Canllawiau

Symudiadau gwartheg: eithriadau rhag profion TB buchol cyn symud neu ar ôl symud

Diweddarwyd 1 February 2024

Applies to England, Scotland and Wales

Edrychwch yn y tablau i weld a yw eich gwartheg wedi’u heithrio rhag profion TB buchol cyn symud ac ar ôl symud cyn ac ar ôl i chi eu symud. Dylech gadw cofnodion o’r holl symudiadau y mae’r eithriadau hyn yn effeithio arnynt am 3 blynedd. Efallai y bydd angen i chi ddarparu’r cofnodion hyn ar gyfer:

  • unrhyw un sy’n prynu eich gwartheg
  • tystiolaeth os cymerir camau gorfodi

Eithriadau sy’n gymwys yng Nghymru a Lloegr

Tabl 1. Eithriadau rhag profion cyn symud yng Nghymru a Lloegr

Eithriad rhag profion TB buchol cyn symud Tystiolaeth i’w chadw
Gwartheg sy’n symud o fuchesi yn Lloegr sy’n cael profion rheolaidd ar gyfer TB bob 4 blynedd. Llythyr gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) at geidwad y gwartheg yn nodi’r cyfnod profi TB rheolaidd ar gyfer ei fuches.
Gwartheg sy’n symud o fuchesi yn Lloegr sydd wedi newid o gael profion rheolaidd ar gyfer TB bob 4 blynedd i brofion amlach am resymau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd:

- ffermydd sydd ar agor i’r cyhoedd
-cynhyrchwyr neu fanwerthwyr llaeth heb ei drin
Llythyr gan APHA at geidwad y gwartheg yn nodi’r cyfnod profi TB rheolaidd ar gyfer ei fuches.
Gwartheg mewn canolfan ffrwythloni artiffisial yn Lloegr. Trwydded gymeradwyo a roddwyd gan APHA.
Gwartheg o dan 42 diwrnod oed. Pasbortau gwartheg.
Gwartheg sy’n symud yn uniongyrchol:

-i gael eu lladd (gan gynnwys symud drwy ganolfan gasglu)
- i farchnad y bydd pob anifail yn mynd oddi yno’n uniongyrchol i gael ei ladd
-i unedau pesgi eithriedig cyn symud
-i farchnadoedd eithriedig cyn symud
-i unedau pesgi TB cymeradwy
-i ganolfannau casglu TB cymeradwy
- i’w safle gwreiddiol o farchnad os na chânt eu gwerthu (Cymru yn unig)
Cofnodion symud gwartheg ar y fferm a chofnodion marchnad, fel catalogau marchnad.
Gwartheg sy’n symud i sioe amaethyddol sydd wedi’i heithrio (rhaid i’r gwartheg ddychwelyd i’w safle gwreiddiol neu fynd i gael eu lladd). Ystyrir bod sioe wedi’i heithrio os:

-na fydd y gwartheg yn aros ar faes y sioe am fwy na 24 awr
- yn Lloegr, caiff y gwartheg eu cadw y tu allan (ni allant gael eu cadw mewn unrhyw fan dan do ag ochrau, gan gynnwys pabell fawr)
-yng Nghymru, caiff y gwartheg eu cadw y tu allan (ni allant gael eu cadw mewn unrhyw fan dan do ag ochrau neu hebddynt, gan gynnwys pabell fawr)
Datganiad gan faes y sioe eu bod wedi’u heithrio rhag profion
Gwartheg sy’n symud i gael triniaeth filfeddygol (rhaid i’r anifail ddychwelyd i’w safle gwreiddiol neu fynd i gael ei ladd). Cofnodion triniaeth filfeddygol
Cofnodion symud gwartheg ar y fferm
Cofnodion meddyginiaethau ar y fferm
Gwartheg sy’n symud o dan eithriad ysgrifenedig penodol gan APHA. Eithriad ysgrifenedig gan APHA.
Rhaid i wartheg 42 diwrnod oed a throsodd sy’n symud i dir comin yn Lloegr ac oddi yno mewn ardaloedd lle cynhelir profion yn flynyddol (neu’n amlach) gael eu profi cyn eu symud oni bai eu bod wedi’u heithrio. Pan nad yw’n bosibl neu’n ymarferol cynnal profion ar dir comin, gall APHA gytuno i’r eithriadau canlynol:

