Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Swyddfa Cymru yn coffau Sul y Cofio

Bydd pob un o Weinidogion Swyddfa Cymru’n mynychu Gwasanaethau Cofio ar ddydd Sul

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Poppy wreaths courtesy of cjearn on Flickr

Bydd pob un o Weinidogion Swyddfa Cymru’n coffau cyfraniad milwyr Prydain a’r dynion a’r menywod a wasanaethodd mewn rhyfel mewn gwasanaethau arbennig ar Sul y Cofio eleni (10 Tachwedd 2013).

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn mynychu’r Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol wrth y Gofeb yn Whitehall, Llundain.

Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson yn mynychu Gwasanaeth y Cofio ac yn gosod torch ger y gofeb ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, a bydd Stephen Crabb AS yn mynychu gwasanaeth yn Neyland a Hwlffordd, Sir Benfro.

Dywed Ysgrifennydd Gwladol, David Jones:

Ar Sul y Cofio, rydym yn sefyll ynghyd fel cenedl i gofio dewrder ac ymrwymiad y dynion a’r menywod a wasanaethodd mewn rhyfeloedd ym mhedwar ban byd. Rydym yn anrhydeddu ac yn talu ein gwrogaeth i’w dewrder di-ildio a’u hymroddiad ar y diwrnod pwysig hwn.

Mae’n fraint gennyf gynrychioli pobl Cymru wrth y Gofeb. Byddaf yn meddwl am y dynion a’r menywod o Gymru a roddodd eu bywydau i wasanaethu ein gwlad, boed hynny gartref neu dramor.

Eleni, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal rhaglen goffau bedair-blynedd, ar hyd a lled y DU, i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Bydd gan Gymru ran fawr i’w chwarae yn y digwyddiadau, a bydd yn helpu i sicrhau nad anghofir fyth yr aberth a wnaed gan ein milwyr, ac sy’n parhau i gael ei gwneud heddiw, dros ein gwlad.

Dywed y Farwnes Randerson:

Mae’n bwysig bod pob un ohonom yn manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch a dangos ein gwerthfawrogiad o’r aberth sy’n cael ei gwneud bob dydd ar ein rhan, gan gynifer o ddynion a menywod dewr ar draws y byd.

Boed ni’n myfyrio dros erchyllterau rhyfel, yn cofio aelodau o’n teulu a wasanaethodd neu yn ymweld â chofeb, mae Sul y Cofio yn gyfle i ni ddeall ein gorffennol yn well - a deall sut mae’n dal i ddylanwadu arnom heddiw.

Dywed Stephen Crabb AS:

Yng Nghymru, mae gennym y fraint o fod â hanes milwrol hir a balch. Ar Sul y Cofio, byddwn yn cofio ac yn anrhydeddu aberth pob un o’r rhai a ymladdodd ac sy’n parhau i ymladd wrth wasanaethu ein gwlad. Rydym am adael iddynt wybod nad yw eu hymroddiad yn cael ei anwybyddu.

Bydd rhaglen y DU o ddigwyddiadau i goffau’r Rhyfel Mawr yn dechrau gyda gwasanaeth i arweinwyr y Gymanwlad yng Nghadeirlan Glasgow a gwasanaeth golau cannwyll yn Abaty Westminster ar 4 Awst. Dilynir hyn gan ddigwyddiadau i nodi pum dyddiad allweddol arall: canmlwyddiant glaniadau Gallipoli, Brwydr Jutland, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme, diwrnod cyntaf Passchendaele ac, yn olaf, Diwrnod y Cadoediad.

Nodiadau i olygyddion:

I gefnogi rhaglen y canmlwyddiant, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y rhoddir mwy o gefnogaeth i gymunedau lleol sydd eisiau coffau’r canmlwyddiant mewn ffyrdd cyffrous a chreadigol. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cyhoeddi’r grantiau cyntaf dan ei rhaglen grantiau bach ‘y Rhyfel Mawr - Bryd Hynny a ’Nawr’ i gefnogi prosiectau’n amrywio o adfer a gwella cofebion rhyfel, i greu arddangosfeydd addysgiadol neu berfformiadau theatrig.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn darparu cyllid ar gyfer helpu grwpiau, cymunedau a mudiadau i nodi’r canmlwyddiant drwy archwilio, gwarchod a rhannu treftadaeth y Rhyfel Mawr - o gofebion, adeiladau a safleoedd i ffotograffau, llythyrau a llenyddiaeth. Mae gwahanol grantiau ar gael yn amrywio o £3,000 - £100,000 a mwy.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

  • ymchwilio, canfod a chofnodi treftadaeth leol;
  • creu archif neu gasgliad cymunedol;
  • datblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, aps ffôn clyfar ayb;
  • ymchwilio, ysgrifennu a pherfformio deunydd creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth;
  • gall y rhaglen newydd hefyd gyfrannu nawdd ar gyfer gwarchod cofebion rhyfel.
Cyhoeddwyd ar 10 November 2013