lloegr a’r Alban

Os bydd APHA yn canfod eich bod wedi symud gwartheg y mae angen prawf ar ôl symud arnynt i mewn i’ch buches heb gwblhau’r profion, bydd yn gosod cyfyngiadau symud ar eich buches gyfan. Mae cyfyngiadau symud yn gymwys nes y bydd y gwartheg a dderbynnir wedi cael prawf ar ôl symud yn syth.

Yng Nghymru a Lloegr, os bydd APHA yn canfod bod gwartheg nad ydynt wedi cael eu profi cyn eu symud wedi cael eu symud o’ch buches i fuches arall, bydd yn gosod cyfyngiadau ar y gwartheg hynny yn y fuches sy’n derbyn y gwartheg. Mae cyfyngiadau symud yn gymwys nes y bydd y gwartheg a dderbynnir wedi cael prawf ar ôl symud yn syth.

Symud gwartheg i dir dros dro ac oddi yno yng Nghymru a Lloegr

Darllenwch am brofion TB buchol a rhifau adnabod daliadau dros dro (tCPHs) yn Lloegr neu Rifau Adnabod Daliadau (CPH) a symudiadau da byw yng Nghymru.

Bydd rheolau profion cyn symud ac ar ôl symud yn berthnasol i wartheg sy’n symud rhwng tir parhaol a tCPH, oni bai bod yr anifeiliaid, y fuches neu’r symudiadau wedi’u heithrio.

Nid yw rheolau profion cyn symud ac ar ôl symud yn berthnasol i wartheg sy’n symud rhwng tir parhaol a thir dros dro a gysylltir drwy gysylltiad tir dros dro.

Symud gwartheg i dir comin ac oddi yno yng Nghymru a Lloegr

Mae rheolau profion cyn symud ac ar ôl symud yn berthnasol i wartheg sy’n symud i dir comin ac oddi yno yng Nghymru a Lloegr. Cadarnhewch beth yw’r eithriadau a chysylltwch ag APHA os nad yw’n bosibl cynnal profion cyn symud neu ar ôl symud ar eich gwartheg ar dir comin.

Symud gwartheg i sioeau

Mae rheolau profion cyn symud ac ar ôl symud yn berthnasol i wartheg sy’n mynd i sioeau yng Nghymru a Lloegr neu’n dychwelyd oddi yno oni bai bod y sioe wedi’i heithrio.

Pan fydd angen i wartheg gael eu profi cyn iddynt gael eu symud yng Nghymru a Lloegr, gallwch symud gwartheg i sawl sioe ar yr amod eu bod yn mynd yn ôl i’w safle gwreiddiol neu’n mynd i gael eu lladd o fewn 60 diwrnod i’r prawf negatif.

Rhaid i wartheg aros ar y safle yn yr ardal risg isel yn Lloegr nes y byddwch wedi cwblhau prawf ar ôl symud os ydynt yn dychwelyd o sioeau na chânt eu heithrio yn:

  • yr ardal risg uchel neu’r ardal ymylol yn Lloegr
  • Cymru

Rhaid i wartheg aros ar y safle yn y rhannau o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cynnal profion gwyliadwriaeth blynyddol nes y byddwch wedi cwblhau prawf ar ôl symud os ydynt yn dychwelyd o sioeau na chânt eu heithrio yn:

  • yr ardal risg uchel a’r rhan o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cael profion bob chwe mis
  • Cymru

Rhaid i wartheg aros ar y safle yn yr ardal TB isel yng Nghymru nes y byddwch wedi cwblhau prawf ar ôl symud os ydynt yn dychwelyd o sioeau na chânt eu heithrio:

  • mewn ardaloedd eraill yng Nghymru
  • yn yr ardal risg uchel neu’r ardal ymylol yn Lloegr

Rhaid i wartheg aros ar y safle yn yr ardaloedd TB canolradd yng Nghymru nes y byddwch wedi cwblhau prawf ar ôl symud os ydynt yn dychwelyd o sioeau na chânt eu heithrio yn:

  • ardaloedd TB uchel yng Nghymru
  • yr ardal risg uchel yn Lloegr

Yng Nghymru, mae eithriad i hyn drwy ddefnyddio uned gwarantîn ardystiedig.