-ceidwaid gwartheg yn symud gwartheg yn ôl o’r tir comin a chynnal profion ar y gwartheg ar eu safle ar ôl iddynt gael eu symud am nad yw’n ymarferol cynnal profion ar dir comin

- mae cynllun rheoli TB y cytunwyd arno ag APHA ar gyfer y tir comin yn rhoi’r un lefel o sicrwydd ag y byddai profion yn ei rhoi (yn yr achosion hyn, byddai APHA yn ystyried trwyddedu symudiadau gwartheg heb gynnal profion cyn symud). Dylai Cymdeithasau Cominwyr gysylltu ag APHA i drefnu cynlluniau rheoli TB lleol
Tystiolaeth ddogfennol o hawliau comin.

Tystiolaeth o gynllun rheoli TB ar gyfer y tir comin, a gymeradwywyd gan APHA, sy’n cynnwys ymrwymiad gan geidwaid gwartheg i gofnodi symudiad gwartheg i’r tir comin ac oddi yno.
Rhaid i wartheg sy’n 42 diwrnod oed a throsodd sy’n symud i dir comin yng Nghymru ac oddi yno gael eu profi cyn eu symud, oni bai eu bod wedi’u heithrio. Os nad yw’n bosibl cynnal profion TB ar y tir comin, efallai y caniateir symud gwartheg yn ôl i’r prif ddaliad o dan drwydded gan APHA. Gall fod yn bosibl cynnal profion ar ôl symud neu brofion 6 misol, yn dibynnu ar dri ffactor:

-mae’r daliad yn agos i’r tir comin
- ceidwad y gwartheg yw’r unig borwr gwartheg ar y tir comin
- mae’r daliad cyfagos yn gweithredu polisi gât agored sy’n golygu bod anifeiliaid yn rhydd i symud rhwng y daliad a’r tir pori comin cyfagos

Dylai ceidwaid gwartheg gysylltu ag APHA cyn gynted â phosibl i drafod eu cynlluniau i bori gwartheg ar dir comin os nad yw’n bosibl cynnal profion ar y tir comin.
Tystiolaeth ddogfennol o hawliau comin.

Tabl 2. Eithriadau rhag profion ar ôl symud yng Nghymru a Lloegr

Eithriad rhag profion TB buchol ar ôl symud Tystiolaeth i’w chadw
Gwartheg sy’n symud i’r ardal risg isel yn Lloegr, y rhannau o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol, yr ardal TB isel yng Nghymru neu’r ardaloedd TB canolradd yng Nghymru yn uniongyrchol i’r canlynol:

-marchnad y bydd pob anifail yn mynd oddi yno’n uniongyrchol i gael ei ladd
-marchnad eithriedig
-canolfan gasglu gymeradwy
-uned besgi drwyddedig
-uned besgi gymeradwy
-uned besgi eithriedig (Lloegr yn unig)
-marchnad neu ganolfan gasglu gymeradwy y tu allan i’r ardal risg isel neu’r rhannau o’r ardal ymylol sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol, yr ardaloedd TB canolradd neu’r ardal TB isel, o ddaliad yn yr ardal risg isel, y rhannau o’r ardal ymylol sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol, yr ardaloedd TB canolradd neu’r ardal TB isel ac yn ôl i ddaliad yn yr ardal risg isel, y rhannau o’r ardal ymylol sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol, yr ardaloedd TB canolradd neu’r ardal TB isel yng Nghymru.
Cofnodion symud gwartheg ar y fferm a chofnodion marchnad, fel catalogau marchnad.
Gwartheg sy’n symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel neu’r ardaloedd TB canolradd yng Nghymru (nid yw gwartheg sy’n symud o’r rhannau o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol neu’r ardal TB isel yng Nghymru i’r ardal risg isel yn Lloegr wedi’u heithrio).

