Guidance

Canllaw i Ymholiadau Cyhoeddus (Cymraeg)

Updated 7 February 2024

1. Canllaw i Ymholiadau Cyhoeddus

1.1 Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig y dylech ei ddarllen cyn gwrandawiad

Mae canllawiau trwyddedu gweithredwyr eraill ar gael ar-lein ar wefan:

https://www.gov.uk/being-a-goods-vehicle-operator

https://www.gov.uk/psv-operator-licences

2. Ymholiadau Cyhoeddus

2.1 BETH YW YMCHWILIAD CYHOEDDUS?

Mae ymchwiliad cyhoeddus yn wrandawiad tribiwnlys ffurfiol, a comisiynydd traffig yw’r penderfynwr. Mae tri prif fath o ymchwiliad cyhoeddus - y rhai a gynhelir i benderfynu ar geisiadau am drwyddedau; adolygiadau o ganolfannau gweithredu (ar gyfer trwyddedau gweithredwr nwyddau yn unig); a’r rhai a ddelir am resymau rheoleiddiol, lle bydd dyfodol gweithrediadau trafnidiaeth yn cael ei ystyried.

Fel arfer cynhelir ymchwiliadau cyhoeddus yn bersonol, yn debyg i lys neu dribiwnlys arall. Mewn rhai achosion, gall comisiynydd traffig benderfynu cynnal ymholiad o bell gyda phartïon yn mynychu rhithiol (ar-lein). Oherwydd cymhlethdod yr achos mae’r cyfle i wneud hyn yn gyfyngedig a bydd partïon yn cael eu hysbysu yn y llythyr sy’n eu galw i’r ymchwiliad a yw’r gwrandawiad i’w gynnal yn bersonol neu’n rhithiol, gydag unrhyw gyfarwyddiadau penodol. Yn fwy cyffredin, clywir tystiolaeth rhai tystion o bell, ond bydd partïon yn cael yr un cyfle i ofyn cwestiynau ac egluro’r ffeithiau gyda’r tystion hyn. Mae llawer o’r wybodaeth a gynhwysir yn y canllaw hwn yn berthnasol i wrandawiadau personol neu rithiol, ond fe’i hysgrifennwyd gyda gwrandawiadau ‘yn bersonol’ fel y math mwyaf cyffredin.

Wrth wrando ar gais, bydd y comisiynydd traffig yn ystyried tystiolaeth gan yr ymgeisydd ac os bydd angen unrhyw wrthwynebiad dilys i’r cais. Wrth adolygu canolfan weithredu, bydd y comisiynydd traffig yn ystyried tystiolaeth gan y gweithredwr ac unrhyw achwynwyr dilys. Mewn achosion rheoleiddio bydd y comisiynydd traffig yn ystyried tystiolaeth gan y gweithredwr ac fel arfer tystiolaeth a ddarperir gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) a/neu gyrff gorfodi eraill.

Ym mhob ymchwiliad cyhoeddus gall y comisiynydd traffig hefyd glywed gan dystion ychwanegol ac, os yw’r comisiynydd traffig yn ystyried bod hynny’n briodol, gall asesydd ariannol gynorthwyo.

Pan fydd comisiynydd traffig wedi cael gwrthwynebiad dilys (sylw a/neu wrthwynebiad) i gais, gall ef/hi ystyried ei fod yn briodol cynnal ymchwiliad cyhoeddus. Mae hyn yn rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb i gyflwyno eu hachos i’r comisiynydd traffig.

Gall comisiynydd traffig benderfynu bod angen ymchwiliad cyhoeddus er mwyn egluro gwybodaeth sydd wedi dod i law, sy’n codi pryderon. Yn ogystal, rhaid i gomisiynydd traffig gynnal ymchwiliad cyhoeddus os yw’n ystyried cymryd camau rheoleiddio yn erbyn trwydded bresennol a bod y gweithredwr yn gofyn am wrandawiad. Yn bellach, rhaid i gomisiynydd traffig gynnal ymchwiliad cyhoeddus os yw’n ystyried cymryd camau rheoleiddio yn erbyn enw da a/neu gymhwysedd proffesiynol rheolwr trafnidiaeth, a bod cais wedi cael ei wneud am y gwrandawiad.

3. PARTION I YMCHWILIAD CYHOEDDUS

3.1 SUT BYDD GWEITHREDWR, YMGEISYDD, RHEOLWR TRAFNIDIAETH YN CAEL GWYBOD AM YMCHWILIAD CYHOEDDIAD?

Bydd llythyr yn eich galw i’r ymchwiliad yn esbonio pam mae ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal ac yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth y mae wedi’i alw oddi wrth, ynghyd â’r dystiolaeth y bydd y comisiynydd traffig yn ei hystyried. Bydd hwn yn cael ei anfon i’r cyfeiriad gohebiaeth a roddir i Swyddfa’r Comisiynydd Traffig a’i gofnodi ar y drwydded. Bydd hysbysiad o ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei anfon gan roi o leiaf 21 diwrnod o rybudd mewn perthynas â thrwydded neu gais gweithredwr nwyddau presennol, 14 diwrnod o rybudd mewn perthynas â thrwydded neu gais gweithredwr teithwyr presennol a 28 diwrnod o rybudd mewn perthynas â ymchwiliad cyhoeddus yn ymwneud â rheolwr trafnidiaeth. Gellir cwtogi’r cyfnodau hyn gyda chytundeb yr ymgeisydd/gweithredwr neu’r rheolwr trafnidiaeth. Nid yw’r amserlenni’n berthnasol ar gyfer achosion a ohiriwyd o ddata lle rhoddwyd rhybudd yn flaenorol.

