Stori newyddion

Gwyliwch ein fideo ar gwblhau’ch datganiad cadarnhau

Mae’n ofynnol i bob cwmni gwblhau datganiad cadarnhau a darganfod a chofnodi’r bobl sy’n berchen ar eu cwmni neu â rheolaeth drosto.

Graphic showing a tick and tickbox

Cwblhau’ch datganiad cadarnhau

Bydd pob cwmni’n cael nodyn atgoffa bythefnos cyn ei bod yn bryd iddo ffeilio ei ddatganiad cadarnhau. Rhaid iddo gael ei gyflwyno o fewn 14 diwrnod i’ch dyddiad dyledus.

Gallwch ffeilio cynifer o ddatganiadau cadarnhau ag ydych eisiau drwy gydol y flwyddyn ond talu’ch ffi unwaith yn unig.

Ffeilio’ch datganiad cadarnhau ar lein yw’r ffordd hawsaf i gyflwyno’ch datganiad cadarnhau. Mae’n gyflymach ac yn rhatach na’i ffeilio ar bapur.

Gwyliwch ein canllaw fideo (yn Saesneg) ar y datganiad cadarnhau

Online filing video

Os ydych chi’n arfer ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd trydydd parti, bydd angen ichi gysylltu â darparwr y meddalwedd i gael cyngor ar ffeilio gwybodaeth am bobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA).

Wrth ffeilio’ch datganiad cadarnhau dim ond statws cyfredol eich PRhA y gellir ei gofnodi gan ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling. Os bu nifer o newidiadau i un PRhA neu ddatganiad rhwng mis Ebrill 2016 a’r dyddiad mae’ch datganiad cadarnhau yn ddyledus, bydd angen ichi ffeilio:

  • datganiad cadarnhau ar gyfer pob newid, neu*
  • ar bapur, gan ddangos yr holl newidiadau hanesyddol ar un tro (fel arfer mae’n cymryd mwy o amser i ffeilio ar bapur)

I gael mwy o wybodaeth darllenwch ein canllawiau ar y datganiad cadarnhau..

Pobl â rheolaeth arwyddocaol

Mae’n ofynnol i bob cwmni, gan gynnwys Societates Europaeae (SEs) a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) ddarganfod a chofnodi’r bobl sy’n berchen ar eu cwmni neu â rheolaeth drosto. Dyma’r bobl â rheolaeth arwyddocaol (PRhA) ac erbyn hyn dylech fod yn cadw eu manylion ar eich cofrestr PRhA.

Bydd angen ichi roi’r wybodaeth hon inni fel rhan o’r datganiad cadarnhau newydd (sy’n disodli’r ffurflen flynyddol) neu pan gaiff cwmnïau, PAC neu SEs eu corffori.

Mae angen ichi:

  • ddarganfod pobl â rheolaeth arwyddocaol eich cwmni a chadarnhau’r wybodaeth amdanynt
  • cofnodi manylion y PRhA yng nghofrestr eich cwmni o’i PRhA
  • rhoi’r wybodaeth hon inni fel rhan o’ch datganiad cadarnhau cyntaf
  • nodi unrhyw newidiadau i’ch cofrestr PRhA a rhoi gwybod inni yn eich datganiad cadarnhau nesaf

Darganfod eich PRhA

PRhA yw rhywun yn eich cwmni sy’n bodloni un neu ragor o’r canlynol:

