Datganiad i'r wasg

Tirwedd Llechi Cymru wedi cael ei henwebu ar gyfer statws Treftadaeth y Byd UNESCO

Mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei henwebu ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd UNESCO

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Slate Landscape of North West Wales has been nominated for UNESCO World Heritage Status

Slate Landscape of North West Wales has been nominated for UNESCO World Heritage Status

  • Os bydd yn llwyddiannus, ardal y tirwedd llechi fydd y trydydd safle ar ddeg ar hugain o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU
  • Byddai’n ymuno â’r rhestr fyd-eang llawn bri, sy’n cynnwys y Grand Canyon, Dinas y Fatican, Mur Mawr Tsieina a Machu Picchu

Gallai Tirwedd Cloddio Llechi Gogledd-orllewin Cymru fod yn Safle Treftadaeth y Byd nesaf y DU, cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Helen Whately, heddiw wrth iddi gyflwyno’r enwebiad ffurfiol i UNESCO.

Os bydd yr enwebiad yn cael ei dderbyn, y tirwedd fydd y trydydd safle ar ddeg ar hugain o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU, a’r pedwerydd yng Nghymru. Y safleoedd eraill yng Nghymru yw Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.

Roedd y tirwedd hon - sy’n ymestyn drwy sir Gwynedd yng Nghymru - yn arwain y gad o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn ystod y ddeunawfed ganrif. Roedd llechi wedi cael eu cloddio yng ngogledd Cymru am dros 1,800 o flynyddoedd ac wedi cael eu defnyddio i adeiladu rhan o gaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy. Fodd bynnag, dim ond yn ystod y Chwyldro Diwydiannol y gwelwyd cynnydd yn y galw wrth i ddinasoedd ledled y DU ddatblygu, gyda llechi’n cael eu defnyddio’n aml ar doeau ffatrïoedd a chartrefi gweithwyr.

Erbyn y 1890au, roedd y diwydiant llechi’n cyflogi tua 17,000 ac yn cynhyrchu 485,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Cafodd y diwydiant effaith enfawr ar bensaernïaeth fyd-eang. Roedd llechi o Gymru yn cael eu defnyddio ar nifer o adeiladau, terasau a phalasau ar draws y byd, gan gynnwys Neuadd San Steffan, yr Adeilad Arddangos Brenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd y Ddinas Copenhagen, Denmarc.

Dywedodd Gweinidog Treftadaeth y DU, Helen Whately:

Mae’r tirwedd lechi anhygoel yn arwyddocaol iawn i Ogledd-orllewin Cymru a’i threftadaeth ddiwydiannol. Mae’r ardal yn cael ei disgrifio fel rhywle sydd wedi ‘toi byd y bedwaredd ganrif ar bymtheg’ ac mae llechi o’r chwareli’n dal i gael dylanwad ar bensaernïaeth y byd.

Mae’r enwebiad hwn yn ffordd wych o gydnabod pwysigrwydd treftadaeth chwareli llechi Cymru, a bydd yn arwain at fanteision nid yn unig i Wynedd ond i Ogledd Cymru gyfan, drwy ddenu ymwelwyr, hybu buddsoddiad a chreu swyddi.

Yn ogystal â’r galw rhyngwladol am lechi o Gymru, rhwng 1780 a 1940 roedd yr ardal yn gartref i nifer o ddatblygiadau cynhenid mewn prosesu cerrig a chwarela a thechnoleg rheilffyrdd ar gyfer ardaloedd mynyddig.

Erbyn heddiw, mae’r tirwedd wedi cael ei thrawsnewid ar raddfa aruthrol oherwydd y cannoedd o flynyddoedd o gloddio yn yr ardal. Mae’r enwebiad i UNESCO yn adlewyrchu hyn ac arwyddocâd rhyngwladol llechi Cymru o ran ‘toi byd y bedwaredd ganrif ar bymtheg’.

Mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei chyflwyno’n ffurfiol i UNESCO erbyn hyn fel enwebiad nesaf y DU ar gyfer Rhestr Treftadaeth y Byd yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Bydd y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd nawr yn ystyried y safle dros y flwyddyn nesaf, cyn bydd y safle’n cael ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Treftadaeth yn 2021. Rhagwelir y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch statws Tirwedd Llechi Cymru yn ystod cyfarfod Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, David TC Davies:

Mae tirwedd trawiadol arall yng Nghymru wedi cael ei henwebu’n ffurfiol i’w chynnwys ar restr o rai o ryfeddodau’r byd - anrhydedd haeddiannol iawn, ac un sy’n cydnabod y rôl sylweddol y mae’r rhanbarth hwn wedi’i chwarae yn y diwydiant llechi yn y DU a ledled y byd yn ein gorffennol diwydiannol.