Gwartheg o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n symud i’r ardaloedd TB canolradd yng Nghymru.
Cofnodion symud ar basbortau gwartheg.
Gwartheg sy’n cael eu lladd o fewn 120 diwrnod i gyrraedd safle yn yr ardal risg isel yn Lloegr, y rhannau o’r ardal ymylol sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol neu’r ardal TB isel yng Nghymru. Cofnodion symud gwartheg ar y fferm.
Gwartheg sy’n symud i gael triniaeth filfeddygol (rhaid i’r anifail ddychwelyd i’w safle gwreiddiol neu fynd i gael ei ladd). Cofnodion triniaeth filfeddygol
Cofnodion symud gwartheg ar y fferm
Cofnodion meddyginiaethau ar y fferm
Gwartheg sy’n symud i sioe amaethyddol sydd wedi’i heithrio (rhaid i’r gwartheg ddychwelyd i’w safle gwreiddiol neu fynd i gael eu lladd). Ystyrir bod sioe wedi’i heithrio os:

-na fydd y gwartheg yn aros ar faes y sioe am fwy na 24 awr
- yn Lloegr, caiff y gwartheg eu cadw y tu allan (ni allant gael eu cadw mewn unrhyw fan dan do ag ochrau, gan gynnwys pabell fawr)
- yng Nghymru, caiff y gwartheg eu cadw y tu allan (ni allant gael eu cadw mewn unrhyw fan dan do ag ochrau neu hebddynt, gan gynnwys pabell fawr)
Datganiad gan faes y sioe eu bod wedi’u heithrio rhag profion.
Gwartheg sy’n symud o sioe amaethyddol nad yw wedi’i heithrio i uned gwarantîn ardystiedig o dan drwydded gyffredinol (Cymru yn unig). Darllenwch Cwestiynau ac Atebion am y Rhaglen Dileu TB ar gyfer tystiolaeth.
Gwartheg a gaiff eu geni i mewn i fuches ac sy’n symud o fuches sydd ag achrediad Lefel 10 y Cynllun Ardystio Iechyd Gwartheg (CHECS), sy’n golygu eu bod wedi bod yn rhydd o TB buchol ers 10 mlynedd (Cymru yn unig). Tystysgrif buches lefel 10 CHECS gan geidwad y gwartheg gyda manylion tagiau clust y gwartheg sy’n cael eu symud.
Gwartheg sy’n symud o dan eithriad ysgrifenedig penodol gan APHA. Eithriad ysgrifenedig gan APHA.
Tabl 3. Symud gwartheg o’r safle derbyn yn yr ardal risg isel yn Lloegr, y rhannau o’r ardal ymylol yn Lloegr sy’n cael profion gwyliadwriaeth blynyddol, yr ardaloedd TB canolradd yng Nghymru neu’r ardal TB isel yng Nghymru, cyn cwblhau prawf ar ôl symud
Eithriad Tystiolaeth i’w chadw
Symud anifail buchol i:

-gael ei ladd yn uniongyrchol neu drwy grynhoad lladd neu farchnad
-uned besgi gymeradwy
-uned besgi drwyddedig (Lloegr yn unig)
-uned besgi eithriedig (Lloegr yn unig)
Cofnodion symud gwartheg ar y fferm a chofnodion marchnad, fel catalogau marchnad.
Gwartheg sy’n symud o dan eithriad ysgrifenedig penodol gan APHA. Eithriad ysgrifenedig gan APHA.
Gwartheg sy’n symud o uned gwarantîn ardystiedig yng Nghymru o dan drwydded gyffredinol i sioe amaethyddol nad yw wedi’i heithrio. Darllenwch TB gwartheg: symud gwartheg i sioe heb ei heithrio ar gyfer amodau’r drwydded gyffredinol.

Profion cyn symud – marchnadoedd eithriedig yng Nghymru a Lloegr

Yn Lloegr, mae marchnadoedd eithriedig yn gwerthu gwartheg nad ydynt wedi cael eu profi cyn eu symud. Gall gweithredwyr marchnadoedd dderbyn gwartheg sydd wedi cael eu profi cyn eu symud i farchnadoedd eithriedig hefyd.

