Deunydd hyrwyddo

Ffliw adar: posteri i reolwyr tir

Posteri i reolwyr tir ac awdurdodau lleol i rybuddio'r cyhoedd bod risg o ffliw adar yn yr ardal.

Dogfennau

Poster 1: mae ffliw adar wedi'i ganfod yn yr ardal hon, peidiwch â chymryd y risg o'i ledaenu

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Poster 2: mae ffliw adar wedi'i ganfod yn yr ardal hon, peidiwch â chymryd y risg o'i ledaenu a pheidiwch â bwydo'r adar dŵr gwyllt

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch defra.helpline@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Poster 3: peidiwch â chymryd y risg o ledaenu ffliw adar

Manylion

Tri phoster i reolwyr tir ac awdurdodau lleol eu defnyddio mewn ardaloedd lle mae risg o ffliw adar.

Poster 1: mae ffliw adar wedi’i ganfod yn yr ardal hon, peidiwch â chymryd y risg o’i ledaenu

Mae’r poster hwn yn dweud:

  • cadwch ar y llwybr troed, a chadwch gŵn ar dennyn
  • peidiwch â chodi na chyffwrdd adar sydd wedi marw neu sy’n sâl
  • peidiwch â chyffwrdd plu adar gwyllt nac arwynebau sydd wedi’u halogi â gwastraff adar gwyllt
  • os ydych chi’n cadw dofednod neu fathau eraill o adar, golchwch eich dwylo, glanhewch a diheintiwch eich esgidiau cyn trin eich adar

Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw, rhowch wybod amdanynt ar-lein neu ffoniwch linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Efallai y bydd APHA yn casglu rhai o’r adar marw ar gyfer profion gwyliadwriaeth. Fel arall, gall yr awdurdod lleol neu berchnogion y tir waredu’r adar yn ddiogel, os bydd angen.

Poster 2: mae ffliw adar wedi’i ganfod yn yr ardal hon, peidiwch â chymryd y risg o’i ledaenu

Mae’r poster hwn yn dweud:

  • cadwch ar y llwybr troed, a chadwch gŵn ar dennyn
  • peidiwch â bwydo adar dŵr gwyllt

Cyhoeddwyd ar 31 August 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 April 2023 + show all updates
  1. Content available in Welsh language

  2. Updated the posters with new reporting criteria for dead wild birds. Added instructions for land managers about using these posters.

  3. Updated the posters with links to new guidance about reporting dead wild birds.

  4. Added QR codes to the posters. The public can scan these to access web pages about bird flu.

  5. Updated the posters with more information about reporting dead wild birds.

  6. First published.