3.2 SUT MAE GWRTHWYNEBWYR/CYNRYCHIOLWYR/ACHWYNWYR YN GWYBOD OS BYDD YMCHWILIAD CYHOEDDUS YN CAEL EI GYNNAL?

Ar gyfer trwyddedau gweithredwyr HGV, gall gwrthwynebwyr statudol megis awdurdodau lleol, awdurdodau cynllunio, yr heddlu, a rhai cymdeithasau masnach ac undebau llafur, wrthwynebu caniatad cais am drwydded nwyddau ar sail enw da neu addasrwydd i ddal trwydded, sefyllfa ariannol, pryderon ynghylch trefniadau’r gweithredwr ar gyfer cynnal a chadw cerbydau a chydymffurfio ag oriau gyrwyr, cymhwysedd proffesiynol y gweithredwr ac addasrwydd amgylcheddol a chyffredinol canolfan weithredu.

Mae gan berchnogion a meddianwyr tir neu adeiladau ger canolfan weithredu sy’n teimlo y byddai defnydd neu fwynhad o’u tir eu hunain yn cael ei effeithio’n negyddol gan y defnydd arfaethedig o ganolfan weithredu HGV yr hawl i fynegi eu barn i gomisiynydd traffig. Fe’u gelwir yn gynrychiolwyr; dim ond ar sail amgylcheddol y gellir gwneud sylwadau.

Yn wahanol i wrthwynebiadau, a wneir mewn ymateb i geisiadau, gall cwynion gael eu gwneud ar unrhyw adeg a chan unrhyw un. Gall cwyn am ganolfan weithredu awdurdodedig fod naill ai ar sail amgylcheddol neu ddiogelwch ar y ffyrdd. Fodd bynnag, dim ond os ystyrir bod y gweithredwr dan sylw yn gweithredu y tu allan i delerau ei drwydded/thrwydded y gall y comisiynydd traffig gymryd camau ar unwaith; fel arall, dim ond ar yr hyn a elwir yn ‘Ddyddiad Adolygu’ y gall y comisiynydd traffig weithredu, sy’n digwydd bob pum mlynedd ac sy’n seiliedig ar pryd y rhoddwyd y drwydded gyntaf.

Bydd unrhyw un sydd wedi gwneud gwrthwynebiad neu sylw dilys yn cael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad, amser a lleoliad yr Ymchwiliad ac yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol. Fel arfer rhoddir o leiaf 21 diwrnod o rybudd iddynt a gofynnir iddynt gadarnhau os byddant yn mynychu neu peidio.

Ar gyfer trwyddedau gweithredwr cerbydau teithwyr, dim ond gwrthwynebwyr statudol fel yr heddlu ac awdurdodau lleol all wrthwynebu’r cais. Gallant wrthwynebu caniatad cais am drwydded teithwyr ar sail enw da (ffitrwydd) i ddal trwydded, sefyllfa ariannol, pryderon ynghylch trefniadau’r gweithredwr ar gyfer cynnal a chadw cerbydau a chydymffurfiaeth oriau gyrwyr a chymhwysedd proffesiynol y gweithredwr.

3.3 PWY DDYLAI FYNYCHU YMCHWILIAD CYHOEDDUS?

Os yw’r gweithredwr/ymgeisydd yn fasnachwr unigol neu’n bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), dylai’r perchennog neu’r partneriaid fynychu’r ymchwiliad. Yn achos cwmni neu PAC, dylai o leiaf un cyfarwyddwr fod yn bresennol. Os yw’r cwmni neu’r PAC yn dymuno anfon uwch gynrychiolydd dylai geisio caniatâd y comisiynydd traffig yn gyntaf a bydd angen iddo ddarparu awdurdodiad ysgrifenedig gan y bwrdd cyfarwyddwyr i gynrychioli’r cwmni yn yr ymchwiliad. Gall ymchwiliad gael ei ohirio neu gall yr achos fynd yn ei flaen heb y gallu i gyflwyno sylwadau, pe na bai’r awdurdodiad hwn yn cael ei ddarparu.

Gallai methu â mynychu’r ymchwiliad olygu bod y comisiynydd traffig yn penderfynu ar yr achos yn eich absenoldeb.

Nid oes darpariaeth i wneud cais am y costau na’r gost o fynychu ymchwiliad cyhoeddus ac nid oes gan y comisiynydd traffig unrhyw bŵer i wneud unrhyw ddyfarniad o’r fath.

Yn achos cais, y gwrthwynebydd/cynrychiolydd sydd i benderfynu os yw’n dymuno mynychu’r ymchwiliad cyhoeddus. Gall y comisiynydd traffig roi llai, neu ddim pwys, i’w wrthwynebiad i’r cais os na chaiff yr ymgeisydd gyfle i gwestiynu sail y gwrthwynebiad.

Gall unrhyw barti i ymchwiliad ofyn i rywun eu cynrychioli yn y gwrandawiad hwnnw. Gall hwn fod yn eiriolwr cymwysedig: Cwnsler (bargyfreithiwr yn Lloegr a Chymru neu aelod o Gyfadran yr Eiriolwyr yn yr Alban), neu gyfreithiwr. Gall unrhyw un arall, gan gynnwys ymgynghorydd trafnidiaeth, siarad dim ond os ceir cytundeb y comisiynydd traffig o flaen llaw. Nid oes cyfreithiwr ar ddyletswydd yn bresennol yn yr ymchwiliad ac nid oes ‘Cymorth Cyfreithiol’ ar gael i gynrychiolaeth. Mater i chi yw ystyried os ydych am geisio cyngor annibynnol cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn y llythyr yn eich hysbysu am yr ymchwiliad cyhoeddus. Mae comisiynydd traffig yn annhebygol o dderbyn cais i ohirio’r ymchwiliad ar y diwrnod ar y sail eich bod nawr yn dymuno cael eich cynrychioli.