Heddiw, bydd yr enwebiad yn rhoi hwb arall i’r diwydiant twristiaeth ac yn ysgogi rhagor o fuddsoddi ar draws Gogledd-orllewin Cymru.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas:

Rydyn ni wrth ein bodd fod Tirwedd Llechi Gogledd Cymru’n cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y DU ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol sy’n haeddu cael ei dathlu.

Mae’r enwebiad hwn yn rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i’r tirwedd eithriadol hon - sydd wedi’i gwreiddio yn ein daeareg a’n diwylliant ni, ond sy’n arwyddocaol yn fyd-eang. Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid am eu gwaith caled yn paratoi’r cais, a hoffwn ddymuno’n dda i’r cais wrth iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi, y Cynghorydd Gareth Thomas:

Rwy’n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod angen mwy o ddealltwriaeth o arwyddocâd diwydiant llechi Cymru a’i rôl nid yn unig o ran ffurfio ein cymunedau, ein hiaith a’n diwylliant, ond hefyd o ran toi’r byd ac allforio technolegau a phobl yn fyd-eang. Mae’r cam pwysig hwn yn y broses yn newyddion da wrth i ni gyflwyno ein henwebiad i UNESCO.

Mae’r cais yn ein helpu ni i ddathlu a chydnabod ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith unigryw, a bydd hefyd yn agor y drws i gyfleoedd adfywio’r economi ledled yr ardal, gan gynnwys y diwydiant chwarela presennol, sgiliau traddodiadol a chrefft ynghyd â cheisio creu twristiaeth gynaliadwy a chyfleoedd gwaith gwerth uchel yng Ngwynedd.

Nodiadau i olygyddion

Yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n gyfrifol am fodloni gofynion Confensiwn Treftadaeth y Byd yn y DU. Mae hyn yn cynnwys cynnal ac adolygu’r Rhestr Amodol o safleoedd, enwebu safleoedd newydd yn ffurfiol a sicrhau bod safleoedd presennol yn cael eu cadw, eu gwarchod ac yn rhan o fywyd y gymuned.

Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, cestyll a muriau trefi’r drydedd ganrif ar ddeg a adeiladwyd gan y Brenin Edward I yng Ngwynedd a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte yw Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO eraill yng Nghymru.

Bydd Dinas Caerfaddon, a gafodd ei chynnwys ar restr Treftadaeth y Byd yn 1987 yn wreiddiol, yn cael ei hystyried ar gyfer dynodiad deuol yn ystod haf 2020, fel rhan o enwebiad trawswladol ar gyfer Trefi Ffynhonnau Ewrop, ynghyd ag un ar ddeg o drefi ffynhonnau eraill yn Ewrop.

Dyma Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO eraill yn y DU:

Diwylliannol:

  • Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (2000)

  • Palas Blenheim (1987)

  • Eglwys Gadeiriol Caergaint, Abaty St Augustine, ac Eglwys St Martin (1988)

  • Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd (1986)

  • Dinas Caerfaddon (1987)

  • Tirwedd Mwyngloddio Cernyw a Gorllewin Dyfnaint (2006)

  • Melinau Dyffryn Derwent (2001)

  • Castell Durham a’r Gadeirlan (1986)

  • Ffiniau’r Ymerodraeth Rufeinig (1987, 2005, 2008)

  • Ogof Gorham (2016) 

  • Calon Cyfnod Neolithig Ynysoedd Orkney (1999)

  • Tref Hanesyddol St George a’r Ceyrydd Cysylltiedig, Bermuda (2000)

  • Ceunant Ironbridge (1986)

  • Lerpwl – Dinas Arforol Fasnachol (2004)

  • Greenwich Forwrol (1997)

  • New Lanark (2001)

  • Hen Dref a Thref Newydd Caeredin (1995)

  • Palas Westminster ac Abaty Westminster, gan gynnwys Eglwys St Margaret (1987)

  • Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte (2009) 

  • Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew (2003)

  • Saltaire (2001)

  • Côr y Cewri, Avebury a Safleoedd Cysylltiedig (1986)

  • Parc Brenhinol Studley gan gynnwys Adfeilion Abaty Fountains (1986)

  • Ardal y Llynnoedd yn Lloegr (2017)

  • Pont Reilffordd Forth (2015)

  • Tŵr Llundain (1988)

  • Arsyllfa Jodrell Bank (2019)


Naturiol:

  • Arfordir Dorset a Dwyrain Dyfnaint (2001)

  • Giant’s Causeway ac Arfordir Causeway (1986)

  • Ynysoedd Gough ac Inaccessible (1995, 2004)

  • Ynys Henderson (1988)
 


Cymysg:

  • St Kilda (1986, 2004, 2005)


Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Ionawr 2020