Mae’r canlynol yn gymwys ar gyfer gwartheg mewn buchesi yng Nghymru a Lloegr sy’n dychwelyd i’w safle gwreiddiol ar ôl sioe yn yr Alban:

  • rhaid iddynt gael prawf cyn symud o fewn 60 diwrnod cyn symud i’r sioe; oni eu bod o dan 42 diwrnod oed neu’n symud o fuches sy’n cael ei phrofi bob 4 blynedd mewn ardal risg isel yn Lloegr
  • nad oes angen prawf ar ôl symud arnynt

Rhaid i’r canlynol fod yn gymwys i wartheg mewn buchesi yng Nghymru a Lloegr sy’n symud i fuches yn yr Alban ar ôl sioe yn yr Alban:

  • rhaid iddynt gael prawf cyn symud o fewn 30 diwrnod cyn symud, oni eu bod o dan 42 diwrnod oed neu’n symud o fuches sy’n cael ei phrofi bob 4 blynedd mewn ardal risg isel yn Lloegr. Nid yw profion cyfnod byr na phrofion croen eraill a gynhelir yn ystod achosion o TB cyn i statws rhydd o TB swyddogol buches gael ei adfer, yn bodloni gofynion y profion cyn symud
  • rhaid iddynt gael prawf ar ôl symud ym muches pen y daith, oni eu bod wedi byw eu holl fywyd mewn ardal risg isel yn Lloegr

Rhagor o wybodaeth am brofion cyn symud ac ar ôl symud

Gallwch ddarllen mwy am sut y gellir lleihau’r risg o ledaenu TB buchol ar TB hub.

Darllenwch yr ystadegau swyddogol diweddaraf ar brofion cyn symud ac ar ôl symud ar gyfer TB mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr.

Dysgwch am farchnadoedd sydd wedi’u heithrio rhag profion cyn symud yng Nghymru a Lloegr ac unedau pesgi sydd wedi’u heithrio rhag profion cyn symud yn Lloegr.

Cysylltwch ag APHA.

Yn Lloegr

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost i defra.helpline@defra.gov.uk neu ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

I drefnu tCPH neu gofrestru CPH parhaol newydd, ffoniwch Dîm Cofrestru Cwsmeriaid yr Asiantaeth Taliadau Gwledig ar 0845 603 7777 a dewiswch opsiwn 6. Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i drefnu CPH newydd, felly caniatewch ddigon o amser cyn symud eich anifeiliaid. Darllenwch fwy am gael rhif CPH gan yr Asiantaeth Taliadau Gwledig.

I drafod materion sy’n ymwneud â’r System Olrhain Gwartheg (CTS), ffoniwch linell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) ar 0345 050 1234. Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 5pm.

Gallwch gael cyngor am ddim ar fesurau bioddiogelwch mewn buchesi sy’n rhydd o TB a buchesi dan gyfyngiadau TB gan y Gwasanaeth Cynghori TB.

Darllenwch fwy am sut y gellir lleihau achosion o TB buchol yn Lloegr.

Yn yr Alban

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost i Animal.Health@gov.scot neu ffoniwch Lywodraeth yr Alban ar 0300 244 9874.

I drefnu tCPH neu gofrestru CPH parhaol newydd, cysylltwch â Swyddfa leol Is-adran Taliadau Gwledig ac Arolygu Llywodraeth yr Alban.

Ar gyfer ymholiadau ScotMoves+, anfonwch e-bost i help@scoteid.com neu ffoniwch ScotEID ar 01466 794323.

Darllenwch fwy am sut y gellir lleihau achosion o TB buchol yn yr Alban.

Yng Nghymru

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost i bovineTB@wales.gov.uk neu ffoniwch Lywodraeth Cymru ar 0300 060 4400 (siaradwyr Cymraeg) neu 0300 060 3300 (siaradwyr Saesneg).

I drefnu tCPH neu gofrestru CPH parhaol, ffoniwch Taliadau Gwledig Cymru ar 0300 062 5004.

I drafod materion sy’n ymwneud â’r System Olrhain Gwartheg, ffoniwch linell gymorth BCMS ar 0345 050 1234 neu 0345 050 3456 (Cymraeg). Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 5pm.

Os oes achos o TB yn eich buches neu achos o TB mewn buches gyfagos mewn ardaloedd penodol o Ogledd Cymru, bydd APHA yn cynnig ymweliad Cymorth TB am ddim gan eich milfeddyg lleol.

Darllenwch fwy am sut y gellir lleihau achosion o TB buchol yng Nghymru.