Deunydd hyrwyddo

Pryd y dylid defnyddio'r posteri hyn: cyfarwyddiadau i reolwyr tir

Diweddarwyd 21 April 2023

Gallwch argraffu’r posteri hyn i’w harddangos yn eich ardal.

Caiff y posteri eu diweddaru pan fydd y canllawiau ar ffliw adar yn newid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r fersiynau diweddaraf (poster diweddaraf: 6 Ebrill 2023).

1. Pryd y dylid defnyddio poster 1

Defnyddiwch y poster hwn os oes ffliw adar wedi’i gadarnhau’n ddiweddar yn yr ardal (yn ystod y 30 diwrnod diwethaf).

Bydd yn helpu pobl i ddeall beth mae angen iddynt ei wneud er mwyn:

  • cadw’n ddiogel
  • atal ffliw adar rhag lledaenu
  • rhoi gwybod am adar gwyllt marw

2. Pryd y dylid defnyddio poster 2

Defnyddiwch y poster hwn:

  • os oes ffliw adar wedi’i gadarnhau’n ddiweddar yn yr ardal (yn ystod y 30 diwrnod diwethaf)
  • os oes penderfyniad wedi cael ei wneud yn lleol i gynghori pobl i beidio â bwydo adar dŵr gwyllt (elyrch, hwyaid a gwyddau) yn yr ardal

Bydd yn helpu pobl i ddeall beth mae angen iddynt ei wneud er mwyn:

  • cadw’n ddiogel
  • atal ffliw adar rhag lledaenu
  • rhoi gwybod am adar gwyllt marw

Mae hefyd yn rhoi cyngor ar fwydo adar gwyllt yn yr ardal.

3. Pryd y dylid defnyddio poster 3

Defnyddiwch y poster hwn pan nad oes ffliw adar wedi’i gadarnhau yn yr ardal leol, ond mae risg o ffliw adar.

Mae’n rhoi cyngor diogelwch cyffredinol ac yn egluro sut i roi gwybod am adar gwyllt marw.

4. Bwydo adar gwyllt yn eich ardal

Awdurdodau lleol, perchnogion tir a rheolwyr tir sy’n gyfrifol am benderfynu a yw’n ddiogel i bobl fwydo adar gwyllt.

Ystyriwch a allai bwydo adar gwyllt:

  • ledaenu ffliw adar
  • peri risg i iechyd neu ddiogelwch pobl

Darllenwch ein cyngor ar fwydo adar gwyllt.

5. Symud a gwaredu adar gwyllt marw

Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw, rhowch wybod amdanynt ar-lein neu ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Efallai y bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn casglu rhai o’r adar marw ar gyfer profion.

Gall unrhyw adar gwyllt marw nad oes eu hangen ar APHA gael eu gwaredu’n ddiogel gan:

  • yr awdurdod lleol ar dir cyhoeddus
  • perchennog neu reolwr y tir ar dir preifat neu ystadau a reolir

Dysgwch sut i symud a gwaredu adar gwyllt marw.