Stori newyddion

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu cymorth COVID-19 pellach y Canghellor

Mae'r Canghellor wedi ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws tan ddiwedd mis Mawrth 2021.

Wrth sôn am gyhoeddiad y Canghellor ar 5 Tachwedd y byddai’r cynllun ffyrlo yn parhau i wanwyn 2021 a bod y gefnogaeth i’r hunangyflogedig yn cael ei hymestyn, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Rydym wedi cefnogi mwy na hanner miliwn o fywoliaethau yng Nghymru hyd yma yn ystod y pandemig ac mae’r pecyn a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar bobl a busnesau yn y misoedd i ddod.

Yn ogystal â mynd i’r afael â’r coronafeirws, mae blaenoriaeth Llywodraeth y DU wedi bod i ddiogelu swyddi ledled Cymru a gweddill y DU. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu lefel ddigynsail o gymorth ariannol i’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru gyda £5 biliwn ychwanegol eleni bellach wedi’i warantu i sicrhau y gall gynllunio ei hymateb yn ystod y misoedd nesaf.

Rydym yn mynd i’r afael â’r pandemig fel un Deyrnas Unedig a bydd gweithwyr, teuluoedd a busnesau ledled Cymru yn parhau i gael mynediad llawn i’n cymorth ariannol digynsail ledled y DU.

Cefndir:

  • Bydd y cynllun ffyrlo yn cael ei ymestyn tan ddiwedd Mawrth 2021
  • Bydd y grant cymhorthdal incwm hunangyflogedig nesaf hefyd yn cynyddu o 55% i 80% o’r elw cyfartalog – hyd at £7,500
  • Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £5 biliwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru ymdopi â phwysau’r pandemig ac rydym yn diogelu dros 68,000 o swyddi yng Nghymru drwy ein cynllun ffyrlo, i lawr o uchafbwynt o 378,400 ym mis Mehefin
  • Mae dros 48,000 o fenthyciadau gwerth mwy na £1.3 biliwn wedi’u cynnig o dan y Cynllun Benthyciadau Ailgydio
  • Mae dros 1,600 o fenthyciadau gwerth £373 miliwn wedi’u cynnig o dan Gynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws
  • Mae 82,000 o bobl yng Nghymru wedi elwa o’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
Cyhoeddwyd ar 5 November 2020