Os byddwch yn penderfynu cael eich cynrychioli, dylech drosglwyddo’r llythyr sy’n eich galw i’r ymchwiliad i’ch cynrychiolydd cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu digon o amser i baratoi eich achos yn iawn a hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Traffig.

Cyn ymrwymo i unrhyw gytundeb i gael eich cynrychioli dylech sicrhau bod gan eich cynrychiolydd arfaethedig wybodaeth dda am ddeddfwriaeth trwyddedu gweithredwyr a gofynion y comisiynwyr traffig. Mae’r rhain yn faterion arbenigol ac ni fydd gan bob cyfreithiwr neu ymgynghorydd ddigon o brofiad i’ch cynrychioli’n effeithiol. Os ydych yn aelod o gymdeithas fasnach, efallai y gallant argymell cynrychiolydd i chi. Os bydd rhywun sy’n dymuno eich cynrychioli yn cysylltu â chi, dylech geisio sefydlu eu profiad cyn dod i unrhyw gytundeb. Gallwch wneud hyn drwy ofyn am eirdaon gan gleientiaid blaenorol neu ofyn iddynt egluro’r canllawiau sydd wedi’u cynnwys yn y Dogfennau Statudol a gyhoeddwyd gan yr Uwch Gomisiynydd Traffig. Ni all Swyddfa’r Comisiynydd Traffig wneud argymhellion gan gynrychiolwyr, ond gall gadarnhau gwybodaeth ffeithiol, megis os yw cynrychiolydd penodol yn hysbys i’r comisiynydd traffig ac os yw’n debygol o gael ei gymeradwyo i’ch cynrychioli yn yr ymchwiliad cyhoeddus.

Unwaith y caiff ei benodi dylai eich cynrychiolydd ymgyfarwyddo â ffeithiau’r achos a dylid hysbysu’r comisiynydd traffig o flaen llaw o enw’r person a fydd yn bresennol.

3.4 BETH FYDD YN DIGWYDD OS NA ALLAF FOD YN BRESENNOL?

Os na all gweithredwr/ymgeisydd a/neu reolwr trafnidiaeth fod yn bresennol ar y dyddiad a roddir ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus gallant ofyn am ohiriad. Fodd bynnag, ni fydd gwrandawiadau fel arfer yn cael eu gohirio heblaw bod rheswm da a chymhellol dros wneud hynny. Felly bydd angen i’r comisiynydd traffig wybod y rhesymau pam na all y person perthnasol fod yn bresennol. Er enghraifft, os oes gwyliau a archebwyd o flaen llaw, gall y comisiynydd traffig ofyn am dystiolaeth ei fod wedi’i archebu cyn dyddiad y llythyr sy’n galw’r person hwnnw i’r ymchwiliad cyhoeddus. Nid yw comisiynydd traffig yn rhwym yn awtomatig i dderbyn tystysgrif feddygol. Rhaid i geisiadau am ohiriadau ar sail feddygol gael eu cefnogi gan dystiolaeth feddygol sy’n nodi os a pham na all person fynychu gwrandawiad. Nid oes unrhyw dribiwnlys wedi’i rwymo’n awtomatig gan dystysgrif feddygol a chaiff ddefnyddio ei ddisgresiwn i ddiystyru tystysgrif, yn enwedig lle;

  • mae’r dystysgrif yn datgan bod y parti yn anaddas i weithio (yn hytrach na’n anaddas i fynychu gwrandawiad);

  • mae’n ymddangos nad yw natur yr anhwylder, (e.e. torri braich), yn gallu atal presenoldeb yn y gwrandawiad;

  • mae’r parti wedi’i ardystio fel un sy’n dioddef o straen / gorbryder / iselder ac nid oes unrhyw arwydd bod y parti’n gwella o fewn amserlen realistig

4. Y GWRANDAWIAD

4.1 GOFYNION PENODOL

Os oes gan unrhyw un sy’n mynychu’r ymchwiliad unrhyw ofynion penodol neu fod angen eu cymryd i ystyriaeth e.e. at ddibenion crefyddol, mynediad i gadeiriau olwyn, nam ar y clyw neu’r golwg, neu os oes angen cyfieithydd arnoch, rhowch wybod i Swyddfa berthnasol y Comisiynydd Traffig o leiaf bythefnos cyn dyddiad yr ymchwiliad er mwyn gallu gwneud y trefniadau angenrheidiol.

Mae comisiynwyr traffig yn deall y gall ystod eang o amodau achosi anhawster i’r rhai sy’n mynychu gwrandawiadau. Yn ogystal â’r amodau corfforol gweledol amlwg, efallai y bydd gan rai pobl gyflyrau nad ydynt yn amlwg, ond a allai gyflwyno heriau ychwanegol. Gall y rhai sy’n bresennol mewn gwrandawiadau fod yn sicr y bydd unrhyw fater a godir gyda staff neu’r comisiynwyr yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol. Cymerir pob cam rhesymol i ddarparu ar gyfer anghenion unigol, ond mae’n bwysig bod Swyddfa’r Comisiynydd Traffig yn cael rhybudd priodol.

Os oes gan fynychwyr hoffterau penodol o ran sut i fynd i’r afael â hwy, e.e. defnydd rhagenwau, neu ar unrhyw fater arall y maent yn ei ystyried yn sensitif, dylent ei godi gyda staff naill ai cyn diwrnod y gwrandawiad neu cyn iddo ddechrau

4.2 DARPARU DOGFENNAU

Bydd y llythyr sy’n hysbysu gweithredwyr a rheolwyr trafnidiaeth am wrandawiad hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol. Dylid cydymffurfio’n llawn â’r rhain. Mae’n arferol i rai dogfennau gael eu hanfon cyn gwrandawiad. Mae dogfennau y gofynnir amdanynt yn gyffredin yn ymwneud â chofnodion cynnal a chadw cerbydau a thystiolaeth i ddangos cydymffurfiaeth ag oriau gyrwyr. Mae’n bwysig bod unrhyw ddogfen neu dystiolaeth yn cael ei hanfon at Swyddfa berthnasol y Comisiynydd Traffig o fewn y cyfnod a nodir, fel bod digon o amser i’w hystyried yn briodol. Os na dderbynnir dogfennau yn unol â chyfarwyddiadau, gall comisiynydd traffig benderfynu peidio â’u cymryd i ystyriaeth. Gallai hyn gael effaith negyddol ar y gweithredwr neu’r rheolwr trafnidiaeth.