Yng Nghymru, mae marchnadoedd eithriedig yn gwerthu gwartheg o fuchesi a brofir bob blwyddyn neu’n amlach na hynny y dylent fod wedi cael profion cyn symud ond nad ydynt wedi cael y profion hynny.

Ni allwch symud gwartheg o farchnadoedd eithriedig oni bai eich bod yn eu symud yn uniongyrchol:

  • i gael eu lladd
  • i uned besgi eithriedig (Lloegr yn unig)
  • i uned besgi gymeradwy mewn ardal lle y cynhelir profion bob blwyddyn (neu’n amlach) yn Lloegr
  • i uned besgi gymeradwy yn yr Ardal TB Uchel yng Nghymru
  • i’w safle gwreiddiol, heblaw bod y fuches wreiddiol yn cael ei phrofi bob 4 mlynedd yn Lloegr lle na chaniateir iddi ddychwelyd

Gweler rhestr o’r marchnadoedd eithriedig ar gyfer gwartheg yng Nghymru a Lloegr.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag APHA neu weithredwr eich marchnad leol.

Profion cyn symud – unedau pesgi eithriedig yn Lloegr

Mae unedau pesgi eithriedig yn gweithredu yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Maent yn caniatáu i gynhyrchwyr cig eidion brynu anifeiliaid nad ydynt wedi cael prawf cyn symud i’w pesgi ar gyfer eu lladd. Rhaid i unedau pesgi eithriedig fodloni amodau llym i leihau’r risg o glefyd yn cael ei ledaenu o’r safle ac felly rhaid iddynt gael eu cymeradwyo gan APHA.

Gall gweithredwyr dderbyn gwartheg sydd wedi cael prawf cyn symud a gwartheg eithriedig hefyd.

Ni allwch symud gwartheg o unedau pesgi eithriedig oni bai eich bod yn eu symud i’w lladd. Gall hyn fod yn uniongyrchol i’r lladd-dy neu drwy ganolfan gasglu neu farchnad ladd gymeradwy.

Gweler rhestr o’r unedau pesgi eithredig yn Lloegr.

Eithriadau sy’n gymwys yn yr Alban

Tabl 1. Eithriadau rhag profion cyn symud yn yr Alban

Eithriad rhag profion TB buchol cyn symud Tystiolaeth i’w chadw
Gwartheg sy’n cael eu hanfon i’r Alban yn uniongyrchol i’w lladd.

Mae angen i wartheg sy’n cael eu symud i’w pesgi ymhellach cyn eu lladd gael eu profi cyn eu symud.
Cofnodion symud gwartheg.
Gwartheg sy’n cael eu symud i sioeau neu arddangosfeydd am lai na 24 awr cyn dychwelyd i’w safle gwreiddiol.

Gall rhai trefnwyr sioeau ofyn i wartheg gael prawf TB cyn mynd i’r sioe.
Cofnodion symud gwartheg.
Gwartheg sy’n cael eu geni a’u cadw mewn ardal lle ceir nifer fach o achosion o’r clefyd, gan gynnwys gwartheg sy’n cael eu symud o safle mewn ardal lle ceir nifer fach o achosion o’r clefyd i sioe amaethyddol neu farchnad mewn ardal lle ceir nifer fawr o achosion o’r clefyd. Cofnodion symud gwartheg.

Tabl 2. Symud gwartheg o safle derbyn yn yr Alban cyn cwblhau prawf ar ôl symud

Eithriad rhag profion TB buchol ar ôl symud Tystiolaeth i’w chadw
Gwartheg sy’n cael eu lladd o fewn 120 diwrnod i gyrraedd safle yn yr Alban. Cofnodion symud gwartheg ar y fferm.
Gwartheg sy’n symud i gael triniaeth filfeddygol (rhaid i’r anifail ddychwelyd i’w safle gwreiddiol, gael ei ladd neu fynd yn uniongyrchol i gael ei ladd). Cofnodion triniaeth filfeddygol
Cofnodion symud gwartheg ar y fferm
Cofnodion meddyginiaethau ar y fferm
Gwartheg sy’n symud o dan drwydded gan arolygydd milfeddygol. Copi o’r drwydded a roddwyd gan APHA.