Datganiad i'r wasg

Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cefnogi economi wledig Cymru mewn trafodaeth rhithwir yn Sioe Frenhinol Cymru

Cymerodd cynrychiolwyr o'r diwydiannau amaeth a ffermio ran mewn sesiwn C&A i drafod y cyfleoedd a'r heriau a wynebir gan y sector yng Nghymru

Bu Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, ac Gweinidog Victoria Prentis o’r Adran dros yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig (DEFRA) yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb ar y cyd gyda chynrychiolwyr o’r sector ffermio ac amaethyddiaeth yng Nghymru yn gynharach heddiw fel rhan o ddiwrnod olaf y Sioe Frenhinol Gymreig eleni.

Bu Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Cadwraeth yn hwyluso’r drafodaeth am y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r economi wledig yng Nghymru.

Roedd y sgwrs hefyd yn canolbwyntio ar sut y gall Llywodraeth y DU weithio gyda’r diwydiant i fynd i’r afael ag effaith negyddol y coronafeirws a gweithio tuag at adferiad economaidd, tra’n sicrhau Brexit sy’n gweithio i ffermwyr a defnyddwyr Cymru.

Daw’r rhith-ddigwyddiad wrth i Fil Amaethyddiaeth trawsnewidiol y DU symud drwy gam Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi ar ei daith tuag at ddod yn gyfraith. Bydd y Bil yn sicrhau symudiad llyfn a graddol oddi wrth Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio ei chynllun o fesurau ‘neidio’n ôl’ yn ddiweddar i gefnogi amaethyddiaeth, diwydiannau bwyd a diod i adennill o’r coronafeirws. Mae’r pecyn yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau ffisegol a rhithwir sydd wedi’u teilwra i helpu amrywiaeth o fusnesau i ddod yn ôl i farchnadoedd rhyngwladol a dechrau tyfu cyfran y farchnad unwaith eto.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Er bod Sioe Frenhinol Cymru wedi symud i blatfform ar-lein eleni, mae’n bwysicach nag erioed i wrando ar leisiau pobl o’r sectorau amaethyddol a ffermio wrth i ni geisio ailadeiladu ein heconomi ar ôl y coronafeirws a gwneud y gorau o botensial gadael yr UE.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd yr economi wledig i ffyniant Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos â chynrychiolwyr o’r sector i sicrhau bod y syniadau a’r safbwyntiau a drafodir heddiw yn cael eu hadlewyrchu yn ein penderfyniadau a’n cyfeiriad yn y dyfodol.

Dywedodd Victoria Prentis, Gweinidog Ffermio yr Adran dros yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig:

Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu clywed cynrychiolwyr o ddiwydiannau amaeth a ffermio Cymru yn y Sioe Frenhinol rithwir eleni, sydd yn wir yn dyst i hyblygrwydd y sectorau hyn yn y cyfnod heriol presennol.

Byddwn bob amser yn cefnogi ffermwyr ar draws pob cwr o’r DU a byddwn yn gwneud yn siŵr eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd y tu allan i’r UE. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar y galw byd-eang cynyddol am ein cynnyrch Prydeinig gwych, megis ein cig oen byd-enwog.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 23 July 2020