4.3 CYRRAEDD Y LLEOLIAD

Heblaw y cyfarwyddir yn wahanol, fe’ch cynghorir i gyrraedd y lleoliad o leiaf awr cyn i’r ymchwiliad ddechrau a dod ag unrhyw ohebiaeth sy’n eich hysbysu o’r ymchwiliad ynghyd ag unrhyw bapurau achos a anfonwyd atoch gyda’r llythyr, a llun adnabod.

Dylai gwrthwynebwyr/cynrychiolwyr/achwynwyr sicrhau eu bod wedi cofrestru eu presenoldeb gyda Chlerc yr Ymchwiliad Cyhoeddus a fydd yn gwneud nodyn o enwau’r bobl sy’n mynychu, a’r rhai sydd am siarad yn yr Ymchwiliad. Gallai unrhyw fethiant i gofrestru arwain at golli’r cyfle i gael gwrandawiad.

Efallai y gofynnir i chi ddangos llun adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru, i gadarnhau pwy ydych chi. Gall methu â chyflwyno’r prawf adnabod gofynnol arwain at y comisiynydd traffig yn gwrthod clywed gennych. Os nad ydych yn sicr pa brawf adnabod sy’n dderbyniol dylech gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Traffig am eglurhad.

Bydd Clerc yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn dweud wrthych ble i eistedd a bydd yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y trafodion. Gall yr amser cychwyn gwirioneddol ddibynnu ar achosion eraill a restrir ar gyfer gwrandawiad y diwrnod hwnnw. Sicrhewch fod eich ffôn symudol wedi’i ddiffodd cyn i chi fynd i mewn i’r ystafell ymholiadau cyhoeddus.

4.4 Y GWEITHREDIADAU

Mae’r gweithrediadau hyn yn wrandawiadau ffurfiol a disgwylir i’r rhai sy’n bresennol ddangos parch at eraill ac at yr achosion eu hunain. Dylid cyfeirio at y comisiynydd traffig fel Syr neu Fadam, yn dibynnu ar y rhyw a nodwyd neu’n syml fel ‘Comisiynydd’.

Ni roddir tystiolaeth o dan llw ond mae’n ofynnol i dystion ddweud y gwir bob amser. Gallai unrhyw fethiant i wneud hynny arwain at y comisiynydd traffig yn canfod nad yw’r person ag enw da nac yn addas i ddal trwydded neu i weithredu fel rheolwr trafnidiaeth. Gallai hefyd effeithio ar y pwysau a roddir i dystiolaeth y person hwnnw. At hynny, gallai rhoi tystiolaeth ffug i gomisiynydd traffig gyfeirio at y mater yn cael ei gyfeirio at yr heddlu a gallai cyhuddiadau troseddol ddilyn.

Mae’r ymchwiliad yn agored i aelodau’r cyhoedd ac unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb. Bydd y comisiynydd traffig yn ystyried, ar gais, os dylid clywed tystiolaeth sensitif benodol mewn sesiwn breifat, e.e. gwybodaeth ariannol neu wybodaeth feddygol bersonol.

Ar ôl i’r clerc gyhoeddi’r achos a rhoi manylion cryno, bydd y comisiynydd traffig yn amlinellu natur y trafodion er mwyn sicrhau bod pawb yn deall pam ei fod yn digwydd a’r gweithdrefnau i’w dilyn.

Bydd pawb sydd â hawl i roi tystiolaeth, gwneud cyflwyniadau, neu wneud sylwadau yn cael cyfle i siarad a gofyn cwestiynau perthnasol. Mater i’r comisiynydd traffig yw penderfynu beth sy’n berthnasol at ddibenion yr achos. Gall unrhyw un sy’n rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad ddisgwyl i’r ymgeisydd/gweithredwr, neu gynrychiolydd sy’n gweithredu ar ei ran, ofyn cwestiynau iddo. Bydd y comisiynydd traffig hefyd yn gofyn cwestiynau i bob parti.

Wrth ystyried cais, bydd gan y comisiynydd traffig gopi o’r holl wrthwynebiadau a/neu sylwadau dilys. Gall y comisiynydd traffig ganiatáu i wybodaeth ychwanegol gael ei chyflwyno (ond mae hynny’n annhebygol o gynnwys seiliau ychwanegol) neu i ddogfennau neu ffotograffau ychwanegol gael eu cynhyrchu yn yr ymchwiliad. Mae’n ddefnyddiol dod â chopïau ychwanegol o ddogfennau i’r gwrandawiad gan y bydd hyn yn osgoi gorfod treulio llawer o amser yn mynd o gwmpas y dogfennau gwreiddiol.

Yn ystod yr gweithrediad gall y comisiynydd traffig ofyn i’r gweithredwr beth allai’r effeithiau fod ar ei fusnes pe bai’n cymryd camau yn erbyn y drwydded. Yn achos ceisiadau, gallai’r comisiynydd traffig ofyn am effaith bosibl amodau ar y gweithrediad arfaethedig.

Yn olaf, bydd y comisiynydd traffig yn ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd o flaen ef/hi.

