Ffurflen

Gwneud cais i newid eich enw: Ffurflenni LOC020, LOC021 a LOC025

Os ydych yn 18 neu’n hŷn, defnyddiwch y ffurflenni hyn i roi eich enw newydd ar gofnod cyhoeddus drwy ‘gofrestru’ eich gweithred newid enw yn y Llysoedd Barn Brenhinol.

Dogfennau

Gweithred newid enw: Ffurflen LOC020

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Datganiad statudol: Ffurflen LOC021

Hysbysiad ar gyfer y London Gazette: Ffurflen LOC025

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am weithredoedd newid enw.

Os ydych eisiau cofrestru gweithred newid enw ar gyfer plentyn dan 18 oed, defnyddiwch Ffurflenni LOC022, LOC023, LOC024 a LOC026.

Gwiriwch ffioedd llys a thribiwnlys i ganfod os allwch gael help i dalu ffioedd.

Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.

  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.

  3. Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).

  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.

Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â hmctsforms@justice.gov.uk.

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch â’ch llys lleol.

Gofyn am fformatau hygyrch

Gallwch ofyn am:

  • fersiwn Braille

  • fersiwn print bras

  • fersiwn hawdd ei darllen

Gofyn am fformat hygyrch drwy e-bost - hmctsforms@justice.gov.uk

Microsoft Word

Yn gyffredinol, nid yw Microsoft Word yn addas ar gyfer ein dogfennau. Gallwch ond gofyn am drosi ffurflen PDF i fformat Word fel addasiad rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cewch ragor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn y canllawiau.

Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 1 June 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 May 2024 + show all updates
  1. Update to affirmation and court enrolment fees.

  2. Added Welsh version of the guidance

  3. Added information about what you must include in the exhibition sheets.

  4. Replaced the guidance notes PDF with an HTML

  5. Guidance for requesting accessible formats has been updated.

  6. Changed some references from 'Queen's Bench' to 'King's Bench' in LOC019 and updated the way we ask for names in LOC020

  7. Added Welsh language versions of the forms.

  8. LOC019 - Phone number for Queen's Bench Office amended (1 March 2021).

  9. Fee and phone number for London Gazette updated.

  10. Revised LOC019 uploaded.

  11. Added translation