Amod Mae angen ichi
1. Person sy’n dal mwy na 25% o’r cyfrannau yn eich cwmni Wirio cofrestr aelodau’ch cwmni a darganfod cyfranddaliadau o fwy na 25%
2. Person sy’n dal mwy na 25% o’r hawliau pleidleisio yn eich cwmni Gwirio cofrestr aelodau ac erthyglau cymdeithasiad eich cwmni a darganfod pobl sydd â hawliau pleidleisio (sydd yn aml yn gysylltiedig â chyfrannau) o fwy na 25%
3. Person sy’n dal yr hawl i benodi neu ddiswyddo mwyafrif o’r cyfarwyddwyr Gwirio cyfansoddiad eich cwmni, gan gynnwys yr erthyglau cymdeithasiad, a darganfod a yw’r hawl hwn gan unrhyw un
Mae’r amodau canlynol yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig
Person sydd â’r hawl i arfer, neu sy’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad neu reolaeth arwyddocaol dros eich cwmni Ni fyddech yn ystyried hyn ond pan nad yw person yn bodloni un o’r amodau (1) i (3) ond bod ganddo ddylanwad neu reolaeth dros eich cwmni o hyd
Mae unigolyn yn PRhA o’ch cwmni os oes ganddo’r hawl i arfer, neu mae’n arfer mewn gwirionedd, ddylanwad neu reolaeth arwyddocaol dros weithgareddau ymddiriedolaeth neu gwmni, a fyddai yn ei dro’n bodloni unrhyw un o’r pedwar amod cyntaf pe bai’n berson Ni fyddech yn ystyried hyn ond pe bai ymddiriedolaeth neu gwmni’n bodloni un o’r amodau uchod (er enghraifft, mae ymddiriedolaeth yn dal mwy na 25% o’r cyfrannau yn eich cwmni)

Gwyliwch ein canllaw fideo ar PRhA (yn Saesneg)

Cadw’ch cofrestr PRhA

Cyn y gellir cofnodi PRhA ar eich cofrestr mae’n rhaid ichi gadarnhau ei holl fanylion gydag ef. Dyma’r manylion rydych eu hangen:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cenedligrwydd
  • cyfeiriad preswyl a chyfeiriad cyflwyno hysbysiadau
  • y wlad, y wladwriaeth neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig lle mae’ch PRhA yn byw fel arfer
  • y dyddiad y daeth yn PRhA (6 Ebrill 2016 yw’r dyddiad cynharaf y gallwch ei ddefnyddio)
  • natur yr amodau rheolaeth sy’n berthnasol iddo (er enghraifft, mae’n dal mwy na 25% o’r cyfrannau yn eich cwmni)

Ni fydd cyfeiriad preswyl y PRhA ar gael ar ein cofrestr gyhoeddus, ac ni ddangosir diwrnod ei eni chwaith. Bydd yr holl wybodaeth arall am y PRhA ar gael ar y gofrestr gyhoeddus, yn debyg iawn i’r ffordd y delir manylion cyfarwyddwyr ac aelodau ar hyn o bryd.

Ni all eich cofrestr PRhA byth fod yn wag. Os na ellir rhoi gwybodaeth am eich PRhA am ryw reswm, neu os nad oes dim gennych chi, gwnewch hynny’n glir ar eich cofrestr PRhA a dewiswch y datganiad cywir wrth ffeilio’ch datganiad cadarnhau.

Mae’n drosedd peidio â rhoi inni wybodaeth gywir am eich PRhA.

I gael mwy o wybodaeth darllenwch ein canllawiau ar PRhA.

Gwarchod pobl sydd mewn perygl

Lle gall person ddangos ei fod mewn perygl o fygythiadau neu drais oherwydd ei gysylltiad â chwmni penodol (er enghraifft, mae ei gwmni’n darged i actifyddion) gall wneud cais i gael gwarchod ei gyfeiriad preswyl fel na chaiff ei rannu gydag asiantaethau hanes credyd neu i gael celu ei fanylion llawn fel nad ydynt yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus.

If you think any of your PSCs need protection you should contact them immediately. They’ll need to make an application for protection, which will be assessed by us.

Os ydych chi’n meddwl bod unrhyw un o’ch PRhA angen gwarchodaeth dylech gysylltu ag ef ar unwaith. Bydd angen iddo wneud cais am warchodaeth,, a gaiff ei asesu gennym ni.

Os rhoddwyd gwarchodaeth i’ch PRhA o’r blaen fel cyfarwyddwr neu aelod, rhaid iddo wneud cais arall am warchodaeth fel PRhA.

Os rhoddir gwarchodaeth iddo, bydd angen o hyd ichi anfon eich gwybodaeth am y PRhA atom pan mae’n ofynnol ond ni fydd yn ymddangos ar y gofrestr gyhoeddus. Bydd y wybodaeth ar gael i’r heddlu ond nid i asiantaethau hanes credyd.

Cyhoeddwyd ar 2 August 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 August 2016 + show all updates
  1. Welsh Translation added to page

  2. First published.