Efallai y byddai’n ddefnyddiol paratoi rhai nodiadau o flaen llaw, yn rhestru’r pwyntiau perthnasol yr hoffech eu codi yn yr ymchwiliad gan gofio’r ffactorau y gallai’r comisiynydd traffig eu cymryd i ystyriaeth.

4.5 COFNODI’R YMHOLIAD

Bydd y trafodion yn cael eu recordio fel y gellir cynhyrchu trawsgrifiad, pe bai angen un. (Fel arfer, dim ond mewn achosion lle mae apêl yn erbyn penderfyniad y comisiynydd traffig y caiff trawsgrifiadau eu harchebu.) Sylwch y gallai gwybodaeth bersonol gael ei chofnodi yn ystod yr ymchwiliad a gallai gael ei rhoi i’r cyhoedd heblaw eich bod yn gofyn i’r wybodaeth hon gael ei rhoi yn breifat. Gall unrhyw gais o’r fath gael ei ganiatáu yn ôl disgresiwn y comisiynydd traffig.

Sylwch y gall unrhyw wybodaeth a roddwch i’r ymchwiliad gael ei ddatgelu i drydydd parti at ddibenion gorfodi.

Ni chaniateir i unrhyw un sy’n mynychu’r ymchwiliad wneud unrhyw gofnod arall o’r achos.

4.6 Y PENDERFYNIAD

Safon y prawf mewn achos o flaen comisiynydd traffig yw’r safon sifil, (h.y. yn llai na’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer achos llys troseddol, lle mae’r prawf ‘y tu hwnt i bob amheuaeth resymol’). Mewn ymchwiliad cyhoeddus dim ond bod angen i gomisiynydd traffig fod yn fodlon bod yr achos wedi’i brofi ar ‘gydbwysedd tebygolrwydd’, mewn geiriau eraill “a yw’n fwy tebygol na pheidio” bod rhywbeth penodol wedi digwydd.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd partïon sydd â diddordeb yn cael gwybod am ganlyniad yr ymchwiliad ar y diwrnod a chaiff hyn ei gadarnhau’n ysgrifenedig o fewn ychydig ddyddiau. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y comisiynydd traffig am ystyried ei benderfyniad ymhellach, ac os felly bydd y penderfyniad ysgrifenedig yn cael ei anfon atoch cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r comisiynydd traffig dderbyn yr holl wybodaeth berthnasol.

Bydd pob gwrthwynebydd/cynrychiolydd/achwynydd yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad a datganiad o resymau’r comisiynydd traffig, os gofynnir am hynny.

4.7 APELIADAU

Mae gan ymgeiswyr, gweithredwyr a gwrthwynebwyr statudol hawliau apelio gwahanol i Siambr Apeliadau Gweinyddol (Trafnidiaeth) yr Uwch Dribiwnlys. Bydd manylion ynghylch sut i apelio yn cael eu nodi yn y llythyr penderfyniad, a anfonir ar ôl yr ymchwiliad.

Mae gan gomisiynwyr traffig ddisgresiwn i gyfarwyddo na fydd penderfyniadau penodol, fel arfer yn ymwneud ag atal dros dro neu ddirymu trwydded gweithredwr, yn dod i rym hyd nes y bydd apêl yn cael ei chyflwyno ac yr ymdrinnir â nhw gan yr Uwch Dribiwnlys.

Dylid gwneud cais am arhosiad cyn gynted â phosibl ond gellir ei wrthod o hyd. Lle gwrthodir ataliad mae gan y parti hawl i apelio i farnwr yn Siambr Apeliadau Gweinyddol yr Uwch Dribiwnlys.

Mae gwefan y Tribiwnlys yn cynnwys ffurflen a manylion am y broses.

Ni all comisiynydd traffig adolygu ei benderfyniad i ganiatáu neu wrthod cais heblaw ei fod yn fodlon y bu rhywfaint o afreoleidd-dra gweithdrefnol wrth ymdrin ag ef. Rhaid gwneud cais i adolygu penderfyniad y comisiynydd traffig cyn gynted â phosibl, a beth bynnag o fewn dau fis i ddyddiad penderfyniad gwreiddiol y comisiynydd traffig. Cyfeirir cynrychiolwyr at y Canllaw i Wneud Sylwadau, Gwrthwynebiadau a Chwynion

Corff barnwrol annibynnol yw’r Uwch Dribiwnlys, a sefydlwyd i wrando a phenderfynu ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Comisiynwyr Traffig. Cyhoeddir penderfyniadau ar y gwefan. Gellir ddod o hyd i benderfyniadau a wnaed cyn Mehefin 2015 ar wefan: http://www.transporttribunal.gov.uk/Aspx/Default.aspx

Mae pob comisiynydd traffig yn ceisio cynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol a phroffesiynol. Mae unrhyw gŵyn bod comisiynydd traffig mewn rhyw ffordd wedi methu â chyrraedd y safonau hyn yn cael ei chymryd o ddifrif. Mae cwyn ynghylch ymddygiad yn gwbl ar wahân i unrhyw apêl i’r Uwch Dribiwnlys y gallech ddymuno ei ddilyn. Mae’r cyhoeddiad ‘Protocol Cwynion Trydydd Parti ar gyfer Comisiynwyr Traffig A Dirprwy Gomisiynwyr Traffig’ yn rhoi rhagor o wybodaeth.

5. CWESTIYNAU CYFFREDIN

5.1 Pwy yw comisiynwyr traffig a beth yw eu rôl?

Penodir comisiynwyr traffig gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Maent yn gorff cyhoeddus anadrannol, yn gweithio’n annibynnol ar yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a’i Hasiantaethau. Y comisiynydd traffig yn y pen draw sy’n penderfynu os ddylid galw ymgeisydd, gweithredwr, rheolwr trafnidiaeth a/neu yrrwr(wyr) i wrandawiad. Mae’r ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi cyfle i’r comisiynydd traffig archwilio, mewn lleoliad ffurfiol, yr ymgeisydd/gweithredwr a/neu’r rheolwr trafnidiaeth, a chlywed tystiolaeth cyn dod i benderfyniad ynghylch caniatáu neu wrthod cais neu gymryd camau rheoleiddio yn erbyn trwydded bresennol. Rheoleiddwyr annibynnol arbenigol yw comisiynwyr traffig sy’n gweithredu mewn swyddogaeth farnwrol wrth gynnal ymchwiliad cyhoeddus. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid iddynt sicrhau, fel unrhyw dribiwnlys arall ym Mhrydain, bod yr achosion yn deg ac yn rhydd rhag ymyrraeth a thuedd.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae comisiynwyr traffig yn ei wneud ar gael ar y gwefan:

https://www.gov.uk/government/organisations/traffic-commissioners/about

5.2 Sut y bydd y comisiynydd traffig yn ystyried cyllid?

Bydd y llythyr sy’n galw gweithredwr i ymchwiliad cyhoeddus yn nodi os yw’r comisiynydd traffig yn ystyried argaeledd cyllid yn erbyn lefel yr adnoddau y disgwylir i weithredwr neu ymgeisydd ei ddangos.

Wrth ystyried y mater hwn, bydd y comisiynydd traffig yn ceisio atebion i dri chwestiwn allweddol, a nodwyd gan y Tribiwnlys Trafnidiaeth mewn apêl 1992/D41 J J Adam (Haulage) Ltd. Y cwestiynau hyn yw:

  • Faint o arian all y gweithredwr ddod o hyd iddo os bydd angen?
  • Pa mor gyflym y gallant ddod o hyd iddo?
  • O ble y daw?

Bydd y comisiynydd traffig yn ystyried bod cyllid ar gael os oes gennych:

  • arian yn y banc y gellir ei ddefnyddio (h.y. nid oes ei angen eisoes ar gyfer talu dyledion yng nghwrs arferol y busnes), neu
  • orddrafft yn yr ystyr bod balans heb ei dynnu cyn cyrraedd y terfyn, neu
  • ddyledion y gellir eu cael oherwydd eu bod yn ddyledus ac yn debygol o fod yn hawdd eu casglu neu
  • asedau y mae’n hawdd cael arian ohonynt yn yr ystyr bod yr asedau yn eitemau y gellir eu gwerthu’n rhwydd heb unrhyw effaith andwyol ar allu’r busnes i gynhyrchu arian,
  • neu os oes gennych chi ffordd arall i ddod o hyd i arian ar fyr rybudd.

Mae’n bwysig nodi bod yn rhaid i ddeiliad trwydded allu dangos bod cyllid digonol ar gael yn barhaus yn ystod oes trwydded. Nid yw’n ddigon dangos cyllid digonol ar ddiwrnod yr ymchwiliad drwy atebion tymor byr e.e. benthyciadau dros dro sydd i’w had-dalu yn y dyfodol agos.

Ceir rhestr o’r mathau o dystiolaeth y gellid dibynnu arni yn y canllawiau statudol a g yhoeddwyd gan yr Uwch Gomisiynydd Traffig. Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y canllawiau hynny a cheisio cyngor annibynnol os nad ydych yn deall y gofynion.

5.3 Beth a olygir gan enw da neu addasrwydd i ddal trwydded?

Rhaid i bob deiliad trwydded gweithredwr safonol, trwydded PSV gyfyngedig a rheolwyr trafnidiaeth fod ag enw da. Rhaid i bob deiliad trwydded nwyddau cyfyngedig fod yn addas i ddal trwydded.

Wrth ystyried enw da ac addasrwydd, gall y comisiynydd traffig ystyried ymddygiad y gweithredwr neu’r ymgeisydd yn ogystal ag unrhyw euogfarnau perthnasol neu unrhyw wybodaeth arall sy’n ymddangos yn ymwneud ag addasrwydd deiliad y drwydded i fodloni rhwymedigaethau’r drwydded a gallu rheolwr trafnidiaeth i weithredu fel rheolwr trafnidiaeth ar drwydded safonol.

Mae’r euogfarnau perthnasol wedi cael eu datgan mewn deddfwriaeth. Gall collfarnau am droseddau trafnidiaeth ffordd a throseddau difrifol eraill arwain at golli enw da yn orfodol.

Bydd y llythyr sy’n eich galw i’r ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi gwybod pa dystiolaeth y mae’r comisiynydd traffig yn ei hystyried ac os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â hyn dylech gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Traffig am gyngor.

Ceir rhagor o fanylion am enw da ac addasrwydd yn y canllawiau statudol a’r cyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan yr Uwch Gomisiynydd Traffig sydd i’w gweld yn: Comisiynwyr traffig: enw da ac addasrwydd - GOV.UK (www.gov.uk)

5.4 Sut gallaf benderfynu os yw rheolwr trafnidiaeth yn fewnol neu’n allanol?

Rhaid i reolwr trafnidiaeth hefyd fod â chysylltiad gwirioneddol â’r gweithredwr. Mae’r cais a ffurflenni eraill yn gofyn am ddatganiad bod gan reolwr trafnidiaeth mewnol y cysylltiad gwirioneddol hwnnw. Ar gyfer rheolwr trafnidiaeth ‘Mewnol’ y gellid dangos os mai’r rheolwr trafnidiaeth yw:

  • deiliad y drwydded; neu
  • un o’r partneriaid y mae ei enw ar y drwydded; neu
  • sy’n gyfarwyddwr y cwmni y delir y drwydded yn ei enw; neu • weithiwr amser llawn neu ran-amser.

Gall y comisiynydd traffig wirio hyn ar unrhyw adeg yn ystod y broses ymgeisio neu yn ystod oes y drwydded ac yn erbyn datganiadau blaenorol trwy ofyn am brawf cyflogaeth, megis contract. Gellir ddangos cyflogaeth mewn nifer o ffyrdd, gan ddechrau gyda threth a chyfraniadau gweithwyr. Yn gyffredinol, mae gweithiwr (mewnol) fel arfer yn rhan o sefydliad y cyflogwr ac yn gwneud ei waith fel rhan annatod o’r busnes tra nad yw contractwr annibynnol (allanol) fel arfer wedi’i integreiddio i’r sefydliad ond mae’n affeithiwr iddo.

5.5 Beth yw cymhwysedd proffesiynol?

Fel arfer dangosir Cymhwysedd Proffesiynol trwy gynhyrchu tystysgrif (CPC) sy’n bodloni’r gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae rhai pobl wedi cael eu heithrio o’r gofyniad drwy gymwysterau a enillwyd neu drwy feddu ar dystysgrif Hawliau Caffaeledig a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i’r bobl hynny a ddangosodd eu bod wedi ‘rheoli’n barhaus’ weithrediad cludiant ffordd neu gludiant teithwyr ffordd yn y DU neu un neu fwy o Aelod-wladwriaethau’r UE am y cyfnod o 10 mlynedd yn diweddu 4 Rhagfyr 2009. Nid yw tystysgrifau Hawliau Caffaeledig newydd ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ar gael rhagor a byddai angen cymwysterau amgen er mwyn cyflawni rôl rheolwr trafnidiaeth.

Mae newidiadau i’r system trwyddedu gweithredwyr i ddod â cherbydau (neu gyfuniadau) dros 2.5 tunnell a hyd at 3.5 tunnell sy’n ymwneud â gweithrediadau llogi neu wobrwyo i’r UE, wedi arwain at ailgyflwyno tystysgrifau ‘Hawliau Caffaeledig’ ar gyfer y math hyn o weithrediad yn unig. Y bwriad yw y bydd y rhain yn cael eu cyfyngu i gyfnod o dair blynedd er mwyn galluogi pobl i ennill y cymhwyster llawn. Ni fydd y tystysgrifau hyn yn eithrio pobl sy’n rheoli fflyd o gerbydau nwyddau trwm. Nid yw’r ddeddfwriaeth hon wedi dod i rym eto.

Bernir bod deiliad tystysgrif cymhwysedd proffesiynol yn meddu ar wybodaeth sy’n cyfateb i’r lefel a nodir yn y ddeddfwriaeth heblaw bod comisiynydd traffig yn canfod fel arall. Nid yw’n bosibl rhestru’r holl ddyletswyddau y gellid ddisgwyl i reolwr trafnidiaeth eu cyflawni, er y gallai’r Canllawiau Statudol a’r Cyfarwyddiadau Statudol fod o gymorth.

Gallai gwahanol dimau neu is-adrannau o fewn busnes gyflawni swyddogaethau amrywiol, ond y rheolwr trafnidiaeth sy’n gyfrifol yn y pen draw am gyflawni’r ddyletswydd statudol. Os bydd comisiynydd traffig yn canfod fel arall, yna gall y comisiynydd traffig orchymyn i’r rheolwr trafnidiaeth hwnnw gymryd mesurau adsefydlu sy’n cynnwys ailsefyll yr arholiad cymhwyster i gael Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol.

5.6 Beth yw ymchwiliad cyhoeddus ‘amgylcheddol’?

Llaw-fer yw hwn ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i bennu addasrwydd canolfan weithredu ar gyfer trwydded gweithredwr cerbydau HGV. Mae’n un yn unig o nifer o faterion y mae’n rhaid i’r comisiynydd traffig eu hystyried wrth benderfynu ar y cais. Gall perchnogion a deiliaid eiddo ger y ganolfan weithredu arfaethedig sy’n credu y byddai effaith niweidiol ar eu defnydd neu eu mwynhad o’u heiddo eu hunain wneud sylwadau ar sail amgylcheddol yn unig. Mae’n rhaid i’r sylwadau hynny gydymffurfio â nifer o amodau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith sy’n sicrhau bod yr achos yn deg cyn y gellir eu trin fel rhai dilys.

Gall y comisiynydd traffig ystyried:

  • natur neu ddefnydd unrhyw dir arall yng nghyffiniau’r ganolfan weithredu a’r effaith y byddai’r drwydded yn debygol o’i chael ar yr amgylchedd;
  • os yw’r safle wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan weithredu o’r blaen, i ba raddau y byddai caniatáu’r cais yn arwain at newid a fyddai’n effeithio’n andwyol ar amgylchedd ei gyffiniau;
  • os nad yw wedi cael ei ddefnyddio fel canolfan weithredu o’r blaen, unrhyw wybodaeth y mae’n hysbys iddo/iddi am ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r ganolfan weithredu neu dir arall yng nghyffiniau’r ganolfan weithredu;
  • nifer, math a maint y cerbydau modur a threlars awdurdodedig;
  • y trefniadau, neu’r trefniadau arfaethedig, ar gyfer parcio cerbydau modur neu drelars;
  • natur ac amserau defnydd y tir fel canolfan weithredu;
  • natur ac amserau defnyddio offer a osodwyd (neu y bwriedir eu gosod) yn y ganolfan weithredu mewn cysylltiad â’i ddefnydd fel canolfan weithredu;
  • y modd y mae cerbydau a awdurdodwyd gan y drwydded yn mynd i mewn ac allan o’r ganolfan weithredu, ac amlder y cerbydau hynny.

Yn gyffredinol, gall y comisiynydd traffig ystyried effeithiau: Sŵn – cerbydau’r ymgeisydd yn symud i mewn ac allan o’r ganolfan weithredu a thra yn y ganolfan; Ymwthiad Gweledol – yr effaith y gallai parcio cerbydau yn y ganolfan weithredu ei chael ar yr olygfa o eiddo neu dir y sawl sy’n cynrychioli; Dirgryniad - yr effaith y gall symudiadau cerbydau ei chael, naill ai yn y ganolfan weithredu neu ar eu ffordd i mewn neu allan o’r ganolfan weithredu; Mygdarth/Llygredd – effaith mygdarth o gerbydau’r ymgeisydd ar ddefnydd neu fwynhad o eiddo.

Gall y comisiynydd traffig ganiatáu neu wrthod y cais yn llawn neu’n rhannol a gall osod amodau amgylcheddol a/neu ddiogelwch ffyrdd, ond mae cyfyngiadau i’w awdurdodaeth. Dim ond mewn perthynas â’r ymgeisydd y gall y comisiynydd traffig osod amodau ar ddefnyddio canolfan weithredu ac ni all osod cyfyngiadau ar unrhyw gerbydau sy’n ymweld â’r safle neu’n ei ddefnyddio at ddibenion eraill. Mae’r ymchwiliad cyhoeddus yn gwbl ar wahân i unrhyw un y gallai’r awdurdodau priffyrdd, cynllunio neu awdurdodau lleol ei gynnal. Cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio lleol yw defnyddio’r safle at ddibenion eraill. Mae pryderon ynghylch y briffordd gyhoeddus sy’n arwain at y ganolfan weithredu neu’r rhwydwaith ffyrdd o amgylch yn faterion i awdurdodau priffyrdd.

5.7 Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn bodloni’r gofynion statudol?

Nid yw ymchwiliad cyhoeddus yn llys troseddol ac felly bydd y comisiynydd traffig yn ymwneud â sefyllfa’r gweithredwr ar ddyddiad yr ymchwiliad cyhoeddus. Un ffordd o ddangos eich bod yn bodloni’r amodau/ymrwymiadau ar drwydded bresennol yw dod â’r cofnodion y gofynnwyd amdanynt yn y llythyr sy’n eich galw i ymchwiliad cyhoeddus i’r gwrandawiad. Yn syml, os yw’r comisiynydd traffig yn canfod nad yw’r gofynion yn cael eu bodloni yna gall wrthod cais a/neu gymryd camau yn erbyn y drwydded neu eich enw da/cymhwysedd proffesiynol fel rheolwr trafnidiaeth.

Fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ddeiliad trwydded safonol (ond nid ymgeiswyr) ofyn i’r comisiynydd traffig am gyfnod o amser (‘cyfnod gras’) i unioni’r sefyllfa. Nid oes rhwymedigaeth ar y comisiynydd traffig i roi cyfnod gras. Mae’r cyfnodau mwyaf a ganiateir o dan y ddeddfwriaeth fel y canlynol:

Diffyg Cyfnod Mwyaf Gras
Rheolwr Trafnidiaeth, Gadael cyflogaeth 6 months
Rheolwr Trafnidiaeth, Marwolaeth neu anallu corfforol 6 + 3 months
Sefydliad Effeithiol a Sefydlog 6 months
Sefyllfa Ariannol 6 mis i ddangos bydd y gofyniad yn cael ei fodloni ar sail barhaol

5.8 Ble gallaf ddod o hyd i wybodaeth ychwanegol?

Mae’r Uwch Gomisiynydd Traffig wedi cyhoeddi cyfres o Ganllawiau Statudol a Chyfarwyddiadau Statudol sy’n amlinellu’r arferion mewn amryw o feysydd cyfreithiol. Ymhlith pethau eraill, maent yn cynnwys Addasrwydd ac Enw Da; Cyllid; Rheolwyr Trafnidiaeth; Canolfannau Gweithredu a Sefydliadau Stablau; Rheoli Achos; Egwyddorion Gwneud Penderfyniadau.

5.9 Deddfwriaeth Berthnasol

Rhestrir y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati amlaf isod. Mae llawer o’r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei ddiwygio.

5.10 Trwyddedu gweithredwr cerbyd nwyddau

Deddf Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredwyr) 1995

Rheoliadau Cerbydau Nwyddau (Trwyddedu Gweithredwyr) 1995 (SI 1995/2869)

Rheoliadau Gweithredwyr Trafnidiaeth Ffyrdd 2011 (SI 2011/2632)

Rheoliad (EC) Rhif 1071/2009 (Mynediad at feddiannaeth gweithredwr trafnidiaeth ffordd) (Fel y cedwir yng nghyfraith y DU)

Rheoliad (EC) Rhif 1072/2009 (Rheolau cyffredin ar gyfer mynediad i’r farchnad cludo nwyddau ar y ffyrdd rhyngwladol) (Fel y cedwir yng nghyfraith y DU)

Rheoliadau Cerbydau Nwyddau (Pwerau Gorfodi) 2001

5.11 Trwyddedu gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus

Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 1981

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Trwyddedau Gweithredwyr) 1995

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Comisiynwyr Traffig: Cyhoeddi ac Ymholiadau) 1986

Deddf Trafnidiaeth 1985

Deddf Trafnidiaeth 2000

Deddf Trafnidiaeth Leol 2008

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (Pwerau Gorfodi) 2009

Rheoliadau Cerbyd Gwasanaethau Cyhoeddus (Cofrestru Gwasanaethau Lleol) (yr Alban) 2001

Rheoliadau Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (Cofrestru Gwasanaethau Lleol) 1986

Efallai y byddwch am gael copi o’r Ddeddf neu’r Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y llythyr sy’n eich galw i’r ymchwiliad cyhoeddus oddi wrth y Llyfrfa Cyfyngedig: www.tso.co.uk. Fel arall, gellir gweld fersiynau electronig o’r Ddeddf a’r Rheoliadau ar wefan www.legislation.gov.uk